a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
  2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
  3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol: Y Mesur Undebau Llafur (Cymru)
  4. Datganiadau 90 Eiliad
  5. Dadl Plaid Cymru ar Ddur Tata
  6. Dadl Plaid Cymru ar y Grid Cenedlaethol
  7. Dadl y Ceidwadwyr ar gasgliadau sbwriel
  8. Dadl y Ceidwadwyr ar fusnesau bach
  9. Dadl Fer: Cywiro'r cam - honiadau hanesyddol yn ymwneud â disgyblion yn Ysgolion Preswyl y Royal Cambrian a Llandrindod ar gyfer Plant Byddar

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

Dyna ni am heddiw.

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth Ionawr 24.

Y Senedd
BBC

Dadl Fer: Cywiro'r cam

Ac yn olaf heddiw Dadl Fer gan Julie Morgan.

A'r pwnc: Cywiro'r cam - honiadau hanesyddol yn ymwneud â disgyblion yn Ysgolion Preswyl y Royal Cambrian a Llandrindod ar gyfer Plant Byddar.   

Julie Morgan.
BBC

Y bleidlais ar y ddadl ar geblau a'r Grid Cenedlaethol

Mae'r aelodau yn pasio cynnig Plaid Cymru ar geblau a'r Grid Cenedlaethol wedi iddo gael ei ddiwygio.

Roedd 51 o blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd, neb yn erbyn a neb yn ymatal. 

y bleidlais
BBC

Dros £200m o gefnogaeth i drethdalwyr

Mae'r Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu dros £200m o gefnogaeth i drethdalwyr yng Nghymru yn 2017-18 i dalu ardrethi annomestig, hyn yn ychwanegol i gynllun rhyddhad trosiannol Llywodraeth Cymru, gwerth £10m.

Manylion y cynllun ar gael yn hawdd?

Mae David Rowlands UKIP yn dweud ei bod hi'n angrheidiol bod gwybodaeth am y cynllun rhyddhad ardrethi busnes ar gael yn hawdd i bawb sy'n gymwys, a bod y broses apelio yn effeithiol.

David Rowlands
BBC

Gwelliant Plaid Cymru

Ar ran Plaid Cymru mae Adam Price yn cynnig ychwanegu pwynt newydd ar ddechrau'r cynnig:

"yn croesawu'r rhyddhad ardrethi busnes ychwanegol gwerth £10 miliwn sydd wedi'i sicrhau gan Blaid Cymru fel rhan o'r trafodaethau ynghylch cyllideb 2017/18."   

Dadl ar fusnesau bach

Dadl arall nawr gan y Ceidwadwyr ar fusnesau bach.

Mae nhw'n cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi rhagor o gymorth i fusnesau bach yr effeithir arnynt gan y broses ailbrisio ardrethi annomestig yn 2017, gan gynnwys rhagor o wybodaeth am y £10 miliwn o gyllid ychwanegol a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2016. 

Mae disgwyl i filiau treth busnesau fel siopau, tafarndai a caffis i gynyddu'n sylweddol ym mis Ebrill o ganlyniad i ailbrisio eu hadeiladau. 

Busnesau bach
BBC

Gwell cyfraddau ailgylchu, ond ar ba gost?

Mae Gareth Bennett yn dweud y bydd UKIP yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr heddiw.

Mae'n dweud "rydyn ni'n cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi perfformio'n dda yn nhermau cyfraddau ailgylchu", ond mae'n gofyn "ond ar ba gost"?

Gareth Bennett
BBC

Gwelliant 2

Ar ran Llywodraeth Cymru mae Lesley Griffiths yn nodi "llwyddiant Cymru wrth ailgylchu 60 y cant o'i gwastraff yn 2015/16 a chyflawni'r gyfradd ailgylchu uchaf yn y DU a'r 4ydd uchaf yn Ewrop."

Mae hi hefyd yn galw ar y Cynulliad i "dderbyn ymreolaeth awdurdodau lleol, yn ysbryd lleoliaeth, i benderfynu pa mor aml y dylent gasglu gwastraff gweddilliol tra'n cydnabod nad yw casgliadau gwastraff llai aml yn arwain at ragor o dipio anghyfreithlon nac yn peryglu iechyd y cyhoedd."   

Gwelliant 1

Mae Plaid Cymru yn cynnig y gwelliant canlynol.

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn nodi bod rhai awdurdodau lleol yng Nghymru yn cynnig casglu biniau bob tair wythnos neu bob pedair wythnos.

