a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

Diolch a hwyl fawr

BBC Cymru Fyw

Cofiwch am uchafbwyntiau'r gêm ar S4C heno am 22:30, a diolch i chi am ddarllen ein llif byw. Canlyniad siomedig, ond ymlaen i'r nesa'....C'MON CYMRU!!

Cyfadde' gwendid

Sky Sports

Mae rheolwr Cymru Chris Coleman wedi siarad ar deledu Sky gan gyfadde' nad oedd Cymru'n haeddu ennill heno. Dywedodd hefyd bod ildio dau bwynt yn siomedig, ond nad oedd hynny'n ddiwedd y byd wrth edrych ymlaen at ymweliad Serbia ym mis Tachwedd.

coleman
BBC

Cymru'n dal ar y brig...am y tro

BBC Cymru Fyw

Dydd Sadwrn, 12 Tachwedd, fydd hi nesa i Gymru, a hynny yn ôl yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn erbyn Serbia.

Mae Cymru ar frig Grŵp D, ond go brin y byddan nhw erbyn diwedd y nos wrth i Serbia ac Awstria herio'i gilydd tra bod Gweriniaeth Iwerddon yn wynebu Moldofa.

'Di-ddychymyg'

Marc Lloyd Williams

"Georgia wedi haeddu pwynt yma heno hefo'u perfformiad yn yr ail hanner. Cymru wedi cymryd nhw rhy hawdd, a heb ddangos digon o ddychymyg i dorri nhw lawr am yr ail gôl ."

'Ddim yn ddigon da'

Sky Sports

Wrth siarad ar deledu Sky Sports, mae David Edwards wedi cyfadde' nad oedd Cymru'n ddigon da am fwyafrif y gêm heno.

Cymru'n lwcus efallai?

Twitter

Canlyniad siomedig

Twitter

Robert yn ei dweud hi fel y mae!

'Rhaid gwneud mwy'

Marc Lloyd Williams

"Mae'r canlyniad yma am rhoi mwy o bwysau ar y garfan i guro Serbia mis nesaf, ond os ydi nhw am eu curo rhaid dangos mwy yn mynd ymlaen."

Cymru 1-1 Georgia

Chwiban Olaf

Mae hi ar ben - ac wedi gorffen yn gyfartal.

Cymru 1-1 Georgia

Cwpan y Byd 2018

Eiliadau yn weddill a Georgia'n eilyddio er mwyn rhedeg y cloc i lawr - mae'n edrych fel gêm gyfartal!

Cymru 1-1 Georgia

Cwpan y Byd 2018

Pasn wych gan Ben Davies yn canfod Vokes yn y cwrt ond y blaenwr yn methu â'i rheoli.

Cymru 1-1 Georgia

Cwpan y Byd 2018

Mae'r 90 munud ar ben - fe fydd 3 munud yn cael eu hychwanegu

Cymru 1-1 Georgia

Cwpan y Byd 2018

Amddiffyn llac eto gan Gymru a Georgia'n ergydio - y bêl yn gwyro'n ffodus at Hennessey.

Cymru 1-1 Georgia

Cwpan y Byd 2018

Robson-Kanu.....! Yn troi yn y cwrt ac ergydio, ond y golwr yn arbed y tro hwn

Dim syniad!

Marc Lloyd Williams

"Cymru i weld wedi rhedeg allan o syniadau yma heno!"

Cymru 1-1 Georgia

Cwpan y Byd 2018

WWWWWWWWWWW Agos!! Bale a'r cynnig o bell, ac o fewn trwch blewyn i'r postyn...

Cymru 1-1 Georgia

Cwpan y Byd 2018

Cic rydd i Gymru, ac o fewn cyrraedd i Bale.....

Cerdyn Melyn i Kashia

Cerdyn Melyn

Cymru 1-1 Georgia

Cwpan y Byd 2018

Mae Ashley Williams yn gweiddi ar ei amddiffyn - dydyn nhw ddim yn hapus o gwbl, ac mae'n gic gornel i Georgia

Perygl

Marc Lloyd Williams

"Faint o rybydd ma Cymru angen, mae hi'n edrych fwy tebygol na Georgia neith gipio'r tri phwynt. Mae nhw yn cael gormod o amser o lawer tu allan i cwrt cosbi Cymru."

