Got a TV Licence?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

Find out more
I don’t have a TV Licence.

Crynodeb

  1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
  2. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad
  3. Cwestiynau amserol
  4. Datganiadau 90 Eiliad
  5. Dadl ar ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i'r Grant Gwella Addysg: plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a phlant o leiafrifoedd ethnig
  6. Dadl Plaid Cymru: gwasanaethau cyhoeddus lleol
  7. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: polisïau cynhyrchu ynni a pholisi effaith amgylcheddol
  8. Dadl Fer: Ysgol Wleidyddiaeth – grymuso'r genhedlaeth nesaf o ddinasyddion gweithgar yng Nghymru

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Da boch chi

Dyna ni am heddiw. 

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth Mai 9. 

Senedd
BBC

Ysgol Wleidyddiaeth

Ac yn olaf yn y Siambr heddiw y mae Dadl Fer gan Hannah Blythyn. 

A'r pwnc: Ysgol Wleidyddiaeth - grymuso'r genhedlaeth nesaf o ddinasyddion gweithgar yng Nghymru. 

Hannah Blythyn
BBC

Contractau dim oriau

Mae cynnig Plaid Cymru - yn cynnwys galwad ar Lywodraeth Cymru i ddileu contractau dim oriau yn y sector gofal cymdeithasol  - yn methu gyda 12 o blaid, 35 yn erbyn.

y bleidlais
BBC

Ynni Cymru

Ar ran y llywodraeth, mae Jane Hutt (Bro Morgannwg)am ddileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi strategaeth bolisi Llywodraeth Cymru ar ynni sef Ynni Cymru.

2. Yn nodi’r targed deddfwriaethol o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru o leiaf 80 y cant erbyn 2050.

3. Yn cydnabod y ffaith bod y system gynllunio’n creu cyfleoedd i warchod tirwedd unigryw Cymru a hefyd yn hyrwyddo cyfleoedd i gynhyrchu ynni adnewyddadwy. 

Jane Hutt
BBC

'Cyfle i fod yn arweinydd byd'

Mae'r Ceidwadwr David Melding yn dweud bod "gan Gymru y cyfle i fod yn arweinydd byd mewn technolegau adnewyddadwy. 

"Mae'n llwybr i leoliaeth a grymuso cymunedau lleol".

David Melding
BBC

Gwelliannau Plaid Cymru

Mae Plaid Cymru yn cynnig y gwelliannau canlynol:

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1:

'gyda'r nod o sicrhau 40 y cant o ostyngiad mewn allyriadau carbon erbyn 2020, gostyngiad o 80 y cant mewn allyriadau carbon erbyn 2050 ac economi ddi-garbon.'

Dileu pwynt 2.

Yn is-bwynt 3(a) dileu 'mai cymunedau ddylai gael y gair olaf' a rhoi yn ei le 'y dylai cymunedau gael mynegi barn'.

Cynnwys ar ddiwedd is-bwynt 3(a):

'drwy strwythurau democrataidd lleol a chenedlaethol ar gyfer gwneud penderfyniadau, ar sail egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.'

Dileu is-bwynt 3(b).

Dileu is-bwynt 3(c) a rhoi yn ei le:

'y dylid cefnogi'r ffordd y mae adeiladau preswyl, y sector cyhoeddus a busnesau yn defnyddio llai o ynni, gyda rheoliadau adeiladu cryfach ar gyfer adeiladau newydd i fod bron yn ddi-ynni a thrwy raglen ôl-ffitio ar raddfa fawr ar gyfer cartrefi preswyl presennol.'

Targedau datgarboneiddio

Mae Huw Irranca-Davies o'r blaid Lafur yn gofyn "a yw'n dal i fod yn safbwynt UKIP yn genedlaethol i ddiddymu'r Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd yn gyfan gwbl ac i gael gwared ar dargedau datgarboneiddio, gan nad yw hynny yn ysbryd yr hyn yr ydych newydd ei ddweud?" 

Atebodd David Rowlands, "nid ydyw, ond nid ydym yn dod o dan y chwip fel bob plaid arall. 

"Gallwn gael ein polisïau ein hunain o fewn Llywodraeth Cymru os mai dyna beth yr ydym yn teimlo sy'n rhaid i ni ei wneud".

