a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Canlyniad: Cymru 3-1 Gwlad Belg
  2. Ashley Williams, Hal Robson-Kanu a Sam Vokes gyda'r goliau i Gymru
  3. Radja Nainggolan gyda gôl ardderchog i Wlad Belg
  4. Sylwadau ar y gêm gan Wali Tomos a chriw C'mon Midffîld
  5. Cymru i herio Portiwgal yn y rownd gynderfynol

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Ymlaen i Lyon!

Dyna ni am heno - y noson orau yn hanes pêl-droed Cymru.

Canlyniad anghredadwy, a phob un o'r chwaraewyr yn arwyr!

Awn ni'r holl ffordd i'r ffeinal? Ymunwch â ni nos Fercher am yr ateb!

Mwynhewch eich noson! Nos da!

View more on twitter

Mae'r tŵr yn liwiau Cymru... eto

Dim dathlu i Hazard heno

Hazard
Getty Images

Ymlaen i'r nesaf!

Wali Tomos

Wel, dwi am fynd i'f Bwl fwan i gfio efo Musty Picton. Nos dawch bawb.

Y Prif Weinidog yn llongyfarch

Ioan yn llongyfarch

'Welwn ni chi yn Lyon!'

Dathlu
Getty Images

Dweud y cyfan!

Joio Bryn?!

Hapus ardal gefnogwyr?

Sylwebwyr yn dathlu

Mae 'na ddathlu yn y brifddinas

Neb yn disgwyl y drydedd gôl yn ardal gefnogwyr Caerdydd, yn bendant dim y dyn camera!

Trydydd gol

Wali Tomos

Mae 'na Dduw, ac mae Hi'n Gymfaes!!!!!!

Llun gwerth mil o eiriau

MAE CYMRU WEDI ENNILL!

Chwiban Olaf

CYMRU 3-1 GWLAD BELG

'Da ni yn rownd gynderfynol Euro 2016!

Wali'n dathlu
BBC

Tri munud o amser ychwanegol

Dim pwynt!

Mae rhywun o'r nefoedd ar ein hochr!

Mewn gair...

Cymru 3-1 Belg: Gôl i Gymru!

Gôl!

Croesiad gwych gan Chris Gunter yn cael ei benio i'r rhwyd gan yr eilydd, Sam Vokes!

Mam bach! Ydi Cymru ar eu ffordd i'r rownd gynderfynol?!

Vokes
Getty Images

Cymru 2-1 Belg: Eliydd i Gymru

Eilyddio

Sam Vokes yn dod ymlaen i Gymru yn lle sgoriwr yr ail gôl, Hal Robson-Kanu.

Mathemateg elfennol

Cymru 2-1 Belg: Eilydd i Gymru

Eilyddio

Andy King yn dod ymlaen i Gymru yn lle Joe Ledley.

Cymru 2-1 Belg: Cerdyn melyn i Ramsey

Cerdyn Melyn

Aaron Ramsey yn llawio'r bêl meddai'r dyfarnwr, ac mae'n gweld cerdyn melyn oherwydd hynny.

Bydd yn methu'r rownd gynderfynol os yw'r sgôr yn aros fel yma. Mae o bron yn ei ddagrau.

Ramsey
Getty Images

Cymru 2-1 Belg: Cyfle i Wlad Belg

Cyfle euraidd arall i Fellaini, ond mae'n penio'r bêl pasio'r postyn.

Dries Mertens ymlaen am Jordan Lukaku i'r Belgiaid hefyd.

Nerfus?

Fe fydd hi'n ail hanner hir iawn i'r cefnogwyr yma yn ardal gefnogwyr Lille.

Cefnogwyr
BBC

Ara deg piau hi

Problem ym mharadwys

Cofiwch...

Cymru 2-1 Belg: Cyfle arall i Gymru

Cig gornel gan Aaron Ramsey yn arwain at ergyd gan Ashley Williams sy'n mynd dros y traws.

Wali Tomos

Ma' hyd yn oed Gel yn dawnsio!!!!!

Hal-eliwia!

Y dathlu yn ardal gefnogwyr Caerdydd wedi'r ail gôl.

Cawod gwrw unrhyw un?

Criw Radio Cymru wedi joio gôl Hal?

Cymru 2-1 Belg: Cerdyn melyn

Cerdyn Melyn

Cerdyn melyn i chwaraewr ganol cae Gwlad Belg, Marouane Fellaini.

Ai dyma oedd ymateb Wali hefyd?

Cymru 2-1 Belg: Gôl i Gymru!

Gôl!

Gwaith gwych gan Hal Robson-Kanu yn y cwrt cosbi, yn tro ei ddyn ac yn llwyddo i roi'r bêl heibio i Courtois yn y gôl.

'Da ni ar y blaen! C'MON BOIS!

Hal
Getty Images

Stop. Be?!

Cymru 1-1 Belg: Ailddechrau da i'r Belgiaid

Dechrau digon tebyg i'r ail hanner a gafwyd yn yr hanner cyntaf, gyda'r Belgiaid yn pwyso.

All amddiffyn Cymru ddelio â'r pwysau?

Y Belgiaid yn nerfus?

Mae'r Belgiaid yn yr ardal gefnogwyr ychydig yn dawelach nawr nag oedden nhw ryw hanner awr yn ôl!

Cefnogwyr
BBC