Got a TV Licence?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

Find out more
I don’t have a TV Licence.

Crynodeb

  1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
  2. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad
  3. Datganiadau 90 Eiliad
  4. Cynnig yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Mesur Aelod ynghylch Diogelu Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru
  5. Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru
  6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: 'Llywodraeth Cymru o dan arweiniad Llafur yn methu o ran pobl Cymru'
  7. Dadl Fer: Cais Tyddewi i fod yn Ddinas Ddiwylliant y DU

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

Dyna ddiwedd y trafodion heddiw yn y Siambr. 

Bydd Senedd Fyw yn dychwelyd ar ddydd Mawrth, 21 o Fawrth.

Senedd
BBC

Dadl Fer

Y pwnc a ddewiswyd gan  Paul Davies (Preseli Sir Benfro)  yw "Dinas Fach, Cyfle Mawr Unigryw - Cais Tyddewi i fod yn Ddinas Ddiwylliant y DU".  

Mae'r ddinas leiaf yng Nghymru a'r DU, Tyddewi, wedi lansio cais er mwyn cael ei dewis fel Dinas Diwylliant y DU yn 2021.

Yn atyniad poblogaidd gydag ymwelwyr, mae tua 2,000 yn byw yn y ddinas yng ngogledd Sir Benfro.

Yn hanesyddol mae'n rhan o lwybr y pererinion, gyda dwy daith i Dyddewi yn cyfateb i un daith i Rufain.

Mae disgwyl i'r Ddinas Ddiwylliant fuddugol gael ei dewis erbyn Rhagfyr 2017.  

Tyddewi
PA

Gwrthod ymgais Dai Lloyd i gyflwyno mesur

Dr Dai Lloyd yn methu â chael yr hawl i gyflwyno mesur ynglŷn â diogelu enwau lleoedd hanesyddol. 

Collodd y bleidlais - 25 o blaid a 28 yn erbyn.

Y bleidlais
BBC

Y gyfradd ddiweithdra yn is

Mae Arweinydd y Tŷ Jane Hutt yn rhestru llawer o ystadegau gyda'r nod o ddangos llwyddiant Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y ffaith fod y gyfradd ddiweithdra yng Nghymru - 4.4%, neu 66,000 o bobl - yn is na chyfartaledd y DU o 4.7%.

Jane Hutt
BBC

'Ei phroblemau yn ddifrifol ond nid terfynol'

Mae Neil Hamilton UKIP yn dweud "y gorau y gellir ei ddweud am y llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd yw bod ei phroblemau yn ddifrifol ond nid terfynol, sef y gwrthwyneb i Lafur yn San Steffan".

Neil Hamilton
BBC

'Cymhlethu gan weithredoedd Llywodraeth Geidwadol y DU'

 Dywed Simon Thomas ar ran Plaid Cymru bod "methiannau Llywodraeth Cymru o dan arweiniad Llafur yn cael eu cymhlethu gan weithredoedd Llywodraeth Geidwadol y DU".  

Simon Thomas
BBC

'Methiannau Llafur'

Dywed arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies bod  "'Rhaglen Lywodraethu' Llafur yn denau o ran syniadau newydd". 

Mae'n rhestru "llu o fethiannau Llafur" dros 18 mlynedd o ddatganoli.

Andrew RT Davies
BBC

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Mae'r Ceidwadwyr yn cynnig bod "Llywodraeth Cymru o dan arweiniad Llafur yn methu o ran pobl Cymru".

'Strategaeth fwy hirdymor'

Dywed Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith,  ei fod yn "symud tuag at strategaeth fwy hirdymor sy'n fwy seiliedig ar wybodaeth er mwyn buddsoddi yn y seilwaith". 

Mae ei ymatebion manwl i’r argymhellion a wnaed yn yr adroddiad yma

Sail statudol

Mae Adam Price o Blaid Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ar sail statudol. 

