Got a TV Licence?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

Find out more
I don’t have a TV Licence.

Crynodeb

  1. Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
  2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith
  3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon
  4. Datganiadau 90 Eiliad
  5. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Ymchwiliadau ac Ymgysylltu
  6. Dadl Plaid Cymru: Ffyniant Cymru
  7. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Contractau dim oriau
  8. Dadl Fer: Cyfoethogi bywydau gofalwyr

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

Dyna ni am heddiw. 

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth, Mawrth 7.

Y Senedd
BBC

Cymru mewn un gair?

Dadl Fer: Cyfoethogi Bywydau Gofalwyr

Ac yn olaf heddiw Dadl Fer gan Jayne Bryant. 

A'r pwnc: Cyfoethogi Bywydau Gofalwyr: Gofalu am y rhai sy'n Gofalu. 

Mae hi'n dweud bod yna 400,000 o ofalwyr yng Nghymru, sy'n fwy yn ôl cyfran nag unrhyw le arall yn y DU.  

Gofalwyr
BBC

Delio â'r defnydd o gontractau dim oriau ym maes gofal cymdeithasol

Mae Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i ddelio gyda'r defnydd o gontractau dim oriau ym maes gofal cymdeithasol.

Mae'n rhestru gwaith Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yn y maes hwn, a arweiniodd at gyhoeddi egwyddorion a chanllawiau Comisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus ar ddefnyddio trefniadau oriau gwaith heb eu gwarantu yn briodol yng ngwasanaethau cyhoeddus datganoledig Cymru.

Julie James
BBC

'Arferion cyflogaeth yn newid yn gyflym'

Mae'r Ceidwadwr Russell George yn dweud bod "arferion cyflogaeth yn newid yn gyflym, gan gynnwys cynnydd mewn contractau dim oriau, hunangyflogaeth a gwaith 'gig' tymor byr."

Mae'n tynnu sylw at "y gwaith a wnaed gan Lywodraeth y DU i gael gwared ar achosion o gamddefnyddio contractau dim oriau, gan gynnwys gwahardd cymalau cyfyngu."

Mae'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi comisiynu Adolygiad Taylor ar Arferion Cyflogaeth Modern a fydd yn ystyried goblygiadau mathau newydd o waith i hawliau a chyfrifoldebau gweithwyr.

Russell George
BBC

'Gwahardd y defnydd o gontractau dim oriau ym mhob gwasanaeth cyhoeddus datganoledig'

Mae Bethan Jenkins yn dweud bod "ymdrechion gan Blaid Cymru i wahardd contractau dim oriau mewn gwahanol sectorau ar bum achlysur gwahanol yn ystod y Pedwerydd Cynulliad wedi cael eu trechu gan Lywodraeth Lafur Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig."

Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd y defnydd o gontractau dim oriau ym mhob gwasanaeth cyhoeddus datganoledig yng Nghymru.

Mae'n ychwanegu bod angen sicrhau bod y defnydd o gontractau dim oriau, gan gynnwys pennu hyn drwy unrhyw wasanaethau sy'n cael eu caffael, yn cael ei wahardd yn y Cynulliad.

Bethan Jenkins
BBC

Cynnig UKIP

Mae David Rowlands yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu, er y gall contractau dim oriau fod o fantais i gyflogwyr a gweithwyr o ran y rhyddid a'r hyblygrwydd y gallant ei gynnig, gallant hefyd greu problemau o ran incwm sefydlog, sicrwydd o ran cyflogaeth, statws cyflogaeth a'r cydbwysedd o ran y pŵer rhwng cyflogwr a chyflogai.

2. Yn nodi mai rhithiol yn hytrach na real yw'r rhyddid hwn i'r rhan fwyaf o'r rhai a gaiff eu cyflogi ar gontractau dim oriau, a bod bywyd ar gontractau dim oriau, i'r rhai sydd angen isafswm oriau gwaith wythnosol i sicrhau diogelwch ariannol i'w teulu, yn un o ansicrwydd parhaol;

3. Yn nodi bod yr ansicrwydd hwn, i'r rhai y mae eu horiau wedi'u cwtogi neu eu newid oherwydd amharodrwydd canfyddedig i weithio'r oriau sydd eu hangen ar y cyflogwr neu'n dilyn cŵyn yn y gweithle, yn gallu cyd-fynd â'r pryder sy'n deillio o gamfanteisio.

