Crynodeb

  1. Cyfarfod Llawn am 1.30pm gyda chwestiynau i'r Prif Weinidog
  2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
  3. Datganiad ar Adolygiad Diamond o Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru
  4. Datganiad ar Yr Adolygiad Annibynnol o’r Broses Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol
  5. Datganiad ar Groesawu cystadleuwyr y gemau Olympaidd a Pharalympaidd adref
  6. Dadl: Siarter Ddrafft y BBC

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

A dyna ni am heddiw. 

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

Y Senedd
BBC

'Dechrau newydd i'r BBC'

Mae Neil Hamilton UKIP yn dweud bod y siarter yn "ddechrau newydd i'r BBC" a bod yr hyn sy'n cael ei gynnig yn y newidiadau sydd ar gynnig heb amheuaeth yn gam ymlaen o'r hyn rydyn ni wedi ei weld yn y gorffennol".

Neil Hamilton
BBC

'Croeso cynnes'

Mae'r aelod Ceidwadol Suzy Davies yn dweud ei bod yn gobeithio y bydd y llywodraethau yng nghenhedloedd eraill y Deyrnas Unedig "yn rhoi croeso yr un mor gynnes i'r siarter terfynol ag y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud" 

Suzy Davies
BBC

'Pryderu'n fawr am ffi'r drwydded'

Mae Bethan Jenkins yn dweud bod Plaid Cymru yn pryderu nad yw ffi'r drwydded wedi cynyddu i'r BBC ac mae'n cyfeirio at gyhoeddiad yn gynharach yn y mis am ad-drefnu ar raddfa fawr yn BBC Cymru gyda'r bwriad o arbed £9m erbyn 2022.  

Bethan Jenkins
BBC

'Mewnbwn uniongyrchol wedi bod yn hanfodol'

Mae Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, yn dweud bod mewnbwn uniongyrchol Llywodraeth Cymru i broses Adolygu'r Siarter wedi bod yn hanfodol.

Mae'n dweud bod Cyfarwyddwr Cyffredinnol y BBC wedi gwneud nifer o addewidion cyhoeddus pwysig i Gymru ym mis Mai 2016, gan gynnwys rhagor o gyllid i wella gwasanaethau ac ar gyfer cynnwys mwy ymroddedig. 

"Rydyn ni nawr yn edrych ymlaen i weld rhain yn cael eu gwireddu" medd Mr Davies.

Alun Davies
BBC

Siarter Ddrafft y BBC

Mae'r aelodau yn cael dadl ar Siarter Ddrafft y BBC a Chytundeb Fframwaith drafft y BBC.

Mae'r Siarter Frenhinol yn gytundeb gyda'r llywodraeth ynghylch beth mae'r BBC yn bwriadu ei wneud dros yr unarddeg mlynedd nesaf. 

Mae'n ddogfen gyffredinol yn amlinellu sut mae'r gorfforaeth yn cael ei chyllido, ei rhedeg, pwy sy'n dal y BBC i gyfrif a beth yw ei bras amcanion. 

Mae'r Papur Gwyn, gafodd ei gyhoeddi ym mis Mai, yn cyfeirio at ddiwygiadau i drefn y BBC, gan gynnwys dileu Ymddiriedolaeth y BBC a sefydlu bwrdd i redeg materion o ddydd i ddydd, gydag Ofcom fel y rheolydd allanol. 

Mae disgwyl i'r Siarter Frenhinol bresennol ddod i ben ddiwedd 2016. 

Roedd y BBC yn y penawdau yn gynharach yn y mis pan gollodd y gorfforaeth yr hawliau i un o'i rhaglenni mwyaf poblogaidd "The Great British Bake Off". 

BBC
BBC

Mesur Plismona a Throsedd

Mae'r aelodau yn cytuno ar gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Mesur Plismona a Throsedd. 

Mae'r aelodau yn unfrydol yn cytuno bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Mesur Plismona a Throsedd sy'n diwygio Deddf Iechyd Meddwl 1983 a Deddf Troseddau Rhywiol 2003, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.  

Polo dŵr 'wastad yn benbleth i mi'

Mae Gareth Bennett UKIP yn dweud hyn am polo dŵr:

"Mae'n chwaraeon sydd wastad wedi bod yn benbleth i mi. Dydw i dal ddim yn deall sut mae nhw'n cael y ceffylau i mewn i'r dŵr".

