a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. 10am Y Pwyllgor Cyllid
  2. Cyfarfod Llawn am 1.30pm gyda chwestiynau i'r Prif Weinidog
  3. Dadl: Canlyniad Refferendwm yr UE
  4. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
  5. Datganiad gan y Prif Weinidog: y Rhaglen Ddeddfwriaethol
  6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymuedau a Phlant: y Lluoedd Arfog
  7. Ethol cadeiryddion pwyllgorau

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

A dyna ddiwedd y darllediad o'r Siambr am heddiw. 

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl brynhawn yfory am 1.30pm ar gyfer y Cyfarfod Llawn nesaf.

Y Senedd
BBC

Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

Jane Bryant wedi ei hethol yn gadeirydd.

Y Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn

David Rees wedi ei ethol yn gadeirydd.

Y Pwyllgor Deisebau

Mike Hedges wedi ei ethol yn gadeirydd.

Y Pwyllgor Cyllid

Simon Thomas wedi ei ethol yn gadeirydd.

Y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu

Bethan Jenkins wedi ei hethol yn gadeirydd.

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Huw Irranca-Davies Llafur wedi ei ethol yn gadeirydd.

Ethol cadeiryddion pwyllgorau

Mae Mark Reckless UKIP wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

Gwasanaeth Coffa yng Nghoedwig Mametz

Mae Carl Sargeant yn dweud y bydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn cynrychioli pobl Cymru yn y Gwasanaeth Coffa yng Nghoedwig Mametz ar Orffennaf 7 i anrhydeddu y rhai gollodd eu bywydau.

Mae'n dweud bod Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu tuag at y gofeb goffa sydd wedi ei chodi i "nodi dewrder ac aberth" aelodau Adran 38 (Cymreig) yng Nghoedwig Mametz.

Fe wnaeth yr artist Christopher Williams baentio llun o'r Adran Gymreig yng Nghoedwig Mametz yn 1916
Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Datganiad ar y Lluoedd Arfog

Am yr hanner awr nesa fe fydd yr aelodau yn gwrando ar ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant, ar y Lluoedd Arfog. 

Carl Sargeant
BBC

Yn gyfystyr â blocio gwelyau

Mae pobl sy'n byw mewn tai cymdeithasol heb angen "yn gyfystyr â blocwyr gwelyau" yn ôl Neil Hamilton.

"Mae nhw'n amddifadu y bobl hynny sydd ag anghenion cymdeithasol gwirioneddol rhag y cyfle i gael to uwch eu pen."

'O blaid cystadleuaeth trethi rhwng awdurdodaethau'

Mae Neil Hamilton yn cydnabod bod 'na rwygiadau o fewn UKIP ar ddatganoli trethi, ond mae'n dweud ei fod " o blaid cystadleuaeth trethi rhwng awdurdodaethau." 

Pentwr o ddarnau punt
BBC

Gresynu at ddiddymu’r Hawl i Brynu

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn mynegi pryder y bydd mesur yn cael ei gyflwyno i ddiddymu’r Hawl i Brynu a'r Hawl i Gaffael. Mae'n dweud bod yr Hawl i Brynu wedi bod yn gaeffaeliad dros y 30 mlynedd ddiwetha.  

Blaenoriaethau Deddfwriaethol

Bydd cyfraith newydd i gael gwared ar "ddiwygiadau niweidiol" Llywodraeth y DU i hawliau gweithwyr o fewn gwasanaethau cyhoeddus datganoledig Cymru yn cael ei chyflwyno gan Lywodraeth Cymru yn ystod blwyddyn gyntaf y pumed Cynulliad, medd y Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Wrth ddatgelu rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17 mae Mr Jones yn dweud y bydd chwe Mesur yn cael eu cyflwyno dros y flwyddyn nesaf - yn amrywio o sefydlu trethi datganoledig newydd i Gymru i sicrhau gwelliannau ym maes iechyd y cyhoedd, gan sicrhau cyflenwad digonol o dai cymdeithasol drwy ddiddymu'r Hawl i Brynu, a diwygio'r system gymorth ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

Datganiad ar y Rhaglen Ddeddfwriaethol

Yr eitem nesa gerbron y Siambr yw datganiad gan y Prif Weinidog ar y Rhaglen Ddeddfwriaethol.

Cynnig i sefydlu Pwyllgorau wedi ei gymeradwyo

Mae 13 o bwyllgorau i gyd ac mae pwy sydd yn cadeirio pob pwyllgor yn ddibynnol ar sawl aelod sydd gan bob plaid. 

