Got a TV Licence?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

Find out more
I don’t have a TV Licence.

Crynodeb

  1. Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
  2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith
  3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon
  4. Datganiad gan y Prif Weinidog: Ymateb i Erthygl 50
  5. Datganiadau 90 Eiliad
  6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr ymchwiliad i ddarpariaeth o ran eiriolaeth statudol
  7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar ddeiseb ar Ganser yr Ofari
  8. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Ysgolion cyfrwng Cymraeg, ysgolion cyfrwng Saesneg, ysgolion dwy-ffrwd ac ysgolion pontio
  9. Dadl Fer: Undebau Credyd: Cyfraniad allweddol i fynd i'r afael ag allgáu ariannol
  10. Dadl Fer: Enseffalopathi trawmatig cronig a chwaraeon - a all Cymru arwain y ffordd?

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

Dyna ni am heddiw. 

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth Ebrill 4. 

Y Senedd
BBC

Dadl Fer 2: Enseffalopathi trawmatig cronig a chwaraeon

Ac yn olaf heddiw Dadl Fer gan Steffan Lewis. 

A'r pwnc: Enseffalopathi trawmatig cronig a chwaraeon - a all Cymru arwain y ffordd? 

Enseffalopathi
BBC
Enseffalopathi

Dadl Fer: Undebau Credyd

Nesaf Dadl Fer gan Dawn Bowden.

A'r pwnc: Undebau Credyd: Cyfraniad allweddol i fynd i'r afael ag allgáu ariannol.

Dawn Bowden
BBC

Cynnig yn cael ei ddiwygio

Mae gwelliant y llywodraeth wedi cael ei basio yn y Siambr.  

Tôn y ddadl wedi bod yn 'siomedig'

Mae Gweinidog yr Iairth Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies, yn dweud bod tôn y ddadl yma wedi bod yn siomedig.

Mae'n cynnig bod y Cynulliad yn:

  • Yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Papur Gwyn eleni er mwyn ymgynghori ar ddarpariaethau ar gyfer Mesur newydd y Gymraeg fel rhan o gynlluniau i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg.
  • Yn cydnabod y buddsoddiad ychwanegol yn 2017-18 i wella a chynyddu'r ddarpariaeth Cymraeg yn y gweithle a hyrwyddo'r Gymraeg.
  • Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adolygu proses y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg.
  • Yn cydnabod bod yn rhaid i awdurdodau lleol a chynigwyr eraill gydymffurfio â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a'r Cod Trefniadaeth Ysgolion, a rhaid iddynt ystyried amrywiaeth o ffactorau wrth gynnig newidiadau sylweddol i ysgolion yn eu hawdurdodaeth.
Alun Davies
BBC

'Rydych chi wedi ymddwyn yn anghyfrifol'

Mae Leanne Wood yn cyhuddo aelod Llafur Llanelli Lee Waters "o ymuno gydag arweinydd UKIP i wrthwynebu'r datblygiad hwn [yn Llangennech] sy'n bolisi gan eich llywodraeth chi. Rydych chi wedi ymddwyn yn anghyfrifol".

Mae Mr Waters yn ateb, "mae'r mwgwd wedi llithro. Rydych chi wedi dangos eich gwir liwiau, yn ceisio arfogi'r ddadl yma".

Lee Waters
BBC

'Ceisio codi crachen'

Mae Simon Thomas Plaid Cymru yn beirniadu UKIP am "geisio codi crachen mewn mewn un gymuned benodol yn Sir Gaerfyrddin".

Mae'n tynnu sylw at y ffaith bod " Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin 2014-2017 , a oedd yn cynnwys y penderfyniad i sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg yn Llangennech, wedi'i gymeradwyo'n unfrydol gan y Cabinet o dan arweiniad Llafur ym mis Gorffennaf 2014, a bod yr holl benderfyniadau dilynol wedi'u cymeradwyo gan yr awdurdodau priodol".

