a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Cyfarfod Llawn am 1.30pm gyda chwestiynau i'r Prif Weinidog
  2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
  3. Datganiad ar Fesur Iechyd y Cyhoedd
  4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Ymyrraeth ynghylch Erthygl 50
  5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Y Cynnig Gofal Plant i Gymru
  6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: Cymru Hanesyddol
  7. Datganiad: Nodi Dydd y Cofio a Chefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog
  8. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Cymru o Blaid Affrica

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

A dyna ni am heddiw. 

Mae'r aelodau wedi penderfynu gohirio datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething: Cymru o Blaid Affrica.

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.

Y Senedd
BBC

'Peidio â byth anghofio'

Mae Carl Sargeant yn dweud "ei bod yn bwysig peidio â byth  anghofio'r rhai dewr hynny a aberthodd eu bywydau i ddiogelu'r rhyddid sydd gennym heddiw."

Mae'n ychwanegu "Eleni rydyn ni'n wedi coffáu rhai o frwydrau mwyaf y Rhyfel Byd Cyntaf.  Rydyn ni'n cofio'r rhai hynny a gollodd eu bywydau yn Jutland ac yn ystod Brwydr y Somme, yn enwedig yng Nghoed Mametz; roedd miloedd o ddynion milwrol o Gymru wedi gwneud yr aberth fwyaf.

“Drwy ein Rhaglen Lywodraethu, rydyn ni wedi ymrwymo i barhau i ddarparu cymorth a gwasanaethau i gymuned bresennol ein Lluoedd Arfog.”

Y Cofio
BBC

Nodi Dydd y Cofio a Chefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog

Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad arall gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Nodi Dydd y Cofio a Chefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog. 

Dydd y Cofio
BBC

Cynlluniau Cymru Hanesyddol ym maniffesto Llafur?

Trydar Ceidwadwyr Cymru

Ofnau ynghylch creu corff treftadaeth newydd yn 'ddi-sail'

Mae Ken Skates yn dweud nad oes unrhyw sail i bryderon sydd wedi codi am gorff treftadaeth newydd, Cymru Hanesyddol.

Mae'n ychwanegu y byddai'r corff newydd yn darparu "ffocws mwy miniog i waith masnachol ein sefydliadau cenedlaethol."

Dyw'r "status quo ddim yn opsiwn," meddai.

Ken Skates
BBC

Cymru Hanesyddol

Yr eitem nesaf yn y Siambr yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates: Cymru Hanesyddol.

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried uno rhannau masnachol Amgueddfa Genedlaethol Cymru a chorff Cadw dan faner Cymru Hanesyddol.

Ym mis Hydref fe wnaeth pennaeth Amgueddfa Genedlaethol Cymru David Anderson rybuddio y gallai'r cynllun fod yn rhwystr i'r amgueddfa a'i fod yn poeni am effeithiolrwydd os yw'r uno'n digwydd. 

Fe wnaeth cyn gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, Dai Smith, hefyd ddweud ei fod yn pryderu am y cynllun.  

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
BBC

'Llawer o gymhlethdodau'

Mae Mr Sargeant yn cyfaddef bod "llawer o gymhlethdodau..." wrth gyflwyno'r polisi gofal plant yma.

Y Llywodraeth yn hyderus y gall ariannu'r addewid

Mae Mr Sargeant yn dweud bod y llywodraeth yn hyderus y gall hi ariannu yr addewid i ymestyn gofal plant am ddim trwy Gymru erbyn 2021.

Mae'n dweud bod y llywodraeth yn trafod gyda'r sector gofal i sicrhau bod digon o ddarpariaeth.

Allai costau gynyddu?

Mae arweinydd y Ceidwadwyr  Andrew RT Davies yn galw am sicrwydd ynghylch y gyllideb ar gyfer y polisi.

Mae yna honiadau wedi bod y gallai costau'r polisi gynyddu o £84m y flwyddyn fel yr awgrymwyd gan Lafur adeg Etholiad y Cynulliad.

Pum prosiect peilot

Bydd pum prosiect, yn cynnig 30 awr yr wythnos o addysg y blynyddoedd cynnar a gofal plant am ddim i blant 3 oed a 4 oed, yn cael eu treialu mewn lleoliadau penodol ardaloedd Ynys Môn, Gwynedd, Sir Fflint, Abertawe, Rhondda Cynon Taf a Blaenau Gwent o fis Medi 2017 ymlaen. 

