Got a TV Licence?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

Find out more
I don’t have a TV Licence.

Crynodeb

  1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
  2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
  3. Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 12 mewn perthynas â Chwestiynau Amserol
  4. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: lleihau gwastraff
  5. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar Benodiadau Gweinidogion: Gwrandawiadau cyn penodi gan Bwyllgorau'r Cynulliad
  6. Dadl gan Aelodau Unigol: pedwerydd chwyldro diwydiannol
  7. Dadl Plaid Cymru: y diwydiant adeiladu
  8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: llywodraeth leol
  9. Dadl Fer: Dinas-Ranbarth Bae Abertawe

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

Dyna ddiwedd y trafodion yn y Siambr am heddiw.

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth Mai 2 wedi toriad y Pasg.  

Y Senedd
BBC

Dadl Fer: Dinas-Ranbarth Bae Abertawe

Ac yn olaf yn y Siambr heddiw, Dadl Fer gan Mike Hedges.

A'r pwnc: Dinas-Ranbarth Bae Abertawe. 

Canol dinas Abertawe a'r marina
Thinkstock

Fformiwla cyllido

Ar ran y llywodraeth mae'r Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford yn dweud y bydd y llywodraeth yn cefnogi cynnig y Ceidwadwr, ond mae'n mynegi syndod nad yw'r cynnig yn cynnwys galwad ar Lywodraeth y DU i ddiwygio'r fformiwla cyllido.

'Gall darpariaeth gan gyflenwyr allanol weithio'

Mae Gareth Bennett UKIP yn dweud bod "darpariaeth gan gyflenwyr allanol yn dod yn rhywbeth cyffredin bellach i nifer o gynghorau.

"Gall hyn weithio ond mae'n rhaid i gynghorau sicrhau bod yna lefel dda o wasanaeth yn cael ei ddarparu i bobl leol".

Rhannu arfer gorau ymysg awdurdodau lleol

Mae Sian Gwenllian yn pwysleisio "pa mor bwysig yw rhannu arfer gorau ymysg awdurdodau lleol yng Nghymru er mwyn cyflawni gwell canlyniadau o ran gwasanaethau cyhoeddus i etholwyr".

Mae hi'n galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynrychiolaeth gyfrannol i etholiadau lleol er mwyn cryfhau atebolrwydd llywodraeth leol a gwella gwasanaethau cyhoeddus lleol.

Sian Gwenllian
BBC

Dadl y Ceidwadwyr

Nawr dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar lywodraeth leol. 

Mae Paul Davies yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:  

1. Yn cydnabod y rhan bwysig y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus o bwys ledled Cymru.

2. Yn nodi y dylai llywodraeth leol gryf ac effeithiol weld grym yn cael ei roi yn ôl yn nwylo pobl leol a'u cymunedau.

3 Yn cydnabod y rhan bwysig a gaiff ei chwarae gan fusnesau bach o ran llywio economi Cymru ac yn credu y dylai awdurdodau lleol gydweithio'n agos â'r gymuned fusnes i annog mwy o gydweithredu, arloesi ac entrepreneuriaeth.

awdurdodau lleol
BBC

'Defnydd deallus o bolisi a deddfwriaeth ar draws Cymru'

Mae'r Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford yn cynnig y gwelliant canlynol ar ran y llywodraeth: 

Dileu'r cyfan ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

2. Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru yn datblygu Datganiad Polisi Caffael Cymru sydd wedi lleihau rhwystrau rhag caffael ar gyfer busnesau bach a chanolig ar hyd a lled Cymru.

3. Yn cydnabod yr angen i gynyddu gallu o fewn sector cyhoeddus Cymru i fanteisio i'r eithaf ar effaith gwariant caffael o fewn economi Cymru.

4. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i ddatblygu rhaglen newydd ar gyfer caffael er mwyn helpu i alluogi sector cyhoeddus Cymru i wneud defnydd deallus o bolisi a deddfwriaeth ar draws Cymru.

