Got a TV Licence?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

Find out more
I don’t have a TV Licence.

Crynodeb

  1. Cyfarfod Llawn am 1.30pm gyda chwestiynau i'r prif weinidog
  2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
  3. Cymorth i Fyfyrwyr yn 2018/19 a Chyhoeddi Crynodeb o Ganlyniadau'r Ymgynghoriad ar Weithredu Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Diamond
  4. Datganiad gan yr Ysgrifennydd dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Adroddiad Interim yr Adolygiad Seneddol ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Y Strategaeth Iaith Gymraeg
  6. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De
  7. Datganiad gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth: Cyflogadwyedd
  8. Dadl: Cyfnod 3 Mesur yr Undebau Llafur (Cymru)

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

Dyna ni am heddiw.

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Y Senedd
BBC

Pasio Cyfnod 3 Mesur yr Undebau Llafur (Cymru)

Mae'r aelodau yn pasio Cyfnod 3 Mesur yr Undebau Llafur (Cymru).

Proses pedwar cyfnod

Yn gyffredinol, mae pedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Mesur Cyhoeddus, sef:

  • Cyfnod 1 - pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny;
  • Cyfnod 2 - pwyllgor yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i'r Mesur hwnnw yn fanwl;
  • Cyfnod 3 - y Cynulliad yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i'r Mesur hwnnw yn fanwl;
  • Cyfnod 4 - pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur.

Ceisio cadw gwaharddiad ar weithwyr asiantaeth mewn streic

Mae'r grŵp nesaf o welliannau yn ymwneud â gwaharddiad ar ddefnyddio gweithwyr dros dro i gymryd lle staff yn ystod gweithredu diwydiannol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynlluniau fyddai'n gwarchod rheolau sydd ar hyn o bryd yn atal cyflogwyr rhag defnyddio gweithwyr asiantaeth os oes streic.

Yn 2015 fe wnaeth Llywodraeth y DU ymgynghori ar newid y rheolau hynny, ond chafodd y syniad ddim ei weithredu.

Mae gweinidogion Cymru nawr yn awyddus i gyflwyno newidiadau i'r Mesur Undebau Llafur er mwyn atal unrhyw newid i'r rheolau rhag effeithio ar wasanaethau Cymreig.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn gwrthwynebu hyn, ond mae eu gwelliannau yn cael eu gwrthod.

Ar hyn o bryd mae rheoliadau cyflogaeth yn atal cwmnïau a sefydliadau rhag defnyddio gweithwyr asiantaeth os yw un o'u gweithwyr nhw ar streic.

Mae Deddf Undebau Llafur Llywodraeth y DU wedi ei gwneud hi'n anoddach galw am streic, ond bwriad mesur Llywodraeth Cymru yw sicrhau na fydd hynny'n berthnasol i Gymru.

Y bleidlais
BBC

Grŵp nesaf o welliannau Janet Finch-Saunders yn cael ei wrthod

Mae'r grŵp nesaf o welliannau yn enw Janet Finch-Saunders - sy'n ymwneud â gofyniad ynghylch pleidlais gan undeb llafur cyn gweithredu a dileu diffiniadau o awdurdodau datganoledig Cymreig - yn cael ei wrthod.

'Nid pantomeim yw hwn'

"Nid pantomeim yw hwn", medd y Llywydd Elin Jones mewn Siambr swnllyd.

Pantomeim
BBC
Pantomeim

Gwelliant 2 Janet Finch-Saunders ar amser cyfleuster yn cael ei wrthod

Mae gwelliant 2 Janet Finch-Saunders yn ceisio cael gofynion cyhoeddi o ran amser cyfleuster.

Mae Mr Drakeford yn dweud nad oes gan y Ceidwadwyr ddiddordeb yn dweud wrth y cyhoedd am fanteision amser cyfleuster, ac mae'r gwelliant yn ceisio sefydlu "portread un-llygeidiog ragfarnllyd".

Mae'r gwelliant yn cael ei wrthod - 12 o blaid a 43 yn erbyn.

UKIP yn gwrthwynebu holl welliannau Cyfnod 3

Mae Gareth Bennett yn dweud y bydd UKIP yn cefnogi'r Mesur hwn ac yn gwrthwynebu holl welliannau Cyfnod 3 gan y Ceidwadwyr.