David Rowlands
BBC
David Rowlands

Polisïau cynhyrchu ynni

Tro UKIP yw hi nawr i arwain dadl, yn cynnig bod y Cynulliad: 

1. Yn cyfarwyddo Llywodraeth Cymru i adolygu ei pholisïau cynhyrchu ynni a'i pholisi effaith amgylcheddol.

2. Yn nodi bod nod o gyflawni economi di-garbon yng Nghymru.

3. Yn credu:

a) mai cymunedau ddylai gael y gair olaf o ran cymeradwyo ffermydd solar yn eu hardal;

b) na ddylai coed aeddfed gael eu torri er mwyn adeiladu ffermydd solar; ac

c) y dylid cefnogi'r ffordd y mae adeiladau preswyl, y sector cyhoeddus a busnesau yn defnyddio llai o ynni, drwy:

i) annog gosod ffenestri gwydr triphlyg mewn adeiladau preswyl ac adeiladau eraill; a

ii) annog gosod boeleri sy'n rhad ar danwydd.

Ffyniant a llesiant

Wrth i'r trafodion ailddechrau, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu dileu popeth ar ôl pwynt 1. 

Mae Mark Drakeford yn dweud ei fod yn ceisio alinio'r cynulliad gyda rhywbeth y gall pob plaid gytuno,  bod "gwasanaethau cyhoeddus lleol o safon yn allweddol i ffyniant a llesiant ein cenedl". 

Mark Drakeford
BBC

Problemau technegol

Y cyfarfod llawn wedi ei atal am y tro oherwydd "problemau technegol".

Penderfyniadau cynllunio mawr

Mae Gareth Bennett yn dweud bod UKIP "yn cytuno â byrdwn cyffredinol cynnig Plaid Cymru". 

Mae'n dweud am yr eildro heddiw y dylai pobl leol gael pleidlais cyfreithiol rwymol ar benderfyniadau cynllunio mawr.

Wedi ei 'gynllunio ar gyfer Twitter'

Mae Hefin David o'r blaid Lafur yn dweud bod y cynnig heddiw ar gontractau dim oriau gan Blaid Cymru wedi ei "gynllunio ar gyfer Twitter".

Hefin David
BBC

Gwelliannau'r Ceidwadwyr

Mae Janet Finch-Saunders yn cyflwyno gwelliannau'r Ceidwadwyr:

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu bod cyllid ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru wedi gostwng 6.78 y cant ers 2013-14, gan effeithio'n anghymesur ar ein cymunedau gwledig, gan gynnwys toriadau o 9.98 y cant i Sir Fynwy, 9.36 y cant i Fro Morgannwg a 7.96 y cant i Gonwy.

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn nodi mai cyflog Prif Weithredwr Cyngor Sir Fynwy, a gaiff ei arwain gan y Ceidwadwyr Cymreig yw un o'r isaf yng Nghymru, ac yn cymeradwyo tryloywder y cyngor o ran cyhoeddi pob gwariant. 

Dileu pwynt 6 a rhoi yn ei le:

Yn nodi hawl pob plentyn a pherson ifanc i gael cyfle i gyrraedd eu llawn botensial, ac yn nodi pwysigrwydd cyllid uniongyrchol ar gyfer ysgolion o ran galluogi rhieni i allu dewis yr ysgol orau i'w plant.

Dileu pwynt 8 a rhoi yn ei le:

Yn nodi gwerth gweithwyr gofal cymdeithasol o ran cynorthwyo gwasanaethau'r GIG sydd wedi'u canoli a'u gor-lwytho, a phwysigrwydd integreiddio rhwng y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

'Dileu contractau dim oriau yn y sector gofal cymdeithasol'

Dadl gan Blaid Cymru sydd nesaf, gyda'r blaid yn cynnig bod y Cynulliad:

1. Yn credu bod gwasanaethau cyhoeddus lleol o safon yn allweddol i ffyniant a llesiant ein cenedl.

2. Yn gresynu bod cyllid ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru wedi gostwng 6.5 y cant ers 2011-12, gan effeithio'n anghymesur ar rai o'r bobl mwyaf gwan a hawdd eu niweidio mewn cymunedau ledled Cymru.

3. Yn cydnabod y rhan bwysig y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae o ran:

a) datblygu economïau lleol mewn partneriaeth â'r gymuned fusnes;

b) sicrhau bod ein strydoedd yn lân ac yn ddiogel;

c) darparu addysg o safon; a

d) darparu gofal gwasanaethau cymdeithasol sy'n gofalu am y bobl mwyaf bregus mewn cymunedau ledled Cymru.

4. Yn nodi bod cyfartaledd cyflog Prif Weithredwyr Cynghorau a gaiff eu harwain gan Blaid Cymru bron £22,000 yn is na'r Cynghorau yng Nghymru a gaiff eu harwain gan Lafur.

