a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Y cyfarfod llawn yn dechrau am 13.30 gyda chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
  2. Dadl gan Aelodau Unigol: Cryfhau dulliau gweithio rhwng adrannau i wella canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal
  3. Dadl Plaid Cymru: Sicrhau cynrychiolaeth deg ar gyfer pob safbwynt wleidyddol
  4. Dadl Plaid Cymru; Cod Gweinidogol Llywodraeth Cymru
  5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Llygredd aer
  6. Dadl Fer: Ysgolion yr 21ain Ganrif: Mwy na rhaglen adeiladu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

A dyna ddiwedd y darllediad o'r Siambr am heddiw. 

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl brynhawn Mawrth nesa Gorffennaf 5 am 1.30pm ar gyfer y Cyfarfod Llawn nesaf.

Y Senedd
BBC

Canlyniad pleidlais gudd i ethol cadeiryddion y pwyllgorau

Ar ôl pleidlais gudd mae'r canlynol wedi'u hethol yn gadeiryddion pwyllgorau.

Lynne Neagle -  y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Russell George - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.

John Griffiths - y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

Dai Lloyd -  y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

Nick Ramsay -  y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

Dyma'r tro cyntaf i Gadeiryddion pwyllgorau gael eu dewis yn y ffordd hon ar ôl i'r Cynulliad dderbyn cynigion y Pwyllgor Busnes i fabwysiadu system newydd ar gyfer ethol Cadeiryddion.

Dywedodd Elin Jones AC, y Llywydd: "Mae penderfyniad y Pwyllgor Busnes i ganiatáu pleidlais gudd i ethol Cadeiryddion y Cynulliad yn cyd-fynd â'm haddewid fel Llywydd i ddiogelu buddiannau holl Aelodau'r Cynulliad a'u trin yn gyfartal.

Dadl Fer: Ysgolion yr 21ain Ganrif: Mwy na rhaglen adeiladu.

Ac yn olaf yn y Siambr y prynhawn yma Dadl Fer gan Rhianon Passmore, Aelod Llafur Islwyn. 

Y pwnc - Ysgolion yr 21ain Ganrif: Mwy na rhaglen adeiladu.

Rhianon Passmore
BBC

Cadeirydd Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad

Mae'r aelod Llafur Rhianon Passmore yn mynegi pryder mai un o aelodau UKIP fydd yn cadeirio Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad, o gofio bod y blaid wedi cwestiynu ai gweithredoedd dyn sydd yn gyfrifol am newid hinsawdd. 

Mae amgylcheddwyr yn dweud bod polisi hinsawdd eisioes wedi cael ei danseilio oherwydd toriadau i gymorthdaliadau i ynni adnewyddadwy
AFP
Mae amgylcheddwyr yn dweud bod polisi hinsawdd eisioes wedi cael ei danseilio oherwydd toriadau i gymorthdaliadau i ynni adnewyddadwy

Camarwain defnyddwyr

Mae Simon Thomas, Plaid Cymru, yn condemnio "arferion rhai gwneuthurwyr ceir o leihau allyriadau gronynnau diesel artiffisial a chamarwain defnyddwyr."

Simon Thomas
BBC

Lefelau llygredd aer trwy'r byd

Yn ôl Mudiad Iechyd y Byd, WHO, mae dros 80% o bobl sy'n byw mewn ardaloedd trefol sy'n monitro llygredd aer, yn dyst i lefelau ansawdd aer sydd yn fwy na lefelau terfyn Mudiad Iechyd y Byd. 

Er bod llygredd aer yn effeithio ar bob rhanbarth yn y byd, pobl mewn dinasoedd incwm isel sy'n cael eu taro waethaf. 

Dadl ar lygredd aer

Nesa dadl gan y Ceidwadwyr Cymreig ar lygredd aer.

Mae yna gynnig bod y Cynulliad: 

1. Yn cydnabod y rhan y mae llygredd aer yn ei chwarae yng nghanlyniadau iechyd cymunedau ledled Cymru.

2. Yn nodi bod Sefydliad Iechyd y Byd wedi canfod bod llygredd gronynnol wedi codi wyth y cant yn fyd-eang yn y pum mlynedd diwethaf, gydag arbenigwyr yn y DU yn credu bod tua 29,000 o farwolaethau yn gysylltiedig â llygredd aer. 

