Got a TV Licence?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

Find out more
I don’t have a TV Licence.

Crynodeb

  1. Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
  2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
  3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
  4. Cwestiynau Amserol
  5. Dadl gan Aelodau Unigol: effeithlonrwydd ynni
  6. Dadl gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ei adroddiad ar ddyfodol polisïau amaethyddol a datblygu gwledig
  7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: addysg uwch
  8. Dadl Fer: Technoleg a'r Gymraeg: Perygl neu gyfle?

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

Dyna ni o'r Siambr am yr wythnos.

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth nesaf Gorffennaf 4.

Y Senedd
BBC

Technoleg yn allweddol i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050

Mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies, yn cydnabod bod achub y cyfle o ran technoleg a'r byd digidol yn allweddol i ymrwymiad maniffesto Llafur yn etholiad y cynulliad i sicrhau bod yna filiwn o bobl yn siarad Cymraeg erbyn 2050.

Alun Davies
BBC

'Angen buddsoddiad hir-dymor mewn gwasanaethau digidol'

"Does dim rhaid i dechnoleg fod yn elyn i'r iaith Gymraeg," medd Llyr Gruffydd.

Mae'n galw am fuddsoddiad hir-dymor mewn gwasanaethau digidol dwyieithog a Chymraeg.

'Gwaith arloesol uned technolegau iaith'

Cynorthwy-ydd rhithwir Siri wedi drysu

Mae Llyr Gruffydd yn gofyn cyfres o gwestiynau yn Gymraeg i'r cynorthwy-ydd rhithwir iPhone Siri, cwestiynau y mae'r teclun yn eu camddeall.

Siri
BBC

Dadl Fer: Technoleg a'r Gymraeg: Perygl neu gyfle?

Ac yn olaf yn y Siambr heddiw Dadl Fer gan Llyr Gruffydd.

A'r pwnc: Technoleg a'r Gymraeg: Perygl neu gyfle?

Sut y mae'r Gymraeg yn ymdopi â heriau, bygythiadau a chyfleon y dechnoleg newydd.

Y Gymraeg
BBC

'Cynllun cyflogadwyedd newydd ar gyfer pob oedran'

Mae'r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, yn amddiffyn "uchelgais Llywodraeth Cymru wrth iddi ddatblygu cynllun cyflogadwyedd newydd ar gyfer pob oedran y mae a wnelo rhan allweddol ohoni â'r angen am gyngor effeithiol a chydgysylltiedig am yrfaoedd er mwyn cynorthwyo unigolion i fanteisio ar y cyfleoedd mwyaf priodol o ran addysg, cyflogaeth a hyfforddiant".

Mae'n pwysleisio "pwysigrwydd hanfodol dysgu gan oedolion ynghyd â datblygu sgiliau ategol ar gyfer pobl o bob oedran".

Julie James
BBC

Annog y llywodraeth i gadarnhau ei chynigion ar gyfer cymorth i fyfyrwyr a chyllid addysg uwch

Mae Plaid Cymru yn annog Llywodraeth Cymru i "gadarnhau ei chynigion ar gyfer cymorth i fyfyrwyr a chyllid addysg uwch cyn gynted ag y mae hynny'n rhesymol ymarferol er mwyn galluogi'r sector Addysg Uwch i gynllunio ar gyfer blwyddyn academaidd 2018/19".

Cymorth i fyfyrwyr

Gyrfa Cymru 'ddim yn addas i'w bwrpas'

Yn gynharach yn yr wythnos fe honnodd AS newydd Gogledd Orllewin Bryste, Darren Jones, mai fe oedd y Darren cyntaf i'w ethol i Dŷ'r Cyffredin.

Mae'r Darren cyntaf yn y Senedd, Darren Millar, yn datgan diddordeb yn y ddadl hon fel myfyriwr Addysg Uwch rhan amser.

Mae'n honni nad yw Gyrfa Cymru yn "addas i'w bwrpas, bod ganddo ddiffyg anferth mewn adnoddau, ac nad yw'n cyflawni y math o gyngor annibynnol sydd ei angen ar ein dysgwyr".

Darren Millar
BBC

Dadl ar addysg uwch

Nawr dadl gan y Ceidwadwyr Cymreig ar addysg uwch.

Mae'r Ceidwadwyr yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae addysg uwch ran amser yn ei wneud i economi Cymru, yn arbennig yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.

2. Yn cefnogi mentrau fel Wythnos Addysg Oedolion ac yn cydnabod pwysigrwydd cyfleoedd addysg oedolion ac addysg yn y gymuned i Gymru.

