Crynodeb

  1. Cyfarfod Llawn am 1.30pm gyda chwestiynau i'r prif weinidog
  2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
  3. Datganiad ar y Mesur Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg
  4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: Banc Datblygu Cymru
  5. Datganiad ar Strategaeth Tlodi Plant Cymru - Adroddiad Cynnydd 2016
  6. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Codau Cyfraith Cymru

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

A dyna ni am heddiw. 

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.  

Y Senedd
BBC

Sesiwn holi'r Prif Weinidog - dyfarniad Vaughan

Y Mesur Plant a Gwaith Cymdeithasol

Mae'r aelodau yn cytuno y dylai "Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Mesur Plant a Gwaith Cymdeithasol, sy'n ymwneud â gwahardd cyflogwr perthnasol rhag gwahaniaethu yn erbyn person sy'n gwneud cais am swydd gofal cymdeithasol i blant am ei bod yn ymddangos i'r cyflogwr bod yr ymgeisydd wedi gwneud datgeliad gwarchodedig, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru."

Y Mesur Cyllid Troseddol

Mae'r aelodau yn cytuno y dylai "Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Mesur Cyllid Troseddol, yn ymwneud â chreu trosedd newydd sef efadu trethi, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru."

Inffograffeg Cynulliad Digidol

I'r sawl a fyddai'n gwerthfawrogi adnodd rhyngweithiol am Aelodau Cynulliad y gorffennol a’r presennol...   

View more on twitter

Diwygiadau i 'helpu i wella mynediad at gyfiawnder'

Mae’r Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw yn cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru'n cyflwyno "rhaglen sylweddol" i adeiladu corff neilltuol o Gyfreithiau Cymreig. 

Bydd y cyfreithiau mewn meysydd sydd wedi'u datganoli i Gymru yn cael eu casglu ynghyd a'u gosod mewn corff neilltuol o gyfreithiau Cymreig yn hytrach na mewn cyfreithiau sydd hefyd yn berthnasol i Loegr neu weddill y DU. 

Bydd hyn yn golygu bod cyfreithiau mewn meysydd fel addysg, trethi, llywodraeth leol, cynllunio a thai yn cael eu cydgrynhoi ac yn dod yn rhan o gôd cyfreithiol Cymreig, ac y bydd yn haws dod o hyd iddynt a'u deall. 

Ar ôl eu codeiddio bydd yr holl gyfreithiau, o Ddeddfau'r Cynulliad i ganllawiau, am y tro cyntaf yn cael eu cyhoeddi gyda'i gilydd ac ar gael mewn un lle - ar wefan Cyfraith Cymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae'r Cwnsler Cyffredinol yn dweud y bydd y diwygiadau yn helpu i wella mynediad at gyfiawnder a chynyddu effeithlonrwydd.

Bydd y broses o ddechrau cydgrynhoi a chodeiddio Cyfreithiau Cymreig yn cychwyn yn ystod tymor y Cynulliad hwn, cyn mabwysiadu Rhaglen Cydgrynhoi a Chodeiddio ffurfiol o'r 6ed Cynulliad ymlaen.

Y Gyfraith
BBC

Codau Cyfraith Cymru

Mae'r datganiad olaf heddiw gan y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw: Codau Cyfraith Cymru.  

Mick Antoniw
BBC

72,000 o blant yn byw mewn tai lle nad oedd neb yn gweithio

Mae Cymru yn "gwneud cynnydd" tuag at gyflawni amcanion tlodi plant mewn nifer o feysydd, ond mae dal angen i ni wneud mwy", medd Mr Sargeant.

"Rydyn ni'n gwybod bod yn rhaid i ni wneud mwy. Yn 2015, roedd dal bron i 72,000 o blant yn byw mewn tai lle nad oedd neb yn gweithio, ac mae tlodi ymhlith cartrefi lle mae yna bobl yn gweithio yn broblem sydd ar gynnydd", meddai.

Am y tro cyntaf mae Llywodraeth Cymru yn dweud na fydd yn cyflawni ei nod o ddod â diwedd i dlodi plant erbyn 2020.