3. Yn mynegi pryder ynghylch lefel y llygredd aer yng Nghymru, gan nodi mai yng Nghrymlyn, yng Nghaerffili, y mae'r lefelau uchaf o nitrogen deuocsid wedi'u cofnodi y tu allan i Lundain, a bod tystiolaeth a ddarparwyd mewn ymateb i ymgynghoriad gan GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2015 wedi canfod cysylltiad uniongyrchol rhwng llygredd aer a chynnydd mewn achosion o glefyd anadlol. 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth allyriadau isel effeithiol, mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid, i leihau allyriadau llygryddion aer.

Penodiadau gan y Cynulliad yn hytrach na Llywodraeth Cymru?

Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies, byddai bod yn agored a thryloyw yn y broses gwneud penderfyniadau yn cael eu gwella drwy sicrhau bod penodiadau allweddol, gan gynnwys y Comisiynydd Plant, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, y Comisiynyd Pobl Hŷn a Chomisiynydd y Cymraeg, yn cael eu gwneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn hytrach na Llywodraeth Cymru.

Andrew RT Davies
BBC

Cod Gweinidogion

Disgwylir i ymddygiad cyfansoddiadol a phersonol gweinidogion fod o'r safon uchaf wrth iddynt arfer eu dyletswyddau. 

Mae'r Cod Gweinidogion, a gyhoeddwyd gan Brif Weinidog Cymru, yn rhoi arweiniad i weinidogion ynghylch sut y dylen nhw weithredu a threfnu eu busnes er mwyn cynnal y safonau hyn. 

Yn benodol, mae disgwyl iddyn nhw barchu Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus ac egwyddorion ymddygiad gweinidogol. Mae'r cod yn berthnasol i ysgrifenyddion y cabinet, weinidogion a'r Cwnsler Cyffredinol.

Mae'r Cod Gweinidogion yn ei gwneud yn ofynnol cyhoeddi'r wybodaeth ganlynol bob blwyddyn: 

•nifer, enwau a bandiau cyflog cynghorwyr arbennig a chost eu cyflog yn gyffredinol

•rhestr o fuddiannau perthnasol gweinidogion •rhestr o roddion gwerth mwy na £320 a dderbyniwyd gan weinidogion ar ran Llywodraeth Cymru

•rhestr o holl deithiau gweinidogion dramor sy'n costio mwy na £500 fesul taith ynghyd â chyfanswm cost holl ymweliadau gweinidogion â gwledydd tramor.

Egwyddorion llywodraeth agored

Nawr dadl arall gan Blaid Cymru sy'n cynnig bod y Cynulliad yn credu:

(a) egwyddorion llywodraeth agored gael eu cynnal ym mhob maes cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru; 

b) y Cod Gweinidogol gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a chael ei gymeradwyo ganddo; 

(c) dyfarnwr annibynnol gael ei benodi i adrodd yn gyhoeddus ar unrhyw achosion o dorri'r Cod. 

'Y Cynulliad ddylai bennu trefniadau etholiadol Cymru'n unig'

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn dweud y dylai Mesur Cymru wneud darpariaeth ar gyfer galluogi i'r Cynulliad Cenedlaethol i bennu trefniadau etholiadol Cymru'n unig. 

Carwyn Jones
BBC

Rhoi mwy o ddewis?

Mae'r bleidlais sengl drosglwyddadwy (STV) yn cael ei defnyddio mewn etholiadau llywodraeth leol yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban. 

Mewn refferendwm yn 2011 ar newid y system bleidleisio ar gyfer aelodau seneddol i "bleidlais amgen" fe wnaeth 68% o bleidleiswyr ddweud na.

Mae Cymdeithas Diwygiad Etholiadol yn dweud bod STV yn rhoi mwy o ddewis i bleidleiswyr nag unrhyw system arall, bod llai o bleidleisiau yn cael eu gwastraffu ac nad oes yna seddi saff o dan STV.

Bwrw pleidlais
BBC

Galw am gyflwyno pleidlais sengl drosglwyddadwy ar bob lefel

Mae'r ddadl nesaf gan Blaid Cymru sy'n cynnig bod y Cynulliad: 

"Yn credu y dylai Mesur Cymru wneud darpariaeth i alluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gyflwyno pleidlais sengl drosglwyddadwy ar bob lefel, ac eithrio etholiadau i Senedd Ewrop a Thŷ'r Cyffredin, er mwyn sicrhau cynrychiolaeth deg ar gyfer pob safbwynt wleidyddol."

