a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
  2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros dros yr Economi a'r Seilwaith
  3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon
  4. Dadl ar Ddeddf Tai (Cymru) 2014
  5. Dadl gan y Ceidwadwyr Cymreig ar blant a'r rhyngrwyd
  6. Dadl Plaid Cymru ar hyfforddi a recriwtio staff meddygol
  7. Dadl Plaid Cymru ar ddiweithdra chyflogau isel yng nghymoedd De Cymru
  8. Dadl gan UKIP ar gyllideb cymorth dramor
  9. Dadl Fer: Tanau trydan - bygythiad cynyddol yn yr oes dechnolegol sydd ohoni

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

Dyna ni o'r Siambr am yr wythnos.

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth nesaf Mai 23.

Y Senedd
BBC

Cynnig ar gyfer gwelliant i Ddeddf Tai 2014 yn cael ei basio

Mae cynnig Dawn Bowden bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi cynnig ar gyfer gwelliant i Ddeddf Tai (Cymru) 2014, ac yn nodi mai diben y gwelliant fyddai gwahardd hysbysebu eiddo yn ddi-rent gan landlordiaid sy'n disgwyl cydnabyddiaeth am hyn ar ffurf manteision rhywiol - yn cael ei basio.

Roedd 36 o blaid, 11 wedi ymatal a neb wedi gwrthwynebu.

y bleidlais
BBC

'Rhwyg yn y Cynulliad nad ydw i wedi ei weld o'r blaen'

Mae arweinydd y Tŷ, Jane Hutt, yn dweud bod y ddadl wedi "dadlennu rhwyg yn y Cynulliad nad ydw i wedi ei weld o'r blaen yn ystod fy 18 mlynedd yma".

Mae'n dweud bod rhaglen Cymru dros Affrica wedi bod yn llwyddiant am dros ddegawd.

'Y cynnig yn hala ysgryd araf'

Mae Simon Thomas Plaid Cymru yn dweud bod cynnig UKIP ar gyllideb cymorth dramor yn "hala ysgryd arnaf".

Mae'n dweud y dylai'r cynnig hwn sy'n esgus sôn am "faich cymorth ar bobl Cymru sydd mewn gwaith, ddarllen mewn gwirionedd fel 'bywydau pobl ddu o lai o bwys' ".

Simon Thomas
BBC

'Masnach yn ogystal â chymorth'

Mae'r Ceidwadwr David Melding yn dweud bod "masnach yn ogystal â chymorth wrth wraidd cymdeithas ryngwladol deg".

Mae'n ychwanegu bod yna drefniadau llym i daclo twyll honedig o fewn gwariant cymorth tramor.

'Polisi rhyngwladol cynhwysfawr i Gymru'

Ar ran Plaid Cymru mae Steffan Lewis yn galw ar aelodau'r Cynulliad i "nodi pwysigrwydd cymorth rhyngwladol o ran lleddfu dioddefaint dynol a chefnogi cyfraniad Cymru i brosiectau dyngarol drwy fentrau fel Cymru o Blaid Affrica".

Mae Plaid Cymru hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru "i lunio a chyhoeddi polisi rhyngwladol cynhwysfawr i Gymru sy'n cynnwys gwella gweithgareddau cymorth rhyngwladol y genedl".

Cymorth rhyngwladol
BBC

Dadl ar gyllideb cymorth dramor

Nawr dadl gan UKIP ar gyllideb cymorth dramor.

Mae Neil Hamilton yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu, er bod achos dros gefnogi cymorth dyngarol a brys i wledydd eraill, yn arbennig mewn argyfyngau penodol, nad yw'n gwneud synnwyr bod y gyllideb cymorth dramor yn aros ar 0.7 y cant o incwm cenedlaethol gros (GNI).

2. Yn nodi bod dyled genedlaethol y DU wedi dyblu ers 2009, a'i bod, bellach, yn £1.6 triliwn, sy'n gyfystyr â £22,000 ar gyfer pob dyn, menyw a phlentyn yn y DU.

3. Yn credu bod angen ystyried llesiant cenedlaethau'r dyfodol wrth wneud pob penderfyniad gwariant cyhoeddus ac y dylai Llywodraeth y DU werthuso'r gyllideb cymorth dramor yng nghyd-destun anghenion pwysig eraill gartref.

4. Yn galw am ddiddymu Deddf Datblygu Rhyngwladol (Targed Cymorth Datblygu Swyddogol) 2015, a oedd yn y diogelu'r ffigur targed o 0.7 y cant yng nghyfraith y DU.