Mae'r blaid o'r farn bod buddsoddi mewn seilwaith yng Nghymru yn cael ei "rhwystro gan agenda llymder"  Llywodraeth y DU, tra nad yw Llywodraeth Cymru wedi gallu benthyg symiau digon mawr - gyda therfynau o £500m.

Adam Price
BBC

'Anghytuno mewn tri phrif faes'

Mae  Russell George (Sir Drefaldwyn)  yn cyflwyno adroddiad y pwyllgor a ddaeth i'r casgliad:

"Wrth edrych ar gynigion Llywodraeth Cymru, rydym yn cytuno â llawer o’r rheini. Ond rydym yn anghytuno mewn tri phrif faes: 

  • Credwn y byddai manteision gwirioneddol yn sgil sefydlu'r Comisiwn ar sail statudol. Er nad oes angen i hyn achosi oedi wrth ei sefydlu, os mai Comisiwn anstatudol fydd hwn i gychwyn, rydym yn gryf o'r farn y dylid rhagdybio y bydd deddfwriaeth yn dilyn ar adeg addas.
  • Deallwn y dyhead i beidio â rhoi gormod o faich ar y corff newydd. Serch hynny, law yn llaw â’r seilwaith economaidd ac amgylcheddol, credwn y dylid ehangu cylch gwaith y Comisiwn i gynnwys y modd y cyflenwir tir ar gyfer datblygiadau tai ac iddynt arwyddocâd strategol, ynghyd â’r seilwaith cysylltiedig.
  • Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yw gweddnewid y modd y mae cyrff cyhoeddus yn gweithio yng Nghymru. Credwn y dylai’r cyfrifoldebau hyn fod wedi’u gwreiddio yn y sefydliad o’r cychwyn cyntaf, er mwyn hyrwyddo cydweithio â chyrff cyhoeddus eraill, er mwyn ymgysylltu â’r cyhoedd yng Nghymru, ac er mwyn sicrhau bod y corff yn annibynnol ar y llywodraeth."   
Russell George
BBC

Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru

Yr eitem nesaf yw dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.

Roedd y cytundeb rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru ym mis Mai 2016 yn cynnwys ymrwymiad i sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru. 

'Balchder yn hanes y genedl'

Mae'r Ceidwadwyr ac UKIP wedi dweud y byddant yn cefnogi'r cynnig gan Dr Dai Lloyd, ond ni fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi.

Wrth ymateb i ddiffyg y gefnogaeth gan y llywodraeth, mae Dai Lloyd yn codi ei lais. "Rydym yn siarad am hanes y genedl yma. Balchder yn hanes y genedl."

'Cymhleth iawn'

Dywed yr Ysgrifennydd Economi Ken Skates "y byddai cyfundrefn gydsynio ffurfiol yn gymhleth iawn, ond yr wyf yn deall yr awydd i amddiffyn enwau lleoedd hanesyddol".

Ychwanegodd y byddai mesur ffurfiol yn "gynamserol", oherwydd erbyn mis Mai "fe fydd gan Gymru restr statudol o enwau lleoedd hanesyddol - y cyntaf o'i bath yn y byd.

"Er na allaf gefnogi'r cynnig hwn, rwy'n credu bod y mesurau arloesol yr ydym ar fin eu cyflwyno yn gamau hanfodol wrth werthfawrogi ein hetifeddiaeth."

Ken Skates
BBC

Diogelu enwau lleoedd hanesyddol

Nawr mai Dr Dai Lloyd yn ceisio cael yr hawl i gyflwyno mesur ynglŷn â diogelu enwau lleoedd hanesyddol.

Cafodd ei gynnig ei ddewis ym mis Ionawr wrth i Aelodau Cynulliad gymryd rhan mewn pleidlais ar hap i ddatblygu syniad yn fesur Cynulliad.

Dywed mai diben y mesur yw "trio sicrhau na chaiff elfen allweddol o'n treftadaeth genedlaethol ei cholli - yn Gymraeg, yn Saesneg ac mewn ieithoedd eraill".

