Crynodeb

  1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
  2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
  3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad
  4. Datganiadau 90 Eiliad
  5. Dadl gan Aelodau Unigol: Amaethyddiaeth
  6. Dadl y Ceidwadwyr: Y diwydiant manwerthu
  7. Dadl Plaid Cymru: Cyflogau yn y sector cyhoeddus
  8. Dadl Plaid Cymru: Canser
  9. Dadl Fer: Dyslecsia

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

Dyna ni am heddiw. 

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl dydd Mawrth nesaf 29 Tachwedd.   

Y Senedd
BBC

Dadl Fer: Dyslecsia

Ac yn olaf heddiw dadl fer gan Angela Burns

Y pwnc: Dyslecsia - Golwg gwahanol ar fywyd.

Mae Angela Burns yn darllen llythr gan blentyn sy'n byw gyda dyslecsia sy'n dweud "yr agwedd galetaf o fyw gyda dyslecsia oedd cydnabyddiaeth gan athrawon."

"Mae pobl sydd â dyslecsia yn gallu byw bywyd llwyddiannus iawn a bywyd llawn ond maen nhw angen cefnogaeth" medd Ms Burns.

Mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies, yn ei llongyfarch ar araith "wych".

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn diolch i "fy hen hyfforddwr Mr Wilson wnaeth fy helpu gyda fy dyslecsia i - os nad oedd wedi gwneud hynny, allwn i ddim sefyll fan hyn heddiw."

Dyslecsia
BBC

Pwyslais ar ganfod canser yn gynt

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething yn dweud bod yna bwyslais ar ganfod canser yn gynt fel y'i nodwyd yn y cynllun diwygiedig Cynllun Cyflawni Canser ar gyfer Cymru (2016-2020).

Mae'n dweud bod mwy o bobl nag erioed yn cael eu trin am ganser yng Nghymru a bod y cyfraddau goroesi yn uwch nag erioed o'r blaen, ac y bydd "Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y buddsoddiad ychwanegol mewn cyfarpar diagnostig a nodwyd yn y gyllideb ddrafft yn cael ei ddefnyddio i wella amseroedd aros a chanlyniadau triniaethau canser."

Vaughan Gething
BBC

'Methu'n wael pan mae'n dod i ddiagnosis cynnar'

Mae Caroline Jones UKIP yn dweud "rydyn ni'n methu'n wael pan mae'n dod i ddiagnosis cynnar.. Mae'n rhaid i ni wneud yn well."

Caroline Jones
BBC

Gwasanaeth cenedlaethol symudol trin canser

Mae'r aelod Ceidwadol Angela Burns yn galw ar Lywodraeth Cymru "i wella mynediad at wasanaethau sgrinio ledled Cymru gyfan drwy gydnabod y rôl y mae gwasanaeth cenedlaethol symudol trin canser yn ei chwarae o ran cefnogi'r rhai sydd â chanser, ynghyd â lleihau atgyfeiriadau i ofal eilaidd drwy wneud mwy o ddefnydd o dechnoleg ddiagnostig mewn meddygfeydd."  

Angela Burns
BBC

Dadl ar driniaethau canser

Mae Plaid Cymru yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod y tasglu canser annibynnol wedi galw am darged o 28 niwrnod ar gyfer diagnosis.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y buddsoddiad ychwanegol mewn cyfarpar diagnostig, a gafodd ei sicrhau gan Blaid Cymru yn nhrafodaethau'r gyllideb, yn helpu i gyrraedd y targed hwn. 

Canser
Science Photo Library

'Tôn ddinistriol a chynhennus y ddadl'

Mae'r Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford yn beirniadu "tôn ddinistriol a chynhennus" gafodd ei gosod gan Neil McEvoy. 

Mae'n nodi bod "gofynion y Ddeddf Democratiaeth Leol, sy'n cynnwys mesurau sydd wedi gwella tryloywder o ran sut y penderfynir ar gyflog uwch-swyddogion drwy ehangu pwerau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol."

Cyfyngiad gorfodol ar gyflogau deiliaid swyddi uwch?

Mae'r aelod Ceidwadol Janet Finch-Saunders yn galw ar Lywodraeth Cymru "i osod cyfyngiad gorfodol ar gyflogau deiliaid swyddi uwch i sicrhau bod awdurdodau lleol yn gorfodi uchafswm effeithiol ar gyflogau."