5. Yn credu bod llawer o'r gyllideb cymorth dramor yn cael ei gwastraffu, yn cael ei dargyfeirio gan lygredd ac yn cael ei gwario'n anghynhyrchiol.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog Llywodraeth y DU i ostwng y gwariant targed ar gymorth dramor i 0.2 y cant o'r GNI, sy'n debyg i gyllidebau cymorth yr Unol Daleithiau, yr Eidal a Sbaen.

7. Yn credu y dylai'r £8 biliwn o arbedion a fyddai'n cael eu rhyddhau gael eu dargyfeirio'n gyfrannol i wledydd y DU a chael eu gwario ar achosion haeddiannol fel y GIG neu dai cymdeithasol.

Cymorth tramor
BBC

'Cenedl deg o ran swyddi'

Mae Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates yn cynnig dileu popeth yng nghynnig Plaid Cymru a rhoi yn ei le, cynnig bod y Cynulliad:

1. Yn cydnabod effaith rhaglen barhaus Llywodraeth y DU o gynni ar gymunedau cymoedd de Cymru a gweddill Cymru, ac yn galw ar lywodraeth nesaf San Steffan i fuddsoddi mewn twf economaidd mwy cytbwys ar draws y DU.

2. Yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru i wneud Cymru'n genedl deg o ran swyddi lle y gall pawb fanteisio ar well swyddi sy'n nes at eu cartrefi.

3. Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru o ran:

a) cefnogi bron i 150,000 o swyddi yn ystod tymor y Cynulliad diwethaf. Roedd llawer o'r swyddi hyn yng nghymunedau'r cymoedd;

b) paratoi dull newydd o fynd i'r afael â datblygu economaidd er mwyn ysgogi twf rhanbarthol mwy cadarn;

c) cynllunio buddsoddiadau sylweddol mewn seilwaith yn y cymoedd ac ar draws Cymru mewn modd sy'n cefnogi economïau rhanbarthol nwy cydnerth ac sy'n atgyfnerthu cadwyni cyflenwi lleol;

d) sefydlu Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd De Cymru sy'n cydweithio â chymunedau lleol er mwyn denu swyddi newydd, codi lefelau sgiliau a gwella gwasanaethau lleol; a

e) datblygu rhaglen Swyddi Gwell yn Nes at Adre gan ddefnyddio ysgogiadau caffael i greu swyddi o werth mewn ardaloedd ag anghenion economaidd, fel y cymoedd.

f) sefydlu Comisiwn Gwaith Teg er mwyn helpu i greu economi lle y gall mwy o bobl yng nghymunedau'r cymoedd ac ar draws Cymru fanteisio ar swyddi da ac incwm sefydlog.

'Ymyrraeth ddiddiwedd gan y llywodraeth yn y cymoedd'

Mae arweinydd UKIP Neil Hamilton yn dweud "rydyn ni wedi cael ymyrraeth ddiddiwedd gan y llywodraeth yn y cymoedd yn ystod fy mywyd a beth maen nhw wedi ei gyflawni?

"Rydyn ni wedi gwella isadeiledd ac wedi gwneud llawer o bethau da, ond dyw hyn ddim wedi trawsnewid cyfleoedd bywyd a gobeithion pobl y cymoedd".

Neil Hamilton
BBC

'Bydd cymunedau'r cymoedd yn beirniadu Plaid Cymru ar eu gweithredoedd'

Mae aelod Llafur Castell-nedd Jeremy Miles yn achosi stŵr ar feinciau Plaid Cymru pan mae'n dweud:

"Fe fydd pobl yng nghymunedau'r cymoedd yn beirniadu Plaid Cymru ar eu gweithredoedd, nid ar eu pregethau a'u sloganau.

"Fe fydd pobl yn dwyn atgof o'r tro diwethaf y gwnaeth Plaid Cymru ddal y brîff datblygiad economaidd, adeg cwymp Lehman, roedden nhw yn blaenoriaethu ffordd osgoi ym Mhothmadog".

Jeremy Miles
BBC

Dinas-ranbarth Abertawe a phrifddinas-ranbarth Caerdydd

Ar ran y Ceidwadwyr mae Russell George yn nodi "y gwaith y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud i ddatblygu dinas-ranbarth Abertawe a phrifddinas-ranbarth Caerdydd, a fydd yn cynnig llawer o gyfleoedd cadwyn gyflenwi i gymoedd de Cymru".

