Got a TV Licence?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

Find out more
I don’t have a TV Licence.

Crynodeb

  1. Cyfarfod Llawn am 1.30pm gyda chwestiynau i'r prif weinidog
  2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
  3. Dadl: Y goblygiadau i Gymru yn sgîl gadael yr Undeb Ewropeaidd
  4. Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ac Iechyd y Cyhoedd: Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) – flwyddyn yn ddiweddarach
  5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith: Dyfodol Gwasanaethau Treftadaeth Cymru – partneriaeth strategol newydd a dyfodol Cadw
  6. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Dyfodol Cyflenwi Gwaith Ieuenctid yng Nghymru
  7. Dadl: Cyfnod 4 y Mesur Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

A dyna ni am heddiw. 

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl fory ar gyfer y Cyfarfod Llawn.

Y Senedd
BBC

Y goblygiadau i Gymru yn sgîl gadael yr Undeb Ewropeaidd

Mae gwelliant gan Blaid Cymru "yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesur parhad (Cymru) er mwyn cynnal cyfansoddiad Cymru a throi yr holl ddeddfwriaeth Ewropeaidd sy'n berthnasol i feysydd polisi datganoledig yn ddeddfau i Gymru"  yn cael ei dderbyn.

Roedd 9 o blaid, 39 yn ymatal, 6 yn erbyn.

Mesur yn pasio Cyfnod 4

Mae'r ail o dri mesur y Cynulliad sy'n paratoi'r ffordd i Gymru allu codi ei threthi ei hunain am y tro cyntaf mewn bron i 800 mlynedd wedi cael ei basio gan ACau.

Fe fydd gweinidogion Cymru yn gallu gosod cyfraddau ar gyfer treth trafodiadau tir, yn codi tua £250m y flwyddyn, yn yr Hydref 2017.

Arian trethi
PA

Mwy ar y Mesur

Y dreth newydd

O fis Ebrill 2018 ymlaen, bydd y Dreth Trafodiadau Tir yn disodli Treth Dir y Dreth Stamp yng Nghymru.

Bydd y dreth newydd, fel yr hen un, yn daladwy wrth brynu neu rentu adeilad neu dir dros bris penodol. Gall effeithio ar brynwyr a gwerthwyr tai, a busnesau gan gynnwys adeiladwyr, datblygwyr eiddo ac asiantwyr sy’n rhan o’r trafodiad (megis cyfreithwyr a thrawsgludwyr).

Yn ôl Llywodraeth Cymru, "bydd y ddeddfwriaeth yn gyson â Threth Dir y Dreth Stamp yn gyffredinol, gan gadw’r strwythur sylfaenol ac adlewyrchu elfennau allweddol fel partneriaethau, ymddiriedolaethau a rhyddhad, er mwyn darparu sefydlogrwydd a sicrwydd i fusnesau a’r farchnad eiddo".

Bydd cyfraddau trethi yn cael eu pennu yn agosach at fis Ebrill 2018 er mwyn adlewyrchu’r amodau economaidd ar y pryd. Mae’r papur ymchwil ‘Treth Trafodiadau Tir: Pennu Cyfraddau a Bandiau’ yn amlinellu rhai o’r materion wrth bennu’r cyfraddau a’r bandiau ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir.

Tai
PA

Dadl: Cyfnod 4 y Mesur Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig

Ac yn olaf yn y Siambr heddiw dadl ar Gyfnod 4 - mae pedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Mesur Cyhoeddus - y Mesur Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru).

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cymru) (Diwygio) 2017

Mae'r aelodau yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osdodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2017.

Gorchymyn Cynllunio (Sylweddau Peryglus)

Mae'r aelodau yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Pennu'r Weithdrefn) (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2017.

'Rôl hollbwysig i waith ieuenctid'

Mae Alun Davies yn dweud bod "rôl hollbwysig i waith ieuenctid o ansawdd wrth helpu llawer o bobl ifanc i gyflawni eu potensial. Addysgwyr yw gweithwyr ieuenctid, p’un a yw hyn yn digwydd mewn clwb ieuenctid cymunedol, ar y stryd, neu i ategu addysg ffurfiol mewn ysgolion".

