Crynodeb

  1. Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
  2. Y cyfarfod llawn yn dechrau am 13.30 gyda chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
  3. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar Broses y Gyllideb
  4. Dadl Plaid Cymru: 'Cymraeg ail iaith'
  5. Dadl Plaid Cymru:Cynnig bod y Cynulliad yn nodi pwysigrwydd aelodaeth lawn o farchnad sengl Ewropeaidd i economi Cymru
  6. Dadl y Ceidwadwyr ar gysylltiadau trafnidiaeth yng ngogledd Cymru
  7. Dadl UKIP ar rôl ysgolion gramadeg
  8. Dadl Fer: Rhyddhau Potensial Naturiol Plant - Rôl Addysg Awyr Agored yn y Broses Ddysgu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

A dyna ni am heddiw. 

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth nesaf 27 Medi.

Y Senedd
BBC

Dadl Fer - Rhyddhau Potensial Naturiol Plant

Ac yn ola heddiw Dadl Fer gan aelod Llafur Cwm Cynon, Vikki Howells.

A'r pwnc:Rhyddhau Potensial Naturiol Plant - Rôl Addysg Awyr Agored yn y Broses Ddysgu.

Maes chwarae plant
BBC

'Dim system addysg ddetholedig yng Nghymru'

Mae Kirsty Williams, yr unig aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol sy'n aelod o Gabinet Llafur, a'r unig aelod o'i phlaid yn y Cynulliad, yn dweud y dylai'r ddadl fod am sut y gallai pob plentyn gael addysg o'r radd flaenaf.. nid dadl am pa fath o ysgol ddylse nhw fynd iddi.

Mae'n addo na fydd hi fyth yn caniatau system addysg ddetholedig yng Nghymru.

Kirsty Williams
BBC

Ysgolion gramadeg yn 'annog anghydraddoldeb addysgiadol'

Mae Llefarydd Addysg Plaid Cymru Llyr Gruffydd yn dweud bod ei blaid e'n teimlo bod ysgolion gramadeg yn "annog anghydraddoldeb addysgiadol".

Mae e hefyd yn cyhuddo'r Ceidwadwyr Cymreig o fod yn ddryslyd ynghylch eu safbwynt ar y mater.

Llyr Gruffydd
BBC

'Ymestyn dewisiadau rhieni a disgyblion'

Mae'r Ceidwadwr Darren Millar yn dweud nad ydyn nhw yn cefnogi galwad UKIP am ailgyflwyno ysgolion gramadeg.

Mae'n dadlau "mai ymestyn dewisiadau rhieni a disgyblion yw'r ffordd orau o wella safonau yn ein hysgolion".

Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru "i ryddhau ysgolion o reolaeth awdurdodau lleol a galluogi ysgolion poblogaidd i ehangu er mwyn galluogi rhagor o ddisgyblion i gael mynediad i'r ysgolion y maent hwy a'u rhieni yn eu dewis".

Darren Millar
BBC

Addysg ddetholedig

Fe wnaeth ysgol ramadeg olaf Cymru, Ysgol Ramadeg Hendy-gwyn ar Daf yn Sir Gaerfyrddin gau yn 1988. UKIP oedd yr unig blaid yn etholiad y Cynulliad 2016 a oedd yn addo ailgyflwyno addysg ddetholedig.

Byddai'n golygu y byddai disgyblion yn cael prawf pan yn 11 oed, gyda'r rhai mwya deallus yn mynd i ysgolion gramadeg a'r rhai hynny na fyddai'n llwyddo i gael y graddau ucha yn mynd i ysgolion eraill. 

'Dilynwch arweiniad Llywodraeth y DU'

Mae Michelle Brown UKIP yn dweud ei bod hi'n "bryd i'r Llywodraeth Lafur ddilyn arweiniad Llywodraeth y DU a chyflwyno deddfwriaeth yn y Siambr i ganiatau i awdurdodau lleol i gynnig mwy o amrywiaeth o opsiynau addysgiadol yn unol ag anghenion ardal a dymuniadau rhieni."

