a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Cyfarfod Llawn am 1.30pm gyda chwestiynau i'r prif weinidog
  2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
  3. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Dyfarniad y Goruchaf Lys ar Erthygl 50
  4. Datganiad gan y Prif Weinidog: “Sicrhau Dyfodol Cymru”: Symud o’r Undeb Ewropeaidd at berthynas newydd ag Ewrop
  5. Datganiad: Lleihau Maint Dosbarthiadau Babanod a Chodi Safonau
  6. Dadl: Gweithio gyda chymunedau i greu amgylcheddau lleol gwell

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

A dyna ni am heddiw. 

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.

Y Senedd
BBC

'Awyddus iawn i gosbi awdurdodau lleol sy'n tan-berfformio'

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths yn dweud ei bod hi'n "awyddus iawn i gosbi awdurdodau lleol sy'n tan-berfformio" ar faterion ansawdd yr amgylchedd lleol.

'Ddim wir gael ei ddehongli fel chwa o awyr iach'

Mae Gareth Bennett UKIP yn dweud mai dim ond pedwar allan o 42 o Ardaloedd Rheoli Ansawdd yr Aer sydd wedi eu dirymu.

"All hynny ddim wir gael ei ddehongli fel chwa o awyr iach."

Gareth Bennett
BBC

Llygredd aer yn 'argyfwng iechyd cyhoeddus'

Mae Simon Thomas Plaid Cymruyn dweud y gallai cynnig Llywodraeth Cymru fod wedi bod "â rhagor o fanylion".

Mae'n disgrifio llygredd aer fel "argyfwng iechyd cyhoeddus".

Mae lefelau llygredd aer wedi cyrraedd "uchel" neu "uchel iawn" mewn wyth o ranbarthau ar draws y DU - dyna ddywedodd Llywodraeth San Steffan ddoe.

Simon Thomas
BBC

'Ychydig iawn o Ardaloedd Rheoli Ansawdd yr Aer sydd wedi eu dirymu'

Mae'r Ceidwadwyr yn nodi "â phryder mai ychydig iawn o Ardaloedd Rheoli Ansawdd yr Aer sydd wedi cael eu dirymu".    

David Melding
BBC

Gweithio gyda chymunedau i greu amgylcheddau lleol gwell

Am yr awr nesaf mae'r aelodau'n cael dadl ar weithio gyda chymunedau i greu amgylcheddau lleol gwell. 

Mae'r Llywodraeth yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 

1. Yn cydnabod effaith gyfunol materion sy'n gysylltiedig ag ansawdd yr amgylchedd lleol ar lesiant cymunedau.

2. Yn cefnogi:

a) pwyslais cynyddol ar weithgareddau atal gyda rhagor o gydweithio ar draws sectorau; b) cynnwys dinasyddion yn y gwaith o ganfod a chyflawni atebion ar gyfer gwella'r mannau lle y maent yn byw. 

Lesley Griffiths
BBC

Pam dim ond dosbarthiadau babanod?

Mae Michelle Brown yn cwestiynu "pam bod y cynllun hwn dim ond yn delio gyda dosbarthiadau babanod, ac nid dosbarthiadau ysgolion cynradd". 

Michelle Brown
BBC

'Ffyrdd gwell o wario £36 miliwn'

Dywed Llyr Gruffydd ar ran Plaid Cymru "bod angen blaenoriaethu adnoddau ble ry' ni'n gwybod y byddan nhw'n cael yr effaith fwyaf.

"Mae pwysau'r dystiolaeth yn awgrymu bod ffyrdd gwell o wario £36 miliwn."

Llyr Gruffydd
BBC

'Sylfaen dystiolaeth brin'

Mae effeithlonrwydd y polisi wedi cael ei gwestiynu gan rai arbenigwyr addysg.

Mae'r aelod Ceidwadol Darren Millar yn dweud bod yna "sylfaen dystiolaeth brin" i'r polisi.

I'r gwrthwyneb mae'n dweud "bod tystiolaeth gynyddol o argyfwng recriwtio athrawon yng Nghymru yn gwaethygu ac felly mae'n parhau'n aneglur syt y gellir gwneud i'r polisi hwn i weithio". 

Darren Millar
BBC

7.6% o ddisgyblion ifanc mewn dosbarthiadau sydd â dros 30 o blant

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod dros 7% o ddisgyblion ifanc yng Nghymru mewn dosbarthiadau sy'n cynnwys mwy na 30 o blant.

Y blynyddoedd cynnar mewn ysgol yw'r pwysicaf os am roi'r dechreuad gorau mewn addysg i blant, medd arbenigwyr.