Russell George
BBC

Dadl ar ddiweithdra a chyflogau isel yng nghymoedd y De

Nawr ail ddadl Plaid Cymru, a'r pwnc: Diweithdra yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol cymoedd De Cymru.

Mae nhw'n cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod Gwerth Ychwanegol Gros y pen yn ardaloedd NUTS2 y cymoedd canolog a chymoedd Gwent yn gyson is na chyfartaledd Cymru.

2. Yn nodi bod diweithdra yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol cymoedd de Cymru yn uwch na chyfartaledd Cymru.

3. Yn nodi bod ansicrwydd o ran gwaith, cyflogau isel a thlodi yn broblemau sylweddol yng nghymoedd de Cymru.

4. Yn nodi hanes o danfuddsoddi yng nghymoedd de Cymru gan Lywodraethau Cymru a'r DU.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) creu Asiantaeth Ddatblygu'r Cymoedd sydd â'r grym a'r atebolrwydd priodol;

b) gwneud penderfyniad cadarnhaol ynghylch prosiect Cylchffordd Cymru, yn amodol ar y diwydrwydd dyladwy arferol; ac

c) rhoi mwy o flaenoriaeth o ran buddsoddiad mewn swyddi a seilwaith yn y cymoedd.

Cymoedd y De
BBC

Gwlad Gwlad: Ymgyrch recriwtio Hyfforddi Gweithio Byw

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething yn cynnig dileu popeth yng nghynnig Plaid Cymru a rhoi yn ei le:

1. Yn croesawu ymgyrch recriwtio Llywodraeth Cymru Gwlad Gwlad: Hyfforddi Gweithio Byw sy'n annog gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan gynnwys meddygon, i ddewis Cymru fel lle i hyfforddi, gweithio a byw ynddo.

2. Yn nodi:

a) y cafwyd cynnydd o 19 y cant yn y gyfradd ymgeisio ar gyfer hyfforddiant mewn meysydd arbenigol i feddygon teulu yn 2017 a bod 84 y cant o'r llefydd hyfforddi ar gyfer meddygon teulu wedi'u llenwi ers i Gwlad Gwlad: Hyfforddi Gweithio Byw gael ei lansio, o'i gymharu â 68 y cant ar y cam hwn yn 2016;

b) bod mwy na 1,000 yn rhagor o ymgynghorwyr cyfwerth ag amser llawn yn gweithio yng Nghymru yn 2016 nag oedd ym 1999; ac

c) y cafwyd cynnydd o 12 y cant yn nifer y meddygon teulu oedd yn gweithio yng Nghymru rhwng 1999 a 2016.

'Ddim wedi fy argyhoeddi y byddai'n datrys problemau recriwtio a chadw'

Mae Michelle Brown UKIP yn cefnogi'r syniad o Brifysgol Bangor yn croesawu ysgol feddygol newydd yn y Gogledd, "er nad ydw i wedi fy argyhoeddi y byddai'n datrys problemau recriwtio a chadw".

Michelle Brown
BBC

'Rhaglen feddygol fwy cynhwysfawr ac ehangach ar gyfer y Gogledd'

Ar ran y Ceidwadwyr mae Mark Isherwood yn dweud eu bod nhw'n cefnogi'r alwad am ddatblygu ysgol feddygol ym Mangor.

Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru "i weithio gyda sefydliadau iechyd ac addysg ar ddwy ochr y ffin i lunio rhaglen feddygol fwy cynhwysfawr ac ehangach ar gyfer gogledd Cymru".

Meddygon
Thinkstock

Prifysgol Bangor yn 'ddelfrydol' am ysgol feddygol

Mae Prifysgol Bangor mewn "sefyllfa ddelfrydol" i ymateb i'r galw am ysgol feddygol yn y gogledd, yn ôl un o brif feddygon y coleg.

Dywedodd Yr Athro Dean Williams mewn adroddiad newydd fod "angen atebion newydd" i ateb y galw am feddygon yn yr ardal.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd penderfyniad ar y mater o fewn wythnosau.

Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan AC Plaid Cymru, Siân Gwenllian, sy'n cefnogi lleoli safle newydd ym Mangor ac sy'n dweud bod hi'n bryd i'r llywodraeth weithredu.

120 lle hyfforddi newydd?

