a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Cyfarfod Llawn am 1.30pm gyda chwestiynau i'r prif weinidog
  2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
  3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol: Y Mesur Treth Gwarediadau Tirlenwi
  4. Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Mesur Plant a Gwaith Cymdeithasol
  5. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2015-16
  6. Dadl: Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog Meddygol ar gyfer 2015-16

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

A dyna ni am heddiw. 

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.

Y Senedd
BBC

Dadl 'gydsyniol'

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething yn dweud bod y ddadl wedi bod yn "un gydsyniol mewn sawl ffordd".

Mae'n ychwanegu ei fod yn edrych ymlaen i weithio gydag aelodau i leihau yr anhegwch cymdeithasol y cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad.

Vaughan Gething
BBC

'Gormod o bobl yn marw cyn eu hamser'

'Amodau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ehangach'

Rhun ap Iorwerth sy'n cynnig yr unig welliant, sef ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn credu bod mynychder iechyd gwael mewn cymunedau tlotach, fel y nodir yn yr adroddiad, yn cael ei achosi gan amodau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ehangach ac na ellir ei feio'n unig ar ddewisiadau gwael a wneir gan unigolion, ac y dylai polisïau iechyd cyhoeddus adlewyrchu cyfrifoldeb y llywodraeth i fynd i'r afael â hyn, yn hytrach na chanolbwyntio ar ddim ond pregethu wrth bobl."   

Rhun ap Iorwerth
BBC

Marwolaethau babanod

Mae marwolaethau ymysg babanod wedi lleihau yn y blynyddoedd diwethaf yng Nghymru o ganlyniad i welliannau mewn gofal iechyd. Er hynny, yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig mae’r cyfraddau uchaf o farwolaethau ymhlith babanod newydd-anedig ac ifanc iawn – bron i 50% yn fwy nag yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. 

Mae'r rhan fwyaf o farwolaethau oherwydd cyflyrau sy'n gysylltiedig â beichiogrwydd a genedigaeth.

'Adfer cydbwysedd i ofal iechyd'

Mae thema'r adroddiad yn canolbwyntio ar adfer cydbwysedd i ofal iechyd - gweithio mewn partneriaeth i leihau anghydraddoldeb cymdeithasol. 

Mae'r graddiant cymdeithasol mewn iechyd meddid, yn golygu y gallai canlyniadau iechyd amrywio yn dibynnu ar ffactorau megis lle mae rhywun yn byw a faint maent yn ennill fel cyflog. 

Mae'r adroddiad yn canolbwyntio'n benodol ar ymchwilio'r effeithiau o raddiant cymdeithasol ar bobl Cymru, a beth y gellir ei wneud i ymdrin â hi. 

Dadl ar Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog Meddygol ar gyfer 2015-16

Ac yn olaf heddiw dadl ar Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog Meddygol ar gyfer 2015-16. 

Fe gafodd yr adroddiad ei baratoi gan Dr Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol a'r Athro Chris Jones, y cyn Brif Swyddog dros dro.  

Rhaglen waith yn y flwyddyn sydd i ddod

Yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, mae Sarah Rochira yn dweud y bydd ei gwaith yn cynnwys ffocws ar y canlynol: 

  • Gwireddu hawliau pobl hŷn a pharhau i herio'r oedraniaeth maent yn ei wynebu 
  • Profiadau pobl hŷn mewn perthynas â gwasanaethau Meddygon Teulu 
  • Cam dau Rhaglen Heneiddio'n Dda yng Nghymru 
  • Materion a chyfleoedd newydd mewn perthynas ag iechyd meddwl o ganlyniad i fod yn genedl o bobl hŷn 
  • Gwaith Dilynol Adolygiad o Gartrefi Gofal 
  • Sicrhau bod gan bobl hŷn lais cryf a'u bod wedi'u grymuso i sicrhau'r hyn sydd ei angen arnynt (Eiriolaeth) 
  • Canllawiau i bobl hŷn ar ddeddfwriaeth newydd.  

