a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Y Pwyllgor Cyllid
  2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
  3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
  4. Datganiadau 90 Eiliad
  5. Dadl y Ceidwadwyr ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf
  6. Dadl y Ceidwadwyr ar lefelau gordewdra yng Nghymru
  7. Dadl Plaid Cymru ar sector addysg uwch Cymru
  8. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig ar berthynas Prydain â'r UE wedi Brexit
  9. Dadl Fer: O'r golwg yng ngolwg pawb: unigrwydd yng nghymunedau Cymru, a beth i'w wneud amdano

Y diweddaraf yn fyw

Gan Nia Harri a Gwenllian Grigg

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

Dyna ni am heddiw.

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth Ionawr 17.

Y Senedd
BBC

Dadl Fer: Unigrwydd yng nghymunedau Cymru

Ac yn olaf heddiw Dadl Fer gan Joyce Watson. 

A'r pwnc: O'r golwg yng ngolwg pawb: unigrwydd yng nghymunedau Cymru, a beth i'w wneud amdano.   

Unigrwydd
Thinkstock

Pleidlais ar ddyfodol Cymru o fewn y Farchnad Sengl

Gwrthodwyd cynnig UKIP.

Y farchnad sengl yw'r 'mater pwysicaf'

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn dweud nad yw'n credu y gellir cael mynediad i'r farchnad sengl, ac ar yr un pryd ddweud eich bod eisiau rheolaeth lwyr o fewnfudo.

"Rydych chi'n dewis y naill neu'r llall, ac rydw i wedi gwneud y dewis i ddweud fy mod i'n credu mai blaenoriaethu mynediad i'r farchnad sengl yw'r mater mwyaf pwysig i ni yng Nghymru.

"Yr Undeb Ewropeaidd, o bell ffordd, yw ein marchnad fwyaf."

Carwyn Jones
BBC

'Pryder cyhoeddus' ynglŷn â mewnfudo

Mae Gareth Bennett UKIP yn dweud y byddai nifer yn cytuno bod pryder y cyhoedd ynghylch mewnfudo yn ffactor anferth yn y bleidlais Brexit.

Mae'n gofyn i Carwyn Jones a yw'n credu bod mynediad i'r farchnad sengl yn fwy pwysig fel mater na rhyddid i symud.

Gareth Bennett
BBC

Symud y tu hwnt i Brexit

Mae'r aelod Llafur, Jeremy Miles, yn rhybuddio yn erbyn syrthio i'r trap o "gredu mai'r fersiwn presennol o ryddid i symud yw'r unig ffordd y gallwn ni fynegi ein rhyng-genedlaetholdeb fel gwlad."

"2017 yw'r flwyddyn y mae angen i ni symud y tu hwnt i fecaneg Brexit a dechrau diffinio y wlad yr ydyn ni eisiau i Gymru fod ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd."

Jeremy Miles
BBC

Gwelliant 2

Ar ran Plaid Cymru mae Adam Price yn cynnig:

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn croesawu ymweliad y Prif Weinidog â Norwy.

2. Yn nodi bod Norwy yn aelod o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi mynediad llawn a dilyfethair i'r Farchnad Sengl Ewropeaidd, drwy aelodaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a/neu'r Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd.    

Gwelliant 1

Ar ran y Ceidwadwyr mae Mark Isherwood yn cynnig:

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn croesawu bwriad Prif Weinidog y DU i adeiladu perthynas rymus newydd â'r Undeb Ewropeaidd, sy'n gweithio i'r Deyrnas Unedig ac i Gymru.

2. Yn cydnabod pwysigrwydd masnachu ag Ewrop a gweddill y byd, sy'n hanfodol i ddyfodol economi Cymru.

3. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i sicrhau perthynas fasnachu gref sy'n rhoi rhyddid i gwmnïau Prydain fasnachu a gweithredu yn y Farchnad Sengl ac y dylai trefniadau cyfatebol gael eu cynnig i fusnesau'r UE sy'n masnachu ac yn gweithredu yn y DU. 

Mark Isherwood
BBC

'Budd gorau Cymru yn San Steffan a Chaerdydd'

Mae Neil Hamilton hefyd yn credu:

a) mai er budd gorau Cymru y caiff deddfau a rheoliadau eu gwneud gan gynrychiolwyr Prydain sydd wedi'u hethol yn ddemocrataidd yn San Steffan a Chaerdydd, yn hytrach na chan swyddogion pell ym Mrwsel, nad ydynt yn atebol i neb; a

b) byddai aelodaeth o'r Farchnad Sengl yn gwahardd rheolaeth effeithiol o ran mewnfudo dinasyddion yr UE i'r DU, ac yn tanseilio canlyniad y refferendwm a difetha dymuniadau'r rhan fwyaf o bleidleiswyr Cymru. 