Mae'r adroddiad newydd, Delio â'r Argyfwng - Ysgol Feddygol Newydd i Gymru, yn amlinellu'r ddadl o blaid hyfforddi meddygon ym Mangor - a hynny er mwyn mynd i'r afael â'r diffyg meddygon mewn ardaloedd gwledig.

Dadl ar hyfforddi a recriwtio staff meddygol

Nawr dadl Plaid Cymru ar hyfforddi a recriwtio staff meddygol.

Mae'r blaid yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi anawsterau parhaus o ran hyfforddi a recriwtio staff meddygol (gan gynnwys meddygon) mewn sawl rhan o Gymru, yn enwedig Cymru wledig a gogledd Cymru.

2. Yn galw am ddatblygu ysgol feddygol ym Mangor fel rhan o ddatblygiad Cymru gyfan tuag at gynyddu hyfforddiant, recriwtio a chadw meddygon yng Nghymru.

Staff meddygol
BBC

Comisiynu cynllun gweithredu diogelwch ar-lein cenedlaethol

Mae'r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams yn dweud bod Llywodraeth Cymru "wedi'i llwyr ymrwymo i gadw plant yn ddiogel ar-lein".

"Rydyn ni i gyd yn gwybod bod trolio gan wrthwynebwyr yn un o'r agweddau lleia boddhaol o'r swydd hon, felly os yw hynny'n ein cael ni i lawr, dychmygwch beth y mae bwlio seibr di-baid yn ei wneud i feddwl ifanc," meddai.

Mae'n cyhoeddi ei bod hi wedi comisiynu cynllun gweithredu diogelwch ar-lein cenedlaethol.

Kirsty Williams
BBC

Rôl rhieni

Mae Gareth Bennett UKIP yn dweud bod plant yn wynebu nifer fawr o beryglon o ddefnyddio'r rhyngrwyd, ond mae'n rhybuddio ei fod yn fater sy'n newid yn gyflym. Mae'n galw am strategaeth "gynhwysfawr" gan y llywodraeth ac yn pwysleisio rôl rhieni.

Y rhyngrwyd
BBC

'Defnydd diogel o'r rhyngrwyd yn rhan hanfodol o addysg plentyn'

Ar ran Plaid Cymru mae Llyr Gruffydd yn nodi "pwysigrwydd llythrennedd ddigidol i Gymru, a bod annog defnydd diogel o'r rhyngrwyd yn rhan hanfodol o addysg plentyn".

Mae'n galw ar Lywodraeth y DU "i weithio gyda'r cwmnïau perthnasol i fynd i'r afael â cham-drin ar-lein, gan nodi'n arbennig y cam-drin y mae menywod a grwpiau lleiafrifol yn ei ddioddef".

Llyr Gruffydd
BBC

Dadl ar blant a'r rhyngrwyd

Nesaf dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar blant a'r rhyngrwyd.

Maen nhw'n cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod yr amryfal risgiau y mae plant yn eu hwynebu wrth ddefnyddio'r rhyngrwyd.

2. Yn nodi pwysigrwydd enfawr cymryd camau i sicrhau bod plant yn cael eu cadw'n ddiogel ar-lein, a'u haddysgu o ran y camau y dylent eu cymryd er mwyn helpu i ddiogelu eu hunain wrth ddefnyddio'r rhyngrwyd.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu ymateb cynhwysfawr i bryderon a godwyd gan yr NSPCC (Y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant), ynghylch cynnydd mewn galwadau cysylltiedig y mae wedi'u cael o ran diogelwch ar y rhyngrwyd.

4. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod blaenoriaethu diogelwch ar-lein yn rhan ganolog o bob strategaeth sy'n anelu at ddarparu cymunedau mwy diogel i blant ledled Cymru.

Plant a'r rhyngrwyd
BBC

Nid yw'n fater hawdd a chyflym i'w ddatrys

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant, yn condemnio yr "ymarfer dichellgar" yma, ond mae'n dweud nad yw'n fater hawdd a chyflym i'w ddatrys, oherwydd "yn gyfreithiol dyw rôl landlordiaid a thenantiaid ddim yn berthnasol pan fo rhyw yn hytrach nag arian yn cael ei ddefnyddio yn gyfnewid am lety".

Fe fydd e'n "parhau i weithio gyda'r Swyddfa Gartref" yn ogystal â chymryd mesurau ataliol fel lleihau digartrefedd.

Carl Sargeant
BBC

'Agoriad llygaid'

Mae Gareth Bennett UKIP yn dweud nad oedd yn ymwybodol o'r mater yma tan iddo weld cynnig deddfwriaethol Dawn Bowden, ac roedd yn "agoriad llygaid" iddo.

