a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
  2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
  3. Datganiadau 90 Eiliad
  4. Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2017-18
  5. Dadl Plaid Cymru: Gweithwyr o dramor yn y GIG
  6. Dadl Plaid Cymru: Cynllun Pensiwn y Glowyr
  7. Dadl y Ceidwadwyr: Pobl hŷn
  8. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Tollau ar bontydd Hafren
  9. Dadl Fer: Gwerth Busnesau Bach a Chanolig i Economi Cymru
  10. Dadl Fer: Colli gwaith ymchwil y galon yn Ysgol Feddygol Caerdydd

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

Dyna ni am heddiw. 

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl dydd Mawrth nesaf 22 Tachwedd.   

Y Senedd
BBC

Dadl fer ar golli gwaith ymchwil y galon yng Nghaerdydd

Ac mae'r ail ddadl fer gan Julie Morgan.

Y pwnc: Colli gwaith ymchwil y galon yn Ysgol Feddygol Caerdydd.

Y llynedd fe gafodd cynlluniau i gwared â 63 o academyddion meddygol o ysgol feddygol fwya Cymru eu labeli yn"abswrd".

Julie Morgan
BBC

Dadl fer: Gwerth Busnesau Bach a Chanolig i Economi Cymru

Ac yn ola heddiw dwy ddadl fer. 

Mae'r cyntaf gan Hefin David. 

A'r pwnc: Gwerth Busnesau Bach a Chanolig i Economi Cymru.    

Hefin David
BBC

Cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei basio

Y bleidlais
BBC

Dychwelyd i ddwylo cyhoeddus

Mae Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates yn dweud y dylai'r tollau gael eu diddymu yn syth pan fydd pontydd Hafren yn dychwelyd i ddwylo cyhoeddus.

"Ddylai Llywodraeth y DU ddim gwneud elw o'r pontydd" meddai.

Ken Skates
BBC

'Ffyrdd gorlawn o draffig'

Mae aelod Llafur Llanelli Lee Waters yn dweud y byddai'r "llifddorau yn agor" os yw'r tollau yn cael eu diddymu, gan arwain at "ffyrdd gorlawn o draffig" o amgylch twneli Brynglas ac ar ffordd liniaru arfaethedig yr M4.

Mae'n credu y dylid cadw rhai tollau ar gyfer talu am welliannau mewn trafnidiaeth gyhoeddus fel prosiect Metro De Cymru.

Lee Waters
BBC

'Treth annheg' ar fodurwyr

Mae gwelliant Plaid Cymru yn galw am ddatganoli'r cyfrifoldeb dros bontydd Hafren pan maen nhw'n dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus, ac yn cefnogi diddymu tollau sy'n daladwy ar y croesfannau. 

Mae Llefarydd Isadeiledd y blaid Dai Lloyd yn dweud bod y tollau yn "dreth annheg" ar fodurwyr sy'n defnyddio'r pontydd yn gyson, ac yn "anfon y neges anghywir i fuddsoddwyr posib."

Dai Lloyd
BBC

Cadarnhau drwy gyllidebau presennol?

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn yn dweud y dylai defnydd o'r pontydd heb dollau fod yn "flaenoriaeth" os y gellir cadarnhau dyfodol hirdymor y ddwy bont drwy gyllidebau presennol heb unrhyw effaith ar brosiectau trafnidiaeth eraill ledled Cymru,

Gweithgaredd economaidd

Mae Mark Reckless UKIP yn dweud y byddai cael gwared â'r "dreth ychwanegol y mae pawb yn ei dalu am wneud busnes yng Nghymru" yn cael "effaith gadarnhaol" ar weithgaredd economaidd a hygyrchedd Cymru.

Mark Reckless
BBC

Cefndir

Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i yrwyr dalu o leiaf £6.60 i deithio o Loegr i Gymru.  

Yn 2017 fe fydd y ddwy bont yn dychwelyd i ddwylo Llywodraeth y DU, a'r llywodraeth honno fydd â chyfrifoldeb amdanyn nhw.