'Dadl yn cael ei defnyddio i hogi ar un mater mewn un rhan o Gymru'

Mae'r Ceidwadwr Darren Millar yn dweud ei fod yn "siomedig bod y ddadl yn cael ei defnyddio gan UKIP i hogi ar un mater mewn un rhan o Gymru". 

Dywedodd bod cwymp wedi bod yn nifer yr athrawon Cymraeg eu hiaith sy'n dechrau yn y proffesiwn, a bod y broses o gau ysgolion wedi cael effaith anghymesur ar ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Darren Millar
BBC

'Sylwadau annefnyddiol'

Mae Neil Hamilton yn cyfeirio at "sylwadau annefnyddiol" fis diwethaf gan Michael Jones cyd-drefnydd Rhieni Dros Addysg Gymraeg.

Fe ddywedodd ymgyrchydd RHAG y dylai rhieni sy'n anhapus bod ysgol eu plant yn cael ei throi yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg, symud dros y ffin .

Ysgol Llangennech

Ym mis Ionawr fe wnaeth Cyngor Sir Caerfyrddin bleidleisio o blaid troi Ysgol Llangennech ger Llanelli yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg o fis Medi.

Ysgol Llangennech
BBC

Dadl gan UKIP ar ysgolion

Am yr awr nesaf yn y Siambr dadl gan UKIP ar ysgolion cyfrwng Cymraeg, ysgolion cyfrwng Saesneg, ysgolion dwy-ffrwd ac ysgolion pontio. 

Mae UKIP yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 

1. Yn cymeradwyo nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac yn cydnabod y rôl allweddol sydd gan ysgolion o ran ei gyflawni.

2. Yn credu y bydd herio barn gyhoeddus leol yn cyfyngu ar y gobaith o lwyddo ac y dylai newidiadau i sefydliadau addysgol sy'n cwmpasu Cyfnodau Allweddol 1 i 5 gael eu gwneud mewn ffordd a gaiff ei chefnogi gan y mwyafrif o rieni, gwarcheidwaid neu drigolion lleol, sydd yn y sefyllfa orau i wneud penderfyniadau addysgol ar ran eu plant.

3. Yn credu bod angen i gynigion i newid ysgolion cyfrwng Saesneg, ysgolion dwy-ffrwd neu ysgolion pontio yn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu eu cau gynnwys ymgynghoriad lleol gwirioneddol:

a) gyda'r holl ymatebwyr yn darparu eu henwau, cyfeiriadau a chodau post;

b) gyda'r holl unigolion a enwir mewn deiseb a gyflwynir yn cael eu cofnodi fel sylwadau ar wahân; ac

c) nad yw'n rhoi blaenoriaeth i drydydd parti, nad yw'n gysylltiedig â'r mater, dros ddymuniadau rhieni neu drigolion lleol.

4. Yn credu bod yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin cyn penderfynu cau ysgol babanod ac ysgol iau ffederal dwy-ffrwd Llangennech a'u troi'n un ysgol cyfrwng Cymraeg yn un gwallus.

5. Yn credu y dylai'r cyngor ddiddymu ei benderfyniad tra cynhelir ymgynghoriad pellach ar sail yr egwyddorion a nodir ym mharagraff 3 uchod.

Dosbarth
BBC

Derbyn dau o'r tri o argymhellion

Mae'r Gweinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd, Rebecca Evans, yn esbonio bod y llywodraeth yn derbyn dau o'r tri o argymhellion.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod "yn cydnabod mai canser yr ofari yw’r chweched canser mwyaf cyffredin ymhlith menywod yng Nghymru yw. Mae’n gyffredin iawn ymhlith menywod sydd wedi bod trwy’r menopos (dros 50 oed fel arfer), er y gall effeithio ar fenywod waeth beth fo’u hoedran. Oherwydd y gall symptomau canser yr ofari fod yn debyg i symptomau cyflyrau eraill, mae’n gallu bod yn anodd adnabod y canser".