Yn ôl y rheolau, ar wahân i rai sefyllfaoedd eithriadol, ni ddylai dosbarth ar gyfer plant hyd at saith oed yng Nghymru gynnwys dros 30 o ddisgyblion, lle mae un athro'n unig yn gyfrifol am y dysgu.

Ond yn ôl yr ystadegau diweddaraf, mae bron i 8,200 o ddisgyblion yng Nghymru mewn dosbarth sydd â mwy na 30 o blant - 7.6% o ddisgyblion.

Yn ôl Kirsty Williams fe fydd £36m ar gael dros y pedair blynedd nesaf i geisio gwella'r sefyllfa.

Kirsty Williams
BBC

Lleihau Maint Dosbarthiadau Babanod a Chodi Safonau

Nesaf datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams:

Lleihau Maint Dosbarthiadau Babanod a Chodi Safonau.

Mae'r Ysgrifennydd Addysg wedi cyhoeddi cronfa newydd gwerth £36m er mwyn lleihau maint dosbarthiadau babanod mewn ysgolion cynradd.

Dywedodd Kirsty Williams mai'r nod yw codi safonau ac ehangu cyfleoedd i blant a phobl ifanc.

Dosbarth
BBC

UKIP ar 'ochr fuddugol y ddadl'

Ar fudo, mae Neil Hamilton UKIP yn dweud bod hi'n "Quixotig i'r Prif Weinidog roi'r fath bwysigrwydd i blaid [Plaid Cymru] sydd mewn gwadiad" tra'n "anwybyddu [UKIP] oedd ar ochr fuddugol y ddadl". 

'Angenrheidiol bod Cymru yn siarad ag un llais'

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn dweud ei bod hi'n "angenrheidiol bod Cymru yn siarad ag un llais" ar gynllun ar gyfer Brexit.

Baneri Cymru a'r UE
BBC

'Dyfaru'n arw, garw'

Mae'r Papur Gwyn yn dilyn cytundeb rhwng Llafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn dweud "Rydw i'n dyfaru yn arw, garw bod y Prif Weinidog wedi dewis peidio cynnal unrhyw drafodaethau gyda'r ochr yma o'r Siambr". 

Parhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl

Mae'r Papur Gwyn, gafodd ei lansio yn Llundain ddydd Llun, yn galw am:

  • Barhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl er mwyn cefnogi "ffyniant Cymru ar gyfer y dyfodol";
  • Dull cytbwys o fynd i'r afael â mudo drwy gysylltu hawl i fudo â swyddi, gydag "arferion cyflogaeth da" i amddiffyn gweithwyr o ba bynnag wlad y maen nhw'n dod;
  • I Lywodraeth y DU wireddu eu haddewid na fydd Cymru yn colli ceiniog o gyllid o ganlyniad i Brexit;
  • Perthynas "gyfansoddiadol sylfaenol wahanol" rhwng y llywodraethau datganoledig a Llywodraeth y DU;
  • Cynnal mesurau diogelu a gwerthoedd cymdeithasol ac amgylcheddol yr ydym yn ymfalchïo ynddynt yng Nghymru;
  • Ystyriaeth briodol o drefniadau pontio er mwyn sicrhau nad yw'r DU yn "syrthio dros ymyl y dibyn" o ran ei pherthynas gydag Ewrop.
Fe gafodd y Papur Gwyn ei lansio yn Llundain ddydd Llun gan Carwyn Jones a Leanne Wood mewn cynhadledd newyddion
BBC
Fe gafodd y Papur Gwyn ei lansio yn Llundain ddydd Llun gan Carwyn Jones a Leanne Wood mewn cynhadledd newyddion

'Sicrhau Dyfodol Cymru'

Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad gan y Prif Weinidog:

"Sicrhau Dyfodol Cymru": Symud o'r Undeb Ewropeaidd at berthynas newydd ag Ewrop.

Ddoe fe wnaeth Prif Weinidog Cymru ac arweinydd Plaid Cymru gynllun Cymru ar Brexit, gan alw am barhau i fod yn rhan o'r farchnad sengl.

Galwodd Carwyn Jones a Leanne Wood am "ddull cytbwys o fynd i'r afael â mudo, drwy gysylltu hawl i fudo â swyddi". 

Carwyn Jones a Leanne Wood
Getty Images

'Pengryniaid 8, Marchogion 3'

Mae'r Cwnsler Cyffredinol yn crynhoi'r dyfarniad fel "Pengryniaid 8, Marchogion 3".

Fe wnaeth 11 o ustusiaid y Goruchaf Lys wrthod dadl llywodraeth y DU o wyth i dri.  