Gareth Bennett
BBC

Digwyddiadau chwaraeon mawr

Mae Mr Skates yn herio unrhyw un i feddwl am wlad arall gyda thair miliwn o bobl sydd wedi cynnal cymaint o ddigwyddiadau chwaraeon mawr â Chymru yn y 10 mlynedd ddiwethaf.

Ken Skates
BBC

Dim cais am Gemau'r Gymanwlad

Mae Neil McEvoy Plaid Cymru yn beirniadu'r penderfyniad i beidio gwneud cais am Gemau'r Gymanwlad 2026.

Mae Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates yn dweud bod astudiaeth ddichonoldeb yn amcangyfrif y byddai'r gost rhwng £1.3bn a £1.5bn.

Croesawu Athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd Cymru

Yr eitem nesa yn y Siambr yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Ken Skates ar goesawu'n ôl Athletwyr Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Rio 2016.

Fe fydd Carwyn Jones, y Prif Weinidog ac Elin Jones, Llywydd y Cynulliad yn croesawu cystadleuwyr a gymerodd ran yn y Gemau yn Rio i ddigwyddiad y tu allan i'r Senedd ar 29 Medi rhwng 17.00-19.00.

Bydd adloniant tebyg i garnifal, gan gynnwys band a dawnswyr samba.

Athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd Cymru
Getty Images

Proffwydo'r Prif Weinidog nesa?

Mae'r aelod Ceidwadol Angela Burns yn galw Vaughan Gething yn "Brif Weinidog".

"Dim eto," mae hi'n ychwanegu wedyn. 

Angela Burns
BBC

Pryder am anghysonderau

Fe fydd y panel adolygu yn edrych ar yr hyn sy'n cael ei alw yn broses Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol wedi pryder bod yna anghysonderau wrth gweithredu polisi sydd wedi arwain at loteri cod post yng Nghymru wrth asesu meddyginiaethau.

Bydd yr adolygiad yn edrych ar y dystiolaeth o arfer da yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a llefydd eraill o ran gwneud penderfyniadau cyllido unigol ar driniaethau sydd ddim ar gael fel rheol. 

Panel Adolygu CCCU

Mae claf canser o Wynedd, wnaeth symud i Loegr i gael triniaeth nad oedd ar gael yng Nghymru, yn un o aelodau'r panel newydd fydd yn cynnal adolygiad annibynnol o'r broses Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol (CCCU) yng Nghymru.

Fe gafodd Irfon Williams o Fangor glywed bod ganddo ddwy flynedd i fyw wedi iddo gael diagnosis o ganser y coluddyn.

Fe gafodd y cyffur Cetuximab wedi iddo symud i fyw gyda pherthnasau yng ngogledd orllewin Lloegr. Cronfa Cyffuriau Canser Lloegr oedd yn talu am hyn.

Irfon gyda'i wraig Becky a'u plant Lois, Owen, Beca, Sion ac Ianto
BBC

Cronfa Triniaethau Newydd

Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething: Sefydlu'r Gronfa Triniaethau Newydd a'r Adolygiad Annibynnol o'r Broses Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol.

Yn ei maniffesto fe wnaeth Llafur Cymru addo gwario £16m y flwyddyn ar y gronfa. Ym mis Gorffennaf fe ddywedodd Mr Gething ei fod yn disgwyl i'r gronfa fod yn weithredol erbyn Rhagfyr 2016 ac y byddai'n darparu 12 mis o gyllid ar gyfer cyffuriau newydd yr oedd arbenigwyr yn gytûn oedd yn gost effeithiol.

Tabledi
BBC

Gorchwyl yr adroddiad

Mae Simon Thomas o Blaid Cymru yn dweud iddo gael gwybod na wnaeth yr Athro Diamond ddilyn un gorchwyl a gafodd ar gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru.

Dywed Mr Thomas i hyn ddigwydd er gwaetha'r ffaith ei fod e wedi cytuno ar y gorchwyl gyda'r cyn weinidog addysg Huw Lewis fel cytundeb rhwng dwy blaid ynghylch sut i ddelio gyda mater nawdd. 

Mae Kirsty Williams yn dweud na chafodd Syr Ian Diamond gyfarwyddyd i newid gorchwyl ei adroddiad.