Sefydlu Bwrdd Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Cenedlaethol

Mae Alun Davies hefyd yn cyhoeddi ei fod yn sefydlu Bwrdd Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Cenedlaethol "a fydd yn herio, mewn ffordd adeiladol, bolisïau a chynigion Llywodraeth Cymru o ran Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid, a chraffu arnynt".

Mae disgwyl i’r Cadeirydd fod yn ei le neu ei lle erbyn yr Hydref. 

Adolygiad o Ymestyn Hawliau

Mae Alun Davies yn cyhoeddi adolygiad o Ymestyn Hawliau, "ein cyfarwyddyd a’n canllawiau statudol ar gyfer Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid".

Margaret Jervis fydd yn arwain yr adolygiad.       

Mae Mr Davies yn dweud y bydd Ymestyn Hawliau newydd, "sy'n addas ar gyfer heddiw, yn cael ei roi i ymgynghoriad ffurfiol yn yr Hydref".

Dyfodol Cyflenwi Gwaith Ieuenctid yng Nghymru

Nesa datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies ar Ddyfodol Cyflenwi Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Alun Davies
BBC

'Agwedd wahanol'

Mae David Rowlands UKIP yn dweud "efallai mai nawr yw'r amser am agwedd wahanol, sy'n sefydlu corff sy'n cwmpasu holl agweddau treftadaerth Cymru".

David Rowlands
BBC

'Cleddyf Damocles'

Mae'r aelod Ceidwadol Suzy Davies yn dweud "fe fyddai'n well gen i i'r opsiwn o uniad ffurfiol gael ei dynnu oddiar y bwrdd nawr, ond os ydych chi'n mynd i ddefnyddio cleddyf Damocles, mae'n rhaid i chi fod yn hollol glir ynghylch sut olwg sydd ar lwyddiant".  

Suzy Davies
BBC

'Peri ansicrwydd i staff yn y sector'

"Pam y siarad am uniadau ffurfiol, sy'n peri ansicrwydd i staff yn y sector?" gofynna Dai Lloyd Plaid Cymru.  

"Mae sefydliadau treftadaeth yn chwarae rôl unigryw ym mywyd y genedl, ac mae diogelu eu hannibyniaeth yn holl-bwysig" , medd Dai Lloyd Plaid Cymru.  

Dai Lloyd
BBC

'Profi pob opsiwn yn drylwyr'

Mae Ken Skates yn dweud "mae'n holl-bwysig ein bod ni'n profi'r holl opsiynau yn erbyn y statws quo o gadw Cadw o fewn y Llywodraeth.

"Fe fydd angen buddion clir a dangosadwy i gynnig unrhyw newid. Rydw i'n gobeithio bod mewn sefyllfa i fynegi opsiwn ffafriedig  y llywodraeth erbyn Medi 30 2017". 

Mae'n ychwanegu bod "dyletswyddau statudol Cadw yn hanfodol i gadwraeth ein treftadaeth cenedlaethol a phwysigrwydd y swyddogaethau hyn, gyda'r ddarpariaeth o gyngor a chyfarwyddyd i berchnogion asedau hanesyddol, ni ddylai gael ei wanhau gan unrhyw newid i statws y sefydliad". 

Ken Skates
BBC

Adolygiad o wasanaethau treftadaeth

Mae Llywodraeth yn dweud eu bod "eisiau galluogi ein sefydliadau treftadaeth a diwylliannol i wneud yn fawr o’r manteision economaidd y maent yn eu sicrhau ar gyfer pobl Cymru".

Arweiniodd y Farnwres Jennifer Randerson grŵp Gorchwyl a Gorffen i adolygu gwasanaethau treftadaeth yng Nghymru. Cafodd pedwar opsiwn ei nodi:

  1. gwella sgiliau masnachu a sgiliau cydweithio sefydliadau treftadaeth cenedlaethol
  2. creu elusen newydd
  3. creu Asiantaeth Weithredol newydd
  4. uno sefydliadau treftadaeth sy’n bodoli eisoes

Cafodd yr opsiynau hyn eu gwerthuso mewn adroddiad dichonolrwydd, ‘Investing in the future to protect the past’.

