a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
  2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
  3. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
  4. Datganiadau 90 Eiliad
  5. Datganiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar y Comisiynydd Safonau sy'n dod i mewn
  6. Dadl Plaid Cymru: Busnesau bach
  7. Dadl y Ceidwadwyr: Darpariaeth iechyd drawsffiniol
  8. Dadl Fer: Byw gyda cholli'r golwg: sut y gallwn wella hygyrchedd yng Nghymru i bobl ddall a rhannol ddall

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

Dyna ni am heddiw. 

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl dydd Mawrth Rhagfyr 6.   

Machlud ym Mae Caerdydd heno
BBC
Machlud ym Mae Caerdydd heno

Dadl Fer: Byw gyda cholli'r golwg

Ac yn olaf Dadl Fer gan Nick Ramsay. 

A'r pwnc: Byw gyda cholli'r golwg: sut y gallwn wella hygyrchedd yng Nghymru i bobl ddall a rhannol ddall.   

Mae Mr Ramsay yn gofyn i'r aelodau i gau eu llygaid yn y Siambr wrth iddyn nhw wrando ar synau sydd wedi'u recordio mewn canol tref gan elusen yr RNIB, sy'n nodweddiadol o'r synau y mae pobl ddall yn eu clywed "o ddydd i ddydd".

.      

Colli'r golwg
BBC

Angen agwedd 'synhwyrol a phragmataidd'

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn awyddus i sicrhau bod yr agwedd tuag at "llif cleifion trawsffiniol yn synhwyrol a phragmataidd."

Vaughan Gething
BBC

Argymhellion y Pwyllgor Dethol yn 'synhwyrol'

Mae Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru yn dweud bod argymhellion adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ar drefniadau iechyd trawsffiniol yn "synhwyrol".

Rhun ap Iorwerth
BBC

Galw am un rhestr cyflawnwyr ar gyfer meddygon teulu

Mae'r unig welliant sydd wedi ei gyflwyno gan Caroline Jones UKIP:

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: 

Yn nodi'r problemau o ran recriwtio meddygon teulu mewn ardaloedd gwledig trawsffiniol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag Adran Iechyd Llywodraeth y DU i sefydlu un rhestr cyflawnwyr ar gyfer meddygon teulu, a fydd yn galluogi meddygon teulu i weithio bob ochr i'r ffin.    

Caroline Jones
BBC

Dadl ar ofal iechyd trawsffiniol

Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ofal iechyd trawsffiniol.

Mae'r Ceidwadwyr yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 

1. Yn credu y gall hyrwyddo defnydd arloesol o ofal iechyd trawsffiniol gynnig gwell canlyniadau i gleifion ar gyfer pobl yng Nghymru a Lloegr.

2. Yn nodi canfyddiadau Comisiwn Silk, a wnaeth argymhellion i wella darpariaeth iechyd drawsffiniol, yn enwedig o ran hyrwyddo gweithio agosach ym maes gwasanaethau arbenigol.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried canfyddiadau adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ar drefniadau iechyd trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr, sy'n cyfleu pryderon am yr anawsterau a'r oedi o ran cael gafael ar wasanaethau eilaidd ac arbenigol ar sail drawsffiniol. 

Ysbyty
BBC

Y system ardrethi busnes bresennol yn codi £1bn

Mae Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates yn dweud bod y system ardrethi busnes bresennol yn codi £1bn, sy'n cefnogi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru y mae busnesau bach yn dibynnu arnyn nhw.

Mae'n ychwanegu nad yw'r gwaith ailbrisio ardrethi busnes a gynhaliwyd gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, sef asiantaeth annibynnol, wedi ei gynllunio i godi refeniw ychwanegol ac er bod rhai gwerthoedd ardrethol wedi cynyddu, maent wedi gostwng ar y cyfan.

Mae Llywodraeth Cymru meddai, wedi'i hymrwymo i gyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi busnes newydd, parhaol yn 2018.

Arian
BBC

System ardrethi busnes yn 'anamddiffynadwy'

Mae Neil Hamilton UKIP yn disgrifio'r system ardrethi busnes yn "anamddiffynadwy".

Mae'n dweud ei bod yn arwydd o dreth wael iawn os oes rhaid i nifer fawr iawn o bobl sy'n gorfod talu'r dreth yn gorfod cael rhywfaint o ryddhad ardrethi.