Ar hyn o bryd mae tua 3,000 o ysgolion uwchradd yn Lloegr, tua 163 o'r rheini yn ysgolion gramadeg. Ac mae 69 o ysgolion gramadeg yng Ngogledd Iwerddon.

Michelle Brown
BBC

UKIP yn galw am ailgyflwyno ysgolion gramadeg

Nesa yn y Siambr Dadl UKIP ar ysgolion gramadeg.

Mae UKIP yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

  • Yn cydnabod rôl bwysig ysgolion gramadeg o ran hyrwyddo symudedd cymdeithasol a rhoi cyfle i blant o gefndiroedd tlawd gael mynediad at addysg o'r radd flaenaf;
  • Yn nodi bod llai o symudedd cymdeithasol wedi mynd law yn llaw â llai o lefydd mewn ysgolion gramadeg.
  • Yn credu mewn amrywiaeth mewn addysg uwchradd, sy'n rhoi hawl i blant gael addysg ramadeg os yw rhieni'n dymuno hynny, ac yn cefnogi statws uwch ar gyfer addysg dechnegol a galwedigaethol ac ailgyflwyno ysgolion gramadeg yng Nghymru i greu system addysgol sy'n rhoi'r cyfle gorau i blant o bob gallu.  
Dosbarth
BBC

Cynhadledd o fewn y 100 diwrnod cyntaf

Mae Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates yn dweud y cafodd cynhadledd economaidd ei chynnal yn y gogledd o fewn 100 diwrnod cynta'r llywodraeth yma.

Franklin Roosevelt oedd y cyntaf i sôn am garreg filltir 100 diwrnod llywodraeth
AP
Franklin Roosevelt oedd y cyntaf i sôn am garreg filltir 100 diwrnod llywodraeth

Cardiau Cludiant Clyfar

Mae Dai Lloyd Plaid Cymru yn galw ar y llywodraeth i gyflwyno cardiau cludiant clyfar ar gyfer Cymru gyfan er mwyn cysylltu cymunedau trwy system drafnidiaeth integredig.

Pwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru

Am yr awr nesaf mae yna ddadl gan y Ceidwadwyr Cymreig.

Mae nhw'n cynnnig bod y Cynulliad:

Yn cydnabod pwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth yng ngogledd Cymru, a rhwng gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, a Chanolbarth Lloegr. 

Yn credu bod y cynigion o fewn "Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru" yn cynnig sail ar gyfer gwella perfformiad economaidd yng ngogledd Cymru. 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: 

(a) cyhoeddi cynllun i wella ac uwchraddio cefnffordd yr A55 i fynd i'r afael â thrafferthion tagfeydd, risg o lifogydd, a diffyg llain galed mewn rhai ardaloedd; 

b) gweithio gyda Llywodraeth y DU a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i sicrhau bod llinell gogledd Cymru yn cael ei huwchraddio;

(c) gweithio gyda rhanddeiliaid i sefydlu cynllun cerdyn teithio trafnidiaeth integredig ar gyfer gogledd Cymru; (d) cyhoeddi cynllun busnes manwl ar gyfer datblygu Metro Gogledd Cymru.  

'Mynediad llawn a rhydd'

Ar ran y llywodraeth mae Ken Skates yn pwysleisio pwysigrwydd "mynediad llawn a rhydd ar gyfer nwyddau a gwasanaethau i farchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd".

Ken Skates
BBC

'Anwybyddu ewyllus pobl Cymru'

"Rydych chi'n anwybyddu ewyllus pobl Cymru" medd David Rowlands UKIP wrth Blaid Cymru.

Fe bleidleisiodd pobl Cymru o fwyafrif o ychydig dros 5% i adael yr Undeb Ewropeaidd.