Camau nesaf.

Ym mis Medi y llynedd penododd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith grŵp llywio i ystyried y 4 opsiwn ar gyfer creu 'Cymru Hanesyddol'.

Cyflwynodd y grŵp ei argymhellion i Ysgrifennydd y Cabinet yn yr adroddiad 'Cymru Hanesyddol ‒ Ar drywydd Llwyddiant, Cadernid a Chynaliadwyedd ar gyfer Treftadaeth Cymru' ym mis Chwefror 2017. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi croesawu argymhellion y grŵp llywio yn amodol ar nifer o ystyriaethau a nodir yn y llythyr ymateb.

Dyfodol Gwasanaethau Treftadaeth Cymru

Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates: Dyfodol Gwasanaethau Treftadaeth Cymru - partneriaeth strategol newydd a dyfodol Cadw.

Mae Amgueddfa Cymru wedi mynegi pryder am ei hannibyniaeth, yn sgil sôn am uno'n rhannol gyda chyrff fel Cadw.


          Roedd Amgueddfa Cymru - sydd berchen ar Ffagan - wedi ofni colli ei hannibyniaeth
Amgueddfa Cymru
Roedd Amgueddfa Cymru - sydd berchen ar Sain Ffagan - wedi ofni colli ei hannibyniaeth

'Gwelliant anferth" mewn data Arolwg Cenedlaethol?

Mae Caroline Jones UKIP yn gobeithio gweld "gwelliant anferth" mewn data Arolwg Cenedlaethol yn yr Hydref.

Fe fydd y llywodraeth yn gosod linell sylfaen yn ei hadroddiad blynyddol cyntaf, fydd yn cael ei gyhoeddi yn dilyn rhyddhau'r data, ac fe fydd yr adroddiad wedyn yn cael ei gynhyrchu'n flynyddol pob Hydref o 2017-18 ymlaen.

Caroline Jones
BBC

Gostyngiad yn nifer y nosweithiau o ofal seibiant

Mae Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru yn dweud bod gostyngiad o 24% yn nifer y nosweithiau o ofal seibiant.

Mae'n galw ar y llywodraeth i wrthdroi y nifer yma. 

Rhun ap Iorwerth
BBC

'Ar ddiwedd dechrau trawsnewid'

Mae Rebecca Evans yn dweud "rydyn ni dim ond ar ddiwedd dechrau trawsnewid gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, ond mae eisioes yn amlwg i weld bod y sector yn codi i'r her i gefnogi pobl sydd ei angen drwy wneud yr hyn sy'n wirioneddol mater iddyn nhw". 

Mae pwysleisio "llwyddiannau y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i Gymru gafodd ei sefydlu o dan y ddeddfwriaeth. Ers ei ddechrau, rydyn ni wedi gweld amseroedd aros i blant sydd mewn gofal i gael eu rhoi i'w mabwysiadu wedi haneri bron o 26 mis i 13.5 mis". 

.   

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)

Nesaf datganiad gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans: Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) - flwyddyn yn ddiweddarach.

Rebecca Evans
BBC

'Yr UE ddim yn estyniad o'r Trydydd Reich'

"Dyw'r UE ddim yn estyniad o'r Trydydd Reich", medd y Prif Weinidog wrth David Rowlands UKIP.    

'Os yw cwlt Dydd y Farn Carwyn yn dringo oddiar eu merlyn un tric'

Mae'r aelod Ceidwadol Mark Isherwood yn dweud, "gyda optimistiaeth fe allwn ni achub ar y cyfle hwn i adeiladu dyfodol deinamig a byd-eang, ond fe fydd hyn ond yn digwydd os gwneith cwlt Dydd y Farn Carwyn ddringo oddiar eu merlyn un tric".