Llymder yw'r 'eliffant yn yr ystafell'

Mae Sian Gwenllian Plaid Cymru yn disgrifio llymder fel "eliffant yn yr ystafell".

Mae'n dweud bod "heriau ariannol parhaus, o ganlyniad i galedi ariannol, yn rhwystro'r gwasanaethau cyhoeddus a gaiff eu darparu gan lywodraeth leol i iechyd a llesiant pobl hŷn, rhag cael eu darparu."

Eliffant yn yr ystafell
Thinkstock

Effaith unigrwydd ac unigedd ar bobl hŷn

Mae'r aelod Ceidwadol Janet Finch-Saunders yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i ddelio ag effaith unigrwydd ac unigedd ar bobl hŷn sy'n byw yng Nghymru.

Mae hi hefyd yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru "ystyried cyflwyno Mesur Hawliau Pobl Hŷn i ymestyn a hyrwyddo hawliau pobl hŷn Cymru" er mwyn sicrhau bod gan bobl hŷn lais cryf yn unol ag argymhellion y Comisiynydd Pobl Hŷn. 

Janet Finch-Saunders
BBC

'Sbarduno Newid, Gwella Bywydau'

Yn ei hadroddiad 'Sbarduno Newid, Gwella Bywydau' mae'r Comisiynydd Sarah Rochira yn dweud hyn. 

"Mae pobl hŷn yng Nghymru yn ased rhyfeddol. Ac er ei bod yn gwbl briodol ein bod yn gwneud ein gorau i amddiffyn ac i ddarparu gofal a chymorth i bobl hŷn sydd angen hynny, ein man cychwyn bob amser ddylai cydnabod eu gwerth, eu gwybodaeth, eu harbenigedd a'r cyfraniad maent yn ei wneud mewn cymaint o wahanol ffyrdd. Mewn cyfnod o gyni ariannol, mae cyfalaf cymdeithasol ein pobl hŷn yn adnodd na allwn fforddio i beidio ei gydnabod na buddsoddi ynddo. 

"Mae pobl hŷn eisiau, ac mae ganddynt hawl i gael eu cynnwys yn llawn mewn cymdeithas, bod yn rhan o'r penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau, cyfranogi a chyfrannu wrth i wasanaethau newydd gael eu cynllunio a'u datblygu. Nid yw'r pethau sy'n bwysig i lawer o bobl hŷn yn ddim gwahanol i'r pethau sy'n bwysig i lawer ohonom ni: y teimlad ein bod yn cael ein gwerthfawrogi, yn gallu gwneud y pethau rydym yn eu mwynhau, yn teimlo'n ddiogel a byw mewn mannau sy'n addas ar gyfer y bywydau rydym yn eu byw. 

"Ond yn rhy aml, mae pobl hŷn yn cael eu cau allan o gymdeithas, yn cael eu portreadu fel grŵp ar wahân gyda delweddau negyddol sy'n atgyfnerthu rhagdybiaethau ffug o eiddilwch, dirywiad a dibyniaeth. Dyna pam wnes i lansio fy Ymgyrch Dweud Na i Oedraniaeth y llynedd - i herio'r stereoteipiau sy'n gysylltiedig â heneiddio ac i dynnu sylw at yr oedraniaeth systematig ym mhob rhan o gymdeithas y mae pobl yn gorfod ei wynebu mor aml wrth heneiddio, sy'n ymrannol, yn nawddoglyd ac yn niweidiol, i bobl hŷn ac i gymdeithas yn gyffredinol."  

Pobl hŷn
BBC

Dadl ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2015-16

Am yr awr nesaf yn y Siambr mae'r aelodau yn cael dadl ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2015-16. 

Y Comisiynydd yw Sarah Rochira.

Sarah Rochira
BBC

Asiantaethau mabwysiadu

Mae'r aelodau yn y Siambr yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Mesur Plant a Gwaith Cymdeithasol sy'n ymwneud ag asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. 

