Got a TV Licence?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

Find out more
I don’t have a TV Licence.

Crynodeb

  1. Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
  2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
  3. Cwestiynau Amserol
  4. Dadl y Ceidwadwyr: tai
  5. Dadl Plaid Cymru: incwm ffermydd
  6. Dadl Plaid Cymru: y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd
  7. Dadl Fer: Datrys prinder tai Cymru

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

Dyna ni o'r Siambr am yr wythnos.

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth nesaf Mehefin 13.

View more on twitter

Dadl Fer

Ac yn olaf yn y Siambr y prynhawn yma Dadl Fer gan Mike Hedges.

A'r pwnc: Datrys prinder tai Cymru.

Mike Hedges
BBC

Amgylchiadau Cymru a'i hanghenion

Ar ran Llywodraeth Cymru mae Mark Drakeford yn cynnig dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn credu mai yn y Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru, y nodir orau beth yw amgylchiadau Cymru a'i hanghenion yn y dyfodol.

'Arian gollir o'r EU i gael ei drosglwyddo o San Steffan'

Mae Gareth Bennett yn dweud bod UKIP "wastad wedi datgan y dylai cyllid i Gymru sy'n cael ei golli o'r Undeb Ewropeaidd gael ei drosglwyddo o San Steffan".

'Y cytundeb gorau i Gymru a'r DU wrth adael yr UE'

Ar ran y Ceidwadwyr mae Mark Isherwood yn tynnu sylw at ymrwymiad Prif Weinidog y DU "i sicrhau'r cytundeb gorau i Gymru a'r DU wrth adael yr UE" ac mae'n croesawu "gwarant Llywodraeth Geidwadol y DU na fydd pwerau yn cael eu dwyn yn ôl o'r gweinyddiaethau datganoledig, ac y bydd pwerau gwneud penderfyniadau yng Nghymru yn cael eu ehangu".

Mae'n galw ar ACau i "gydnabod ei bod yn bwysig i Gymru a'r Deyrnas Unedig groesawu'r cyfleoedd masnach ac economaidd sy'n gysylltiedig â gadael yr Undeb Ewropeaidd a chefnogi cynllun Llywodraeth y DU i gyflwyno cronfa cyd-ffyniant ar gyfer y Deyrnas Unedig".

Mark Isherwood
BBC

Llwybr Brexit

Dadl ar broses Brexit

Mae ail ddadl Plaid Cymru ar broses Brexit.

Maen nhw'n cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi canlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd y llynedd.

2. Yn cydnabod bod gan Gymru anghenion a gofynion unigryw drwy gydol y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.

3. Yn nodi'r pwysigrwydd bod Cymru yn inswleiddio'i hun oddi wrth yr ansicrwydd economaidd o adael yr Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â manteisio ar y cyfleoedd deddfwriaethol ac economaidd newydd a gaiff eu creu wedi inni adael.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau:

a) bod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru feto dros unrhyw gytundeb masnach dramor;

b) bod y pwerau cyllidol dros Dreth ar Werth a'r Doll Teithwyr Awyr yn cael eu datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y cyfle cyntaf a bod rhagor o ystyriaeth yn cael ei rhoi i gyfradd dreth gorfforaethol unigryw yng Nghymru;

c) bod pwerau caffael yn cael eu datganoli i Gymru i alluogi Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gan fusnesau Cymru fwy o ran yn y broses gaffael i hyrwyddo busnesau Cymru; a

d) nad yw Cymru yn cael yr un geiniog yn llai o arian (yn ôl yr addewid yn ystod ymgyrch y refferendwm ar adael yr Undeb Ewropeaidd) a bod pecyn buddsoddi newydd yn cael ei ddwyn ymlaen i insiwleiddio economi Cymru drwy gydol yr ansicrwydd economaidd a achosir gan y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynlluniau ar gyfer gwasanaeth mudo i Gymru ac i weithio gyda Llywodraeth y DU i gyflwyno deddfwriaeth yn y DU i ganiatáu fisâu rhanbarthol fel bod gan Gymru bolisi mewnfudo sy'n gweithio ar gyfer ei gwasanaethau cyhoeddus a'i heconomi.

Brexit
Thinkstock

Diogelu Dyfodol Cymru

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths yn tynnu sylw at y Papur Gwyn gafodd ei ddatblygu ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, "Diogelu Dyfodol Cymru: Pontio o’r Undeb Ewropeaidd i berthynas newydd ag Ewrop.

Lesley Griffiths
BBC

I ble mae allforion Cymru yn mynd?

