a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
  2. Y cyfarfod llawn yn dechrau am 13.30 gyda Chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
  3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
  4. Dadl Plaid Cymru; Diogelu Cymru rhag canlyniadau negyddol a allai ddigwydd ar unwaith ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd
  5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y Gwasanaeth Iechyd
  6. Dadl UKIP: Yn credu bod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn gyfle gwych i Gymru roi hwb i fasnach, diwydiant a chyflogaeth
  7. Dadl Fer: A fydd Deddf Tai (Cymru) 2014 yn ddigonol i fynd i'r afael â landlordiaid diegwyddor?

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

A dyna ni am heddiw.

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth nesaf, Medi 20.

Y Senedd
BBC

20,000 o lanlordiaid

Mae Ysgrifennydd y Cabinet Carl Sargeant yn dweud bod 20,000 o lanlordiaid eisioes wedi cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru, a'i bod hi'n ofynnol i bod un gydymffurfio erbyn Tachwedd 23.

Rhentu Doeth Cymru

Mae Ms Rathbone yn nodi mai dim ond 10 wythnos sydd yna i gydymffurfio â Deddf Tai (Cymru) 2014, trwy broses Rhentu Doeth Cymru. 

Dadl Fer

Ac yn ola heddiw Dadl Fer gan yr aelod Llafur Jenny Rathbone.

A fydd Deddf Tai (Cymru) 2014 yn ddigonol i fynd i'r afael â landlordiaid diegwyddor?  

Jenny Rathbone
BBC

'Llawer o bobl neu lawer o olew'

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn dweud eich bod chi angen "llawer o bobl neu lawer o olew" er mwyn i bobl eich cymryd o ddifrif ar lwyfan y byd, 

Carwyn Jones
BBC

'Cyn lleied â £3 yr awr'

Mae David Rowlands UKIP yn dweud nad yw deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd wedi amddiffyn mewnfudwyr sy'n gweithio yn y busnes golchu ceir yng Nghymru, " y mwyafrif ohonyn nhw'n gweithio 10 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos am gyn lleied â £3 yr awr."

David Rowlands
BBC

Aelodaeth lawn o'r farchnad sengl

Mae Steffan Lewis Plaid Cymru yn dweud bod cadw aelodaeth lawn o'r farchnad sengl yn hanfodol i fusnesau Cymru.

Steffan Lewis
BBC

'Canlyniad gorau posibl i Gymru'

Mae'r aelod Ceidwadol Mark Isherwood yn galw ar Lywodraeth Cymru i "ymgysylltu'n gadarnhaol â Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill i sicrhau'r canlyniad gorau posibl i Gymru yn ystod y trafodaethau a fydd yn digwydd."

Mark Isherwood
BBC

'Araith hunangyfiawn, hunanfodlon'

Mae aelod Llanelli Lee Waters yn dweud ei fod wedi clywed "araith hunangyfiawn, hunanfodlon" Neil Hamilton sawl gwaith o'r blaen.

Lee Waters
BBC

Dadl UKIP ar Brexit

Am yr awr nesaf bydd yna ddadl arall ynglŷn â Brexit, y tro yma gan UKIP.

Mae Neil Hamilton, arweinydd UKIP yn y Cynulliad, yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn gyfle gwych i Gymru roi hwb i fasnach, diwydiant a chyflogaeth.

2. Yn croesawu'r rhyddid y mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ei roi er mwyn llunio polisi penodol ar gyfer amaeth a physgota yng Nghymru. 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio'n agos mewn ffordd gadarnhaol i fanteisio ar y cyfleoedd hyn a chynnwys pob plaid yn y Cynulliad yn ei thrafodaethau â Llywodraeth y DU i elwa ar y buddiannau posibl i Gymru. 

Neil Hamilton
BBC

Recriwtio a chadw

Ar ran y llywodraeth mae Vaughan Gething yn dweud bod 

"cyfradd recriwtio a chadw yng Nghymru wedi parhau'n gyson, gyda staff er enghraifft yn gadael mewn niferoedd llai pan yn cymharu â Lloegr." 