Gwella canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant, yn dweud y bydd yn hybu cyd-weithio effeithiol ar draws llywodraeth leol ac yn genedlaethol gyda'r holl bartneriaid yn y trydydd sector er mwyn gwella canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.

Carl Sargeant
BBC

'Diffyg cefnogaeth' i blant sy'n gadael gofal preswyl

Daw'r ddadl wedi adroddiad ddangosodd bod plant a oedd yn gadael gofal preswyl yn 18 oed yn teimlo bod yna ddiffyg cefnogaeth iddyn nhw a bod eraill yn honni nad oedd ganddyn nhw lawer o lais yn y penderfyniad ynglŷn â lle fydden nhw'n byw.

Mae adroddiad Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, yn nodi pwyntiau positif gan ddweud bod rhai cartrefi yn darparu gofal digonol i blant ac yn gwneud iddyn nhw deimlo yn fwy sefydlog.   

Ond mae hefyd yn cyfeirio at bryder bod pobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu gweld fel troseddwyr am fod yr heddlu yn cael eu galw yn aml.

Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland
BBC

Angen bod yn barod am gynnydd posib eto yn y galw am wasanaethau

Mae Llyr Gruffydd yn dweud os oes yna gysylltiad rhwng dirwasgiad â nifer y newidiadau mewn gofal, yna "mae'n rhaid i ni fod yn barod am gynnydd posib eto yn y galw am wasanaethau o fewn Cymru ôl-refferendwm." 

Llyr Gruffydd
BBC

'Mwynhau hawl newydd'

'Ar Goll mewn Gofal'

Mae David Melding yn dangos copi o'r adroddiad "Ar Goll mewn Gofal" i'r aelodau yn y Siambr. Adroddiad ydyw ar y tribiwnlys i'r ymchwiliad i gamdrin plant mewn cartrefi gofal yng Ngogledd Cymru, gafodd ei gyhoeddi yn Chwefror 2000.

Awdur yr adroddiad, Syr Ronald Waterhouse, oedd cadeirydd y tribiwnlys barodd dros ddwy flynedd ac a glywodd dystiolaeth gan 650 o bobl a oedd wedi bod mewn gofal yn y Gogledd ers y 1970au.

Fe gafodd cwynion eu cyflwyno i'r ymchwiliad am 40 o gartrefi yn hen siroedd Gwynedd a Chlwyd, er bod y rhanfwya o'r honiadau yn canolbwyntio ar saith o gartrefi.

David Melding
BBC

Dadl gan Aelodau Unigol

Am yr awr nesa mae dadl gan Aelodau Unigol. 

Mae David Melding, Julie Morgan, Lee Waters, Llyr Gruffydd, a Neil Hamilton yn cynnig bod y Cynulliad: 

"Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru archwilio ffyrdd o gryfhau dulliau gweithio rhwng adrannau i wella canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal." 

Plant mewn gofal
BBC

Dim cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Er mai dim ond unwaith bob pedair wythnos mae'r comisiynwyr yn ateb cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn, does dim cwestiynau wedi eu cyflwyno heddiw. 

Defnydd SQuID gan awdurdodau lleol ar gyfer prynu

Mae Mike Hedges yn gofyn am y defnydd o Wybodaeth am Gymwysterau Cyflenwyr (SQuID) gan awdurdodau lleol ar gyfer prynu. SQuiD yw'r gronfa ddata gwybodaeth am gymwysterau  cyflenwyr, sydd yn ôl Llywodraeth Cymru, yn symleiddio ac yn safoni cam dethol cyflenwyr y broses gaffael.

Sgwid Humboldt
photolibrary.com
Nid am hwn yr oedd Mr Hedges yn sôn

Cynigion ar gyfer diwygio llywodraeth leol yn gynnar yn yr Hydref

Mae Gareth Bennett UKIP yn gofyn am amserlen ar gyfer diwygio llywodraeth leol yng Nghymru. Ateb Mr Drakeford yw ei fod yn gobeithio y bydd yn gallu cyflwyno cynigion ar gyfer diwygio llywodraeth leol yn gynnar yn yr Hydref. Mae'n ychwanegu mai pobl a gwasanaethau sydd ar frig yr agenda, nid mapiau neu ffiniau. 