Pedair canrif yn ôl, pan wnaeth Lloegr ddisgyn i ryfel cartref, roedd rhaid i bawb o bobl gyffredin i foneddigion ddewis ochr. Ar un ochr roedd cefnogwyr y Senedd, y Pengryniaid fel y'i gelwir, dan arweiniad Oliver Cromwell. Ar yr ochr arall roedd cefnogwyr Brenin Siarl I, y Marchogion, oedd ag enw o fod yn wneuthurwyr oedd â diddordeb mewn chwilio am bleser. 

Ail-gread o Rhyfel Cartref Lloegr: milwr ym myddin Cromwell
Alamy
Ail-gread o Rhyfel Cartref Lloegr: milwr ym myddin Cromwell

Erthygl gan Brif Gynghorydd Cyfreithiol y Cynulliad

Pwysleisiodd y Llys fod gan Gonfensiwn Sewel rôl bwysig o ran hwyluso perthynas gytûn rhwng Senedd y DU a’r deddfwrfeydd datganoledig, ond dyfarnodd nad oedd yn rhan o swyddogaeth y farnwriaeth i blismona cwmpas confensiynau cyfansoddiadol o’r fath, na sut maent yn gweithredu.  

View more on twitter

'Hanfodol bod y gweinyddiaethau datganoledig yn chwarae'u rhan'

Mae'r Cwnsler Cyffredinol yn ychwanegu bod Prif Weinidog San Steffan wedi dweud bod y DU "yn wynebu trafodaeth o bwysigrwydd aruthrol a'i bod hi'n angenrheidiol bod y gweinyddiaethau datganoledig yn chwarae'u rhan" i sicrhau bod hyn yn gweithio.

"Mae Llywodraeth Cymru yn barod i wneud hynny."  

'Wrth fy modd gyda'r dyfarniad'

Mae Mr Antoniw yn dwedu ei fod "wrth fy modd gyda'r dyfarniad".

Mae e hefyd yn dweud ei fod yn falch gyda chydnabyddiaeth y Llys bod Confensiwn Sewel yn chwarae rôl gyfansoddiadol bwysig yn hyrwyddo perthynas hapus rhwng Llywodraeth y DU a'r cyrff deddfwriaethol datganoledig.

Mae'n croesawu disgwyliad o "ddadl lawn ac agored yn Senedd San Steffan". 

Mick Antoniw
BBC

Dyfarniad y Goruchaf Lys ar Erthygl 50

Nawr datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw ar Ddyfarniad y Goruchaf Lys ar Erthygl 50. 

Mae Llywodraeth y DU wedi colli apêl yn erbyn dyfarniad yn y Goruchaf Lys, sy'n golygu y bydd rhaid cael deddfwriaeth seneddol i danio Erthygl 50 a gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ond fe ddyfarnodd y llys nad oes rhaid iddyn nhw ofyn am ganiatâd Llywodraeth Cymru a chyrff datganoledig eraill cyn dechrau proses Brexit.

Y Goruchaf Lys
BBC

'Yr angen i ddatganoli pwerau ar broblem gamblo'

Mae'r aelod Ceidwadol Darren Millar yn awyddus i ddweud "cymaint yr ydw i yn cytuno gyda Jo Stevens (Llefarydd y Blaid Lafur ar Gymru) am newid... mewn perthynas â'r angen am ddatganoli pwerau ar broblem gamblo."

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf yn y Siambr yw'r Datganiad a Chyhoeddiad Busnes pan mae Arweinydd y Tŷ, Jane Hutt yn amlinellu busnes y Cynulliad ar gyfer y dyfodol agos.

Jane Hutt
BBC

Pryder am orsaf bŵer

Mae aelod Plaid Cymru Simon Thomas a'r aelod Ceidwadol David Melding yn mynegi pryder ynghylch llygredd aer o orsaf bŵer fwya Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ei chyhuddo o "esgeulustod" yn y modd y deliodd â phryderon am lygredd aer o orsaf bŵer Aberddawan.

Mae cais rhyddid gwybodaeth wnaed gan Blaid Cymru yn awgrymu na fu unrhyw gyfathrebu ysgrifenedig neu electronig rhwng y Prif Weinidog a'r rheolydd amgylcheddol, Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â'r mater ers Medi 2016.

Fe ddaw hyn yn dilyn dyfarniad gan Lys Cyfiawnder Ewrop bryd hynny fod y safle yn gollwng lefelau anghyfreithlon o lygredd i'r awyr.

Mae'r Prif Weinidog yn dweud bod allyriadau o'r gwaith wedi gostwng.

Mae Aberddawan yn cyflogi 600 o weithwyr ym Mro Morgannwg
BBC

'Gormod o bobl yn mynd i Adrannau Brys'

"Fe wnaiff pob ymgynghorydd Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ddweud wrthoch chi bod yna ormod o bobl sy'n mynd i'r Adrannau sydd ddim angen bod yno," medd y Prif Weinidog.