Mae hi hefyd eisiau i Lywodraeth Cymru i ystyried deddfwriaeth a gyflwynwyd yn awdurdodaethau eraill y Gymanwlad, sydd wedi corffori cyfrifoldebau prif weithredwyr llywodraeth leol yn y gyfraith, fel Adran 94 A o Ddeddf Llywodraeth Leol Awstralia 1989.  

Rhai prif weithredwyr yn ennill mwy na Phrif Weinidog y DU

Mae Neil McEvoy Plaid Cymru yn dweud ei bod hi'n "syfrdanol" bod rhai prif weithedwyr awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn ennill mwy na Phrif Weinidog y DU.

Neil McEvoy
BBC

Dadl ar gyflogau yn y sector cyhoeddus

Nawr dwy ddadl hanner awr gan Blaid Cymru.

Mae'r cyntaf ar gyflogau yn y sector cyhoeddus.

Mae'r blaid yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at y bwlch rhwng y gweithwyr a gaiff y cyflog uchaf a'r gweithwyr a gaiff y cyflog isaf yn awdurdodau lleol Cymru a'r sector cyhoeddus ehangach.

2. Yn nodi llwyddiant Plaid Cymru o ran gorfodi Llywodraeth Cymru i ddiwygio'r Ddeddf Democratiaeth Leol yn ystod y Pedwerydd Cynulliad i gynnwys mesurau sydd wedi gwella tryloywder o ran sut y penderfynir ar gyflog uwch swyddogion drwy sefydlu panelau taliadau annibynnol.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

(a) deddfu i gyflwyno cyfres o gyfraddau, telerau ac amodau cyflog a gaiff eu penderfynu'n genedlaethol, i reoli cyflogau uwch swyddogion a phrif swyddogion drwy fframwaith cenedlaethol a fyddai'n sicrhau tegwch i bob gweithiwr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru; a

(b) diffinio rôl prif weithredwyr awdurdodau lleol mewn deddfwriaeth a fyddai'n cynnwys diddymu taliadau ychwanegol i swyddogion cynghorau ar gyfer dyletswyddau swyddog canlynia

Arian
BBC

Trethi busnes yn codi tua £1bn y flwyddyn

Mae gan Lywodraeth Cymru y grym i osod lefel trethi busnes yng Nghymru, sy'n codi tua £1bn y flwyddyn.

Mae nhw wedi cyhoeddi cronfa £10m i helpu tua 7,000 o gwmniau bach sy'n wynebu codiad yn eu cyfraddau o ganlyniad i'r ail-brisio.

Costau parcio yn 'dreth uniongyrchol'

Mae David Rowlands UKIP yn dweud bod costau parcio car yn "dreth uniongyrchol" ar y stryd fawr.

Mae'n dweud bod cynnydd mewn taliadau parcio yng Nghasnewydd yn anodd i'w credu ac mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i "edrych eto ar beth allan nhw ei wneud i gael gwared â'r felltith yma ar y stryd fawr".

David Rowlands
BBC

Trethi busnes yn 'niwl o ansicrwydd'

Mae angen cael gwared â'r "niwl o ansicrwydd" sy'n wynebu busnesau bach, yn ôl adroddiad gan Bwyllgor Economi'r Cynulliad.  

Nid yw system o ad-daliadau dros dro sy'n ymestyn weithiau am ddeg mlynedd yn ddigon tryloyw, medd y pwyllgor.  

Cwestiwn arall oedd a oedd cwmniau mawr oedd â nifer o adeiladau yn hawlio ad-daliad busnesau bychain.

Mae ardrethi busnes wedi cael y bai am siopau stryd fawr gwag mewn lleoedd fel Casnewydd
JAGGERY/GEOGRAPH
Mae ardrethi busnes wedi cael y bai am siopau stryd fawr gwag mewn lleoedd fel Casnewydd

'Treth sy'n cosbi'r tlotaf'

Mae Adam Price Plaid Cymru yn disgrifio trethi busnes fel "treth sy'n cosbi'r tlotaf".

Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ehangu'r cymorth pontio sydd ar gael i fusnesau bach y mae gwaith ailbrisio ardollau annomestig 2017 wedi effeithio arnynt;

b) dileu ardrethi busnes ar gyfer pob busnes sydd â gwerth ardrethol o hyd at £10,000 y flwyddyn, a rhoi cymorth sy'n lleihau'n raddol i fusnesau sydd â gwerth ardrethol o rhwng £10,000 ac £20,000;

c) eithrio pob busnes rhag talu unrhyw ardrethi yn ystod eu blwyddyn gyntaf o fasnachu, er mwyn annog dechrau busnesau newydd; 

d) cyflwyno lluosydd hollt ar gyfer busnesau bach a mawr fel yn yr Alban a Lloegr; ac

e) archwilio disodli ardrethi busnes yn gyfan gwbl gan ffurfiau eraill o drethi nad ydynt yn rhwystro cyflogaeth, adfywio canol trefi a buddsoddi mewn gwaith a pheiriannau.    

Trethi busnes newydd yn dod i rym fis Ebrill nesaf

Mae trethi busnes yng Nghymru a Lloegr wedi eu hail-gyfrif, gyda tariffiau yn seiliedig yn bennaf ar faint fyddai eiddo yn costio i'w rentu.

Fe gafodd y trethu eu hamgangyfrif ddiwetha yn 2010 yn seiliedig ar brisiau 2008. Mae'r gyfradd newydd yn seiliedig ar brisiau 2015 ac fe fyddan nhw'n dod i rym fis Ebrill nesaf.  

Dadl ar y diwydiant manwerthu

Am yr awr nesaf mae yna ddadl gan y Ceidwadwyr Cymreig sy'n cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 

1. Yn cydnabod bod y diwydiant manwerthu yn cyflogi 130,000 o bobl yng Nghymru, ac yn gwneud cyfraniad allweddol i economi Cymru. 

2. Yn nodi mai cyfradd y siopau gwag yng Nghymru yw 14 y cant, a bod y gyfradd a ragwelir o ran cau siopau yn uwch yng Nghymru nag yn unman arall yn y DU dros y ddwy flynedd nesaf.

3. Yn gresynu nad yw Llywodraeth Cymru wedi defnyddio mesurau arloesol a chefnogol i gynorthwyo busnesau wrth bontio i drefniadau ailbrisio Asiantaeth y Swyddfa Brisio, gan adael busnesau Cymru i wynebu ardrethi uchel, ynghyd â system o ad-daliadau dros dro, a phroses araf o apeliadau. 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: 

a) dileu ardrethi busnes ar gyfer pob busnes sydd â gwerth ardrethol o hyd at £12,000, a rhoi cymorth sy'n lleihau'n raddol i'r rhai sydd â gwerth ardrethol o hyd at £15,000; 

b) gweithredu ffordd ragweithiol o ddiwygio'r system ardrethi busnes hynafol mewn ffordd radical, a gwneud Cymru yn genedl flaengar o ran mynd i'r afael â'r angen i ddarparu amgylchedd busnes mwy cefnogol; ac 

c) rhoi cap ar unwaith ar y lluosydd, a chynllun wedi'i amserlennu ar gyfer gostyngiad graddol mewn ardrethi.  

Manwerthu
Reuters

'Haen ddeallusol i'r cyfarfod'

Mae Neil Hamilton UKIP yn dweud "Fe hoffwn i longyfarch Lee Waters am ychwangu haen ddeallusol i'r cyfarfod."

"Mae fy nghyfraniadau i yn tueddu i borthi pen garw y farchnad rethregol," mae'n ychwanegu.

Dronau, robotiaid a lloerennau

Dadl gan Aelodau Unigol

Mae Lee Waters, Huw Irranca-Davies, a Simon Thomas yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 

1. Yn cydnabod manteision enfawr posibl cymhwyso 'data mawr' mewn amaethyddiaeth. 

2. Yn nodi'r twf o ran ymchwil a datblygu mewn amaethyddiaeth fanwl fel ffordd o gynyddu cynnyrch, gwneud y defnydd gorau o adnoddau prin a lleihau'r defnydd o gemegau niweidiol.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth i roi Cymru ar y blaen o ran datblygiadau amaethyddiaeth fanwl.    

Lee Waters
BBC
Lee Waters

Datganiadau 90 Eiliad

Ers Tachwedd 2 mae aelodau'r Cynulliad wedi cael y cyfle i godi materion amserol mewn datganiadau 90 eiliad yn y Cyfarfod Llawn.