Mae Llywodraeth y DU wedi addo haneru cost y tollau pan fydd y pontydd yn dychwelyd i'w pherchnogaeth.  

Dadl ar ddiddymu tollau ar bontydd Hafren

Am yr awr nesa dadl gan UKIP ar bontydd Hafren, yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn cefnogi diddymu tollau ar bontydd Hafren ar ôl eu dychwelyd i'r sector cyhoeddus.  

Tollau Pont Hafren
BBC

'Oedi sy'n mynd ymlaen gyda Llywodraeth y DU'

Mae Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans yn atgoffa aelodau'r Cynulliad o ymrwymiad y llywodraeth i gynyddu'r terfyn cyfalaf i £50,000, a fydd yn galluogi rhagor o bobl yng Nghymru i gadw rhagor o'u hasedau pan fyddan nhw'n symud i ofal preswyl. 

Mae hi hefyd yn beirniadu yr "oedi sy'n mynd ymlaen gyda Llywodraeth y DU i ddiwygio trefniadau am dalu am ofal."

Rebecca Evan
BBC

'Gweithred statudol yn angenrheidiol'

Mae Gareth Bennett yn dweud bod UKIP yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr.

"Mae gweithred statudol yn angenrheidiol" meddai.

Gareth Bennett
BBC

'Angen i leisiau pobl hŷn gael eu clywed'

Mae Rhun ap Iorwerth ar ran Plaid Cymru yn dweud bod angen cefnogi gwaith Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru o weithio tuag at ymestyn a hyrwyddo hawliau pobl hŷn.

Mae hefyd yn cefnogi Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru o ran sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed mewn perthynas â chynllunio gwasanaethau cyhoeddus ac yn dweud bod angen  'adeiladu rhagor o dai â chymorth er mwyn ehangu dewis ac ategu gofal preswyl a sefydliadol.' 

Mae'n ychwanegu bod 'gweithio gyda chomisiynwyr yr heddlu a throseddau ac awdurdodau lleol i ddiogelu pobl hŷn rhag sgamiau, cam-werthu a ffyrdd eraill o ymelwad ariannol.'   

Rhun ap Iorwerth
BBC

Dadl ar bobl hŷn

Yr eitem nesaf yn y Siambr yw dadl gan y Ceidwadwyr Cymreig am bobl hŷn.  

Mae Paul Davies yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y cyfraniad pwysig a gwerthfawr a wneir i gymdeithas Cymru gan bobl hŷn.

2. Yn credu bod pobl hŷn yn haeddu urddas a pharch, yn ogystal ag annibyniaeth a'r rhyddid i wneud penderfyniadau am eu bywydau eu hunain. 

3. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i roi sicrwydd i bobl hŷn drwy roi cap ar gostau a diogelu £100,000 o asedion ar gyfer y rhai sydd mewn gofal preswyl i sicrhau nad yw pobl yn colli eu cynilion oes a'u cartrefi i gostau gofal. 

4. Yn nodi canfyddiadau adroddiad ar ddementia a gafodd ei gynhyrchu gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn tynnu sylw at yr anawsterau a gaiff pobl sydd â dementia o ran cael gafael ar wybodaeth, cymorth a gwasanaethau a all wneud gwahaniaeth mawr i'w bywydau. 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: 

(a) Cyflwyno Bil Hawliau Pobl Hŷn, i ehangu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn; 

(b) Rhoi dyletswydd ar gyrff y sector cyhoeddus i ymgynghori â phobl hŷn wrth wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau; ac 

(c) Sicrhau mai Cymru yw'r genedl gyntaf yn y DU sy'n ystyriol o ddementia.  

Pobl hŷn
BBC

Carwyn Jones wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU

Ar ran Llywodraeth Cymru mae Jane Hutt yn dweud bod y Prif Weinidog Carwyn Jones wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn cefnogi safiad Undeb Cenedlaethol y Glowyr (NUM) yn galw am adolygiad.