Mark Isherwood
BBC

Galwad am 'fesur parhad (Cymru)'

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesur parhad (Cymru) er mwyn cynnal cyfansoddiad Cymru a throi yr holl ddeddfwriaeth Ewropeaidd sy'n berthnasol i feysydd polisi datganoledig yn ddeddfau i Gymru.

'Y byd yn llawn cyfleoedd'

Mae Neil Hamilton UKIP yn dweud bod "y byd yn llawn cyfleoedd".

Mae'n dweud "gadewch i ni fachu ar y cyfle a gwneud y mwyaf ohono ar gyfer pobl Cymru".

'Y symbyliad ar gyfer datganoli yn amherthnasol i'n haelodaeth o'r UE'

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn cyfeirio at adran 4 o'r papur gwyn Legislating for the United Kingdom’s withdrawal from the European Union

Mae'n galw ar Lywodraeth y DU i "gydnabod bod y symbyliad ar gyfer datganoli yn amherthnasol i'n haelodaeth o'r UE". 

'Diogelu Dyfodol Cymru'

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ailddatgan ei gefnogaeth gref i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru – Plaid Cymru, " Diogelu Dyfodol Cymru" fel dull credadwy a chynhwysfawr o fynd ati i amddiffyn a hyrwyddo buddiannau Cymru wrth i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

2. Yn nodi'r llythyr a anfonodd Prif Weinidog y DU ar 29 Mawrth 2017 yn unol ag Erthygl 50 o Gytuniad yr Undeb Ewropeaidd, a'r mandad negodi drafft a gyhoeddwyd gan Lywydd y Cyngor Ewropeaidd mewn ymateb iddo.

3. Yn nodi ymhellach Bapur Gwyn Llywodraeth y DU "Legislating for the United Kingdom's withdrawal from the European Union", a gyhoeddwyd ar 30 Mawrth 2017, sy'n amlinellu ei chynigion ar gyfer deddfwriaeth i roi ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd ar waith, ond yn credu bod gwendidau mawr yn y dadansoddiad o'r rhyngberthynas rhwng pwerau presennol yr UE a'r setliad datganoli.

4. Yn ailddatgan y bydd rhaid i'r strwythurau cyfansoddiadol a llywodraethol yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd gael eu seilio ar barch llwyr i'r setliad datganoli a threfniadau gwell ar gyfer cynnal perthynas rynglywodraethol, gyda phedair llywodraeth y DU yn parchu ei gilydd mewn modd cydradd.   5. Yn ailddatgan hefyd yn y modd cryfaf posibl y bydd rhaid i unrhyw fframweithiau sy'n ymwneud â meysydd polisi datganoledig, y bydd eu hangen o bosibl er mwyn sicrhau bod marchnad y DU yn gweithredu'n esmwyth, gael eu cytuno drwy gonsensws rhwng Llywodraeth y DU a phob un o'r tair Gweinyddiaeth Ddatganoledig ac y dylent fod yn destun mecanweithiau annibynnol i ddatrys anghydfod; rhaid i gytundeb a chonsensws fod wrth wraidd dulliau gweithredu a fframweithiau cyffredin o'r fath.

6. Yn cefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddi barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am gael cymryd rhan uniongyrchol yn y negodiadau ar ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd ac ar y berthynas fasnach ac unrhyw berthynas arall â'r Undeb yn y dyfodol, er mwyn sicrhau bod buddiannau penodol Cymru yn cael eu diogel.

7. Yn cadarnhau ei farn na ddylai Cymru fod o dan unrhyw anfantais yn ariannol yn sgil ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud ymrwymiad llawn a chyhoeddus i'r perwyl hwnnw.

8. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi adroddiad rheolaidd i'r Cynulliad am y cynnydd a wneir o ran y materion hyn.

View more on twitter

Y goblygiadau i Gymru o adael yr UE

Nawr mae'r aelodau'n cael dadl: Y goblygiadau i Gymru yn sgîl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Baneri yr UE a Chymru
BBC

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf yn y Siambr yw'r Datganiad a Chyhoeddiad Busnes pan mae Arweinydd y Tŷ, Jane Hutt yn amlinellu busnes y Cynulliad ar gyfer y dyfodol agos.

