a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Cyfarfod Llawn am 1.30pm gyda chwestiynau i'r Prif Weinidog
  2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
  3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol: Y Diweddaraf ar Ddiwygio Llywodraeth Leol
  4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Gwella Gofal i Afiechydon Difrifol
  5. Dadl: Blaenoriaethau'r Llywodraeth a'r Rhaglen Ddeddfwriaethol

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

A dyna ni am heddiw. 

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. 

Y Senedd
BBC

Croesawu 'gwarant gydol oes'

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn croesawu cadarnhad y Canghellor "y bydd y Trysorlys yn darparu gwarant gydol oes ar gyfer pob prosiect strwythurol a prosiectau buddsoddi fydd yn cael eu cymeradwyo cyn y bydd y DU yn gadael yr UE."  

'Methu amlinellu mesurau'

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn gresynu "nad yw'r Rhaglen Lywodraethu yn cyfeirio at y ffaith bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd." 

 Mae hefyd yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi "methu amlinellu'r mesurau y mae'n bwriadu eu cyflwyno i fynd i'r afael â chanlyniadau'r penderfyniad hwn i Gymru."   

'Ddim yn ennyn hyder'

Mae Andrew RT Davies yn ôl yn y Siambr ar ol rhoi blas gwahanol ar fater Brexit yng Nghynhadledd y Ceidwadwyr yn Birmingham yn gynharach.

Mae'n dweud nad yw'r Rhaglen Lywodraethu a'r rhaglen ddeddfwriaethol "yn ennyn yr hyder na'r manylion sydd eu hangen i wella cyfleoedd bywyd pobl a chymunedau ledled Cymru."

Andrew RT Davies
BBC

'Casgliad uchelgeisiol o flaenoriaethau'

Mae Carwyn Jones yn dweud bod y rhaglen yn "gasgliad uchelgeisiol o flaenoriaethau" ac mae'n ychwanegu bod pobl Cymru wedi cefnogi hyn yn etholiad mis Mai.

Mae'n derbyn yr angen i sicrhau bod digon o amser ar gael ar gyfer craffu mesurau yn y Cynulliad.

Blaenoriaethau'r Llywodraeth a'r Rhaglen Ddeddfwriaethol

Am yr awr nesa mae'r aelodau yn cael dadl ar Flaenoriaethau'r Llywodraeth a'r Rhaglen Ddeddfwriaethol. 

Symud Cymru Ymlaen yw rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer y 5 mlynedd nesaf. 

Yn ôl y Llywodraeth mae Symud Cymru Ymlaen yn gosod rhaglen y Llywodraeth i wella economi a gwasanaethau cyhoeddus Cymru, gan arwain at wlad sy'n ffyniannus a diogel, yn iach ac egnïol, yn uchelgeisiol ac yn dysgu, yn unedig a chysylltiedig. 

Wrth gyhoeddi ei gynlluniau yn y Senedd ym mis Mehefin fe ddywedodd y Prif Weinidog y byddai ei lywodraeth yn cyflwyno chwe Mesur dros y flwyddyn nesaf - yn amrywio o sefydlu trethi datganoledig newydd i Gymru i sicrhau gwelliannau ym maes iechyd y cyhoedd, gan sicrhau cyflenwad digonol o dai cymdeithasol drwy ddiddymu'r Hawl i Brynu, a diwygio'r system gymorth ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

Anghytundeb ynglŷn ag amseroedd agor meddygfeydd

Wedi'r anghytundeb yn gynharach yn ystod Cwestiynau'r Prif Weinidog ynglŷn â meddygfeydd teulu ar agor ar ôl 6pm, mae'r Ceidwadwyr yn dweud iddyn nhw gael y ffigyrau gan wasanaeth ymchwil y Cynulliad.

Roedd Paul Davies wedi dweud mai dim ond 29% o feddygfeydd yng Nghymru sy'n cynnig apwyntiadau ar ôl 6pm   

Meddygfa
Thinkstock

'Effaith ddofn a chadarnhaol'

Mae Mr Gething yn dweud bod pob grŵp gweithredu "wedi cael effaith ddofn a chadarnhaol gyda'u cynlluniau dosbarthu ac rydw i'n disgwyl i bob cynllun dosbarthu ar ei newydd wedd barhau i wneud hyn."

Vaughan Gething
BBC

Gwella Gofal i Afiechydon Difrifol

Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething: Gwella Gofal i Afiechydon Difrifol.

