Got a TV Licence?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

Find out more
I don’t have a TV Licence.

Crynodeb

  1. Cyfarfod Llawn am 1.30pm gyda chwestiynau i'r prif weinidog
  2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
  3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Cynllun Cyflawni Strôc wedi'i Ddiweddaru
  4. Dadl: Yr Ail Gyllideb Atodol 2016-17
  5. Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2015-16
  6. Dadl: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Da boch chi

A dyna ni am heddiw. 

Hwyl.

Senedd
BBC

Dadansoddiad Vaughan

Ail Gyllideb Atodol 2016-17 yn cael ei phasio - o drwch blewyn

y bleidlais
BBC

Goblygiadau Brexit ar gyfer menywod

Mae Julie Morgan o'r Blaid Lafur yn sôn am oblygiadau Brexit ar gyfer menywod, gan gynnwys gwerth cronfeydd strwythurol, ac yn dweud bod "cydraddoldeb rhywiol bob amser wedi bod yn amcan craidd yr UE". 

Nid oedd Michelle Brown UKIP yn llawn edmygedd  o'i haraith.

View more on twitter

'Gwreig-gasineb'

Mae'r Ceidwadwr Mark Isherwood yn dweud bod ei wraig wedi dioddef "gwreig-gasineb" sydd wedi niweidio ei hiechyd fel cynghorydd sir Fflint.

Mark Isherwood
BBC

Gwersi perthynas iach yn dod yn orfodol mewn ysgolion?

Ar ran Plaid Cymru, mae Sian Gwenllian yn nodi "bod y bwlch cyflog canolrifol yr awr rhwng dynion a menywod yng Nghymru yn 2015 yn 14.6 y cant, a bod 29 y cant o fenywod a oedd yn gweithio yng Nghymru wedi ennill llai na'r cyflog byw, o'i gymharu â 20.5 y cant o ddynion, ar sail cyflog byw o £8.25 yr awr ym mis Ebrill 2016".

Mae Plaid Cymru yn credu "y byddai cyfartaledd rhwng y rhywiau yng Nghymru yn gwella pe bai gwersi perthynas iach yn dod yn orfodol mewn ysgolion".

Sian Gwenllian
BBC

'Casineb gwenwynig'

Mae yr Ysgrifennydd Cymunedau Carl Sargeant yn dweud wrth Aelodau Cynulliad:

"Mae’n ddyletswydd ar ddynion i wneud safiad yn erbyn anghydraddoldeb, trais a cham-drin. 

"Mae angen Diwrnod Rhyngwladol y Menywod arnon ni oherwydd dydy’r brwydrau hynny ddim wedi’u hennill eto. 

"Hyd nes y daw’r amser hwnnw, rydw i’n falch cael sefyll ochr yn ochr â’r rheini sy’n tynnu sylw at y bobl hynny sy’n cam-drin, sy’n camwahaniaethu yn erbyn menywod ar sail rhyw ac yn eu difenwi – pwy bynnag ydyn nhw a ble bynnag y byddan nhw’n pedlera’u casineb gwenwynig at fenywod.”

Carl Sargeant
BBC

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Ac yn olaf heddiw mae dadl ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod. 

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig bod y Cynulliad yn "dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2017 ac yn cydnabod swyddogaeth, cyfraniad a llwyddiannau menywod ym mywyd economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru". 


          Sefydlwyd Diwrnod Rhyngwladol y Menywod gan Clara Zetkin yn 1910
TOPICAL PRESS AGENCY
Sefydlwyd Diwrnod Rhyngwladol y Menywod gan Clara Zetkin yn 1910

'Brawychus'

Mae Michelle Brown UKIP yn nodi bod Llafur wedi bod yn gyfrifol am addysg yng Nghymru ers datganoli ym 1999, ac yn disgrifio rhai o ganfyddiadau Estyn fel rhai "brawychus".

Michelle Brown
BBC

Gwendidau mewn darpariaeth, arweinyddiaeth a rheoli

Ar ran Plaid Cymru, mae Llyr Gruffydd yn gresynu at "berfformiad cymharol wael yr unedau cyfeirio disgyblion a arolygwyd yn 2015-16, pan na nodwyd bod yr un ohonynt yn dangos arferion ardderchog, a gosodwyd y pedair mewn categori statudol camau dilynol".

Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i "fynd i'r afael â gwendidau mewn darpariaeth, arweinyddiaeth a rheoli fel mater o frys."  

Llyr Gruffydd
BBC

Ddim yn diwallu anghenion pob dysgwr

Dywed y Ceidwadwr Darren Millar nad yw'r system addysg yn diwallu anghenion pob dysgwr o hyd.

Mae'n nodi mai arweinyddiaeth yw'r ffactor mwyaf sy'n effeithio ar wella ysgolion ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i "gyflwyno gwybodaeth fanylach ynghylch sefydlu Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol, gan gynnwys ei chyllid, targedau, a sut y bydd arweinwyr yn gallu cael gafael ar ei chymorth."

Darren Millar
BBC

Safonau Cymraeg 'amrywiol'

Yn y sector cynradd roedd cynnydd eto eleni mewn perfformiad llythrennedd a rhifedd, presenoldeb ac ymddygiad disgyblion, ac roedd safonau yn dda neu'n well mewn saith o bob 10 ysgol gafodd eu harolygu.

Er hynny mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad nad yw disgyblion mwy galluog yn gwireddu eu potensial, oherwydd nad yw'r gwaith yn ddigon heriol.

O fewn y sector uwchradd mae pryder hefyd, gan fod y dysgu yn "dda neu'n well mewn lleiafrif yn unig o ysgolion uwchradd", a bod mwy o wahaniaeth rhwng ysgolion, gyda mwy yn perfformio'n rhagorol neu anfoddhaol na'r ysgolion cynradd.

Pwnc arall sy'n codi yw safon y Gymraeg gyda'r arolygydd yn dweud bod y safonau yn parhau yn rhy amrywiol.

Mae'r adroddiad yn dweud bod safonau Cymraeg ail iaith wedi gwella rhywfaint mewn ysgolion Saesneg, ond dim ond canran fechan sy'n dewis gwneud y cwrs llawn a dyw disgyblion ddim yn defnyddio'r iaith ar lafar y tu allan i wersi.

dosbarth
BBC

Adroddiad Blynyddol Estyn

Nawr mae dadl ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2015-16. 

Mae ansawdd addysgu yng Nghymru yn wan yn ôl adroddiad blynyddol yr arolygydd addysg, Estyn.

Mae'r adroddiad gan y Prif Arolygydd, Meilyr Rowlands yn dweud mai dyma'r "agwedd gwanaf" ar draws y sector addysg, ac nad yw ysgolion yn gwneud digon i gefnogi staff i ddatblygu sgiliau proffesiynol.

Yn yr adroddiad, mae'n dweud y byddai gwella ansawdd y dysgu yn cael "effaith hirdymor" ar safonau.

Meilyr Rowlands yw prif arolygydd y corff arolygu, Estyn
BBC
Meilyr Rowlands yw prif arolygydd y corff arolygu, Estyn

Wyth o argymhellion

Mae Simon Thomas, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, yn cyflwyno adroddiad y pwyllgor , sy'n cynnwys wyth o argymhellion sy'n cwmpasu:

  • Iechyd, gofal cymdeithasol a phwysau gaeaf
  • Addysg a benthyciadau myfyrwyr  
  • Yr Economi a’r Seilwaith.   
Simon Thomas
BBC

Ail Gyllideb Atodol 2016-17

Mae'r aelodau nawr yn cael dadl ar yr Ail Gyllideb Atodol 2016-17

Y prif ddyraniadau refeniw yn y gyllideb atodol hon yw: 

  • £75.9 miliwn i fynd i’r afael â gorwariant o’i gymharu â’r rhagolygon gan Fyrddau Iechyd Lleol; 
  • £50 miliwn i liniaru pwysau’r gaeaf yn y GIG; 
  • £27 miliwn i ariannu’r diffyg incwm yn sgîl y Cynllun Rheoleiddio Prisiau Fferyllol; 
  • £16 miliwn i gyflawni ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i sefydlu Cronfa Triniaethau Newydd; 
  • mae £20 miliwn wedi cael ei ddyrannu i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i fynd i’r afael â gofynion ariannol yn sgîl argymhellion Adolygiad Diamond; 
  • £8.5 miliwn i sefydlu Trafnidiaeth Cymru, i ddylunio a gosod y rhyddfreintiau rheilffyrdd a Metro De Cymru. 