'Dyna un dda o'r Ceidwadwyr'

Mae Lee Waters Llafur yn dweud ei bod "hi'n ddoniol bod y Ceidwadwyr yn galw am eglurder gan nad oes ganddon ni eglurder o ran safbwynt Llywodraeth y DU".

.  

Lee Waters
BBC

'Y fargen orau'

Ar ran y Ceidwadwyr mae Mark Isherwood yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau'r fargen orau i Gymru.

Mae hefyd yn galw am eglurder o ran safbwynt Llywodraeth Cymru ynghylch caniatáu i bobl symud yn rhydd rhwng y DU a'r UE, ar ôl i'r DU adael yr UE. 

Mark Isherwood
BBC

Aelodaeth lawn o farchnad sengl Ewropeaidd

Nawr dadl arall gan Blaid Cymru. 

Yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi pwysigrwydd aelodaeth lawn o farchnad sengl Ewropeaidd i economi Cymru.   

Addysg yn cael ei diwygio

Mae Alun Davies yn mynnu bod addysg yng Nghymru yn cael ei diwygio, bod Cymwysterau Cymru yn cryfhau TGAU Cymraeg Ail Iaith fel mesur dros dro, ac o 2021 y bydd y cwricwlwm newydd yn dileu'r gwahaniaeth rhwng Cymraeg a Chymraeg Ail Iaith.

'Dewis annymunol' pan yn 14oed

Mae Neil Hamilton yn dweud iddo wynebu " dewis annymunol" pan yn 14 oed rhwng y Gymraeg neu'r Almaeneg, ac iddo ddewis yr ail un.

Mae'n disgrifio'r gweinidog ar gyfer yr Iaith Gymraeg, Alun Davies, fel "tarw dur y weinyddiaeth".

"Os all unrhywun gyflawni'r uchelgais yma, (miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050), fe yw hwnnw" meddai.

Neil Hamilton
BBC

'Y Llywodraeth wedi gwastraffu amser'

Mae Suzy Davies ar ran y Ceidwadwyr yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi "gwastraffu amser" ers cyhoeddi adroddiad Sioned Davies. 

Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i wella'r dull o feithrin sgiliau iaith Gymraeg ym mhob lleoliad Dechrau'n Deg a hefyd i nodi ei chynlluniau ar gyfer meithrin sgiliau iaith Gymraeg mewn cyrsiau galwedigaethol ac astudiaethau mewn lleoliadau dysgu yn y gymuned. 

Suzy Davies
BBC

Addysg cyfrwng Cymraeg i bawb

Yn ei maniffesto ar gyfer etholiad y Cynulliad fe ddywedodd Plaid Cymru mai'r hyn ddylai'r nod fod, yn y bôn, fyddai addysg cyfrwng Cymraeg i bawb.

Rôl addysg yn hybu'r Gymraeg

Mae Plaid Cymru yn cynnig bod y Cynulliad:

  • Yn nodi ei bod yn dair blynedd ers cyhoeddi adroddiad Yr Athro Sioned Davies a argymhellodd ddileu 'Cymraeg ail iaith' a sefydlu un continwwm dysgu'r Gymraeg yn ei le. 
  • Yn nodi bod llythyr y Prif Weinidog o fis Rhagfyr 2015 yn datgan ei fod "o'r farn bod y cysyniad "Cymraeg fel ail iaith" yn creu gwahaniaeth artiffisial, ac nid ydym o'r farn bod hyn yn cynnig sylfaen ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau at y dyfodol".
  • Yn nodi pwysigrwydd y gyfundrefn addysg er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg. 
  • Yn gresynu at benderfyniad Cymwysterau Cymru i gadw'r cymhwyster Cymraeg ail iaith am gyfnod dros dro amhenodol, ac felly, er mwyn sicrhau na chaiff unrhyw ddisgybl ei amddifadu o sgiliau i ddefnyddio'r Gymraeg, yn galw ar Lywodraeth Cymru i: 
  • (a) amlinellu amserlen glir ar gyfer disodli'r cymhwyster Cymraeg Ail Iaith gydag un cymhwyster Cymraeg newydd i bob disgybl erbyn 2018 a fyddai'n golygu arholi'r cymhwyster newydd yn gyntaf yn 2020;
  • (b) mabwysiadu strategaeth i dargedu adnoddau ychwanegol ar ddysgu Cymraeg i athrawon dan hyfforddiant, athrawon mewn swydd, cymorthyddion dosbarth ac ymarferwyr dysgu eraill; ac 
  • (c) buddsoddi'n sylweddol, a chynllunio o ddifrif, drwy becyn o fentrau arloesol, er mwyn cynyddu'n gyflym nifer yr ymarferwyr addysg sy'n dysgu drwy'r Gymraeg.  
Cymraeg
BBC