Mae Mr Sargeant yn dweud bod diwygiadau lles Llywodraeth y DU yn rhannol i'w beio am rwystro uchelgeisiau Llywodraeth Cymru.

Carl Sargeant
BBC

5 amcan allweddol

Ym mis Ebrill fe ddywedodd y llywodraeth "Ein huchelgais yw dileu tlodi plant erbyn 2020." 

Mae ein Strategaeth ddiwygiedig, meddid, ar gyfer Tlodi Plant yn cynnwys 5 amcan allweddol er mwyn mynd i'r afael â thlodi plant a gwella deilliannau ar gyfer teuluoedd ar incwm isel yng Nghymru:

•Lleihau nifer y teuluoedd sy'n byw mewn cartrefi lle nad oes neb yn gweithio.

•Cynyddu sgiliau rhieni a phobl ifanc sy'n byw mewn cartrefi ar incwm isel.

•Lleihau'r anghydraddoldeb sy'n bodoli o ran iechyd, addysg a sefyllfa economaidd plant a theuluoedd drwy wella'r canlyniadau ar gyfer y bobl dlotaf. 

•Defnyddio pob opsiwn posibl i greu economi a marchnad lafur gref sy'n cefnogi'r agenda ar gyfer mynd i'r afael â thlodi ac sy'n lleihau tlodi mewn gwaith yng Nghymru.

•Cefnogi teuluoedd sy'n byw mewn tlodi er mwyn cynyddu lefelau incwm teuluoedd drwy gynnig cyngor am ddyledion ac am arian, camau gweithredu i fynd i'r afael â'r premiwm tlodi a chamau gweithredu i leihau effaith diwygiadau lles. 

Plant
BBC

Strategaeth Tlodi Plant Cymru

Nawr datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant: Strategaeth Tlodi Plant Cymru - Adroddiad Cynnydd 2016. 

Yn credu'n gryf yn 'y cydsyniad'

Mae David Rowlands UKIP yn dweud bod ei blaid yn credu'n gry yn "y cydsyniad" o Fanc Datblygu Cymru, ond mae'n galw am eglurder ynghylch ei orchwyl. 

Mae Mr Skates yn dweud "y bydd y banc yn fwy nag arwyddbost fel y mae'r aelod yn ei ofni."

David Rowlands
BBC

Benthyciwr yn niffyg dim arall?

Mae'r aelod Ceidwadol Russell George yn galw am sicrwydd na fydd y banc datblygu yn dod yn fenthyciwr yn niffyg dim arall. 

Russell George
BBC

Cyhoeddi'r cynllun busnes

Mewn ymateb i alwad gan Adam Price Plaid Cymru i gyhoeddi'r cynllun busnes ar gyfer y banc datblygu, mae Mr Skates yn ymrwymo i wneud hynny pan fo'r cynllun wedi'i gwblhau.

Mae Mr Skates yn dweud bod achos busnes ar gyfer y banc yn dal ar ffurf drafft, ond y byddai'n ei gyhoeddi yn y Flwyddyn Newydd wedi i Lywodraeth Cymru gasglu rhagor o adborth.

Adam Price
BBC
Adam Price

Cefndir: Cyllid Cymru

Fe wnaeth adolygiad yn 2013 gan yr arbenigwr busnes, yr Athro Dylan Jones-Evans godi cwestiynau am os oedd Cyllid Cymru'n gwneud digon i helpu economi Cymru, ac fe awgrymwyd y dylid creu banc datblygu i Gymru.  

Ym mis Hydref fe ddaeth hi i'r amlwg bod is-gwmni i Cyllid Cymru, yn cystadlu am fusnes fel rhan o gynllun Pwerdy'r Gogledd yn Lloegr.

Banc Datblygu yn agor flwyddyn nesaf

Amcan y banc newydd yn ôl Ken Skates fydd darparu rhagor na £1biliwn o gymorth buddsoddi i fusnesau Cymru dros y pum mlynedd nesaf er mwyn i fusnesau micro i ganolig yng Nghymru allu cael cyllid, gwasanaethau cymorth a chyngor rheoli’n rhwydd.

