Got a TV Licence?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

Find out more
I don’t have a TV Licence.

Crynodeb

  1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
  2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
  3. Datganiadau 90 Eiliad
  4. Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 23 mewn perthynas â Deisebau'r Cyhoedd
  5. Dadl gan Aelodau Unigol ar yr Economi Sylfaenol
  6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd plant
  7. Dadl Plaid Cymru: Cronfa'r Teulu
  8. Dadl Fer: Sefydlu Cyfnewidfa Stoc i Gymru

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Da boch chi

Dyna ddiwedd y trafodion heddiw yn y Siambr. 

Bydd Senedd Fyw yn dychwelyd ar ddydd Mawrth, 14 o Fawrth.

Senedd
BBC

Dadl Fer

Y pwnc a ddewiswyd gan Neil McEvoy (Canol De Cymru) yw sefydlu Cyfnewidfa Stoc i Gymru.

Ddoe cafodd Mr McEvoy ei wahardd dros dro o grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad. Daeth hynny wedi iddo gael ei  wahardd am fis o'i swydd fel cynghorydd yng Nghaerdydd  am sylwadau y gwnaeth wrth un o swyddogion y cyngor.

Dywed Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates, "nid yw'n glir bod achos digon cryf" i sefydlu Cyfnewidfa Stoc i Gymru.

Cronfa'r Teulu 'wedi cael uchafswm y grant sydd ar gael'

Mae'r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans yn nodi'r "cyllid canlynol gan Lywodraeth Cymru:

a) cynllun grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy, sy'n werth £22m, i helpu cyrff y trydydd sector i gyflawni agenda uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, sy'n cynnwys cynorthwyo teuluoedd sy'n magu plant anabl neu ddifrifol wael.

b) rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf sy'n werth £42.5m, gan gynnwys £3m o gyllid wedi'i glustnodi ar gyfer teuluoedd anabl.

c) £2.2m o gyllid bob blwyddyn i Gyngor ar Bopeth Cymru i gynorthwyo grwpiau a dargedir, gan gynnwys teuluoedd â phlant anabl, a'u helpu i gael gafael ar y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Mae hyn wedi arwain at gyfanswm o £3.3m o fudd-daliadau ychwanegol rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2016."

Dywed bod Cronfa'r Teulu "wedi cael uchafswm y grant sydd ar gael, sef £1.5m, ynghyd â chyllid ychwanegol o £400,000 eleni, i barhau i gynorthwyo teuluoedd ac i addasu ei model ariannu at y dyfodol".

Rebecca Evans
BBC

Cronfa'r Teulu

Mae Caroline Jones UKIP yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthdroi y penderfyniad.

Bydd Cronfa'r Teulu, sy'n rhoi grantiau, yn cael llai na £2m gan Lywodraeth Cymru dros dair blynedd, o'i gymharu â'r £2.5 miliwn bob blwyddyn yr oedd wedi ei derbyn.


          Mae'r gronfa yn helpu teuluoedd i dalu am eitemau fel peiriannau golchi
BBC
Mae'r gronfa yn helpu teuluoedd i dalu am eitemau fel peiriannau golchi

Cynnal cyllid

Mae'r Ceidwadwr  Mark Isherwood  yn nodi bod "Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU, mewn perthynas â Lloegr, i gyd wedi cynnal eu cyllid i Gronfa'r Teulu". 

Mark Isherwood
BBC

Dadl Plaid Cymru

Mae'r aelodau yn symud ymlaen at Ddadl Plaid Cymru. 

Mae Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)  yn galw ar Lywodraeth Cymru "i adolygu effaith ei phenderfyniad i dorri cyllid Cronfa'r Teulu, a naill ai gwyrdroi'r toriadau i Gronfa'r Teulu, neu sefydlu dull o ddarparu cymorth ariannol uniongyrchol i deuluoedd incwm isel sydd â phlant anabl i o leiaf y lefelau isaf a ddarperid yn flaenorol".

Llywodraeth i ddatblygu cynllun iechyd plant newydd

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething yn cyhoeddi y bydd y llywodraeth yn datblygu cynllun iechyd plant newydd, er mwyn darparu gweledigaeth hirdymor.

Vaughan Gething
BBC

Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant

Mae Caroline Jones UKIP yn cyfeirio at adroddiad y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant. 

Yn ôl yr adroddiad , mae'r DU yn 15fed allan o 19 o wledydd Gorllewin Ewrop o ran marwolaethau babanod.