Mae’r prif ddyraniadau cyfalaf ychwanegol fel a ganlyn: 

  • £47 miliwn i gefnogi prosiectau cefnffyrdd (gan gynnwys £22 miliwn ar gyfer Datblygu Llwybrau’r M4); 
  • £33.4 miliwn o grantiau cyfalaf a benthyciadau i gyflawni blaenoriaethau datblygu economaidd; 
  • £30 miliwn i gefnogi ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol.  
arian
PA

Colli tad

Cafodd ffigurau yn cymharu yn uniongyrchol y GIG yn y pedair gwlad o fewn y DU eu cyhoeddi am y tro cyntaf y mis diwethaf. 

O ran y ffigurau am farwolaethau yn yr ysbyty o strôc o waedu yn yr ymennydd, mae Cymru ar gyfradd is na chyfartaledd y DU.  

Dywed Mr Gething iddo golli ei dad wedi iddo ddioddef pedair strôc.

'Defnydd gorau o adnoddau cyfyngedig'

"Rydym mewn sefyllfa gref i symud ymlaen yn gyflymach," meddai Vaughan Gething. 

Ychwanegodd, "Gallwn fod yn hyderus bod rhywfaint o welliant pellach yn bosibl mewn canlyniadau strôc gyda'n gwasanaethau presennol. 

"Fodd bynnag, mae angen cynllunio i wneud y defnydd gorau o adnoddau cyfyngedig ein gwasanaethau strôc i wella canlyniadau ac i gynorthwyo yn yr heriau o recriwtio staff arbenigol."

Vaughan Gething
BBC

Cynllun Cyflawni Strôc

Nawr datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething ar y Cynllun Cyflawni Strôc wedi'i Ddiweddaru. 

 Mae nifer y bobl sy’n goroesi strôc yn parhau i gynyddu ledled Cymru. Dros y 10 mlynedd diwethaf (2006-07 i 2015-16), bu 5.7% o welliant yn y cyfraddau goroesi ar ôl strôc ymhlith pobl 74 oed neu iau a 7.3% ar gyfer pobl 75 oed neu hŷn. Mae nifer y bobl sy’n marw o strôc yn gostwng; bu gostyngiad o 623 (22%) yn nifer y marwolaethau o strôc yng Nghymru ers 2010.  


          Mae’r Gymdeithas Strôc yn amcangyfrif bod tua 66,000 o bobl sydd wedi goroesi strôc yn byw yng Nghymru
SPL
Mae’r Gymdeithas Strôc yn amcangyfrif bod tua 66,000 o bobl sydd wedi goroesi strôc yn byw yng Nghymru

Gwasanaeth gyrfaoedd Gyrfa Cymru

Dywedodd Jane Hutt bod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol bod Gyrfa Cymru yn ymgynghori ar "gynllun diswyddiadau gwirfoddol". 

Mae cyfanswm o 60 o swyddi gyda'r gwasanaeth gyrfaoedd, sydd wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn cael eu torri, yn ôl undeb Unison. 

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf yn y Siambr yw'r Datganiad a Chyhoeddiad Busnes, gydag Arweinydd y Tŷ, Jane Hutt yn amlinellu busnes y Cynulliad ar gyfer y dyfodol agos. 

Jane Hutt
BBC

Y sicrwydd a roddwyd i Nissan

Gan gyfeirio at sicrwydd a roddwyd gan lywodraeth y DU i gwmni car arall, dywed yr Ysgrifennydd Economi Ken Skates y "dylai yr hyn sy'n dda ar gyfer Nissan hefyd fod yn dda ar gyfer Ford a Vauxhall".

Ken Skates
BBC

Cwestiwn Brys

Nawr ceir Cwestiwn Brys i’r Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith Ken Skates.