Mewn datganiad blaenorol fe gyhoeddodd sut y mae'r £1m gafodd ei ddyrannu i bob un o'r 10 o gynlluniau cyflawni Llywodraeth Cymru ar gyfer afiechydon difrifol, wedi'i ddefnyddio i wella gwasanaethau i bobl Cymru. 

Mae Mr Gething yn dweud bod yr arian wedi gwella gwasanaethau ar gyfer clefyd y galon, strôc, gofal critigol, ac iechyd meddwl. 

Mae gofal ar gyfer clefyd yr afu, gofal niwrolegol a gofal diwedd bywyd hefyd wedi elwa.

Nyrs
Getty Images

Allan o drefn

Mae'r Dirpwy Lywydd yn dyfarnu bod Rhianon Passmore allan o drefn am siarad am "gelwyddau y pleidiau gyferbyn" ynghylch cyllid i Gymru.

Rhianon Passmore
BBC

'Peryg o greu rhagor o fiwrocratiaeth'

Mae Gareth Bennett UKIP yn dweud bod yna beryg o greu rhagor o fiwrocratiaeth, a thaliadau diswyddo gormodol i uwch swyddogion.

Gareth Bennett
BBC

'Tro pedol ar fiasco'

Mae'r aelod Ceidwadol Janet Finch-Saunders yn dweud roedd angen i Lywodraeth Cymru "wneud tro pedol ar fiasco dros y tair blynedd ddiwethaf."

Mae'n dweud bod yna beryg y gallen ni gael ein gadael gyda 22 "cragen o awdurdodau lleol."

Janet Finch-Saunders
BBC

Rôl cynghorydd lleol yn dod yn 'fwy pwysig'

Mae Mr Drakeford yn dweud y bydd dosbarthiad gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol ac addysg yn seiliedig ar ffiniau saith bwrdd iechyd Cymru, tra y bydd datblygu economaidd a thrafnidiaeth yn cael eu trefnu ar sail dinas-ranbarth.  

Mae'n ychwanegu y bydd rôl cynghorydd lleol yn dod yn fwy pwysig.

'Gwasanaeth diwnïad i gleifion'

Mae Sian Gwenllian yn dweud bod Plaid Cymru wastad wedi galw am gadw'r 22 awdurdod lleol, ac "rydw i'n falch bod y llywodraeth nawr yn cefnogi'r farn hon."

Mae'n dweud "nad yw cynlluniau’r llywodraeth ar integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn eglur. Mae Plaid Cymru eisiau eu gweld yn datblygu ymhellach er mwyn cyflwyno gwasanaeth diwnïad i gleifion."

Sian Gwenllian
BBC

'Haen ddemocrataidd' o lywodraeth leol

Mae Mr Drakeford yn dweud y bydd y 22 o gynghorau yng Nghymru yn parhau fel "haen ddemocrataidd" llywodraeth leol gyda chydweithrediad rhanbarthol ar ben hynny.

Mark Drakeford
BBC

'Cyd-weithio i wella gwasanaethau cyhoeddus'

O dan gynlluniau Mr Drakeford bydd gofyn i gynghorau Cymru weithio gyda'i gilydd mewn partneriaethau rhanbarthol i wella gwasanaethau cyhoeddus. 

Mae'r cynllun yn cael ei weld fel ymdrech sylweddol i integreiddio gofal iechyd a gofal cymdeithasol ar hyd yr un ffiniau a chael awdurdodau'n gweithio gyda'i gilydd ar drafnidiaeth, datblygiad economaidd a chynllunio.

Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio cyflwyno cynlluniau mwy pendant erbyn diwedd y flwyddyn yn dilyn trafodaethau gyda chynghorau.

O dan y cynlluniau, ni fyddai unrhyw newid i'r 22 o gynghorau presennol ond byddai awdurdodau yn cael eu hannog i uno yn wirfoddol. 

Cynghorau
BBC

Y Diweddaraf ar Ddiwygio Llywodraeth Leol

Nawr datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford ar y diweddaraf ar Ddiwygio Llywodraeth Leol.   

Daw hyn wedi iddo roi'r gorau i'r cynlluniau i dorri nifer y cynghorau o 22 i wyth neu naw. 

Roedd cynlluniau i leihau'r 22 o awdurdodau lleol i wyth neu naw
BBC

Gallai ffordd liniaru'r M4 'fod ar agor erbyn Hydref 2021'

Mae Mr Skates yn dweud ei fod yn gobeithio y gallai'r darn newydd o ffordd fod ar agor erbyn Hydref 2021 os y bydd yn mynd yn ei flaen wedi'r ymchwiliad i opsiynau ar gyfer llwybr. 