5. Yn cydnabod cynlluniau buddsoddi cyfalaf Llywodraeth Cymru a'r cyfleoedd caffael sylweddol sy'n cael eu cyflwyno gan gynlluniau Metro De Cymru a Metro Gogledd-ddwyrain Cymru; rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif; ffordd liniaru'r M4; adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy; gwelliannau i rwydwaith trafnidiaeth Cymru a phrosiectau seilwaith sylweddol eraill.

Mark Drakeford
BBC

'Dim na all gael ei ddarparu trwy'r sianeli sy'n bodoli eisioes'

Mae Michelle Brown UKIP yn dweud bod coleg adeiladu cenedlaethol i Gymru yn "ddatblygiad sy'n swnio'n fawreddog iawn fyddai heb amheuaeth yn stori benawdau i Plaid, ond mewn realiti nid yw'n cynnig dim na all gael ei ddarparu trwy'r sianeli sy'n bodoli eisioes".

Michelle Brown
BBC

Mynediad i gontractau'r sector cyhoeddus

Mae'r aelod Ceidwadol Mohammad Asghar yn galw ar Lywodraeth Cymru i "weithredu mesurau a fydd yn rhoi contractau'r sector cyhoeddus o fewn cyrraedd cwmnïau Cymru, yn arbennig busnesau bach a chanolig".   

Mohammad Asghar
BBC

Dadl Plaid Cymru

Yr eitem nesaf yn y Siambr yw Dadl Plaid Cymru ar y diwydiant adeiladu.

Mae Rhun ap Iorwerth yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi pa mor bwysig yw cynllunio sgiliau ymlaen llaw er mwyn diwallu anghenion y diwydiant adeiladu yn y dyfodol i ddarparu prosiectau seilwaith yng Nghymru a thu hwnt. 

2. Yn credu bod angen diwygio proses gaffael y sector cyhoeddus yng Nghymru er mwyn elwa'n llawn ar botensial cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol pŵer prynu sector cyhoeddus Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gyflwyno Mesur Caffael i'w gwneud yn ofynnol i gyrff y sector cyhoeddus ddilyn polisi Llywodraeth Cymru ar gaffael, er mwyn sicrhau bod adeiladu yn cael yr effaith gymdeithasol ac economaidd fwyaf bosibl;

b) sefydlu fframwaith cenedlaethol ar gyfer proses gaffael y sector cyhoeddus yng Nghymru er mwyn sicrhau y caiff y dyheadau yn Natganiad Polisi Caffael Cymru eu gwireddu;

c) codi lefelau gwariant seilwaith cyfalaf er mwyn hybu'r economi yng Nghymru, gan roi hwb angenrheidiol i'r sector adeiladu;

d) ystyried yr achos dros sefydlu Coleg Adeiladu Cenedlaethol i Gymru er mwyn meithrin sgiliau o ansawdd uchel yn y diwydiant adeiladu.

Y diwydiant adeiladu
Getty Images

'Hanfodol ein bod ni'n adeiladu pontydd rhwng pobl'

Mae Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates yn dweud "i ddatrys heriau'r dyfodol ac addasu i fyd sy'n gyson newid, mae'n hanfodol ein bod ni'n adeiladu pontydd rhwng pobl fel ein bod yn gallu datblygu gwybodaeth a datrysiadau".

Ken Skates
BBC

'Dewis arall positif i ddyfodol llwm ar gyfer cyfleoedd swyddi'

Mae David Rowlands UKIP yn dweud "ydyn ni fod i actio fel Ludiaid neu oes yna ddatrysiad arall? Rydw i'n credu bod y cynigion sydd wedi eu cyflwyno yn y ddadl hon yn darparu dewis arall positif i ddyfodol llwm ar gyfer cyfleoedd swyddi".

David Rowlands
BBC

'Bygwth un o bob dwy swydd'

"Gallai awtomateiddio fygwth un o bob dwy swydd yng Nghymru" yw rhybudd Vikki Howells.  

Vikki Howells
BBC

Arbenigedd

"Mae angen i fusnesau ddatblygu arbenigedd i gymryd mantais o'r pedwerydd chwyldro diwydiannol" medd Dr Dai Lloyd.   