5. Yn credu y dylai prosiectau datblygu tai fforddiadwy lleol fod yn seiliedig ar anghenion y gymuned.

6. Yn nodi llwyddiant y model tracio datblygiad plentyn, a ddefnyddir gan Gyngor Ceredigion - yr unig gyngor a ddyfarnwyd gan Estyn ei fod yn perfformio'n rhagorol yng Nghymru yn y cylch llawn diwethaf o arolygiadau - i sicrhau bod plant yn cyrraedd eu llawn botensial, gyda chymorth yn gynnar iawn i'r rhai nad ydynt yn cyflawni yn ôl y disgwyl.

7. Yn gresynu bod canran cyfanswm gwariant caffael llywodraeth leol yng Nghymru wedi parhau'n sefydlog ar 58 y cant ers 2012.

8. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu contractau dim oriau yn y sector gofal cymdeithasol.

Ymatebion Llywodraeth Cymru

Mae ymatebion manwl Llywodraeth Cymru i argymhellion yr adroddiad yma.   

Mae'r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams yn gwrthod  Argymhelliad 6 oherwydd "nid yw Llywodraeth Cymru yn credu y byddai o fudd ailystyried yr asesiadau effaith a gynhaliwyd yn ystod tymor blaenorol y Cynulliad yn 2014/15". 

Kirsty Williams
BBC

Effeithiolrwydd y fframwaith perfformiad addysg

Mae Lynne Neagle AC, cadeirydd y pwyllgor, yn cyflwyno'r adroddiad.

Mae diffyg monitro effeithiol wedi bod o'r grant sydd wedi'i ddylunio i helpu rhai o'r plant sydd â'r cyrhaeddiad isaf yng Nghymru, yn ôl y pwyllgor.

Yn ôl y pwyllgor, mae Llywodraeth Cymru angen "gafael mwy cadarn" ar y Grant Gwella Addysg.

Mae 14 o argymhellion, gan gynnwys y "dylai Llywodraeth Cymru fynd ati ar frys i adolygu effeithiolrwydd y fframwaith perfformiad addysg y mae'n disgwyl i'r consortia rhanbarthol a'r awdurdodau lleol ei ddefnyddio i werthuso deilliannau'r Grant Gwella Addysg".    

Lynne Neagle
BBC

Plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a phlant o leiafrifoedd ethnig

Nawr y cyntaf o ddadleuon y prynhawn, ar ymchwiliad  y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar effaith y gwaith gan Lywodraeth Cymru o gyfuno grantiau a oedd wedi'u neilltuo'n flaenorol yn Grant Gwella Addysg (GGA) newydd ar gyfer plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a phlant o leiafrifoedd ethnig.  

Rhwng 2013 a 2015, dim ond 15.5% o blant o gefndiroedd Sipsi a Sipsi Roma gafodd bump TGAU neu fwy gradd A*-C - o'i gymharu â 56% o holl ddisgyblion Cymru.

Yn ôl ffigyrau gafodd eu rhyddhau ym mis Ionawr, mae'r ffigwr yma bellach wedi codi i 24.4%.

addysg
Thinkstock

Cleifion dementia ar ward Tawel Fan

Mae'r ail o'r cwestiynau amserol gan Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr archwiliad sy’n cael ei gynnal gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i adroddiadau y gallai ansawdd y gofal a gafodd cleifion dementia ar ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd fod wedi cyfrannu at o leiaf saith o farwolaethau?  

Mae BBC Cymru'n deall bod safon y gofal ar ward cleifion dementia Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd wedi gallu cyfrannu at o leiaf saith marwolaeth.

Cafodd y ward ei chau dros dair blynedd yn ôl ac fe ddywedodd adroddiad ar gyflwr y ward fod rhai cleifion wedi cael eu trin fel anifeiliaid.

Roedd Adroddiad Ockenden yn 2015 yn hynod feirniadol o'r "camdriniaeth sefydliadol" oedd yn bodoli ar ward Tawel Fan.

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething yn atgoffa'r aelodau fod ymchwiliad ar y gweill. 

Ysbyty Glan Clwyd
BBC

Proffylacsis cyn-gysylltiad

Mae Jeremy Miles (Castell-nedd) yn croesawu'r penderfyniad i gymeradwyo defnyddio proffylacsis cyn-gysylltiad yng Nghymru fel rhan o astudiaeth.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi astudiaeth i ddarparu cyffur trin HIV, Truvada i bobl fyddai'n cael budd o'r driniaeth.

Daeth y cyhoeddiad gan yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething yn dilyn penderfyniad Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (GSFCG) am Truvada, er iddyn nhw gynghori'r llywodraeth i beidio ariannu PrEP (enw arall am Truvada) ar y sail nad oedd yn cynnig gwerth am arian.