Cafodd cynnig Plaid Cymru ei basio heb welliant, felly mae aelodau'r Cynulliad wedi cefnogi yr alwad gan gyn-lowyr am adolygiad o'u trefniant pensiwn, gan ddadlau y dylen nhw gael cyfran uwch o arian gwarged.

Jane Hutt
BBC

'Taliadau bonws i aelodau'

Mae'r aelod Ceidwadol Paul Davies yn dweud bod "bodolaeth gwarant wedi galluogi'r ymddiriedolwyr i fuddsoddi mewn ffordd sydd wedi cynhyrchu gwargedion a thaliadau bonws, o ganlyniad, i aelodau."  

Paul Davies
BBC

Delio gyda'r anghyfiawnder

Mae Steffan Lewis Plaid Cymru yn dweud ei fod yn ceisio delio gyda'r anghyfiawnder sydd yn digwydd bob dydd o'r wythnos.

Credir bod tua 25,000 o lowyr yn derbyn y pensiwn yng Nghymru.  

Steffan Lewis
BBC

Cefndir

Ar hyn o bryd mae'r llywodraeth y DU yn cymryd 50% o'r arian dros ben o Gronfa Bensiwn y Glowyr (MPS) fel rhan o'u gwarant.

Yn ôl y llywodraeth mae'r pensiynau 30% yn uwch nag y bydden nhw petai'r gwarant hwnnw ddim yn bodoli.

Ond mae Undeb Cenedlaethol y Glowyr wedi galw am adolygu'r trefniant hwnnw, gan ddweud y dylai mwy o'r arian dros ben fynd i ymddiriedolwyr.

Ers 1994 mae Llywodraeth y DU wedi derbyn £3.35bn o'r cynllun.  

Glöwr
Getty Images

Dadl ar Gynllun Pensiwn y Glowyr

Nawr gan dadl arall gan Blaid Cymru ar Gynllun Pensiwn y Glowyr. 

Mae'r blaid yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 

1. Yn nodi bod adroddiadau yn datgan bod Llywodraeth y DU wedi derbyn £8 biliwn gan Gynllun Pensiwn y Glowyr (MPS), yn unol â threfniadau presennol sy'n golygu ei bod yn cael 50 y cant o warged MPS, ac yn nodi ymhellach bod Llywodraeth y DU wedi cael £750 miliwn mewn taliadau gwarged yn 2014 yn unig. 

2. Yn galw am adolygiad o'r trefniant rhannu gwarged 50/50 rhwng Llywodraeth y DU ac MPS, fel y caiff ei gefnogi gan Undeb Cenedlaethol y Glowyr. 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda gweinyddiaethau datganoledig eraill, ac arweinwyr lleol a rhanbarthol yn Lloegr, i sicrhau adolygiad Llywodraeth y DU o'r trefniadau gwarged MPS a cheisio sicrhau bod Llywodraeth y DU yn parhau i weithredu fel gwarantydd MPS. 

Glofa
ROGER TILEY

'Allwn ni ddim cau'r drws ar weithwyr o dramor'

Mae Angela Burns yn dweud "Allwn ni ddim cau'r drws ar weithwyr o dramor" ac mae'n ychwanegu nad oes ganddi fwriad i droi ei chefn ar nyrsys sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i'r Gwasanaeth Iechyd.   

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething yn galw ar Lywodraeth y DU i "sicrhau bod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn parhau i allu recriwtio gweithwyr gofal iechyd cymwys sydd wedi'u geni a'u hyfforddi dramor, os fydd angen, wedi i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, ac i edrych ar bob opsiwn i hyrwyddo hynny."

'Cyfundrefn trwydded waith a fisa'

Mae Neil Hamilton UKIP yn galw ar Lywodraeth Cymru "i gefnogi rheolau mewnfudo synhwyrol i'r DU, gan gynnwys cyfundrefn trwydded waith a fisa i lenwi'r bylchau sgiliau yn GIG Cymru."  

Neil Hamilton
BBC

Dadl ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru

Nawr y cyntaf o ddadleuon y prynhawn, hynny ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Mae Plaid Cymru yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 

1. yn cydnabod y cyfraniad sylweddol y mae gweithwyr o dramor wedi'i wneud i ofal a thriniaeth cleifion yn y GIG.

