a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
  2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
  3. Datganiadau 90 Eiliad
  4. Dadl ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau
  5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei ymchwiliad i Waith Ieuenctid
  6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: addysg bellach
  7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Strategaeth ddiwydiannol
  8. Dadl Fer: Meithrin gwydnwch emosiynol yn ein plant a phobl ifanc

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Da boch chi

Dyna ddiwedd y trafodion heddiw yn y Siambr. 

Bydd Senedd Fyw yn dychwelyd ddydd Mawrth 14 Chwefror.

Senedd
BBC

Dadl Fer

Pwnc Lynne Neagle (Torfaen) yw 'meithrin gwydnwch emosiynol yn ein plant a phobl ifanc'.

Dywed bod bron i hanner yr holl broblemau iechyd meddwl yn dechrau erbyn 14 oed.

'Methiant i gefnogi'r diwydiant dur'

Mae ysgrifennydd yr economi, Ken Skates yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i ddatblygu polisi diwydiannol mwy gweithredol, ond mae'n "gresynu at ei methiant i gefnogi'r diwydiant dur ar draws Cymru a'r DU dros y flwyddyn ddiwethaf". 

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi "strategaeth drawsbynciol ar gyfer cefnogi twf economaidd" yn nes ymlaen yn y gwanwyn.  

dur
Getty Images

'Adlewyrchiad damniol o 17 mlynedd o Lafur yn y cynulliad'

Mae David Rowlands UKIP yn cyfeirio at sylwadau gan y prif weinidog Carwyn Jones ddoe - y bydd angen i staff Awdurdod Treth Cymru gael sgiliau nad ydynt ar gael yng Nghymru i raddau helaeth, a bod y rhan fwyaf o bobl sydd â sgiliau o'r fath yn Llundain - fel "adlewyrchiad damniol o 17 mlynedd o Lafur yn y cynulliad" .

David Rowlands
BBC

'Diffyg buddsoddi digonol ers blynyddoedd yn seilwaith Cymru'

Ar ran Plaid Cymru, mae Adam Price:

 1. Yn nodi'r angen i gryfhau perfformiad economi gogledd Cymru.

2. Yn cydnabod pa mor bwysig yw buddsoddi mewn seilwaith i hyrwyddo economi gogledd Cymru.

3. Yn credu bod angen i unrhyw Strategaeth Ddiwydiannol gan Lywodraeth y DU fynd i'r afael â diffyg buddsoddi digonol ers blynyddoedd yn seilwaith Cymru. 

4. Yn galw am raglen gyson o welliannau i goridor yr A55, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi'r bwriad i drydaneiddio rheilffordd arfordir gogledd Cymru.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ei Strategaeth Economaidd ar gyfer Cymru, a fydd yn nodi sut y gall gogledd Cymru ddatblygu'n bwerdy economaidd ei hun gan gydweithredu hefyd â phwerdy gogledd Lloegr i hyrwyddo gweithgarwch economaidd trawsffiniol.

Adam Price
BBC

Ail Ddadl y Ceidwadwyr Cymreig

Mae'r Ceidwadwyr yn cynnig bod y Cynulliad:

1. Yn nodi Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU a'r effaith a gaiff ar Gymru.

2. Yn cydnabod y gwaith rhynglywodraethol i ddatblygu Bargen Dwf Gogledd Cymru.

3. Yn credu y gall dinas-ranbarthau chwarae rhan werthfawr o ran sicrhau   gwelliannau economaidd i gymunedau ledled Cymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol i lywio twf economaidd ym mhob rhan o Gymru.

diwydiant
Getty Images

'Cyni niweidiol Llywodraeth y DU'

Mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies yn dweud bod gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad i sicrhau bod llwybrau addysg galwedigaethol ac academaidd yn cael parch cydradd.

Mae'n cymharu'r "£30m o gyllid ychwanegol a ddarperir ar gyfer Addysg Bellach ac Addysg Uwch yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18", gyda "pholisi cyni niweidiol Llywodraeth y DU sydd wedi cael effaith negyddol ar yr holl wasanaethau cyhoeddus ar draws y DU, gan gynnwys addysg uwch ac addysg bellach".

Peilot wedi cymhwyso'n llawn

Mae Mohammad Asghar yn datgelu ei fod yn meddu ar drwydded tacsi a hefyd yn beilot wedi cymhwyso'n llawn.