Vaughan Gething
BBC

'Llwyth gwaith anodd i'w reoli'

Mae Caroline Jones UKIP yn dweud bod y llwyth gwaith sy'n anodd ei reoli, wedi golygu bod nifer o feddygon teulu wedi gadael eu proffesiwn.

Caroline Jones
BBC

Ysgolion meddygol Cymru

Dywed Rhun ap Iorwerth bod angen i strategaeth recriwtio a chadw gynnwys ymrwymiad i godi nifer y myfyrwyr sy'n byw yng Nghymru sy'n astudio mewn ysgolion meddygol yng Nghymru.  

Rhun ap Iorwerth
BBC

Dadl y Ceidwadwyr ar y Gwasanaeth Iechyd

Mae'r Ceidwadwyr yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod cadw'r gweithlu rheng flaen yn her fawr sy'n wynebu'r GIG yng Nghymru.

2. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru amlinellu ei hymateb i gynnydd diweddar yn nifer y swyddi meddygon gwag yn y GIG yng Nghymru. 

3. Yn cydnabod, â phryder, bod salwch sy'n gysylltiedig â straen yn gynyddol gyfrifol am y ffaith bod staff gwasanaethau ambiwlansys yn absennol o'r gwaith, a'r effaith y gallai hyn ei chael ar recriwtio a chadw staff yn y tymor hwy.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu strategaeth glir, gynhwysfawr sy'n amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu recriwtio a chadw staff rheng flaen ac yn mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â morâl isel y staff yn ystod y Pumed Cynulliad.  

Y Gwasanaeth Iechyd
BBC

'Dyfodol neilltuol i Gymru'

Ar ran y llywodraeth mae Mark Drakeford yn dweud "mae'n rhaid i ni lunio dyfodol Cymru ochr yn ochr ag eraill."

"Rydyn ni angen dyfodol neilltuol i Gymru, ond nid dyfodol ar wahân."

Mark Drakeford
BBC

Nifer o seddi gwag

Y Siambr
BBC
Nifer o seddi gwag yn y Siambr yn ystod dadl Plaid Cymru

Dechrau Erthygl 50

Mae'r Ceidwadwr Nick Ramsay yn dweud ei bod hi'n "hanfodol i weithio'n flaengar gyda Llywodraeth Prydain a'r llywodraethau datganoledig eraill cyn galw Erthygl 50 a'r trafodaethau fydd yn dilyn hynny."

Nick Ramsay
BBC

'Dryswch'

Mae Mr Price yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o "ddryswch ynghylch y cynllun Brexit sydd o'r budd mwya i Gymru."

Baneri Cymru a'r Undeb Ewropeaidd
BBC

Dadl Plaid Cymru

Nawr y cyntaf o ddadleuon y prynhawn. 

Mae Adam Price yn cynnig bod y Cynulliad:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu:

(a) diogelu Cymru rhag canlyniadau negyddol a allai ddigwydd ar unwaith ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd;

(b) cau'r bwlch ffyniant rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig drwy: 

(i) creu asiantaeth ddatblygu i Gymru ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain a fydd yn gwerthu Cymru, ein cynnyrch a'n syniadau i'r byd er mwyn tyfu busnesau Cymru a hybu ein hallforion;

(ii) sefydlu comisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru i gynllunio, ariannu a darparu seilwaith ein cenedl o ran trafnidiaeth, telathrebu, ynni a materion gwyrdd; 

(iii) codi lefelau caffael ar gyfer busnesau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. 

Adam Price
BBC

Gwahardd smacio plant?

Mae Mr Sargeant yn cadarnhau ei fwriad i "fwrw mlaen, ar sail cefnogaeth trawsbleidiol, â deddfwriaeth fydd yn cael gwared â'r amddiffyniad o gosb rhesymol" am fwrw plentyn.