Gareth Bennett
BBC

Gwelliant 1 Janet Finch-Saunders yn cael ei wrthod

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford yn galw ar ACau i wrthod gwelliant 1 Janet Finch-Saunders.

"Mae'r gwelliant yn ceisio datrys problem sydd ddim yn bodoli", meddai.

Roedd 12 aelod o blaid y gwelliant, 43 yn erbyn.

Mark Drakeford
BBC

'Ni ddylai'r trethdalwyr fod yn cyllido casgliadau taliadau tanysgrifio i undebau'

Mae gwelliant Janet Finch-Saunders yn ymwneud â chyfyngu ar ddidynnu taliadau tanysgrifio i undebau o gyflogau yn y sector cyhoeddus.

Mae hi'n dweud " Yn y 21ain ganrif, ni ddylai'r trethdalwyr fod yn cyllido casgliadau taliadau tanysgrifio i undebau".

Janet Finch-Saunders
BBC

Briff Ymchwil

Cyfnod 3 Mesur yr Undebau Llafur (Cymru)

Ac yn olaf yn y Siambr heddiw, wedi egwyl o 10 munud, mae yna ddadl ar Gyfnod 3 Mesur yr Undebau Llafur (Cymru).

Mae gweinidogion ym Mae Caerdydd wedi cyhoeddi mesur i ddiddymu rhannau o Ddeddf Undebau Llafur 2016 Llywodraeth y DU, sydd yn ei gwneud yn anoddach i wasanaethau cyhoeddus alw streic.

streic
Reuters

Cynllun Cyflenwi Cyflogadwyedd

Mae Julie James yn dweud y bydd bwrdd trawslywodraethol newydd yn cael ei sefydlu ar gyfer Llywodraeth Cymru i arwain ar ddatblygu'r Cynllun Cyflenwi Cyflogadwyedd.

Bydd y cynllun terfynol meddai, yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn.

Y bwriad yw bod y rhaglenni cyflenwi newydd yn cael eu rhoi ar waith ym mis Ebrill 2019.

Enw'r Rhaglenni Cyflogadwyedd fydd 'Cymru'n Gweithio'.

'Cydweithio i helpu pobl i gael swyddi cynaliadwy'

Yn ôl Llywodraeth Cymru "nid mater o swyddi a sgiliau'n unig yw cyflogadwyedd. Mae gofyn i bob elfen o waith y Llywodraeth - boed yn addysg, iechyd, tai, cymunedau, trafnidiaeth, cefn gwlad, gofal plant neu ddatblygu rhanbarthol - gydweithio i helpu pobl i gael swyddi cynaliadwy.

"Mae hyn yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn Symud Cymru Ymlaen i 'ail-lunio cymorth cyflogadwyedd i unigolion sy’n barod am waith, a’r rheiny sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur, er mwyn eu helpu nhw i ennill y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen i gael a chadw swyddi cynaliadwy".

Julie James
BBC

Datganiad ar Gyflogadwyedd

Yr eitem nesaf yn y Siambr yw datganiad gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James ar Gyflogadwyedd.

Cyflogadwyedd
BBC

Mentrau a rhaglenni blaenorol 'ddim wedi gweithio'

Mae Leanne Wood yn dweud bod yn rhaid i'r tasglu fod yn wahanol i fentrau a rhaglenni blaenorol a oedd yn canolbwyntio ar y cymoedd "oherwydd nad ydyn nhw wedi gweithio".

"Does dim cyllideb benodol wedi ei neilltuo ar gyfer hyn", mae'n nodi.

Mesuryddion perfformiad o gynllun y tasglu

Mae Andrew RT Davies yn nodi y bydd cynllun y tasglu - Ein Cymoedd, Ein Dyfodol - yn cael ei gyhoeddi ar Orffennaf 20 ond na fydd mesuryddion perfformiad ar gael tan yr hydref.

'Cyfnod o fuddsoddi heb ei debyg'

Mae Mr Davies yn dweud wrth yr aelodau yn y Siambr bod y llywodraeth yn lansio Ein Cymoedd, Ein Dyfodol mewn "cyfnod o fuddsoddi heb ei debyg mewn seilwaith yn y De - mae Metro De Cymru, y ddwy fargen ddinesig, ein hymrwymiad i fuddsoddi mewn tai fforddiadwy a ffordd liniaru’r M4 i gyd yn cynnig cyfleoedd i bobl sy’n byw yn y Cymoedd. Mae’r rhain yn gyfleoedd y mae’n rhaid i ni fanteisio arnyn nhw, ac rydym yn sicr o wneud hynny.

