Got a TV Licence?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

Find out more
I don’t have a TV Licence.

Crynodeb

  1. Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
  2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
  3. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
  4. Cwestiynau Amserol
  5. Dadl gan Aelodau Unigol: plismona
  6. Dadl Plaid Cymru: Gwasanaeth Iechyd Gwladol
  7. Dadl y Ceidwadwyr: dyfodol economi Cymru
  8. Dadl Fer: Ailadeiladu bywydau drwy chwaraeon cymunedol

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

Dyna ni o'r Siambr am yr wythnos. 

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth nesaf Mai 16.    

Y Senedd
BBC

Dadl Fer: Ail-adeiladu bywydau drwy chwaraeon cymunedol

Ac yn olaf yn y Siambr heddiw Dadl Fer gan Caroline Jones. 

A'r pwnc: Ail-adeiladu bywydau drwy chwaraeon cymunedol. 

Chwaraeon cymunedol
BBC

'Llewyrch i bawb'

Mae Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi cael "llwyddiant amlwg a record o gyflawni dros gyfnod y Cynulliad diwethaf ", ac mae wedi gosod blaenoriaethau yn y rhaglen lywodraethu ar gyfer "llewyrch i bawb". 

Ken Skates
BBC

Cyfle Brexit

Mae Neil Hamilton UKIP yn dweud bod Brexit yn darparu cyfle i "gynyddu effeithlonrwydd a chynhyrchiant economi Cymru fel rhan o econnomi y DU sy'n fwy cynhyrchiol".

Brexit
Getty Images

'Teyrnas Unedig sy'n arw ranedig'

Mae Adam Price Plaid Cymru yn dweud "mae ganddon ni Deyrnas Unedig sy'n arw ranedig, nid ein hawr orau - fe allai fod ein hawr olaf oherwydd y rhaniad economaidd sydd yr etifeddiaeth mwyaf gwenwynig o'r Llywodraeth Geidwadol hon". 

Mae Plaid Cymru yn galw ar ACau i

1. Gydnabod yr angen i amddiffyn Cymru rhag y posibilrwydd o Lywodraeth Geidwadol ddi-hid y DU.

2. Yn credu na ellir dibynnu ar Lywodraeth Cymru na Llywodraeth y DU i amddiffyn Cymru, i hyrwyddo buddiant cenedlaethol Cymru, na chyflawni potensial economaidd y genedl.

Adam Price
BBC

Dadl ar ddyfodol economi Cymru

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig yw'r eitem nesaf. 

Mae nhw'n cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 

1. Yn nodi bod angen arweinyddiaeth gryf a chadarn ar Gymru a'r Deyrnas Unedig er mwyn parhau â ffyniant economaidd y wlad.

2. Yn gresynu at gefnogaeth gyhoeddus y Prif Weinidog i gynnig i fenthyca £500 biliwn yn ychwanegol a fyddai'n peryglu dyfodol economi Cymru.

3. Yn cydnabod yr angen i ystyried costau polisïau yn llawn er mwyn sicrhau nad yw cynnydd economaidd Cymru a'r DU yn cael ei beryglu. 

Andrew RT Davies
BBC

'Egwyddorion' Aneurin Bevan

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething yn dweud bod y ddadl yn caniatáu iddo i "ailadrodd ymrwymiad parhaol Llywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur, i'r egwyddor o wasanaeth iechyd sy'n cael ei ariannu yn gyhoeddus a sydd am ddim i gleifion sy'n derbyn y gwasanaeth".

Mae'n dweud bod diwygiadau 2009 yng Nghymru yn ailddatgan yr egwyddorion gafodd eu sefydlu gan Aneurin Bevan.

Vaughan Gething
BBC

'Canlyniadau cleifion o'r pwys mwyaf'

Mae Caroline Jones yn dweud bod UKIP yn credu y dylai'r Gwasanaeth Iechyd "barhau mewn dwylo cyhoeddus am byth a bod am ddim i gleifion sy'n derbyn y gwasanaeth".

Mae'n ychwanegu "rydyn ni angen rhoi'r gorau i'r athrawiaeth sy'n edrych ar y sector cyhoeddus fel rhywbeth da a'r sector preifat fel rhywbeth gwael". Mae cydweithredu yn bwysig a chanlyniadau cleifion o'r pwys mwyaf".

Caroline Jones
BBC

Cydweithredu rhwng gwasanaethau iechyd Cymru a Lloegr

Mae'r aelod Ceidwadol Angela Burns yn galw ar ACau i "gydnabod y cydweithredu rhwng gwasanaethau iechyd Cymru a Lloegr a dibyniaeth cleifion Cymru ar wasanaethau arbenigol yn Lloegr, fel gwasanaethau trawsryweddol, gwasanaethau newyddenedigol aciwt a gwasanaethau iechyd meddwl i blant".

