Got a TV Licence?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

Find out more
I don’t have a TV Licence.

Crynodeb

  1. Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
  2. Cyfarfod Llawn am 1.30pm gyda chwestiynau'r prif weinidog
  3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
  4. Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau) (Cymru) (Diwygio) 2017
  5. Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) (Diwygio) 2017
  6. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Mesur (Cofrestru) Pedolwyr
  7. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y goblygiadau i Gymru o adael yr Undeb Ewropeaidd
  8. Dadl: Cyfnod 3 y Mesur Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru)

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

A dyna ni am heddiw. 

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

Y Senedd
BBC

Pasio Cyfnod 3

Mae Cyfnod 3 y Mesur Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) wedi ei basio.

Canllaw i Fesurau a Deddfau Cyhoeddus

Yn gyffredinol, mae pedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Mesur Cyhoeddus, sef:

  • Cyfnod 1 - pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny;
  • Cyfnod 2 - pwyllgor yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i’r Mesur hwnnw yn fanwl;
  • Cyfnod 3 - y Cynulliad yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i’r Mesur hwnnw yn fanwl;
  • Cyfnod 4 - pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur.

Tir sy'n rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn Lloegr

Mae Mark Reckless, Nick Ramsay a Steffan Lewis yn cynnig gwelliannau sy'n gysylltiedig gyda thir sy'n rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn Lloegr.

Yr unig un sy'n cael ei dderbyn gan y llywodraeth yw gwelliant 29 gan Steffan Lewis. 

Yn ôl adroddiad diweddar gan Bwyllgor Cyllid y Cynulliad mae 1,093 o eiddo cofrestredig sydd y ddwy ochr i ffin Cymru-Lloegr. 

Mae'r ddeddfwriaeth bresennol yn dweud y bydd yn rhaid talu treth trafodiadau tir ar gyfran o'r eiddo yng Nghymru a threth stamp yn cael ei godi yn Lloegr.

O ganlyniad mae cwestiynau wedi cael eu codi ynghylch sut fydd y prisiadau yn cael eu cynnal.

Mark Reckless
BBC

Mesur Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig

Ac yn olaf yn y Siambr dadl ar Gyfnod 3 y Mesur Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru). 

Bwriedir i'r Mesur hwn gyflwyno "Treth Trafodiadau Tir", a fydd yn disodli Treth Dir Treth Stamp y DU yng Nghymru o Ebrill 2018, yn ogystal â mesurau i fynd i'r afael ag osgoi trethi datganoledig.

Tai
PA

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae'r Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford yn cyflwyno ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol.

Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 15 Mawrth 2017. 

Mark Drakeford
BBC

'Nes i ddweud wrthoch chi'

Mae David Rowlands UKIP yn dweud "Rydw i'n edrych ymlaen i'r amser yn y dyfodol agos, pan fe fydd fy nghydweithwyr yn UKIP a phawb a oedd eisiau gadael yn gallu dweud "Nes i ddweud wrthoch chi".

 

David Rowlands
BBC

Argymhellion 'yn bwysig i ni i gyd'

Mae'r aelod Ceidwadol Suzy Davies yn dweud "Mae argymhellion un a phedwar yn bwysig i ni i gyd". 

Argymhelliad 1.

Rydym yn cydnabod bod Papur Gwyn Llywodraeth Cymru wedi darparu tystiolaeth ychwanegol i gefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi’r holl dystiolaeth y mae’n seilio’i safbwynt arni gan gynnwys manylion y gwaith sydd wedi’i wneud ar fodelu senarios ym mhob sector a’r astudiaethau y mae wedi’u comisiynu’n fewnol a chan ffynonellau allanol. 

Argymhelliad 4. 

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru roi ei chofrestr risgiau inni ar gyfer pob maes lle y bydd Brexit yn effeithio ar ei gweithgarwch.

Suzy Davies
BBC

Ymchwiliad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Mae David Rees yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ei Ymchwiliad i'r goblygiadau i Gymru yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ionawr 2017.

Mae 6 o argymhellion yn yr adroddiad.