Bydd Gwynedd ac Ynys Môn yn gweithio ar brosiect ar y cyd. Bydd ardaloedd eraill a fydd yn mabwysiadu'r cynnig yn cael eu hychwanegu wrth i'r gwaith i dreialu'r cynllun fynd rhagddo. 

Wrth siarad yn y Siambr mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud “Un o'r pryderon y mae rhieni sy'n gweithio wedi'i godi dro ar ôl tro yw cost gofal plant, a'r effaith y mae hynny'n ei gael arnyn nhw, ar eu harian, ac ar ansawdd eu bywyd."

Gofal plant
PA

Blog Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad

Y Cynnig Gofal Plant i Gymru

Nesaf datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant: Y Cynnig Gofal Plant i Gymru. 

Mae gweinidogion yn bwriadu cynnig 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim am 48 wythnos y flwyddyn i rieni plant tair a phedair oed sy'n gweithio.

Bydd y cynllun peilot yn cael ei gyflwyno mewn rhai cynghorau o Hydref 2017.

Gofal Plant
BBC

Dim hawl gan ACau i feirniadu ynadon a barnwyr?

Band Eang Cyflym Iawn: Y camau nesaf

Nawr datganiad gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: Band Eang Cyflym Iawn: Y camau nesaf.

Ddoe fe wnaeth hi gyhoeddi buddsoddiad o £80m mewn cynllun newydd i sicrhau bod pob cartref a busnes yng Nghymru yn gallu cael cyswllt band eang cyflym.

Bwriad y cynllun fydd dilyn rhaglen Cyflymu Cymru gwerth £425m, sydd yn ceisio sicrhau cyswllt cyflym i 96% o adeiladau erbyn diwedd 2017.

Mae gweinidogion yn gobeithio derbyn £20m o gymorth ariannol o'r Undeb Ewropeaidd, a chodi £37m wrth fuddsoddi eu cyfran nhw o elw BT o gwsmeriaid newydd.  

Band eang
Thinkstock

'Y Cynulliad wedi dod i oed'

Mae'r aelod Annibynnol Dafydd Elis-Thomas yn dweud bod y "Cynulliad wedi dod i oed yn gyfansoddiadol, yn gyfreithiol ac ym mhob modd arall ar y mater."

Dafydd Elis-Thomas
BBC

Ymgais i 'ddychryn' barnwyr

Mae Mr Antoniw yn dweud wrth aelodau'r Cynulliad bod cais arweinydd UKIP Nigel Farage i gynnal gorymdaith ar yr un diwrnod ag achos Erthygl 50 yn y Goruchaf Lys yn ymgais i "ddychryn" barnwyr.

Mae Mr Farage wedi rhybuddio am brotestiadau ar y strydoedd os y bydd y penderfyniad o blaid Brexit yn cael ei anwybyddu.

Arwydd Brexit
Thinkstock

Defnydd o’r pŵer uchelfreiniol

Yn ôly Cwnsler Cyffredinol mae'r dyfarniadau yn codi cwestiynau ynglŷn â’r defnydd o’r pŵer uchelfreiniol i gymryd camau a fydd yn effeithio, neu a all effeithio, ar y canlynol:

  • cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
  • pwerau Gweinidogion Cymru;
  • y berthynas gyfreithiol a’r berthynas gyfansoddiadol rhwng y Cynulliad a Senedd y Deyrnas Unedig;
  • y berthynas gyfreithiol a’r berthynas gyfansoddiadol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig;
  • yr effaith gymdeithasol a’r effaith economaidd ar Gymru.

Cwestiynau o 'bwysigrwydd mawr'

Mae Mr Antoniw yn dweud bod y dyfarniad wedi codi cwestiynau sydd o "bwysigrwydd mawr" ynghylch y fframwaith cyfreithiol ar ddatganoli, ac mae'n cynnig "gweithredu i ymyrryd mewn unrhyw apêl gerbron y Goruchaf Lys."

Mae'n ychwanegu bod rhai adroddiadau papurau newydd am ddyfarniad yr Uchel Lys yn "warthus ac yn sarhau enw da newyddiaduaeth."

Mr Antoniw yw prif ymgynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cymru a fe yw aelod Llafur Pontypridd.

Mick Antoniw
BBC

Ymyrraeth ynghylch Erthygl 50

Nesaf datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw: Ymyrraeth ynghylch Erthygl 50.

