a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Cyfarfod Llawn am 1.30pm gyda chwestiynau i'r Prif Weinidog
  2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
  3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu: Symud Cymru Ymlaen
  4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Y Rhaglen Newid Addysg Gychwynnol i Athrawon: hynt y rhaglen a'r wybodaeth ddiweddaraf
  5. Datganiad gan yr Ysgrifennydd Iechyd: Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau i recriwtio a hyfforddi meddygon teulu ychwanegol ynghyd â gweithwyr proffesiynol eraill ym maes gofal sylfaenol
  6. Datganiad gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Teithio llesol

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

A dyna ni am heddiw.

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.  

Y Senedd
BBC

Cost segurdod corfforol i'r Gwasanaeth Iechyd

Yn ôl Rebecca Evans y llynedd "dim ond 6% o oedolion yng Nghymru wnaeth wneud taith llesol ar feic a 63% wneud taith ar grwydr unwaith yr wythnos neu fwy, sy'n golygu bod traean o oedolion yng Nghymru ddim yn cerdded neu'n seiclo mewn wythnos arferol." 

Mae'n dweud bod y ffigyrau mwya diweddar yn amcangyfrif bod cost segurdod corfforol i GIG yng Nghymru yn £51 miliwn y flwyddyn.

Rebecca Evans
BBC

Vaughan Roderick yn dadansoddi

Cyfleusterau a llwybrau i gerddwyr a beicwyr

Nod y Cynllun Gweithredu ar Deithio Llesol yw annog mwy o bobl i gerdded a beicio yn amlach ar gyfer teithiau bob dydd.  

Pleidleisiodd aelodau o blaid y Mesur Teithio Llesol (Cymru) ar 1 Hydref 2013.  

Roedd y Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wella cyfleusterau a llwybrau i gerddwyr a beicwyr yn barhaus, a pharatoi mapiau sy'n nodi'r llwybrau presennol a'r llwybrau posibl y gallant eu defnyddio yn y dyfodol.  

Cerddwyr
Getty Images

Teithio Llesol

Yr eitem nesaf yn y Siambr yw datganiad gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans:

Y Wybodaeth ddiweddaraf ar Teithio llesol. 

'Chwedl anffodus'

Mae'r aelod Ceidwadol Suzy Davies yn dweud ei bod wedi clywed bod yna "chwedl anffodus bod yn rhaid i chi siarad Cymraeg er mwyn gweithio yn y Gwasasnaeth Iechyd yng Nghymru."

Suzy Davies
BBC

Ymgyrch yn dechrau 20 Hydref

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething yn cyhoeddi y bydd ymgrych yn dechrau ar 20 Hydref i ddenu rhagor o feddygon i Gymru.

Mae'n dweud y bydd "ymgyrch recriwtio fawr yn genedlaethol a rhyngwladol i farchnata Cymru a'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru fel lle deniadol i feddygon, gan gynnwys meddygon teulu a'u teuluoedd, i gael hyfforddiant, gwaith ac i fyw."

Vaughan Gething
BBC

Recriwtio a hyfforddi meddygon teulu ychwanegol

Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd ar y wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau i recriwtio a hyfforddi meddygon teulu ychwanegol ynghyd â gweithwyr proffesiynol eraill ym maes gofal sylfaenol.   

Meddygon teulu
Thinkstock

'Allwn ni symud yn gyflymach'

Mewn ymateb i gwestiwn gan Llyr Gruffydd mae Kirsty Williams yn dweud " gallwn ni symud yn gyflymach na'r hyn rydyn ni wedi ei wneud" wedi iddo fe gyfeirio at yr amser mae'n ei gymryd i weithredu argymhellion Athro John Furlong.

Ymgynghoriad cyhoeddus ar fras-feini prawf

Mae'r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams yn dweud y bydd hi ddydd Llun nesaf 26 Medi yn dechrau ymgynghoriad cyhoeddus ar fras-feini prawf ar y ffordd y caiff rhaglenni addysg hyfforddiant cychwynnol athrawon eu cymeradwyo a'u hachredu.

Mae hyn yn seiliedig ar adroddiad annibynnol yr Athro John Furlong, a ddaeth i'r casgliad bod angen diwygio hyfforddiant athrawon er mwyn codi safonau.

Mae'r achrediad diwygiedig yn cynnwys:

  • Rôl gynyddol i ysgolion;
  • Rôl gliriach i brifysgolion;
  • Cyd-berchnogaeth o'r rhaglen addysg gychwynnol athrawon;
  • Cyfleoedd strwythuredig i gysylltu dysgu mewn ysgolion a phrifysgolion;
  • Ymchwil fel elfen ganolog.

Kirsty Williams
BBC

Y Rhaglen Newid Addysg Gychwynnol i Athrawon

Mae'r datganiad nesa gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams:

Y Rhaglen Newid Addysg Gychwynnol i Athrawon: hynt y rhaglen a'r wybodaeth ddiweddaraf. 