2. yn galw ar Lywodraeth Cymru, drwy negodi â Llywodraeth y DU, i sicrhau pwerau i gyhoeddi trwyddedau gwaith i wladolion o dramor weithio yn y GIG yng Nghymru.   

Nyrs
Getty Images

Cymeradwyo'r gyllideb

Mae'r aelodau yn cymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad 2017-18.

Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2017-18

Madredd

Mae Angela Burns yn dweud "Fe ddywedwyd wrth fy ngŵr i ddisgwyl y gwaethaf... mae madredd yn lladd mwy o gleifion bob blwyddyn na chanser y prostad,coluddyn a'r fron". 

Mae Russell George yn gwneud datganiad ar benblwydd geni John Roberts, Telynor Cymru.

Testun Rhun ap Iorwerth oedd lawnsiad Beiciau Gwaed Cymru yng Ngogledd Orllewin Cymru. Mae beicwyr yn dweud bod eu gwasanaeth yn gallu golygu'r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth.

Angela Burns
BBC

Datganiadau 90 Eiliad

Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar Ddatganiadau 90 Eiliad, lle mae tri aelod yn cael cyfle i godi materion amserol.

Cynllun Rhentu Doeth mewn 'anrhefn'?

Mae Mr Sargeant yn disgrifio honiad y Ceidwadwr Russell George bod cynllun Rhentu Doeth mewn "anrhefn" yn "sothach llwyr".

Mae'n dweud bod landlordiaid wedi cael blwyddyn i gofrestru ac na fyddai'n ymestyn y dyddiad cau.

Hyd yn hyn mae tua 50,000 allan o 130,000 o landlordiaid wedi cofrestru. 

Russell George
BBC
Russell George

Landlordiaid ac asiantau

Yn ôl y llywodraeth mae'n ofynnol i bob landlord preifat gofrestru eu hunain a'u heiddo. Os bydd landlord am reoli’r eiddo ei hun, rhaid iddo gael trwydded, dangos ei fod yn berson 'addas a phriodol' i gael trwydded, a dilyn hyfforddiant cymeradwy yn llwyddiannus. Neu, bydd modd i landlord benodi asiant trwyddedig i reoli'r eiddo ar ei ran.

Er mwyn cael trwydded, mae'n rhaid i landlordiaid sy'n rheoli eiddo ac asiantaethau gosod tai:

Mae gan landlordiaid ac asiantau tan 23 Tachwedd i gydymffurfio â'u rhwymedigaethau cyfreithiol heb orfod ofni camau cyfreithiol.

Allweddi tŷ
BBC

'Gwaith gwych' yn sefydlu'r gwasanaeth mabwysiadu cenedlaethol

Mae Michelle Brown UKIP yn gofyn beth y mae'r llywodraeth yn ei wneud i wella gwasanaethau mabwysiadu.

Mae Mr Sargeant yn dweud bod y llywodraeth flaenorol wedi "gwneud gwaith gwych" yn sefydlu'r gwasanaeth mabwysiadu cenedlaethol, ac fe fydd yn gwneud datganiad ar y gwasanaeth yn fuan.

Rhentu Doeth Cymru

Mae Bethan Jenkins Plaid Cymru yn gofyn am y cynllun Rhentu Doeth Cymru newydd sy'n mynnu bod unrhyw un sy'n gosod eiddo yng Nghymru yn cofrestru neu fod yn drwyddedig erbyn 23 Tachwedd.

Mae hi'n cwestiynu'r adnoddau sydd ar gael gyda "dim ond naw swyddog gorfodaeth" i daclo landlordiaid drwg.

Mae Mr Sargeant yn dweud bod cynnydd mawr wedi bod yn nifer y bobl sy'n cofrestru wrth i'r dyddiad cau agosáu.