'Amaethyddiaeth nawr i gyfrif am lai o gyllideb yr UE'

Mae Neil Hamilton UKIP yn dweud o "wrando ar Blaid Cymru allech chi feddwl y byddai aros yn yr UE yn golygu y byddai'r dyfodol wedi'i ddiogelu am byth... Pan wnaethon ni ymuno gyda'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd i ddechrau roedd amaethyddiaeth i gyfrif am 65-70% o gyllideb yr UE, ond nawr mae lawr i 42%".

'Darparu yr un cyfanswm ariannol ar gyfer cymorth i ffermydd'

Ar ran y Ceidwadwyr mae Paul Davies yn nodi "ymrwymiad Llywodraeth bresennol y DU i ddarparu yr un cyfanswm ariannol o ran cronfeydd ar gyfer cymorth i ffermydd tan ddiwedd senedd nesaf y DU" ac i "weithio gyda chynhyrchwyr bwyd, arbenigwyr amgylcheddol a ffermwyr Cymru a Llywodraeth Cymru i lunio system amaeth-amgylcheddol newydd".

Paul Davies
BBC

Y Sector Ffermio yng Nghymru

Dadl Plaid Cymru ar incwm ffermydd

Nawr dadl gan Blaid Cymru ar effaith Brexit ar y diwydiant ffermio.

Mae'r blaid yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod taliadau Ewropeaidd yn ffurfio 80 y cant o incwm ffermydd yng Nghymru ac mai diben y taliadau hyn yw sicrhau bwyd i bobl am bris rhesymol, o ansawdd uchel, sy'n arddel safonau lles uchel.

2. Yn nodi â phryder y gallai cytundebau masnach anghyfrifol achosi i Gymru gael ei gorlifo â bwyd rhad wedi'i fewnforio, gan niweidio'r diwydiant amaethyddol, yr economi wledig ac iechyd y cyhoedd.

3. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth y DU gyflawni addewidion y rhai a fu'n ymgyrchu'n frwd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, a gwarantu bod y cyllid Ewropeaidd ar gyfer amaethyddiaeth a datblygu gwledig yn cael ei roi'n ôl yn ei gyfanrwydd.

4. Yn credu, er mwyn rhoi diogelwch i ffermwyr Cymru a chymunedau gwledig, y dylai Llywodraeth y DU gael cymeradwyaeth pob gwlad yn y DU cyn llofnodi unrhyw gytundeb masnach.

Fferm
Getty Images

Ymrwymiadau Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru eisiau dileu holl gynigion y Ceidwadwr a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i fodloni anghenion amrywiol pobl Cymru o ran tai, gan weithio mewn partneriaeth ag adeiladwyr preifat, y sector rhentu preifat, y cynghorau a'r cymdeithasau tai.

2. Yn croesawu ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i:

a) adeiladu 20,000 ychwanegol o dai fforddiadwy erbyn 2021, gan gynnwys 6,000 drwy'r cynllun Cymorth i Brynu – Cymru a 1,000 drwy ei chynllun newydd Rhentu i Brynu;

b) gweithio gyda datblygwyr i annog a hwyluso eu gwaith ehangach o adeiladu cartrefi ar gyfer y farchnad a datgloi potensial busnesau bach a chanolig i adeiladu cartrefi a chreu swyddi â sgiliau ledled Cymru;

c) diogelu'r stoc bresennol o dai cymdeithasol ac annog cymdeithasau tai a chynghorau i fuddsoddi mewn darparu cartrefi newydd drwy ddiddymu'r Hawl i Brynu;

d) buddsoddi mewn datblygu dulliau arloesol o adeiladu tai i ateb yr heriau gan gynnwys patrymau demograffig sy'n newid a'r angen am gartrefi effeithlon o ran ynni;

e) parhau i ailddefnyddio cartrefi gwag a chynnwys darparu tai yn rhan o'i chynlluniau adfywio;

f) sicrhau bod mwy o dir, gan gynnwys tir mewn meddiant cyhoeddus, ar gael i'w ddatblygu i ddarparu tai;

g) parhau i godi safonau yn y sector rhentu preifat a gweithredu ar ffioedd asiantau gosod i denantiaid; a

h) adeiladu ar lwyddiant ei hymyrraeth gynnar mewn perthynas â digartrefedd drwy weithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael â phroblemau pobl sy'n cysgu ar y stryd.