Dosbarth
Thinkstock

Gwelliannau i'r A40 'dal ar yr agenda'

Mae'r Prif Weinidog yn dweud wrth yr aelod Ceidawadol Paul Davies bod gwelliannau i'r A40 yn y Gorllewin yn "dal ar yr agenda".

Y Gwrthbleidiau yn gytûn ar 'ddiffyg manylion'

Mae'r gwrthbleidiau yn gytûn ar yr hyn mae nhw'n alw yn "ddiffyg manylion" yn y rhaglen 15 tudalen.

'Pot pourri o ystrydebau'

Mae Neil Hamilton UKIP yn dweud bod y rhaglen yn "pot pourri o ystrydebau" yn llawn "lol ddiystyr".

pot pourri
BBC

Sut i gynnig rhywbeth newydd i'r etholwyr

Dadansoddiad

Daniel Davies

Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

Mae 'na gwestiwn mawr yn wynebu'r blaid Lafur ar ôl 17 mlynedd wrth y llyw ym Mae Caerdydd. Sut i gynnig rhywbeth newydd i'r etholwyr heb droi eich cefn ar record y blaid? Fe lwyddodd Carwyn Jones i grynhoi'r broblem yna ym maniffesto Llafur ar gyfer etholiad y Cynulliad mis Mai. "Nid dyma'r amser i gymryd risg," meddai ar y pryd. Yn hytrach, fe soniodd am gadw'r momentwm i fynd ac adeiladu ar "sylfeini cadarn". Felly peidiwch disgwyl newidiadau radical mewn polisi pan fydd Mr Jones yn ceisio egluro sut y bydd yn troi'r maniffesto yna'n realiti yn ei raglen am y llywodraeth ddydd Mawrth. Ond heb fwyafrif yn y Senedd, gyda chweryla yn ei blaid ei hun a phwysau ar y gyllideb, nid rhwydd hynt fydd hi i Mr Jones nes yr etholiad nesaf ymhen pum mlynedd.

'Digalon a dweud y lleia'

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn anhapus gyda pha mor fyr yw'r rhaglen: "15 tudalen ar gyfer pum mlynedd o lywodraeth."

Mae'n dweud ei bod hi'n ddigalon a dweud y lleia mai dyma ydi'r gorau y gall Llafur ei chyflwyno ar gyfer rhaglen pum mlynedd o lywodraethu. 

'Diffyg manylion'

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn feirniadol o'r hyn mae hi yn ei alw'n ddiffyg manylion ar sut y bydd y llywodraeth yn cwrdd ag amcanion y rhaglen.

Mae'n gofyn a yw polisiau'r Democrat Rhyddfrydol, (dosbarthiau llai o faint a Grant Amddifadedd Disgyblion) yn ychwanegol tuag at addewid Llafur i wario £100m yn fwy ar ysgolion. 

Y Prif Addewidion

Mae'r prif addewidion yn cynnwys: 

  • Torri cyfraddau busnes ar gyfer cwmnïau llai; 
  • 30 awr o ofal plant am ddim i rieni plant tair a phedair oed; 
  • 100,000 o brentisiaethau sy'n agored i bobl o bob oed; 
  • Hwyluso'r defnydd o feddygfeydd, a sefydlu cronfa ar gyfer triniaethau newydd ac arloesol;
  • Arian i ysgogi gwelliannau i safonau ysgolion, ac i adnewyddu neu adeiladu ysgolion newydd;
  • Adeiladu ffordd osgoi ar gyfer yr M4 a sefydlu Metro De Cymru, a sefydlu cwmni rheilffyrdd newydd nid-er-elw; 
  • Band-eang cyflym a dibynadwy i bob cartref yng Nghymru.

Symud Cymru Ymlaen

Nawr datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu: Symud Cymru Ymlaen.

Rhaglen Pum Mlynedd.

Polisiau
Thinkstock

A48 yn Sir Gaerfyrddin

Mae Simon Thomas yn mynegi pryder bod ffordd yr A48 yn Sir Gaerfyrddin wedi cau am chwech wythnos i gyfeiriad y dwyrain rhwng Caerfyrddin a Nanycaws.

Mae'n cau oherwydd gwaith atgyweirio i bibell tanwydd a bydd y ffordd ddim yn ail agor tan 28 Hydref.

Mae nam wedi ei ddarganfod ar ddarn o'r bibell amldanwydd sy'n mynd o burfa Penfro i derfynellau ym Manceinion a Kingsbury.

yr A48 fore Mawrth
BBC
Yr A48 fore Mawrth

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf yn y Siambr yw'r Datganiad a Chyhoeddiad Busnes pan fydd Arweinydd y Tŷ Jane Hutt yn amlinellu busnes y Cynulliad ar gyfer y dyfodol agos.