Dr Dai Lloyd
BBC

Gorymdaith y robotiaid

Dadl gan Aelodau Unigol

Am yr awr nesaf dadl gan Aelodau Unigol. 

Mae 

Lee Waters 

Jeremy Miles

Hefin David

Vikki Howells 

David Melding yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 

1. Yn nodi bod yr hyn a elwir yn 'bedwerydd chwyldro diwydiannol' yn cynnig heriau a chyfleoedd i economi Cymru.

2. Yn nodi bod risg i tua 700,000 o swyddi yng Nghymru dros y ddau ddegawd nesaf o ganlyniad i awtomatiaeth.

3. Yn credu bod gan Gymru arbenigedd eisoes sy'n rhoi mantais gystadleuol mewn diwydiannau twf sy'n dod i'r amlwg. 

4. Yn cydnabod bod angen inni, er mwyn manteisio ar y diwydiannau newydd hyn, ganolbwyntio ar ddulliau cyflym, hyblyg sy'n addasu'n rhwydd i amgylchiadau sydd wedi newid.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailedrych ar Strategaeth Arloesi Cymru gyda'r bwriad o sicrhau ei bod yn adlewyrchu maint a chwmpas yr amhariad rydym yn ei wynebu, ac yn ymrwymo i adolygiad strategol o gyfleoedd mewn sectorau newydd twf uchel, lle mae gan Gymru'r potensial i sicrhau ei bod yn dominyddu'r farchnad yn gynnar fel rhan o'i gwaith ar ddatblygu strategaeth economaidd newydd.  

Lee Waters
BBC
Lee Waters

Gwrandawiadau cyn penodi gan Bwyllgorau'r Cynulliad

Nawr datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar Benodiadau Gweinidogion: Gwrandawiadau cyn penodi gan Bwyllgorau'r Cynulliad. 

Mae Simon Thomas yn cyflwyno'r adroddiad sy'n nodi hyn:

"Ar 16 Chwefror 2017 cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid wrandawiad cyn penodi gyda Kathryn Bishop, yr ymgeisydd a ffefrir gan y Llywodraeth ar gyfer swydd Cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru. Ar sail y dystiolaeth a ddarparwyd yn y gwrandawiad hwn, daeth mwyafrif y pwyllgor i’r casgliad bod Ms Bishop yn ymgeisydd addas ar gyfer y swydd.

"Nid oedd un aelod yn cytuno, gan fynegi amheuon nad oedd Ms Bishop wedi dangos yn ddigonol unrhyw wersi perthnasol a ddysgodd yn ei rôl anweithredol yn Asiantaeth Ffiniau’r DU 2010-12, ar adeg lle roedd adroddiadau o fethiannau llywodraethu".

Kathryn Bishop
Llywodraeth Cymru
Kathryn Bishop

Cynllun ernes dychwelyd

Mae e eisiau gweld cynllun ernes dychwelyd i gael ei gyflwyno ar boteli a chaniau.

Gwastraff
BBC

Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Nawr y cyntaf o ddadleuon y prynhawn. 

Mae'n Ddadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod. 

Mae Simon Thomas yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Mesur ar leihau gwastraff.

2. Yn nodi mai diben y Mesur fyddai lleihau gwastraff drwy roi gofyniad ar gynhyrchwyr a manwerthwyr bwyd mewn cysylltiad â phecynnu bwyd. 

Simon Thoma
BBC

Cytuno i ddiwygio'r Rheoliadau Sefydlog

Mae'r aelodau yn y Siambr yn cymeradwyo diwygio'r Rheoliadau Sefydlog mewn perthynas â Chwestiynau Amserol.

Diwygio Rheolau Sefydlog

Cynigir diwygio’r fersiwn Saesneg o’r Rheolau Sefydlog er mwyn ailenwi ‘Urgent Questions’ yn ‘Emergency Questions’. Penderfynodd y Pwyllgor Busnes na ddylid diwygio’r geiriad Cymraeg, gan fod y term presennol ‘cwestiwn brys’ yn cwmpasu ‘urgent question’ ac ‘emergency question’ fel ei gilydd, ac yn gyson â’r defnydd o ‘Bil brys’ ar gyfer ‘emergency Bill’. Cynigir diwygio Rheol Sefydlog 12.66(ii) fel bod yn rhaid i'r Llywydd fod yn fodlon bod y cwestiwn yn ymwneud â mater sydd o ‘arwyddocâd cenedlaethol brys’ yn hytrach nag o ‘bwys cyhoeddus brys’.