'Cymraeg Ail Iaith'

Nesa y cyntaf o ddadleuon y prynhawn, a hynny gan Blaid Cymru ar "Gymraeg Ail Iaith".

Angen proses gyllidebol newydd

Yn ôl Simon Thomas,wrth i bwerau cyllidol gael eu datganoli, mae angen proses gyllidebol newydd yn barod at gyllideb ddrafft 2018/19.

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd Mesur Cymru yn caniatau i ni osod ein prosesau cyllidebol ar delerau statudol gyda mesur cyllidebol blynyddol, fydd yn gam pellach tuag at y Cynulliad yn tyfu i fod yn Senedd" meddai Mr Thomas.

Simon Thomas
BBC

Proses y Gyllideb

Nawr datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar Broses y Gyllideb, Simon Thomas. 

Arian
BBC

Ethol Aelodau i Bwyllgorau

Mae'r aelodau yn cytuno ar dri chynnig:

  • ethol Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) yn aelod o'r Pwyllgor Busnes yn lle Simon Thomas (Plaid Cymru). 
  • ethol Nathan Gill (Annibynnol) yn aelod o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn lle Michelle Brown (UKIP).
  • penodi Adam Price (Plaid Cymru) fel aelod o Gomisiwn y Cynulliad yn lle Dai Lloyd (Plaid Cymru).  

Dim cwestiynau wedi eu cyflwyno

Unwaith eto does dim cwestiynau wedi cael eu cyflwyno i Gomisiwn y Cynulliad, y corff corfforaethol sy'n gyfrifol am ddarparu eiddo, staff a gwasanaethau i'r Cynulliad.

Cynllun casglu sbwriel

Mae Gareth Bennett UKIP yn cyfeirio at y ffaith bod cynllun casglu sbwriel bob pedair wythnos wedi dechrau yng Nghonwy fel arbrawf blwyddyn i annog pobl i ailgylchu mwy.

Mae'n dweud bod cynllun tebyg wedi methu yn Bury, Greater Manchester. 

Mae hefyd yn dweud bod nifer o chwarelu gwag a phyllau graean ym Mhrydain, felly meddai, does dim angen i ni gydymffurfio â thargedau'r Undeb Ewropeaidd. 

Casglu sbwriel
BBC

Y pwysau sy'n wynebu cynghorau gwledig

Mae'r aelod Ceidwadol Janet Finch-Saunders yn galw am adolygiad o'r ffomiwla cyllido i ystyried pwysau ychwanegol sy'n wynebu cynghorau gwledig.

Mae Mr Drakeford yn dweud bod y fformiwla yn cael ei hadolygu bob blwyddyn.

Toriad treth neu beidio?

Mae Adam Price o Blaid Cymru yn dweud nad yw'r cyhoeddiad y bydd y cynllun rhyddhad ardrethi busnes yn cael ei ymestyn i 2017/18 yn doriad treth, am ei fod yn barhad o'r cynllun presennol. 

Mae Mr Drakeford yn ateb ei fod bendant yn "dorri trethi"..

