Got a TV Licence?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

Find out more
I don’t have a TV Licence.

Crynodeb

  1. Cyfarfod Llawn am 1.30pm gyda chwestiynau'r prif weinidog
  2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
  3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Mesur Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig
  4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg – y ffordd ymlaen
  5. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fesur yr Economi Ddigidol
  6. Dadl: Gwastraff Trefol ac Ailgylchu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Da boch chi

Dyna ddiwedd y trafodion heddiw yn y Siambr. 

Bydd Senedd Fyw yn dychwelyd yfory ar gyfer y cyfarfod llawn.

Senedd
BBC

Jane Hutt yn camu i esgidiau Carwyn Jones

'Syfrdanol'

Dywed AC Canol Caerdydd Jenny Rathbone "ei fod yn ddim llai na syfrdanol bod un rhan o dair o fwyd a gynhyrchir byth yn cyrraedd y bwrdd neu y plât".

Jenny Rathbone
BBC

'Economi fwy gylchol'

Mae'r Ceidwadwr Darren Millar  yn galw am "sicrhau canlyniadau datblygu cynaliadwy drwy economi fwy gylchol yn seiliedig ar ddefnydd arloesol o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ."  

Mabwysiadu arfer gorau

Ar ran Plaid Cymru, mae Simon Thomas yn argymell cynllun ad-dalu blaendal ar gyfer plastig, gwydr a chaniau a gwahardd pecynnau polystyren.

Dywed bod angen i awdurdodau lleol "fabwysiadu arfer gorau er mwyn codi cyfraddau ailgylchu, a dysgu gan awdurdodau fel Ceredigion, lle y cafodd 68.1 y cant o wastraff trefol ei ailgylchu yn 2015/16".  

Simon Thomas
BBC

'Cyfraddau ailgylchu yn amrywio'n sylweddol'

Mae Gareth Bennett UKIP yn nodi "â phryder bod cyfraddau ailgylchu yn amrywio'n sylweddol ar draws ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru, yn rhannol oherwydd gwahaniaethau mewn cynlluniau ailgylchu a chasglu gwastraff a ddefnyddir ym mhob ardal awdurdod lleol".

Mae'n "gresynu bod 36,000 o achosion o dipio anghyfreithlon wedi'u cofnodi yng Nghymru yn 2015/16, gyda chostau o dros £2.1 miliwn i awdurdodau lleol eu clirio".

Mae UKIP yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod awdurdodau lleol yn casglu gwastraff gweddilliol cartrefi bob pythefnos fan lleiaf, er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ac atal tipio anghyfreithlon.

Y drydedd genedl orau yn y byd am ailgylchu

Cymru yw'r drydedd genedl orau yn y byd am ailgylchu, yn ôl adroddiad.

Mae'r adroddiad, sydd wedi cael ei gyhoeddi gan 'Resource', yn gosod Cymru y tu ôl i'r Almaen a Taiwan am ailgylchu trefol.

Mae'r ffigurau chwarter a gyhoeddwyd ym mis Chwefror yn dangos bod Cymru yn parhau i arwain y ffordd o ran ailgylchu yn y DU.

Mae Cymru bellach yn ailgylchu ddwywaith cymaint nag yr oedd ddegawd yn ôl ac mae'n parhau i gael ei defnyddio fel enghraifft o arfer da i wledydd eraill y DU.

ailgylchu
BBC

Cymru fydd y wlad orau yn y byd am ailgylchu?

Yr eitem olaf heddiw yw dadl ar wastraff trefol ac ailgylchu. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig bod y Cynulliad:

"Yn cytuno bod Cymru ar y blaen o safbwynt ailgylchu gwastraff trefol ac yn cefnogi'r bwriad sy'n golygu:

a) creu rhagor o fentrau er mwyn cyflawni'r canlyniadau gorau posibl o ran datblygu cynaliadwy ac amcanion Symud Cymru Ymlaen

b) mai Cymru fydd y wlad orau yn y byd am ailgylchu".

Arferai Carl Sargeant ddweud mai Cymru oedd y ' Real Madrid o ran ailgylchu '. 

ailgylchu
BBC

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn cael ei basio

Mae'r cynnig yn cael ei basio heb wrthwynebiad.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fesur yr Economi Ddigidol

Mae Llywodraeth Cymru nawr yn cynnig bod y Cynulliad yn cytuno mai Senedd y DU ddylai ystyried y darpariaethau ym Mesur yr Economi Ddigidol sy'n ymwneud â rhannu data, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.