Argymhellion y Pwyllgor

Mae cadeirydd y pwyllgor, Mike Hedges, yn cyflwyno tri o argymhellion. 

Argymhelliad 1. 

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cadw golwg ar y posibilrwydd o sefydlu rhaglen sgrinio genedlaethol ar gyfer canser yr ofari ac yn rhoi ystyriaeth fanwl i unrhyw dystiolaeth newydd a gyflwynir. Yn arbennig, dylai Llywodraeth Cymru barhau i ystyried yn ofalus y cyngor a ddarperirgan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU. 

Argymhelliad 2. 

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda meddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i sicrhau bod menywod sydd â symptomau canser yr ofari yn cael eu hatgyfeirio am brofion priodol a'u bod yn gallu cael diagnosis amserol. Fel rhan o hyn, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r prif gysylltiadau gofal sylfaenol ym maes canser i ddefnyddio'r hyn a ddysgwyd o'r adolygiad presennol o achosion o ganser yr ofari i lywio cynlluniau meddygfeydd a chlystyrau meddygon teulu ym mhob bwrdd iechyd, gyda golwg ar wella diagnosis cynnar. 

Argymhelliad 3.

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gwneud rhagor i wneud y cyhoedd yn fwy ymwybodol o ganser yr ofari, gan gynnwys y symptomau cyffredin a phryd y dylai pobl ofyn am gyngor meddygol. Rydym yn credu y dylai hyn adeiladu ar yr ymgyrch fer a gynhaliwyd ar ddechrau 2016 gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre ond y dylai ddysgu oddi wrth ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth llwyddiannus eraill a cheisio codi ymwybyddiaeth gyffredinol a phenodol o ganser yr ofari dros gyfnod hirach. 

Mike Hedges
BBC

Y Ddeiseb

Cyflwynwyd y ddeiseb gan ddefnyddio system ddeisebau ar-lein Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan Margaret Hutcheson, nyrs gofal lliniarol wedi ymddeol.

"Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi sgrinio blynyddol ar gyfer canser yr ofari (Prawf Gwaed CA125)." 

Casglodd y ddeiseb 104 o lofnodion ar-lein.

Canser yr Ofari yw un o brif achosion marwolaeth menywod yn y DU. Dyma’r chweched math mwyaf cyffredin o ganser i gael ei ganfod mewn menywod yng Nghymru, gyda 365 o achosion yn cael eu darganfod yn 2014. Dyma hefyd y pedwerydd achos mwyaf cyffredin o farwolaeth o ganser ymhlith menywod yng Nghymru, gyda 238 o farwolaethau yn 2014.

Dadl ar Ganser yr Ofari

Mae'r aelodau nawr yn cael dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar ddeiseb ar Ganser yr Ofari. 

Mae Mike Hedges yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar y ddeiseb, 'Cefnogi Sgrinio Blynyddol ar gyfer Canser yr Ofari' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Chwefror 2017.

Canser yr Ofari
BBC
Canser yr Ofari

Ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant yn amlinellu ymateb y llywodraeth i'r adroddiad.

Mae'n gwrthod un argymhelliad, mae un arall yn cael ei dderbyn mewn egwyddor, yn hytrach nag yn llawn. 

Dadl ar ddarpariaeth o ran eiriolaeth statudol

Nawr y cyntaf o ddadleuon y prynhawn.

Mae'n ddadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr ymchwiliad i ddarpariaeth o ran eiriolaeth statudol. 

Mae Lynne Neagle yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr Ymchwiliad i Ddarparu Eriolaeth Statudol a  osodwyd  yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Chwefror 2017.

Mae'r wyth o argymhellion yn yr adroddiad.

Lynne Neagle
BBC

Gorchymun i ymddiheuro

Mae'r Llywydd Elin Jones yn gorchymun i Neil Hamilton ymddiheuro am sylwadau wnaeth tra bod Eluned Morgan yn trafod effaith Brexit.