Y Llywydd Elin Jones oedd wedi cynnig y cam, gafodd ei fabwysiadu gan y Pwyllgor Busnes ac mae'n golygu bod slot o bum munud bod prynhawn dydd Mercher i dri aelod Cynulliad wneud datganiad.

A'r pynciau heddiw:

Joyce Watson - Diwrnod Rhuban Gwyn 

Mark Isherwood - Cynllun strategol newydd Girlguiding Cymru bod ein Gorau

Julie Morgan - dadorchuddio plac glas ar gyfer Idloes Owen.

Fe wnaeth Julie Morgan ei datganiad yn gyfangwbl trwy gyfrwng y Gymraeg.

Julie Morgan
BBC
Julie Morgan

63 o ddamweiniau wedi eu cofnodi

Mae Joyce Watson, ar ran y Comisiwn, yn dweud bod chwedeg a thri o ddamweiniau wedi eu cofnodi. 

Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Nesa cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad.

Un cwestiwn sydd yna gan Mike Hedges: Faint o ddamweiniau a gofnodwyd a ddigwyddodd ar ystâd y Cynulliad ers mis Mai 2011? 

Mae ystâd y Cynulliad yn cynnwys y Senedd, gafodd ei hagor yn 2006, a'r Pierhead, sy’n adeilad hanesyddol ym Mae Caerdydd. Yn ogystal â’r ddau adeilad hyn, mae gan y Cynulliad ganolfan gwybodaeth i ymwelwyr ym Mae Colwyn a bws allgymorth sy’n ymweld â rhanbarthau gwahanol yng Nghymru  

Adeilad y Pierhead: 'Big Ben Cymru'
BBC
Adeilad y Pierhead: 'Big Ben Cymru'

'Holl bwysig buddsoddi mewn ffynonellau adnewyddadwy'

Mae Neil Hamilton UKIP yn dweud bod y Cyngor Diogelu Cymru Wledig wedi wfftio dibyniaeth ar ffynonellau ynni ysbeidiol fel gwynt fel rhywbeth "diwerth".

Mae Lesley Griffiths yn dweud yn sgil Cytundeb Paris "yr ydw i'n hapus i'w arwyddo... mae'n holl bwysig ein bod ni'n buddsoddi mewn ffynonellau adnewyddadwy."  

Neil Hamilton
BBC

'Brwdfrydig o blaid deddfwriaeth ond yn wael am weithredu'

Mae'r aelod Ceidwadol David Melding yn dweud bod "cyllidebau carbon wrth galon Deddf yr Amgylchedd a does dim eu disgwyl bellach tan ddiwedd 2018."

Mae'n dyfynnu Atal Anrhefn Hinsawdd Cymru, sy'n dweud bod gweinidogion ddim wedi cyflawni hyd yn hyn a bod WWF Cymru yn rhybuddio  am "fwlch uchelgais".

Mae Lesley Griffiths yn pwysleidio eu bod "wedi dechrau'r broses o gael ein cyllidebau carbon mewn trefn... Os allai gyflymu'r broses mewn unrhyw fodd fe wna i."

Mae Mr Melding yn ateb "Mae'r llywodraeth yma yn frwdfrydig o blaid deddfwriaeth ond yn wael am weithredu."

ynni
BBC

Gwariant cyfalaf ar amddiffynfeydd rhag llifogydd

Mae Simon Thomas Plaid Cymru yn dweud bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru yn cynnig 38% o doriadau mewn gwariant cyfalaf ar gyfer prosiectau lleihad newid hinsawdd ac amddiffynfeydd rhag llifogydd.

Wedi'r cyhoeddiad am arian ychwanegol yn Natganiad yr Hydref, mae'n gofyn "onid ddylech chi fod yn edrych i adfer ychydig o'r arian hynn ar gyfer cyllideb prosiectau cyfalaf ar gyfer amddiffyn rhag llifogydd?"

Mae Lesley Griffiths yn ateb "Mae llythr eisoes ar ei ffordd at fy nghyd-weithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol."

Simon Thomas
BBC

Mynediad i ganolfan ailgylchu o fewn pellter rhesymol

Mae Mr George yn dweud y dylai pobl person yng Nghymru gael mynediad i ganolfan ailgylchu o fewn pellter rhesymol.

