Got a TV Licence?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

Find out more
I don’t have a TV Licence.

Crynodeb

  1. Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
  2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
  3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad
  4. Cwestiynau Amserol
  5. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: gofalwyr ifanc
  6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: cynlluniau adfywio
  7. Dadl Plaid Cymru: strategaeth er mwyn cyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050
  8. Dadl Fer: Trosedd casineb - a yw ar gynnydd yng Nghymru?

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

Dyna ni o'r Siambr am yr wythnos.

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth nesaf Gorffennaf 11.

Y Senedd
BBC

'Gwirioneddol boeni' ynghylch cynnydd eglur mewn trosedd casineb

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant, yn dweud ei fod e "wedi ei syfrdanu braidd" gyda chyfraniad Neil Hamilton.

Mae'n dweud ei fod yn "wirioneddol boeni" ynghylch cynnydd eglur mewn trosedd casineb o gwmpas amser y refferednwm ac yn dilyn yr ymosodiadau terfysgol yn Llundain a Manceinion.

Carl Sargeant
BBC

'Bron i unrhyw beth yn gallu cael ei gofnodi heddiw fel trosedd casineb'

Mae Mr Hamilton yn cwestiynu y "ffrwydrad mewn trosedd casineb sy'n gysylltiedig gyda Brexit".

Mae'n dweud "mae yna bysgota prysur o gasineb ôl-Brexit a gallwch chi ei ddarganfod os ydych chi eisiau gwneud hynny".

Mae'n ychwanegu, "mae bron i unrhyw beth yn gallu cael ei gofnodi heddiw fel trosedd casineb".

Dadl Fer: Trosedd casineb

Ac yn olaf yn y Siambr heddiw Dadl Fer gan Neil Hamilton.

A'r pwnc: Trosedd casineb - a yw ar gynnydd yng Nghymru?

Trosedd casineb
BBC

Cyhoeddi Papur Gwyn at ddibenion ymgynghori'r haf yma

Ar ran Llywodraeth Cymru mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies yn cyfeirio at fwriad y llywodraeth i "gyhoeddi Papur Gwyn at ddibenion ymgynghori yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ar y ddarpariaeth ar gyfer Mesur y Gymraeg newydd".

Mae'n dweud bod angen cydnabod y "camau sydd eisoes wedi'u cymryd i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ar draws cymunedau a gweithleoedd, mewn lleoliadau ffurfiol ac anffurfiol".

Mae e hefyd yn cyfeirio at "sefydlu bwrdd cynllunio er mwyn ymgynghori ar raglen genedlaethol i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg".

Mae Alun Davies yn dweud ei fod "eisiau uno'r genedl ar bwnc yr iaith Gymraeg".

Alun Davies
BBC

Adolygu rôl Comisiynydd y Gymraeg

Ar ran y Ceidwadwyr mae Suzy Davies yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

  • "adolygu rôl Comisiynydd y Gymraeg a sicrhau bod y Comisiynydd yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
  • "ystyried diben ac effeithiolrwydd safonau'r Gymraeg cyn unrhyw gynnig i ehangu eu cymhwyso i'r sector preifat, a
  • "mabwysiadu model newydd, y tu allan i'r llywodraeth, ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg ym meysydd addysg, y gymuned a'r economi".
Suzy Davies
BBC

'Ymgynghoriad lleol gwirioneddol'

Ar ran UKIP mae Neil Hamilton yn rhybuddio y byddai "mynd yn groes i farn gyhoeddus leol yn cyfyngu ar unrhyw obaith fydd gan strategaeth Llywodraeth Cymru o lwyddo i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050".

Wrth gyfeirio at benderfyniad i gael gwared ag addysg ffrwd Saesneg yn Ysgol Llangennech, gafodd ei gymeradwyo gan Gyngor Sir Caerfyrddin ym mis Ionawr, a'r cyhoeddiad yr wythnos hon y bydd addysg cyfrwng Cymraeg yn parhau yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu ym Mhowys yn dilyn tro pedal gan y cyngor, mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau:

a) bod unrhyw newidiadau i addysg bresennol cyfnodau allweddol 1 i 5 a darpariaeth gofal plant yn cynnwys ymgynghoriad lleol gwirioneddol:

i) gyda'r holl ymatebwyr yn darparu eu henwau, cyfeiriadau a chodau post; a

ii) gyda'r holl unigolion a enwir mewn deiseb a gyflwynir yn cael eu cofnodi fel sylwadau ar wahân; a

b) na roddir blaenoriaeth i farn trydydd parti, asiantau na chomisiynwyr, gan gynnwys y rhai sy'n awgrymu eu bod yn cynnig cyngor arbenigol ar y ddarpariaeth Gymraeg, dros ddymuniadau trigolion lleol a rhieni.