'Pawb yn hapus felly? Wel ddim o reidrwydd'

Dadansoddiad

Aled ap Dafydd

Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

Mae cael polisi ffioedd dysgu credadwy a chynaliadwy yn un o gonglfeini unrhyw lywodraeth. Gofynnwch i'r Democratiaid Rhyddfrydol. Gellir dadlau fod y blaid honno yn parhau i dalu'n ddrud am dorri addewid wnaeth y blaid yn 2012 i beidio codi ffioedd dysgu yn Lloegr."

Darllenwch weddill y dadansoddiad yma.

'Gweinidog cabinet drytaf'

Mae Mark Reckless UKIP yn disgrifio Kirsty Williams fel y "gweinidog cabinet drytaf".

"Beth sy'n flaengar am roi £1,000 i bob myfyriwr, dim ots pa mor gyfoethog mae nhw, heb ofyn cwestiynau?" meddai.

Mark Reckless
BBC

Cefnogi'r argymhellion

Mae'r Ceidwadwr Darren Millar yn dweud "rydyn ni'n cefnogi'r argymhellion i symud oddi wrth cynhaliaeth ffioedd myfyrwyr tuag at gyflwyno grant cynhaliaeth ar sail prawf modd".

Mae'r Ceidwadwyr meddai wastad wedi credu y dylid targedu cefnogaeth i'r rhai sydd ei angen fwyaf, er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu dyheu am addysg prifysgol, beth bynnag fo'u cefndir.

Darren Millar
BBC

'Model mwy cynaliadwy'

Mae Llyr Gruffydd o Blaid Cymru yn dweud bod adolygiad yr Athro Diamond - is-ganghellor Prifysgol Aberdeen - yn cynnig "model mwy cynaliadwy".

Llyr Gruffydd
BBC

Cymeradwyo yr egwyddorion sylfaenol

Mae'r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams yn dweud ei bod yn cymeradwyo yr egwyddorion sylfaenol ac y bydd hi nawr yn edrych ar y manylion a sut y gallan nhw gael eu gweithredu.

Mae Ms Williams yn dweud ei bod am wneud yn sicr bod y rheini sydd eisiau mynd i brifysgol yn gallu gwneud hynny.

Mae'r ofn meddai o beidio gallu fforddio cost byw o ddydd i ddydd yn dylanwadu ar benderfyniad rhai, yn hytrach na'r disgwyliad o ad-dalu benthyciadau pan mewn gwaith.

Kirsty Williams
BBC

Adolygiad Diamond

Nawr datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Kirsty Williams ar Adolygiad Diamond o Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru. 

Fe ddylai'r llywodraeth gyflwyno grant i helpu gyda chostau byw myfyrwyr, yn ôl adolygiad o'r drefn ar gyfer rhoi cyllid i fyfyrwyr.

Byddai'r grant newydd yn cymryd lle'r grant presennol sy'n talu am gyfran o ffioedd dysgu myfyrwyr o Gymru.

Yn ei adroddiad, mae Syr Ian Diamond yn argymell cyflwyno grant sylfaenol o £1,000 y flwyddyn i bob myfyriwr, ynghŷd â chyllid ychwanegol ar sail prawf modd.

O dan y drefn honno, fe fyddai myfyrwyr o'r cefndiroedd tlotaf yn gallu hawlio mwy na £9,000 y flwyddyn.

Tua £7,000 y flwyddyn fyddai'r swm cyfartalog y byddai myfyriwr yn ei dderbyn.

Athro Syr Ian Diamond
BBC

Ceisiadau am ddatganiadau

Mae'r Ceidwadwr Darren Millar yn mynegi pryder am nifer y bobl sy'n gyrru gyda golwg diffygiol, tra bo'r aelod Llafur Julie Morgan yn galw am ystyried cynyddu nifer yr aelodau yn y Cynulliad oherwydd y cynigion i ostwng nifer yr aelodau seneddol o Gymru a'r ffaith y bydd Cymru yn colli aelodau seneddol Ewropeaidd wedi Brexit.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf yn y Siambr yw'r Datganiad a Chyhoeddiad Busnes pan fydd Arweinydd y Tŷ Jane Hutt yn amlinellu busnes y Cynulliad ar gyfer y dyfodol agos. 

Jane Hutt
BBC

'Mesurau arbennig'

Mae'r aelodau yn trafod y penderfyniad i roi Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg dan fesurau arbennig.

Mae'r aelod Ceidwadol Suzy Davies yn gofyn pam na wnaed hyn yn gynt.

