a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Nodi 50 mlynedd ers trychineb Aberfan
  2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
  3. Blaenraglen Waith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
  4. Dadl ar Fesur Cymru Llywodraeth y DU
  5. Dadl Plaid Cymru ar lywodraeth leol
  6. Dadl y Ceidwadwyr: sefydlu senedd ieuenctid i Gymru
  7. Dadl Fer: Gwneud lobïo yng Nghymru yn fwy agored

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

Dyna ddiwedd y cyfarfod llawn. 

Bydd Senedd Fyw yn ôl wedi toriad yr hydref.

Senedd
BBC

Tryloywder ac atebolrwydd

Dywedodd  Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip Jane Hutt, "nid yw gweinidogion yn cyfarfod â lobïwyr masnachol". 

Ychwanega bod Llywodraeth Cymru yn "ymrwymedig i wneud tryloywder ac atebolrwydd i'r cyhoedd yn egwyddor sylfaenol o sut rydym yn gweithio."

Galw am gofrestr gorfodol o lobïwyr

"Rydw i'n honni bod 'arian ar gyfer mynediad' yn bodoli ym Mae Caerdydd" meddai Mr McEvoy, gan ddadlau bod cwmnïau lobïo masnachol yn cael eu talu i drefnu cyfarfodydd gyda gweinidogion y llywodraeth a swyddogion. 

Mae'n galw am ddeddfwriaeth i gynnwys cofrestr gorfodol o lobïwyr.

Neil McEvoy
BBC

Y Ddadl Fer

 Y pwnc a ddewiswyd gan Neil McEvoy ar gyfer y Ddadl Fer yw "gwneud lobïo yng Nghymru yn fwy agored."

Trueni

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn dweud ei fod yn "drueni nad yw llywodraeth y DU yn dangos y weledigaeth o gyflwyno setliad a fyddai'n fwy parhaol ac yn fwy gwydn."

Pumed Mesur Cymru?

Mae'r Cyn Ddirprwy Lywydd David Melding, Simon Thomas o Blaid Cymru a'r AC annibynnol Nathan Gill i gyd yn dweud y bydd y mesur yn ôl pob tebyg yn creu angen am bumed Mesur Cymru.

'Ansicrwydd cyfansoddiadol'

Yn ôl Huw Irranca-Davies, cadeirydd y pwyllgor, mae'n "anffodus bod y mesur hwn yn debygol o barhau yn hytrach na datrys ansicrwydd cyfansoddiadol."

Adroddiad y Gwasanaeth Ymchwil

Mesur Cymru

Nesaf yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ei ymchwiliad i Fesur Cymru Llywodraeth y DU. 

Mae perygl bydd cynlluniau i roi mwy o rym i'r Cynulliad yn gam yn ôl i'r broses ddatganoli, yn ôl y pwyllgor.

Bu newidiadau i Fesur Cymru wedi beirniadaeth y byddai rhai pwerau'n cael eu glastwreiddio, ond yn ôl y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, nid yw'r newidiadau'n ddigon i sicrhau setliad datganoli parhaol.

Pwrpas y Mesur yw diffinio'n gliriach pa lywodraeth sy'n gwneud beth.

Yn gynharach eleni, penderfynodd Swyddfa Cymru leihau'r rhestr o faterion sy'n cael eu cadw'n ôl yn San Steffan.

Mae'r Mesur yn rhoi'r hawl i'r Cynulliad godi trethi, a hynny heb yr angen am refferendwm ar y mater, yn ogystal â phwerau pellach mewn meysydd fel trafnidiaeth ac ynni.

Ond mae'r pwyllgor yn rhybuddio ei bod hi'n bosibl y bydd llywodraeth DU yn gorfod cyflwyno mesur newydd arall yn y dyfodol.

Pasiwyd Mesurau i datganoli pwer i Gymru o San Steffan ym 1998, 2006 a 2014
BBC
Pasiwyd Mesurau i datganoli pwer i Gymru o San Steffan ym 1998, 2006 a 2014

Pob plaid yn cefnogi

Mae pob plaid yn cefnogi'r cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu sefydlu senedd ieuenctid i Gymru.

Cefnogi creu Senedd Ieuenctid

Gosod y sylfeini

"Nid yw pobl ifanc yn bobl ifanc am byth, hwy yw'r bobl hŷn yfory," meddai Nick Ramsay.    