Neil Hamilton
BBC

Galwad i ymestyn y rhyddhad ardrethi busnes i fusnesau bach

Mae Nick Ramsay yn "gresynu mai yng Nghymru y mae'r raddfa uchaf yn y DU o siopau gwag ar y stryd fawr a bod nifer yr ymwelwyr â'r stryd fawr yng Nghymru wedi disgyn 1.4 y cant o'i gymharu â mis Hydref 2015."

Mae'n galw am ymestyn y rhyddhad ardrethi busnes i fusnesau bach yng Nghymru. 

Nick Ramsay
BBC

Annog siopwyr i ffafrio'r stryd fawr

Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu i helpu busnesau bach ar y stryd fawr.

Mae Adam Price yn annog siopwyr i ddewis y stryd fawr ar draul canolfannau siopa neu siopa ar y rhyngrhwyd ar drothwy'r Nadolig eleni.

Mae Sadwrn Busnesau Bach yn cael ei gynnal Rhagfyr 3.

Mae'n dweud er bod y ffigyrau diweddaraf yn dangos bod Caerdydd wedi gweld cynnydd  yn nifer y bobl ddaeth i ganol y ddinas, sef 80% rhwng 2008 a 2015, mae llawer o drefi yn y cymoedd wedi gweld gostyngiadau dramatig. "Gwelodd Gogledd Bargoed, Blaenau a Chaerffili y gostyngiadau canrannol mwyaf yn nifer yr ymwelwyr yn y cyfnod hwn, gyda gostyngiadau o 49%, 36% a 31%," meddai.

Adam Price
BBC

Dadl ar fusnesau bach

Am yr awr nesaf yn y Siambr dadl gan Blaid Cymru ar fusnesau bach.

Busnesau bach
BBC

Cefndir

Mae'r Comisiynydd Safonau yn berson annibynnol sy'n rhoi cyngor a chymorth diduedd ar unrhyw fater o egwyddor sy'n ymwneud ag ymddygiad Aelodau'r Cynulliad ac mae'n cynnal ymchwiliadau annibynnol i gwynion sy'n honni bod Aelodau'r Cynulliad wedi torri Codau, Protocolau neu benderfyniadau'r Cynulliad. 

Prif swyddogaethau'r Comisiynydd yw:

  • derbyn unrhyw gwyn bod ymddygiad Aelod Cynulliad, ar adeg berthnasol, wedi methu â chydymffurfio ag un o ofynion darpariaeth berthnasol; 
  • ymchwilio i unrhyw gwyn o'r fath yn unol â'r gweithdrefnau a sefydlwyd 
  • cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad ar ganlyniad unrhyw ymchwiliad o'r fath; a 
  • cynghori Aelodau'r Cynulliad ac aelodau'r cyhoedd am y gweithdrefnau ar gyfer gwneud cwynion ac ymchwilio iddynt. 

Yn ogystal â'r uchod, gall y Comisiynydd roi cyngor i'r Cynulliad:

  • ar unrhyw fater arall o egwyddor gyffredinol sy'n ymwneud â darpariaethau perthnasol neu â safonau ymddygiad Aelodau Cynulliad yn gyffredinol; 
  • ar weithdrefnau ar gyfer ymchwilio i gwynion bod Aelodau Cynulliad wedi methu â chydymffurfio â gofynion darpariaethau perthnasol; ac 
  • ar unrhyw fater arall sy'n ymwneud â hybu, annog a diogelu safonau ymddygiad uchel yn swydd gyhoeddus Aelod Cynulliad. 

Y Comisiynydd Safonau newydd

Yr eitem nesaf yn y Siambr yw datganiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar y Comisiynydd Safonau newydd.

Syr Roderick Evans CF yw'r Comisiynydd Safonau newydd ac mae'n dechrau yn y swydd ar Ragfyr 1. 

Mae Syr Roderick yn Farnwr Uchel Lys ymddeoledig.  Cafodd ei alw i'r Bar yn 1970, gan ymarfer yn Abertawe rhwng 1970 a 1992; cafodd Sidan ym 1989. Fe'i dyrchafwyd i'r farnwriaeth ym 1992, ac fe'i penodwyd i'r Uchel Lys yn 2001, gan ymddeol yn 2013. Mae hefyd yn Gymrawd Prifysgolion Aberystwyth, Abertawe a Bangor, ac yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, ac fe'i croesawyd i Orsedd y Beirdd yn 2002. 

Bydd Syr Roderick yn cymryd yr awenau gan Gerard Elias CF pan ddaw ei gontract yntau i ben ar ddiwedd mis Tachwedd eleni; mae wedi bod yn y swydd ers iddi gael ei sefydlu yn 2010. 

