Got a TV Licence?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

Find out more
I don’t have a TV Licence.

Crynodeb

  1. Sgôr diweddaraf: Gweriniaeth Iwerddon 0-0 Cymru
  2. Cymru'n dechrau gyda'r un 11 a gurodd Gwlad Belg yn Euro 2016

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

Diolch am ddarllen

Noson siomedig am sawl rheswm...

Wrth gwrs fe fydd Cymru'n siomedig gyda'r canlyniad yn Nulyn, sy'n gadael Chris Coleman gyda thalcen caled i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2018 yn Rwsia.

Ond fel mae trydar Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn dweud, mae'r byd pêl-droed heno yn meddwl am Seamus Coleman sydd yn amlwg wedi cael anaf drwg iawn yn y dacl gan Neil Taylor.

Hwyl fawr i chi.

Dymuniadau gorau i Seamus Coleman

Twitter

Dadansoddiad Jiws

Marc Lloyd Williams

"Toedd hi ddim yn glasur o gêm o bell ffordd... ail hanner yn well gan Gymru ond dim digon o ddychymyg yn y traean olaf.

Mi fydd y Gwyddelod yn hapusach, ond ar ol y cerdyn coch i Neil Taylor mi fydd Coleman yn falch o adael Dulyn heno gyda phwynt, dal yn ddi-guro a dal pedwar pwynt tu ol i'r ceffylau blaen. 

Angen ennill y gemau yn erbyn Serbia, Awstria a Iwerddon os am unrhyw gyfle, digon i'w chwarae amdano... 'da ni ddim ond hanner ffordd trwy'r ymgyrch."

James McClean oedd chwaraewr y gêm

BBC Cymru Fyw

James McClean o Weriniaeth Iwerddon gafodd ei enwi fel y chwaraewr gorau.

James McClean
Getty Images

Gêm o ychydig gyfleoedd

BBC Cymru Fyw

Roedd hi'n gêm gystadleuol, ond braidd yn ddiflas o safbwynt ergydion at y gôl - roedd cic rydd Bale yn un o'r rhai prin i Gymru....

Cic gosb
Getty Images

Siom i'r ddau dîm

BBC Cymru Fyw

Fydd yr un o'r ddau dîm yn hapus gyda gêm gyfartal heno, ond o ystyried fod Cymru wedi chwarae gyda deg dyn am dros ugain munud, mae'n debyg y bydd Chris Coleman yn rhoi ochenaid o ryddhad ar y diwedd na wnaeth Cymru golli.

Diolch i'r cefnogwyr...

Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Dyma'r sefyllfa hanner ffordd

BBC Cymru Fyw

Ar ddiwedd y gêm yn Nulyn ddechrau felly, dyma'r sefyllfa yng Ngrŵp D:-

  1. Serbia  - Ch. 5 - 11 Pwynt
  2. Gweriniaeth Iwerddon  - Ch.5 - 11 P.
  3. Cymru  - Ch. 5 - 7 P.
  4. Awstria  - Ch. 5 - 7 P.
  5. Georgia  - Ch. 5 - 2 P.
  6. Moldofa  - Ch. 5 - 1 P.

Gweriniaeth Iwerddon 0-0 Cymru

Chwiban Olaf

Mae'r gêm ar ben - siom i Gymru, ond fe fydd y gêm nesaf yn anoddach o lawer heb Gareth Bale na Neil Taylor.

Gweriniaeth Iwerddon 0-0 Cymru

Cwpan y Byd 2018

Mae'n wallgo yng nghwrt cosbi Cymru ond maen nhw'n ei chlirio hi yn y diwedd.

Un arall i Awstria

Twitter

Gweriniaeth Iwerddon 0-0 Cymru

Cwpan y Byd 2018

Fe fydd 4 munud o amser yn cael ei ychwanegu am anafiadau!

Sylwadau Jiws

Marc Lloyd Williams

"Pethau yn digwydd fesul tri medda nhw, Bale allan o gem Serbia, Taylor a cerdyn coch a rwan mae Awstria wedi mynd ar y blaen yn erbyn Moldova."

Gweriniaeth Iwerddon 0-0 Cymru

Cwpan y Byd 2018

Y pen arall nawr a chic gornel i'r Gwyddelod.

Gweriniaeth Iwerddon 0-0 Cymru

Cwpan y Byd 2018

Nawr te - cic gornel i Gymru!

O diar - peniad Bale heibio'r postyn...

Sylwadau Jiws

Marc Lloyd Williams

"Rhediad wych gan Bale, modfediiheibio'r postyn, mi roedd Randolph wedi guro, dihangfa i'r tim cartref."

Gweriniaeth Iwerddon 0-0 Cymru

Cwpan y Byd 2018

Oooooo agos!!!

Bale - pwy arall - yn cipio'r bêl, curo dyn ac yn tanio ergyd o fewn modfeddi i'r postyn!

Awstria ar y blaen yn erbyn Moldofa

Fe ddaw cyfle...