Mae Lesley Griffiths yn ymateb drwy ddweud bod gan awdurdodau lleol "lefel uchel o ymreolaeth ar y mater" a'u bod nhw'n gallu adlewyrchu'r anghenion yn lleol. 

Ailgylchu
Getty Images

Cymhwyso Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yng Nghymru

Nawr cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Mae Russell George yn gofyn a wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymhwyso Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yng Nghymru? 

Lesley Griffiths
BBC

'Integreiddio agosach rhwng gofal iechyd a chymdeithasol'

Mae'r aelod Ceidwadol Janet Finch-Saunders yn cyfeirio at adroddiad y Sefydliad Iechyd ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, ac yn dweud bod yr adroddiad yn dweud bod angen i GIG gyflawni arbedion effeithlonrwydd o oleiaf £700m er mwyn cau'r bwlch cyllido arfaethedig erbyn 2019/20.

Mae hyn yn bron i 10% o wariant cyfredol y Gwasanaeth Iechyd.

Mae Mr Drakeford yn dweud "Rydw i'n rhannu teimladau'r aelod bod integreiddio agosach rhwng gofal iechyd a chymdeithasol yn dod â budd i gleifion a defnyddwyr a gall fod o gymorth i hybu effeithlonrwydd ariannol." 

Janet Finch-Saunders
BBC

'Amser i wario ar isadeiledd fwy nag erioed o'r blaen'

Mae Adam Price Plaid Cymru yn dweud "nawr yw'r amser i wario ar isadeiledd fwy nag erioed o'r blaen."

Mae Mr Drakeford yn dweud y dylai'r Canghellor "gydio yn yr angen brys hwn i fuddsoddi yn economi'r DU er mwyn achosi twf economaidd."

Mae'n ychwanegu na fydd £400m dros bum mlynedd "yn ateb y galw i Gymru.

"Dyw hynny ddim hyd yn oed yn ddechrau ar y gwaith o adfer y gostyngiad o draean yn ein rhaglen gyfalaf, rhywbeth yr ydyn ni wedi'i brofi ers 2010."  

Adam Price
BBC

Gyrwyr yn cael eu dirwyo am ddefnyddio lonydd bysiau

Mae Gareth Bennett UKIP yn awgrymu bod Cyngor Caerdydd wedi bod yn "rhy gosbol" gyda nifer y gyrwyr sy'n cael dirwy am ddefnyddio lonydd bysiau.

Mae Mr Drakeford yn dweud petai gyrwyr yn glynu at y rheolau fydden nhw ddim yn cael eu dirwyo. 

Gareth Bennett
BBC

Datganiad yr Hydref: £400m yn ychwanegol i Gymru

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn tynnu sylw at y ffaith y bydd Cymru yn cael £400m yn ychwanegol dros bum mlynedd i wario ar brosiectau cyfalaf wedi Datganiad yr Hydref cynta'r Canghellor Philip Hammond.

Mae Mr Drakeford yn dweud "Rydw i'n aros i weld manylion Datganiad yr Hydref cyn ymrwymo i unrhyw gynlluniau gwario."

Andrew RT Davies
BBC

Cydweithrediad ar draws 10 cyngor lleol

Mae Mr Drakeford yn dweud bod y cytundeb yn "dangos y buddion sy'n dod yn sgil cydweithrediad ar draws 10 awdurdod lleol." 

Mark Drakeford
BBC

Cytundeb Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Mae'r cwestiwn cyntaf gan Rhianon Passmore: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd presennol cytundeb Prifddinas-Ranbarth Caerdydd? 

Gallwch weld y rhestr o'r cwestiynau sydd wedi eu cyflwyno fan hyn. 

Fe gafodd y cytundeb gwerth £1.2bn ei arwyddo ym mis Mawrth eleni i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn y rhanbarth a dod â thwf economaidd dros yr 20 mlynedd nesaf.

Mae'n cynnwys £734m ar gyfer Metro De Cymru, ddylai wella sefyllfa teithio ar fws a thren yn y brifddinas a'r Cymoedd.

Mae disgwyl i'r Fargen, sy'n cynnwys 10 cyngor lleol, greu hyd at 25,000 o swyddi newydd a  dod â £4 biliwn yn ychwanegol o fuddsoddiad o'r sector preifat.

Caerdydd
BBC

Croeso i Senedd Fyw

Mae'r Cyfarfod Llawn yn dechrau gyda chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford.  

Y Senedd
Y Senedd