Testun 'siom nad yw'r llywodraeth wedi gosod strategaeth er mwyn cyrraedd y nod'

Mae Sian Gwenllian yn dweud ei bod hi'n destun siom fod mwy na blwyddyn wedi pasio ers i’r Llywodraeth osod y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg a hyd heddiw dydy hi dal heb osod strategaeth er mwyn cyrraedd y nod.

“Os yw’r Gymraeg am gynyddu, rhaid diogelu’r cadarnleoedd lle mae’r Gymraeg yn iaith bob dydd. Mae ffyniant economaidd yn greiddiol i lwyddiant yr iaith ac er mwyn gwneud hynny rhaid cael swyddi o ansawdd mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith i atal all-fudo".

Sian Gwenllian
BBC

Dadl: Tyfu'r nifer o siaradwyr Cymraeg

Yr eitem nesaf yn y Siambr yw dadl gan Blaid Cymru ar strategaeth er mwyn cyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae'r blaid

1. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth er mwyn cyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

2. Yn nodi'r adroddiad 'Cyrraedd y Miliwn' gan Blaid Cymru sydd yn amlinellu yn glir rhai o'r prif flaenoriaethau strategol ar gyfer tyfu'r nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru i filiwn erbyn 2050.

3. Yn galw am weithredu gan y Llywodraeth i:

a) gynllunio ar gyfer twf sylweddol, a normaleiddio, addysg a gofal plant cyfrwng Cymraeg;

b) sicrhau fod ystyriaethau i'r iaith yn rhan annatod o gynllunio economaidd fel rhan o gynnal y cyfundrefnau cynhaliol cyfredol a'r angen i hyn gael ei adlewyrchu yn strategaeth economaidd arfaethedig Llywodraeth Cymru;

c) gryfhau rôl Comisiynydd y Gymraeg i reoleiddio a hyrwyddo hawliau siaradwyr Cymraeg ac ehangu safonau'r Gymraeg i'r sector breifat gan gynnwys y sector delathrebu, banciau ac archfarchnadoedd;

d) sefydlu asiantaeth hyd-braich newydd i hyrwyddo'r iaith ym meysydd addysg, y gymuned a'r economi.

Y Gymraeg
BBC

Wedi etifeddu 'llanast llwyr'

Mae'r Ceidwadwr Darren Millar yn dweud wrth Ken Skates ei fod wedi etifeddu "llanast llwyr" oddi wrth cyn-weinidog yr economi, Edwina Hart.

Darren Millar
BBC

'Y penderfyniad anoddaf a mwyaf heriol yr ydw i wedi ymwneud ag e'

Mae Ken Skates yn dweud mai'r penderfyniad ar Gylchffordd Cymru oedd "y penderfyniad anoddaf a mwyaf heriol yr ydw i wedi ymwneud ag e".

Mae'n cydnabod "pwysigrwydd cynlluniau adfywio sy'n gweithio mewn partneriaeth ag ymyriadau fel datblygu seilwaith, creu swyddi o safon uchel yn ogystal â sgiliau a chyflogadwyedd er mwyn gwella ffyniant cymunedau ar draws Cymru at y dyfodol".

Mae'n "croesawu sefydlu'r Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De, sy'n anelu at sicrhau adfywio effeithiol ar draws y rhanbarth ynghyd â seilwaith cadarn a chysylltiol; gwell mynediad at swyddi o safon uchel a datblygu sgiliau".

Mae'n mynnu y bydd bwriad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi £100m dros ddeng mlynedd mewn Parc Busnes Technoleg Fodurol yng Nglynebwy yn hybu twf economaidd ar draws Blaenau'r Cymoedd.

Ac mae'n tynnu sylw at waith Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill wrth "fwrw ymlaen â Bargen Dwf Gogledd Cymru er mwyn hybu twf economaidd ar draws ffiniau".

Llywodraeth Cymru wedi 'methu delio gyda thlodi'

Mae'r Ceidwadwr Mark Isherwood yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi methu delio gyda thlodi yng Nghymrun ac wedi camwario arian ar y cynllun Cymunedau'n Gyntaf.