Plentyn
Thinkstock

'Cadw caead ar bethau'

Wrth i gasgliadau misol ddechrau yng Nghymru a chartrefi yn cael eu hannog i ailgylchu mwy, mae'r aelod Ceidwadol Janet Finch-Saunders yn cyfeirio at raglen "Week in Week Out" BBC Cymru, wnaeth ddilyn tri theulu dros gyfnod o fis, wrth iddyn nhw straffaglu i gadw caead ar bethau. 

Mae Cymru yn arwain gweddill y DU gyda dros 60% o wastraff pobl yn cael ei ailgylchu, dwbl y ffigwr o 10 mlynedd yn ôl.  

Mae ffigyrau Cyfoeth Naturiol Cymru yn datgelu bod dros hanner awdurdodau lleol Cymru yn defnyddio dull o gasglu sydd yn golygu bod dros 14% o ddeunydd ailgylchu yn cael ei lygru, gan ei atal rhag cael ei werthu i felinau papur a chyfleusterau tebyg.  

"Week in Week Out"
BBC

Cefnogaeth i ardaloedd lle mae safleoedd tirlenwi

Mae Mark Drakeford yn dweud y bydd arian yn cael ei roi i gefnogi prosiectau cymunedol ac amgylcheddol yn yr ardaloedd a fydd wedi'u heffeithio gan safleoedd tirlenwi.

Fe fydd cyllid yn cael ei rannu ymhlith "prosiectau sy'n canolbwyntio ar fioamrywiaeth, lleihau gwastraff a materion amgylcheddol eraill er budd cymunedau."     

Mae Mr Drakeford hefyd yn dweud na ddylai tirfeddianwyr boeni y bydden nhw'n cael eu herlyn oherwydd bod gwastraff wedi'i adael ar eu tir heb yn wybod iddyn nhw.

Ailgylchu yng Nghymru
BBC

Cefndir

Y Mesur Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) yw'r trydydd mewn cyfres o dri mesur i sefydlu trefniadau trethi yng Nghymru. Daw ddeufis ar ôl cyflwyno'r Mesur Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru). Fel y dreth dirlenwi bresennol yng Nghymru a Lloegr, treth ar waredu gwastraff mewn safleoedd tirlenwi fydd y dreth hon. Gweithredwyr safleoedd tirlenwi fydd yn gyfrifol am ei thalu, ac fe fyddan nhw'n trosglwyddo'r costau hyn i weithredwyr gwastraff. 

O fis Ebrill 2018 ymlaen, bydd y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn disodli'r Dreth Tirlenwi yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, mae 25 o safleoedd tirlenwi yng Nghymru yn nwylo 20 o weithredwyr safleoedd tirlenwi. Yng Nghymru, mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhagweld y bydd treth dirlenwi'n cynhyrchu £27m yn ystod 2018-19.

Mae dwy gyfradd o dreth tirlenwi, yn dibynnu ar y math o wastraff: yr isafswm fydd £2.65 y tunnell; a'r pris uchaf fydd £84.40 y tunnell.

Mae'r llywodraeth yn dweud y bydd y mesur yn eithaf cyson â'r dreth dirlenwi bresennol er mwyn rhoi sefydlogrwydd a sicrwydd i fusnesau ac osgoi sefyllfa lle mae unigolion yn teithio dros y ffin i waredu gwastraff. Ar y llaw arall, bydd hefyd yn ceisio gwella'r drefn bresennol drwy ddatgan y rheolau mewn ffordd glir, sy'n haws eu deall a thrwy fynd i'r afael â'r meysydd sy'n achosi dryswch ac ansicrwydd ar hyn o bryd. 

Bydd y ddeddf hefyd yn cynnwys mesurau yn erbyn gwaredu sbwriel mewn safleoedd anghyfreithlon.  

Bydd rhan o'r arian gaiff ei godi o'r dreth gwarediadau tirlenwi yn cael ei roi i Gynllun Cymunedol y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, fydd yn cael ei sefydlu cyn mis Ebrill 2018 i ddisodli'r Gronfa Cymunedau Tirlenwi. 

