Got a TV Licence?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

Find out more
I don’t have a TV Licence.

Crynodeb

  1. Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
  2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
  3. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
  4. Dadl gan Aelodau Unigol ar yr economi las
  5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y goblygiadau i Gymru wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd
  6. Dadl Plaid Cymru: Caffael GOHIRIWYD
  7. Dadl Fer: Undebau Credyd GOHIRIWYD

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Y Cyfarfod llawn ar ben

Mae'r Llywydd yn dweud wrth yr aelodau, oherwydd difrifoldeb y sefyllfa yn Llundain, bod y Cyfarfod Llawn yn y Senedd ym Mae Caerdydd yn dod i ben yn gynnar.

Chwech o argymhellion

Mae David Rees, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn cyflwyno adroddiad y pwyllgor sy'n cynnwys chwech o argymhellion.

Argymhelliad 1. "Rydym yn cydnabod bod Papur Gwyn Llywodraeth Cymru wedi darparu tystiolaeth ychwanegol i gefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi’r holl dystiolaeth y mae’n seilio’i safbwynt arni gan gynnwys manylion y gwaith sydd wedi’i wneud ar fodelu senarios ym mhob sector a’r astudiaethau y mae wedi’u comisiynu’n fewnol a chan ffynonellau allanol."

David Rees
BBC

Goblygiadau i Gymru wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd

Am yr awr nesaf mae'r aelodau yn cael dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y goblygiadau i Gymru wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd. 

Baneri yr Undeb Ewropeaidd a Chymru
BBC

Mesurau diogelwch yn y Senedd - geiriau'r Llywydd

Mae'r Llywydd Elin Jones yn dweud wrth yr aelodau yn y Siambr bod mesurau diogelwch yn cael eu hadolygu ond y bydd y dadleuon yn parhau am nawr.

'Digwyddiadau hynod bryderus yn Westminster'

Mae Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates yn dweud bod y ddadl yn digwydd wrth i "ddigwyddiadau hynod bryderus fynd rhagddynt yn Westminster".

Mae'n dweud ei bod wedi siarad gyda'r staff diogelwch yn dilyn y digwyddiadau yn Llundain a'i bod yn cymryd y camau priodol.

Yn y cyfamser mae'r ddadl yn Senedd yr Alban wedi cael ei hatal. 

Meddyliau gyda nhw

Mae Lee Waters yn mynegi "cydymdeimlad tuag at gyd-weithwyr yn San Steffan y prynhawn yma, lle mae yna ddigwyddiad sy'n cael ei drin fel un terfysgol am nawr.

"Mae'n cydgefnogaeth a'n dymuniadau gorau gyda nhw i gyd" a'n meddyliau, meddai.   

Pont Westminster
AP

'Amserlen statudol' i Gyfoeth Naturiol Cymru?

Mae Jeremy Miles hefyd yn galw am "amserlen statudol" i Gyfoeth Naturiol Cymru i benderfynu ar drwyddedau morol.

Os fydd Llywodraeth y DU yn cefnogi prosiect ynni morlyn llanw Bae Abertawe, fe fyddai hefyd angen trwydded forol oddi wrth Gyfoeth Naturiol Cymru. 

Mae aelod Llanelli Lee Waters yn dweud y gallai'r ffaith bod CNC yn cymryd "mor hir" i benderfynu ar ei safbwynt ynghylch y morlyn llanw fod yn "drychinebus i ymddangosiad y diwydiant newydd" allai fod o fudd i Gymru yn nhermau swyddi ac i'r byd mewn taclo newid hinsawdd.

Y gallu i 'ymyrryd' yn y broses o drwyddedu morol

Mae angen i weinidogion allu "ymyrryd" ac ymwneud mwy yn y broses o drwyddedu morol, medd Jeremy Miles.

Cynllunio Morol yng Nghymru

Dim digwyddiad anarferol ym Mae Caerdydd

Y diweddara am y sefyllfa yn Llundain

Adroddiadau o sŵn saethu y tu allan i Balas San Steffan

Dadl Aelodau Unigol

Nesa yn y Siambr y cyntaf o ddadleuon y prynhawn.

Mae'n ddadl gan Aelodau Unigol.

Mae Jeremy Miles (Castell-nedd)

Lee Waters (Llanelli)

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)

yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod Cymru yn elwa ar arfordir hir a'r ail gyrhaeddiad llanw uchaf yn y byd.