Angela Burns
BBC

Dadl ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol

Nawr gan Blaid Cymru ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. 

Mae Rhun ap Iorwerth yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

  • Yn cefnogi'r egwyddor bod Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn cael ei gadw yn nwylo'r cyhoedd.
  • Yn pryderu ynghylch y goblygiadau cyllidebol a thrawsffiniol i wasanaethau iechyd yng Nghymru yn sgil preifateiddio graddol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr.
  • Yn credu bod yn rhaid i unrhyw gytundebau masnach y DU yn y dyfodol fod yn amodol ar gydsyniad y Cynulliad hwn, os bydd y cytundebau hynny'n effeithio ar feysydd polisi datganoledig, fel iechyd. 
Y Gwasanaeth Iechyd
Thinkstock

Y cynnig i ddatganoli plismona yn cael ei basio

Mae'r aelodau yn gytûn ar y cynnig bod y Cynulliad yn:

1. Yn nodi bod plismona yn fater sydd wedi'i ddatganoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

2. Yn galw am ddatganoli plismona i Gymru.

3. Yn credu ei bod yn well cydgysylltu materion plismona arbenigol, fel polisïau gwrth-frawychiaeth, ar lefel y DU. 

Yr unig wasanaeth brys sydd ddim wedi ei ddatganoli

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant yn lleisio cefnogaeth i'r cynnig gan fod Llywodraeth Cymru eisiau i'r cyfrifoldeb am blismona i gael ei ddatganoli.

Mae'n tynnu sylw at y ffaith mai plismona yw'r unig wasanaeth brys sydd ddim wedi ei ddatganoli, ac y byddai datrys hyn yn galluogi cydweithio gwell gyda’r gwasanaethau eraill. 

Carl Sargeant
BBC

UKIP 'hyd yma heb benderfynu'

Mae Gareth Bennett yn dweud bod UKIP "hyd yma heb benderfynu" ar ddatganoli plismona i Gymru, "ond mae'n rhaid i ni fod yn bwyllog cyn i ni dddechrau ar y cam hwn".

Gareth Bennett
BBC

'Plismona eisioes wedi'i ddatganoli i gomisiynwyr heddlu a throseddu'

Mae'r Ceidwadwyr yn gwrthwynebu'r cynnig.

Mae Mark Isherwood yn dweud bod "plismona eisioes wedi ei ddatganoli i gomisiynwyr heddlu a throseddu, sy'n galluogi i gymunedau lleol i gael llais ynghylch blaenoraethau plismona a dal cynrychiolwyr etholedig i gyfrif". 

Mark Isherwood
BBC

£25m y flwyddyn ar eu hennill

Mae Steffan Lewis yn dweud y byddai datganoli plismona yn darparu'r cyfle i flaenoriaethu plismona cymunedol, ac y byddai yna fudd ariannol. Yn ôl amcangyfrif Plaid Cymru, "petai Cymru yn cael ei thrin fel endid plismona, byddai lluoedd heddlu Cymru dros £25m y flwyddyn ar eu hennill yn unol â fformiwla Barnett".

Steffan Lewis
BBC

Dadl ar blismona

Nesaf yn y Siambr y cyntaf o ddadleuon y prynhawn. 

Mae'n ddadl gan Aelodau Unigol ar blismona. 

Mae 

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) 

Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru)

Julie Morgan (Gogledd Caerdydd) 

Sian Gwenllian (Arfon) 

yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod plismona yn fater sydd wedi'i ddatganoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

2. Yn galw am ddatganoli plismona i Gymru.

3. Yn credu ei bod yn well cydgysylltu materion plismona arbenigol, fel polisïau gwrth-frawychiaeth, ar lefel y DU.   

Heddlu
BBC

Datganiadau 90 Eiliad

Nawr y Datganiadau 90 Eiliad, lle mae tri aelod yn cael cyfle i godi materion amserol. 

Mater i'r brifysgol

Wrth ymateb i gwestiwn Llyr Gruffydd mae Kirsty Williams yn dweud mai mater i'r brifysgol yw hyn.

Effaith y diswyddiadau posibl ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae'r ail gwestiwn amserol i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

Mae Llyr Gruffydd yn gofyn beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o effaith y diswyddiadau posibl ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae staff yn wynebu'r posibilrwydd o swyddi'n cael eu colli wrth i'r brifysgol geisio gwneud toriadau o dros £11m erbyn Ebrill 2019. 

Mae undeb UNSAIN yn dweud bod pryder am ddyfodol "150 o swyddi".  