4. Yn nodi, bod yr UE yn allforio £8 biliwn yn fwy mewn nwyddau i'r DU bob mis nag y mae'r DU yn ei allforio i'r UE.

5. Yn cefnogi safbwynt negodi cyffredinol Llywodraeth y DU o geisio am yr uchafswm posibl o ran masnach rydd â'r UE, yn unol â rheolaeth fewnfudo gadarn. 

Gwersi gan Norwy?

Mae Neil Hamilton yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu ymweliad y Prif Weinidog â Norwy i ganfod ffeithiau a gweld drosto'i hun beth yw'r beichiau a'r costau rheoleiddiol a osodir ar Norwy yn sgil aelodaeth lawn o Farchnad Sengl yr UE.

2. Yn nodi bod y beichiau a'r costau hyn yn berthnasol i holl fusnesau Norwy, pa un a ydynt yn allforio i'r UE ai peidio. 

Neil Hamilton
BBC

Dadl ar berthynas Cymru a'r Farchnad Sengl wedi Brexit

Y ddadl nesaf yn y Siambr yw un Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig.

A'r pwnc: aelodaeth Cymru o'r Farchnad Sengl Ewropeaidd yn dilyn Brexit. 

Brexit
BBC

Trydar y Cynulliad ar deyrnged gan Bethan Jenkins

Yr Ysgrifennydd Addysg yn cefnogi'r cynnig

Mae'r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams yn diolch i'r aelodau am eu cyfraniadau i ddadl Plaid Cymru.

Mae'n dweud ei bod hi wedi ei hymrwymo i lwyddiant lleol, cenedlaethol a rhyngwladol prifysgolion Cymru, a'i bod hi'n cefnogi'r cynnig.

Dylai myfyrwyr, ymchwilwyr ac academyddion barhau i allu manteisio ar gyllid o raglenni yr Undeb Ewropeaidd, meddai. 

Sut i gadw llwyddiant prifysgolion yr DU

Mae David Melding yn dweud ei bod hi'n bwysig i ganolbwyntio ar beth sydd ei angen i gadw prifysgolion y DU fel mwy na thebyg y set ail orau o brifysgolion yn y byd ar ôl yr Unol Daleithiau. 

"Rydyn ni filtiroedd o flaen unrhyw wlad, ac eithrio yr Unol Daleithiau."

David Melding
BBC

Gwelliant y Ceidwadwyr ar addysg uwch

Ar ran y Ceidwadwyr mae Darren Millar yn cyflwyno y gwelliant canlynol:

Ym mhwynt 4, dileu is-bwyntiau a), b), c) a d) a rhoi yn eu lle:

'a) manteisio i'r eithaf ar ffynonellau rhyngwladol o ran cyllid ymchwil ar gyfer prifysgolion Cymru; 

b) cefnogi mentrau cydweithredu sy'n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr, ymchwilwyr a staff prifysgolion Cymru ymgysylltu â rhaglenni cyfnewid rhyngwladol; 

c) archwilio'r posibilrwydd o ddatblygu trefniadau dwyochrog â'r UE i fynd i'r afael â phryderon ynghylch statws gwladolion yr UE sy'n gweithio mewn prifysgolion yng Nghymru; 

d) parhau i gynnig cyfleoedd i raddedigion rhyngwladol gael fisas ar ôl eu hastudiaethau i'w galluogi i weithio a sefydlu busnesau yn y DU; 

'Diogelu cyllid yr Undeb Ewropeaidd'

Mae Plaid Cymru hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i:

a) diogelu cyllid a rhaglenni presennol yr UE ar gyfer ymchwil ac addysg uwch neu ddarparu cyllid a rhaglenni yn eu lle;

b) sicrhau bod prifysgolion Cymru yn parhau i gymryd rhan yng nghynllun cyfnewid staff a myfyrwyr Erasmus+, a chefnogi rhagor o gydweithio rhyngwladol a chyfnewid o ran myfyrwyr, ymchwilwyr a staff;

c) sicrhau statws fisa a dinasyddiaeth gwladolion yr UE sy'n gweithio ym mhrifysgolion Cymru;

d) galluogi prifysgolion Cymru i gymryd rhan mewn cynllun fisa i weithio ar ôl astudio; ac e) dileu myfyrwyr rhyngwladol o dargedau mudo net y DU. 