Fe ddywedodd e bod "hunanladdiad yn opsiwn".

'Cwestiynau difrifol'

Fe gafodd Dr Paul Thomas ac Adele Baumgardt - ynghyd â gweddill bwrdd y corff - eu gwahardd o'u gwaith dros dro ym mis Tachwedd yn dilyn pryderon nad oedd y corff yn gweithredu'n effeithiol.

Roedd y ddau wedi'u gwahardd tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i gwynion yn erbyn y ddau.

Cafodd gweddill y bwrdd ddychwelyd ym mis Chwefror eleni, a heddiw dywedodd y Gweinidog Iechyd Cyhoeddus Rebecca Evans bod y berthynas y tu fewn i arweinyddiaeth bwrdd Chwaraeon Cymru "wedi'i chwalu ac nid oes modd ei adfer".

Mae cadeirydd ac is-gadeirydd Chwaraeon Cymru bellach wedi cael eu diswyddo'n barhaol gan Lywodraeth Cymru.  

Mae Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru yn dweud bod yna gwestiynau difrifol ynghylch y broses recriwtio wreiddiol.

Mae Gareth Bennett UKIP yn cwestiynu pam bod y cyhoeddiad wedi ei wneud ar y diwrnod y cafodd Erthygl 50 ei danio.

Mae Rebecca Evans yn dweud bod y llywodraeth wedi cymryd camau addas ar bob achlysur.  

Cadeirydd dros dro

Mae'r Gweinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd, Rebecca Evans, yn dweud bod Lawrence Conway  wedi cytuno i fod yn gadeirydd Chwaraeon Cymru dros dro tan ddiwedd y flwyddyn.

Rebecca Evans
BBC

Cwestiwn Brys: Rheolaeth Chwaraeon Cymru yn y dyfodol

Nawr Cwestiwn Brys i'r Gweinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd.

Mae Russell George yn gofyn i'r Gweinidog wneud datganiad am reolaeth Chwaraeon Cymru yn y dyfodol yn dilyn y penderfyniad i roi terfyn ar swyddi Cadeirydd ac Is-gadeirydd y sefydliad.

Chwaraeon Cymru
Chwaraeon Cymru

Cynnig am Ddadl Frys wedi ei wrthod

Mae'r cynnig am Ddadl Frys ar effaith tanio Erthygl 50 ar Gymru wedi ei wrthod. 

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn credu mai wythnos nesaf y dylai'r ddadl gael ei chynnal.

Cynnig am Ddadl Frys

Nesa cynnig am Ddadl Frys gan Simon Thomas AC.

Mae'n cynnig bod y Cynulliad yn ystyried effaith tanio Erthygl 50 ar Gymru. 

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.70, cynhelir pleidlais ar y cynnig ar unwaith.

Simon Thomas
BBC

'Arian yn glynu wrth fysedd yn Whitehall'

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn dweud ei fod yn poeni "y bydd arian yn glynu wrth fysedd yn Whitehall" yn hytrach na dod i Gymru. 

View more on twitter

'Diwrnod gwych i Gymru'

Mae arweinydd UKIP Neil Hamilton yn dweud bod heddiw yn "ddiwrnod gwych i'r DU ac yn ddiwrnod gwych i Gymru.

"Beth yr ydyn ni yn ei weld yw dechrau'r broses o adfer hunan-lywodraeth ddemocrataidd i gynulliadau fel hwn".

Mae'n crynhoi trwy ddweud, "Rydw i'n dweud 'Prif Weinidog codwch eich calon wir.' "

Neil Hamilton
BBC

67% o allforion Cymru yn mynd i'r UE

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn dweud bod "67% o allforion Cymru yn mynd i'r UE, lefel uwch nag unrhywle arall yn y DU".

Mae'n gofyn beth fydd yn digwydd os y bydd tollau yn cael eu codi ar allforion o Gymru wedi Brexit, a beth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu'r pwerau i amddiffyn a hybu economi Cymru ar ôl Brexit.