Gareth Bennett
BBC

'Allwn ni hefyd fod yn feiddgar' medd Adam Price

Mae Adam Price, Plaid Cymru, yn gofyn i'r ysgrifennydd i roi'r ddadl dros i Gymru allu gosod eu cyfraddau treth gorfforaeth ei hun.

Mae Mr Drakeford yn dweud ei fod wastad wedi credu bod y ddadl dros y mater yn wan.

Mae Mr Price yn dweud bod yn rhaid i'r Cynulliad ddangos " ein bod ni hefyd yn gallu bod yn feiddgar."

Adam Price
BBC

Gwaith ar y fframwaith sy'n sail i bwerau trethiant newydd

Mae'r Ceidwadwr Nick Ramsay yn gofyn am y gwaith ar y fframwaith cyllidol.

Mae Mr Drakeford yn dweud ei fod yn gobeithio cael cytundeb gyda'r prif ysgrifennydd i'r Trysorlys yn yr Hydref ar fframwaith sy'n sail i bwerau trethiant newydd i Gymru.

Mae'n dweud bod Llywodraeth yr Alban wedi bod yn hael yn rhannu eu profiadau nhw o'u trafodaethau gyda Llywodraeth Prydain i geisio cytuno ar gytundeb i Holyrood.

Beth yw'r opsiynau?
Thinkstock

Pryder Llywodraeth Cymru ynglŷn â phensiynau

Mae Mr Drakeford yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn poeni y bydd y newidiadau i bensiynau yn anghyfartal yn effeithio ar fenywod sydd â'u hoedran am bensiwn y wladwriaeth wedi'i godi heb hysbysiad digonol. 

Mark Drakeford
BBC

Trefniadau pensiwn gwladol trosiannol

Mae aelod Llafur Caerffili Hefin David yn gofyn am asesiad Llywodraeth Cymru o'r effaith a gaiff trefniadau pensiwn gwladol trosiannol Llywodraeth y DU ar fenywod a anwyd ar 6 Ebrill 1951, neu ar ôl hynny?

Mae pensiwn gwladol newydd un gyfradd neu un lefel wedi dod yn berthnasol i bawb sy'n ymddeol ar ôl Ebrill 6 2016.  

Mae Llywodraeth y DU yn dadlau y bydd yn symlach, a dros y 15 mlynedd nesa bydd y mwyafrif o bobl yn gweld bod eu pensiwn yn uwch.

Pensiynwyr
Thinkstock

Cynlluniau i ddiddymu agweddau ar Ddeddf Undebau Llafur 2016

Mae'r cwestiwn cyntaf gan Aelod Delyn, Hannah Blythyn: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i ddiddymu agweddau ar Ddeddf Undebau Llafur 2016? 

Mae Llywodraeth Cymru am gynnig cyfraith newydd fyddai'n cael gwared ar gyfyngiadau ar streiciau sector gyhoeddus yng Nghymru.  

Roedd Deddf Undebau Llafur Llywodraeth y DU yn cynnwys rheolau newydd am weithredu'n ddiwydiannol, sy'n golygu bod streiciau fyddai'n effeithio ar wasanaethau cyhoeddus allweddol angen cefnogaeth o leiaf 40% o'r rheini sy'n gymwys i bleidleisio.

Ond roedd maniffesto Llafur Cymru ar gyfer yr etholiad ym mis Mai yn cynnwys addewid i ddiddymu'r newidiadau sy'n effeithio ar wasanaethau datganoledig fel iechyd ac addysg.  

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi dweud y bydd yn ceisio pasio cyfraith Gymreig ar streiciau hyd yn oed pe byddai'n golygu brwydr arall yn y Goruchel Lys gyda Llywodraeth y DU am bwy sydd â'r hawl i ddeddfu.  

Protest yn erbyn y Ddeddf Undebau Llafur
EPA

Prynhawn da

Croeso i Senedd Fyw sy'n darlledu'r Cyfarfod Llawn o'r Siambr am 1.30pm.

Mae Mark Drakeford yn wynebu ei sesiwn gwestiynau gyntaf fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol.

Y Senedd
Cynulliad