Safle tirlenwi
BBC

Cofnod o daith y Mesur

Datganiad ar y Mesur Treth Gwarediadau Tirlenwi

Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford ar y Mesur Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru). 

Mark Drakefor
BBC

Rhybudd am ymgais am bwerau dros amaethyddiaeth

Mae llefarydd Materion Gwledig Plaid Cymru, Simon Thomas, yn rhybuddio am ymgais am bwerau dros amaethyddiaeth, wedi i arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies ddweud bod gan ffermwyr fwy o hyder yn San Steffan i lunio trefn i gymryd lle'r Polisi Amaeth Cyffredin.

O dan Bolisi Amaeth Cyffredin yr UE sy'n gyfredol mae Cymru yn derbyn tua £250m y flwyddyn mewn taliadau uniongyrchol i ffermwyr.

Mae hyn yn ychwanegol i dros £500m rhwng 2014-2020 i redeg y Rhaglen Datblygu Gwledig.

Simon Thomas
BBC

Arwyddion ffyrdd digidol sy'n 'tynnu sylw' ar yr M4

Mae gormod o arwyddion ffyrdd digidol ar yr M4 sy'n ddisylwedd ac yn tynnu sylw gyrrwyr medd arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies.  

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Nawr y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes pan mae Arweinydd y Tŷ, Jane Hutt yn amlinellu busnes y Cynulliad ar gyfer y dyfodol agos. 

Jane Hutt
BBC

Cwestiwn brys 3: Y cyfreithiad yn erbyn Llywodraeth y DU

Mae'r trydydd cwestiwn brys gan Jeremy Miles: A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu ei asesiad o oblygiadau cyfreithiol posibl y cyfreithiad a fwriedir yn erbyn Llywodraeth y DU mewn cysylltiad ag Erthygl 127 o’r Cytundeb Ardal Economaidd Ewropeaidd?

"Mae unrhyw gyfreithiad yn bell i ffwrdd" yw ateb y Cwnsler Cyffredinol Mick Antoniw.    

Mae'r llywodraeth yn wynebu brwydr gyfreithiol ynghylch a yw'r DU yn aros o fewn y farchnad sengl wedi iddi adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae cyfreithwyr yn dweud bod ansicrwydd ynghylch aelodaeth y DU o'r Cytundeb Ardal Economaidd Ewropeaidd yn golygu y gallai gweinidogion gael eu hatal rhag cymryd Prydain allan o'r farchnad sengl. 

Fe fyddan nhw'n dadlau na fydd yr DU yn gadael yr Ardal Economaidd Ewropeaidd yn awtomatig pan fydd yn gadael yr UE ac y dylai Senedd San Steffan benderfynu.

Ond mae'r llywodraeth wedi dweud y bydd aelodaeth o'r AEE yn dod i ben pan fydd y DU yn gadael yr UE.

Baneri
Reuters

Bwlch yn y cyllid

Mewn ymateb i Sian Gwenllian, mae Mr Skates yn dweud ei bod hi'n siomedig bod y bwlch yn y cyllid wedi cael ei ddarganfod wedi i'r prosiect gael ei gyhoeddi'n gyhoeddus.

Mae Mr Skates yn dweud wrth yr aelodau bod y bwlch wedi datblygu yn sgil problemau gyda chyllid strwythurol Ewropeaidd, ond mae'n "canmol" uchelgais y Brifysgol.

Mae'n ychwanegu ei bod hi'n bwysig i wahaniaethu rhwng symudiad S4C a phrosiect y diwydiannau creadigol ehangach, a'i fod yn gobeithio y bydd yna ateb "yn fuan iawn". Ond mae'n pwysleisio y byddai angen i unrhyw fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru "ychwanegu gwerth."

Sian Gwenllian
BBC

Achos busnes boddhaol?

Mae Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates yn dweud bod yna drafodaethau yn cael eu cynnal i weld a oes yna achos busnes boddhaol sy'n dangos "dichonoldeb ariannol, budd economaidd, diwylliannol ac ieithyddol y datblygiad, sydd yn esbonio'r angen am ymyrraeth gan y sector cyhoeddus."