Carl Sargeant
BBC

'Chwyddiant prisiau tai yn mynd y tu hwnt i gyflogau'

Mae Gareth Bennett UKIP yn dweud mai'r "broblem enfawr yw chwyddiant prisiau tai yn mynd y tu hwnt i gyflogau".

Mae'n cwestiynu pam bod y cynllun Hawl i Brynu ond yn berthnasol i dai newydd.

Gareth Bennett
BBC

Galwad ar i Lywodraeth Cymru wahardd ffioedd asiantau gosod

Mae Plaid Cymru yn dweud bod "ffioedd gosod yn rhwystro teuluoedd incwm isel rhag symud cartref o fewn y sector rhentu preifat, ac y gall hyn ostwng ansawdd cartrefi wrth iddo ddileu gallu teuluoedd i adael llety anaddas".

Mae'r blaid yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd ffioedd asiantau gosod.

Mae ACau o bob gwrthblaid yn y Cynulliad wedi cefnogi gwaharddiad ar ffioedd o'r fath.

Mae Plaid Cymru hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru "i archwilio ffyrdd y gellir defnyddio'r system gynllunio ymhellach i flaenoriaethu adeiladu cartrefi ar gyfer pobl sy'n prynu am y tro cyntaf a theuluoedd, ac osgoi gadael i ddatblygiadau newydd gael eu dominyddu'n anghymesur gan berchnogaeth prynu i osod a pherchnogaeth ail gartref".

Tai
BBC

Dadl y Ceidwadwyr ar dai

Mae'r ddadl gyntaf y prynhawn gan y Ceidwadwyr Cymreig a'r pwnc yw tai.

Maen nhw'n cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r prinder dybryd o gartrefi ar gyfer pobl iau a theuluoedd i'w prynu neu eu rhentu am bris sy'n agos at y tueddiad hanesyddol.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i seilio ei chyfrif o ran anghenion tai ar y rhagolygon amgen yn y ddogfen 'Future Need and Demand for Housing in Wales'.

3. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i:

a) cyhoeddi strategaeth er mwyn sicrhau bod mwy o dir, gan gynnwys safleoedd tir llwyd, ar gael i adeiladu tai;

b) sicrhau mwy o fuddsoddiad mewn sgiliau galwedigaethol ar gyfer y sector adeiladu a datblygu prentisiaethau modern; ac

c) archwilio'r opsiynau ar gyfer byw fel teulu mewn lleoliadau trefol o ddwysedd uwch, yn dilyn yr arfer gorau mewn llawer o ddinasoedd Ewrop.

Tai
Thinkstock

Datganiadau 90 Eiliad

Nawr y Datganiadau 90 Eiliad, lle mae tri aelod yn cael cyfle i godi materion amserol.

View more on twitter

'Perthynas fasnachol a buddsoddi'

Mae arweinydd y Tŷ Jane Hutt yn dweud bod "gan Lywodraeth Cymru berthynas fasnachol a buddsoddi gyda Qatar," gan gynnwys cefnogi hediadau o Faes Awyr Caerdydd i'r Dwyrain Canol ar Qatar Airways.

Ddiwedd Ebrill cyhoeddodd y cwmni awyrennau y byddan nhw'n dechrau teithiau rhwng Doha a Chaerdydd yn 2018 - y tro cyntaf y bydd modd hedfan yn uniongyrchol o Gymru i'r Dwyrain Canol.

Mae ffigyrau gafodd eu rhyddhau ym mis Ebrill yn dangos bod gwerth £26m o allforion o Gymru wedi mynd i Qatar yn 2016.

Awyren Qatar Airways
Qatar Airways

Y berthynas rhwng Llywodraethau Cymru a Qatar

Mae'r unig gwestiwn amserol heddiw gan Steffan Lewis:

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y berthynas rhwng Llywodraethau Cymru a Qatar ar ôl i gymdogion Qatar dorri’r cysylltiadau diplomyddol â’r wlad honno?

Mae nifer o wledydd Arabaidd - gan gynnwys Saudi Arabia a'r Aifft - wedi torri cysylltiadau gyda Qatar. Maen nhw wedi cau ffiniau ac wedi atal teithiau i Qatar gan gyhuddo'r wlad o ddadsefydlogi'r rhanbarth trwy gefnogi'r Wladwriaeth Islamaidd ac Al Qaeda. Mae Qatar yn dweud nad oes unrhyw sail i'r cyhuddiadau.

Qatar
Reuters

Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf yn y Siambr yw'r Cwestiynau Amserol.