Mae'r mesur yn: 

  • Cyflwyno "Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol" newydd i roi hawl i ddefnyddwyr gael isafswm o ran cyflymder band eang
  • diweddaru rheolau eiddo deallusol ar gyfer diwydiannau digidol 
  • Gwneud Ofcom yn gyfrifol am reoleiddio gweithgareddau'r BBC ac yn rhoi pŵer i'r BBC gynnal neu gael gwared ar gonsesiynau ar drwyddedau teledu ar sail oedran. 
  • Cyflwyno rheolau gwirio oedran i wylio pornograffi ar-lein gyda chosbau am beidio â chydymffurfio 
  • Sefydlu cod statudol newydd ar gyfer marchnata uniongyrchol i gryfhau camau gorfodi.
Economi Ddigidol
PA

'Synnwyr cyffredin'

Neil Hamilton UKIP yn cymeradwyo Alun Davies ar ei "synnwyr cyffredin a dull gweithredu realistig".

'Sylweddoli nad yw busnes fel arfer yn ddigon da'

Dywed Llyr Gruffydd ar ran Plaid Cymru bod y datganiad yn "rhoi mwy o hyder inni fod Llywodraeth Cymru yn cymryd ei chyfrifoldeb o safbwynt twf addysg Gymraeg o ddifrif, a bod y llywodraeth yn sylweddoli nad yw busnes fel arfer yn ddigon da".  

Llyr Gruffydd
BBC

'Ddim mor effeithiol ag y mae angen iddyn nhw fod'

Rhaid i awdurdodau lleol gyflwyno cynlluniau i Lywodraeth Cymru yn egluro sut y byddan nhw'n ateb y galw am addysg cyfrwng Cymraeg, ond dywedodd y Gweinidog dros y Gymraeg, Alun Davies, bod y cynlluniau presennol "ddim mor effeithiol ag y mae angen iddyn nhw fod".  

Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg

Yr eitem nesaf yn y Siambr yw Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes Alun Davies: Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg – y ffordd ymlaen.  

Mae cyn-Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol, Aled Roberts, wedi cael ei benodi gan Lywodraeth Cymru i gadeirio adolygiad o gynlluniau cynghorau Cymru i ddarparu addysg Gymraeg. 

Aled Roberts
BBC
Aled Roberts

'Nid ydym yn Lloegr eto'

"Nid ydym yn Lloegr eto" meddai Carl Sargeant. "Mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud yma."

Carl Sargeant
BBC

'Anawsterau ymarferol'

Dywed Gareth Bennett bod UKIP "yn fras yn cefnogi'r Hawl i Brynu, ond rydym hefyd yn cydnabod anawsterau ymarferol y polisi".

Gareth Bennett
BBC

Plaid Cymru yn cefnogi diddymu'r Hawl i Brynu

Dywed Bethan Jenkins bod  Plaid Cymru yn cefnogi diddymu'r Hawl i Brynu, sy'n golygu ei bod yn annhebygol y bydd Llafur yn cael trafferth i basio'r ddeddf yn y Senedd. 

Mae'r blaid hefyd wedi gresynu bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi cymryd cyhyd i ddiddymu'r polisi.

Bethan Jenkins
BBC

'Diwrnod trist iawn i Gymru'

Mae'r cynlluniau yn cael eu beirniadu gan y Ceidwadwyr Cymreig, sydd yn dweud y bydd yn tanseilio "symudedd cymdeithasol".

Dywed David Melding, llefarydd y blaid ar dai, bod hwn yn "ddiwrnod trist iawn i Gymru".

Ychwanegodd mai'r rheswm am y diffyg tai fforddiadwy yng Nghymru yw oherwydd nad yw Llafur wedi adeiladu digon ohonynt, nid oherwydd bod tenantiaid cyngor wedi cael y cyfle i brynu eu rhai nhw.

David Melding
BBC

Annog landlordiaid cymdeithasol i adeiladu mwy o dai

Mae cynghorau Ynys Môn, Sir Gâr ac Abertawe eisoes wedi dod â'r polisi i ben, tra bod cynghorau Caerdydd, Sir Ddinbych a Sir y Fflint wedi cyflwyno cynlluniau tebyg i weinidogion.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cymunedau, Carl Sargeant mai'r bwriad oedd annog landlordiaid cymdeithasol i adeiladu mwy o dai, ac mae'r cynlluniau wedi eu croesawu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Fe allai gymryd o leiaf blwyddyn yn dilyn pasio'r ddeddf i'r trefniadau newydd ddod i rym.


          Teulu'r King ym Milton Keynes oedd ymhlith y cyntaf i dderbyn y gweithredoedd i'w tŷ cyngor
Getty Images
Teulu'r King ym Milton Keynes oedd ymhlith y cyntaf i dderbyn y gweithredoedd i'w tŷ cyngor

Cynlluniau i ddiddymu cynllun Hawl i Brynu

Nawr ceir Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant ar y Mesur Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru).

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i ddiddymu cynllun Hawl i Brynu ar draws y wlad.