Ken Skates
BBC

Cwestiwn brys 2: Cynlluniau Canolfan yr Egin yng Nghaerfyrddin

Mae'r ail gwestiwn brys gan Simon Thomas: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd y cynlluniau i sefydlu canolfan Yr Egin yng Nghaerfyrddin?

Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth BBC Cymru ddatgelu bod y brifysgol sydd y tu ôl i'r datblygiad yng Nghaerfyrddin wedi gofyn am hyd at £6m o bunnoedd yn ychwanegol o arian cyhoeddus.  

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant sydd yn datblygu canolfan Yr Egin, ble bydd S4C wedi'i leoli o fis Mawrth 2018.  

Mae wedi gwneud cais am grant o rhwng £4m a £6m gan Lywodraeth Cymru.  

Cynllun yr Egin
S4C

Adolygiad wyth wythnos wedi dechrau

Mae'r Gweinidog ar gyfer Chwaraeon, Rebecca Evans, yn dweud bod adolygiad i'r digwyddiadau wnaeth arwain at bleidlais o ddiffyg hyder yng nghadeirydd Chwaraeon Cymru, wedi cael ei lansio. Mae'n ychwanegu y byddai'n "amhriodol i wneud sylw pellach nes y bydd yr adolygiad wedi ei gwblhau."

Mae Russell George yn gofyn pryd yr oedd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol bod Chwaraeon Cymru yn "camweithredu".

Mae'r gweinidog yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol bod yna densiynau o fewn bwrdd Chwaraeon Cymru yn ystod y bythefnos, tair wythnos ddiwethaf.  

Mae hi'n ychwanegu bod gwaith o ddydd i ddydd Chwaraeon Cymru yn parhau.   

Rebecca Evans
BBC

Cwestiwn brys: Chwaraeon Cymru

Mae yna dri chwestiwn brys y prynhawn yma.

Mae'r cyntaf gan Russell George: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y penderfyniad i atal gweithgareddau bwrdd Chwaraeon Cymru dros dro?

Cafodd gwaith bwrdd Chwaraeon Cymru ei wahardd gan y Gweinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Cyhoeddus, Rebecca Evans, yr wythnos ddiwethaf, oherwydd pryderon gan weinidogion am y ffordd oedd yn cael ei redeg.

Fe wnaeth adroddiad gan y cadeirydd, Paul Thomas, ddatgelu bod Chwaraeon Cymru mewn "perygl o aros yn ei unman" a'i fod wedi gwario swm "annerbyniol" ar y bwrdd. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio adolygiad i'r digwyddiadau wnaeth arwain at bleidlais o ddiffyg hyder yng nghadeirydd Chwaraeon Cymru.  

Paul Thomas
BBC

Cost cynllun gwelliannau i'r M4

Mae David Rowlands yn gofyn i'r Prif Weinidog i archwilio'r posibilrwydd o Lywodraeth Iwerddon yn cyfrannu tuag at gyfran o'r gost ar gyfer gwelliannau i draffordd yr M4, o ystyried, meddai, bod tri chwarter allforion Iwerddon i'r Undeb Ewropeaidd a'r DU yn cael eu cludo ar hyd yr M4.   

Mae Carwyn Jones yn dweud na all David Rowlands ddisgwyl i wlad arall sy'n aelod o'r UE wneud yn iawn am y diffyg.

M4
BBC

Heclo yn y Siambr

Mae yna heclo yn y Siambr wedi i David Rowlands UKIP ddweud y bydd Iwerddon yn gallu cael mynediad at arian o'r Gronfa Priffyrdd traws-Ewropeaidd.

Mae'n ychwanegu y gall Cymru gael arian gan yr Undeb Ewropeaidd wedi Brexit.   

Mae'r Llywydd Elin Jones yn gofyn i'r aelodau wrando'n dawel ar y cwestiwn.