David Rees
BBC

Goblygiadau i Gymru o adael yr Undeb Ewropeaidd

Nawr dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y goblygiadau i Gymru wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Fe ddechreuodd y ddadl yr wythnos ddiwetha ond daeth i ben wedi'r digwyddiad terfysgol yn Llundain ar Fawrth 22.

Baneri Cymru a'r UE
BBC

Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Mesur (Cofrestru) Pedolwyr

Mae'r aelodau yn cytuno mai Senedd y DU ddylai ystyried y darpariaethau yn y Mesur Pedolwyr (Cofrestru), i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth 2017

Mae'r aelodau yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) (Diwygio) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Chwefror 2017. 


          Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol
BBC
Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Rheoliadau Trwyddedu Morol

Mae'r aelodau yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau) (Cymru) (Diwygio) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a  osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Mawrth 2017. 

Llong
BBC

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf yn y Siambr yw'r Datganiad a Chyhoeddiad Busnes pan mae Arweinydd y Tŷ, Jane Hutt yn amlinellu busnes y Cynulliad ar gyfer y dyfodol agos.

Jane Hutt
BBC

Mesur Aelodau

Mae Paul Davies wedi ennill yr hawl i geisio cyflwyno Mesur Aelodau - ar awtistiaeth.  

Rhaid i unrhyw Aelod sydd am gynnig Mesur wneud cais i gael ei gynnwys mewn balot a gaiff ei gynnal gan y Llywydd. 

I fod yn gymwys ar gyfer y balot, rhaid i Aelodau hefyd gyflwyno rhywfaint o wybodaeth cyn y balot, gan gynnwys teitl arfaethedig y Mesur a’i amcanion polisi.

Caiff Aelod sy’n llwyddiannus yn y balot gyflwyno cynnig wedyn, sy’n gofyn i’r Cynulliad gytuno iddo gyflwyno Mesur, i roi grym i’r cynnig sydd wedi’i gynnwys yn y balot.

Mae ganddo naw mis i gyflwyno'r Mesur yn ffurfiol.

Unwaith y bydd wedi cael ei gyflwyno, mae Mesur Aelod yn ddarostyngedig i’r un broses graffu â Mesurau eraill.  

Cwestiwn Brys 2

Mae'r ail gwestiwn brys gan Vikki Howells i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymateb Llywodraeth Cymru i'r nifer fawr o danau glaswellt dros y penwythnos.

Mae Gwasanaeth Tân y De yn dweud i'w criwiau gael eu galw i 67 o danau glaswelly rhwng dydd Gwener a bore Llun - 62 ohonyn nhw'n ddifrifol.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet Carl Sargeant yn condemnio pobl sy'n fwriadol yn dechrau tanau.


          Roedd tân ar fynydd Penrhys, Rhondda Cynon Taf yn gorchuddio 20 hectar (50 erw)
JAMIE JENKINS
Roedd tân ar fynydd Penrhys, Rhondda Cynon Taf yn gorchuddio 20 hectar (50 erw)

Cwestiynau brys

Mae yna ddau gwestiwn brys.

Mae'r cyntaf gan Simon Thomas i Ysgrifennydd y Cabinet dros lechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y gorwariant o £150 miliwn gan fyrddau iechyd lleol eleni? 

Mae disgwyl i ddiffyg ariannol Bwrdd Betsi Cadwaladr fod yn £30m, Hywel Dda yn £49.9m, Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn £35m a Chaerdydd a'r Fro yn £31m ar gyfer blwyddyn ariannol 2016-17.

Fydd y byrddau iechyd ddim yn wynebu bil i ad-dalu'r arian, ond fe fydd disgwyl iddyn nhw fantoli'u llyfrau yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething yn dweud bod y sefyllfa yn "annerbyniol" a'i fod yn disgwyl "gwelliant sylweddol mewn cynllunio ariannol" o fewn y byrddau iechyd. 

 

Simon Thomas
BBC
Simon Thomas

Trefniadau croesi ffiniau rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon

Mae Carwyn Jones yn dweud ei bod hi'n bwysig bod trefniadau croesi ffiniau rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon yr un fath a'r rhai rhwng y Weriniaeth a Gogledd Iwerddon.   