“Rwy’n benderfynol y bydd y tasglu’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymunedau’r Cymoedd ac mae’n rhaid i ni gydweithio i wireddi’r weledigaeth hon. Dyma ddechrau taith tymor hirach, sy’n cael ei llywio gan bobl sy’n gweithio a byw yn y Cymoedd.

“Mae’n fraint cael bod yn rhan o’r gwaith hwn yn y rhanbarth hwn, sy’n agos iawn at fy nghalon, lle cefais fy ngeni a’m magu. Gobeithio y gallwn sicrhau newid sy’n gweddnewid yr ardal yn barhaus drwy’r dull hwn.”

Blaenoriaethau'r Tasglu

Mae Alun Davies yn cyfeirio at flaenoriaethau'r Tasglu.

  • Cau’r bwlch cyflogaeth rhwng Cymoedd y De a gweddill Cymru trwy gael 7,000 yn rhagor o bobl mewn gwaith erbyn 2021, a chreu miloedd o swyddi newydd, teg, diogel a chynaliadwy;

  • Creu hybiau strategol newydd mewn chwe ardal ledled y Cymoedd, gan gynnwys y parc busnes technoleg fodurol newydd yng Nglynebwy, a gyhoeddwyd gan Ken Skates fis diwethaf;

  • Pwyso a mesur y cysyniad o Barc Tirweddau’r Cymoedd, i helpu cymunedau lleol ddatblygu eu hasedau naturiol niferus, gan gynnwys y potensial ar gyfer twristiaeth a chynhyrchu ynni cymunedol.

'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'

Mae Alun Davies yn dweud y bydd creu "miloedd o swyddi penigamp a helpu pobl i fanteisio ar hyfforddiant sgiliau wrth wraidd y cynllun newydd i sicrhau newid economaidd yng Nghymoedd y De".

Gan siarad flwyddyn ar ôl lansio’r Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De, dywedodd y Gweinidog y bydd cynllun y tasglu – Ein Cymoedd, Ein Dyfodol – yn cael ei gyhoeddi ar 20 Gorffennaf.

Sefydlwyd y tasglu i weithio gyda chymunedau a busnesau lleol ledled Cymoedd y De a’i nod yw sicrhau "newid economaidd parhaol; creu swyddi o ansawdd da yn agosach at gartrefi pobl, gwella lefelau sgiliau a sicrhau ffyniant i bawb".

Y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De

Nawr datganiad arall gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes:

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De.

Mae Alun Davies wedi dweud mai creu "adfywiad diwydiannol" yn y cymoedd yw'r bwriad, nid adeiladu isadeiledd newydd fel ffyrdd.

Cymoedd y De
BBC

Ymateb y Mentrau Iaith

'Camau penodol ac ymarferol'

Mae Neil Hamilton UKIP yn rhoi "croeso cynnes" i'r strategaeth sy'n cynnwys "camau penodol ac ymarferol".

Mae'n ychwanegu "mae'n rhaid i ni wneud ein gorau i osgoi y fath o ddadlau" dros newidiadau mewn ysgol yn Llangennech, Sir Gaerfyrddin.

Mae'n cyfeirio at y cyhoeddiad y bydd yna dros 150 yn fwy o grwpiau meithrin cyfrwng Cymraeg yn cael eu creu dros y degawd nesaf fel "ffagl o obaith".

Llangennech
Google
Ysgol Llangennech

'Cam cyntaf cadarnhaol'

Mae Sian Gwenllian Plaid Cymru yn disgrifio'r strategaeth fel "cam cyntaf cadarnhaol".

Mae'n pwysleisio pwysigrwydd swyddi da mewn ardaelodd sydd â chyfran uchel o siaradwyr Cymraeg, ac mae hi'n beirniadu Llywodraeth Cymru am beidio lleoli Awdurdod Cyllid Cymru, er enghraifft, mewn ardal lle mae'r Gymraeg yw iaith y gymuned.

Fe fydd ACC, sydd â chyfanswm o tua 40 o staff, yn cael ei leoli yn Nhrefforest, fer Pontypridd.

Ym mis Chwefror eleni fe wnaeth un AC gyhuddo'r llywodraeth o "anwybyddu'r gogledd" yn sgil penderfyniad i leoli'r corff trethi newydd yn Rhondda Cynon Taf.