'Gallech chi fod yn ysgrifennydd y Wasg Donald Trump'

"Rydych chi'n methu gwthio safonau i fyny" mewn addysg medd  Andrew RT Davies.

Mae Mr Jones yn awgrymu y gallai Mr Davies fod yn ysgrifennydd y Wasg Donald Trump.

Donald Trump
BBC

'Cyhuddiad damniol' o 'fethiant arweinyddiaeth'

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn dweud bod adroddiad Estyn heddiw yn "gyhuddiad damniol" o "fethiant arweinyddiaeth".

Mae ansawdd dysgu yng Nghymru yn wan yn ôl y corff sy'n arolygu addysg Estyn yn ei adroddiad blynyddol.

Mae'r adroddiad gan y Prif Arolygydd, Meilyr Rowlands yn dweud mai dyma'r "agwedd gwanaf" ar draws y sector addysg, ac nad yw ysgolion yn gwneud digon i gefnogi staff i ddatblygu sgiliau proffesiynol.

Yn yr adroddiad, mae'n dweud y byddai gwella ansawdd y dysgu yn cael "effaith hirdymor" ar safonau.

Andrew RT Davies
BBC

Sefyllfa fregus i rai teithwyr ar Linellau'r Cymoedd

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn dweud ei bod hi'n gallu bod yn sefyllfa fregus i rai teithwyr sy'n ceisio mynd i'r gwaith ar Linellau'r Cymoedd.

Mae Carwyn Jons yn dweud pan fyddan nhw'n cael rheolaeth o'r rhyddfraint mae e eisiau gweld system Metro.

Ond mae Leanne Wood yn dweud y gallai hi gymryd blynyddoedd cyn y bydd gwasanaeth Metro wedi ei sefydlu.

Mae'r Prif Weinidog yn dweud ei fod yn rhoi sicrwydd na fydd yn ail-adrodd camgymeriadau honedig wnaedn gan Lywodraeth y DU yn dyfarnu y rhyddfraint dren Cymreig.

Leanne Wood
BBC

'Dim argyfwng dyngarol' yn y GIG yng Nghymru

Mae'r Prif Weinidog yn dweud nad yw Cymru wedi cael argyfwng dyngarol , fel y mae'r Groes Goch wedi awgrymu sydd yna mewn ysbytai GIG yn Lloegr.

Mae Mr Hamilton yn honni bod pwysau cleifion mewn rhai meddygfeydd yn 'ormodol'.

'Nifer isa o feddygon teulu i fil bobl yn y DU'

Mae arweinydd UKIP Neil Hamilton yn dweud bod gan Gymru y nifer isa o feddygon teulu i fil bobl yn y DU, ac yn awgrymu bod yna ddiffyg morâl yn eu plith.

Neil Hamilton
BBC

'Rhai yn DEFRA yn dweud na wrth gymorthdaliadau'

Mae rhai yn Adran DEFRA yn awgrymu na ddylai fod yna gymorthdaliadau amaeth o gwbl, medd y Prif Weinidog.

'Gorfodi ddim yn gweithio'

Mae Caroline Jones UKIP yn awgrymu na ddylai'r Gymraeg fod yn orfodol mewn ysgolion. "Mae'n rhaid i ni dderbyn nad yw gorfodi yn hytrach nac annog yn gweithio."  

Sgiliau siarad Cymraeg ym mhob cynllun Dechrau'n Deg

Mae'r aelod Ceidwadol Suzy Davies yn dweud y dylai fod o leiaf un person sydd â sgiliau da o ran siarad Cymraeg ym mhob cynllun Dechrau'n Deg.

Suzy Davies
BBC

Targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050

Mae'r Prif Weinidog yn dweud bod y llywodraeth wrthi'n ymgynghori ar strategaeth ddrafft ar sut i gyflawni'r nod o bron â dyblu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050.

Roedd Cyfirfiad 2011 ynn nodi gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg o  582,000 yn 2001 i 562,000, tua un o bob pump o'r boblogaeth.

Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Ngorllewin De Cymru

Mae'r cwestiwn cyntaf a gyflwynwyd gan Dai Lloyd: 

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Ngorllewin De Cymru? 

Dai Lloyd
BBC

Croeso

Croeso i Senedd Fyw sy'n darlledu'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma.  

Mae'r sesiwn fel arfer yn dechrau gyda chwestiynau i'r Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Yr olygfa niwlog o'r Senedd y bore 'ma
Twitter/lesley4wrexham
Yr olygfa niwlog o'r Senedd y bore 'ma