Mohammad Asghar
BBC

'Parch cydradd'

Ar ran Plaid Cymru, dywed Llyr Gruffydd y dylid sicrhau "parch cydradd rhwng llwybrau galwedigaethol ac academaidd, ac y dylai Llywodraeth Cymru weithio tuag at hyrwyddo cydraddoldeb rhyngddynt."

Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i "weithio o fewn ysbryd Hazelkorn er mwyn dileu llawer o'r gystadleuaeth ddiangen sydd wedi dod i'r amlwg mewn addysg ôl-16 yn ddiweddar, a datblygu llwybrau dysgu ôl-16 cliriach a mwy hyblyg." 

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Mae'r Ceidwadwyr yn cynnig bod y Cynulliad: 

1. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae addysg bellach a sgiliau galwedigaethol yn eu gwneud i economi Cymru, yn arbennig yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gylch cyllido tair blynedd i golegau addysg bellach ar lefel deg, er mwyn galluogi gwaith cynllunio mwy cynaliadwy a diogelu'r sgiliau sydd eu hangen i wneud economïau lleol yn wydn.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi cyfran sylweddol o'r arian y mae'n disgwyl ei arbed, o ganlyniad i newidiadau i'r cymorth a roddir i fyfyrwyr addysg uwch, yn y sector addysg bellach, gan gynnwys buddsoddi cyfran yn y sgiliau lefel uwch a ddarperir mewn lleoliad addysg bellach a chyfran yn y ddarpariaeth Gymraeg.

addysg bellach
Thinkstock

'Newid ymagwedd gan y llywodraeth'

Ar ran Llywodraeth Cymru, dywed Alun Davies bod adroddiad y pwyllgor wedi arwain at "newid mewn polisi a newid ymagwedd gan y llywodraeth". 

Mae ymateb manwl Llywodraeth Cymru i'r adroddiad i'w weld yma.

Alun Davies
BBC

Dirywiad 'brawychus' mewn gwasanaethau ieuenctid

Mae gan bob person ifanc yng Nghymru rhwng 11 i 25 oed hawl i wasanaeth ieuenctid fel mynediad i glybiau ieuenctid, canolfannau gwybodaeth a chynghori, neu brosiectau penodol ar strydoedd neu mewn lleoliadau cyhoeddus eraill.  

Dywed Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad fod cwtogi cyllid gwasanaeth ieuenctid yn golygu bod llai o ieuenctid bellach yn ymgymryd â gweithgareddau sy'n cael eu cynnal gan y cynghorau.

Yn ystod 2015-16, fe ddaeth i'r amlwg fod awdurdodau lleol wedi cael gwared â 150 o swyddi gweithwyr ieuenctid - bron i un swydd ymhob pump.

O ganlyniad mae bron i draean o sefydliadau gwirfoddol i ieuenctid yn poeni na fydd modd iddyn nhw barhau wedi'r flwyddyn ariannol nesaf.

gwasanaethau ieuenctid
Thinkstock

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Lynne Neagle (Torfaen) sy'n cyflwyno adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 'Ba fath o wasanaeth ieuenctid y mae Cymru ei eisiau? Adroddiad yr ymchwiliad i Waith Ieuenctid'. 

Lynne Neagle
BBC

Datblygu'r sgiliau ymarferol

Dywed y gweinidog iechyd Vaughan Gething bod dysgwyr yng Nghymru yn gallu datblygu'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar gyfer bywyd pob dydd, fel cymorth brys, fel rhan o Addysg Bersonol a Chymdeithasol, sy'n ffurfio rhan o'r cwricwlwm presennol ar gyfer pob disgybl mewn ysgolion a gynhelir. 

Vaughan Gething
BBC

'Moment dychrynllyd'

Mae Angela Burns yn sôn am y "foment dychrynllyd" yr oedd ei merch yn tagu ar rawnwin. Llwyddodd ei gŵr i symud y grawnwin yn llwyddiannus.

3% o obaith o oroesi

Suzy Davies yw'r gwleidydd cyntaf i ddefnyddio'r drefn drafod newydd i gynnig y mesur.

Mae'r mesur yn ceisio taclo'r ffaith bod bron i 8,000 o bobl yng Nghymru yn diodde' ataliad ar y galon bob blwyddyn.

Mae gan bobl sy'n dioddef ataliad yng Nghymru 3% o obaith o oroesi, o'i gymharu â 50% mewn rhannau eraill o Ewrop yn ôl yr elusen Arrhythmia Alliance.