Effaith toriadau i fudd-daliadau tai

Mae Rhun ap Iorwerth yn cyfeirio at "effaith toriadau i fudd-daliadau tai ar allu tai cymdeithasol i ddarparu sicrwydd o gartref i blant."

Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i "ystyried sut y gall ysgolion helpu i greu amgylcheddau i fynd i'r afael â gordewdra, a sicrhau y gall pob ysgol gynnig cyfleusterau ardderchog ar gyfer chwaraeon."

Rhun ap Iorwerth
BBC

'Gwella'r broses o gasglu data a'r ddealltwriaeth o iechyd plant'

Mae Angela Burns yn galw ar Lywodraeth Cymru "i wella'r broses o gasglu data a'r ddealltwriaeth o iechyd plant yng Nghymru drwy:

a) ehangu arolygon profiadau canser i gasglu data ar gyfer plant o dan 16 oed;

b) cynnal gwaith ymchwil i fwlio gan gyfoedion; ac

c) ailwerthuso cymorth iechyd meddwl amenedigol er mwyn sicrhau cysondeb ledled Cymru ar gyfer teuluoedd sy'n agored i niwed."

Iechyd plant

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig sydd nesaf, ar iechyd plant.

'Edrych o'r newydd' ar flaenoriaethau economaidd

Mae'r Ysgrifennydd Economi Ken Skates yn dweud bod y ddadl yn amserol gan ei fod yn "edrych o'r newydd" ar flaenoriaethau economaidd y llywodraeth ar hyn o bryd. 

Dywed y bydd y strategaeth newydd yn "cynnwys rôl gref iawn i'r economi sylfaenol".

Ken Skates
BBC

Galw am siarter cig coch

Mae'r Ceidwadwr Russell George yn galw am siarter cig coch i hyrwyddo cynnyrch domestig, yn enwedig o ran caffael. 

Mae hefyd yn dweud y dylai busnesau lleol gael mwy o rôl gydag ysgolion i ddatblygu cysylltiadau mewn cymunedau.

Russell George
BBC

'Ffordd newydd o feddwl'

Mae Adam Price yn croesawu "y gofod ar gyfer ffordd newydd o feddwl". 

 "Byddwn yn ailadrodd methiannau'r gorffennol oni bai ein bod yn barod i arbrofi mewn ffordd radical," ychwanega.

Adam Price
BBC

Yr 'Economi Sylfaenol'

Dadl gan Aelodau Unigol sydd nesaf. Mae 

Lee Waters (Llanelli)

Jeremy Miles (Castell-nedd)

Vikki Howells (Cwm Cynon)

Hefin David (Caerffili)

yn cynnig bod y Cynulliad:

1 Yn nodi bod tua 40 y cant o'r gweithlu sy'n cael eu cyflogi yn yr 'Economi Sylfaenol' yn cyflenwi nwyddau a gwasanaethau hanfodol fel seilwaith; cyfleustodau; prosesu bwyd, manwerthu a dosbarthu; ac iechyd, addysg a gofal.

2 Yn cydnabod bod y sectorau hyn yn aml yn fwy abl i wrthsefyll ergydion economaidd allanol a bod ganddynt gryn botensial i sicrhau mwy o werth lleol o ddarparu nwyddau a gwasanaethau lleol.

3 Yn gresynu fod llawer o'r sectorau o fewn yr Economi Sylfaenol yn nodedig am swyddi â thâl isel ac ansicrwydd.

4 Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth i wneud yn fawr o effaith yr 'Economi Sylfaenol' ledled Cymru fel rhan o'i gwaith ar ddatblygu strategaeth economaidd newydd, gan gynnwys mesurau i wella amodau cyflogaeth yn y sectorau hynny.   

Lee Waters
BBC
Lee Waters

Deisebau'r Cyhoedd

Mae'r aelodau yn cymeradwyo cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 23 mewn perthynas â Deisebau'r Cyhoedd. 

Mae'r newidiadau yn golygu bod y trothwy ar gyfer ystyried unrhyw ddeiseb yn cael ei godi i 50 o lofnodion ac mai dim ond pobl sy'n byw yng Nghymru neu sefydliadau sydd â swyddfa yng Nghymru ddylai allu cyflwyno deisebau.


          Cadeirydd y pwyllgor deisebau Mike Hedges yn derbyn deiseb ar wasanaethau rheilffyrdd yng nghefn gwlad Cymru
Cynulliad
Cadeirydd y pwyllgor deisebau Mike Hedges yn derbyn deiseb ar wasanaethau rheilffyrdd yng nghefn gwlad Cymru

Datganiadau 90 Eiliad

Ers 2 Tachwedd y llynedd mae gan aelodau Cynulliad gyfle i wneud cyflwyniadau sy'n para 90 eiliad ar unrhyw bwnc sy'n bwysig iddyn nhw.

