a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
  2. Y cyfarfod llawn yn dechrau am 13.30 gyda chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith
  3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon
  4. Dadl gan aelodau unigol ar yr arian a gaiff ei wario gan y BBC ar raglenni Saesneg ar gyfer Cymru
  5. Dadl Plaid Cymru ar y DU yn sgil Brexit
  6. Dadl y Ceidwadwyr ar Frwydrau'r Somme, Coed Mametz a Jutland

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Haf gwych i chi

A dyna ddiwedd y Cyfarfod Llawn ola cyn toriad yr Haf.

Wrth i aelodau'r Cynulliad ddychwelyd i'w hetholaethau, bydd criw diogelwch soniarus y Senedd yn parhau i groesawu pobl trwy'r gwyliau.

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ym mis Medi.

Hwyl.

Criw diogelwch
Cynulliad

Dadl ar undebau yng Nghymru

Ac yn ola dadl fer gan Bethan Jenkins ar undebau: Edrych ar waith yr undebau yng Nghymru o ran mynd i'r afael â llymder ac annog mwy o aelodaeth a chefnogaeth i undebau.

Bethan Jenkins
BBC

Dadleuon byr

Mae'r cyntaf o ddwy ddadl fer gan yr aelod Llafur Mike Hedges ar ddiwallu anghenion tai Cymru. 

Mae'n dweud bod angen rhagor o gamau i gynyddu'r cyflenwad tai.   

Mike Hedges
BBC

Ymateb i sylw o'r llawr

Mae Neil Hamilton yn ymateb i sylw o'r llawr gan ddweud bod Alun Davies "wedi codi cywilydd ar ei hun, ac o bosib ar y Siambr, drwy drin gyda rhywfaint o ysgafnder, fater difrifol, ac y byddai'n well iddo wrando na phaldaruo."

Cymod a choffâu

Mae gwasanaethau wedi'u cynnal i gofio'r milwyr o Gymru fu farw yn ystod y frwydr yng Ngoedwig Mametz yng Ngogledd Ffrainc gan mlynedd yn ôl

Cafodd tua 4,000 o filwyr o Gymru eu lladd neu eu hanafu yn ystod pum diwrnod o frwydro.

Y bwriad ar 7 Gorffennaf 1916 oedd cipio Coedwig Mametz - y goedwig fwyaf yn ardal y Somme - fel rhan o'r cyrch enfawr i geisio chwalu llinell amddiffynnol yr Almaenwyr. 

Coedwig Mametz
BBC

Taith bersonol

Coed Mametz yw testun blog ein Golygydd Materion Cymreig Vaughan Roderick yr wythnos hon wedi iddo fynd draw i'r Goedwig ar daith bersonol.

Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf

Nawr Dadl y Ceidwadwyr Cymreig yn cynnig bod y Cynulliad:

1. Yn nodi can mlynedd ers Brwydrau'r Somme, Coed Mametz a Jutland.

2. Yn rhoi teyrnged i'r rhai a ymladdodd yn y brwydrau hyn a brwydrau eraill yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

3. Yn anrhydeddu'r cof am y rhai a gollodd eu bywydau a'r rhai a anafwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf a gwrthdrawiadau arfog eraill.

4. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru roi mwy o gefnogaeth i luoedd arfog a chymuned y cyn-filwyr yng Nghymru yn ystod y Pumed Cynulliad.

Cerflun Draig Cymru yng Ngoedwig Mametz
Philippe Huguen/AFP/Getty Images
Cerflun Draig Cymru yng Ngoedwig Mametz

'Seilio ar fframwaith cyllido teg'

Dywed Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford "bod yr holl drefniadau cyllido yn y cyfnod wedi Brexit yn cael eu seilio ar fframwaith cyllido teg ac ar ddiwygio Fformiwla Barnett yn sylweddol."  

Mark Drakeford
BBC

'Cyfran Cymru yn £432 miliwn'

Mae Caroline Jones UKIP yn dweud bod "cyfran Cymru o'r £9 biliwn mae'n ei gostio i fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd" yn£432 miliwn nid y £490 miliwn sy'n cael ei ddyfynnu yng nghynnig Plaid Cymru, o gofio bod poblogaeth Cymru yn 4.8% o Brydain. 