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi dweud bod toriadau yn sgil newidiadau a heriau, yn cynnwys cystadleuaeth gynyddol am fyfyrwyr a chostau cynyddol.  

Yn ôl y brifysgol, mae ansicrwydd ariannol pellach o ganlyniad i benderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â rheoliadau fisa mwy llym ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol.  

Prifysgol Aberystwyth
Ray Jones/Geograph

Cefndir y sefyllfa yng Nghilfach Tywyn

Mae Llys Ewropeaidd wedi dyfarnu fod y Deyrnas Unedig wedi torri'r gyfraith wrth ryddhau gormod o garthion a dŵr gwastraff i'r môr oddi ar arfordir y gorllewin.

Mae pibellau gorlifo yn cael eu defnyddio yng Nghilfach Tywyn ger Llanelli er mwyn atal llifogydd.

Ond dyfarnodd Llys Cyfiawnder Ewrop fod y sefyllfa'n torri rheolau dŵr glan mewn ardal gadwriaethol yn aber afon Llwchwr.

Mae Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru yn dweud eu bod yn buddsoddi er mwyn gwella'r sefyllfa.

Cilfach Tywyn
BBC
Cilfach Tywyn

Torri rheolau dŵr glân yng Nghymru

Mae cwestiwn cyntaf gan Simon Thomas i'r Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd a Matreion Gwledig, Lesley Griffiths.

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ddyfarniad Llys Cyfiawnder Ewrop ynghylch torri rheolau dŵr glân yng Nghymru, gan gynnwys yng Nghilfach Tywyn ger Llanelli? 

Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf yn y Siambr yw'r Cwestiynau Amserol. 

Mae'n rhaid i gwestiynau amserol ymwneud â mater o arwyddocâd cenedlaethol, rhanbarthol neu leol y byddai'n ddymunol cael ymateb cyflym iddo gan Weinidog. 

Y Llywydd sy'n penderfynu sawl cwestiwn amserol i'w ddethol ar gyfer y cyfnod o 20 munud a neilltuwyd, a sut i rannu'r amser sydd ar gael rhwng y cwestiynau hynny. 

'Amddifadu mynediad at gyfiawnder'

Mae Mr Antoniw yn dweud bod Llywodraeth Cymru "yn poeni bod y gost o ddod ag achosion sy'n gysylltiedig gyda chyflogaeth, i nifer o bobl, bellach yn afresmyol o ddrud ac yn eu hamddifadu o fynediad at gyfiawnder".

Mick Antoniw
BBC

Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol

Nawr cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw. 

Mae Dawn Bowden yn gofyn pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith a gaiff ffioedd tribiwnlysoedd cyflogaeth ar fynediad at gyfiawnder yng Nghymru.  

Dawn Bowden
BBC

Un o bob tri o athrawon yn bwriadu gadael y proffesiwn

Mae'r Ceidwadwr Darren Millar yn cyfeirio at arolwg Cyngor y Gweithlu Addysg sy'n dangos bod un o bob tri o athrawon yn bwriadu gadael y proffesiwn yn y tair blynedd nesaf.

Mae Kirsty Williams yn ateb, "mae angen i ni sicrhau ein bod ni'n creu system addysg yng Nghymru sy'n cadw'r dalent orau o fewn ein system, ac hefyd recriwtio yr unigolion gorau a mwyaf galluog i'r system".

Darren Millar
BBC

'Cyfundrefn brofi swta a di-fin'

Mae Llyr Gruffydd Plaid Cymru yn tynnu sylw at y ffaith bod disgyblion wedi bod yn sefyll eu profion llythrennedd a rhifedd cenedlaethol yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

Mae'n gofyn, "a ydyn ni angen rhyw gyfundrefn brofi swta a di-fin i ddweud wrthon ni beth y mae athrawon, trwy eu hasesiadau, eisioes yn ei wybod?"

Mae Kirsty Williams yn dweud bod y profion "yn darparu sicrwydd ac yn ffynhonnell bwysig o wybodaeth i athrawon, prifathrawon a rhieni".

Llyr Gruffydd
BBC

'Dylai rhieni allu tanio archwiliad gan Estyn'

Mae Michelle Brown yn gofyn i ysgrifennydd y cabinet a yw hi'n cytuno gydag UKIP y dylai rhieni allu tanio archwiliad gan Estyn os oes ganddyn nhw bryderon am ysgol eu plant.

Dyw Kirsty Williams ddim yn cytuno, gan ddatgan ei bod hi i fyny i Estyn, sy'n annibynnol o'r llywodraeth, i benderfynu sut orau i archwilio ysgolion. 

Michelle Brown
BBC

Cwestiynau heb rybudd

Mae'r Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

Bagloriaeth Cymru

Mae'r cwestiwn cyntaf a gyflwynwyd gan Angela Burns:

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y broses o gyflwyno Bagloriaeth Cymru?