Fe fydd AC Llafur yn cadeirio chwech o bwyllgorau, gan gynnwys y Pwyllgor Addysg, Plaid Cymru'n cadeirio tri, gan gynnwys Iechyd a'r Ceidwadwyr yn cadeirio dau bwyllgor, un ar yr Economi.

Un o aelodau UKIP fydd yn cadeirio'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn dilyn cytundeb trawsbleidiol. Mae grwp UKIP yn cynnig Mark Reckless fel ei hymgeisydd.

Goblygiadau canlyniad y refferendwm

Mae goblygiadau canlyniad y refferendwm yn hawlio'r sylw yn y cynigion am ddatganiadau, gan gynnwys dyfodol pysgota, arian ar gyfer ymchwil prifysgol a hefyd dyfodol rhaglen y Gronfa Strwythurol Ewropeaidd bresennol 2014-2020 yn gyffredinol.

Arweinydd y Tŷ, Jane Hutt
BBC

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf yn y Siambr yw'r Datganiad a Chyhoeddiad Busnes sy'n amlinellu busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf.

'Peryglon mawr o gynnal ail refferendwm'

Byddai yna "berygl mawr" o gynnal ail refferendwm yn ôl y prif weinidog.

Byddai pobl wnaeth bleidleisio dros adael "yn gwylltio mwy a byddai'r gwylltineb yna yn troi'n rhywbeth mwy annifyr" meddai.

Baneri
BBC

Amser ar gyfer cyd-weithio trawsbleidiol a chonsensws na na welwyd o'r blaen

Mae David Rowlands UKIP yn dweud ei bod hi'n bryd ar gyfer "cyd-weithio trawsbleidiol a chonsensws na welwyd o'r blaen."

Mae'n dweud " Rydyn ni, a oedd yn rhan o'r Ymgyrch Gadael, yn llwyr gefnogi unrhyw gamau gan Lywodraeth Cymru i sicrhau nid yn unig bod yr arian gafodd ei addo i Gymru gan Lywodraeth San Steffan yn cael ei roi, ond hefyd cyfran deg o'r cronfeydd yn sgil Brexit.

David Rowlands
BBC

'Fforwm dibynadwy ar gyfer datblygu ac amddiffyn buddiannau Cymru'

Mae'r Ceidwadwr David Melding yn dweud y bydd yn rhaid i'r Pumed Cynulliad "ddangos ei fod yn fforwm dibynadwy ar gyfer datblygu ac amddiffyn buddiannau Cymru yn yr amserodd hynod heriol yr ydyn ni nawr yn eu hwynebu."

David Melding
BBC

'Pam fod pobl hŷn wedi taflu'n dyfodol i ffwrdd?'

Mae'r Aelod Llafur Dawn Bowden yn dyfynnu merch ifanc o Stâd Gurnos ym Merthyr Tudful wnaeth ddweud " Pam bod pobl hŷn wedi taflu ein dyfodol i ffwrdd?"  

Dawn Bowden
BBC

'Fydd y freuddwyd o Gymru yn Ewrop fyth yn marw'

Mae Aelod Plaid Cymru Steffan Lewis yn dweud " fy ngobaith, efallai er gwaethaf popeth, yw bod pobl y genedl yma yn gallu parhau i sefyll gyda phobloedd y cyfandir ac na fydd y freuddwyd o Gymru yn Ewrop fyth yn marw."

Steffan Lewis
BBC

'Ni'n parhau'n gymdogion, yn ffrindiau a theulu'

"Mae angen i ni ddod o hyd i ffordd o siarad gyda'n gilydd eto" medd y prif weinidog.

"Efallai ein bod ni wedi bwrw pleidlais wahanol, ond rydyn ni'n dal yn gymdogion, ffrindiau ac yn deulu."

Mae'r heriau roedden ni'n eu wynebu ddoe, meddai, ar y Gwasanaeth Iechyd, yr Economi, ac Addysg, yn dal yna heddiw, ac mae'n rhaid i ni fwrw ati a gweithredu er lles pobl Cymru.

Y Refferendwm - yn alwad i ddeffro i realiti

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn cyfaddef bod canlyniad y refferendwm yn alwad i ddeffro i realiti.

Mae'n galw ar i'r pleidleiswyr dros Aros gael eu trin â pharch.

Arwyddion Gadael ac Aros
Thinkstock

'Cyfleuodd anferth ar gyfer buddsoddiad ac arloesedd'

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies, wnaeth ymgyrchu o blaid Gadael yn y refferendwm, yn dweud bod yna gyfleuoedd anferth ar gyfer buddsoddiad ac arloesedd i Brydain fyd-eang a Chymru fyd-eang.