Fe gafodd cais i wahardd rhieni rhag smacio plant ei wrthwynebu gan weinidogion Llywodraeth Cymru yn 2014.

Smacio plant
Thinkstock

Cynlluniau gwrth-dlodi

Mae Bethan Jenkins yn dweud bod nifer o gynlluniau gwrth-dlodi yng Nghymru yn cael eu hariannu gan yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Mr Sargeant yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Prydain i sicrhau ei hymrwymiad ariannol ar gyfer y cyfnod wedi Brexit.

Cwestiynau i'r Ysgrifennydd dros Gymunedau a Phlant

Nawr cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant.

Mae'r cwestiwn cyntaf gan aelod Plaid Cymru Bethan Jenkins:

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ardaloedd adfywio strategol? 

Atebodd bod adfywio yn parhau o dan framwaith Llywodraeth Cymru, Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid.

Bethan Jenkins
BBC

'Trasiedi i ffermwyr'

Mae Neil Hamilton UKIP yn dweud bod "pob un o'r achosion hyn yn drasiedi i'r ffarmwr dan sylw ac i'r anifeiliaid sy'n cael eu difa."

Mae'n dweud ei fod yn fater sy'n "rhy aml yn cael ei esgeuluso gan bobl yn y Blaid Lafur." 

Neil Hamilton
BBC

Diciau mewn gwartheg

Mae'r Ceidwadwr Paul Davies yn dweud bod cynnydd o 37% yn nifer y gwartheg sy'n cael eu difa oherwydd diciau.

Dyw'r llywodraeth yma meddai "ddim yn gwneud materion gwledig." 

Fe wnaeth ystadegau diweddar gan Lywodraeth Cymru ddatgelu bod 8,973 o wartheg wedi cael eu difa yn y deuddeg mis hyd at Mai 2016 oherwydd y diciau - cynnydd o 37% ar y flwyddyn flaenorol. 

Mae Ms Griffiths yn dweud bod nifer yr achosion newydd o'r afiechyd yng Nghymru wedi gostwng 17%.

Mae'n dweud y bydd hi'n gwneud datganiad ar y diciau mewn gwartheg fis nesa.

buwch
BBC

Ymgyrch Prynu 5

Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud wrth Simon Thomas Plaid Cymru ei bod hi'n cefnogi ymgyrch Prynu 5 NFU Cymru s'yn annog defnyddwyr i gefnogi busnesau fferm Cymru drwy brynu pump eitem o gynnyrch Cymreig.

Lesley Griffiths
BBC

'Stori dda i'w dweud'

Mae Mr Gill yn dweud bod Cyngor Môn yn newid i gasglu sbwriel bob tair wythnos, er gwaetha cyflawni targedau presennol.

Mae Lesley Griffiths yn dweud mai mater i awdurdod lleol yw hyn, ond bod gan Gymru "stori dda i'w dweud ar ailgylchu."

Rhwystro taflu sbwriel

Mae'r cwestiwn cyntaf gan Nathan Gill: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru i rwystro taflu sbwriel yng Nghymru?

Fe wnaeth Mr Gill achosi ffrae ymhlith aelodau ei blaid am iddo wrthod rhoi'r gorau i fod yn Aelod Seneddol Ewropeaidd ar ôl cael ei ethol i'r Cynulliad. Mae e bellach yn aelod annibynnol yn y Cynulliad. 

Sbwriel
BBC

Croeso nôl

Mae'r Cyfarfod Llawn ar fin dechrau gyda chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Da bo am y tro

Dyna ddiwedd y pwyllgor.

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ar gyfer y Cyfarfod Llawn am 1.30pm.

Amseroedd aros

Dywed Dr Sarah Watkins, Uwch Swyddog Meddygol, "yr oedd amseroedd aros niwroddatblygiadol, awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD), anhwylderau fel hynny bron ym mhob bwrdd iechyd yn annerbyniol iawn."