Carwyn Jones
BBC

'Ddylen ni reoli'r tollau Pontydd Hafren'

Mae Mark Reckless UKIP, sy'n siarad oherwydd bod Neil Hamilton mewn angladd teuluol, yn codi mater Pontydd Hafren, ac yn gofyn pa ymrwymiad sydd yna gyda Llywodraeth y DU.

Ein barn ni, medd Mr Jones, yw mai ni ddylai reoli'r tollau.

Mae Mr Reckless yn dweud bod Llywodraeth y DU yn wynebu risgiau cyfreithiol difrifol os ydyn nhw'n parhau i godi tollau ar Bontydd Hafren.

Mae'r Prif Weinidog yn dweud bod y pontydd wedi'u neilltuo i San Steffan, ond mae'n dweud nad yw hynny'n golygu na ddylid ymchwilio i'r pwyntiau sydd wedi eu codi. 

Mae Mark Reckless yn gofyn a fyddai Llywodraeth Cymru yn cyfrannu tuag at gostau, mae Carwyn Jones yn dweud y byddai'n haws os na fyddai tollau o gwbl.

Pont Hafren
BBC

'Ddim yn poeni'n afresymol' am ddiffygion byrrdau iechyd

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn gofyn i'r Prif Weinidog am ddiffygion ariannol byrddau iechyd.

"Sut ydych chi'n mynd i allu cynnal gwasanaethau?" mae'n gofyn.

Mae Mr Jones yn dweud os na fydd y byrddau iechyd yn cadw eu cyllid heb niweidio gwasanaethau, fe fydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru edrych ar eu rheolaeth. 

Mae Mr Davies yn cydnabod bod yna ddiffygion ariannol hefyd yn GIG Lloegr, ond yn gofyn pa fesurau penodol sydd yn cael eu cyfeirio o ran y diffygion. Mae'n dweud nad yw etholwyr a defnyddwyr gwasanaethau GIG yn "poeni yn afresymol" am ddiffygion byrrdau iechyd.  

Andrew RT Davies
BBC

'Gallai cymorthdaliadau ffermio ddiflannu'

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn gofyn beth y mae'r Prif Weinidog yn disgwyl ei weld yn y llythr i danio Erthygl 50.

"Dydw i ddim yn disgwyl unrhywbeth yn y llythr am ddatganoli" yw ateb Mr Jones.

Mae Ms Wood yn codi Adroddiad Demos  sy'n dweud gyda mwy na 60% o allforion o Gymru yn myn i'r UE, Cymru  fyddai'n cael ei heffeithio fwya o'r cenhedloedd a rhanbarthau Lloegr gan dollau posib.. 

Mae'n ychwanegu "All Cymru ddim ffordio talu pris uwch am Brexit caled".

Mae rhai o drigolion yr UE sy'n byw yng Nghymru yn poeni y byddan nhw'n cael eu hanfon o'r wlad, medd y Prif Weinidog ac mae'n awgrymu y gallai cymorthdaliadau ffermio ddiflannu.

Leanne Wood
BBC

Wedi cwrdd â'r amodau grant hyd yma

Mae'r aelod Ceidwadol Mohammad Asghar yn gofyn a oedd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r bygythiad o ddiswyddiadau yn Newsquest y llynedd.

Rydyn ni wedi cwrdd gyda'r amodau grant i Newsquest hyd yma. 

Mae'n ychwanegu nad oes amheuaeth bod nifer ohonon ni yn poeni y byddwn ni'n gweld gostyngiad mewn sylw lleol a chenedlaethol yng Nghymru.

 

Digolledu yr arian grant i Newsquest

Mae Simon Thomas yn gofyn a fydd Llywodraeth Cymru yn digolledu yr arian grant i Newsquest.

Mae'r Prif Weinidog yn dweud y buddan nhw'n chwilio am ad-daliad os y byddai'r amodau yn cael eu torri.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru roi £245,000 i Newsquest yn 2015 i ehangu adran is-olygu sydd nawr yn cau gyda cholli 14 o swyddi, â'r gwaith yn symud i Dorset.