Cafodd addewid i wneud hynny ei wneud ym maniffesto'r Blaid Lafur ar gyfer etholiad Cynulliad 2016, ac mae cynghorau unigol eisoes wedi cael y pŵer i atal y cynllun.

Dywedodd y llywodraeth mai'r bwriad oedd amddiffyn stoc dai Cymru a sicrhau bod digon o gartrefi fforddiadwy i bobl sydd methu fforddio prynu neu rentu.

Roedd y cynllun Hawl i Brynu, sydd yn caniatáu i denantiaid cartrefi cymdeithasol brynu eu heiddo ar ôl byw yno am bum mlynedd, yn un o'r polisïau amlycaf gafodd eu cyflwyno gan Margaret Thatcher pan oedd hi'n brif weinidog.


          Bwriad yr Ysgrifennydd Cymunedau, Carl Sargeant yw amddiffyn y stoc dai
LLYWODRAETH CYMRU
Bwriad yr Ysgrifennydd Cymunedau, Carl Sargeant yw amddiffyn y stoc dai

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf yn y Siambr yw'r Datganiad a Chyhoeddiad Busnes, gydag Arweinydd y Tŷ, Jane Hutt yn amlinellu busnes y Cynulliad ar gyfer y dyfodol agos.   

'Cwbl annerbyniol'

Dywed AC Ceidwadol Gorllewin Clwyd, Darren Millar ei bod yn bryder fod y manylion wedi cael eu cymryd ers 6 Hydref, ond nad yw rhai staff yng Nghymru wedi cael gwybod am y sefyllfa tan y mis hwn.

"Mae'r oedi wrth roi gwybod i'r rheiny sydd wedi cael eu heffeithio yn gwbl annerbyniol," meddai.

Mae ysgrifennydd y cabinet ar gyfer iechyd, Vaughan Gething, yn dweud bod nifer y staff yr effeithir arnynt bellach yn 4,700. 

Darren Millar
BBC

Cwestiwn Brys 4

I Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:

Darren Millar (Gorllewin Clwyd)?:  A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr achos o danseilio diogelwch data a effeithiodd ar staff y GIG sy'n defnyddio mesuryddion dognau o ymbelydredd?

Mae manylion personol miloedd o staff meddygol yng Nghymru wedi cael eu dwyn o gyfrifiadur contractwr preifat.

Cafodd enwau, dyddiad geni, manylion dos pelydriad a rhifau Yswiriant Gwladol staff sy'n gweithio mewn unedau pelydr-X eu copïo ar ôl i hacwyr gael mynediad atynt yn anghyfreithlon ym mis Hydref.

Mae'r staff sydd wedi'u heffeithio yn defnyddio bathodynnau sy'n mesur eu cysylltiad â phelydrau-X.

Y cwmni sy'n prosesu'r data o'r bathodynnau ar ran y GIG yng Nghymru - Landauer - gafodd eu hacio.


          Manylion staff sy'n gweithio mewn unedau pelydr-X sydd wedi'u dwyn
Getty Images
Manylion staff sy'n gweithio mewn unedau pelydr-X sydd wedi'u dwyn

Cwestiwn Brys 3 - cyswllt awyr rhwng y gogledd a'r de

I’r Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:

Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol hirdymor y cyswllt awyr rhwng y gogledd a'r de a gaiff gymorthdaliadau, yn sgil y newyddion bod Citywing wedi cael ei ddiddymu?

Mae Llywodraeth Cymru wedi dod i gytundeb gyda chwmni newydd i gymryd rheolaeth o'r gwasanaeth awyr rhwng Caerdydd ac Ynys Môn.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates y bydd y cytundeb gyda Eastern Airways yn sicrhau na fyddai unrhyw amhariad ar y gwasanaeth.

Fe ddywedodd Citywing - oedd yn arfer rhedeg y gwasanaeth - fore Sadwrn y bydd yr hediadau yn dod i ben  wedi i'r cwmni gael ei ddirwyn i ben .

Ond bydd pob tocyn oedd eisoes wedi'u prynu ar gyfer gwasanaeth Citywing nawr yn gymwys ar gyfer rhai Eastern Airways.

cyswllt awyr rhwng y gogledd a'r de
BBC

'Ymgeiswyr cryf ar gael'

Dywed Alun Davies bod "ymgeiswyr cryf ar gael. Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon [Karen Bradley] wrthod eu trafod gyda mi".

"Esiampl berffaith o sut i beidio â gweithredu", meddai wrth ACau.

Alun Davies
BBC

Cwestiwn Brys 2 - cynrychiolydd o Gymru ar fwrdd y BBC

I’r Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes:

Lee Waters (Llanelli):  A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y methiant i benodi cynrychiolydd o Gymru ar fwrdd y BBC?