4. Yn credu bod gan weithio contractau dim oriau y gallu i:

a) creu bywyd o straen;

b) cael effaith negyddol ar reoli cyllidebau teuluol;

c) effeithio ar ymrwymiadau teuluol;

d) tanseilio hawliau a chysylltiadau cyflogaeth; ac

e) cymhlethu'r gallu i gael gafael ar gredydau treth a budd-daliadau eraill, gyda phryder cynyddol am y nifer gynyddol o bobl sy'n dibynnu arnynt.

Dadl ar gontractau dim oriau

Yr eitem nesaf yn y Siambr yw Dadl UKIP ar gontractau dim oriau.  

Cyfradd ddiweithdra Cymru yn is na chyfartaledd y DU

Ar ran Llywodraeth Cymru mae Jane Hutt yn dweud bod cyfradd ddiweithdra Cymru wedi gostwng i 4.4%, sy'n is na chyfartaledd y DU a bod y dangosyddion ansawdd gofal iechyd a gyhoeddwyd gan yr OECD yn ddiweddar yn dangos bod Cymru'n perfformio ar lefel gyfatebol neu well na gwledydd eraill y DU o ran y rhan fwyaf o'r dangosyddion.

Mae hi hefyd yn nodi bod canlyniadau arholiadau TGAU Cymru yn 2015/16 yn dangos bod y prif fesur perfformiad wedi cynyddu bob blwyddyn ers i'r cofnodi ddechrau yn 2006-07, a bod y bwlch rhwng cyrhaeddiad disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a chyrhaeddiad eu cyd-ddisgyblion yn cau.

Jane Hutt
BBC

'Un o genhedloedd mwyaf llwyddiannus y byd'

"Petai Cymru'n dod yn genedl annibynnol yn wleidyddol, does dim rheswm pam na allai hi fod yn un o genhedloedd mwyaf llwyddiannus y byd", medd arweinydd UKIP Neil Hamilton.  

Neil Hamilton
BBC

'Angen meddwl yn fwy creadigol os am drawsnewid ein heconomi'

Mae Paul Davies yn cadarnhau y bydd y Ceidwadwyr yn cefnogi cynnig Plaid Cymru.

Mae'n siarad am yr "angen i feddwl yn fwy creadigol os ydyn ni am drawsnewid ein heconomi yng Nghymru". 

Paul Davies
BBC

'Ysbrydoli ein dyfodol'

"Fe allwn ni ddefnyddio digwyddiadau o'n gorffennol i ysbrydoli ein dyfodol" medd Rhun ap Iorwerth, gan restru'r Gwasanaeth Iechyd a'r chwyldro diwydiannol.  

Chwyldro diwydiannol
BBC

Dadl ar Ffyniant Cymru

Am yr awr nesaf y cyntaf o ddadleuon y prynhawn.

Mae'n ddadl an Blaid Cymru ar Ffyniant Cymru. 

Mae Rhun ap Iorwerth yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cyfraniad amlwg Cymru i'r chwyldro diwydiannol, i greu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'i rôl arweiniol o ran datblygu'r ddarpariaeth addysg uwchradd.

2. Yn gresynu:

a) at ystadegau diweddar gwerth ychwanegol gros (GVA) a ryddhawyd ym mis Rhagfyr 2016 sy'n dangos mai 71 y cant o gyfartaledd GVA y pen y DU oedd GVA y pen Cymru yn 2015, sef yr isaf ymysg y gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr;

b) y bydd cleifion yng Nghymru yn aros yn sylweddol hirach i gael diagnosis a thriniaeth nag y byddent am yr un cyflyrau yn Lloegr a'r Alban; ac

c) at berfformiad diweddaraf Cymru yn Rhaglen Asesiadau Myfyrwyr Rhynglwadol 2015 Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2016, a oedd yn dangos bod sgorau mathemateg, darllen a gwyddoniaeth 2015 yn is nag yn 2006, ac yn is na'r cyfartaledd ar gyfer y DU.

3. Yn cydnabod:

a) rôl hanfodol addysg a sgiliau fel ysgogiad pwysig i wella lefelau cynhyrchiant economaidd Cymru; 

b) yr angen am wella cyson o ran amseroedd aros Cymru ar gyfer diagnosis a thriniaeth; ac 

c) potensial yr economi las a gwyrdd o ran sicrhau ffyniant economaidd Cymru yn y dyfodol.  

Llais cryfach i Gymru?

Mae'r pwyllgor wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus  i geisio cael barn pobl am y mater hwn. Y dyddiad olaf ar gyfer ymateb yw  5 Mehefin 2017 .