Mark Isherwood
BBC

'Ergyd ddinistriol i hyder diwydiannol yng Nghymru'

Mae Neil Hamilton UKIP yn disgrifio penderfyniad gweinidogion Cymru na ddylai'r trethdalwyr gynnig gwarant o £210m i ddatblygiad arfaethedig Cylchffordd Cymru ger Glyn Ebwy yn "ergyd ddinistriol i hyder diwydiannol yng Nghymru".

Sut wnaeth y llywodraeth "fethu gwall mwyaf elfennol" ynghylch bod yn gyfrifol am ddyledion y prosiect, gofynna Mr Hamilton.

Mae'n dweud ei bod hi'n hen bryd "bod y llywodraeth yma'n mynd".

Neil Hamilton
BBC

Strategaeth 'caeau o freuddwydion'

Mae Adam Price yn ymosod ar gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer parc busnes ceir gwerth £100m ym Mlaenau Gwent fel strategaeth "caeau o freuddwydion" - adeiladwch e ac fe ddown nhw.

Mae'n rhestru digwyddiadau honedig o gamarwain gan lywodraeth.

'Rhywbeth wedi mynd yn enbyd o anghywir gyda Chylchffordd Cymru

Ar ran Plaid Cymru mae Adam Price yn dweud bod "rhywbeth wedi mynd yn enbyd o anghywir gyda Chylchffordd Cymru".

Mae'n galw ar "Lywodraeth Cymru i ymrwymo i sefydlu ymchwiliad annibynnol llawn i'r ffordd yr ymdriniodd Llywodraeth Cymru â phrosiect Cylchffordd Cymru".

Yn ogystal mae e'n galw ar Lywodraeth Cymru i "gwrdd â phob parti perthnasol er mwyn archwilio atebion posibl i'r materion y cyfeirir atynt yn ei datganiad ar Gylchffordd Cymru ar 27 Mehefin 2017 i ennyn hyder buddsoddwyr y dyfodol".

Cylchffordd Cymru
Cylchffordd Cymru
Cylchffordd Cymru

Dadl: Cynlluniau adfywio

Nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar bwysigrwydd cynlluniau adfywio o ran gwella ffyniant cymunedau ledled Cymru ar gyfer y dyfodol.

Mae Russell George yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y mae'n bwriadu ennyn hyder buddsoddwyr ar gyfer prosiectau adfywio.

Mae hefyd yn gresynu "at y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â phrosiect Cylchffordd Cymru ac yn credu y gallai hyn gael effaith negyddol ar fuddsoddiad posibl ar gyfer prosiectau adfywio yng Nghymru yn y dyfodol".

Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i ddarparu argymhellion

Mae Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi'i hymrwymo'n llwyr i wella bywyd gofalwyr ifanc.

Mae'n dweud y bydd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn darparu argymhellion iddi ynghylch sut i gefnogi ymhellach lles gofalwyr ifanc.

Rebecca Evans
BBC

'Darn pwysig o ddeddfwriaeth'

Mae Caroline Jones UKIP yn llongyfarch Bethan Jenkins ar "ddarn pwysig o ddeddfwriaeth" ac yn cynnig ei chefnogaeth lwyr iddi.

Polisi gofalwyr ifanc da

Mae'r Ceidwadwr David Melding yn dweud y dylai "pob ysgol gyfun gael aelod o'u uwch dîm rheoli sydd â chyfrifoldeb penodol i sicrhau bod ganddyn nhw bolisi gofalwyr ifanc da".

David Melding
BBC

Anawsterau i ofalwyr ifanc wrth gael presgripsiynau i'r sawl sydd yn eu gofal

Mae Bethan Jenkins yn tynnu sylw at yr anawsterau gaiff gofalwyr ifanc wrth gael presgripsiynau ar ran y sawl sydd yn eu gofal, gyda llawer o fferyllfeydd lleol heb adnabod gofalwyr ifanc, a hwythau dan 16 oed, a galwodd am fwy o gysylltu fel y bydd yn haws cael meddyginiaethau. Ychwanegodd Miss Jenkins:

“Mae’n sefyllfa anodd gan fod rhai fferyllfeydd, yn naturiol, yn gyndyn o roi rhai mathau o feddyginiaethau. Rhaid archwilio i bob dewis sydd ar gael, megis ehangu gwasanaethau cludo neu wneud ymdrechion i sicrhau bod gofalwyr ifanc yn hysbys i’w fferyllwyr lleol, neu hefyd y syniad o gael cerdyn gofalwyr ifanc i fod yn brawf o statws fel ei bod yn haws casglu meddyginiaethau.”