Dim sylw am wres dwylo ei wraig

Mae David Rees hefyd yn dweud bod ei wraig yn radiograffydd ond nad yw am wneud sylw am wres ei dwylo.

David Rees
BBC

Rhybudd am ddwylo oer

Mae'r aelod Llafur Huw Irranca-Davies yn dweud bod ei wraig yn radiograffydd ac yn rhybuddio pobl o flaen llaw bod ei dwylo hi'n oer.

"Dydw i ddim yn sicr a fydd cytgord yn ei gartef heno" medd Mr Jones.

Huw Irranca-Davies
BBC

'Argyfwng' o fewn gwasanaethau iechyd meddwl plant

Mae Leanne Wood yn awgrymu bod yna "argyfwng" o fewn gwasanaethau iechyd meddwl plant a bod record y Prif Weinidog yn ofnadwy.

Mae Mr Jones yn dweud ei bod hi'n wir i ddweud bod y galw am wasanaethau iechyd meddwl plant yn sylweddol, a dyna pam meddai bod rhagor o arian wedi cael ei ddarparu.

Cyfraddau hunan-niweidio

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn dweud bod cyfraddau hunan-niweidio yn mynd allan o reolaeth yn ei hen ysgol hi yn Nhonypandy.

Mae Carwyn Jones yn dweud ei fod yn llwyr ddisgwyl i amseroedd aros o fewn gwasanaethau iechyd meddwl plant i ostwng.

Leanne Wood
BBC

Buddsoddi mewn cyfleusterau iechyd gwell

Mae'r Prif Weinidog yn dweud bod ei lywodraeth yn bwriadu sicrhau bod mwy o bobl yn gallu aros adref yn hytrach na mynd i ysbyty,a bod ei lywodraeth yn buddsoddi mewn cyfleusterau iechyd gwell.

Gwasanaeth iechyd 'dychmygol'

Mae Mr Hamilton yn dweud bod gan Flaenau Ffestiniog wasanaeth iechyd "dychmygol", nid gwasnaeth iechyd cenedlaethol.

Arweinydd UKIP Cymru

Rydyn ni nawr yn clywed gan Neil Hamilton sydd bellach yn arweinydd UKIP yng Nghymru yn ogystal â bod yn arweinydd UKIP yn y Cynulliad.

Wrth gwrdd ag aelodau UKIP yn y Cynulliad yng Nghaerdydd ddydd Llun fe ddywedodd arweinydd newydd UKIP Diane James, ei bod hi'n deall mai Mr Hamilton yw arweinydd y blaid yng Nghymru "ar y funud".

Mae cyn-arweinydd UKIP yng Nghymru Nathan Gill wedi bod ynghanol ffrae gyda Mr Hamilton. Mae Mr Gill bellach yn eistedd fel aelod annibynnol yn y Cynulliad.

Mae Diane James yn dweud iddi gael "cyfarfodydd adeiladol" gydag aelodau Cynulliad UKIP, gan gynnwys Neil Hamilton
BBC

Jeremy Corbyn fel y Prif Weinidog nesa?

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn gofyn i'r Prif Weinidog a yw e eisiau gweld Jeremy Corbyn yn brif weinidog nesa Prydain.

"Ydw" yw ei ateb.

Miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050

Mae'r Prif Weinidog yn dweud bod ymgynghoriad ar hyn o bryd ar strategaeth y llywodraeth i sicrhau bod miliwn o bobl yn siarad Cymraeg erbyn 2050.

Yn 2011 roedd 562,000 o bobl yn siarad Cymraeg - dyna sy'n cael ei nodi yn y Cyfrifiad.

Mae Leanne Wood yn dweud nad yw'r Prif Weinidog wedi rhoi llawer o fanylion ynghylch sut i gyrraedd y targed.

Carwyn Jones
BBC

Hyrwyddo'r Gymraeg

Mae'r cwestiwn cyntaf heddiw gan arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am hyrwyddo'r Gymraeg? 

Gallwch weld y rhestr o'r cwestiynau sydd wedi eu cyflwyno fan hyn. 

Y Gymraeg
Thinkstock

Croeso

Croeso i Senedd Fyw sy'n darlledu'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. 

Mae'r sesiwn fel arfer yn dechrau gyda chwestiynau i'r Prif Weinidog, Carwyn Jones. 

Y Senedd
BBC