Yr wythnos ddiwethaf fe ddaeth yr Uchel Lys i'r casgliad nad oes gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y pŵer i roi rhybudd o dan Erthygl 50 y bydd yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd gan ddefnyddio uchelfraint y Goron. 

Baneri Cymru a'r Undeb Ewropeaidd
BBC

'Cheap date'

Fe gafodd y mesur gwreiddiol ei drechu ym mis Mawrth yn dilyn penderfyniad munud olaf gan Plaid Cymru i'w wrthwynebu.

Roedd ACau Plaid Cymru yn gandryll ar ôl i'r cyn weinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews ddisgrifio Plaid fel "cheap date" wrth gyfeirio at gytundeb blaenorol rhyngddynt a'r blaid Lafur.

Ail ymgais i gyflwyno Mesur Iechyd y Cyhoedd

Am yr awr nesaf mae'r aelodau'n gwrando ar ddatganiad gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans ar Fesur Iechyd y Cyhoedd (Cymru). 

Mae'n cynnwys gwahardd smygu ar dir ysgolion, ysbytai ac mewn meysydd chwarae cyhoeddus yng Nghymru, ond wrth ailgyflwyno'r mesur dyw'r ddeddfwriaeth ddim yn cynnwys cynnig dadleuol i wahardd defnyddio e-sigarennau mewn rhai mannau cyhoeddus sydd dan do.

Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru, gafodd eu hamlinellu gyntaf yn 2014, yn cynnwys rheoliadau yn ymwneud a thatŵau ac yn gwahardd tyllu rhannau personol o gorff unrhyw unigolyn dan 16 oed.  

Fe fydd cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gorfod asesu sut bydd eu penderfyniadau yn effeithio ar iechyd corfforol a meddwl unigolion. 

Er enghraifft os oes cynllun i adeiladu heol newydd neu leoli bwyty prydau parod ger llaw ysgol, yna fe fyddai'n rhaid i gynghorau ystyried yr effaith ar iechyd.  

Arwydd dim ysmygu
BBC

Prif Weinidog Theresa May ddim yn cyfarfod Tata

Mae Bethan Jenkins Plaid Cymru, yn ogystal â Jane Hutt, yn beirniadu'r Prif Weinidog Theresa May am beidio â chyfarfod Tata tra ar ymweliad ag India.

Yn ystod yr haf fe wnaeth Cwmni Dur Tata roi'r gorau am y tro i gynlluniau i werthu eu busnes yn y DU.

Mae'r cwmni yn cyflogi bron i 7,000 o weithwyr yng Nghymru, gan gynnwys dros 4,000 yn eu gwaith ym Mhort Talbot.

Mae Mrs May yn Delhi i baratoi'r ffordd ar gyfer cytundeb masnach cynta'r DU ers Brexit.

Mae Theresa May wedi dweud wrth newyddiadurwyr na fydd hi nawr yn gallu cwrdd â Tata
Getty Images

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Nawr y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes pan mae Arweinydd y Tŷ, Jane Hutt yn amlinellu busnes y Cynulliad ar gyfer y dyfodol agos.

Jane Hutt
BBC

Dim rhybudd o gyhoeddiad

Mae Carl Sargeant yn dweud na chafodd rybudd o flaen llaw am gyhoeddiad Llywodraeth y DU ddoe am y cynlluniau i gau barics yng Nghymru.

Carl Sargeant
BBC

Cwestiwn Brys

Nesa cwestiwn brys i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant.

Mae Eluned Morgan yn gofyn pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael â Llywodraeth y DU yn sgil cyhoeddiad y Weinyddiaeth Amddiffyn ei bod yn bwriadu cau nifer o safleoedd yng Nghymru.

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn mynd i gau pencadlys Cymreig Byddin Prydain yn Aberhonddu, Powys yn 2027.

Mae barics wedi bod yn Aberhonddu ers 1805, medd yr AS lleol Chris Davies
Derek Harper

Mesur Cymru

Mae'r aelod Annibynnol Dafydd Elis-Thomas yn gofyn a yw'r Prif Weinidog "fawr callach" ar Fesur Cymru yn dilyn ei gyfarfod diweddaraf gydag Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns.

Mae Mr Jones yn dweud bod dal "gwaith i'w wneud" ar Fesur Cymru, a'i fod yn edrych ymlaen i weld ymateb Llywodraeth y DU i ddatblygiadau diweddar.