David Rowlands
BBC

Mynnu bod y Cynulliad yn diddymu cynllun datblygu lleol Caerdydd

Fe fydd Plaid Cymru yn mynnu bod y Cynulliad yn diddymu cynllun datblygu lleol Caerdydd, medd Neil McEvoy.

Does gan y Cynulliad ddim grym cyfreithiol i wneud hynny, medd Carwyn Jones, gan ei gyhuddo o beidio hoffi pobl o'r tu allan.

Neil McEvoy
BBC

'Pocedi o ymarfer da ar fadredd ddim yn ddigon da'

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn dweud bod pobl eisiau clywed am welliannau mewn triniaethau ar gyfer madredd, ac yn dweud mai dim ond un ymhob 10 sy'n cael y driniaeth gywir.

Mae Mr Jones yn dweud ei fod eisiau gweld mwy o bobl yn cael triniaeth gynnar.

Mae Mr Davies yn dweud nad yw pocedi o ymarfer da ar fadredd yn ddigon da.

Andrew RT Davies
BBC

Gwaharddiad ar ffioedd asiantaethau gosod i denantiaid?

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn gofyn a yw'r Prif Weinidog yn gwybod pryd y cafodd gwaharddiad yr Alban ar ffioedd asiantaethau gosod i denantiaid ei gyflwyno.

Ers 2012 yw ei ateb.

"Faint yn rhagor sy'n rhaid i denantiaid aros am waharddiad yng Nghymru ar ffioedd asiantaethau?" yw cwestiwn arweinydd Plaid Cymru.

Mae Mr Jones yn dweud ei fod o dan ystyriaeth ac mae'n cytuno y byddai'n edrych yn rhyfedd petai Cymru yn parhau i'w cael nhw wedi gwaharddiadau mewn llefydd eraill.

Leanne Wood
BBC

Achos Erthygl 50 yn y Goruchaf Lys

Mae Neil Hamilton UKIP yn gofyn a fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi safbwynt Llywodraeth y DU neu safbwynt yr hawlwyr yn achos Erthygl 50 yn y Goruchaf Lys. 

"Naill na'r llall" yw ateb Carwyn Jones. "Fe fydd Llywodraeth Cymru yn cynrychioli ei hunan."

Mae Mr Jones yn ychwanegu ei fod yn ymwneud gyda'r cyfansoddiad, nid atal Brexit.

Gellir gweld cyflwyniadau ysgrifenedig y Cwnsler Cyffredinol i'r Goruchaf Lys ar Achos Erthygl 50 yma.

Neil Hamilton
BBC

Rhoi cymorth i'r diwydiant dur

Wrth gyfeirio at ddyfodol gwaith dur Tata ym Mhort Talbot, mae'r Prif Weinidog yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi cynnig mwy i'r diwydiant dur na fyddai cymorth treth ar y gwaith a pheirianwaith yn ei ddarparu.  

Madredd yn 'brif flaenoriaeth diogelwch claf'

Mae'r Prif Weinidog yn dweud bod delio gyda madredd yn "brif flaenoriaeth diogelwch claf."  

Mae'n ychwanegu ei bod hi'n holl bwysig bod ysbytai yn gyson yn y modd y maen nhw'n adnabod madredd yn gynnar.

Carwyn Jones
BBC

Atal madredd

Mae'r cwestiwn cyntaf heddiw gan Janet Finch-Saunders: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am atal madredd? 

Gallwch weld y rhestr o'r cwestiynau sydd wedi eu cyflwyno fan hyn.

Dyw'r cyflwr sydd wedi ei gysylltu â 1,500 o farwolaethau bob blwyddyn yng Nghymru ddim yn cael ei drin yn yr un modd mewn gwahanol ysbytai ar draws y wlad, yn ôl gwaith ymchwil newydd.  

Madredd
Thinkstock

Croeso

Croeso i Senedd Fyw sy'n darlledu'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma.

Mae'r sesiwn fel arfer yn dechrau gyda chwestiynau i'r Prif Weinidog, Carwyn Jones.  

Y Senedd
BBC