"Gadewch i ni fwrw ymlaen â'r gwaith o osod y sylfeini yma heddiw er mwyn sicrhau democratiaeth llawer iachach, mwy bywiog yng Nghymru."

Mae pobl ifanc o Gymru wedi ymuno mewn dadleuon yn Senedd Ieuenctid y DU yn Nhŷ'r Cyffredin
BBC
Mae pobl ifanc o Gymru wedi ymuno mewn dadleuon yn Senedd Ieuenctid y DU yn Nhŷ'r Cyffredin

'O mor drwm yr ydym ni'

Llais i bobl ifanc

Yn Nadl y Ceidwadwyr Cymreig nawr, maen nhw'n cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu sefydlu senedd ieuenctid i Gymru.

Roedd adroddiad yn 2014 wedi awgrymu mai dim ond 16% o bobl 18-24 oed fyddai’n pleidleisio mewn etholiad, gyda hynny'n cynyddu i 58% pe bai ganddyn nhw farn gref am fater penodol.

Dywedodd Darren Millar, llefarydd y Ceidwadwyr ar addysg, mai bwriad cynnal y ddadl oedd “sicrhau bod plant a phobl ifanc Cymru’n cael y cyfle i leisio barn am faterion sydd o bwys iddyn nhw".

Aelodau o'r cynulliad ieuenctid y Ddraig Ffynci yn ymweld â'r Senedd yn San Steffan
y Ddraig Ffynci
Aelodau o'r cynulliad ieuenctid y Ddraig Ffynci yn ymweld â'r Senedd yn San Steffan

'Bwrdeistref bydredig'

Mae Gareth Bennett UKIP yn tynnu nôl ei sylw am "y sgandal cyflogau ym mwrdeistref bydredig Lafur yng Nghaerffili" ar ôl i Hefin David alw arno i wneud hynny.

Gareth Bennett
BBC

Craffu ar y Gyllideb Ddrafft

Cyllid teg?

Mae'r Ceidwadwr Janet Finch-Saunders yn galw am "sicrhau bod awdurdodau gwledig yn cael cyllid teg sy'n gyfartal i bob cymuned ledled Cymru," a "gwella tryloywder o ran cyllidebu uwch staff awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod cyflogau swyddogion gweithredol yn gynaliadwy ac yn gosteffeithiol."  

Dadl Plaid Cymru

Mae Sian Gwenllian yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

(a) cynyddu atebolrwydd llywodraeth leol drwy ddiwygio trefniadau etholiadol a gostwng yr oedran pleidleisio i 16;

(b) archwilio'r ffordd y gellir diwygio cyllid llywodraeth leol i sicrhau system decach a mwy cynaliadwy;

(c) cyflwyno cyfres o gyfraddau, telerau ac amodau cyflog a gaiff eu penderfynu'n genedlaethol, i reoli cyflogau swyddogion uwch a phrif swyddogion drwy fframwaith cenedlaethol; a

(d) sefydlu awdurdodau cyfunol rhanbarthol fel rhan o ymdrech Llywodraeth Cymru i ddiwygio llywodraeth leol ar gyfer gwella cydweithrediad rhanbarthol rhwng awdurdodau lleol presennol.

gwasanaethau cynghorau
Thinkstock/PA/BBC

'Pryderon difrifol'

Mae cadeirydd y pwyllgor, John Griffiths yn mynegi "pryderon difrifol" ynghylch galwad AS Mynwy David Davies am brofi oedran ffoaduriaid sy'n dod i Brydain drwy'r defnydd o brofion dannedd.

Roedd Mr Davies wedi dweud ei bod hi'n "bwysig iawn i sicrhau bod y rheiny sy'n dod yma yn blant yn hytrach nac oedolion".  

'Anhygoel o ofnadwy'

Dywedodd Julie Morgan ei bod yn siomedig y bore yma i glywed galw am brofi oedran ffoaduriaid sy'n dod i Brydain drwy'r defnydd o brofion dannedd, wrth i'r broses o ailgartrefu plant fu'n byw yng ngwersyll ffoaduriaid 'Y Jyngl' yn Calais gychwyn.

Mae'n disgrifio yr alwad fel un "anhygoel o ofnadwy." 

Un o'r ffoaduriaid
PA
Un o'r ffoaduriaid

Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Mae'r aelodau nawr yn trafod Blaenraglen Waith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau gan gynnwys Ffoaduriaid, Ceiswyr Lloches a Phlant ar eu Pen eu Hunain.  