Caroline Jones
BBC

Cwestiwn yn "warthus"

Mae Simon Thomas yn disgrifio cwestiwn gan Aelod Seneddol Wrecsam, Ian Lucas, yn Nhŷ'r Cyffredin heddiw pan ofynnodd a oedd y gweinidog yn cytuno bod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn cynnig cyfle euraidd i asesu lefel y cymorthdal sy'n cael ei dalu i ffermwyr yng Nghymru i weld a all yr arian gael ei wario mewn modd mwy effeithiol ac effeithlon mewn meysydd eraill.

Disgrifiad Mr Thomas o'r cwestiwn yw "gwarthus."

Dadl Plaid Cymru ar effaith Brexit

Fe fydd yr aelodau nawr yn gwrando ar Ddadl Plaid Cymru ar effaith Brexit.

Mae Plaid Cymru yn cynnig bod y Cynulliad:

1. Yn nodi'r addewidion a wnaed i bobl Cymru gan y rhai a oedd yn ymgyrchu i'r DU dynnu allan o'r Undeb Ewropeaidd.

2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod yr addewidion hynny yn cael eu cyflawni ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys:

a) bod £490 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol yn cael ei roi i GIG Cymru;

b) y caiff lefel y cyllid a gaiff Cymru o raglenni'r UE ar hyn o bryd ei chynnal;

c) y bydd y cymorth taliadau uniongyrchol a gaiff ffermwyr Cymru yn gyfartal, os nad yn uwch na'r hyn a ddaw drwy'r Polisi Amaethyddol Cyffredin; 

d) bod hawl dinasyddion yr UE adeg Brexit i aros yn y DU heb ofn na rhwystr, yn cael ei warantu. 

Arwydd adeg Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd
Thinkstock

'Gostyngiad yn y buddsoddiad yn annerbyniol'

Mae'r Gweinidog Alun Davies yn dweud ei fod yn "rhannu pryderon yr aelodau" ynglŷn â'r newidiadau i fwrdd rheoli'r BBC.

Mae'n dweud "ein bod ni wedi gweld bod yr arian mae'r BBC yn ei fuddsoddi yng Nghymru wedi gostwng ar adeg pan fo'r buddsoddiad yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a sawl rhanbarth yn Lloegr wedi cynyddu. Mae hyn yn annerbyniol" meddai.

Alun Davies
BBC

Y rhaglen Saesneg deledu fwya poblogaidd ar BBC Cymru

Mae Rhianon Passmore yn tynnu sylw at y ffaith mai rhaglen "Max's World Cup Warm-Up" gyda'r diddanwr o Gymru Max Boyce, oedd y rhaglen Saesneg deledu fwya poblogaidd ar BBC Cymru y llynedd, yn denu 322,000 o wylwyr.

Fe wnaeth rhaglen "Max's World Cup Warm-Up" ddenu bron i dreian miliwn o wylwyr
PATRICK OLNER

'Pryderus iawn' am y newidiadau i fwrdd rheoli'r BBC

Mae Rhun ap Iorwerth, a oedd yn arfer gweithio i'r BBC, yn dweud ei fod yn "bryderus iawn" am y newidiadau i fwrdd rheoli'r BBC, sydd meddai, yn "gwthio Cymru i'r ymylon." 

Rhun ap Iorwerth
BBC

'Ffynonellau gwybodaeth ar gyfer trafodaeth a chraffu yn sychu'

Mae aelod Llafur Llanelli, Lee Waters, yn dweud "Ar adeg pan fo Cymru fel cenedl wedi'i diffinio'n gliriach nag oed, mae ffynonellau gwybodaeth ar gyfer trafodaeth a chraffu yn sychu."

Mae Mr Waters yn cyhuddo uwch reolwyr y BBC o ddefnyddio "geiriau gwag" gydag addewidion blaenorol i wella'r portread o Gymru ar rhwydwaith.

Mae'n ychwanegu, "Mae rheolwyr y BBC hyd yma wedi dangos eu bod yn fyddar i'r newidiadau i siâp Prydain."