Mae'n ychwanegu y byddai busnesau wedi bod yn talu'r dreth honno, ond na fyddan nhw nawr.

Adam Price
BBC

'Mae gan fuddugoliaeth nifer o dadau'

"Mae gan fuddugoliaeth nifer o dadau" meddai Mr Drakeford, yn dyfynn Tacitus, wedi i'r aelod Ceidwadol Darren Millar groesawu'r "trawsnewidiad" i addo i sefydlu banc datblygu.

Trothwy ar gyfer refferendwm

Mae Mr Drakeford yn dweud bod hyn yn opsiwn sydd ar gael i gynhorau, rhwym wrth refferendwm.

Dyw e ddim yn derbyn bod trothwy o 10% o'r etholwyr sydd ei angen i ddechrau refferendwm yn afresymol o uchel.

Mark Drakeford
BBC

Meiri etholedig

Mae'r cwestiwn cyntaf gan yr aelod Ceidwadol David Melding: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y broses i sefydlu meiri etholedig yng Nghymru?   

Gallwch weld y rhestr o'r cwestiynau sydd wedi eu cyflwyno fan hyn.

'Cyntaf arall fel rhan o fusnes newydd y Siambr'

Croeso nôl

Mae'r Cyfarfod Llawn ar fin dechrau dechrau gyda chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford.

Cyfarfod yn breifat

Mae'r pwyllgor nawr yn cyfarfod yn breifat.

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ar gyfer y Cyfarfod Llawn am 1.30pm.

Croesawu ffoaduriaid

Mewn yamteb i gwestiwn gan Bethan Jenkins am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hwyluso'r broses o groesawu ffoaduriaid, mae Mr Sargeant yn dweud mai gan Llywodraeth Prydain y mae'r lifrau. 

Mae'n ychwanegu y bydd "trafodaethau yn parhau ... rydyn ni eisiau chwarae'n rhan" meddai.

ffoaduriaid
Getty Images

'Rhuthr i gofrestru'

Mewn ymateb i sylwadau Joyce Watson mai nifer cymharol isel o landlordiaid mewn gwirionedd sydd wedi cofrestru fel rhan o gynllun Rhentu Doeth Cymru, mae Mr Sargeant yn dweud ei fod yn rhagweld y bydd nifer o landlordiaid yn cofrestru cyn y dyddiad cau.

Mae'r gyfraith yn mynnu bod pob landlord yn cofrestru, a bod asiantaethau a landlordiaid preifat sy'n rheoli eiddo eu hunain yn cael trwydded erbyn 23 Tachwedd 2016.

Mae tua 20,000 o landlordiaid wedi cofrestru'n barod.

Joyce Watson
BBC

'Mae hynny yn fy nhrwblo' medd aelod Llafur

Pan fo Mr Sargeant yn dweud mai cyfrifoldeb Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yw rheoliadau adeiladu, mae ei gyd-aelod Llafur Jenny Rathbone yn gwneud y sylw hwn:

"Mae hynny yn fy nhrwblo, oherwydd dwi'n ofni bod Lesley Griffiths wedi dweud wrthon ni mai eich cyfrifoldeb chi yw'r rheoliadau hyn."

Jenny Rathbone
BBC

Mesur i ddod â’r Hawl i Brynu i ben

Mae Mr Sargeant yn dweud mai un o'i flaenoriaethau fydd deddfu i ddod â diwedd i'r Hawl i Brynu yng Nghymru.

Mae'n dweud y bydd yn cyflwyno Mesur i ddod â’r Hawl i Brynu i ben ym mlwyddyn gyntaf rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth, er mwyn amddiffyn y stoc o dai cymdeithasol rhag cael ei herydu ymhellach, a rhoi’r hyder i landlordiaid cymdeithasol adeiladu cartrefi newydd, gan sicrhau bod tai cymdeithasol ar gael i bobl sydd eu hangen meddai.