Gweithio gyda San Steffan a sefydliadau datganoledig

Mae Mr Irranca-Davies yn dweud bod y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol  yn cynnal ymchwiliad i waith rhyng-sefydliadol gyda San Steffan a sefydliadau datganoledig er mwyn:

  • Llunio egwyddorion arfer gorau ar gyfer dulliau o weithio rhwng sefydliadau ar gyfer deddfwriaeth gyfansoddiadol.
  • Ystyried gwaith deddfwrfeydd eraill o ran eu dulliau o weithio rhwng sefydliadau ac adeiladau arno pan fo'n ymwneud â meysydd polisi ehangach.
  • Ceisio, sefydlu a hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer dulliau o weithio rhwng seneddau, gan gynnwys hyrwyddo'r broses o ymgysylltu â dinasyddion.
Huw Irranca-Davies
BBC

Ymchwiliadau ac Ymgysylltu

Nawr datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Huw Irranca-Davies ar Ymchwiliadau ac Ymgysylltu. 

Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf yn y Siambr yw'r Datganiadau 90 Eiliad, lle mae tri aelod yn cael cyfle i godi materion amserol.

Adnoddau ar gyfer Gofal Cymdeithasol Cymru

Fe fydd  Gofal Cymdeithasol Cymru yn dod i rym ar Ebrill 3 2017 ac yn cymryd lle Cyngor Gofal Cymru. Mae Suzy Davies yn cwestiynu'r llywodraeth ynghylch sut y mae wedi pwyso a mesur faint yn fwy o adnoddau fydd ei angen.

Ddoe fe wnaeth Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans, gyhoeddi mai Arwel Ellis Owen fydd yn cadeirio'r bwrdd. Fe ar hyn o bryd yw cadeirydd Cyngor Gofal Cymru.

Rebecca Evans
BBC

'Dylid cyhoeddi ystadegau argaeledd apwyntiadau meddygon teulu'

Mae Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru yn codi mater amseroedd aros Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, gyda 74.1% o gleifion yn cael eu gweld o fewn pedair awr. Mae'n dweud y dylai ystadegau argaeledd apwyntiadau ac amseroedd aros ar gyfer meddygon teulu gael eu cyhoeddi.

Mae GIG yng Nghymru wedi wynebu heriau y Gaeaf hwn, medd y Prif Weithredwr Dr Andrew Goodall.   

Meddygon teulu
Thinkstock

39,000 o faterion iechyd meddwl

Mae Caroline Jones UKIP yn dweud i Heddlu'r De y llynedd, ddelio gyda bron i 39,000 o faterion iechyd meddwl. Mae'n dweud y dylai pobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl gael gofal gan wasanaethau iechyd meddwl arbenigol yn hytrach na'r system cyfiawnder troseddol.   

Iechyd meddwl
BBC

Galwad am ymchwiliad cyhoeddus llawn i'r sgandal gwaed heintiedig

Mewn ymateb i Julie Morgan, mae Mr Gething yn galw eto am ymchwiliad cyhoeddus llawn i'r  sgandal gwaed heintiedig wnaeth arwain at farwolaethau 70 o bobl yng Nghymru.

Fe ddatblygodd miloedd o bobl ym Mhrydain hepatitis C a HIV ar ôl cael gwaed oedd wedi ei heintio gan roddwyr gwaed yn y 70au a'r 80au..  

Llynedd fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai cymorth ariannol ychwanegol ar gyfer cleifion yng Nghymru oedd wedi eu heffeithio.

Gwaed
BBC

Triniaethau ar gyfer clefydau prin

Nawr cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething. 

Mae David Melding yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet wneud datganiad am drin clefydau prin. 

£3m ar gyfer yr Egin

Mae Ken Skates yn cadarnhau y bydd y £3m gan Lywodraeth Cymru tuag at adeiladu pencadlys newydd S4C yng Nghaerfyrddin yn dod o'i gyllideb yr economi, ac nid o gyllideb yr iaith Gymraeg.

Fe wnaeth Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ofyn am arian cyhoeddus wedi i gais am arian Ewropeaidd ar gyfer yr Egin gael ei wrthod.

Delwedd artist o'r Egin
PC DDS

'Cyfnod hanfodol' ar gyfer cytundeb Dinas-Ranbarth Bae Abertawe

Mae Mr Skates yn dweud "rydyn ni mewn cyfnod hanfodol" ar gyfer cytundeb Dinas-Ranbarth Bae Abertawe.

Mae cynghorwyr y ddinas wedi cefnogi'r cynllun - allai roi hwb o £3.3bn i'r economi rhanbarthol. 