Ychwanega fod Brexit yn golygu ei bod yn bryd siarad am Fesur Cymru arall.

Baneri yr UE a Chymru
BBC

Theresa May wedi bod i Gymru bump o weithiau

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn honni bod Llywodraeth y DU wedi trafod yn llawn gyda Llywodraeth Cymru.

Mae'n dweud bod y Prif Weinidog Theresa May wedi bod i Gymru bump o weithiau, a bod David Davis, Ysgrifennydd Brexit, wedi trafod gyda Llywodraeth Cymru sawl gwaith.

Andrew RT Davies
BBC

'Annerbyniol'

Mae Carwyn Jones yn dweud ei bod hi'n "annerbyniol" na welodd e'r llythr i danio Erthygl 50 cyn heddiw, a na chafodd e wahoddiad i gyfrannu i'r drafft. 

Mae'n dweud bod hyn yn benllanw "proses hynod rwystredig gyda'r llywodraethau datganoledig wedi cael eu trin yn gyson gyda diffyg parch".

Mae'n ychwanegu, "Dydw i ddim yn gweld sut y gall y Prif Weinidog honni iddi drafod telerau ar ran yr holl wlad pan ei bod hi'n diystyru hawliau Llywodraeth Cymru i siarad dros bobl Cymru". 

Carwyn Jones
BBC

Ymateb i Erthygl 50

Nawr datganiad gan y Prif Weinidog Carwyn Jones: Ymateb i Erthygl 50.


          Theresa May yn tanio Erthygl 50 i ddechrau'r broses o adael yr UE
PA
Theresa May yn tanio Erthygl 50 i ddechrau'r broses o adael yr UE

Asiantaethau nyrsio

Mae Caroline Jones UKIP yn dweud bod "gorwario gan fyrddau iechyd lleol yn hafalu gyda'r swm mawr sy'n cael ei wario ar asiantaethau nyrsio.

"Yr wythnos ddiwethaf, roedd GIG Cymru yn gwario £2.5 miliwn yr wythnos ar staff asiantaeth".

Mae disgwyl i bedwar bwrdd iechyd orwario o £146m eleni. 

Caroline Jones
BBC

Lleihau absenoldeb oherwydd salwch 'yn flaenoriaeth'

Mae'r aelod Ceidwadol Angela Burns yn gofyn i'r Ysgrifennydd i fwrw ati fel "mater o frys" i ddelio gyda lefelau absenoldeb oherwydd salwch o fewn GIG Cymru.

Mae Mr Gething yn dweud bod hyn yn "flaenoriaeth ar gyfer trafodaeth gyda chadeiryddion y byrddau iechyd". 

Vaughan Gething
BBC

Galwad am Uned Mam a'i Baban arbenigol

Mae Rhun ap Iorwerth yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried agor Uned Mam a'i Baban arbenigol yng Nghymru.

Mae Vaughan Gething yn dweud ei fod wedi "comisiynu adolygiad o'r dystiolaeth o'r hyn sydd ar gael yng Nghymru".

Mae unedau Mam a'i Baban yn darparu gofal arbenigol i fenywod gyda phroblemau iechyd meddwl fel iselder difrifol ar ôl rhoi genedigaeth a seicosis ôl-enedigol.

Fe wnaeth cais Rhyddid Gwybodaeth ddarganfod bod y corff sy'n comisiynu gwasanaethau arbenigol GIG, Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, yn amcangyfrif bod y gost o anfon mamau i unedau o'r fath y tu allan i Gymru eleni yn tua £377,000 ar amcangyfrif.

Rhun ap Iorwerth
BBC

Effaith Brexit

Mae Leanne Wood yn codi pryderon am effaith Brexit ar wasanaethau iechyd Cymru gan fod 22% o ddoctoriaid yn Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn dod o dramor.  

Mae Mr Gething yn ateb, "mae'n bryder i'r llywodraeth yma hefyd".