2. Yn nodi targed Llywodraeth Cymru yn 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff' y bydd pob sector yng Nghymru yn ailgylchu o leiaf 70 y cant o'i wastraff erbyn 2025.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i alluogi pobl i gynyddu faint o wastraff y maent yn ei ailgylchu drwy wahardd deunydd pacio Styrofoam. 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i alluogi pobl i gynyddu faint o wastraff y maent yn ei ailgylchu drwy gyflwyno cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer plastig, gwydr a chaniau. 

Gwers i'w dysgu

Mae Simon Thomas yn ail-ddechrau'r Cyfarfod Llawn drwy ddweud yn gellweirus mai'r wers o'r hyn ddigwyddodd, yw i fyth gynnal dadl ar y Grid Cenedlaethol yn y Cynulliad.

Mae'r aelodau nawr yn parhau gyda'r ddadl ar gasgliadau sbwriel.

Ail-ymuno â'r Cyfarfod Llawn

Mae modd nawr i ail-ymuno â'r Cyfarfod Llawn wedi i doriad trydan amharu ar y cyfarfod.

Mae'r Llywydd Elin Jones yn ymddiheuro am yr "egwyl annisgwyl."

Elin Jones
BBC

Toriad trydan

Mae toriad trydan yn amharu ar y Cyfarfod Llawn yn y Siambr.

Oes rhywun wedi tynnu'r plwg?

Problemau technegol

Ymddiheurwn, ond mae yna doriad yn y darlledu oherwydd problemau technegol.

Galwad am gasglu gwastraff gweddilliol bob pythefnos

Mae'r Ceidwadwyr yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r pryder am y casgliadau sbwriel tair a phedair wythnos a gynigir gan rai awdurdodau lleol ledled Cymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cynghorau yn casglu gwastraff gweddilliol bob pythefnos fan lleiaf, er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ac atal tipio anghyfreithlon.  

Dadl ar gasgliadau sbwriel

Yr eitem nesaf yn y Siambr yw Dadl y Ceidwadwyr ar gasgliadau sbwriel. 

Casglu sbwriel
BBC

Ffafrio ceblau o dan y ddaear

Ar ran Llywodraeth Cymru, mae Lesley Griffiths yn dweud y dylid "ffafrio" yn hytrach na bod yna "ragdybiaeth o blaid' ceblau o dan y ddaear neu ddewisiadau amgen eraill yn hytrach na pheilonau trydan mewn unrhyw ddatblygiadau newydd neu gyfredol yng Nghymru gan y Grid Cenedlaethol.

Lesley Griffiths
BBC

'Bodlon gweld prisiau ynni yn mynd trwy'r to'

Mae Michelle Brown UKIP yn dweud y byddai "ceblau tanddaearol yn well na pheilonau, ond ei bod hi'n ymddangos bod Plaid yn fodlon gweld prisiau ynni i bobl leol yn mynd trwy'r to".

Michelle Brown
BBC

'Y ddadl ar Ynys Môn yn hynod danllyd'

Mae'r aelod Ceidwadol David Melding yn dweud bod "y ddadl ar Ynys Môn yn hynod danllyd, ac mae'n arwydd o'r hyn sydd i ddod."

Mae Rhun ap Iorwerth, AC yr ynys, yn dweud bod yna wrthwynebiad unfrydol i gynlluniau ar gyfer ail res o beilonau trydan ar draws Môn.

David Melding
BBC

Cefndir

Ym mis Rhagfyr fe wnaeth cynghorwyr ar Ynys Môn bleidleisio'n unfrydol i wrthwynebu cynllun cwmni y Grid Cenedlaethol i godi ail res o beilonau trydan ar draws yr ynys.

Maen nhw'n galw ar y cwmni i osod ceblau tanddaearol er mwyn cludo trydan o safle Wylfa Newydd yn hytrach na chodi peilonau.

Y bwriad yw codi ail res o beilonau i gysylltu'r atomfa arfaethedig Wylfa Newydd ger Bae Cemaes a gorsaf drydan Pentir yng Ngwynedd.  

'Rhagdybiaeth o blaid ceblau tanddaear, nid peilonau'

Mae Simon Thomas yn pwysleisio pwysigrwydd rhagdybiaeth o blaid ceblau tanddaear, nid peilonau.

Simon Thomas
BBC

Dadl ar y Grid Cenedlaethol

Dadl arall gan Blaid Cymru nesaf. 

Ar ran y blaid mae Simon Thomas yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 

Yn credu: 

a) y dylai'r Grid Cenedlaethol ddefnyddio ceblau o dan y ddaear neu o dan y môr neu ddewisiadau amgen eraill i gario trydan drwy Barciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru lle bo hynny'n ymarferol;

b) y dylai fod rhagdybiaeth o blaid ceblau o dan y ddaear neu ddewisiadau amgen eraill yn hytrach na pheilonau trydan mewn unrhyw ddatblygiadau newydd neu gyfredol yng Nghymru gan y Grid Cenedlaethol; ac 

c) y dylid gwneud astudiaeth ddichonoldeb o'r posibilrwydd o gael gwared ar y peilonau presennol a'u disodli gan geblau o dan y ddaear neu ddewisiadau amgen eraill. 