Taclo tlodi plant

Mewn ymateb i gwestiwn gan Mark Isherwood ar daclo tlodi plant, mae Mr Sargeant yn dweud bod y llywodraeth wedi "deddfu i osod polisïau", trwy'r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

'Enghreifftiau gwych o weithio mewn partneriaeth'

Mae Mr Sargeant yn dweud bod yna "enghreifftiau gwych o weithio mewn partneriaeth" o fewn Cymunedau'n Gyntaf, ac yn ychwanegu y bydd yn gwneud datganiad ar y cynllun yn y flwyddyn newydd wedi'r ymgynghoriad presennol.. 

Mae Cymunedau'n Gyntaf yn gwario tua £30m bob blwyddyn, gyda mwy na £300m wedi ei wario ers iddo gael  ei lansio yn 2001.

Mae Mr Sargeant wedi dweud yn y gorffennol nad yw'n credu mai parhau i ganolbwyntio ar 52 o ardaloedd bach yw'r ffordd fwyaf effeithiol o gyflawni er lles Cymru.

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones eisioes wedi rhybuddio y byddai yna doriadau i rai o gynlluniau'r Llywodraeth er mwyn talu am flaenoriaethau newydd.

Carl Sargeant
BBC

Cymunedau yn Gyntaf

Mae'r cwestiwn cyntaf sydd wedi eu cyflwyno gan Suzy Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei werthusiad o weithio mewn partneriaeth o fewn Cymunedau yn Gyntaf. 

Suzy Davies
BBC

Croeso nôl

Mae'r Cyfarfod Llawn ar fin dechrau dechrau gyda chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant. 

Nôl am 1.30pm

"Clywsom eich rhwystredigaethau yn uchel ac yn glir" meddai cadeirydd y pwyllgor Lynne Neagle.

Mae'r aelodau bellach yn cyfarfod yn breifat. 

Fe fydd Senedd Fyw'n ôl am 1.30pm ar gyfer y Cyfarfod Llawn. 

Lynne Neagle
BBC

'Oedi'

Mae'r holl dystion yn tynnu sylw at yr "oedi" yn symud ymlaen gyda'r agwedd genedlaethol tuag at Eiriolaeth Statudol wedi golygu nad yw'r Fframwaith Safonau a Chanlyniadau Cenedlaethol diwygiedig eto ar gael ac i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ohono.

'Diffyg arweiniad gan Lywodraeth Cymru'

Mae Darren Millar yn dweud bod yna "ddiffyg arweiniad wedi bod gan Lywodraeth Cymru ar eiriolaeth" 

"Ydych chi'n cytuno bod nhw angen roced oddi tanyn nhw er mwyn cyflawni'r agwedd genedlaethol yr ydych chi yn ei gofyn amdani?"

Mae Sean O'Neill, Cyfarwyddwr Polisi - Plant yng Nghymru, yn ateb "Mae'r achos am newid wedi'i gyflwyno, dydyn ni ddim yn glir pam ei bod hi wedi cymryd blwyddyn i weld cynllun gweithredu".   

Sean O'Neill
BBC
Sean O'Neill

'Llawer mwy o bobl angen y gwasanaeth'

Mae Jackie Murphy, Prif Weithredwr - Tros Gynnal Plant, yn dweud "yn 2002 rydyn ni'n amcangyfrif bod dros £2 filiwn yn cael ei roi i wasanethau eirioli yng Nghymru. Nawr dim ond ychydig o dan £1 filiwn sy'n cael ei roi, er bod llawer mwy o bobl angen y gwasanaeth."

Jackie Murphy
BBC

Gwasanaethau Eirioli Statudol

Mae'r pwyllgor nawr yn cynnal ymchwiliad i Wasanaethau Eirioli Statudol. 

Yn 2011 fe wnaeth y Comisynydd Plant gyhoeddi adolygiad i wasanaethau eirioli annibynnol a phroffesiynol ar gyfer plant a phobl ifanc mewn gofal, y rheini sy'n gadael gofal a phlant mewn angen. Fe gafodd adroddiad y Comisiynydd "Lleisiau Coll" ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2012.

Tystion
BBC