Cyfleoedd i wella sgiliau y gweithlu Cymreig

Mae Suzy Davies, Llefarydd y Ceidwadwyr ar yr iaith Gymraeg, yn dweud ei bod hi'n cefnogi'r strategaeth, ond yn ychwanegu y bydd "llwyddiant yn dibynnu ar berswadio ein gwahanol gymunedau, gwahanol unigolion, pam ei bod hi mor werthfawr i gael sgiliau yn ein dwy iaith".

Mae hi hefyd yn dweud ei bod hi eisiau gweld mwy o gyfleoedd i wella sgiliau y gweithlu Cymreig yn eu gweithle presennol.

Suzy Davies
BBC

'Dim ond dechrau'r daith yw hyn'

"Dim ond dechrau'r daith yw hyn" medd Alun Davies wrth yr aelodau yn y Siambr.

"Fe fyddwn ni'n darparu'r weledigaeth a'r arweinyddiaeth" meddai.

Mae'n dweud bod y strategaeth yn ymrwymiad hanesyddol a fydd yn ceisio uno'r genedl.

"Dwy iaith, dau ddiwylliant, ond un genedl".

Alun Davies
BBC

Cynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu gweithio yn y Gymraeg

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, mae 22% o blant saith mlwydd oed yn cael addysg cyfrwng Cymraeg. Bwriad gweinidogion yw cynyddu hynny i 30% erbyn 2031 ac yna i 40% erbyn 2050.

Mae'r llywodraeth hefyd am greu 150 yn fwy o grwpiau meithrin cyfrwng Cymraeg dros y degawd nesaf.

Fel rhan o'r cynlluniau, fe fydd disgyblion yn ysgolion cyfrwng Saesneg yn treulio mwy o amser yn dysgu Cymraeg, ond ni fydd y manylion yn cael eu cyflwyno nes bod y cwricwlwm newydd yn cael ei orffen.

Er mwyn ymdopi gyda chyflenwi addysg Gymraeg, mae gweinidogion yn bwriadu gweld cynnydd mawr yn nifer yr athrawon sy'n gallu gweithio yn y Gymraeg:

  • Cynyddu nifer yr athrawon cynradd sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg o 2,900 i 3,900 erbyn 2031 ac i 5,200 erbyn 2050;
  • Cynyddu nifer yr athrawon uwchradd sy'n gallu addysgu Cymraeg o 500 i 900 erbyn 2031 ac i 1,200 erbyn 2050;
  • Cynyddu nifer yr athrawon uwchradd sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg o 1,800 i 3,200 erbyn 2031 ac i 4,200 erbyn 2050.
Y Gymraeg
BBC

Cymraeg 2050 – miliwn o siaradwyr Cymraeg

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi gweledigaeth i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050.

Mae'r llywodraeth yn dweud bod "Cymraeg 2050 – miliwn o siaradwyr Cymraeg yn gosod trywydd uchelgeisiol ar gyfer yr iaith ac yn cydnabod yr angen am gynllunio gofalus a threfnus os ydym am wireddu’r weledigaeth.

"Bydd angen gweithredu ar y cyd nawr er mwyn cynyddu’r ddarpariaeth o addysg cyfrwng Cymraeg. Ein nod wrth wneud hyn yw rhoi’r sgiliau i bobl allu defnyddio'r iaith gyda'u teuluoedd, yn y gymuned ac yn y gwaith. Er mwyn galluogi hynny i ddigwydd, mae angen inni greu amgylchedd lle mae pobl yn gallu, ac eisiau defnyddio'r iaith.

"Mae'r Strategaeth yn nodi dau darged trosfwaol, sef:

  • Nifer y siaradwyr Cymraeg i gyrraedd 1 miliwn erbyn 2050;

  • Canran y boblogaeth sy'n siarad Cymraeg bob dydd, ac sy'n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg, i gynyddu o 10 y cant i 20 y cant erbyn 2050".
View more on twitter

Y Strategaeth Iaith Gymraeg

Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies ar y Strategaeth Iaith Gymraeg.

Y Gymraeg
Thinkstock

'Rydyn ni'n addasu neu rydyn ni'n mawr'

Mae Caroline Jones UKIP yn croesawu'r adroddiad interim sy'n "gosod yn llwyr yr heriau".