Abertawe
Thinkstock

Masnachfraint y Gororau a chynllun y Metro

Ar fater cynlluniau ar gyfer Masnachfraint Rheilffordd Cymru a'r Gororau a chynllun y Metro, mae David Rowlands UKIP yn pwysleisio y bydd yn rhaid i ddeiliaid y masnachfraint rheilffordd a'r cwmni isadeiledd fydd yn cael ei ddewis, weithio'n agos iawn gyda'i gilydd.

David Rowlands
BBC

'Prif Weinidog diwerth'

Wrth ymateb i sylw'r Prif Weinidog Carwyn Jones ei bod hi'n "ddiwerth" iddo fynd i Detroit i gwrdd gyda penaethiaid Ford yn yr Unol Daleithiau oherwydd bod yr holl benderfyniadau ynghylch Pen-y-bont yn cael eu gwneud yn y Pencadlys Ewropeaidd yn Cologne, mae Adam Price Plaid Cymru yn dweud "yng ngoleuni difrifoldeb y sefyllfa, mae e'n ymddangos yn Brif Weinidog eitha diwerth". 

Cymru Hanesyddol

Mae'r aelod Ceidwadol Suzy Davies yn gofyn pryd allwn ni ddisgwyl adroddiad llawn ar Gymru Hanesyddol.

Mae Mr Skates yn dweud ei fod wedi derbyn adroddiad y grŵp llywio a'i fod yn ystyried y casgliadau.

Roedd creu Cymru Hanesyddol yn ymrwymiad ym maniffesto etholiad y Blaid Lafur.

Mae Mr Skates wedi dweud ei fod "eisiau helpu i greu sector treftadaeth sy'n fyd-eang o ran ei uchelgais ac sydd ag enw da yn rhyngwladol. Er mwyn cyflawni hyn, rwyf am weld ein sefydliadau cyhoeddus cenedlaethol yn datblygu, ac yn dod yn fwy sefydlog yn ariannol."

Suzy Davies
BBC

Gwasanaethau bysiau

Mae'r aelodau nawr yn gofyn cwestiynau i Ken Skates.

Mae'r cwestiwn cyntaf a gyflwynwyd heddiw gan Dai Lloyd: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ei gynlluniau ar gyfer datblygu gwasanaethau bysiau?   

Bws
BBC

'Dim pwynt cwrdd â bosys Ford yn UDA'

Wedi siarad gyda'r 'gwneuthurwr penderfyniadau'

Mae'r Ceidwadwr Russell George yn gofyn i Mr Skates a fydd Carwyn Jones yn newid ei gynlluniau yn yr Unol Daleithiau i fynd i Detroit.

Wnaeth Mr Skates ddim ateb y cwestiwn, ond fe ddywedodd ei fod wedi siarad gyda'r "gwneuthurwr penderfyniadau" yn Ford, ac y byddai eto.  

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones ar daith fasnach i Washington ac Efrog Newydd.

Mae Ken Skates hefyd yn dweud bod gan y Prif Weinidog record o amddiffyn swyddi, fel rhai Dur Tata a  GE Aviation.

'Senario gwaethaf posib'

Mae Mr Skates yn dweud bod adroddiadau o dros 1,000 o swyddi'n cael eu colli yng ngwaith Ford ym Mhen-y-bont yn fater o'r "senario gwaethaf posib". 

Ar hyn o bryd mae'r cwmni ceir Americanaidd yn creu 655,000 o beiriannau ym Mhen-y-bont ond mae'r cytundebau ar gyfer y rheiny yn dod i ben, a dim ond gwaith ar gyfer 125,000 o'r rheiny sydd wedi'i warantu yn y dyfodol.  

'Os bosib bod beth sy'n dda i Nissan yn dda i Ford'

Mae Mr Skates yn dweud bod angen ymrwymiad mwy "ystyrlon" i Ford oddi wrth Lywodraeth y DU.

"Os bosib bod beth sy'n dda i Nissan yn dda i Ford", mae'n ychwanegu.

Y llynedd fe wnaeth Nissan gadarnhau y bydden nhw'n adeiladu'r Qashqai a'r X-Trail SUV newydd yn eu gwaith yn Sunderland yn dilyn "cefnogaeth a sicrwydd" gan Lywodraeth y DU.


          Fe wnaeth cyhoeddiad Nissan amddiffyn miloedd o swyddi yn Sunderland
AFP/GETTY
Fe wnaeth cyhoeddiad Nissan amddiffyn miloedd o swyddi yn Sunderland

Y nod yw 'osgoi argyfwng'

Mae Llefarydd Plaid Cymru ar yr Economi Adam Price yn gofyn i Mr Skates a yw'n teimlo ei fod wedi cael ei gamarwain gan Ford.