3. Yn croesawu'r pecyn cymorth arfaethedig ar gyfer addysg uwch ran amser a myfyrwyr rhan amser a gyflwynwyd yn ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad Diamond.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) darparu gwasanaeth cynghori ac addysg ym maes gyrfaoedd i bob oedran sy'n rhoi parch cydradd i opsiynau astudio llawn amser a rhan amser, yn cefnogi cynnydd i bobl sydd mewn cyflogaeth cyflog isel, ac yn cydnabod manteision ehangach addysg oedolion ac addysg yn y gymuned tuag at wella iechyd a llesiant; a

b) buddsoddi mewn addysg oedolion ac addysg yn y gymuned er mwyn hwyluso llwybrau i addysg bellach ac addysg uwch, a thrwy'r opsiynau hynny.

Addysg Uwch
PA

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths yn cyflwyno ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad. Yn gyffredinol mae'n derbyn yr holl argymhellion, rhai mewn egwyddor.

'Dylen ni baratoi ar gyfer y senario gwaetha posib'

"Fe ddylen ni baratoi ar gyfer y senario gwaetha posib o syrthio oddiar glogwyn a syrthio ar reolau Mudiad Masnach y Byd," medd Eluned Morgan.

Eluned Morgan
BBC

Dyfodol amaethyddiaeth a bywyd gwledig

26 o argymhellion

Mae Mike Hedges gafodd ei benodi yn gadeirydd newydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yr wythnos ddiwethaf yn cyflwyno'r adroddiad sydd â 26 o argymhellion.

Yn eu plith mae:

1. Dylai Llywodraeth y DU sicrhau mynediad di-dariff a di-gwota i Farchnad Sengl yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer cynhyrchion amaethyddol a chynhyrchion bwyd Cymru.

2. Dylai Llywodraeth Cymru gael llais cydradd wrth y bwrdd trafod yn ystod y trafodaethau ar fynediad i’r Farchnad Sengl. Yn ystod y trafodaethau, dim ond safbwynt y mae cytundeb yn ei gylch yn y DU y caiff Llywodraeth y DU ei gyflwyno, nid safbwynt sy’n cael ei arwain gan y DU.

3. Rhaid i Lywodraeth y DU ddiogelu buddiannau cynhyrchwr cig oen Cymru a chynnig eglurder cyn gynted â phosibl am ei strategaeth negodi ynghylch dyfodol cwota cig oen Seland Newydd ar gyfer y DU.

4. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gydag Adrannau perthnasol Llywodraeth y DU i gynyddu’n sylweddol ei hymdrechion masnach yn rhyngwladol er mwyn datblygu marchnadoedd allforio newydd ar gyfer cig oen Cymru a chryfhau’r marchnadoedd presennol.

Mike Hedges
BBC

Dyfodol polisïau amaethyddol a datblygu gwledig

Am yr awr nesaf yn y Siambr mae yna ddadl gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ei adroddiad ar ddyfodol polisïau amaethyddol a datblygu gwledig yng Nghymru.

Amaethyddiaeth
BBC

Dadl gan Aelodau Unigol - ACau yn cytuno ar y cynnig

Mae'r aelodau yn cytuno ar y cynnig heb wrthwynebiad.

'Gwneud cynnydd yn taclo tlodi tanwydd'

Mae Lesley Griffiths yn ymateb i'r ddadl drwy ddweud bod "llawer o hyn yn cyd-weld gyda fy natganiad ynni ym mis Rhagfyr y llynedd".

Mae'n dweud "rydyn ni yn gwneud cynnydd yn taclo tlodi tanwydd, er gwaetha'r ffaith bod nifer o'r pwerau heb eu datganoli".

'Angen gwneud llawer, llawer, llawer mwy'

Ar fater effeithlonrwydd ynni yn y cartref, mae Lee Waters yn dweud "mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer, ond mae angen i ni wneud llawer, llawer, llawer mwy".

Lee Waters
BBC

'Mwy nag ychydig o eironi yn y cynnig i leihau tlodi tanwydd'

Mae David Rowlands UKIP yn dweud bod yna "fwy nag ychydig o eironi yn y cynnig i leihau tlodi tanwydd pan fo cymaint ohono o ganlyniad i brisiau tanwydd uchel oherwydd trethi digarbonadu".

David Rowlands
BBC

Mynd i'r afael â thlodi tanwydd

'Gwneud effeithlonrwydd ynni yn y cartref yn flaenoriaeth buddsoddi seilwaith'

Mae Huw Irranca-Davies yn canmol yr adroddiad Effeithlonrwydd Ynni: Blaenoriaeth seilwaith, sy'n gosod "achos cryf i'r Llywodraeth i wneud effeithlonrwydd ynni yn y cartref yn flaenoriaeth buddsoddi seilwaith, ac i ddatblygu rhaglen seilwaith i weithredu hyn".

Huw Irranca-Davies
BBC

Dadl gan Aelodau Unigol

Nesaf y cyntaf o ddadleuon y prynhawn.

Mae'n ddadl gan Aelodau Unigol.