Mae wedi cyfeirio at nifer o esiamplau sydd wedi derbyn cryn sylw yn y wasg - cais i  newid enw Plas Glynllifon yng Ngwynedd  i Wynnborn er enghraifft, newid Maes-llwch ym Mhowys i Foyles, Cwm Cneifion yn Eryri i Nameless Cwm, a fferm Faerdre Fach ger Llandysul, sydd nawr yn cael ei hysbysebu fel Happy Donkey Hill.


          Roedd bwriad i newid enw Plas Glynllifon, ond mae tro pedol wedi bod yn dilyn ymateb chwyrn gan y cyhoedd
BBC
Roedd bwriad i newid enw Plas Glynllifon, ond mae tro pedol wedi bod yn dilyn ymateb chwyrn gan y cyhoedd

Datganiadau 90 Eiliad

Ers 2 Tachwedd y llynedd mae gan aelodau Cynulliad gyfle i wneud cyflwyniadau sy'n para 90 eiliad ar unrhyw bwnc sy'n bwysig iddyn nhw.

Y Cynulliad Cenedlaethol oedd y ddeddfwrfa gyntaf yn y DU i gyflwyno'r drefn hon, oedd eisoes yn cael ei chynnig mewn seneddau eraill mewn gwledydd fel Awstralia a Chanada.

Cafodd y fenter newydd ei chynnig gan y llywydd Elin Jones a'i chymeradwyo gan y Pwyllgor Busnes.

Mae pum munud yn cael ei neilltuo yng nghyfarfod llawn y Cynulliad bob dydd Mercher ar gyfer y datganiadau.

Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Dim ond un cwestiwn a gyflwynwyd i Gomisiwn y Cynulliad.

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru):  Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i hybu teithio i'r Cynulliad mewn cerbydau trydan? 

Ar ran y comisiwn, dywed Caroline Jones "bod trefniadau ar waith i osod dau bwynt gwefru ar ystâd y Cynulliad."

cerbydau trydan
Getty Images

Cyllid canlyniadol Barnett

Mae Julie Morgan yn gofyn ynghylch cyllid canlyniadol Barnett sy'n deillio o Gyllideb y Gwanwyn Canghellor y DU. 

Dywed Mr Drakeford eu bod yn "gwneud dim i wrthdroi'r niwed o bolisi niweidiol llywodraeth y DU o lymder". 

Cyhoeddodd Philip Hammond y bydd £200m ychwanegol i Gymru dros bedair blynedd. 

Ond mae Mr Drakeford wedi dweud nad oedd yn glir sut y byddai toriadau gwariant yn y dyfodol yn y DU o £3.5bn yn effeithio ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

arian
BBC

Diwygio llywodraeth leol

Mae aelodau yn trafod y Papur Gwyn sy'n edrych ar ffyrdd i gynghorau ddarparu rhai o'u gwasanaethau gyda'i gilydd.  

Mae'n destun ymgynghoriad hyd at ddechrau mis Ebrill.   

Ymysg y cynigion mae pennu patrwm daearyddol penodol ar gyfer datblygu economaidd a fyddai hefyd yn cwmpasu rhai swyddogaethau cynllunio a thrafnidiaeth.   

Mark Drakeford
BBC

Fferm Gymunedol Abertawe

Mae Dr Dai Lloyd yn mynegi pryder bod Fferm Gymunedol Abertawe yn Fforestfach yn wynebu cau ar ddiwedd y mis, oni bai y gellir codi £50,000. 

Dywed Mr Drakeford nad yw Llywodraeth Cymru wedi cael cais o'r fferm am gymorth, ond bydd yn trafod y mater gyda chydweithwyr cabinet.

Fferm Gymunedol Abertawe
Fferm Gymunedol Abertawe

Prynhawn da

Mae'r cyfarfod llawn yn dechrau gyda Chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford.

Y cwestiwn llafar cyntaf a gyflwynwyd yw:   

Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru):  A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau gwasanaethau cyhoeddus o fewn Dinas a Sir Abertawe?   

Bae Caerdydd
Google