Lee Waters
BBC

'Gobeithio rhannu gohebu o'r Senedd gyda'r BBC'

Mae Simon Thomas, Plaid Cymru, yn dweud bod perchnogion y Daily Post wedi dweud wrtho eu bod yn gobeithio rhannu gohebu o'r Senedd gyda'r BBC ar ôl i'r papur roi'r gorau i gael gohebydd yn y Senedd.

Y portread o Gymru ar y BBC

Wrth gyfeirio at addewid Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC Tony Hall i wella'r portread o Gymru ar y BBC, mae Bethan Jenkins yn dweud "Mae angen i chi ddangos eich bod chi'n mynd i wneud hynny nawr."

Wrth gyfeirio at greu swydd Cyfarwyddwr y Cenhedloedd a'r Rhanbarthau, mae Bethan Jenkins yn cwestiynu "a ydi hyn yn glastwreiddio ein dylanwad ar y BBC."

Bethan Jenkins
BBC

Dadl gan Aelodau Unigol

Am yr awr nesa fe fydd Dadl gan Aelodau Unigol ar y BBC a rhaglenni Saesneg ar gyfer Cymru.

Mae Bethan Jenkins, Lee Waters, Russell George, Jeremy Miles, Jenny Rathbone, a Simon Thomas yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu bod y swm o arian a gaiff ei wario gan y BBC ar raglenni Saesneg ar gyfer Cymru wedi disgyn 25 y cant yn y degawd diwethaf.

 2. Yn credu bod gan BBC Cymru ran hanfodol i'w chwarae o ran adlewyrchu bywydau, uchelgeisiau a heriau pobl Cymru.

3. Yn nodi cyfaddefiad yr Arglwydd Hall bod y cyllid ar gyfer cynnwys Saesneg a gaiff ei wneud yng Nghymru ar gyfer cynulleidfaoedd Cymru wedi gostwng i lefelau anghynaliadwy, ac felly'n galw ar y BBC i amlinellu'n fanwl beth yw ei ymrwymiadau gwario o ran Cymru yn y dyfodol agos a'r dyfodol pellach. 

BBC CYMRU
BBC

Cynnig i ethol aelodau i bwyllgorau

Mae'r aelodau wedi cymeradwyo cynnig bod y Cynulliad yn ethol:

David J Rowlands (UKIP Cymru) yn aelod o'r Pwyllgor Busnes yn lle Mark Reckless (UKIP Cymru). 

Michelle Brown (UKIP Cymru) yn aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn lle Mark Reckless (UKIP Cymru).

Nathan Gill (UKIP Cymru) yn aelod o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn lle Michelle Brown (UKIP Cymru). 

Cynnig i newid enw'r Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn

Mae'r aelodau yn y Siambr yn cytuno y dylid newid enw'r Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol.

'Nid dy awr orau'

"Nid dyma dy awr orau" medd David Melding, gan awgrymu nad oedd Mr Skates wedi ymateb yn iawn i gwestiynau gafodd eu codi gan yr aelodau.

Ac fe wnaeth  Neil Hamilton fynegi "siom" at yr hyn alwodd yn  "agwedd ddi-ddychymyg" Llywodraeth Cymru.

David Melding
BBC

'Rhaid gweld o leiaf 50% o'r prosiect wedi'i ariannu'

Mae Mr Skates yn dweud nad yw'r prosiect yma ar hyn o bryd yn darparu lefel gwerth am arian sy'n angenrheidol i beidio peryglu arian cyhoeddus fyddai'n cael ei fuddsoddi.

"Rydw i wedi dweud wrth Michael Carrick a Martin Whitaker fyd mod yn credu bod angen rhagor o waith ar y cynnig. Mae fy nrws yn dal yn agored ac rydw i wedi eu hannog nhw i adolygu eu cais, fel bod y sector preifat yn cymryd mwy o risg er mwyn i'r prosiect fynd yn ei flaen."

'Y risg i drethdalwyr Cymru yn annerbyniol'

Fe wnaeth Mr Skates gwrdd â datblygwyr Cylchffordd Cymru, Martin Whitaker a Michael Carrick, yn gynharach heddiw.

Mae'n dweud bod lefel o "risg fyddai'n syrthio ar drethdalwyr Cymru yn annerbyniol."