Peilonau
BBC

'Dal yn gyfnod sensitif'

Mae Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates yn dweud "rydyn ni wedi dod yn bell ers Ionawr y llynedd, ond dydyn ni ddim eto allan o drafferthion. Mae hwn yn dal yn gyfnod sensitif."

Mae'n dweud bod "unrhyw newidiadau i'r cynllun pensiwn yn benderfyniad i'r gweithwyr".

Mae'n ychwanegu, er hynny, y byddai gwrthod y cynnig "yn taflu amheuaeth ar yr holl ddiwydiant dur yng Nghymru".

Mae Mr Skates yn dweud bod cynnig rheolwyr Excalibur i brynu rhai o weithfeydd Tata yn dal yn "fyw", ond eu bod nhw hefyd yn poeni am bensiynau.

Ken Skates
BBC

Pleidlais Tata

Mae disgwyl i weithwyr ddechrau pleidleisio ddiwedd Ionawr i weld a ydyn nhw am dderbyn cynllun pensiwn llai hael.  

Port Talbot
Reuters

'Llywodraeth y DU yn cefnogi'r diwydiant dur'

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn tynnu sylw at rôl Llywodraeth y DU yn cefnogi'r diwydiant dur "drwy gyflwyno rheolau caffaeliad cyhoeddus newydd a chefnogaeth gynyddol gyda chostau ynni, yn arbed £400 miliwn i'r diwydiant erbyn diwedd y Senedd bresennol yn San Steffan."

Andrew RT Davies
BBC

Annog gwrthod symudiad oddi wrth bensiynau cyflog terfynol

Mae llefarydd Plaid Cymru ar yr Economi, Adam Price, yn annog gweithwyr dur i wrthod symudiad oddi wrth bensiynau cyflog terfynol.

Adam Price
BBC

'Dylai gwleidyddion ddim ceisio dylanwadu ar weithwyr'

Mae Caroline Jones UKIP yn dweud "na ddylai gwleidyddion fod yn ceisio dylanwadu ar weithwyr ynghylch y cynnig arfaethedig i gadw'r gweithfeydd ar agor." 

Caroline Jones
BBC

'Diwygio pensiwn yn angenrheidiol'

Mae Tata yn dweud bod diwygio pensiwn yn angenrheidiol ar gyfer cytundeb fyddai'n golygu bod £1bn yn cael ei fuddsoddi ym Mhort Talbot dros 10 mlynedd.

Ym mis Rhagfyr fe wnaeth y cwmni wneud ymrwymiad i sicrhau swyddi a gwaith cynhyrchu ym Mhort Talbot a'u gweithfeydd eraill.

Mae'r gweithwyr ym Mhort Talbot wedi mynegi pryderon am gytundeb rhwng y cwmni a'r undebau i dderbyn llai o bensiwn fel cyfnewid am fwy o fuddsoddiad i'r safle yn y dyfodol.  

Dadl ar Waith Dur Tata

Nawr y cyntaf o ddadleuon y prynhawn. 

Mae'n ddadl gan Blaid Cymru ar Ddur Tata.

Mae'r blaid yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 

1. Yn galw ar Brif Weinidog Cymru - yn absenoldeb unrhyw ymyrraeth gan Lywodraeth y DU - i gwrdd â Chadeirydd dros dro Tata Steel i wella telerau'r cytundeb a gynigir gan isadran y cwmni yn y DU i weithwyr dur yng Nghymru; ac y dylai cynnig diwygiedig o'r fath gynnwys ymrwymiadau cyfrwymol ac ysgrifenedig ar gyflogaeth, buddsoddi a diogelu hawliau pensiwn cronedig. 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU, Undebau a phartïon â diddordeb i baratoi strategaeth arall pe byddai'r cynnig presennol yn cael ei wrthod gan y gweithlu dur yng Nghymru.  

Gwaith Dur Tata ym Mhort Talbot
Getty Images

Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf yn y Siambr yw'r Datganiadau 90 Eiliad, lle mae tri aelod yn cael cyfle i godi materion amserol.

'Llethr llithrig tuag at totalitariaeth'

Mae aelod Llafur Merthyr Tudful a Rhymni, Dawn Bowden, yn dweud bod Mesur Undebau Llafur gweinidogion Ceidwadol San Steffan yn "lethr llithrig tuag at totalitariaeth".

Dawn Bowden
BBC

'Pam bod mesur y DU yn gymaint o fygythiad'?