Jane Hutt
BBC

'Mwy o fanciau'n cau yn y dyfodol'

Mae Carwyn Jones yn dweud bod banciau wedi dweud wrtho y bydd rhagor o ganghennau'n cau yn y dyfodol.  

Cafodd cangen HSBC ym Machynlleth ei chau yn 2015
BBC
Cafodd cangen HSBC ym Machynlleth ei chau yn 2015

Gallai methiant y Tasglu 'niweidio datganoli'

Mae Leanne Wood yn dweud os nad yw Tasglu'r Cymoedd Llywodraeth Cymru yn cyflawni, mae yna beryg y gwneith niweidio datganoli.

Mae hi hefyd yn dweud bod y daith i Drefforest ac ymhellach i fyny Ffordd Blaenau'r Cymoedd yn "jôc" gyda threnau wedi'u canslo.

'Dydw i ddim yn gyfrifol am Gibraltar'

Mae diweithdra isel yn Gibraltar yn golygu ei bod hi o ddiddordeb i Sbaen i gynnal statws bresennol y Graig, medd Neil Hamilton.

"Dydw i erioed wedi cael tri chwestiwn ar Gibraltar, Dyw i ddim yn gyfrifol" am yr ynys.

Mae nifer o aelodau Cynulliad yn chwerthin yn y cefndir.

Gibraltar
PA

'Adroddiadau hysterig'

Mae Neil Hamilton UKIP yn gofyn i'r prif weinidog i ysgrifennu at Angela Merkel a Mariano Rajoy i helpu Brexit.

Mae'r prif weinidog yn dweud bod yn adroddiadau hysterig ynghylch Gibraltar ac a yw Prif Weinidog y DU yn defnyddio diogelwch fel sglodyn bargeinio. 

Neil Hamilton
BBC

Dyfodol anodd i brifysgolion?

Mae Leanne Wood yn gofyn a yw'r torri swyddi yn arwydd bod y prifysgolion yn wynebu dyfodol anodd.

Mae Mr Jones yn dweud nad yw wedi gweld unrhywbeth ar y raddfa yma ers iddo fe fod yn y brifysgol ei hun yn y 1980au.

Torri swyddi mewn prifysgolion

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn mynegi pryder ynghylch y toriadau swyddi arfaethedig ym Mhrifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru Dewi Sant.

Mae Mr Jones yn dweud nad yw wedi gweld esboniad gan y prifysgolion dan sylw, ond ei fod yn poeni ynghylch gostyngiad yn nifer y myfyrwyr o'r UE.

Leanne Wood
BBC

Diswyddo cadeirydd Chwaraeon Cymru: y llywodraeth yn gytûn

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn gofyn a yw pob un yn y llywodraeth yn cytuno gyda diswyddo cadeirydd Chwaraeon Cymru  Paul Thomas. 

Mae Mr Jones yn dweud bod adolygiad ar y gweill a bod y berthynas rhwng y cadeirydd a'r bwrdd wedi torri lawr. 

Wedi i Mr Davies bwyso arno, mae Mr Jones yn mynnu bod y llywodraeth gyfan yn gytûn gyda'r penderfyniad a gymerwyd.

Andrew RT Davies
BBC

Dim 'wal' rhwng gofal iechyd yn Lloegr a Chymru

Mae'r Prif Weinidog yn dweud nad yw eisiau gweld "wal" rhwng gofal iechyd yn Lloegr a Chymru.

Llefydd diogel i blant i chwarae

Mae Caroline Jones UKIP yn gofyn am lefydd diogel i blant i chwarae.

Mae Carwyn Jones yn dweud bod disgwyl i gynghorau ddarparu llefydd agored.

Carwyn Jones
BBC

Gwella iechyd plant

Mae'r cwestiwn cyntaf a gyflwynwyd  i Carwyn Jones gan Lynne Neagle:

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella iechyd plant yng Nghymru?