Mae Kirsty Williams yn dweud, fe gafodd Bagloriaeth Cymru "mwy trwyadl" ei gyflwyno ym mis Medi 2015.

Kirsty Williams
BBC

Croeso nôl i Senedd Fyw

Mae'r Cyfarfod Llawn ar fin dechrau gyda chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams.  

Nôl am 1.30pm

Mae'r aelodau bellach yn cyfarfod yn breifat.

Fe fydd Senedd Fyw'n ôl am 1.30pm ar gyfer y Cyfarfod Llawn.

'Anhebygol o symud arian o Gymru'

Mae Jacquie Hughes yn dweud "ei bod hi'n anhebygol, yn fy marn i, y bydd y BBC yn symud arian o Ogledd Iwerddon neu Gymru, oherwydd y cynllun strategol hir-dymor.

"Mae rhanbarthau Lloegr yn cael eu tan wasanaethu... fe fydd yn rhaid i'r BBC feddwl ynghylch sut olwg sydd ar y map buddsoddi er mwyn iddo fod ychydig yn decach."

Allwch chi ddim mynd yn is na hyn

Mae Lee Waters yn gofyn am wariant rhwydwaith yng Nghymru.

Mae Jacquie Hughes yn dweud "yng Nghymru, oherwydd creu'r ganolfan ragoriaeth mewn drama, a'r pwyslais ar ddrama ac adloniant, mae wastad yn mynd i fod yn uwch yma.

"Dydyn ni ddim yn dweud bod yn rhai i chi lynu wrth y gwariant hynny", rydyn ni'n dweud na allwch chi fynd yn is na hyn.

Mae Porth y Rhath yn adnodd cynhyrchu teledu ym Mhorth Teigr ym Mae Caerdydd
BBC
Mae Porth y Rhath yn adnodd cynhyrchu teledu ym Mhorth Teigr ym Mae Caerdydd

Profi'n 'heriol' i'r BBC

Mae Ofcom yn ymgynghori’n gyhoeddus ar yr amodau maen nhw'n cynnig eu gosod yn y drwydded weithredu. Dyma’r ddogfen ar wahân ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru sy’n nodi’r amodau rheoleiddio maen nhw'n cynnig a ddylai fod yn berthnasol i wasanaethau cyhoeddus y DU yng Nghymru'n benodol. 

Mae Jacquie Hughes, Cyfarwyddwr Polisi, Ofcom yn dweud y byddan nhw'n profi'n "heriol" i'r BBC.

Jacquie Hughes
BBC

Tystion Ofcom Cymru

Y tystion yw: 

Rhodri Williams, Cyfarwyddwr, Ofcom Cymru 

Jacquie Hughes, Cyfarwyddwr Polisi, Ofcom.  

Rhodri Williams, Jacquie Hughes
BBC

Trwydded weithredu ddrafft ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus y BBC yn y DU

Yn y sesiwn olaf y bore ma mae'r aelodau yn trafod trwydded weithredu ddrafft ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus y BBC yn y DU: Sesiwn Dystiolaeth gydag Ofcom Cymru.

Egwyl

Mae'r aelodau nawr yn cael egwyl fer.

Tri chwarter y staff presennol

Mae Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Gwasanaethau'r Comisiwn, yn dweud bod tri chwarter y staff presennol yn rhugl yn y Gymraeg neu yn dysgu'r iaith.

Craig Stephenson
BBC

'O leiaf lefel sylfaenol o sgiliau iaith Gymraeg'

Mae AC Llanelli Lee Waters yn gofyn am y cynnig i fabwysiadu dull recriwtio "lle bydd yr holl swyddi a hysbysebir gan Gomisiwn y Cynulliad yn ei gwneud yn ofynnol i gael o leiaf lefel sylfaenol o sgiliau iaith Gymraeg (cwrteisi ieithyddol sylfaenol) pan gaiff rhywun ei benodi neu ymrwymiad i ennill y sgiliau hynny yn ystod y broses gynefino".

Mae Mr Pricce yn cadarnhau na fydd hyn yn berthnasol i staff presennol, bod dim disgwyl iddyn nhw ddysgu y sgiliau newydd heblaw eu bod nhw eisiau.  

Lee Waters
BBC

Ymatebion ymgynghori yn parhau i gael eu cyfieithu

Wrth ymateb i gwestiwn gan Neil Hamilton ynghylch mater y mae Comisiynnydd y Gymraeg wedi ei godi, mae Mr Price yn cadarnhau y bydd ymatebion ymgynghori yn parhau i gael eu cyfieithu.

Neil Hamilton
BBC