Sgorio, S4C

Mae Malcolm Allen yn ffyddiog y daw un cyfle arall i Gymru yn y gêm - gobeithio wir Malcolm, ond mae saith munud yn weddill...

Gweriniaeth Iwerddon 0-0 Cymru

Cwpan y Byd 2018

Iwerddon yn ymosod eto ac yn ennill cic gornel arall.

Sylwadau Jiws

Marc Lloyd Williams

"Cyfle gorau i Gymru rwan i sgorio fydd trwy giciau gosod, ond fydd y Gwyddelod yn beryg yn gwrth ymosod."

Gweriniaeth Iwerddon 0-0 Cymru

Cwpan y Byd 2018

Llai na chwarter awr yn weddill nawr, ond fe fydd hi'n chwarter awr o amddiffyn i Gymru mae'n ymddangos...

Sylwadau Jiws

Marc Lloyd Williams

"Ddylsa McLean wedi sgorio nid unwaith ond ddwy waith yn y symudiad yna, y cerdyn coch wedi llwyr newid y gem."

Gweriniaeth Iwerddon 0-0 Cymru

Cwpan y Byd 2018

Cyfle gwych i'r Gwyddelod - maen nhw'n pwyso nawr yn erbyn y deg dyn a McLean gafodd ergyd wedi'i gwyro heibio'r postyn - cic gornel.

Richards ymlaen

Eilyddio

Jazz Richards sy'n dod i'r cae yn lle Joe Ledley.

Cerdyn haeddiannol!

BBC Cymru Fyw

Dyw'r camerau teledu ddim yn ailddangos tacl Taylor ar Coleman, ac mae'n ymddangos bod y Gwyddel wedi cael anaf drwg iawn.

Cerdyn coch i Neil Taylor
Getty Images

O ddrwg i waeth!

Cerdyn Coch

Neil Taylor gyda thacl fudr iawn ar Seamus Coleman ac yn gweld y cerdyn coch yn syth gan y dyfarnwr.

Bale yn y llyfr!!

Cerdyn Melyn

O NA!!!

Cerdyn melyn i Gareth Bale sy'n golygu na fydd o'n teithio i Serbia ar gyfer gêm nesa Cymru!

cerdyn melyn i Bale
Getty Images

Golwg nerfus ar Robbie Keane

BBC Cymru Fyw

Robbie Keane a'i wraig Claudine yn y dorf.

Robbie Keane a'i wraig
Getty Images

Gweriniaeth Iwerddon 0-0 Cymru

Cwpan y Byd 2018

Cyfle gorau Cymru hyd yma!

Y bêl yn cyrraedd Sam Vokes yn y cwrt ond ei ergyd yn mynd heibio'r postyn.

Gweriniaeth Iwerddon 0-0 Cymru

Cwpan y Byd 2018

Cyfnod o bwyso mawr gan Iwerddon nawr - cic rydd gan McLean yn cael ei chlirio, ond Shane Long gydag ergyd wedyn yn mynd heibio'r postyn.

Sylwadau Jiws

Marc Lloyd Williams

"Pryd wela ni Ben Woodburn? Os ydi Coleman yn dweud i fod yn barod, a fyd o yn barod i rhoi ymlaen hefo hanner awr yn weddill. Yn lle Neil Taylor efallai?" 

Gweriniaeth Iwerddon 0-0 Cymru

Cwpan y Byd 2018

Cyfnod gwell i'r Gwyddelod nawr ac maen nhw'n ennill cic gornel, ond Keogh gyda'r cyffyrddiad heibio'r postyn.

Cynnig am y gôl gan Ramsey wrth i'r gêm gynhesu

BBC Cymru Fyw

Aaron Ramsey
Getty Images

Gweriniaeth Iwerddon 0-0 Cymru

Cwpan y Byd 2018

Dyw hi ddim yn bwrw goliau, ond mae'n bwrw croesiadau gan Gymru i mewn i gwrt y Gwyddelod yn yr ail hanner hyd yma!

Sylwadau Jiws

Marc Lloyd Williams

"Beth bynnag ddywedood Chris Coleman yn ystod yr egwyl, mae o wedi gweithio. Cymru wedi codi'r tempo, ond da ni dal methu darganfod ffordd heibio Randolph yn y gol."

Gweriniaeth Iwerddon 0-0 Cymru

Cwpan y Byd 2018

Ramsey'n derbyn pas Ledley ac yn ergydio... syth at y golwr, ond llawer gwell gan Gymru.

Edmygwr newydd i Joe Allen

Twitter

Joe Allen yn ennill ffans newydd heno mewn gêm ddi-fflach hyd yma.

View more on twitter

Gweriniaeth Iwerddon 0-0 Cymru

Cwpan y Byd 2018

Gwrthymosod da gan Gymru - croesiad gan Gunter a pwy sydd yn y canol... Neil Taylor eto! Ei beniad gwan heibio'r postyn.

Sylwadau Jiws

Marc Lloyd Williams

"Toedd yr ergyn yna ddim yn bell, gwell gan Bale, tipyn mwy uniongyrchiol ar ddechrau'r ail hanner ma."