Leanne Wood
BBC

Mynediad i'r gwasanaeth iechyd yn y Rhondda

Nawr cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething. 

Mae Leanne Wood yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet wneud datganiad am fynediad i'r gwasanaeth iechyd yn y Rhondda. 

Nyrs
Getty Images

'Proses drylwyr o ddycnwch'

Mae Eluned Morgan yn gofyn pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniad ar gyllid i drac Cylchffordd Cymru.

Mae Mr Skates yn ateb "fe fyddwn ni yn gwneud penderfyniad ar gyllid unwaith y mae ganddon ni holl fanylion y cyflwyniad a bod proses drwyadl o ddycnwch wedi ei chwblhau". 

Mae'n dweud na fydd cyhoeddiad tan ganol Mai.

Eluned Morgan
BBC

'Ail-gydbwyso allforion'

Mae'r Ceidwadwr Russell George yn cyfeirio at Adroddiad Demos sy'n dweud mai Cymru fydd y rhan waetha yn y DU i gael ei tharo gan Brexit caled.

Mae bron i ddwy draean o allforion y wlad yn mynd i'r UE, medd Demos, ac ychydig yn fwy na 40% y mae Llundain a de orllewin Lloegr yn eu allforio.

Mae Mr George yn gofyn beth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gynllunio "i ail-gydbwyso allforion Cymru o blaid marchnadoedd mawr fel Cheina".  

Mae Mr Skates yn ateb mae yna "gyfleoedd allforio anferth, yn enwedig yn y sector bwyd a diod yn Cheina". Mae'n cyfeirio at brosiect HELIX Llywodraeth Cymru "sy'n darparu cyllid ar gyfer gwaith ymchwil i gynhyrchu bwyd yn fyd-eang, tueddiadau ym maes cynhyrchu bwyd, a gwastraff, i helpu gweithgynhyrchwyr bwyd bach a chanolig ledled Cymru i gynhyrchu mwy a chreu llai o wastraff".     

Russell George
BBC

Galwad am asiantaeth annibynnol i hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddiad

Mae Adam Price Plaid Cymru yn "pledio" ar Ysgrifennydd y Cabinet i "ystyried yr achos am sefydlu asiantaeth annibynnol, hyd-braich i hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddiad yng Nghymru".

Mae Mr Skates yn dweud bod ganddo gynigion i greu "unedau economaidd rhanbarthol fyddai'n gallu ysgogi tŵf economaidd a hybu gweithgareddau economaidd".

Adam Price
BBC

'Fe fyddwn ni'n edrych ar linell Glyn Ebwy'

Mae David Rowlands UKIP yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet i "egluro y penderfyniad i beidio trydaneiddio llinell reilffordd Glyn Ebwy". 

Mae Ken Skates yn ateb bod "symud ymlaen gyda masnachfraint ar gyfer y metro, fe fyddwn ni'n edrych ar linell Glyn Ebwy".

David Rowlands
BBC
David Rowlands

'Newyddion gwych i i fy awdurdod lleol'

Mae Trafnidiaeth Cymru yn asesu ceisiadau gan bedwar cwmni i redeg gwasanaethau tren yng Nghymru a gwasanaethau ar Metro De Cymru. 

Fe fydd y sefydliad yn cael ei leoli ym Mhontypridd. Fe fydd cytundeb yn cael ei lunio yn gynnar yn 2018.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi penderfynu y bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn cacel ei leoli yn Nhrefforest gerllaw.

Mae Vikki Howells yn dweud bod hyn yn "newyddion gwych i fy awdurdod lleol".

Lleoli pencadlys Trafnidiaeth Cymru yn Rhondda Cynon Taf

Mae'r cwestiwn cyntaf a gyflwynwyd heddiw gan Vikki Howells: 

Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o fanteision lleoli pencadlys Trafnidiaeth Cymru yn Rhondda Cynon Taf? 

Vikki Howells
BBC