Hannah Blythyn (Delyn):  Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael ar ddyfodol swyddi i weithwyr o Gymru a gaiff eu cyflogi yng ngwaith Vauxhall yn Ellesmere Port, yn sgil cyhoeddiad General Motors ei fod yn bwriadu gwerthu Vauxhall i Peugeot?

Mae'r cwmni sy'n berchen ar Peugeot, Grŵp PSA o Ffrainc, wedi cadarnhau eu bod wedi prynu cangen Ewropeaidd cwmni General Motors.

Yn sgil hynny, mae pryderon am safleoedd Vauxhall ym Mhrydain.

Mae Vauxhall yn cyflogi tua 4,500 o bobl yn eu safleoedd yn Luton ac Ellesmere Port ar Lannau Mersi.

Credir bod tua 300 o weithwyr ffatri Ellesmere Port yn byw yng Nghymru.

Vauxhall
Vauxhall

Camau gorfodi

Dywed  Michelle Brown (AC UKIP dros ogledd Cymru ) nad oes gan awdurdodau lleol adnoddau digonol ar gyfer camau gorfodi o dan Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014.   

Llygredd aer

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn gofyn pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd ar lygredd aer ar ôl y stori hon . Mae Mr Davies yn dweud bod y ffigurau ar lygredd aer yn achosi 2,000 o farwolaethau bob blwyddyn yn cael "frawychus". 

Mae'r prif weinidog yn awgrymu mai un broblem i ddatrys yw ceir yn segura.

Llygredd aer
BBC

'Argyfwng cyfansoddiadol'

Yn dilyn cwestiwn gan arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood, dywed y prif weinidog y bydd "argyfwng cyfansoddiadol" os bydd San Steffan yn  diystyru cyfraith gan y Cynulliad i ddiddymu Deddf yr Undebau Llafur a basiwyd yn San Steffan.  

A yw Deddf Cymru yn anymarferol, mae Ms Wood yn gofyn. 

Mae'r prif weinidog yn dweud nad yw'n anymarferol ond y mae'n anfoddhaol, gyda "busnes anorffenedig".

Leanne Wood
BBC

Benthyca gan lywodraeth

Mae Neil Hamilton UKIP yn cyflwyno achos dros leihau benthyca gan lywodraeth a lleihau'r gyllideb ar gyfer cymorth tramor. Dywed bod  cymorth i Bacistan yn ariannu ei chyllidebau niwclear. 

Mae'r prif weinidog yn dweud bod dim byd o'i le mewn cymorth i helpu gwledydd i ddatblygu yn economaidd.

Neil Hamilton
BBC

Cymorthdaliadau ar gyfer gwasanaeth bws Maes Awyr Caerdydd

Mae'r Aelod Ceidwadol Russell George yn galw am y cymorthdaliadau o £500,000 ar gyfer gwasanaeth bws Maes Awyr Caerdydd i ddod ben, fel y gellir eu rhoi i wasanaethau bysiau lleol eraill.

Mae'r prif weinidog cyhuddo'r Torïaid o beidio â bod eisiau gwasanaeth bws i'r maes awyr, i brotestiadau gan Mr George.

prif weinidog
BBC

Gorsaf drenau ger Maes Awyr Caerdydd

Mae David Rowlands UKIP yn gofyn pam nad yw gorsaf drenau ger Maes Awyr Caerdydd yn cael ei chynnwys yn y cynlluniau ar gyfer Metro De Cymru.

Mae'r prif weinidog yn dweud mai'r gwasanaeth bws presennol a'r llinell rheilffordd presennol yw'r "ffocws".

Maes Awyr Caerdydd
Maes Awyr Caerdydd

Croeso

Croeso i Senedd Fyw sy'n darlledu'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. 

Mae'r sesiwn fel arfer yn dechrau gyda chwestiynau i'r prif weinidog. 

Mae'r cwestiwn cyntaf a gyflwynwyd gan   John Griffiths (Dwyrain Casnewydd):  A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ddatblygu economaidd yn ne-ddwyrain Cymru?  

Senedd
BBC