Gareth Bennett
BBC

Datrysiadau hir-dymor eraill fel rhagor o dai fforddiadwy

Mae Sian Gwenllian yn cefnogi galwad Dawn Bowden, gan ychwanegu bod angen datrysiadau hir-dymor eraill fel rhagor o dai fforddiadwy fel bo llai o bobl, fel arfer merched yn bennaf, yn cael eu gorfodi i fynd i'r fath sefyllfaoedd.

Sian Gwenllian
BBC

'Yn foesol wrthun'

Mae David Melding yn dweud bod landlordiaid sy'n cynnig llety yn ddi-rent neu ar rent isel yn gyfnewid am ryw yn "amlwg yn foesol wrthun", ac mae'n dweud ei fod yn gobeithio am newid yn y gyfraith.

David Melding
BBC

'Ymarfer ffiaidd ac ecsbloetiol'

Mae Dawn Bowden yn disgrifio hyn fel "ymarfer ffiaidd ac ecsbloetiol" gan "landlordiaid diegwyddor a rheibus".

Mae'n dweud ei bod hi'n "syfrdanol" bod y cytundebau yma yn gyfreithiol, a'u bod yn cael eu hysbysebu ar safleoedd fel Craiglist.

Dawn Bowden
BBC

Eiddo yn ddi-rent yn gyfnewid am ffafrau rhywiol

Nesaf y cyntaf o ddadleuon y prynhawn.

Mae'n ddadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod.

Mae Dawn Bowden yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer gwelliant i Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

2. Yn nodi mai diben y gwelliant fyddai gwahardd hysbysebu eiddo yn ddi-rent gan landlordiaid sy'n disgwyl cydnabyddiaeth am hyn ar ffurf manteision rhywiol.

Tai
Thinkstock

Datganiadau 90 Eiliad

Nawr y Datganiadau 90 Eiliad, lle mae tri aelod yn cael cyfle i godi materion amserol.

99.2% o fusnesau ffarm wedi cael eu talu

Mae Lesley Griffiths yn dweud bod "99.2% o fusnesau ffarm wedi cael eu talu, ac y bydd yr holl achosion heblaw am achosion profiant ac achosion cyfreithiol cymhleth eraill yn cael eu talu erbyn diwedd mis nesaf".

Lesley Griffiths
BBC

Cwestiwn amserol 2

Mae'r ail gwestiwn amserol i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Mae Simon Thomas yn gofyn:

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y 1,761 o geisiadau Glastir sydd heb eu talu o hyd?

Cynllun Glastir
BBC

'Rhaid i ni barhau i fod yn wyliadwrus'

Wrth ymateb i gwestiwn Eluned Morgan mae Mr Gething yn dweud er na wnaeth hyn effeithio arnon ni ar yr achlysur yma, "mae'n rhaid i ni barhau i fod yn wyliadwrus i sicrhau bod ein systemau mor wydn â phosib".

Eluned Morgan
BBC

Cwestiwn amserol 1

Mae'r cwestiwn amserol cyntaf i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething.

Mae Eluned Morgan yn gofyn:

Pa sicrwydd y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei roi bod y seilwaith Technoleg Gwybodaeth (TG) yng Nghymru wedi'i ddiogelu, a sicrhau gofal parhaus i gleifion Cymru yn dilyn yr ymosodiadau seibr yn y GIG yn Lloegr?

Fe gafodd nifer o lawdriniaethau cyffredin ac apwyntiadau meddygon teulu eu canslo ar draw y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr a'r Alban yn dilyn ymosodiad seibr rhyngwladol.

TG
Reuters

Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf yn y Siambr yw'r Cwestiynau Amserol.

Mae'n rhaid i gwestiynau amserol ymwneud â mater o arwyddocâd cenedlaethol, rhanbarthol neu leol y byddai'n ddymunol cael ymateb cyflym iddo gan Weinidog.

Y Llywydd a fydd yn penderfynu sawl cwestiwn amserol i'w ddethol ar gyfer y cyfnod o 20 munud a neilltuwyd, a sut i rannu'r amser sydd ar gael rhwng y cwestiynau hynny.

Galw am olwg 'onest' ar amseroedd aros CAMHS

Mae Rhun ap Iorwerth yn sôn am Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS).