Mae'n rhaid i gwestiynau amserol ymwneud â mater o arwyddocâd cenedlaethol, rhanbarthol neu leol y byddai'n ddymunol cael ymateb cyflym iddo gan Weinidog.

Y Llywydd a fydd yn penderfynu sawl cwestiwn amserol i'w ddethol ar gyfer y cyfnod o 20 munud a neilltuwyd, a sut i rannu'r amser sydd ar gael rhwng y cwestiynau hynny.

Cwestiynau
bbc

Dim cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Does dim cwestiynau wedi eu cyflwyno i Gomisiwn y Cynulliad, corff gorfforedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r Comisiwn yn cynnwys y Llywydd a phedwar Aelod arall a enwebwyd gan y prif bleidiau gwleidyddol. Cyflogir staff y Comisiwn gan y Comisiwn ac mae Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad yn bennaeth arnynt.

'Yn niwlog ar y gorau, neu, fel ddoe, yn hollol gamarweiniol'

Mae'r Ceidwadwr Nick Ramsay yn tynnu sylw at benderfyniad Llywodraeth Cymru ddoe i oedi cyn cyflwyno penderfyniad ariannol, y dull a ddefnyddir gan y Cynulliad i gymeradwyo gwariant y llywodraeth fel rhan o gyfraith newydd, hyd nes ei bod wedi cyhoeddi costau arfaethedig diwygiedig ar gyfer ei Mesur i wella Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru.

Mae'n gofyn "ydych chi'n poeni bod y costau sy'n gysylltiedig gyda deddfwriaeth y mae'r llywodraeth am ei chyflwyno, yn aml yn ymddangos yn niwlog ar y gorau, neu, fel yn yr achos ddoe, yn hollol gamarweiniol?"

Mae Mr Drakeford yn dweud mai "dyletswydd gweinidogion sy'n dod â'r ddeddfwriaeth gerbron, yw gwneud yn sicr ein bod ni'n gwneud popeth y gallwn ni i sicrhau bod y wybodaeth mor ddibynadwy ac y gall fod".

Nick Ramsay
BBC

Carwyn Jones am ddisodli fformiwla Barnett

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud y byddai Llafur yn cael gwared â fformiwla Barnett, sy'n rheoli faint mae'r Cynulliad yn ei dderbyn gan Lywodraeth y DU.

Mae'r blaid Lafur yn yr Alban, ar y llaw arall, wedi dweud na fydd hi'n cael ei disodli.

Mae fformiwla Barnett yn penderfynu lefel gwariant cyhoeddus yng Nghymru, Gogledd Iwerddon, a'r Alban, gan ddyrannu cyllid yn seiliedig ar faint y boblogaeth a'r pwerau a ddatganolwyd iddynt.

Cafodd ei henwi ar ôl ei dyfeisiwr, cyn brif ysgrifennydd trysorlys y blaid Lafur, Joel Barnett, ond mae wedi bod yn ddadleuol ac wedi cael ei ystyried i fod yn tanariannu Cymru dros y blynyddoedd.

Bydd fformiwla Barnett yn parhau mwy na thebyg yn y tymor canolig'

Mae Adam Price Plaid Cymru yn cyhuddo Llafur Cymru a Llafur y DU o frwydro mewnol dros fformiwla Barnett, ac yn galw ar Mr Drakeford i egluro cynlluniau am y ffordd y mae arian yn cael ei ddosbarthu i'r cenhedloedd datganoledig a rhanbarthau Lloegr.

Mae Mr Drakeford yn dweud y bydd "fformiwla Barnett yn parhau yn y tymor byr a mwy na thebyg yn y tymor canolig tra eu bod yn chwilio am drefn arall yn ei lle".

Adam Price
BBC

'Effaith economaidd niweidiol ar Gymru'

Mae Neil Hamilton UKIP yn gofyn pa asesiad sydd wedi ei wneud ar "yr effaith economaidd niweidiol ar Gymru" os y bydd Llafur yn cael eu hethol yfory ac yn cynyddu treth gorfforaeth o 19% i 26%.

Mae Mr Drakeford yn ateb "mae e'n anghywir yn ceisio tynnu llinell uniongyrchol rhwng codiadau mewn ffurfiau penodol o drethiant a'u heffaith yma yng Nghymru".

Neil Hamilton
BBC

Ymgynghoriad yn cael eu dadansoddi

Mae Mr Drakeford yn dweud bod y papur gwyn 'Diwygio Llywodraeth leol: Cadernid ac adnewyddiad' yn cynnwys nifer o gynigion ac mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd.