Bydd y Banc Datblygu, meddid, yn creu ac yn diogelu dros 5500 o swyddi’r flwyddyn erbyn 2022 a bydd ei lefelau buddsoddi uniongyrchol blynyddol wedi cynyddu i £80m erbyn hynny. 

Fis diwethaf, cadarnhaodd Ysgrifennydd yr Economi ei ddymuniad i weld sefydlu pencadlys y Banc Datblygu yn y Gogledd.

Ken Skates
BBC

Banc Datblygu Cymru

Yr eitem nesaf yn y Siambr yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates ar y Banc Datblygu Cymru.

Ym mis Medi dywedodd Ken Skates bod "pecyn ar gyfer busnesau sy'n cynnwys cronfa fusnes newydd gwerth £136 miliwn a sefydlu Banc Datblygu ar gyfer Cymru yn trawsnewid y cymorth ariannol sy'n cael ei gynnig i fusnesau yng Nghymru, yn dilyn y bleidlais i adael yr UE."

Arian
PA

Gan y mesur 'lawer i'w argymell'

Mae Michelle Brown UKIP yn dweud bod gan y mesur "lawer i'w argymell", ond mae hi'n codi nifer o gwestiynau ynghylch ei weithredu, gan gynnwys prosesau, staff ac arian.  

Michelle Brown
BBC

Papur briffio gan Wasanaeth Ymchwil Cynulliad

Lefelau staffio, cyllid a mynediad i bobl broffesiynol

Mae'r aelod Ceidwadol Darren Millar hefyd yn croeaswu'r mesur ac yn dweud ei fod yn edrych ymlaen i graffu ar y ddeddfwriaeth i sicrhau ei bod yn ymateb i bryderon allweddol ynghylch lefelau staffio, cyllid a mynediad i bobl broffesiynol ar gyfer y rheini sydd eu hangen nhw.

Darren Millar
BBC

Rhai o amcanion y Mesur

  • cyflwyno'r term newydd ‘anghenion dysgu ychwanegol’ yn lle'r termau ‘anghenion addysgol arbennig’ (AAA) ac ‘anawsterau a/neu anableddau dysgu’ (AAD)
  • creu un system ddeddfwriaethol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag ADY sy'n 0 i 25 oed, yn lle'r ddwy system wahanol sydd ar waith ar hyn o bryd
  • dileu'r system o ddatganiadau a chreu un cynllun (y cynllun datblygu unigol (CDU)) yn lle'r ystod o gynlluniau statudol ac anstatudol sydd gennym ar hyn o bryd o ran AAA/AAD ar gyfer dysgwyr, gan sicrhau hawliau teg beth bynnag yw lefel anghenion y dysgwr neu'r lleoliad addysg y mae'n ei fynychu
  • sicrhau bod barn dysgwyr a rhieni yn cael ei hystyried drwy gydol y broses gynllunio i wneud yn siwr bod pawb yn ei gweld fel rhywbeth sy'n eu cynnwys, yn hytrach na rhywbeth sy'n digwydd iddynt, a bod y plentyn neu'r person ifanc yn ganolog i bopeth
  • annog cydweithio gwell rhwng asiantaethau, fel bod anghenion yn cael eu nodi'n gynnar a bod y cymorth cywir yn ei le.
Plant
BBC

Diwygiadau hir-ddisgwyliedig

Mae Llefarydd Addysg Plaid Cymru Llyr Gruffydd yn croeaswu'r mesur, ac yn dweud y bydd ei blaid yn gweithio i sicrhau bod y mesur yn cynnig y gefnogaeth gryfa posib i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion addysgu ychwanegol yng Nghymru.

Mae'n dweud bod diwygiadau yn hir-ddisgwyliedig.

Llyr Gruffydd
BBC

Y Mesur Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg

Am yr awr nesaf mae'r aelodau yn gwrando ar ddatganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies ar y Mesur Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru).  

Bydd deddf newydd yn fodd o sicrhau y bydd mwy o bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael canlyniadau academaidd gwell, yn ôl Gweinidog Dysgu Gydol Oes Cymru, Alun Davies.