Mae Ms Davies yn credu y byddai creu cyfrifoldeb cyfreithiol i hyfforddi plant mewn sgiliau fel CPR a defnyddio diffibrilwyr yn achub bywydau pobl fyddai'n marw fel arall, a bod modd parhau i ddatblygu'r sgiliau yna fel oedolion.

Fel rhan o'r mesur, byddai plant hefyd yn cael hyfforddiant i drin gwaedu, tagu a mynd yn anymwybodol.

CPR
BBC

Dadl ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau

Mae Suzy Davies (Gorllewin De Cymru) yn cyflwyno cynnig am fesur yn ymwneud â sgiliau achub bywyd.

Roedd maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer Etholiad y Cynulliad y llynedd yn cynnwys addewid i gyflwyno sgiliau achub bywyd brys gorfodol. 

Fe wnaeth Suzy Davies arwain dadl fer yn 2011 yn galw ar ysgolion i ddysgu sgiliau achub bywyd fel rhan o'r cwricwlwm

Mae hi hefyd wedi awgrymu defnyddio blychau ffôn coch i gartrefu diffibrilwyr mewn cymunedau sydd heb eto gael offer achub bywyd cyhoeddus hygyrch.

Suzy Davies
BBC

Datganiadau 90 Eiliad

Mae gyfle i wneud cyflwyniadau sy'n para 90 eiliad ar unrhyw bwnc.

Y Cynulliad Cenedlaethol oedd y ddeddfwrfa gyntaf yn y DU i gyflwyno'r drefn hon, oedd eisoes yn cael ei chynnig mewn seneddau eraill mewn gwledydd fel Awstralia a Chanada.

Heddiw mae dau aelod yn rhoi teyrnged i'r emynydd William Williams Pantycelyn ar drothwy tri chan mlwyddiant ei eni. 

Dywedodd Darren Millar, yr Aelod dros Orllewin Clwyd, fod hi'n addas fod y dyddiad yn cwympo ar ddiwrnod yr ornest rygbi rhwng Cymru a Lloegr. Doedd dim amheuaeth y byddai'r dorf yn canu'u emyn enwog Guide Me o Thy Great Redeemer yn ystod y gêm, meddai. 

 "Pan fydd cefnogwyr Cymru yn bloeddio allan 'Bread of Heaven' y Sadwrn yma, fe fyddant yn talu teyrnged i ffigwr hynod ddiddorol ac arwyddocaol," meddai Mr Millar. 

Daeth teyrnged hefyd gan Dr Dai Lloyd, AC Plaid Cymru dros dde-orllewin Cymru.

Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Mae gwybodaeth am y Comisiwn a’r weinyddiaeth yma.

Gyda llaw, ni fydd y comisiwn yn rhyddhau enw'r AC a grybwyllir yma am resymau cyfrinachedd:

"Darparodd Aelod dystiolaeth i gefnogi'r farn bod yna amgylchiadau eithriadol ac y dylai dechreuwr newydd ddechrau cyflogaeth ar gyflog uwch na'r isafswm. Anghytunodd y Pennaeth Cymorth Busnes i'r Aelodau ac awdurdodi taliad ar bwynt isaf y raddfa.

"Apeliodd yr Aelod Cynulliad i Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad, ac fe gefnogodd hi'r penderfyniad gwreiddiol."

'Proses drylwyr o ddiwydrwydd dyladwy'

Dywed Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates y "bydd Llywodraeth Cymru’n ystyried y cynnig yn ofalus yn awr, ac yn cychwyn proses drylwyr o ddiwydrwydd dyladwy ynghylch y cynnig ei hun, a hefyd y buddsoddwyr a’r cyfarwyddwyr sy’n gyfrifol am y prosiect."

Ychwanega, "Bydd yr ymarfer diwydrwydd dyladwy yn cynnwys gwaith profi trylwyr mewn perthynas â gwerth am arian a hefyd asesiad Person Addas a Phriodol o ran y cyfarwyddwyr. 

"Bydd hefyd yn asesu’r gallu i gyflenwi a chynaliadwyedd hirdymor y cynnig. Byddwn yn ceisio eglurder o ran y mathau a nifer y swyddi a fydd yn deillio’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol o’r prosiect; sut y mae nifer y swyddi hynny’n cymharu â’r ffigur a nodwyd yn wreiddiol sef 6,000 a hefyd nifer tebygol y swyddi a fyddai’n cael eu llenwi gan bobl leol."  

Bydd diwydrwydd dyladwy yn cymryd 4 - 6 wythnos, meddai. 