Datganiad ar Gylchffordd Cymru

Nawr fe fydd Ken Skates yn cyhoeddi os fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi Cylchffordd Cymru ger Glyn Ebwy, fydd werth £375m. 

Mae'r cwmni am i'r llywodraeth warantu hanner cost y cynllun. 

Byddai'r cynllun hefyd yn ddibynnol ar fenthyciadau o £90m gan gynghorau Blaenau Gwent a Sir Fynwy. 

Ond ddydd Llun, dywedodd arweinydd Cyngor Sir Fynwy, Peter Fox, nad oedd unrhyw sicrwydd y byddai'r awdurdodau lleol yn cytuno i'r benthyciadau.

Cylchffordd Cymru
Cylchffordd Cymru

Gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro

Mae Paul Davies yn cwestiynu diogelwch ei etholwyr wedi i wasanaethau paediatric a mamolaeth yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd gael eu cwtogi yn 2014.

Yn ôl Mr Gething does dim tystiolaeth i gefnogi'r honiad yna.

Bu protestwyr yn gorymdeithio yn erbyn newidiadau i wasanaethau yn Ybsyty Llwynhelyg, Hwlffordd
Heddlu Dyfed-Powys
Bu protestwyr yn gorymdeithio yn erbyn newidiadau i wasanaethau yn Ybsyty Llwynhelyg, Hwlffordd

'Ddim yn gorfodi cytundeb meddygon iau'

Wrth ymateb i gwestiwn gan Rhun ap Iorwerth, mae Mr Gething yn dweud na fydd y llywodraeth yn gorfodi cytundeb meddygon iau. "Fe fydd unrhyw newidiadau i delerau ac amodau meddygon iau yn cael eu gwneud trwy gytundeb ar sail parch" meddai.

Fe fydd cytundeb meddygon iau yn cael ei orfodi ar feddygon yn Lloegr wedi i'r proffesiwn wrthod y telerau.

Mae meddygon iau yn Lloegr wedi cynnal sawl streic eleni yn erbyn cytundeb newydd
AFP

Lleiafswm cyfnod o wasanaeth yn yr NHS?

Mae Caroline Jones UKIP yn gofyn a oes ystyriaeth wedi ei roi i ofyn am leiafswm cyfnod o wasanaeth yn y Gwasanaeth Iechyd cyn y gall meddygon ddechrau gweithio'n breifat neu symud dramor.

Mae Mr Gething yn ateb drwy ddweud bod yna "drafodaeth yn mynd rhagddi ynglŷn â pha anogaeth allwn ni ei ddarparu."

Vaughan Gething
BBC

Natur y cwestiynau sy'n cael eu gofyn pan yn deialu 999

Mae'r aelod Ceidwadol Janet Finch-Saunders yn mynegi pryder ynglŷn â natur y cwestiynau sy'n cael eu gofyn pan fo rhywun yn deialu 999 i gael ambiwlans i rywun nad ydyn nhw yn ei nabod. "Mae hyn wedi digwydd ddwyaith i mi yn yr wythnosau diwetha pan fo pobl wedi syrthio y tu allan i fy swyddfa i" meddai. 

Janet Finch-Saunders
BBC

Cwestiynau Iechyd

Tro Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething yw hi nawr i ateb cwestiynau gan ddechrau gyda chwestiwn Janet Finch-Saunders sy'n gofyn am ddatganiad am Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru. 

Sylwadau Mr Skates yn annerbyniol

Wrth ymateb i gwestiwn Neil McEvoy ar effeithlonrwydd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i brosiectau bach a chanolig cynhenid SMEs, mae Mr Skates yn dweud bod Mr McEvoy wedi gwneud datganiad wrth y Prif Weinidog yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ddiwetha nad oedd yn wir.

Mae'r Llywydd Elin Jones yn dyfarnu bod sylwadau Mr Skates yn annerbyniol.

Neil McEvoy
BBC

'Dim corff masnachu a buddsoddi ymroddedig'

Mae Adam Price Plaid Cymru yn gofyn a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu enwi un wlad Ewropeaidd arwahan i Gymru sydd heb gorff masnachu  a buddsoddi ymroddedig.

Mae Mr Skates yn dweud y dylai'r aelod werthfawrogi " Atebion Cymreig i broblemau Cymreig."