Oedi gyda'r ymchwiliad cyhoeddus yn 'anffodus'

Mae Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates yn dweud ei bod hi'n "anffodus" bod yna oedi wedi i ddyddiad yr ymchwiliad gael ei gyhoeddi gyntaf ym mis Gorffennaf.

Mae'n cyhuddo Llywodraeth y DU o beidio cysylltu â nhw ynghylch y gwelliannau i'w rhagolyon traffig ond dridiau cyn iddyn nhw gael eu cyflwyno.

Ond mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod y newidiadau i ragolygon traffig wedi cael eu cyflwyno dros naw wythnos yn ôl.

Ken Skates
BBC

Prosiect Coridor yr M4 o gwmpas Casnewydd

Nesa datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates: Prosiect Coridor yr M4 o gwmpas Casnewydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddan nhw'n gorfod gohirio ymchwiliad cyhoeddus ar welliannau i'r M4 nes y flwyddyn nesaf.

Mae Ken Skates wedi dweud bod hynny oherwydd i'r Weinidogaeth Drafnidiaeth yn San Steffan newid y ffordd maen nhw'n mesur newidiadau mewn traffig, a hynny heb ddweud wrth wleidyddion Caerdydd.

Roedd disgwyl i'r ymchwiliad cyhoeddus ddechrau ar 1 Tachwedd, ond fe fydd nawr yn digwydd yn y flwyddyn newydd.

Yr M4
BBC

UKIP yn boicotio dadl y llywodraeth

Mae arweinydd UKIP Neil Hamilton yn dweud y bydd aelodau ei blaid yn boicotio dadl y llywodraeth ar ei rhaglen ddeddfwriaethol pnawn Mawrth.

Yn ystod y cwestiynau busnes mae'n gofyn "pam ydyn ni'n cael y ddadl ddibwynt pan ein bod eisioes wedi cael dwy ddadl ar hyn yn barod".

Mae'r Llywydd yn dweud bod y cyfle i bleidleisio ar y rhaglen ddeddfwriaethol yn orfodol o dan reolau sefydlog, ac nad yw o gwbl yn "gamddefnydd" o'r Cynulliad, fel yr awgrymodd Mr Hamilton.  

Kris Wade: Y llofrudd wedi wynebu honiadau o ymosodiadau rhyw

Mae Bethan Jenkins yn gofyn a ddylai Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg gael ei roi mewn mesurau arbennig wedi achos Kris Wade.

Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth y bwrdd iechyd gadarnhau fod dyn a gafodd ei garcharu'r wythnos ddiwetha am lofruddio gwraig yng Nghaerdydd, wedi colli ei waith gyda nhw yn dilyn honiadau o ymosodiadau rhyw ar gleifion.  

Ar ran Llywodraeth Cymru mae Jane Hutt yn dweud mai mater i'r bwrdd iechyd yw'r achos hwnnw. 

Bethan Jenkins
BBC

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf yn y Siambr yw'r Datganiad a Chyhoeddiad Busnes pan fydd Arweinydd y Tŷ Jane Hutt yn amlinellu busnes y Cynulliad ar gyfer y dyfodol agos.

Jane Hutt
BBC

Measur diddymu cyfraith yr UE

Mae'r ail gwestiwn Brys gan Steffan Lewis, Plaid Cymru:

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y goblygiadau i Gymru yn sgil argymhelliad Prif Weinidog y DU o ran y Mesur diddymu cyfraith yr UE?  

Byddai'r mesur yn diddymu Deddf Cymunedau Ewropeaidd 1972.

Mae Carwyn Jones yn dweud iddo gael galwad ffôn am 6.10pm ddydd Sadwrn oddi wrth yr Ysgrifennydd Brexit, David Davies, yn amlinellu cynlluniau ar gyfer y mesur diddymu.

Bydd y mesur yn diddymu Deddf Cymunedau Ewropeaidd 1972
BBC

Cefndir: Sector treftadaeth

Mae'r sector treftadaeth yng Nghymru yn cefnogi bron i 40,000 o swyddi ac yn cynhyrchu £749m - 2.6% o economi Cymru - ac mae ddwywaith maint y sector amaethyddol.

Amgueddfa Genedlaethol Cymru
BBC

Annibynnol o'r Llywodraeth

Mae llefarydd Diwylliant Plaid Cymru, Dai Lloyd, yn galw am warant ynghylch annibyniaeth amgueddfeydd o'r Llywodraeth.

Dai Lloyd
BBC

Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru â Cadw

Nawr cwestiwn brys gan yr aelod Ceidwadol Suzy Davies: 

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau i uno elfennau o Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru â Cadw? 

