Got a TV Licence?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

Find out more
I don’t have a TV Licence.

Crynodeb

  1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
  2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
  3. Datganiadau 90 Eiliad
  4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Asesu ar gyfer Dysgu - dull gwahanol yng Nghymru
  5. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Ymgynghoriad ar God Erlyn Llywodraeth Cymru
  6. Dadl y Ceidwadwyr: economi Cymru
  7. Dadl Plaid Cymru: ynni
  8. Dadl Fer: Amddiffyn Cymru i'r genhedlaeth nesaf.

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Sulgwyn

Dyna ddiwedd y trafodion yn y Siambr heddiw.

Mae toriad y Sulgwyn yr wythnos nesaf, felly bydd Senedd Fyw yn ei hôl ddydd Mawrth 6 Mehefin.

Senedd
BBC

Dadl Fer

Yr eitem olaf yn y Siambr heddiw yw'r Ddadl Fer.

Y pwnc a ddewiswyd gan Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru) yw: "Amddiffyn Cymru i'r genhedlaeth nesaf - Yr heriau presennol sy'n wynebu Cymru, ac na welwyd erioed o'r blaen, gan gynnwys y berthynas â gweddill y byd, anghydraddoldeb economaidd, a'r angen am weithredu cadarnhaol ar frys o ran gwella canlyniadau i'r genhedlaeth nesaf".

Dr Dai Lloyd
BBC

Trafod cynigion ar gyfer cwmni ynni i Gymru

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig bod y Cynulliad:

"1. Yn nodi ymrwymiad hirdymor Llywodraeth Cymru i wneud y canlynol:

a) defnyddio ynni mewn modd mor effeithlon â phosibl;

b) lleihau’r ddibyniaeth ar ynni a gynhyrchir o danwyddau ffosil; ac

c) rheoli’r broses o drosglwyddo i economi carbon isel er mwyn cyflawni’r manteision mwyaf posibl i Gymru a diogelu’r bobl sydd fwyaf agored i niwed.

2. Yn cydnabod cyfraniad rhaglenni a gyllidir gan Lywodraeth Cymru, fel Cartrefi Clyd, Nyth ac Arbed, Ynni Lleol, Twf Gwyrdd Cymru a’r rhaglen Byw yn Glyfar o safbwynt ysgogi a chefnogi’r trosglwyddiad cynnar i economi carbon isel.

3. Yn cydnabod rôl Llywodraeth Cymru o safbwynt cefnogi gwaith arloesol ym maes cynhyrchu ynni, fel cynllun peilot lleol a chymunedol Bethesda ar gyfer gwerthu ynni, y cynllun dŵr o bwll glo ym Mhen-y-bont ar Ogwr a chydweithio â diwydiant a’r byd academaidd.

4. Yn nodi’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ar draws Cymru er mwyn trafod cynigion ar gyfer cwmni ynni i Gymru."

Deddf Newid yn yr Hinsawdd

Ar ran UKIP, dywed Neil Hamilton bod rhwymedigaethau o dan y Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd yn arwain at brisiau ynni sylweddol uwch.

Nwy
NWY PRYDAIN

Cap ar brisiau ynni

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar yr amgylchedd, David Melding nad oedden nhw am "wladoli'r sector ynni, am fod pethau'n gweithio'n well i gwsmeriaid a busnesau pan mae'n gweithredu o fewn y farchnad".

Mae'r Ceidwadwyr wedi addo rhoi cap ar brisiau ynni.

Mae'r Prif Weinidog Theresa May wedi dweud y byddai 17m o gartrefi yn elwa o hyd at £100 o'r cap ar dariffiau amrywiol safonol gyda gwerth gwael.

Radiator
Science Photo Library

Ynni Cymru

Dywed llefarydd Plaid Cymru ar ynni, Simon Thomas fod angen y cwmni cenedlaethol er mwyn canolbwyntio ar leihau prisiau ynni i gwsmeriaid drwy ffynonellau adnewyddadwy.