Mark Drakeford
BBC

Diwygio Llywodraeth leol

Mae cwestiwn cyntaf a gyflwynwyd gan Janet Finch-Saunders (Aberconwy):

Sut y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicrhau mwy o atebolrwydd democrataidd yn achos unrhyw ddiwygio llywodraeth leol yn y dyfodol?

Janet Finch-Saunders
BBC

Croeso nôl

Croeso nôl i Senedd Fyw.

Mae'r Cyfarfod Llawn ar fin dechrau gyda chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford.

Nôl am 1.30pm

Mae'r aelodau bellach yn cwrdd yn breifat.

Fe fydd Senedd Fyw'n ôl am 1.30pm ar gyfer y Cyfarfod Llawn.

£10 miliwn o'r gronfa gofal sylfaenol genedlaethol

Mae'r clystyrau gofal sylfaenol wedi defnyddio eu cyfran o'r £10 miliwn o'r gronfa gofal sylfaenol genedlaethol mewn amryw ffyrdd.

Mae Dawn Bowden Llafur yn gofyn am sicrwydd eu bod yn darparu gwerth am arian.

Mae'r ACau yn clywed bod y £10 miliwn yn dod dro ar ôl tro a bod nifer o glystyrau yn buddosddi mewn gweithwyr ychwanegol fel fferyllwyr, ffisiotherapyddion a gweithwyr cymdeithasol.

Dawn Bowden
BBC

'Atebol i amgylchiadau lleol'

Mae'r aelod Ceidwadol Suzy Davies yn gofyn ynghylch ymarferoldeb gweithredol sawl tîm yn cydweithio ar draws ffiniau disgyblaethau, fel pwy sy'n gyfrifol am gyflogi staff o fewn clystyrau.

Mae Mr Gething yn dweud bod yna amrywiaeth o ffurfiau i gyflawni gofal cynaliadwy a hawdd ei gyrraedd yn datblygu drwy weithio clwstwr ar draws Cymru.

Mae'n dweud bod y modelau hyn yn amrywio o ran budd rhwydweithiau, lefelau integreiddio, cyflogaeth staff, trefniadau cytundebol, rheolaeth cyllidebol, mecanwaith cefnogaeth mewnol a hyblyg sy'n atebol i amgylchiadau lleol.

Suzy Davies
BBC

Asesiad ffurfiol yng Ngwanwyn 2018

Mewn ymateb i ddatganiad Vaughan Gething y bydd asesiad ffurfiol o weithio clwstwr yn cael ei gynnal yn y Gwanwyn y flwyddyn nesaf, mae Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru yn gofyn am sicrwydd ynghylch beth sy'n cael ei wneud nawr i fesur cynnydd a chanlyniadau.

Rhun ap Iorwerth
BBC

'Fyddwn ni'n cael ein taro i lawr os yn aros yn llonydd'

"Fe fyddwn ni'n cael ein taro i lawr os ydyn ni'n aros yn llonydd", medd Mr Gething, gan bwysleisio'r angen i sawl proffesiwn a sawl sector gyfrannu, gyda meddygon teulu yng nghalon y cyfan.

'Yn gymharol gynnar ar y daith yn nhermau clystyrau gofal' sylfaenol'

Mae Caroline Jones UKIP yn awgrymu bod effaith clystyrau gofal sylfaenol wedi'i gyfyngu o ran gostwng y galw ar feddygon teulu a gofal eilaidd.

Mae Vaughan Gething yn dweud ei fod yn ymwneud â "newid y galw a sut rydyn ni'n gwneud hyn yn fwy addas yn hytrach na lleihau'r galw".

"Rydyn ni'n gymharol gynnar yn y daith yn nhermau clystyrau gofal sylfaenol, felly mae'r dystiolaeth yn gyfyngedig".

Caroline Jones
BBC

Ymchwiliad i ofal sylfaenol

Mae'r aelodau yn cynnal ymchwiliad i ofal sylfaenol.

Mae Sesiwn Dystiolaeth 10 gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon.

Yn rhoi tystiolaeth gyda Vaughan Gething AC, mae

Grant Duncan, Dirprwy Gyfarwyddwr, Gofal Sylfaenol, Llywodraeth Cymru

Dr Richard Lewis, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Sylfaenol, Llywodraeth Cymru.

Grant Duncan, Vaughan Gething, Dr Richard Lewis
BBC

Bore da

Croeso i Senedd Fyw sy'n darlledu Cyfarfod o'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

Y Senedd
BBC