Bethan Jenkins
BBC

Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Nawr y cyntaf o ddadleuon y prynhawn.

Mae'n ddadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod.

Mae Bethan Jenkins yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig am fesur i gefnogi gofalwyr ifanc yng Nghymru.

2. Yn nodi mai diben y mesur hwn fyddai:

a) darparu canllawiau statudol i ysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru ar gyfer darparu cefnogaeth a hyblygrwydd priodol i ofalwyr ifanc ymgymryd â'u cyfrifoldebau gofal yn ystod oriau ysgol ac ar ôl oriau ysgol;

b) darparu canllawiau i ysgolion i weithio gyda gofalwyr ifanc er mwyn darparu llwybrau hyblyg i sicrhau eu bod yn parhau mewn addysg;

c) caniatáu i ofalwyr ifanc gasglu presgripsiynau ar ran y rhai sydd yn eu gofal, a hynny gyda Cherdyn Gofalwr Ifanc neu ddull arall; a

d) sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sefydliadau priodol i gyflwyno gwasanaeth lliniarol a chefnogaeth i ofalwyr ifanc ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Gofalwr ifanc
BBC

Cynnig i ethol ACau i bwyllgorau

Nesaf yn y Siambr cynnig i ethol Aelodau i bwyllgorau.

Mae'r aelodau yn cytuno bod y Cynulliad:

  • yn ethol Gareth Bennett (UKIP) yn aelod o'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle David Rowlands (UKIP).
  • yn ethol Mark Reckless (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn lle Mohammad Asghar (Ceidwadwyr Cymreig).

Datganiadau 90 Eiliad

Nawr y Datganiadau 90 Eiliad, lle mae tri aelod yn cael cyfle i godi materion amserol.

'Trasig' petai'r Cymro'n cael ei golli am byth

Mae Ken Skates yn ateb "dyw Llywodraeth Cymru ddim yn ymyrryd ym mhenderfyniadau cyllido Cyngor Llyfrau Cymru".

Mae'n ychwanegu y byddai hi'n "drasig petai'r cyhoeddiad yn cael ei golli am byth".

Ken Skates
BBC

Y Cymro ar werth

Yr wythnos ddiwethaf roedd Y Cymro, yr unig bapur newydd cenedlaethol Cymraeg, ar werth yn y siopau am y tro olaf yn ei ffurf bresennol.

Mae grŵp bychan wedi dangos diddordeb i'w brynu ond nid oes sicrwydd y bydd yn parhau.

Cwmni Tindle sy'n cyhoeddi'r Cymro, ond rhai misoedd yn ôl fe wnaethon nhw gyhoeddi fod y gwaith hwnnw'n gorffen ddiwedd Mehefin, gan ddod â thraddodiad 85 mlynedd i ben.

Mae'r BBC yn deall bod y cwmni yn ffafrio un grŵp, Cyfeillion y Cymro, ar gyfer ei werthu iddyn nhw, ond mae trafodaethau yn parhau.

Y Cymro
BBC

Datganiad am gefnogaeth ar gyfer 'Y Cymro'?

Mae'r ail gwestiwn amserol i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates.

Mae Dai Lloyd yn gofyn a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth ar gyfer 'Y Cymro', o ystyried yr ansicrwydd presennol am ei ddyfodol tymor hir.

Dai Lloyd
BBC

Papur polisi yn 'gam rhyw hwyr ymlaen'

Wrth ymateb i gwestiwn Steffan Lewis mae Mark Drakeford yn disgrifio'r papur gwyn fel "cam rhyw hwyr ymlaen", ond ei fod "yn dal i drin pobl fel asglodion bargeinio, sydd yn annerbyniol".

Steffan Lewis
BBC

Cwestiwn amserol ar Brexit

Mae'r cwestiwn amserol cyntaf gan Steffan Lewis, sy'n gofyn pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o bapur polisi Llywodraeth y DU, 'Safeguarding the position of EU citizens in the UK and UK nationals in the EU', a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf.

Brexit
Getty Images

Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf yn y Siambr yw'r Cwestiynau Amserol.

Mae'n rhaid i gwestiynau amserol ymwneud â mater o arwyddocâd cenedlaethol, rhanbarthol neu leol y byddai'n ddymunol cael ymateb cyflym iddo gan Weinidog.