Dyw Plaid Cymru ddim yn awgrymu gwladoli llawn - byddai'r sefydliad Ynni Cymru arfaethedig yn bodoli o fewn y farchnad ynni bresennol.

Yn hytrach, byddai'r sefydliad yn gyrru buddsoddiad mewn isadeiledd, ynni adnewyddadwy, ac ymchwil a datblygu, er mwyn ceisio lleihau cost ynni a mynd i'r afael â newid hinsawdd.

Byddai'n gweithio fel cynhyrchydd, yn hytrach na darparu trydan a nwy yn uniongyrchol i dai pobl.

Ond gallai'r corff hefyd gydlynu datblygiad mentrau cydweithredol lleol a darparwyr dan berchnogaeth fwrdeistrefol allai fod yn gwneud hynny.

ynni
Getty Images

Dadl Plaid Cymru

Dadl Plaid Cymru sydd nesaf, yn dweud y byddai cwmni ynni nid-er-elw i Gymru yn lleihau cost biliau ynni.

Mae'r blaid wedi awgrymu sefydlu corff, tebyg i gwmni nid-er-elw Dŵr Cymru, fyddai'n annog buddsoddiad yn y sector.

trydan
PA

'Rôl arwain Llywodraeth Cymru'

Mae'r Ysgrifennydd Economi Ken Skates yn cynnig bod y Cynulliad:

"1. Yn croesawu rôl arwain Llywodraeth Cymru wrth iddi gydweithio â phartïon eraill i ddileu tollau ar Bontydd Hafren, a fydd yn sicrhau hwb o £100 miliwn i economi Cymru.

2. Yn nodi’r ffaith bod y Prif Weinidog wedi newid ei meddwl o safbwynt cefnogi’r cynnig i ddileu tollau Pontydd Hafren.

3. Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gydweithio â Llywodraeth y DU a phartneriaid ar bob ochr i gyflawni bargen dwf i ogledd Cymru a sicrhau cysylltiadau trafnidiaeth cynaliadwy i mewn i bob rhan o Gymru.

4. Yn nodi’r ffaith mai un rhan yn unig o gynllun Llywodraeth Cymru i gynyddu twf economaidd a gwella’r system drafnidiaeth yng Nghymru yw dileu’r tollau. Mae’r cynllun hwn yn cynnwys gwaith sydd eisoes ar droed i ddatgarboneiddio’r rhwydwaith trafnidiaeth, a hynny’n unol â rhwymedigaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015".

Ken Skates
BBC

'Newid barn fy ffrindiau Ceidwadol'

Mae Neil Hamilton UKIP yn croesawu "newid barn fy ffrindiau Ceidwadol" ynglŷn â diddymu tollau Hafren.

tollau Hafren
BBC

Blaenoriaeth frys trydaneiddio

Mae Plaid Cymru yn tynnu sylw at "flaenoriaeth frys trydaneiddio Llinell Reilffordd Arfordir y Gogledd, Prif Linell Reilffordd De Cymru a Llinellau Rheilffordd y Cymoedd a'u pwysigrwydd o ran ffyniant eu rhanbarthau perthnasol yn y dyfodol".

Mae'r blaid yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud "penderfyniad cadarnhaol o ran ariannu Morlyn Llanw Bae Abertawe er mwyn sicrhau twf economaidd yn yr ardal honno", ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â Chyngor Sir Penfro i ddileu tollau ar Bont Cleddau yn Sir Benfro fel hwb economaidd i'r ardal.

'Hwb o £100 miliwn'

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig yw dadl gyntaf y prynhawn.

Maen nhw'n cynnig bod y Cynulliad:

1. Yn croesawu ymrwymiad Prif Weinidog y DU i ddileu tollau ar Bontydd Hafren, a fydd yn sicrhau hwb o £100 miliwn i economi Cymru.

2. Yn cydnabod yr angen am fargen dwf i ogledd Cymru a phwysigrwydd hyn ar gyfer ffyniant yn y rhanbarth yn y dyfodol.

3. Yn nodi pwysigrwydd datblygu bargeinion rhanbarthol tebyg ar gyfer cymunedau gwledig yng nghanolbarth Cymru er mwyn sicrhau bod ein gwlad yn gweithio i bawb.