Dihangfa

Marc Lloyd Williams

"Dihangfa i Gymru, ddylsai Georgia wedi mynd ar y blaen, cyfle euraidd iddynt. Amser i Gymru sylweddoli fod nhw angen deffro  neu fydd Georgia yn cipio'r fuddugoliaeth!"

Cymru 1-1 Georgia

Cwpan y Byd 2018

Georgia'n taro'r trawst - mae'n edrych yn fwyfwy peryglus i Gymru fan hyn!!!

Cymru 1-1 Georgia

Cwpan y Byd 2018

Mae'n dal yn gyfartal....jyst! Georgia o fewn modfeddi i'r postyn gyda chynnig o 25 llath.

Cymru 1-1 Georgia

Cwpan y Byd 2018

Croesiad da gan Cotterill, ond y golwr yn cyrraedd cyn Gareth Bale.

Cymru 1-1 Georgia

Cwpan y Byd 2018

Cic rydd Cotterill yn canfod Emyr Huws, ond y golwr yn arbed ei beniad

Cerdyn Melyn i Okriashvili

Cerdyn Melyn

Cymru 1-1 Georgia

Cwpan y Byd 2018

Chwarter awr yn weddill - Hen Wlad Fy Nhadau'n atseinio o gwmpas Stadiwm Dinas Caerdydd - ond mae'n dal yn gyfartal gyda Chymru dirfawr angen gôl!

Cymru 1-1 Georgia

Cwpan y Byd 2018

Ergyd dda gan Bale - allan am gic gornel i Gymru

Cymru 1-1 Georgia: Eilydd

Cwpan y Byd 2018

Mae Emyr Huws ymlaen yn lle Joe Ledley - eilydd ola Cymru ar y cae

Cymru 1-1 Georgia

Cwpan y Byd 2018

Tafliad hir arall gan Gareth Bale, ond peniad Sam Vokes ymhell heibio'r postyn.

Cymru 1-1 Georgia: Eilydd

Cwpan y Byd 2018

David Cotterill yw'r ail eilydd i Gymru, a Neil Taylor yw'r dyn i adael y cae.

Cymru 1-1 Georgia

Cwpan y Byd 2018

Yr ymwelwyr yn cael cyfnod da eto ac fe allai hon fod yn agos tan y diwedd un - arhoswch gyda ni!

C'MON CYMRU!!

Gwell gan Gymru

Marc Lloyd Williams

"Tipyn gwell gan Gymru, a Bale yn ceisio anog y dorf i wneud mey o dwrw. Georgia methu delio a tempo Cymru ar hyn o bryd."

Cymru 1-1 Georgia

Cwpan y Byd 2018

Arbediad gwych gan Hennessey! Ergyd dda o 20 llath a'r golwr yn achub Cymru...

Cymru 1-1 Georgia

Cwpan y Byd 2018

Cyfle gwych arall! Cymru'n pwyso'n gyson nawr a chroesiad Gunter yn agos iawn i ben Bale...

Cymru 1-1 Georgia

Cwpan y Byd 2018

WAW! Cic rydd Gareth Bale yn gadael y golwr yn stond, ond filimetrau yn unig dros y trawst!

Cerdyn melyn i Gvilia o Georgia

Cerdyn Melyn

Canmol Coleman

Marc Lloyd Williams

"Da iawn Chris Coleman, rhoi Robson-Kanu ymlaen yn lle chwaraewr canol cae, dangos ei fwriad. Dangos ei fod ddim yn hapus a pwynt."

Cymru 1-1 Georgia

Cwpan y Byd 2018

Mae'r awyrgylch yn newid ychydig gyda'r dorf yn synhwyro bod angen hwb ar Gymru...mae'r swn yn codi!