Mae Cymru yn derbyn £1.8bn mewn Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yn y rhaglen bresennol 2014-2020, tra bod ffermwyr yn derbyn £240m yng nghynllun taliad sengl y Polisi Amaethyddol Cyffredin 2014 yn unig.

Trafod ein blaenoriaethau yn uniongyrchol gyda'r UE

Mae'r prif weinidog yn dweud y bydd yn ffurfio "tîm arbenigol o weision sifil wedi eu lleoli yn ein swyddfeydd ym Mrwsel, sy'n annibynnol o Lywodraeth Prydain, i edrych ar sut mae modd trafod ein blaenoriaethau yn uniongyrchol gyda'r Undeb Ewropeaidd."

'Nath neb bleidleisio o blaid i Gymru gael llai o arian'

"Nath neb bleidleisio o blaid i Gymru gael llai o arian" medd y prif weinidog.

Mae'n galw ar Lywodraeth Prydain i sicrhau "nad yw Cymru yn colli ceiniog."

Mae Carwyn Jones yn dweud ei bod hi'n allweddol ein bod ni'n parhau yn y farchnad sengl.

Arian
BBC

'Yr angen am sicrwydd i'n busnesau o'r pwys mwyaf'

"Mae'r angen am sicrwydd i'n busnesau o'r pwys mwyaf" medd y prif weinidog.

'Cynllun Codi Ofn'

Mae Mr Hamilton yn dweud bod Canghellor y Trysorlys George Osborne yn parhau gyda " Cynllun Codi Ofn."

"Does dim rheswm i ragweld cynnydd mewn trethi a gwariant" meddai.

Roedd George Osborne yn ymgyrchydd brwd o blaid Aros
Getty Images

Dadlau achos Cymru gyda Llywodraeth Prydain

Mae arweinydd UKIP yn y Cynulliad Neil Hamilton yn galw ar Carwyn Jones i gynnwys pleidiau eraill wrth ddadlau achos Cymru gyda Llywodraeth Prydain.

Mae Mr Jones yn dweud y bydd pob plaid yn rhan o'r trafodaethau.

Neil Hamilton
BBC

'Dylai Erthygl 50 ddechrau yn fuan'

"Dylai Erthygl 50 ddechrau yn gynharach yn hytrach na'n hwyrach" medd Carwyn Jones.

"Mae'n well i bobl wybod lle mae nhw sefyll."

Erthygl 50 cytundeb Lisbon
Reuters
Erthygl 50 cytundeb Lisbon

Dim arian ychwanegol ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn gofyn faint o arian ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd yn dilyn Brexit.

Dim, yw ateb y prif weinidog.

Leanne Wood
BBC

'San Steffan yn rheoli cronfeydd yr UE'

Mae Mr Davies yn gofyn cwestiwn am gynrychiolydd "Gadael" ar gyfer Llywodraeth Cymru yn y trafodaethau ar Brexit.

Mae'r prif weinidog yn dweud bod sylw Mr Davies ar San Steffan yn rheoli cronfeydd yr UE yn dangos nad yw'n meddwl am Gymru.

Allwn ni ddim gadael i deimladau dolurus lygru democratiaeth

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn dweud na allwn ni adael i deimladau dolurus lygru democratiaeth.

Andrew RT Davies
BBC

'Does dim amheuaeth bod ein cenedl yn rhanedig'

"Does dim amheuaeth bod ein cenedl yn rhanedig, nawr yw'r amser i adeiladu" meddai'r prif weinidog mewn ymateb i adroddiadau o gynnydd mewn ymosodiadau hiliol.

Cynllun Taliad Sylfaenol i ffermwyr

Mae'r cwestiwn cyntaf gan Aelod Ceidwadol Aberconwy, Janet Finch-Saunders: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar daliadau'r Cynllun Taliad Sylfaenol i ffermwyr? 

Mae Mr Jones yn dweud bod dros 99% o'r ffermwyr sy'n gymwys wedi cael eu talu.

Mae Ms Finch-Saunders yn dweud bod 171 o ffermwyr yn dal heb dderbyn taliad, sydd meddai, yn peryglu eu bywoliaeth.

Janet Finch-Saunders
BBC

Croeso nôl

Mae agenda'r Cyfarfod Llawn heddiw wedi newid yn sylweddol, yn bennaf fel bod modd cael dadl yn dilyn canlyniad y refferendwm ar aelodaeth Prydain o'r Undeb Ewropeaidd.

Fe fydd Cwestiynau'r Prif Weinidog yn dechrau am 1.30pm.  

Hwyl am y tro

Mae'r Pwyllgor Cyllid bellach yn cwrdd yn breifat.

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl am 1.30pm ar gyfer y Cyfarfod Llawn.