Mae'r Pwyllgor Busnes yn cynnig cyflwyno Rheol Sefydlog 12.68A newydd i alluogi'r Pwyllgor Busnes i neilltuo amser ar gyfer Cwestiynau Amserol fel rhan o amser y Cynulliad yn ystod y Cyfarfod Llawn. Mae'r Rheol Sefydlog 12.68B newydd yn nodi mai'r Llywydd a fydd yn dethol y Cwestiynau Amserol sydd i gael eu hateb, a hynny o blith y rhai a gyflwynir sy'n cydymffurfio â'r canllawiau a gyhoeddwyd gan y Llywydd.

Cwestiynau Amserol

Nawr cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 12 mewn perthynas â Chwestiynau Amserol. 

Mae'r Llywydd Elin Jones yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 12 – Cwestiynau Amserol a Chwestiynau Brys' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Mawrth 2017.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 11 a 12, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes. 

Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf yn y Siambr yw'r Datganiadau 90 Eiliad, lle mae tri aelod yn cael cyfle i godi materion amserol.  

'Llwyddiant mawr yn darparu mwy o dai'

Mae Gareth Bennett UKIP yn gofyn am ymdrechion i gynyddu'r defnydd o dir sydd mewn dwylo cyhoeddus i gyflenwi tai.

Mae Mr Sargeant yn hawlio bod y llywodraeth "wedi cael llwyddiant mawr yn darparu mwy o dai i gymunedau ar draws Cymru".

Gareth Bennett
BBC

Rhwydweithiau lleol yn flaenoriaeth

Mae'r Ceidwadwr Mark Isherwood yn cyfeirio at adroddiad y Young Foundation, Gwerthfawrogi lle: Pwysigrwydd lle ar gyfer deall anghydraddoldeb a gweithredu yng Nghymru.

Mae'n pwysleisio y casgliad bod "angen i rwydweithiau lleol gael ei sefydlu fel mater o flaenoriaeth i gynorthwyo, hyfforddi, mentora a chysylltu pobl gyda'i gilydd sydd eisiau gweithredu yn lleol".

Mae Mr Isherwood hefyd yn cyfeirio at y Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol, ac yn gofyn i Lywodraeth Cymru i fynd ymlaen i ddatblygu cynllun tebyg yng Nghymru.

Mark Isherwood
BBC

Her gwerthu'r Big Issue

Mae Carl Sargeant yn derbyn gwahoddiad Bethan Jenkins Plaid Cymru i ymuno gyda hi yn gwerthu copïau o'r Big Issue.   

Mae Bethan Jenkins yn galw am strategaeth genedlaethol ddigartrefedd ac i gael gwared â'r categori 'angen blaenoriaethol' i helpu mwy o bobl.

Bethan Jenkins
BBC

Cwestiynau i'r Ysgrifennydd dros Gymunedau a Phlant

Nawr cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant. 

Mae Rhun ap Iorwerth yn gofyn pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn gallu ei gynnig i sicrhau bod pobl fyddar yn cael yr addasiadau perthnasol i'w cartrefi. 

Carl Sargeant
BBC

Cyfyngiad ar ocsidiau nitrogen i Aberddawan

Mae Jane Hutt yn dweud bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cwblhau trwydded amgylcheddol newydd ar gyfer gorsaf bŵer Aberddawan  sy'n cynnwys cyfyngiad is ar ocsidiau nitrogen.

Ym mi Medi'r llynedd fe wnaeth llys Ewropeaidd ddyfarnu bod Llywodraeth y DU wedi torri'r rheolau drwy fethu rheoli lefel yr ocsid nitrogen sy'n cael ei ryddhau o orsaf bŵer ym Mro Morgannwg.