Mae Neil Hamilton yn dweud bod UKIP yn "cymeradwyo agwedd partneriaeth gymdeithasol Llywodraeth Cymru.... ond os yw model partneriaeth gymdeithasol Llywodraeth Cymru mor llwyddiannus, alla i ddim deall pam eu bod yn credu bod y mesur arfaethedig sy'n cael ei gyflwyno yn San Steffan, yn gymaint o fygythiad i'r cyslltiadau da sy'n bodoli ar hyn o bryd rhwng undebau'r gwasanaeth cyhoeddus a'r llywodraeth yn eu hamrywiol ffurfiau yng Nghymru".

Neil Hamilton
BBC

'Ail-fantoli buddiannau'?

Mae'r aelod Ceidwadol Janet Finch-Saunders yn dweud mai amcanion Deddf Undebau Llafur y DU yw ail-fantoli buddiannau cyflogwyr, gweithwyr a'r cyhoedd gyda rhyddid undebau llafur i streicio, a bod mesur Llywodraeth Cymru yn dafliad yn ôl i ddyddiau cwrw a brechdan y 1970au.

Mae Mr Drakeford yn ei chyhuddo hi o "rihyrsio cliches hen a modern".

Janet Finch-Saunders
BBC

'Rhan gadarnhaol y gall a dylai undebau llafur chwarae'

Dywed Siân Gwenllïan, Plaid Cymru, ei bod yn gobeithio y bydd aelodau yn "gweithio yn drawsbleidiol i ddangos y rhan gadarnhaol y gall ac y dylai undebau llafur chwarae yn ein cymdeithas."  

Siân Gwenllïan
BBC

'Wedi'u datganoli yn ddigamsyniol i'r Cynulliad'

Mae Mark Drakeford yn dweud "mae ganddon ni fodel llwyddiannus yma yng Nghymru.

"Nid lle gweinidogion y DU yw dyfeisio rhyw athrawiaeth newydd, lle maen nhw'n hawlio'r hawl i ymyrryd mewn meysydd, sydd yn nhermau ein setliad cyfredol, wedi'u datganoli yn ddigamsyniol i'r Cynulliad. Ac i wneud hynny mewn modd sy'n hollol anghyson gyda'n hagwedd ni tuag at wasanaethau cyhoeddus. 

"Mae'n hollol gyfreithlon a chyfiawn i'r Cynulliad i benderfynu sut ydyn ni eisiau i'r gwasanaethau hynny gael eu dosbarthu yng Nghymru."

Mark Drakeford
BBC

Diddymu rheolau trefnu streic

Bydd rheolau mwy llym ynglŷn â threfnu streiciau yn y sector cyhoeddus yn cael eu diddymu dan gynlluniau Llywodraeth Cymru.

Mae gweinidogion wedi gwrthod awgrymiadau eu bod nhw'n ceisio plesio'r undebau sy'n ariannu'r Blaid Lafur, gan ddweud bod cyflogwyr yn y sector cyhoeddus yn cefnogi eu cynlluniau.

Maen nhw hefyd yn dweud eu bod nhw'n hyderus bod gan y Cynulliad yr hawl i ddeddfu yn y maes, er gwaethaf ffrae gyda Llywodraeth Prydain yn y gorffennol.

Mae Llywodraeth y DU yn dweud bod gan bobl "hawl i ddisgwyl cael eu hamddiffyn rhag streicio annemocrataidd".

Mae'r mesur yn cael gwared ar rai o gymalau'r Ddeddf Undebau Llafur, gafodd ei phasio yn San Steffan llynedd.

Hanes y mesur hyd yn hyn

Mesur Undebau Llafur (Cymru)

Yr eitem nesaf yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford ar y Mesur Undebau Llafur (Cymru).   

Undebau Llafur
BBC

Gwariant ar Erthygl 50 yn 'hollol gywir'

Mae'r Cwnsler Cyffredinol Mick Antoniw yn dweud ei bod hi'n "hollol gywir" i wario £84,000 yn amlinellu gwrthwynebiadau i'r Goruchaf Lys, ond yn "ofnadwy bod yn rhaid i ni".

Yn dilyn penderfyniad yr Uchel Lys bod rhaid i ASau bleidleisio cyn tanio Erthygl 50, fe wnaeth llywodraeth y DU apelio i'r Goruchaf Lys.  

Fe wnaeth gweinidogion Cymru ymyrryd yn yr achos ynglŷn ag a ddylid tanio Erthygl 50 i adael yr Undeb Ewropeaidd heb gydsyniad aelodau seneddol.  

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gymryd rhan yn y gwrandawiad yna ym mis Rhagfyr, ac mae disgwyl penderfyniad y Goruchaf Lys rhywdro ym mis Ionawr.