Sector Addysg Uwch 'llwyddiannus' yn hanfodol ar gyfer Cymru 'ffyniannus'

Mae Llyr Gruffydd yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 

1. Yn cydnabod pa mor bwysig yw sector addysg uwch Cymru o ran cynnig cyfleoedd pwysig i bobl Cymru, a sicrhau manteision economaidd sylweddol i gymunedau ar hyd a lled y wlad.

2. Yn credu bod sector addysg uwch llwyddiannus a bywiog yn hanfodol ar gyfer Cymru ffyniannus.

3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru wneud popeth sydd ei angen i ddiogelu cynaliadwyedd sector addysg uwch Cymru ar gyfer y dyfodol.

Llyr Gruffydd
BBC

Dadl ar Sector Addysg Uwch Cymru

Am yr awr nesaf mae'r aelodau yn gwrando ar ddadl gan Blaid Cymru ar sector addysg uwch Cymru.

Addysg Uwch
BBC

Gordewdra: GIG 'methu goroesi' medd arbenigwr

Ddoe fe wnaeth arbenigwr mewn gofal gordewdra ddweud na fydd y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, yn ei ffurf bresennol, yn goroesi wrth i gyfraddau gordewdra gynyddu.

Dywedodd Dr Zoe Harcombe bod ganddi bryderon am y costau a straen ychwanegol ar y GIG.

Gwelliant 2 wedi ei gynnig yn ffurfiol

Mae Dai Lloyd yn cynnig Gwelliant 2 ar ran Rhun ap Iorwerth: 

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2, ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi bod trethi ar gynnyrch afiach a rheolau'n ymwneud â hysbysebu cynnyrch o'r fath yn faterion nad ydynt wedi'u datganoli, ac yn gresynu bod llywodraethau dilynol y DU wedi methu â defnyddio'r pwerau hyn i fynd i'r afael â gordewdra.   

Gwelliant 1 ar ordewdra wedi ei gynnig yn ffurfiol

Gwelliant 1 gan Jane Hutt:

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn nodi:

a) a hithau'n Wythnos Ymwybyddiaeth Genedlaethol Gordewdra, mai ychydig o newid sydd wedi bod yn nifer yr oedolion sydd dros eu pwysau neu'n ordew yng Nghymru ers 2012 - ond ein bod am weld y niferoedd hynny'n gostwng;

b) bod yr Arolwg Iechyd Cymru diweddaraf yn dangos bod 59% o oedolion yn cael eu cyfrif yn rhai sydd dros eu pwysau neu'n ordew, a bod Adroddiad Blynyddol Presennol Rhaglen Mesur Plant Cymru yn cofnodi bod 26.2% o blant dros eu pwysau neu'n ordew; a

c) bod Llywodraeth Cymru'n parhau i fuddsoddi ar draws pob maes portffolio - gan gynnwys drwy GIG Cymru, addysg, chwaraeon a llywodraeth leol - i helpu pobl Cymru i fyw bywydau iach. 

Dadl ar ordewdra

Nawr dadl arall gan y Ceidwadwyr Cymreig, y tro yma ar lefelau gordewdra. 

Mae Angela Burns yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi, yng ngoleuni Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Gordewdra, bod lefelau gordewdra yng Nghymru ar gynnydd.

2. Yn mynegi pryder bod cymaint â 59 y cant o oedolion wedi cael eu cofnodi i fod dros eu pwysau neu'n ordew, fel y nodwyd yn yr Arolwg Iechyd Cymru diweddar, a bod 27.3 y cant o blant yng Nghymru yn ordew neu dros eu pwysau, fel y cofnodir yn Rhaglen Mesur Plant Cymru: Adroddiad Blynyddol Presennol.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r diffyg cydlyniant rhwng ei mentrau iechyd cyhoeddus, a thoriadau i gyllid llywodraeth leol, sy'n rhwystro defnydd effeithiol o'r rhaglenni hyn. 

Gordewdra
Reuters

Y pwysau sy'n wynebu staff iechyd yn wybyddus

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething yn dweud bod pawb yn gwybod am y pwysau sy'n wynebu staff ysbytai a gofal cymdeithasol dros yr wythnosau diwethaf.