Yn 2013-14 fe gafodd y cwmni dros £95,000 o'r Gronfa Tŵf Sgiliau.

papur newydd
Thinkstock

Masnachfraint Cymru a'r Gororau o 2018

Mae Mr Ramsay yn cwestiynu'r Prif Weinidog ynghylch masnachfraint Cymru a'r Gororau.

Mae'r grym i benderfynu pwy fydd yn rhedeg y masnachfraint Cymru a'r Gororau nesaf o 2018 i fod i gael ei drosglwyddo i weinidogion Cymru.

Arriva
BBC

Darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus yn y de-ddwyrain

Mae'r cwestiwn cyntaf a gyflwynwyd gan Nick Ramsay: 

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus yn ne-ddwyrain Cymru? 

Croeso nôl

Mae'r Cyfarfod Llawn ar fin dechrau chwestiynau i'r Prif Weinidog Carwyn Jones. 

Nôl am 1.30pm

Mae'r aelodau nawr yn cwrdd yn breifat. 

Fe fydd Senedd Fyw'n ôl am 1.30pm ar gyfer y Cyfarfod Llawn. 

£2.5 miliwn o arbedion

Mae Emyr Roberts yn dweud wrth AC bod CNC wedi cael gostyngiad o £3.2m mewn grant cyllid mewn cymorth o gymharu gyda 2014/15.

Mae nhw hefyd wedi annog ymgrych effeithlonrwydd o'r enw "Llwyddiant gyda Llai" wnaeth gyflawni bron i £2.5 miliwn o arbedion.

Arian
BBC

Gweithredu ar egwyddorion y farchnad

Roedd adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol Huw Vaughan Thomas yn mynegi "amheuaeth" ynghylch a oedd y cytundeb yn cwrdd â rheolau cymorth gwladwriaethol yr UE,  ond mae Mr Roberts yn dweud wrth y pwyllgor eu bod nhw'n gweithredu ar egwyddorion y farchnad. 

 

Huw Vaughan Thomas
BBC

'Canlyniad llwyddiannus'

Mae Emyr Roberts yn pwysleisio bod yna "ganlyniad llwyddiannus.

"Rydyn ni wedi tyfu marchnadoedd, rydyn ni wedi delio gyda'r afiechyd, ac yn y cyfamser mae marchnadoedd cyffredin ar gyfer coed wedi parhau".

Gan CNC 'wlân dros eu llygaid'?

Mae Emyr Roberts yn cydnabod nad yw'r dogfennau ynghylch y cytundeb coed 10 mlynedd "yn dda".

Mae'r gwrthod awgrym Lee Waters bod CNC wedi cael "gwlân dros eu llygaid" gan weithredwr y felin lifio.

Angen 'trafodaeth fwy agored' gyda Llywodraeth Cymru

Mae Emyr Roberts yn dweud wrth y pwyllgor bod synnwyr trannoeth yn dweud y dylid fod wedi cael "trafodaeth agored" gyda Llywodraeth Cymru ynghylch y cytuneb coed. 

Mae'n dweud bod yna "argyfwng gwirioneddol" ar y pryd yn y farchnad goed gyda lledaeniad afiechyd P Ranorum, wnaeth ddigwydd ym mlwyddyn gyntaf bodolaeth CNC.

Emyr Roberts
BBC

Llinell melin lifio erbyn diwedd Mawrth?

Mae aelod Cynulliad Llanelli Lee Waters yn gofyn sawl gwaith a yw'r cwmni coed wedi sefydlu llinell melin lifio.

Mae Emyr Roberts yn ateb, "Mae'n ofynnol i'r gweithredwr i osod llinell melin lifio erbyn diwedd Mawrth 2017, a rydyn ni mewn trafodaethau gyda'r gweithredwr ar y mater".

Mae Mr Waters yn dweud ei bod hi bellach yn Fawrth 28.