Cefnogaeth ar gyfer sefydlu Senedd Ieuenctid

Gofynnodd Lynne Neagle pa gynlluniau sydd gan y Comisiwn i ddatblygu senedd ieuenctid i Gymru.

Atebodd y Llywydd, "rwyf am weld senedd ieuenctid yn cael ei sefydlu'n gynnar yn nhymor cyfredol y Cynulliad.

“Rydym wedi bod yn gweithio gyda'r Comisiynydd Plant ac Ymgyrch Cynulliad Pobl Ifanc Cymru (CYPAW) ar y ffordd orau ymlaen."

Pwy sy'n gwario biliynau Prydain?

Gofynnodd Joyce Watson a welodd y gweinidog y rhaglen ddogfen ar BBC2 neithiwr oedd yn ymchwilio i waith ymgynghorwyr i gynghorau lleol ar draws y DU, "Pwy sy'n gwario biliynau Prydain?", oedd yn cynnwys nifer o gynghorau Cymru.

Atebodd Mr Drakeford, "Ni welais y rhaglen, treuliais y noson yng nghwmni fy ffeil o gwestiynau."

Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd

Gofynnodd Simon Thomas i'r gweinidog gadarnhau pa gyllid fydd ar gael ar gyfer gweddill y rhaglenni Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd o 2014 tan 2020.

Atebodd Mr Drakeford, "dros oes y rhaglenni o 2014 i 2020, mae tua £1.9 biliwn ar gael drwy gronfeydd strwythurol Ewrop yng Nghymru.

 "Mae £855 miliwn wedi'i ddyrannu, sef 44%, ac yr wyf yn disgwyl gallu defnyddio'r biliwn sydd ar ôl ond mae ein gallu i wneud hynny yn dibynnu ar amserlen llywodraeth y DU ar gyfer gadael yr UE."

Mark Drakeford
BBC

Fformiwla gyllido

Dywed Mark Drakeford bod y fformiwla gyllido ar gyfer llywodraeth leol yn cael ei diwygio bob blwyddyn, ac mae'n seiliedig ar farn arbenigwyr a gwleidyddion.

Gwariant cyfalaf awdurdodau lleol

Mae'r cwestiwn cyntaf a gyflwynwyd i'r Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford, gan Angela Burns: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wariant cyfalaf diweddar awdurdodau lleol?

Yn y gyllideb ddoe, cyhoeddwyd lleihad yn yr arian sydd ar gael i gynghorau ei wario o ddydd i ddydd, ond cynnydd yn yr arian sydd ar gael ar gyfer prosiectau mawr.

Arian
PA

Teyrngedau

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn dweud, "Pwy fyddai wedi meddwl y gallai glo gymryd bywydau plant, mor sydyn ac uwchlaw'r ddaear."

Dywed arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood, "I'r rhai sydd agosaf at y digwyddiad, rhaid i chi wybod bod gennych ein cefnogaeth."

Mae arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies yn dweud ei fod yn "rhyfeddu at ddewrder aruthrol ac ysbryd cymunedol trigolion  Aberfan."

Cyfeiriodd Neil Hamilton UKIP at ei dad, sef prif beiriannydd yn y bwrdd glo, a helpodd gyda'r gwaith achub.

Urddas pobl Aberfan

Mae Dawn Bowden, yr AC dros Ferthyr Tudful a Rhymni, etholaeth sy'n cynnwys Aberfan, yn dweud "ni fydd y rhai a gollwyd yn cael eu hanghofio" .

Mae hi'n rhoi teyrnged i urddas pobl Aberfan "am bopeth a wnewch dros eich gilydd ac am gof y rhai a gollwyd."

'Gallu gobaith i orchfygu'

Mae'r Llywydd Elin Jones yn dweud bod "gwydnwch cymuned Aberfan yn wyneb trallod yn dyst i allu gobaith i orchfygu hyd yn oed mewn trychineb".

Prynhawn da

Mae'r cyfarfod llawn yn dechrau trwy nodi 50 mlynedd ers trychineb Aberfan.  

Ar 21 Hydref 1966 cafodd 144 o bobl eu lladd pan lithrodd tomen lo i lawr mynydd a chladdu ysgol gynradd a deunaw o dai ym mhentref Aberfan. O'r rheiny fu farw, roedd 116 yn blant rhwng saith a deg oed.  

Dyma drychineb Aberfan mewn lluniau

Aberfan
PA