Mae'n cyfeirio at eiriau'r Prif Weinidog yn y Siambr ddoe, bod byrddau iechyd:

"wedi gwneud camau breision i leihau'r nifer sydd wedi bod yn aros dros y 12 i 18 mis diwethaf. Un enghraifft: yn Betsi Cadwaladr, rydyn ni wedi gweld y canran o bobl sy'n cael ymgynghoriad CAMHS o fewn 28 diwrnod wedi codi o 21 y cant ym mis Ebrill y llynedd i 84.5 y cant ym mis Chwefror eleni. Mae hyny'n welliant aruthrol.."

Mae Rhun ap Iorwerth yn cyhuddo'r Prif Weinidog o "gymryd mis lle roedd y ffigyrau ar eu gwaetha fel pwynt dechreuol".

Mae'n galw am olwg "onest" ar amseroedd aros CAMHS.

Rhun ap Iorwerth
BBC

'Cyfradd gadw eitha da ar gyfer nyrsys'

Mae Caroline Jones UKIP yn codi mater recriwtio a chadw nyrsys, ac yn datgan bod yna ostyngiad o 14% mewn termau real yng nghyflogau nyrsys ers 2010.

Mae Mr Gething yn cyfeirio at y bwrsari hyfforddi sydd ar gael i nyrsys sy'n penderfynu gweithio yng Nghymru am o leiaf ddwy flynedd.

"Mae ganddon ni gyfradd gadw eitha da ar gyfer nyrsys sy'n cwblhau eu cyrsiau," meddai.

Nyrs
Getty Images

Cyllid canlyniadol yn dilyn cyllideb Llywodraeth y DU

Mae Suzy Davies yn croesawu'r cyhoeddiad heddiw gan Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y bydd £20 miliwn o gyllid cylchol ychwanegol, sydd ar gael trwy gyllid canlyniadol yn dilyn cyllideb Llywodraeth y DU ym mis Mawrth, yn cael ei fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol.

Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y bydd y £3 miliwn fydd yn cael ei ddarparu ar gyfer awdurdodau lleol i gefnogi seibiant i ofalwyr yn cael ei wario ar "ddarpariaeth rheng flaen".

Suzy Davies
BBC

Amser aros canolrifol diweddaraf

Mae Vaughan Gething yn dweud bod yr amser aros canolrifol diweddaraf ar gyfer profion diagnostig ar draws Cymru yn 2.6 o wythnosau.

Vaughan Gething
BBC

Lleihau amseroedd aros ar gyfer profion diagnostig

Nawr cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething.

Mae Caroline Jones yn gofyn a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran lleihau amseroedd aros ar gyfer profion diagnostig.

Caroline Jones
BBC

Ffordd A456 Blaenau'r Cymoedd yn 'dod yn ei blaen yn dda'

Mae David Rowlands UKIP yn gofyn a yw rhan derfynol ffordd A456 Blaenau'r Cymoedd yn ne ddwyrain Cymru y mynd i gael ei throi yn ffordd ddeuol erbyn i Gylchffordd Cymru agor.

Mae hynny'n dibynnu ar beth sy'n digwydd gyda Chylchffordd Cymru, yw ateb Mr Skates.

Mae'n ychwanegu bod y ffordd yn "dod yn ei blaen yn dda".

David Rowlands
BBC

Tollau Pont Hafren a ffordd liniau'r M4

Mae Russell George yn croesawu cynllun y Ceidwadwyr i ddiddymu tollau Pont Hafren os fyddan nhw'n ennill yr etholiad cyffredinol.

Mae addewid y Ceidwadwyr yn mynd tu hwnt i gynllun presennol y blaid i haneru cost y tollau'r flwyddyn nesaf.

Ar hyn o bryd mae ceir yn gorfod talu £6.70 i groesi, gyda lorïau trwm a bysiau'n talu £20.

Mae Russell George yn gofyn pryd fydd ffordd liniaru'r M4 yn agor i ddarparu hwb pellach i'r economi.

Mae Mr Skates yn dweud bod yr ymchwiliad cyhoeddus yn edrych ar y llwybr 15.23 milltir y mae Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau adeiladu traffordd chwe lôn gwerth £1.1bn i'r de o Gasnewydd i leihau tagfa ar yr M4 presennol rhwng Magwyr a Chas-bach.

Mae'n dweud bod yr "ymchwiliad yn mynd yn ei flaen yn yr amserlen gafodd ei hamlinellu.. ac yn sgil casgliad yr ymchwil fe fydd y gwaith yn dechrau heb oedi".

Pont Hafren
BBC