Ond dywedodd Mr Gething y byddai'r cyffur yn glinigol briodol i rai pobl, ac y bydden nhw'n medru cael y cyffur yn ystod cyfnod prawf.

Mae PrEP yn gyffur sy'n gallu lleihau'r achosion o heintiadau HIV. Yn ôl un grŵp o arbenigwyr annibynnol mae'n gallu bod yn effeithiol iawn o'i roi i bobl gywir gyda'r dos cywir.

cyffur
Getty Images

Cwestiynau amserol

Nesaf y mae'r sesiwn gyntaf o gwestiynau amserol, wedi newidiadau i'r Rheolau Sefydlog.

Mae'r canllawiau yn egluro bod rhaid i gwestiynau amserol ymwneud â mater o arwyddocâd cenedlaethol, rhanbarthol neu leol y byddai'n ddymunol cael ymateb cyflym iddo gan Weinidog, ac y dylai'r mater fod wedi codi ers i'r terfyn amser ar gyfer cyflwyno cwestiynau amserol yr wythnos flaenorol fynd heibio. 

Y Llywydd a fydd yn penderfynu sawl cwestiwn amserol i'w ddethol ar gyfer y cyfnod o 20 munud a neilltuwyd, a sut i rannu'r amser sydd ar gael rhwng y cwestiynau hynny.

Senedd.tv

Nesaf ceir cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad, gan ddechrau gyda Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff Comisiwn y Cynulliad roi dyddiad penodol ar gyfer symud o Senedd.tv i YouTube?  

Dywed y Llywydd Elin Jones bod comisiwn y cynulliad am ddangos trafodion byw o'r Cynulliad ar gynifer o lwyfannau â phosibl, gan gynnwys Senedd.tv, Facebook Live ac YouTube. 

Senedd
Senedd

Dim 'llywodraeth drwy refferendwm'

"Dydw i ddim yn credu mewn llywodraeth drwy refferendwm" meddai Mr Drakeford mewn ymateb i Gareth Bennett a oedd wedi dweud bod "UKIP eisiau caniatáu i drigolion lleol benderfynu ar ddatblygiadau cynllunio mawr yn eu hardal, gyda refferenda sy'n  rhwymo'n gyfreithiol."

Gareth Bennett
BBC

Contractau dim oriau

Mae Sian Gwenllian Plaid Cymru yn gofyn a yw'r llywodraeth yn cytuno nad oes lle ar gyfer contractau dim oriau mewn gwasanaethau cyhoeddus. 

Atebodd Mr Drakeford "pan fydd Llywodraeth Lafur yn cael ei hethol ym mis Mehefin, byddwn yn gallu gwneud mwy" i fynd i'r afael â nhw.

Sian Gwenllian
BBC

Democratiaeth yn 'destun sbort'

Mae'r Ceidwadwr Janet Finch-Saunders yn diolch i'w  "chydweithiwr" Mark Reckless am godi'r mater o seddau lle na chynhelir etholiad.

Mae hi'n dweud ei bod hi'n cytuno gyda'r Athro Roger Scully, o Ganolfan Llywodraethiant Prifysgol Caerdydd, sydd wedi dweud bod hyn yn gwneud democratiaeth yn "destun sbort ".

Janet Finch-Saunders
BBC

Dim cystadleuaeth mewn 7% o seddi

Dywed Mark Drakeford nad oes cystadleuaeth mewn 7% o seddi ddydd Iau.

"Rwyf yn difaru unrhyw seddau diwrthwynebiad," ychwanega.

Bydd 92 cynghorydd yn cael eu hethol heb bleidlais yn yr etholiadau ddydd Iau.

Mae gan hanner o 22 cyngor Cymru wardiau lle na fydd pleidlais gan nad oedd her i'r cynghorydd presennol.

Mae'r nifer uchaf yng Ngwynedd, 21, ac yna Powys, 16.

Mewn un ward ym Mhowys, Yscir, ni fydd cynghorydd o gwbl ar ol i'r un presennol ymddeol, a diffyg ymgeiswyr eraill.

cynghorau
BBC

Seddau lle na chynhelir etholiad

Mae'r cwestiwn cyntaf a gyflwynwyd gan Mark Reckless: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am nifer y seddau lle na chynhelir etholiad yn etholiadau llywodraeth leol Cymru?    

Cyllid a Llywodraeth Leol

Croeso i Senedd Fyw. 

Mae'r Cyfarfod Llawn yn dechrau gyda chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford. 

Bae Caerdydd
Google