San Steffan a'r Senedd
BBC

'Ddim yn gwybod ble maen nhw'n byw'

Diogelu enwau lleoedd hanesyddol Cymru

Mae Dai Lloyd yn gofyn am ddiogelu enwau lleoedd hanesyddol Cymru trwy ddeddfwriaeth. Mae Carwyn Jones yn dweud bod y llywodraeth wedi ystyried hynny, ond yn dweud bod mwy o enwau yn cael eu newid o'r Saesneg i'r Gymraeg nag fel arall.

Ychwanegodd Mr Jones: "Fel rhywun sydd yn byw mewn tref lle mae yna broblemau enfawr ynglŷn â rhai strydoedd o achos y ffaith bod enwau’r strydoedd wedi bod yn Gymraeg ers degawdau, wedi cael eu cyfieithu yn amlwg yn wael i mewn i’r Saesneg, ac nid oes neb nawr yn gwybod lle maen nhw’n byw. Mae yna sawl enghraifft ym Mhen-y-bont ar Ogwr lle mae’r enwau Cymraeg i hewlydd wedi cael eu camsillafu, wedi cael eu camddehongli wedi hynny a’u cam-gyfieithu hefyd."

Cymorth gofal iechyd i gyn-filwyr

Mae Rhun ap Iorwerth, sy'n cynrychioli arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, heddiw yn gofyn beth mae'r llywodraeth yn ei wneud wedi i Gymdeithas y BMA ddweud bod y gefnogaeth gofal iechyd meddwl ar gyfer cyn-filwyr yn "anghyson". 

Mae'r Prif Weinidog yn dweud bod y llywodraeth eisioes yn cymryd camau i sicrhau bod gwasanaethau i drin cyn-filwyr yn y modd y maen nhw'n eu haeddu.

Rhun ap Iorwerth
BBC

Newid Hinsawdd

Mae Neil Hamilton UKIP yn dweud ei fod yn falch i weld y Prif Weinidog yn "dod tuag aton ni" ar doriadau i brosiectau newid hinsawdd.

Mae'r Prif Weinidog yn dweud bod tystiolaeth aruthrol bod newid hinsawdd yn digwydd.

Mae Mr Hamilton yn dweud bod y syniad y gellir sicrhau mwy o gyflenwad ynni trwy felinau gwynt yn nonsens.

tyrbin gwynt
PAUL GILHAM/GETTY IMAGES

Ailbrisio cyfraddau busnes

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn gofyn am farn y Prif Weinidog ar ailbrisiad cyfraddau busnes.

Mae Carwyn Jones yn dweud ei fod yn disgwyl i'r rhan fwyaf o gwmniau i weld gostyngiad yn eu gwerth trethiannol.

Andrew RT Davies
BBC

Y DU ar flaen y ciw?

Mae Mark Reckless UKIP yn awgrymu gyda'r oedi o ran trafodaethau masnach rhwng UDA a'r UE, gallai'r DU fynd "i flaen y ciw yna".

Mae'r Prif Weinidog yn dweud ei fod yn amau hynny.

Cau canolfan hamdden yn 'newyddion drwg iawn'

Mae'r Prif Weinidog yn dweud mai awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am ganolfannau hamdden.

Mae Mr Hamilton yn dweud y byddai'r cynllun arfaethedig i gau canolfan hamdden Trefyclo yn "newyddion drwg iawn".

Mae Mr Jones yn dweud bod yr awdurdod lleol wedi cael setliad ariannol gwell na'r disgwyl.

Mae'n ychwanegu "rydym wedi ei gwneud hi'n glir y dylai’r cyngor ystyried yn fanwl y posibilrwydd o gadw’r ganolfan ar agor. Os na, felly, ystyried sicrhau bod yna gyfle i’r gymuned i redeg y ganolfan ei hunan."    

Carwyn Jones
BBC

Canolfannau hamdden

Mae'r cwestiwn cyntaf heddiw gan Neil Hamilton: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi canolfannau hamdden yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?  

Gallwch weld y rhestr o'r cwestiynau sydd wedi eu cyflwyno fan hyn.

Croeso

Croeso i Senedd Fyw sy'n darlledu'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. 

Mae'r sesiwn fel arfer yn dechrau gyda chwestiynau i'r Prif Weinidog, Carwyn Jones.  

Y Senedd
Y Senedd