Gallai swyddogaethau masnachol y ddau ddod at ei gilydd o dan gorff newydd o'r enw Cymru Hanesyddol, yn ôl gweinidogion. 

Roedd creu Cymru Hanesyddol yn ymrwymiad ym maniffesto Llafur ar gyfer Etholiad y Cynulliad 2016.

Castell Coch, un o safloedd Cadw
Gareth Jones
Castell Coch, un o safloedd Cadw

Ffermio ar ôl 2020

Mae Carwyn Jones yn dweud bod ffermio yn "syllu ar ddyfodol" heb gymhorthdal ar ôl 2020.    

Mae'r Ceidwadwr Nick Ramsay yn dweud na ddylai taliadau ffermio presennol CAP - y polisi amaeth cyffredin -  fynd trwy "mangl Barnett".

Ffermio
Getty Images

Rheoli mewnfudo

Mae arweinydd UKIP Neil Hamilton yn dweud nad yw Llafur yn credu mewn rheolau mewnfudo.

Mae'r Prif Weinidog yn dweud y byddai croeso iddo fe os y byddai'n dewis byw yng Nghymru.

Mae Mr Hamilton, AC Canolbarth a Gorllewin Cymru, yn byw yn Wiltshire.   

Mae Bwrdd Taliadau Annibynnol y Cynulliad yn ystyried newid yn y rheolau i ganiatáu i aelodau Cynulliad i hawlio dros £8,000 am dreuliau llety yng Nghaerdydd os ydyn nhw'n byw yn Lloegr.

Neil Hamilton
BBC

Apwyntiadau ar ôl 6pm

Mae Paul Davies yn dweud mai dim ond 29% o feddygfeydd yng Nghymru sy'n cynnig apwyntiadau ar ôl 6pm - gan ddweud nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwella hyn.

Mae'r Prif Weinidog yn dweud nad yw'n gwybod lle mae Mr Davies wedi cael y ffigyrau hyn, ac yn dweud bod realiti yn wahanol.

Mae Mr Davies yn dweud nad oes yna bellach unrhyw dargedu ar fynediad i feddygfeydd teulu. 

Mae Mr Jones yn dweud eu bod wedi cyflawni a bod ffigyrau'r Ceidwadwr yn anghywir.

Gwasnaethau meddygon teulu allan o oriau

Mae Paul Davies yn gofyn am wasanaethau meddygon teulu allan o oriau.

Mae Carwyn Jones yn dweud mai polisi Llywodraeth y DU nawr yw i atal meddygon rhag symud yma.

Paul Davies
BBC

Dim 'cig eidion gorau' yn y Siambr

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies yng Nghynhadledd y Ceidwadwyr yn Birmingham, ac mewn araith yno ar Brexit, fe gymysgodd ei eirau gan ddweud y byddai'r Ceidwadwyr yn gwneud llwyddiant o "frecwast". 

Yn y Senedd heddiw felly mae Paul Davies yn cymryd lle'r dyn wnaeth unwaith ddisgrifio'i hun fel "19 stôn o'r cig eidion gorau".

Amser teithio

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn gofyn am amser teithio o Aberdaron i Ysbyty Glan Clwyd.

Mae'r aelodau'n cymeradwyo wrth i Mr Jones ddweud yr amser cywir yn fras (2 awr). 

Leanne Wood
BBC

Cludiant 'Metro' ar gyfer ardal Abertawe?

Mae Mr Jones yn awgrymu y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych ar gludiant "Metro" ar gyfer ardal Abertawe yn y dyfodol.

Y cais yn fater i gynghorau lleol

Mae'r Prif Weinidog yn pwysleisio bod y cais ar gyfer Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn fater i gynghorau lleol i'w wneud gyda'i gilydd, er bod Llywodraeth Cymru yn helpu.

Carwyn Jones
BBC

Croeso

Croeso i Senedd Fyw sy'n darlledu'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Mae'r sesiwn fel arfer yn dechrau gyda chwestiynau i'r Prif Weinidog, Carwyn Jones.  

Mae'r cwestiwn cyntaf heddiw gan Mike Hedges: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Ddinas-ranbarth Bae Abertawe?  

Fe gafodd Bae Abertawe ei lansio yn "dinas-ranbarth" cyntaf Cymru yng Ngorffennaf 2013 mewn ymgais i hybu buddsoddiad a chreu swyddi.

Mae'r rhanbarth yn cynnwys Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Chastell Nedd a Phort Talbot. 

Y Senedd
BBC