Russell George
BBC
Russell George

38 o erlyniadau llwyddiannus

Yn ôl Mr Antoniw, dros y naw mlynedd diwethaf mae swyddogion gorfodi morol sy'n gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru wedi ymchwilio i droseddau ynghylch deddfau pysgodfeydd, gan arwain at 38 o erlyniadau llwyddiannus, gan gynnwys un ar ddeg y llynedd.

'Clir, hygyrch ac yn addas at y diben'

Dywed Mick Antoniw bod "y penderfyniad i erlyn yn gam difrifol.

"Bwriad y Cod arfaethedig yw sicrhau bod penderfyniadau teg a chyson am erlyniadau yn cael eu gwneud o fewn Llywodraeth Cymru.

"Cyn i mi gyhoeddi Cod hoffwn roi'r cyfle i randdeiliaid ac aelodau o'r cyhoedd wneud sylwadau a rhoi eu barn.

"Bydd hyn yn fy ngalluogi i gyhoeddi Cod Erlyn Llywodraeth Cymru sy'n glir, yn hygyrch ac yn addas at y diben".

Mick Antoniw
BBC

Ymgynghoriad ar God Erlyn Llywodraeth Cymru

Mae'r datganiad nesaf gan y Cwnsler Cyffredinol: Ymgynghoriad ar God Erlyn Llywodraeth Cymru.

'Israddio statws athrawon'

Rhybudd Michelle Brown UKIP yw "trwy gynyddu'r defnydd o gyfrifiaduron ar gyfer asesu, rydym yn israddio statws athrawon".

Michelle Brown
BBC

Anfodlonrwydd gyda dulliau asesu presennol

Mae Llyr Gruffydd o Blaid Cymru yn atgoffa Aelodau'r Cynulliad fod adroddiad Donaldson wedi dweud mai anfodlonrwydd gyda dulliau asesu presennol oedd un o'r negeseuon cryfaf a dderbyniodd.

"Felly mae'n dda gweld hyn yn cael ei ddilyn" meddai Mr Gruffydd, sydd hefyd yn cwestiynu ysgrifennydd y cabinet am hunan-asesu ac asesu cyfoedion.

Llyr Gruffydd
BBC

'Barod ar gyfer profion pwysig'

Mae'r Ceidwadwr Darren Millar yn gofyn am sicrwydd "nad ydym yn cael gwared yn llwyr â'r profion papur mewn llythrennedd, rhifedd a phynciau eraill fel y gall ein plant fod yn barod ar gyfer profion pwysig diweddarach"

Darren Millar
BBC

'Pwyslais o'r newydd'

Mae'r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams yn dweud "Rydym yn gweithio gydag ysgolion, consortia rhanbarthol ac yn cymryd cyngor arbenigwyr asesu rhyngwladol, megis Dylan William a John Hattie, er mwyn sicrhau bod pwyslais o'r newydd ar Asesu ar gyfer Dysgu a bod y dysgwr wrth galon ein cynigion. "

Kirsty Williams
BBC

Asesu ar gyfer Dysgu

Rydym yn symud ymlaen at ddatganiadau a ohiriwyd o'r cyfarfod llawn ddoe yn dilyn yr ymosodiad ym Manceinion.

Mae'r un cyntaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams: 'Asesu ar gyfer Dysgu - dull gwahanol yng Nghymru'.

View more on twitter

Ni chyflwynwyd unrhyw Gwestiynau Amserol

Ni chyflwynwyd unrhyw Gwestiynau Amserol, felly yr eitem nesaf yw'r Datganiadau 90 Eiliad.

Rhaid i'r rhain fod yn fyr ac yn ffeithiol, ac nid ydynt yn destun dadl.

View more on twitter

Cefnogi lleoliadau cerddoriaeth fyw

Mae Gareth Bennett UKIP yn croesawu'r bwriad i ddiwygio polisi cynllunio cenedlaethol Cymru mewn ymgais i gefnogi lleoliadau cerddoriaeth fyw.

Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio ffyrdd pellach o gynorthwyo tafarndai a lleoliadau eraill.

Clwb Ifor Bach
BBC

Cydlynwyr cymunedol rhanbarthol

Yn wyneb yr ymosodiad ym Manceinion, mae Bethan Jenkins Plaid Cymru yn gofyn beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran cydlyniant cymunedol, ac mae hi'n condemnio camdriniaeth ar-lein o Fwslimiaid.

Dywed Mr Sargeant bod Llywodraeth Cymru yn cymryd cydlyniant cymunedol o ddifrif, gan ychwanegu, "rydym wedi ariannu ers 2012 wyth o gydlynwyr cymunedol rhanbarthol ar draws Cymru".

Bethan Jenkins
BBC

Datganoli plismona

Mae'r Ceidwadwr Mark Isherwood yn holi Mr Sargeant ar ei gefnogaeth i ddatganoli plismona i Gymru tra ar yr un pryd yn credu ei bod yn well cydgysylltu materion plismona arbenigol, fel polisïau gwrth-frawychiaeth, ar lefel y DU.

plismona
BBC

Ardaloedd Peilot y Cynnig Gofal Plant

Dywed Carl Sargeant bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnig 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant am ddim i rieni yng Nghymru sydd â phlant 3 a 4 oed ac sy’n gweithio, a hynny am 48 wythnos o’r flwyddyn.

Dewiswyd saith awdurdod lleol i weithio gyda Llywodraeth Cymru i dreialu'r Cynnig Gofal Plant newydd, gan gychwyn ym mis Medi.

Carl Sargeant
BBC

Gofal plant

Rydym yn symud ymlaen i Gwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant.

Mae Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru) yn gofyn pa gynnydd a wnaed ar y cynnig gofal plant ar gyfer Cymru.

'Codi baich gweinyddol ar ffermwyr'

Mae arweinydd UKIP Neil Hamilton yn dweud bod Brexit yn gyfle i "godi baich gweinyddol ar ffermwyr heb golli unrhyw fanteision cyhoeddus mawr".

Neil Hamilton
BBC

'Argyfwng'

Mae'r Ceidwadwr Paul Davies yn dweud bod "argyfwng rhwng y cenedlaethau mewn amaethyddiaeth", ac mae'n galw am fwy o gamau i ddenu a chadw ffermwyr ifanc yn y diwydiant.

Dywed Lesley Griffiths, "Nid wyf yn hoffi'r gair 'argyfwng'", ac mae hi'n amlinellu ffyrdd amrywiol y mae ffermwyr ifanc yn cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru.

Paul Davies
BBC

Taliadau cymorth i ffermwyr

Mae Simon Thomas o Blaid Cymru yn dweud "nad oedd maniffesto Plaid Lafur Cymru yn gwneud unrhyw ymrwymiad i gynnal taliadau cymorth i ffermwyr yng nghyfnod y senedd nesaf".

Mae Lesley Griffiths yn ailadrodd, "ni allaf ddychmygu adeg pan nad oes rhaid i ni gefnogi ein sector amaethyddiaeth".

Simon Thomas
BBC

'Rhwymedigaethau rhyngwladol'

Dywed Lesley Griffiths bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 wedi rhoi "sylfeini cadarn i gyflawni ein rhwymedigaethau rhyngwladol".

Lesley Griffiths
BBC

Amddiffyniadau amgylcheddol o dan ddeddfwriaeth yr UE

Dyma'r Cwestiwn Llafar cyntaf a gyflwynwyd:

Huw Irranca–Davies (Ogwr): Pa sicrwydd y gwnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ei roi i sicrhau y caiff yr amddiffyniadau amgylcheddol sydd yn eu lle o dan ddeddfwriaeth yr UE, yn arbennig cyfarwyddebau natur, eu cadw yng Nghymru ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd?

Croeso

Mae'r cyfarfod llawn yn dechrau am 1.30pm gyda Chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig.

Senedd
BBC