Datganiadau 90 eiliad

Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar Ddataniadau 90 Eiliad, lle mae tri aelod yn cael cyfle i godi materion amserol.

Cwestiwn brys 3: Cam-drin rhywiol mewn pêl-droed

Mae'r trydydd cwestiwn brys gan Russell George  i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adroddiad ynghylch ymchwiliad yr heddlu i gam-drin rhywiol hanesyddol mewn pêl-droed yng ngogledd Cymru?

Mae Carl Sargeant yn ymateb drwy annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am gamdrin i gysylltu gyda'r heddlu.

Pêl-droed
Thinkstock

Cwestiwn brys 2: Gwaith dur Tata ym Mhort Talbot

Mae Adam Price yn gofyn: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adroddiadau ynghylch y posibilrwydd o golli swyddi yng ngwaith dur Tata Steel ym Mhort Talbot?

Mae Ken Skates yn dweud na fydd e'n "ymateb i sïon yn y cyfryngau."

Mae'n ychwanegu y bydd e'n cwrdd gydag Ysgrifennydd Cymru yfory ac y bydd " yn trosglwyddo'r neges o bob ochr i'r Siambr ei bod hi'n allweddol bod Llywodraeth y DU yn gweithredu lle mae'n gwybod y gall, i sicrhau cynaladwyedd y sector dur ym Mhrydain, ac yn arbennig yng Nghymru."

Gwaith dur Port Talbot
Getty Images

Ysgrifennydd yr Economi yn mynegi pryder wrth reolwyr

Mae Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates yn dweud ei fod wedi cyfarfod gyda rheolwyr Trinity Mirror heddiw a'i fod wedi mynegi pryder ynghylch y cynnig.

Fe fydd e hefyd yn ymateb yn ffurfiol i'r ymgynghoriad.

Ken Skates
BBC

Cwestiwn brys 1:Trinity Mirror

Nawr tri chwestiwn brys i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith. Mae'r cyntaf gan Bethan Jenkins:

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drafodaethau y mae wedi'u cael â Trinity Mirror ynghylch y cynnig i gau gwaith argraffu'r cwmni yng Nghaerdydd, gan golli 33 o swyddi ar y safle?

Mae grŵp papurau newydd Trinity Mirror wedi dechrau ymgynghori gyda staff ynglŷn â chau safle argraffu yng Nghaerdydd.

Mae'r grŵp yn gyfrifol am argraffu nifer o deitlau gan gynnwys y Western Mail, South Wales Evening Post, South Wales Echo a'r Llanelli Star.

Dywedodd llefarydd bod y penderfyniad o ganlyniad i leihad yn nifer y papurau sy'n cael eu hargraffu, ac "adleoliad" nifer o deitlau'r cwmni.

Ychwanegodd y llefarydd bod ymgynghoriad wedi dechrau gyda'r 33 o staff sy'n cael eu heffeithio.

Y Western Mail a'r Echo
BBC

Y Ddeddf Hawliau Dynol yn 'em yn ein cyfansoddiad'

Mae Hannah Blythyn yn gofyn pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei wneud o effaith y Ddeddf Hawliau Dynol ar ddeddfwriaeth Gymreig.

Mae Mr Antoniw yn dweud bod y ddeddf wedi cael "ei chamddarlunio gan rhai mudiadau gwleidyddol" a'i bod yn "em yn ein cyfansoddiad."

Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol

Nesa cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw. 

Mae Lee Waters yn gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol wneud datganiad am hawl Llywodraeth Cymru i ymyrryd yn yr achos yn ymwneud ag Erthygl 50 yn y Goruchaf Lys?  

Mae Mick Antoniw yn cyfeirio at gyflwyniadau ysgrifenedig at y Goruchaf Lys lle mae'n datgan bod y "broses o adael yn tynnu sylw at nifer o faterion hanfodol bwysig mewn perthynas â threfniadau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig a'r fframwaith gyfreithiol ar gyfer datganoli."

Mick Antoniw
BBC

Chwerthin wrth glosio

Lynn Neagle ac Alun Davies
BBC
Ydy aelodau sy'n gofyn cwestiwn yn dod mor agos at weinidogion mewn cyrff deddfwriaethol eraill?

Ysgol orau Cymru yn rhif 182 yn nhabl y Sunday Times

Mae Mark Reckless UKIP yn cyfeirio at dablau pŵer rhieni papur y Sunday Times, basdata chwiliadwy o ysgolion y wladwriaeth ac ysgolion annibynnol, ac mae'n gofyn a yw'r Ysgrifennydd Addysg yn hapus bod yr ysgol orau yng Nghymru yn rhif 182.