Y Cynulliad Cenedlaethol oedd y ddeddfwrfa gyntaf yn y DU i gyflwyno'r drefn hon, oedd eisoes yn cael ei chynnig mewn seneddau eraill mewn gwledydd fel Awstralia a Chanada.

Cafodd y fenter newydd ei chynnig gan y llywydd Elin Jones a'i chymeradwyo gan y Pwyllgor Busnes.

Mae pum munud yn cael ei neilltuo yng nghyfarfod llawn y Cynulliad bob dydd Mercher ar gyfer y datganiadau.

Ffioedd i denantiaid

Mae'r AC Llafur dros Ddwyrain Abertawe, Mike Hedges yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i wneud cynnydd ar wahardd ffioedd asiantau gosod. 

Mae Mr Hedges yn gofyn am amserlen ar gyfer gwaharddiad. 

Wrth ymateb, dywed Mr Sargeant nad oes ganddo amserlen, ond awgryma y gallai mesur gan aelod cynulliad unigol gael cefnogaeth Llywodraeth Cymru. 

Cafodd gwaharddiad ar y ffioedd yn Lloegr ei gyhoeddi gan y Canghellor Philip Hammond yn ei Ddatganiad yr Hydref. 

Cafodd ffioedd asiantau gosod eu gwahardd yn yr Alban yn 2012.

Arian
PA

Goroeswyr cam-drin domestig

Mae Angela Burns yn diolch i Mr Sargeant am wrando ar brofiadau goroeswyr cam-drin domestig mewn digwyddiad yn gynharach heddiw.

Mae hi'n galw am fwy o gefnogaeth iddynt.

Angela Burns
BBC

Cymunedau a Phlant

Yr eitem nesaf yw Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant.  

Carl Sargeant
BBC

Amaethyddiaeth

Mae Neil Hamilton UKIP yn dweud ei fod wedi "darllen cofnodion y grŵp cynghori Ewropeaidd a sefydlwyd gan y prif weinidog chwe mis yn ôl ac yn synnu nad yw amaethyddiaeth wedi ymddangos o gwbl". 

Mae  Lesley Griffiths yn honni y "byddai'r sector amaeth yn dweud wrth yr aelod pa mor fodlon ydynt â'r ymgysylltu â rhanddeiliaid" gan Lywodraeth Cymru.

Neil Hamilton
BBC

Gwerthuso'r costau sydd ynghlwm â'r diwydiant llaeth

Mae'e aelod Ceidwadol Paul Davies yn gofyn i'r llywodraeth i "werthuso'r costau sydd ynghlwm â'r diwydiant llaeth a sut y gall Llywodraeth Cymru roi cymorth i ffermwyr llaeth". 

Atebodd Lesley Griffiths bod hyn yn fater sydd dan ystyriaeth. 

Gwartheg
BBC

Llygredd awyr

Mae Simon Thomas o Blaid Cymru yn cyfeirio at ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n dangos bod llygredd awyr yn achosi'r hyn sy'n gyfystyr i 2,000 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn, sy'n 6% o'r holl farwolaethau.

Dywedodd Lesley Griffiths bod "angen atebion radical, ac mae hwn yn un o fy mhrif flaenoriaethau."

Siambr
BBC

'Rhif dau yn Ewrop'

Dywed Lesley Griffiths bod Llywodraeth Cymru yn gwneud "cynnydd rhagorol" ar ailgylchu. 

 "Rydym yn rhif un yn y DU a rhif dau yn Ewrop," ychwanega.

Mae ffigyrau ailgylchu terfynol 2015/16 yn dangos bod Cymru'n arwain gweddill y DU.

Cafodd 60.2% o wastraff Cymru ei ailgylchu - dwbl y ffigwr ddegawd yn ôl.

Y targed nesaf i'w gyrraedd yw bod 64% o wastraff yn cael ei ailgylchu erbyn 2020, a 70% erbyn 2025.  

ailgylchu
BBC

Prynhawn da

Mae'r cyfarfod llawn yn dechrau gyda Chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.  

Dyma'r cyntaf o'r Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd :

Gareth Bennett (Canol De Cymru):  A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am berfformiad o'i gymharu â thargedau ailgylchu gwastraff trefol ledled Cymru?   

Senedd
BBC