2. Yn nodi ymhellach fod gweithgarwch economaidd yn gysylltiedig â'r môr eisoes yn werth tua £2.1 biliwn yng Nghymru, ac yn cynnal degau o filoedd o swyddi.

3. Yn credu y bydd ymrwymiad strategol i'r economi las yn galluogi Cymru i droi ein moroedd yn un o'n hasedion economaidd mwyaf. 

4. Yn credu ymhellach y gall Cymru fod yn arweinydd ym maes ynni adnewyddadwy morol, twristiaeth a chwaraeon, pysgota, bwyd a dyframaethu, a gweithgynhyrchu a pheirianneg morol. 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Cynllun Morol uchelgeisiol i gefnogi datblygiad cynaliadwy yr economi las, a'i gwneud yn elfen ganolog o'i strategaeth economaidd newydd.    

Jeremy Miles
BBC

Dim Datganiadau 90 Eiliad

Does yr un aelod yn cymryd y cyfle yn y Siambr i wneud Datganiad 90 Eiliad i godi materion amserol.  

Cwestiwn Brys: Carchar ym Mhort Talbot

Nawr cwestiwn brys i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant.

David Rees (Aberafan): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cynnal â Llywodraeth y DU ynghylch y penderfyniad i adeiladu carchar ym Mhort Talbot? 

Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi cynlluniau i adeiladu carchar newydd ym Mhort Talbot fel rhan o ymdrechion i foderneiddio a mynd i'r afael â diffyg lleoedd.

Mae BBC Cymru'n deall y bydd lle i 1,600 o droseddwyr yn y carchar categori C, er nad yw'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cadarnhau hynny.

Y bwriad yw adeiladu'r carchar newydd ar dir yn agos i hen ffatri Panasonic yn ardal Baglan, ger yr M4, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Carchar
Thinkstock

Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol

Nawr cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw. 

Mae Julie Morgan yn gofyn pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o bwerau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru o ran hela â chŵn.   

Mae Mr Antoniw yn dweud bod unrhyw asesiadau wedi eu breintio'n gyfreithiol.

Gofid Julie Morgan yw na fyddai Llywodraeth Cymru yn gallu deddfu petai TB buchol yn cael ei ddarganfod mewn cŵn hela yng Nghymru gan fod hela â chŵn yn bŵer sydd wedi ei neilltuo i San Steffan.

Mick Antoniw
BBC

'Gan system addysg Cymru enw gwael iawn'

Mae Michelle Brown UKIP yn gofyn i'r gweinidog beth sy'n cael ei wneud i daclo yr "argyfwng recriwtio" mewn ysgolion yng Nghymru, ac yn dweud bod "gan system addysg Cymru enw gwael iawn".

"Rydw i'n anghytuno gyda'r rhagdybiaeth yna," medd Mr Davies.

Michelle Brown
BBC

'Straen ar gyllid ysgolion'

Mae Llyr Gruffydd Plaid Cymru yn dweud bod "y straen ar gyllid ysgolion yn ddifrifol, ac ar fin torri mewn rhai achosion". Mae'n gofyn a yw'r llywodraeth yn derbyn nad yw'r sefyllfa yn gynaliadwy.

Mae Mr Davies yn dweud ei fod yn gwybod bod ysgolion "weithiau yn wynebu sefyllfaoedd anodd iawn oherwydd yr amgylchiadau ariannol yr ydyn ni i gyd yn gwybod sy'n bodoli". 

Llyr Gruffydd
BBC

'Hanner colegau addysg bellach Cymru mewn diffyg ariannol arwyddocaol'

Mae Darren Millar yn gofyn a yw'r gweinidog yn poeni "bod bron i hanner colegau addysg bellach Cymru mewn diffyg ariannol arwyddocaol?"

Mae Mr Davies yn ateb nad yw Swyddfa Archwilio Cymru "wedi darganfod eu bod nhw'n wynebu yr un trafferthion ariannol a'r rhai hynny yn Lloegr".

Darren Millar
BBC

Merched yn colli ysgol

Mae'r cwestiwn cyntaf a gyflwynwyd heddiw gan Simon Thomas: 

Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o golli diwrnodau ysgol gan ferched na fedrant fforddio costau deunydd hylendid benywaidd? 