Mae

Huw Irranca–Davies (Ogwr)

Jeremy Miles (Castell-nedd)

gyda chefnogaeth:

Lee Waters (Llanelli)

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r £217 miliwn o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru dros y pum mlynedd diwethaf ac ymrwymiad pellach o £104 miliwn dros y pedair blynedd nesaf i wella effeithlonrwydd ynni yn y cartref a mynd i'r afael â thlodi tanwydd.

2. Yn nodi ymhellach bod angen i effeithlonrwydd ynni yn y cartref gael ei wella'n sylweddol os yw Cymru am gyrraedd ei nod o ran datgarboneiddio a lleihau tlodi tanwydd.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried amrywiaeth ehangach o ddulliau buddsoddi ar gyfer effeithlonrwydd ynni, gan gynnwys cyllid arloesol, gwneud defnydd da o bensiynau'r sector cyhoeddus, a defnyddio cyllid y sector preifat.

4. Yn nodi'r cynnig i sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod anghenion seilwaith ynni hirdymor Cymru a chyfleoedd ar gyfer effeithlonrwydd ynni yn cael eu cynnwys o fewn ei gylch gwaith.

5. Yn credu y byddai buddsoddiad o'r fath yn rhoi hwb enfawr i ymdrechion i fynd i'r afael â thlodi tanwydd mewn rhai o'n cartrefi hynaf, gan ddarparu cartrefi cynnes a chlyd, gwella iechyd a llesiant pawb ac yn arbennig y mwyaf agored i niwed.

6. Yn credu ymhellach y byddai hyn yn helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd, lleihau'r allyriadau carbon drwy effeithlonrwydd ynni, lleihau'r defnydd o ynni a lleihau nifer y gorsafoedd pŵer newydd sydd angen inni eu hadeiladu.

7. Yn cydnabod y potensial ar gyfer twf economaidd, gan greu miloedd o swyddi ym mhob cymuned ym mhob rhan o Gymru.

ynni
Getty Images

Datganiadau 90 Eiliad

Nawr y Datganiadau 90 Eiliad, lle mae tri aelod yn cael cyfle i godi materion amserol.

'Hynod, hynod siomedig'

Mae Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates yn dweud ei fod yn "sefydlu tasglu i sicrhau y canlyniad gorau posib i staff".

Mae'n ychwanegu ei fod yn "hynod, hynod siomedig", nid yn unig ynghylch y penderfyniad ond hefyd ynghylch sut y gwnaeth Llywodraeth Cymru a gweithwyr Tesco glywed am y penderfyniad.

Mae hefyd yn cyfeirio at y newyddion heddiw bod Tesco yn bwriadu cael gwared â 1,200 o swyddi ym mhencadlys y cwmni yn y DU fel rhan o ymgyrch anferth i dorri costau.

Ken Skates
BBC

1,100 o swyddi yn cael eu colli

Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth archfarchnad Tesco gadarnhau y bydd 1,100 o swyddi yn cael eu colli yn ei chanolfan alwadau yng Nghaerdydd.

Dywedodd Tesco mai'r bwriad yw ffurfio un ganolfan yn Dundee yn Yr Alban, a bydd 250 o swyddi yn cael eu creu yno.

Yn ôl undeb USDAW mae staff y ganolfan yng Nghaerdydd wedi cael gwybod am y cynllun ac fe fydd y ganolfan yn ardal Y Mynydd Bychan yn cau'r flwyddyn nesaf.

Dywedodd Tesco bod yn rhaid iddyn nhw sicrhau bod y busnes yn "gynaliadwy ac yn gost-effeithiol".

Cynlluniau i gau Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid Tesco yng Nghaerdydd

Mae'r unig gwestiwn amserol i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates.

Mae Adam Price yn gofyn pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd o ran ymateb i'r cynlluniau arfaethedig i gau Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid Tesco yng Nghaerdydd.

Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid Tesco yng Nghaerdydd
BBC

Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf yn y Siambr yw'r Cwestiynau Amserol.

Mae'n rhaid i gwestiynau amserol ymwneud â mater o arwyddocâd cenedlaethol, rhanbarthol neu leol y byddai'n ddymunol cael ymateb cyflym iddo gan Weinidog.

Y Llywydd a fydd yn penderfynu sawl cwestiwn amserol i'w ddethol ar gyfer y cyfnod o 20 munud a neilltuwyd, a sut i rannu'r amser sydd ar gael rhwng y cwestiynau hynny.

Cwestiynau
BBC

'Defnyddio asedau yn ein hardaloedd lleol i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb'

Mae Mark Isherwood (Gogledd Cymru) yn gofyn: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio asedau yn ein hardaloedd lleol i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb?

Mae Mr Sargeant yn cyfeirio at y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol fel enghraifft.