"Beth sy'n bwysig i mi yw'r cynnydd y mae ysgolion Cymru yn ei wneud," yw ateb Kirsty Williams.

Kirsty Williams
BBC

Cynhadledd ar werslyfrau yn y Gymraeg

Mae'r aelod Ceidwadol Darren Millar yn cyfleu rhybudd gan Gymdeithas Ysgolion dros Dros Addysg Gymraeg am ddiffyg gwerslyfrau TGAU yn y Gymraeg.

Mae Kirsty Williams yn dweud y bydd hi'n trefnu cynhadledd i ddelio gyda'r "methiant hwn yn y farchnad."

Darren Millar
BBC

Gweithio yn gyfochrog yn hytrach na mewn cydweithrediad?

Mae Llyr Gruffydd Plaid Cymru yn dweud ei fod wedi clywed pryderon bod diwygiadau yn y sector addysg, gan gynnwys newidiadau i'r cwricwlwm, yn gweithio yn gyfochrog yn hytrach na mewn cydweithrediad.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Kirsty Williams yn ymateb drwy ddweud "yn hanesyddol mae yna ddatgysylltu rhwng Ysgolion Arloesol ac eraill."

Llyr Gruffydd
BBC

Rhybudd gan y Llywydd

Ar ddechrau'r sesiwn y prynhawn, mae'r Llywydd Elin Jones yn dechrau gyda rhybudd i'r aelodau i "ddangos parch priodol at y Cynulliad" ac i "gynnal integrity y lle hwn" gan gynnwys dim rhagor o heclo na sarhadau personol.

Elin Jones
BBC

Dim hiraeth am Y Dydd yn y Cynulliad?

Wrth inni baratoi i ddarlledu'r cyfarfod llawn, rydym wedi cael gwybod gan S4C nad ydynt wedi "derbyn yr un alwad gan aelodau cynulliad na chyrff na mudiadau cyhoeddus yn galw arnom i adnewyddu gwasanaeth" Y Dydd yn y Cynulliad ddaeth i ben ar ddiwedd y pedwerydd cynulliad ym mis Ebrill eleni. 

Dechreuodd y gwasanaeth ar 20 Ebrill 2010, a'r patrwm arferol oedd darlledu'r cyfarfod llawn yn ei gyfanrwydd nos Fawrth a nos Fercher a detholiad amrywiol o bwyllgorau amserol yn ôl yr amserlen weddill yr wythnos. 

Yn ôl llefarydd, "nid oedd y gwasanaeth yn denu nifer fawr iawn o wylwyr, gyda'r cyrhaeddiad wythnosol yn llai na 2,000 yng Nghymru... a'r teimlad yn S4C oedd y gallai rhaglenni oriau brig fel Newyddion 9 ymdrin â materion yn ymwneud â'r Cynulliad Cenedlaethol mewn modd mwy perthnasol, effeithiol a chynhwysol a chyrraedd cynulleidfa fwy."  

S4C
S4C

Nôl am 1.30pm

Mae'r aelodau bellach yn cyfarfod yn breifat. 

Fe fydd Senedd Fyw'n ôl am 1.30pm ar gyfer y Cyfarfod Llawn. 

Sgiliau siarad Cymraeg

Mae Jeremy Miles yn gofyn a oes ganddyn nhw ddadansoddiad o'r dosbarthiad daearyddol o'r sgiliau i siarad Cymraeg. 

Meddai Hayden Llewellyn, "fel y byddech yn disgwyl, o ran gallu yn yr iaith Gymraeg, mae'n fwy cyffredin yn y gogledd, ond yr ydych yn ei weld yn newid. 

"Mae'r galw am sgiliau addysgu Cymraeg yng Nghaerdydd, er enghraifft yn cynyddu ... yr ydym yn gweld y newidiadau hynny. "

Hayden Llewellyn
BBC
Hayden Llewellyn

Targed yn heriol tu hwnt

Mae Bethan Jenkins yn gofyn "A yw'r amcan o gael miliwn o siaradwyr erbyn 2050 yn rhywbeth yr ydych chi'n ei gefnogi, yn realistig,ymarferol?"

Mae Angela Jardine yn dweud ei bod yn meddwl ei fod yn "beth da bod y drafodaeth yn mynd yn ei blaen a 'dan ni'n gweld bod y targed yn ei hunan yn heriol tu hwnt. Ond 'dan ni yn meddwl bod modd o fod yn llwyddiannus efo hyn, cyn belled â bod yna strwythur a chynllun a bod digon o amser, a 'dan ni'n meddwl bod yna ddigon o amser."