Cylchffordd Cymru
Cylchffordd Cymru

Cylchffordd Cymru

Mae Cwestiwn Brys i’r Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinewfwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a yw, bellach, yn bwriadu cefnogi datblygu Cylchffordd Cymru, yn dilyn adroddiadau bod yr Heads of the Valleys Development Company wedi sicrhau'r cyllid preifat sydd ei angen ar gyfer ei adeiladu?

Cylchffordd Cymru
Cylchffordd Cymru

Ysgolion mewn categori coch

Mae Michelle Brown UKIP yn gofyn i ysgrifennydd y cabinet am sicrwydd y bydd yn cymryd "cyfrifoldeb personol" ar gyfer helpu ysgolion mewn categori coch i gyrraedd statws gwyrdd.

Atebodd Kirsty Williams mai'r "newyddion da yw bod gennym lai o ysgolion yn y categori coch nag erioed".

Michelle Brown
BBC

Ansawdd yr addysgu yw 'agwedd wannaf' y ddarpariaeth

Cyfeiriodd Darren Millar at adroddiad blynyddol Estyn a oedd yn nodi mai ansawdd yr addysgu oedd "agwedd wannaf" y ddarpariaeth yng Nghymru.

Atebodd Kirsty Williams, "yn rhy aml mae lefel o amrywiaeth annerbyniol".

Darren Millar
BBC

Cynnydd o ran darparu athrawon cyflenwi?

Mae Llyr Gruffydd yn cwestiynu a oes cynnydd wedi'i wneud o ran darparu athrawon cyflenwi. 

Atebodd Kirsty Williams y bydd hi'n "edrych eto ar sut y gallwn wneud cynnydd yn y maes".

Llyr Gruffydd
BBC

Rheoli absenoldeb plant sy'n wirioneddol sâl

Mae Ms Burns yn mynegi pryder bod rhieni plant sy'n wirioneddol sâl yn derbyn "llythyrau bygythiol". 

Atebodd Kirsty Williams y bydd hi'n ymgynghori gyda swyddogion i weld a allant gynnig mwy o gyngor i awdurdodau lleol ynghylch sut i reoli absenoldeb plant sy'n wirioneddol sâl.

Sut i wella presenoldeb mewn ysgolion?

Y cwestiwn llafar cyntaf a gyflwynwyd yw:

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r canllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu i ysgolion ar sut i wella presenoldeb?  

‘Er lles y Cynulliad a'r Blaid Lafur’

Pwy sy'n cofio lle roeddent yn ystod y digwyddiad dramatig hwn ar 9 Chwefror 2000?

Da bo am y tro

Mae'r pwyllgor bellach yn cwrdd yn breifat. 

Bydd Senedd Fyw yn parhau gyda'r sesiwn lawn am 1.30pm.

Cynllun Cyflenwi Cynhwysiant Ariannol

Aelod o'r pwyllgor yn trydar

'Brawychus'

"Mae'n frawychus faint o arian sy'n mynd allan o Gymru oherwydd cyfraddau credyd gormodol, drwy fenthyciadau diwrnod cyflog a mathau eraill o fenthyca", medd yr ysgrifennydd economi.

Arian
PA

Strategaeth economaidd newydd erbyn y gwanwyn

Gofynnodd Sian Gwenllian pryd y bydd strategaeth economaidd newydd ar waith.

Dywed Mr Skates y bydd yn cael ei "chwblhau erbyn y gwanwyn".

Sian Gwenllian
BBC

'Cyfleoedd enfawr'

Mae Mr Skates yn dweud bod metro de Cymru "yn un o nifer o gyfleoedd enfawr 'unwaith mewn oes', a galluogwyr ar gyfer cyflogaeth a ffyniant." 

Cyfeiriodd hefyd at "y lagŵn, neu'r lagwnau fel yr ydym yn gobeithio y byddant, a Wylfa Newydd".

metro de Cymru
Llywodraeth Cymru

Tlodi plant

Mae Mr Skates yn cydnabod na all y targed i ddileu tlodi plant yng Nghymru erbyn 2020 gael ei gyflawni. 

Dywedodd bod cyfrifoldebau o fewn y portffolio Economi a Seilwaith yn "ganolog i ddull Llywodraeth Cymru o hyrwyddo ffyniant a threchu tlodi. Ymhlith y rhain mae canolbwyntio ar swyddi da sy'n talu'n dda, sgiliau, seilwaith a chysylltedd".   

Ken Skates
BBC

Bore da

Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn craffu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith y bore 'ma. 

Bae Caerdydd
Google