Petai'r mesur Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a Thribiwnlys Addysgol yn cael cefnogaeth aelodau'r Cynulliad, dywed Mr Davies y bydd yn trawsnewid y system bresennol yn llwyr. 

Fe allai'r drefn newydd ddod i rym erbyn 2019. Y llynedd 23% o ddisgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol wnaeth sicrhau pump TGAU, o'i gymharu â 59% o holl ddisgyblion Cymru. 

Yn ôl y ddeddfwriaeth newydd byddai trefn newydd wrth asesu anghenion pobl hyd eu bod yn 25 oed. 

Ar hyn o bryd mae plant gydag anghenion dysgu yn cael 'datganiad', ond byddai hyn yn cael ei ddisodli gan Gynllun Datblygu Unigol. 

Bydd y ddeddf yn cyflwyno'r term newydd 'anghenion dysgu ychwanegol' yn lle'r termau 'anghenion addysgol arbennig' ac 'anawsterau ac/neu anableddau dysgu'.

Alun Davies
BBC

Pynciau sy'n codi

Mae'r aelodau'n codi nifer o faterion gyda Jane Hutt, yn eu plith "gwleidyddion benywaidd yng Nghyngor Caerdydd yn cael eu bwlio", caffaeliad cynaliadwy a Diwrnod Rhyngwladol Pobl sydd ag Anableddau.   

Jane Hutt
BBC

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Nesa y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes pan mae Arweinydd y Tŷ, Jane Hutt yn amlinellu busnes y Cynulliad ar gyfer y dyfodol agos.

View more on twitter

Cwestiwn Brys

Nawr cwestiwn brys i Ysgrifennydd y Cabinet dros lechyd, Llesiant a Chwaraeon.

Mae Mohammad Asghar yn gofyn i'r Gweinidog wneud datganiad am adolygiad Llywodraeth Cymru o ofal cleifion sydd â salwch aciwt yn dilyn ymchwiliad beirniadol iawn yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus i ofal claf 93 oed yn Ysbyty Brenhinol Gwent.

Bu farw Mr Y dri diwrnod ar ôl mynd i Ysbyty Brenhinol Gwent ym mis Rhagfyr 2014.

Roedd hyn er bod yna bryderon bod ei iechyd wedi dirywio a bod canllawiau yn dynodi y dylai fod wedi cael asesiad meddygol o fewn 30 munud.

Dywedodd yr ombwdsmon nad oedd nyrsys wedi codi pryderon ynglŷn â'r oedi ac o achos hynny chafodd tabledi gwrthfiotig ddim eu rhoi mewn "ffordd amserol".

Ysbyty Brenhinol Gwent
GEOGRAPH/ROBIN DRAYTON

Trafodaethau ynghylch y cynllun pensiwn i lowyr

Mae Carwyn Jones yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi siarad gyda gweision sifil Llywodraeth y DU y bore ma ynghylch y cynllun pensiwn i lowyr.

Mae cyn-lowyr yng Nghymru yn galw am adolygiad o'u cronfa bensiwn, gan ddadlau y dylen nhw gael cyfran fwy o'r arian sy'n weddill.

Glofa
ROGER TILEY

'Blynyddoedd o dan-fuddsoddi yn rheilffyrdd Cymru'

Mae'r Prif Weinidog yn dweud bod Llywodraeth y DU wedi "tan-fuddsoddi" dros gyfnod o flynyddoedd yn rheilffyrdd Cymru.

Mae'n galw am ragor o bwerau i Lywodraeth Cymru ar reilffyrdd.

Rheilffyrdd
BBC

Ymfudo nid mewnfudo

Ar fewnfudo mae Leanne Wood yn dweud, "Ddylsech chi ddim awgrymu bod yna broblem pan nad oes un."

Er hynny, mae hi'n dweud bod ymfudo yn broblem.   

'Dawnsio i dôn UKIP'

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng Carwyn Jones a Jeremy Corbyn ar fewnfudo, yw'r hyn y mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood eisiau ei wybod.