Mae Alun Davies, sy'n ateb cwestiynau yn lle Kirsty Williams heddiw, yn dweud nad oes asesiad wedi ei wneud.

View more on twitter

Croeso nôl

Mae'r Cyfarfod Llawn ar fin dechrau gyda chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams.

Nôl am 1.30pm

Mae cyfarfod y pwyllgor bellach ar ben.

Fe fydd Senedd Fyw'n ôl am 1.30pm ar gyfer y Cyfarfod Llawn.

'Pob cam rhesymol'

Os yw cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc yn pennu y dylai math penodol o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei ddarparu yn Gymraeg, mae'r gweinidog yn pwysleisio bod y mesur yn datgan bod yn rhaid i gorff llywodraethol gymryd pob cam rhesymol i sicrhau ei fod yn cael ei ddarparu yn Gymraeg i’r plentyn neu’r person ifanc.   

Mae'n ychwanegu, "nid dim ond 'cymryd camau rhesymol', ond 'cymryd pob cam rhesymol' ". 

'Gwaith arwyddocaol a chryfach nag iteriadau blaenorol o'r mesur'

Mae John Griffiths yn datgan bod rhai tystion wedi dweud bod adran 18 o'r mesur yn "annigonol o gywir".

Mae Adran 18 yn datgan: "Caiff y cyrff a bennir yn is-adran (2) atgyfeirio mater i gorff GIG, gan ofyn iddo ystyried a oes unrhyw driniaeth berthnasol neu wasanaeth perthnasol sy’n debygol o fod o fudd o ran ymdrin ag anghenion dysgu ychwanegol plentyn neu berson ifanc".  

Mae Mr Davies yn dweud bod hynny'n "waith arwyddocaol a chryfach nag iteriadau blaenorol o'r mesur", a'i fod yn credu ei fod yn "gosod y bar lle y dylai fod".

Pob cyd-drefnydd Anghenion Dysgu Ychwanegol i gael cymhwyster Meistr

Mae Alun Davies yn cadarnhau mai bwriad Llywodraeth Cymru yw i bob cyd-drefnydd Anghenion Dysgu Ychwanegol gael cymhwyster Meistr, ond "na fydd hynny'n digwydd dros nos". 

Cymhwyster Meistr
BBC

Y Gweinidog 'wedi bod yn meddwl eto am sawl agwedd o'r mesur'

Mae Alun Davies yn dweud oherwydd sesiynau tystiolaeth y pwyllgor - hwn yw'r 17eg - mae e wedi bod yn "meddwl eto am nifer o agweddau'r mesur".

Wrth ateb cwestiwn ynghylch a yw'r diffiniad o Anghenion Dysgu Ychwanegol yn rhy gul, mae'n dweud ei fod ar y funud yn fodlon gyda'r diffiniad, ond ei fod yn hapus i ystyried gwelliannau.

Alun Davies
BBC

Sesiwn dystiolaeth 2

Yn rhoi tystiolaeth yn y sesiwn nesaf ar y Mesur Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg mae: 

Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.

Gydag e mae:

  • Catherine Lloyd, Cyfreithiwr
  • Tania Nicholson, Pennaeth Rhaglen Ddeddfwriaethol Anghenion Dysgu Ychwanegol   
  • Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cymorth i Ddysgwyr 
  • Mair Roberts, Cyfreithiwr 

Tystion
BBC

Sesiwn breifat

Mae'r aelodau yn cwrdd yn breifat nawr ar gyfer yr eitem nesaf - i gytuno ar ddull Ymgynghoriad y 1,000 Diwrnod Cyntaf - cyn cael egwyl fer tan 11am.

'Dylai ymarfer da gael ei rannu'n well'

Mae SNAP Cymru yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i rieni plant a phobl, sydd wedi neu a allai fod ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau.  

Mae Denise Inger, y prif weithredwr, yn dweud na ddylai "polisïau a darpariaeth ar draws Cymru fod yn loteri côd post, ac y dylen nhw gael eu gweithredu drwy bolisi a gweithrefnau i Gymru.  

"Dylai ymarfer da gael ei rannu'n well ac mae'n rhaid cynyddu'r ddarpariaeth, gan dderbyn y bydd yr agenda trawsnewid llawn yn cymryd amser."