Mae Mr Skates yn dweud, y nod yw "osgoi argyfwng".

'Dim risg cyflogaeth yn y tymor byr'

Mae Mr Skates yn dweud iddo siarad gydag is-lywydd Ford y bore yma "wnaeth gadarnhau nad oes risg cyflogaeth yn Ford ym Mhen-y-bont yn y tymor byr, ac y bydd lefelau cyflogaeth yn parhau yn fras yn debyg i heddiw tan 2021".

Ken Skates
BBC

Cwestiwn Brys ar Ford

Mae'r sesiwn yn dechrau gyda chwestiwn brys i Ken Skates.

Mae Adam Price yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet wneud datganiad am adroddiadau bod Ford yn bwriadu cael gwared â dros 1,000 o swyddi o'i waith adeiladu peiriannau ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae cwmni ceir Ford yn dweud eu bod yn disgwyl gweld 1,160 o swyddi'n cael eu colli yn eu ffatri ym Mhen-y-bont erbyn 2021.

Mewn dogfen gan y cwmni sydd wedi ei weld gan BBC Cymru, maen nhw'n rhagweld na fyddan nhw'n gallu denu rhagor o waith i'r safle.

Byddai colli cymaint â hynny o swyddi yn gadael gweithlu o tua 600 ym Mhen-y-bont.

Mewn datganiad heddiw ni wnaeth Ford wadu eu bod yn rhagweld colli'r swyddi, ond ychwanegodd y cwmni eu bod yn parhau i drafod â'r undebau i ddod o hyd i ddatrysiad.

Gwaith Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Ford

Croeso nôl

Mae'r Cyfarfod Llawn ar fin dechrau gyda chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates.

Nôl am 1.30pm

Mae'r aelodau bellach yn cyfarfod yn breifat. 

Fe fydd Senedd Fyw'n ôl am 1.30pm ar gyfer y Cyfarfod Llawn.

Angen 50% o aelodau i bleidleisio

Ar fater y gofyniad o 50% o aelodau i bleidleisio, mae'r awdurdodau  Tân ac Achub yn credu oherwydd y bydd y newidiadau yn eu gwneud hi'n anoddach i undeb i alw ei aelodau i gymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol, fe allai hyn "olygu oedi yn datrys anghydfodau diwydiannol, ac fe allai arwain at ddadleuon costus yn y llysoedd".  

Cefndir: Cynlluniau Llywodraeth Cymru

Bydd rheolau mwy llym ynglŷn â threfnu streiciau yn y sector cyhoeddus yn cael eu diddymu dan gynlluniau Llywodraeth Cymru.

Fe wrthododd gweinidogion awgrymiadau eu bod nhw'n ceisio plesio'r undebau sy'n ariannu'r Blaid Lafur, gan ddweud bod cyflogwyr yn y sector cyhoeddus yn cefnogi eu cynlluniau.

Mae mesur wedi ei gyhoeddi sy'n cael gwared ar rai o gymalau'r Ddeddf Undebau Llafur, gafodd ei phasio yn San Steffan llynedd.

Mae'r ddeddf yn dweud bod yn rhaid i 40% o aelodau undeb pleidleisio o blaid gweithredu yn ddiwydiannol cyn ei fod yn gyfreithiol.

Fe fydd Mesur Undebau Llafur (Cymru) hefyd yn cael gwared ar newidiadau i'r ffordd mae aelodau undebau yn talu ffioedd aelodaeth, a'r amser a chaniateir i swyddogion dreulio ar waith eu hundebau.

Ond fe fydd isafswm newydd sy'n golygu bod rhaid i 50% o aelodau undeb gymryd rhan mewn pleidlais ar weithredu yn parhau.

Tystion newydd

Mae'r aelodau nawr yn clywed gan gynrychiolwyr o'r gwasanaethau Tân ac Achub.

Yn rhoi tystiolaeth yn y sesiwn yma mae:

  • Y Cynghorydd Tudor Davies, Cadeirydd, Awdurdod Tân ac Achub De Cymru 
  • Phil Haynes, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Pobl, Awdurdod Tân ac Achub De Cymru
  • Kevin Jones, Prif Swyddog Adnoddau Dynol a Chyfarwyddwr Adnoddau, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • Y Cynghorydd Suzanne Paddison, Aelod o'r Awdurdod Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru 
  • Gary Brandrick, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol, Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru 

          Tudor Davies, Phil Haynes, Kevin Jones,  Suzanne Paddison, Gary Brandrick
BBC