Jane Hutt
BBC

Cynllun cyfathrebu cyn datganoli trethi

Yn ôl Carwyn Jones fe fydd yna gynllun cyfathrebu cyn datganoli trethi yn 2018, tebyg i'r newidiadau rhoi organau.  

Mae'r aelod Annibynnol Nathan Gill yn dweud nad oes gan y mwyafrif o bobl ddim syniad bod rhai trethi yn cael eu datganoli yn 2018.

Mae'n dweud y dylid cael refferendwm cyn hyn.

Nathan Gill
BBC

Llinell reilffordd Caerfyrddin-Aberystwyth

Wrth ymateb i'r syniad o ail-sefydlu'r llinell reilffordd o Gaerfyrddin i Aberystwyth mae Mr Jones yn dweud bod y costau'n uchel, gwerth biliynau o bunnau.

Dr Richard Beeching yn cyflwyno ei adroddiad ar y rheilffyrdd 27 Mawrth, 1963. Roedd llinell Caerfyrddin-Aberystwyth yn un o nifer gafodd eu cau yng Nghymru.
Getty Images
Dr Richard Beeching yn cyflwyno ei adroddiad ar y rheilffyrdd 27 Mawrth, 1963. Roedd llinell Caerfyrddin-Aberystwyth yn un o nifer gafodd eu cau yng Nghymru.

Gwasanaeth bws Caerdydd-Aberystwyth

Wrth ateb cwestiwn gan Simon Thomas Plaid Cymru mae'r Prif Weinidog yn dweud ei fod yn gobeithio y bydd y gwasanaeth bws o Gaerdydd i Aberystwyth yn ail-ddechrau mor fuan â phosibl.

Yr egwyddor o gynorthwyo ffoaduriaid

Mae Carwyn Jones yn dweud bod rhaid cyfyngu ar nifer y ffoaduriaid y gall gwlad eu derbyn, ond mae'n amddifffyn yr eqwyddor o gynorthwyo ffoaduriaid. 

Dim gwersi gan 'Thatcherwr'

Mae Mr Hamilton yn dweud mai'r bobl dlota sy'n dioddef pan fo mewnfudo allan o reolaeth.

Mae'r Prif Weinidog yn dweud na fydd yn cymryd gwersi gan "Tatcherwr."

Polisi UKIP ar fewnfudo

Mae arweinydd UKIP yn y Cynulliad, Neil Hamilton, yn dweud ei fod wrth ei fodd bod y Prif Weinidog yn cydweld â pholisi UKIP ar fwenfudo.

Neil Hamilton
BBC

Llinell Goch

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn gofyn a ydi rhyddid i symud i bobl yn linell goch i Lywodraeth Cymru.

Mae Mr Jones yn dweud mai symud nwyddau a gwasanaethau yw'r llinell goch 

Andrew RT Davies
BBC

Grŵp cynghori Brexit

Mae Ms Wood yn gofyn a ydi Grŵp cynghori Brexit y Prif Weinidog wedi cwrdd eto. Mae hi'n cyhuddo Mr Jones o beidio bod â gweledigaeth ar gyfer Cymru wedi Brexit.

Mae Mr Jones yn dweud y bydd y Grŵp cynghori Brexit yn cwrdd ddiwedd y mis ac mae'n dweud ei fod mewn cysylltiad cyson gyda Llywodraeth Prydain ar fater Brexit.

Baneri Cymru a'r EU
BBC

Dim gweinidog Brexit

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn gofyn a ydi'r Prif Weinidog yn mynd i ail-ystyried ei benderfyniad i beidio penodi gweinidog Brexit.

Mae Mr Jones yn dweud mai ei gyfrifoldeb e yw hynny.

Leanne Wood
BBC

Y Prif Weinidog i siarad gyda chynghorau

Mae'r aelod Ceidwadol Suzy Davies yn awgrymu bod Cymru wedi bod yn araf yn delio gyda ffoaduriaid bregus o Syria.

Mae'r Prif Weinidog yn dweud ei fod yn mynd i siarad gyda chynghorau ar y mater.

Ffoaduriaid

Mae'r Prif Weinidog yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn gymharol ar flaen y gad yn derbyn ffoaduriaid.  

Carwyn Jones
BBC

Gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro

Mae'r cwestiwn cyntaf gan yr aelod Ceidwadol Paul Davies: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro? 

Fe wnaeth Mr Davies ymgyrchu yn erbyn newidiadau i'r uned gofal arbennig i fabanod yn Ysbyty Llwynhelyg a'r gwasanaethau pediatrig a mamolaeth dros nos. 

Gallwch weld y rhestr o'r cwestiynau sydd wedi eu cyflwyno fan hyn.

Meddygon ysbyty
BBC

Prynhawn da

Croeso i Senedd Fyw sy'n darlledu'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. 

Mae'r sesiwn fel arfer yn dechrau gyda chwestiynau i'r Prif Weinidog, Carwyn Jones. 

Y Senedd
BBC