Ychwanega "ym mron pob ardal mae amseroedd aros wedi gostwng yn sylweddol ond ... maent yn dal yn rhy hir."

Dr Sarah Watkins
BBC

Rhwydwaith cynlluniau ysgolion iach Cymru

Dywed Rebecca Evans bod 'rhwydwaith cynlluniau ysgolion iach Cymru' wedi bod yn "hynod lwyddiannus o ran newid y diwylliant mewn ysgolion ... Mae'n un o'r rhaglenni hyn sydd yn hadolygu'n gyson er mwyn gwneud yn siŵr ei bod yn adlewyrchu'r diweddaraf o ran yr heriau o fewn cymunedau, y pwysau sy'n wynebu pobl ifanc ac yn y blaen. Mae'n ffordd wych o ennyn diddordeb plant. "

Iechyd plant

Mae Rebecca Evans yn sôn am yr angen i gael plant a phobl ifanc yn fwy egnïol yn gorfforol. 

Mae hi'n dweud eu bod yn gweithio gyda'r GIG, awdurdodau lleol, Chwaraeon Cymru ac asiantaethau eraill i gael plant a phobl ifanc yn fwy egnïol yn gorfforol.

plentyn yn chwarae
Getty Images

Tystion

Tystion
BBC
Rebecca Evans a Vaughan Gething

Egwyl

Mae'r pwyllgor bellach yn cwrdd yn breifat, ond am 11am fe fydd sesiwn graffu gyda Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cyhoeddus, Rebecca Evans. 

'Cyfle cyfartal'

Meddai, "Rwyf am i bob plentyn yng Nghymru gael cyfle cyfartal i fod y gorau y gallant, a thlodi yw un o'r prif rwystrau."

'Gorfod cyrraedd sefyllfa o argyfwng'

Ar wasanaethau iechyd meddwl, dywed Sally Holland bod "pryderon penodol am y rhestrau aros hir, ond hefyd y diffyg ymyrraeth gynnar, felly mae pobl ifanc yn gorfod cyrraedd sefyllfa o argyfwng go iawn cyn eu bod yn cael unrhyw gymorth neu ymyriad."

iechyd meddwl
Science Photo Library

Homoffobia

O safbwynt plant trawsryweddol, dywed Sally Holland bod prosiectau gwirioneddol dda ar y gweill. 

"Mae grwpiau mewn mwy a mwy o ysgolion, ond mae'n debyg byddwn i'n dal i ddweud lleiafrif lle mae grwpiau cymorth nid yn unig ar gyfer pobl ifanc sy'n nodi eu bod yn lesbiaid neu'n hoyw, ond lle mae yna hefyd ddulliau ysgol gyfan o fynd i'r afael â homoffobia a hyrwyddo amrywiaeth o fewn yr ysgol."

Mynd i'r afael â bwlio

Dywed Sally Holland, "un o'r pethau yr wyf wedi ei wneud yw sefydlu byrddau cynghori newydd yn fy sefydliad. 

"Mae gen i grŵp o 17 o bobl ifanc ddoeth iawn o bob rhan o Gymru, rhwng 11-17 oed, sydd yn fy helpu i bwyso a mesur rhai o'r cwestiynau hyn ac maent yno i graffu ar y gwaith yr ydym yn ei wneud."

Rhai grwpiau mawr o blant ar eu colled

Yn 2016 mae llawer iawn o blant a phobl ifanc Cymru yn byw bywydau diogel, hapus ac actif, ac maen nhw’n teimlo bod yr oedolion o’u cwmpas yn gwrando arnyn nhw ac yn eu parchu, yn ôl Sally Holland.

Ond mae'n ychwanegu bod rhai grwpiau mawr o blant sydd ar eu colled mewn sawl ffordd. 

Sally Holland
BBC

Bore da

Croeso i Senedd Fyw.

 Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn clywed gan Gomisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, a fydd yn trafod ei blaenoriaethau. 

Senedd
BBC