Fe ddyfarnodd Llys Cyfiawnder Ewrop bod gorsaf bŵer Aberddawan wedi cael trwydded i ryddhau mwy na dwbl y lefel gyfreithiol o'r nwyon gwenwynig.

Roedd Llywodraeth y DU wedi dadlau nad oedd yr orsaf wedi torri unrhyw reolau am ei bod wedi'i chynllunio i losgi glo Cymreig, sy'n anodd i'w losgi.

Soniodd y llywodraeth hefyd am bwysigrwydd economaidd y safle, sy'n cyflogi 600 o bobl.

Ond fe wfftiodd y llys y ddadl honno, gan ddweud na ellid defnyddio dadleuon economaidd i gyfiawnhau torri rheolau Ewropeaidd ar allyriadau.

Roedd yn rhaid i Lywodraeth y DU dalu costau cyfreithiol y Comisiwn Ewropeaidd, wnaeth fynd â'r achos i'r llys.

Aberddawan
BBC

'Mesur parhad'

Mae Simon Thomas yn cyfeirio at y bleidlais ddoe yn y Senedd wnaeth gefnogi galwad "ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesur parhad (Cymru) er mwyn cynnal cyfansoddiad Cymru a throi yr holl ddeddfwriaeth Ewropeaidd sy'n berthnasol i feysydd polisi datganoledig yn ddeddfau i Gymru".  

Mae Plaid Cymru eisiau'r mesur parhad mewn ymateb i gynnig Llywodraeth y DU i gadw pwerau yn San Steffan cyn eu datganoli.

Mae Jane Hutt yn dweud "wnawn ni ddim goddef crafangu grym o du Whithall, ac mae'n annerbyniol i Lywodraeth y DU i gymryd pwerau sydd ar hyn o bryd gan yr UE dros ardaloedd datganoledig".

Rhybudd ynghylch TB buchol

Mae Neil Hamilton UKIP yn rhybuddio y gallai yr UE "ddefnyddio'r sefyllfa TB buchol yng Nghymru fel rhyw fath o gyfiawnhad dros wahardd allforion cig eidion a chigoeddd eraill".

Mae Jane Hutt yn dweud bod y llywodraeth wedi derbyn 993 o ymatebion i'w hymgynghoriad ar raglen difodiant TB sydd wedi ei hadfywio, a sydd nawr dan ystyriaeth.

Mochyn daear
BBC

Y llywodraeth i 'ymateb yn gadarnhaol' i'r argymhellion?

Mae'r aelod Ceidwadol David Melding yn galw ar y llywodraeth i "ymateb yn gadarnhaol" i'r argymhellion yn adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig ar gyllido prosiectau ynni adnewyddol yng Nghymru.

Mae Jane Hutt yn dweud bod y llywodraeth yn "croesawu cyfraniad yr IWA i'r hyn sydd yn drawsnewidiad system ynni Cymru.

"Rydyn ni eisioes yn cyflawni nifer o'r materion sy'n cael eu hamlygu yn yr adroddiad".

David Melding
BBC

Diogelu iechyd a lles anifeiliaid egsotig

Mae Simon Thomas yn galw ar y llywodraeth i gymryd camau i ddiogelu iechyd a lles anifeiliaid egsotig.

Mae Jane Hutt yn dweud y bydd "cyflwyno unrhyw godau newydd, gan gynnwys ar gyfer anifeiliaid egsotig, yn cael eu hystyried yn 2017/18".

Llesiant anifeiliaid egsotig

Mae'r cwestiwn cyntaf a gyflwynwyd gan Simon Thomas sy'n gofyn am ddatganiad am lesiant anifeiliaid egsotig yng Nghymru.

Ateb y cwestiynau

Mae’r Llywydd wedi cael gwybod y bydd Arweinydd y Tŷ, Jane Hutt, yn ateb cwestiynau ar ran Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig.

Jane Hutt
BBC

Croeso

Croeso i Senedd Fyw. 

Mae'r Cyfarfod Llawn ar fin dechrau gyda chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths. 

Y Senedd
BBC