"Rydyn ni'n addasu neu rydyn ni'n mawr", mae'n rhybuddio.

Caroline Jones
BBC

'Gallai'r llywodraeth gymryd nifer o gamau nawr'

Mae Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru yn croesawu'r adroddiad interim, ac yn dweud nifer o'r casgliadau yn gymharol amlwg.

Er mai adroddiad interim yw hwn, mae'n dweud gallai'r llywodraeth gymryd nifer o gamau nawr heb aros am yr adroddiad terfynol.

Rhun ap Iorwerth
BBC

'Blagur gwyrdd' arloesedd

Mae'r aelod Ceidwadol Angela Burns yn dweud "rydych chi'n gallu gweld blagur gwyrdd arloesedd drwy'r gwasanaeth iechyd i gyd", ond mae yna gymhlethdodau yn trosglwyddo'r syniadau hynny i bolisïau sy'n gallu cael eu hailadrodd ar draws y bwrdd.

"Yn rhy aml mae arloesedd yn cael ei chwalu gan dâp coch neu dan-gyllido gan Lywodraeth Cymru", meddai.

Angela Burns
BBC

'Adroddiad interim cryf'

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, yn dweud "mae hwn yn adroddiad interim cryf ac rydw i'n croesawu yr agwedd ymarferol y mae'r panel adolygu yn bwriadu ei gymryd i'w gwaith".

"Rydw i'n edrych tuag fudiadau iechyd a gofal, ac aelodau o'r cyhoedd i ymateb gyda'r un egni a gwaith adeiladol â'r Adolygiad Seneddol dros y misoedd nesaf".

Vaughan Gething
BBC

'Awch am newid'

Nid yw gwasanaethau iechyd a chymdeithasol yng Nghymru yn gynaliadwy ar eu ffurfiau presennol, yn ôl panel o arbenigwyr.

Mae adroddiad interim sydd wedi ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys panel sy'n adolygu dyfodol gwasanaethau iechyd a chymdeithasol.

Yn ôl yr adroddiad, mae'r boblogaeth o bobl hŷn yng Nghymru yn cynyddu'n gynt na rhannau eraill o'r DU, sy'n bygwth dyfodol gwasanaethau iechyd.

Mae'r panel o naw yn cael ei arwain gan y cyn brif swyddog iechyd yng Nghymru, Dr Ruth Hussey, ac mae'n amlinellu'r angen am newidiadau brys er mwyn ymateb i heriau sylweddol.

Yn ôl Dr Hussey, "mae 'na awch am newid", wrth i'r panel ddweud bod angen blaenoriaethu gofal ar gyfer y boblogaeth hyn.

Adolygiad Seneddol ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Nesaf datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething ar Adroddiad Interim yr Adolygiad Seneddol ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Gofal Iechyd
BBC

Cam yn nes at ddiwygio cyllid myfyrwyr?

'Gallai arian gael ei wario rhywle arall o fewn y system addysg'

Mae Michelle Brown UKIP yn dweud "Rydw i'n methu gweld sut y mae cynnig £1,000 i bob myfyriwr heb ystyried incwm, yn gam positif ymlaen... gallai'r arian hwnnw gael ei wario rhywle arall o fewn y system addysg, fel gwneud gwaith atgyweitio angenrheidiol mewn ysgol wledig".

Michelle Brown
BBC

Bydd dyledion myfyrwyr yn cynyddu

Mae Llyr Gruffydd yn dweud y cyhoeddiad "mwyaf arwyddocaol" yw hwnnw am lefel uchafswm ffi dysgu sy'n gysylltiedig â chwyddiant.

Mae e eisiau gwybod pam bod Kirsty Williams wedi gwneud tro pedol ar y polisi hwnnw, polisi y mae e'n ddweud fydd yn arwain at ddyledion myfyrwyr yn codi o'r lefelau "echrydus" presennol.

Llyr Gruffydd
BBC

Lefel uchafswm ffi dysgu sy'n gysylltiedig â chwyddiant

Ar fater polisi lefel uchafswm ffi dysgu sy'n gysylltiedig â chwyddiant, mae'r Ceidwadwr Darren Millar yn gofyn am yr effaith os oes newid arwyddocaol mewn lefelau ffioedd dysgu mewn llefydd eraill.

Darren Millar
BBC

Pa gymorth sydd ar gael?