Mae'n dweud ei bod hi'n destament i ymrwymiad a sgiliau'r staff, bod y mwyafrif o gleifion yn parhau i gael gofal mewn modd broffesiynol ac mewn pryd.

Vaughan Gething
BBC

Gwelliant Plaid Cymru

Mae Dai Lloyd yn cynnig gwelliant 2 a 3 gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 2:

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2, ac ailrifo yn unol â hynny:

"Yn nodi bod gwasanaethau gofal cymdeithasol, hefyd, yn gweithredu mewn cyd-destun o ddiffyg cyllid a cheisio ei dal hi ym mhob man, a bod y gwasanaethau hyn hefyd yn elfen bwysig o barodrwydd ar gyfer y gaeaf." 

Gwelliant 3:

Ym mhwynt 3, ar ôl "Byrddau Iechyd Cymru", rhoi "a gwasanaethau gofal cymdeithasol". 

Gwelliant 1

Mae gwelliant 1 Jane Hutt wedi cael ei gynnig:

Dileu popeth ar ôl "pwysau ehangach ar y GIG ac ar ofal cymdeithasol" ym mhwynt 2 a rhoi yn ei le:

3. Cydnabod bod Llywodraeth Cymru'n buddsoddi mwy nag erioed yn y GIG i ateb y galw cynyddol, yn arbennig yn ystod misoedd y gaeaf.

4. Cofnodi ei gefnogaeth i'r GIG a'r staff gofal cymdeithasol sydd wedi gweithio'n galed tu hwnt dros y gaeaf i sicrhau triniaeth a gofal o'r radd flaenaf i gleifion.

5. Galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad statws ar berfformiad cynlluniau Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru 2016/17 yn erbyn y sefyllfa bresennol ar draws GIG Cymru. 

Casgliadau'r Pwyllgor Iechyd

Ym mis Rhagfyr fe wnaeth Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad gyhoeddi adroddiad yn dilyn  eu hymchwiliad i weld pa mor barod y byddai'r Gwasanaeth Iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer delio gyda phwysau'r Gaeaf.

Gallwch weld eu casgliadau a'u hargymhellion fan hyn.

Cynnig y Ceidwadwyr

Mae Angela Burns yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 

1. Yn nodi datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ym mis Tachwedd 2016 ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf.

2. Yn nodi ymhellach ymateb Coleg Brenhinol y Meddygon i'r ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17, sy'n nodi: "Mae'r sialensiau sy'n wynebu byrddau iechyd wrth iddynt baratoi am y gaeaf yn gymhleth. Maent yn adlewyrchu'r pwysau ehangach ar y GIG ac ar ofal cymdeithasol", ac; "Mae byrddau iechyd yn gweithio mewn cyd-destun o ddiffyg cyllid, diffyg meddygon a cheisio ei dal hi ymhob man."

 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad statws o ran sut y mae ei chynlluniau ar gyfer 2016/17, ynghyd â chynlluniau Byrddau Iechyd Cymru, yn perfformio o gymharu â'r sefyllfa bresennol ledled GIG Cymru. 

Parodrwydd at y gaeaf
GUSTOIMAGES/SCIENCE PHOTO LIBRARY

Dadl ar barodrwydd ar gyfer y Gaeaf

Nawr y cyntaf o ddadleuon y prynhawn. 

Mae'n ddadl gan y Ceidwadwyr Cymreig ar barodrwydd ar gyfer y Gaeaf. 

Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf yn y Siambr yw'r Datganiadau 90 Eiliad, lle mae tri aelod yn cael cyfle i godi materion amserol. 

Angen adolygu y fframwaith presennol

Mae Alun Davies yn dweud ei fod yn credu iddo fod yn ddigon clir, ei fod yn credu ei bod hi'n bryd i adolygu y fframwaith deddfwriaethol cyfredol sydd ganddon ni, a bod y safonau yn rhan o hynny.

Y flaenoriaeth meddai, yw i edrych ar y strategaeth iaith, ac y bydd yn cyhoeddi papur gwyn ar y materion hyn yn y Gwanwyn.

Alun Davies
BBC

Safonau iaith yn 'rhy gymhleth'?

Mae Sian Gwenllian Plaid Cymru yn gofyn i Alun Davies fel gweinidog yr iaith Gymraeg i ehangu ar ei sylwadau yr wythnos ddiwethaf, pan ddywedodd bod Deddf yr Iaith Gymraeg yn rhy gymhleth, a bod angen i ni adolygu y ffordd y mae safonau iaith yn cael eu cyflwyno.