Ar fater rhyddid i symud, mae Mr Jones yn dweud ei fod yn agosach at Ms Wood na Mr Corbyn.

Mae Ms Wood yn dweud bod y Prif Weinidog yn "dawnsio i dôn UKIP".

Ar fewnfudo/rhyddid i symud, mae'r Prif Weinidog yn dweud: "Dydw i ddim yn credu bod y system bresennol yn cael y gefnogaeth y dylai". 

Leanne Wood
BBC

'Steil, finesse, sgiliau a medrusrwydd'

Mae arweinydd UKIP Neil Hamilton eisiau gwybod "beth yw methiant pennaf" Llywodraeth Cymru eleni - iechyd, addysg, tlodi?

Mae'n well gan y Prif Weinidog restru llwyddiannau, ac yn dweud mai'r methiant pennaf yw gweld Mr Hamilton yn cael ei ethol i Siambr y Cynulliad. 

Mae Mr Hamilton yn canmol y Prif Weinidog ar ei "steil, finesse,   sgiliau a medrusrwydd."

Neil Hamilton
BBC

'Cytundeb da iawn'

Mae Mr Davies yn pwyso ar y Prif Weinidog i ddweud a ydy e'n credu y dylai gweithwyr Tata dderbyn cytundeb y cwmni ar bensiynau i sicrhau dyfodol y safle ym Mhort Talbot. 

Mae Carwyn Jones yn dweud ei fod e'n "gytundeb da iawn", o gymharu gyda'r sefyllfa yn y Gwanwyn pan roedd Tata eisiau gwerthu'r safle.

Mae'n dweud bod cynnig Llywodraeth Cymru o £60m i Tata yn cyfateb i 5 mlynedd o drethi busnes am ddim.

Safle Tata ym Mhort Talbot
Getty Images

Tata yn gwmni 'sy'n gwrando'

Mewn ymateb i arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies, mae Carwyn Jones yn canmol Tata fel cwmni "sy'n gwrando". 

Mae'n honni na fyddai "Tata yn y safle y mae nhw yng Nghymru onibai am y cymorth y gwnaethon ni eu roi".

Andrew RT Davies
BBC

Galwad i wrthsefyll ymdrechion i wanhau pwerau'r Cynulliad

Mae'r aelod Annibynnol Dafydd Elis-Thomas yn gofyn i'r Prif Weinidog i wrthsefyll ymdrechion i wanhau pwerau'r Cynulliad.

Ddoe fe wnaeth aelod seneddol Ceidwadol awgrymu y dylai San Steffan gael y pŵer i roi Llywodraeth Cymru mewn "mesurau arbennig" oherwydd ei record ar addysg.

Dafydd Elis-Thomas
BBC

Ansawdd awyr gwael a chynnydd mewn teithiau ceir

Mae Neil McEvoy Plaid Cymru a'r aelod Ceidwadol David Melding yn codi mater ansawdd awyr gwael a chynnydd mewn teithiau i geir.

"Allwn ni ddim dibynnu ar drafnidiaeth sy'n seiliedig ar geir am byth" medd y Prif Weinidog, ac mae'n rhestru cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer llwybrau seiclo gwell a threnau gwell."

David Melding
BBC

Gallai Caerdydd fod yn 'faes parcio' anferth

Mae Mr Bennett yn dweud y gallai datblygiad tai mawr droi Caerdydd yn "faes parcio" anferth. 

Mae'r Prif Weinidog yn dweud bod gan yr awdurdod lleol ddyletswydd i sicrhau bod adran 106 (o'r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref) yn cael ei defnyddio i'w hyd eithaf. 

Carwyn Jones
BBC

Tagfeydd traffig yng Nghanol De Cymru

Mae'r cwestiwn cyntaf a gyflwynwyd gan Gareth Bennett: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leddfu'r tagfeydd traffig ar y ffyrdd yng Nghanol De Cymru? 

Croeso

Croeso i Senedd Fyw sy'n darlledu'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. 

Mae'r sesiwn fel arfer yn dechrau gyda chwestiynau i'r Prif Weinidog, Carwyn Jones.  

Y Senedd
BBC