Denise Inger
BBC

'Cyfle wedi ei golli'

Mae Cath Lewis yn esbonio bod Plant yng Nghymru yn croesawu tri amcan penna'r diwygiadau. Er hynny mae'n dweud nad yw'r mesur "yn llwyr gyflawni ar yr amcanion mewn modd boddhaol".

Mae'r dweud bod Plant yng Nghymru yn "credu'n gryf y dylai'r mesur gynnwys darpariaeth o ddyletswydd o ran Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a Chonfensiwn y CU ar Hawliau Pobl Anabl".

Mae'n ychwanegu bod hyn yn dangos bod "cyfle wedi ei golli i helpu i sicrhau bod y confensiynau wedi'u gosod yn llawn yn y ddeddfwriaeth". 

Cath Lewis
BBC

'Angen llawer o waith o hyd' ar y Mesur

"Mae angen llawer o waith o hyd" ar y mesur, medd Debbie Thomas o'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar.

Mae'n croesawu sawl agwedd o'r mesur ac yn cydnabod bod rhai camau wedi eu cymryd.

Mae'n dweud nad yw CGBB Cymru yn gwrthwynebu unrhyw rai o'r prif amcanion, ond eu bod yn pryderu na fydd y mesur yn "cyflawni'n ddigonol ar yr amcanion hyn". 

Debbie Thomas
BBC

Tystion

Yn rhoi tysiolaeth mae: 

Rhian Nowell-Phillips. RNIB Cymru

Denise Inger, Prif Weithredwr - SNAP Cymru 

Debbie Thomas, Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd - Y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar   

Cath Lewis, Swyddog Datblygu - Plant yng Nghymru 

Dr Stephen Beyer, Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd 

Tystion
BBC

Bwriad y Mesur

Bwriad y Mesur yw:

  • creu un system ddeddfwriaethol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol sy'n 0 i 25 oed, yn lle'r ddwy system wahanol sydd ar waith ar hyn o bryd;
  • cyflwyno'r term newydd – ‘anghenion dysgu ychwanegol’ yn lle'r termau ‘anghenion addysgol arbennig’  ac ‘anawsterau a/neu anableddau dysgu’;
  • dileu'r system o ddatganiadau a chreu un cynllun statudol – y cynllun datblygu unigol – yn lle'r ystod o gynlluniau statudol ac anstatudol sydd gennym ar hyn o bryd ar gyfer dysgwyr, gan sicrhau hawliau teg beth bynnag yw lefel anghenion y dysgwr neu'r lleoliad addysg y mae'n ei fynychu;
  • sicrhau bod barn dysgwyr a rhieni yn cael ei hystyried drwy gydol y broses gynllunio fel bod pawb yn ei gweld fel rhywbeth sy'n eu cynnwys, yn hytrach na rhywbeth sy'n digwydd iddynt, a bod y plentyn neu'r person ifanc yn ganolog i bopeth; ac
  • annog cydweithio gwell rhwng asiantaethau, fel bod anghenion yn cael eu nodi'n gynnar a bod y cymorth cywir yn ei le.

Cefndir

Yn ôl y llywodraeth mae'r Mesur yn cynnig "gweddnewid y system ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn llwyr, a fydd yn effeithio ar bron bob un o leoliadau’r blynyddoedd cynnar ac addysg bellach a phob ysgol yng Nghymru.  

"Bydd gan bron i chwarter yr holl ddysgwyr yng Nghymru ryw ffurf ar anghenion dysgu ychwanegol rywbryd yn ystod eu haddysg. Mae'r fframwaith deddfwriaethol cyfredol sy'n eu cefnogi yn seiliedig ar fodel a gyflwynwyd dros 30 o flynyddoedd yn ôl.  

"Mae'r Mesur yn adeiladu ar yr hyn sy'n gweithio'n dda yn y system bresennol, yn ogystal â thargedu'r pryderon yn ei chylch.  Mae'n amlinellu dull newydd a dewr ar gyfer cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol; dull sy'n addas ar gyfer Cymru uchelgeisiol yn yr unfed ganrif ar hugain, lle y mae addysg pob plentyn a pherson ifanc yn cael ei blaenoriaethu."  

ystafell ddosbarth
BBC

Bore da

Croeso i Senedd Fyw sy'n darlledu Cyfarfod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. 

Mae'r aelodau yn trafod y Mesur Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru).

Y Senedd
BBC