Mark Isherwood
BBC

'Dim grym i orfodi landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i brofi gorchuddion'

Mewn ymateb i Bethan Jenkins, mae Carl Sargeant yn dweud nad oes cladin ACM - deunydd alwminiwm cyfansawdd - gafodd ei ddefnyddio ar Dŵr Grenfell mewn unrhyw o'n hadeiladau ni yng Nghymru".

Mae'n ychwanegu, "rydyn ni'n dysgu mwy bob dydd".

Mae e hefyd yn dweud nad oes ganddo'r grym i orfodi landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i gynnal profion ar orchuddion.

Tŵr Grenfell
AFP
Tŵr Grenfell

Materion sy'n codi o drychineb Tŵr Grenfell

Mae Gareth Bennett UKIP yn gofyn am sicrwydd nad yw'r rhaniad o ran cyfrifoldebau rhwng Carl Sargeant a Lesley Griffiths yn amharu ar ymdrechion i daclo materion sy'n codi yn sgil trychineb Tŵr Grenfell.

"Fi yw'r gweinidog sy'n arwain ar reoliadau tân" medd Mr Sargeant.

Carl Sargeant
BBC

Cefnogaeth sydd ar gael i gyn-filwyr

Nawr cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant.

Mae Hefin David (Caerffili) yn gofyn a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y gefnogaeth sydd ar gael i gyn-filwyr yng Nghaerffili.

Mae'n galw ar y llywodraeth i edrych ar fater problem gamblo ymhlith cyn-filwyr.

Lluoedd arfog
BBC

Cefnogaeth ariannol i ffermwyr i barhau ar y lefelau presennol tan 2022

Mewn ymateb i Llyr Gruffydd Plaid Cymru, mae Lesley Griffiths yn cadarnhau ei bod hi wedi cael sicrwydd bod yr ymrwymiad sydd wedi ei roi i Ogledd Iwerddon y bydd cefnogaeth ariannol i ffermwyr yn parhau ar y lefelau presennol tan yr etholiad yn 2022, hefyd yn berthnasol i Gymru.

Mae Cytundeb Hyder a Chyflenwi Llywodraeth y DU a Phlaid y DUP yn golygu y bydd £1bn o gyllid ychwanegol ar gyfer Gogledd Iwerddon dros y ddwy flynedd nesaf.

Llyr Gruffydd
BBC

'Edrych ar reoliadau yn bragmataidd i sicrhau eu bod yn gymesur'

Mae Neil Hamilton UKIP yn dweud y gallai rheoliadau fydd yn wynebu ffermwyr wedi Brexit fod yn "fwy cymesur".

Mae Lesley Griffiths yn ateb "Mae gen i 7,000 o ddarnau o reoliadau yn fy mortffolio.. fydden ni ddim yn gadael y safonai amgylcheddol ostwng ac fe allen ni gryfhau rhai mewn mannau os fyddai angen.

"Ond rydych chi'n iawn, mae angen i ni edrych ar hyn yn bragmataidd i sicrhau ei fod yn gymesur".

Neil Hamilton
BBC

'Dylid gwahardd y defnydd o faglau nad ydynt yn cydymffurfio â’r cod ar dir sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru'

Mae Simon Thomas Plaid Cymru yn gofyn a yw ysgrifennydd y cabinet yn derbn argymhelliad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y dylid gwahardd y defnydd o faglau nad ydynt yn cydymffurfioâ’r cod ar dir sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru.

Mae Lesley Griffiths yn dweud y bydd hi'n ymateb i'r adroddiad yn y man, ond yn ychwanegu, "Rydw i bendant yn gobeithio gallu gwneud hynny".

Simon Thomas
BBC

Asesiad o ymgynghoriadau cyn gwneud cais

Mae'r aelod Ceidwadol David Melding yn gofyn am adran 17 o'r Ddedf Gynllunio (Cymru) 2015 sy'n golygu ei bod hi'n ofynnol i ymgeiswyr i gynnal ymgynghoriadau cyn gwneud cais. Mae Lesley Griffiths yn dweud bod yna asesiad yn mynd rhagddo nawr bod hyn wedi bod yn weithredol ers 15 mis.

David Melding
BBC

Cwestiynau heb rybudd

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

View more on twitter

Sylwadau Gohebydd Golwg Mared Ifan

'Y posibilrwydd o gyllido ymgyrch newid ymddygiad gwell'

Mae Lesley Griffiths yn dweud ei bod hi'n "trafod gydag awdurdodau lleol y posibilrwydd o gyllido ymgyrch newid ymddygiad gwell" i atgyfnerthu negeseuon WRAP Cymru.

Lesley Griffiths
BBC

Annog ailgylchu gwastraff bwyd

Mae'r cwestiwn cyntaf a gyflwynwyd gan Vikki Howells (Cwm Cynon):

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog ailgylchu gwastraff bwyd yng Nghymru?

Gwastraff bwyd
BBC