Bethan Jenkins
BBC
Bethan Jenkins

Cyngor y Gweithlu Addysg

Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw'r corff rheoleiddio annibynnol yng Nghymru ar gyfer athrawon mewn ysgolion a gynhelir, athrawon Addysg Bellach a staff cymorth dysgu mewn ysgolion a lleoliadau AB. Hefyd, mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu i CGA reoleiddio Gweithwyr Ieuenctid a phobl sy'n gweithio ym maes Dysgu yn y Gweithle, er nad oes gan Lywodraeth Cymru amserlen bendant hyd yn hyn O 1 Ebrill 2017.

Prif amcanion y Cyngor yw: 

  • cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd dysgu yng Nghymru; 
  • cynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymysg athrawon a'r personau sy'n cefnogi addysgu a dysgu yng Nghymru; 
  • diogelu lles dysgwyr, rhieni a'r cyhoedd a chynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg.

Sesiwn Dystiolaeth gyda Chyngor y Gweithlu Addysg

Y tystion nesaf gerbron y pwyllgor yw: 

Hayden Llewellyn, Prif Weithredwr, ac Angela Jardine, Cadeirydd.  

Hayden Llewellyn ac Angela Jardine
BBC

Egwyl

Mae'r aelodau nawr yn cael egwyl fer.

Niferoedd sy'n astudio Cymraeg safon uwch yn 'bryderus o isel'

Mae Gwilym Dyfri Jones yn pwysleisio eto bod " angen i ni gael rhagor o ddisgyblion i astudio Cymraeg o ran safon uwch, mae'r niferoedd yn bryderus o isel ar hyn o bryd."

Balchder cenedlaethol mewn dwy iaith

Mae Gwilym Dyfri Jones yn dweud "os yw'r llywodraeth eisiau gweld Cymru cwbl ddwyieithog mae'n rhaid sicrhau bod ganddon ni fwy o athrawon cymwysedig yn y Gymraeg."

"Yn y pendraw y nod yw bod pob ysgol yng Nghymru yn sicrhau bod pobl plentyn yn gadael yn gwbl gwbl hyddysg, hyderus yn y Saesneg a'r Gymraeg... balchder cenedlaethol mewn dwy iaith."

Gwilym Dyfri Jones
BBC

Cefndir

Daw strategaeth bresennol Llywodraeth Cymru ar y Gymraeg i ben ar 31 Mawrth 2017. Ar 1 Awst, lansiodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes a'r Prif Weinidog ymgynghoriad ar y strategaeth newydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 31 Hydref. 

Nododd Llywodraeth Cymru ei huchelgais i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Yn ôl y Cyfrifiad diweddaraf yn 2011, mae 562,000 o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Golyga hyn mai nod y strategaeth yw dyblu nifer y siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif. 

Mae'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu wedi penderfynu ei bod yn amser delfrydol i gynnal ymchwiliad i'r strategaeth newydd. Nod yr ymchwiliad yw rhoi trywydd ar gyfer y strategaeth newydd a dylanwadu arni yn y cyfnod cynllunio hwn.  

Y Gymraeg
BBC

Angen denu rhagor i ddysgu trwy'r Gymraeg

Mae Gwilym Dyfri Jones yn dweud bod yn rhaid cael rhagor o bobl i astudio'r Gymraeg a denu rhagor i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae hefyd yn cyfeirio at ba mor bwysig yw marchnata'r proffesiwn. 

Diffinio siaradwyr Cymraeg

Wrth ateb cwestiwn gan y cadeirydd Bethan Jenkins am sut maen nhw'n diffinio siaradwyr Cymraeg,  mae Daniel Tiplady yn dweud bod gwahanol bobl yn rhoi eu hunain ar wahanol lefelau. Mae trio diffinio siaradwr Cymraeg, meddai, yn anodd. 

Sesiwn 1

Yn y sesiwn gyntaf maen nhw'n clywed tystiolaeth gan:

Gwilym Dyfri Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Cysylltiol, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant;

Daniel Tiplady, Rheolwr Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg, Prifysgol Metropolitan Caerdydd.  

Tystion
BBC

Bore da

Croeso i Sendd Fyw sy'n darlledu Cyfarfod o'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu. 

Mae'r aelodau y bore yma yn trafod yr Ymchwiliad i Strategaeth y Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru. 

Y Senedd
BBC