Y Llywydd a fydd yn penderfynu sawl cwestiwn amserol i'w ddethol ar gyfer y cyfnod o 20 munud a neilltuwyd, a sut i rannu'r amser sydd ar gael rhwng y cwestiynau hynny.

Cwestiynau
BBC

Gan y Cynulliad 'ddim llefydd tyfu addas'

Mae Caroline Jones yn ateb nad oes gan y Cynulliad "lefydd tyfu addas, yn wahanol i rai cyrff deddfwriaethol eraill y DU".

Mae Jenny Rathbone yn herio'r honiad ac yn galw ar y llywodraeth i ail-feddwl.

Caroline Jones
BBC

Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Nawr cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad.

Mae Jenny Rathbone yn gofyn pa gynnydd y mae'r Cynulliad yn ei wneud o ran tyfu bwyd ar ei ystâd.

Jenny Rathbone
BBC

'Mwy o reidrwydd ar awdurdodau lleol i ddarlledu eu cyfarfodydd'

Mae Gareth Bennett UKIP yn cyfeirio at "amrywioldeb darllediadau o gyfarfodydd cyngor".

Mae Mr Drakeford yn dweud bod papur gwyn Llywodraeth Cymru 'Diwygio llywodraeth Leol: Cadernid ac adnewyddiad' yn rhoi "mwy o reidrwydd ar awdurdodau lleol i ddarlledu eu cyfarfodydd ac i wneud i'w cyfarfodydd i fod ar gael i'r cyhoedd".

Gareth Bennett
BBC

Awdurdodau lleol yn aml "yw cam olaf y wladwriaeth les'

Mae'r aelod Ceidwadol Janet Finch-Saunders yn galw am "gynnwys cynllun gostwng tlodi eglur wrth ddiwygio awdurdodau lleol yn y dyfodol".

Mae Mr Drakeford yn tynnu sylw at y ffaith mai awdurdodau lleol "yn aml yw cam olaf y wladwriaeth les.. felly, eisioes mae yna edau aur yn nhermau beth all awdurdodau lleol ei wneud".

Janet Finch-Saunders
BBC

Dosraniad mantolen ar Gylchffordd Cymru

Mae Adam Price Plaid Cymru yn codi'r broses o wneud penderfyniad yghylch Cylchffordd Cymru, yn arbennig o ran dosraniad mantolen.

Mae Mr Drakeford yn dweud bod ei swyddogion wedi cyfrannu i'r broses diwydrwydd dyladwy.

Mae'n ychwanegu nad yw'n credu bod y penderfyniad ar Gylchffordd Cymru yn cael effaith uniongyrchol ar y model buddsoddiad cyffredin y mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi at ei gilydd.

Cylchffordd Cymru
Cylchffordd Cymru

Cwestiynau heb rybudd

Mae'r Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

'Cael eu gosod ar broblemau dilys'

Mae Mr Drakeford yn dweud ei bod hi'n gyfrifoldeb i "bob awdurdod lleol i bennu eu polisi a dull eu hunain o ddefnyddio hysbysiadau cosb benodedig".

"Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi eu defnydd pan eu bod yn cael eu gosod ar broblemau dilys, yn cael eu cyflwyno yn synhwyrol".

Mark Drakeford
BBC

Hysbysiadau cosb benodedig?

Mae'r cwestiwn cyntaf a gyflwynwyd gan Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru):

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y defnydd y mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn ei wneud o hysbysiadau cosb benodedig?

Mohammad Ashgar
BBC

Croeso nôl

Croeso nôl i Senedd Fyw.

Mae'r Cyfarfod Llawn ar fin dechrau gyda chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford.

Nôl am 1.30pm

Mae'r aelodau bellach yn cwrdd yn breifat.

Fe fydd Senedd Fyw'n ôl am 1.30pm ar gyfer y Cyfarfod Llawn.

Y Senedd
BBC

Manteision gwirioneddol trwy'r bargeinion dinesig?

Mae David Rowlands UKIP yn gofyn i ba raddau y byddai'r delfrydau sydd y tu ôl i'r bargeinion dinesig yn cael eu cyflawni beth bynnag, hebddyn nhw.

Mae Ken Skates yn dweud y bydd asesiad mynedfa bum mlynedd yn dangos a fydd manteision gwirioneddol trwy'r bargeinion dinesig.

David Rowlands
BBC