Sian Gwenllian
BBC

Swyddi llawn amser sydd orau

Mae Kirsty Williams yn dweud mai cael swyddi llawn amser, gydag athrawon sy'n adnabod eu myfyrwyr a dosbarthiadau yn well, yw'r ffordd orau o staffio ysgol.

Er hynny, mae'n dweud ei bod hi'n dda i athrawon allu symud o gwmpas i rannu arfer gorau.

"Mae angen i ni wneud yn sicr ein bod ni'n rheoli yr absenoldebau sydd wedi eu trefnu."

Pwysigrwydd staff llawn amser

Ar ran UKIP mae Michelle Brown yn gofyn a yw'r ysgrifennydd yn cytuno gyda hi, petai gan ysgolion yng Nghymru ragor o athrawon ar eu staff amser llawn, na fyddai'n rhaid iddyn nhw wario cymaint o arian ar gyflogi staff cyflenwi.

Michelle Brown
BBC

Rhwydwaith ragoriaeth ar gyfer gwyddoniaeth a technoleg

Mae Kirsty Williams yn cyfeirio at ei chyhoeddiad yn gynharach y mis hwn ar greu rhwydwaith ragoriaeth ar gyfer gwyddoniaeth a technoleg.

"Bydd y rhwydwaith yn sicrhau y bydd ein hathrawon gwyddoniaeth y gorau y gellir eu cael."

"Bydd yn cynnwys gweithio a chysylltu ysgolion gyda sefydliadau addysg uwch, lle mae ganddon ni rhai adrannau gwyddoniaeth a thechnoleg neilltuol."

Kirsty Williams
BBC

Canlyniadau siomedig Pisa

Mae llefarydd addysg y Ceidwadwyr Darren Millar yn cyfeirio at berfformiad Cymru ym mhrofion diweddara Pisa ac yn gofyn i'r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams, pa gamau y mae hi'n eu cymryd i wrthdroi y dirywiad yng nghanlyniadau gwyddoniaeth yng Nghymru.

Darren Millar
BBC

Darparu gwybodaeth annibynnol a diduedd

Mae Alun Davies yn dweud bod Gyrfaoedd Cymru yn darparu gwybodaeth annibynnol a diduedd, cyngor ac arweiniad ar ddysgu a chyfleoedd gyrfa.

Mae'n dweud bod y cwmni "yn weithredol yn cefnogi ysgolion i sgwrsio gyda chyflogwyr a busnesau i ddarparu myfyrwyr gyda chyfleoedd i ryngweithio gyda byd gwaith."

Cwestiynau ar Addysg

Nawr cwestiynau ar Addysg. 

Mae Jeremy Miles yn gofyn pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i alluogi disgyblion i gael dealltwriaeth lawnach o'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt ym myd gwaith.  

Trafod a chytuno ar fframwaith

Wrth ymateb mae Mark Drakeford yn dweud mai ei waith e yw i drafod a chytuno ar fframwaith petai datganoli rhannol o dreth incwm.

"Roedd hi'n glir i'r Trysorlys ar hyd y broses y byddai'r penderfyniad terfynol ynghylch a fyddai Mesur Cymru yn cael cydsyniad deddfwriaethol y Cynulliad hwn yn benderfyniad i'r Cynulliad."

Datganoli pwerau codi trethi incwm

Mae Mark Reckless UKIP yn cyfeirio at sylwadau Mark Drakeford yn y Pwyllgor Cyllid pan ddywedodd nad oedd hi'n anochel y byddai datganoli pwerau codi treth incwm, ac y bydden nhw'n pwyso a mesur hyn dros y penwythnos.

Mae'n gofyn pam bod yr Ysgrifennydd Cyllid wedi llofnodi dogfen sy'n dweud y bydd datganoli ar gyfraddau treth incwm yng Nghymru yn digwydd.

Mark Reckless
BBC

'Ansawdd y prosiect fyddai'r ffactor penna'

Mae Mark Drakeford yn dweud nad yw'r premiss sylfaenol yn ddaearyddol.

"Ein huchelgais yw buddsoddi yn y prosiectau cyfalaf sy'n darparu'r elw gorau i Gymru."

Ansawdd y prosiect yn hytrach na'i leoliad daearyddol fyddai'r ffactor penna wrth benderfynu, meddai.