Ateb Mr Price yw gwestiwn ei hun - yr Iwcrain.

Adam Price
BBC

Lein reilffordd Glyn Ebwy i Gaerdydd - dim cyswllt i Gasnewydd

Mae David Rowlands UKIP yn dweud nad yw'n ymddiheuro am unwaith eto godi'r pwynt nad oes gan y llinell reilffordd o Lyn Ebwy i Gaerdydd gysylltiad i Gasnewydd.

Bydd Mr Skates yn darparu datganiad ysgrifenedig.

Y tren cyntaf yn cyrraedd gorsaf drenau Glyn Ebwy wedi iddi ail-agor ym Mai 2015
Llywodraeth Cymru
Y tren cyntaf yn cyrraedd gorsaf drenau Glyn Ebwy wedi iddi ail-agor ym Mai 2015

Wedi'i hymrwymo i dorri trethi i fusnesau bach

Mae'r aelod Ceidwadol Russell George yn dweud bod busnesau bach yn Lloegr yn gallu cael mynediad i nifer o gynlluniau, yn arbennig ar ryddhad ardrethi busnes.

Mae Mr Skates yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi'i hymrwymo i dorri trethi i fusnesau bach.

Russell George
BBC

Fydd Cymru Greadigol yn ysgogi twf pellach yn y sector

Mae Ken Skates yn dweud bod corff newydd o'r enw Cymru Greadigol yn cael ei sefydlu er mwyn ysgogi twf pellach yn y sector. 

Ken Skates
BBC

Cwestiwn Cyntaf

Mae'r cwestiwn cyntaf gan aelod Llafur Castell-nedd, Jeremy Miles sy'n gofyn Ken Skates I roi'r wybodaeth ddiweddaraf mewn cysylltiad â Cymru Greadigol. 

Gallwch weld y rhestr llawn o'r cwestiynau sydd wedi eu cyflwyno fan hyn.

Prynhawn da

Croeso i Senedd Fyw sy'n darlledu'r Cyfarfod Llawn ola yn y Siambr cyn egwyl yr Haf.

Mae'r sesiwn yn dechrau gyda chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates.  

Hwyl

Mae'r pwyllgor bellach yn cwrdd yn breifat. 

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl am 1.30pm ar gyfer y Cyfarfod Llawn ola cyn egwyl yr Haf.  

Y Senedd
BBC

Deddfwriaeth i gael gwared â'r amddiffyniad o gosb resymol

"Pam y fath ffocws ar smacio? yw cwestiwn Darren Millar wrth gyfeirio at y cynlluniau i gyflwyno deddfwriaeth i gael gwared â'r amddiffyniad o gosb resymol.

"Nid proses yw hon o geisio cosbi rhieni, ond o gefnogi rhieni" medd Mr Sargeant.  

Y llynedd fe wnaeth aelodau'r Cynulliad bleidleisio yn erbyn cam i wahardd smacio plant yng Nghymru.

Smacio
Thinkstock

'Effaith niweidiol' Diwygio Lles

Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud y bydd rhaglen diwygio lles Llywodraeth Prydain yn cael effaith niweidiol ar deuluoedd ar draws Cymru.

Wrth ateb Hefin David, a oedd yn gofyn sut y gallai leihau'r effeithiau, dywedodd Mr Sargeant ei fod wedi'i ymrwymo i chwilio am atebion arloesol.

'Rhai o'r pethau hyn yn fy mhoeni'n arw'

Wrth siarad am blant mewn gofal, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud, "Rydw i'n berson eitha cryf, ond mae rhai o'r pethau hyn yn fy mhoeni i'n arw ac yn cyffwrdd fy nghalon yn nhermau beth rydyn ni'n ei wneud gyda phobl ifanc a sut allwn ni eu cefnogi nhw yn y tymor hir."

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru wedi lleihau. Dangosodd data o 2014/15 ostyngiad o 2.2 y cant 3 yn nifer y plant a oedd yn derbyn gofal yn 2014/15 o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Mae Mr Sargeant yn dweud ei fod yn awyddus i'r duedd hon ar i lawr barhau.

Plant mewn gofal
BBC