Lee Waters
BBC

Dim datgelu'r cwmni

Mae CNC wedi gwrthod datgelu pwy yw'r cwmni er gwaethaf cais gan BBC Cymru, gan ddweud bod y mater yn "fasnachol sensitif".

Fel rhan o'r cytundeb roedd disgwyl i'r cwmni adeiladu a gweithredu melin lifio newydd erbyn 31 Mawrth 2016, ond cafodd yr amod hwnnw ei ymestyn yn ddiweddarach am flwyddyn arall.

Dyw CNC heb gadarhau a yw'r amod newydd wedi cael ei gyrraedd ai peidio.

Ychwanegodd y corff nad oedd ganddyn nhw ddewis wrth arwyddo'r cytundeb yn 2014, fyddai'n gweld y cwmni llifio yn cael gwared â choed oedd wedi'u difetha gan fath o ffwng, a'i fod yn annhebygol y byddai cwmniau eraill â diddordeb yn y gwaith.

Roedd lledaeniad afiechyd P Ranorum, a ddigwyddodd ym mlwyddyn gyntaf bodolaeth CNC, wedi achosi'r amgylchiadau arbennig hynny, meddai'r corff.

Ond dywedodd Mr Thomas ei fod yn credu bod cytundeb 10 mlynedd yn un allai fod wedi bod o ddiddordeb i gwmnïau eraill, a bod y ffaith na chafodd y mater ei gyfeirio at Lywodraeth Cymru yn "afreolaidd".

Doedd CNC ddim chwaith wedi darparu digon o ddogfennau fel tystiolaeth i ddangos beth wnaethon nhw ystyried wrth benderfynu ar y cytundeb.

"Oherwydd y diffyg tystiolaeth, dydw i ddim wedi fy argyhoeddi bod penderfyniad CNC i gytuno i'r cytundebau hyn gyda gweithredwr y felin lifio wedi'i chymryd yn unol ag egwyddorion cyfraith gyhoeddus," meddai Mr Thomas.

Ychwanegodd yr archwilydd nad oedd hynny'n golygu bod y cytundebau yn anghyfreithlon neu ddim werth yr arian.

'Gwers sydd wedi'i dysgu'

Mae Emyr Roberts yn dweud y dylai'r bwrdd gwreithredol fod wedi cael rhagor o gysylltiad yn craffu ar y fargen goed, a bod hyn yn "wers sydd wedi'i dysgu". 

Er hynny, mae'n dweud ei fod yn hapus gyda'r penderfyniad a wnaed.

 

Bargen goed £39m 'afreolaidd'

Y pwnc cyntaf sy'n cael ei godi gan gadeirydd y pwyllgor Nick Ramsay yw bargen 10 mlynedd gan Gyfoeth Naturiol Cymru i werthu coed i felin lifio gafodd ei wneud heb i gwmniau eraill ymgeisio amdano.

Am £39m, mae'r cwmni yn prynu yr hyn sy'n cael ei amcangyfrif yn hyd at chwarter y coed sy'n cael eu rhyddhau gan CNC bobm blwyddyn.

Mae'r Archwilydd Cyffredinol Huw Vaughan Thomas wedi dweud mewn adroddiad nad yw'n gallu bodloni ei hun a oedd y penderfyniad i wneud y fargen yn gyfreithiol.

coed
BBC

Cefndir

Corff a noddir gan Lywodraeth Cymru yw CNC, a grëwyd er mwyn sicrhau bod amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru yn:

  •  cael eu cynnal yn gynaliadwy; 
  •  cael eu gwella yn gynaliadwy; ac
  •  cael eu defnyddio yn gynaliadwy.1 Daeth CNC i rym o 1 Ebrill 2013 ymlaen, gan gymryd drosodd y cyfrifoldeb am gyflawni swyddogaethau cyn-Gyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru.  

Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae'r aelodau yn trafod Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn craffu ar Gyfrifon Blynyddol 2015-16

Yn rhoi tystiolaeth mae: 

Dr Emyr Roberts - Prif Weithredwr, Cyfoeth Naturiol Cymru

Kevin Ingram - Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru. 

Dr Emyr Roberts, Kevin Ingram
BBC