Wythnos ddiwethaf, fe wnaeth Llywodraeth Cymru atal un ymgeisydd rhag cael ei benodi i gynrychioli Cymru ar fwrdd newydd y BBC - yr ymgeisydd hwnnw oedd prif ddewis ysgrifennydd diwylliant Prydain.  

Mae bellach yn hysbys mai Dr Carol Bell oedd yr ymgeisydd.

Mae gan Dr Bell gefndir helaeth yn y diwydiant olew a nwy
BBC
Mae gan Dr Bell gefndir helaeth yn y diwydiant olew a nwy

Cwestiwn Brys 1 - Ffos-y-Fran

I’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:

Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni):  A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effeithiau iechyd posibl glofa glo brig Ffos-y-Fran, yn dilyn y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf gan rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig ar wastraff a sylweddau peryglus?

Bydd adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig yn galw am ymchwiliad annibynnol i effaith posib glofa brig fwya'r DU ar iechyd y gymuned leol.

Mae pobl sy'n byw ger Ffos-y-Frân, ar gyrion Merthyr Tudful, wedi bod yn ymgyrchu ers dros ddegawd, gan honni bod llygredd aer a sŵn yn effeithio arnyn nhw.

Mewn cyfweliad â BBC Cymru, dywedodd Rapporteur Arbennig y CU ar Sylweddau a Gwastraff Peryglus, Baskut Tuncak, fod y ffordd y mae'r awdurdodau wedi delio â chwynion y gymuned wedi codi "nifer o bryderon" am agwedd y DU tuag at reolaeth amgylcheddol.

Cyhuddo ymgyrchwyr o ledu "newyddion ffug" mae'r cwmni sy'n gyfrifol am y safle, Miller Argent.

Ffos-y-Fran
BBC

Hafan treth?

Mae Neil Hamilton UKIP yn codi cyllideb yr wythnos ddiwethaf. Mae'n gofyn a ddylai Llywodraeth Cymru ystyried gwneud Cymru yn "hafan treth" yn y DU. 

Nid yw Jane Hutt yn ateb y cwestiwn yn uniongyrchol, felly mae Mr Hamilton yn gofyn eto os gall cyfraddau treth is gynhyrchu refeniw uwch.

Mae Ms Hutt yn dweud bod y gyllideb yn tanseilio cenhadaeth  Llywodraeth y DU i hyrwyddo'r DU fel lle i ddechrau busnes.

Neil Hamilton
BBC

Cyffuriau

Mae arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies yn codi'r delweddau o ddefnydd cyffuriau honedig yn Wrecsam a welwyd yn y cyfryngau ac yn gofyn pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd. 

Dywed Jane Hutt bod £4.9m yn cael ei ddarparu i fynd i'r afael â camddefnyddio sylweddau yng ngogledd Cymru.


          Cafodd lluniau o bobl yn ymddangos fel eu bod dan ddylanwad cyffuriau eu cyhoeddi ar y we gan yrrwr bysiau o Wrecsam
GAVIN RODDA
Cafodd lluniau o bobl yn ymddangos fel eu bod dan ddylanwad cyffuriau eu cyhoeddi ar y we gan yrrwr bysiau o Wrecsam

Ymrwymedig i'r undeb

Mae Leanne Wood yn honni bod ACau a gefnogodd 'Na' yn y refferendwm gyntaf ar annibyniaeth i'r Alban a fyddai'n anghyfforddus wrth wneud hynny mewn ail refferendwm.

Dywed Jane Hutt bod ei phlaid a Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i'r undeb.

refferendwm
PA

Sbarduno Brexit

Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i Lywodraeth y DU ymgynghori ar lythyr Erthygl 50 i sbarduno Brexit, meddai Jane Hutt.

Jane Hutt
BBC

'Elwa yn aruthrol o integreiddio â marchnad sengl yr UE'

Dywed arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood fod Cymru "yn wlad allforio gref". 

Mae hi'n gofyn, "Pa ddyfodol sydd yn eich barn chi i'n gwarged masnach gyda'r UE os ydym yn cael ein cymryd allan o'r farchnad sengl?" 

Dywed Jane Hutt, "Mae Cymru yn elwa yn aruthrol o integreiddio â marchnad sengl yr UE".

Leanne Wood
BBC
Leanne Wood

Croeso i Senedd Fyw

Mae'r cyfarfod yn dechrau fel arfer gyda Chwestiynau i'r Prif Weinidog.  

Nid yw Carwyn Jones yno oherwydd "rhesymau teuluol", felly Arweinydd y Tŷ Jane Hutt sy'n ateb cwestiynau.

Mae'r cwestiynau llafar a gyflwynwyd yma

Senedd
BBC