Got a TV Licence?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

Find out more
I don’t have a TV Licence.

Crynodeb

  1. Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
  2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
  3. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
  4. Cwestiynau Amserol
  5. Cynnig i gymeradwyo'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Pumed Cynulliad a nodi'r adroddiad cydymffurfiaeth ar gyfer y cyfnod 2015-2017
  6. Dadl gan Aelodau Unigol: canolfan rhewmatoleg bediatrig
  7. Dadl ar y Ddeiseb 'Amddiffyn Cerddoriaeth Fyw yng Nghymru'
  8. Dadl Fer: Cofio Srebrenica

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

Dyna ni o'r Siambr am yr wythnos.

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth nesaf Gorffennaf 18.

Y Senedd
BBC

'Rhaid i ni gofio Srebrenica, mae arnon ni hynny i'w phobl'

Mae Jayne Bryant yn gorffen drwy ddweud, "mae rhaid i ni gofio Srebrenica, mae arnon ni hynny i'w phobl".

Jayne Bryant
BBC

Dadl Fer: Cofio Srebrenica

Ac yn olaf yn y Siambr heddiw Dadl Fer gan Jayne Bryant.

A'r pwnc: Cofio Srebrenica.

Fe gafodd miloedd o fwslemiaid Bosnia - dynion a bechgyn yn bennaf - eu lladd yno dan law lluoedd Serbiaid Bosnia, yn ystod Rhyfel y Balcan dros ugain mlynedd yn ol.

Ar Orffennaf 11 1995 y dechreuodd lladdfa Sebrenica, un o ddigwyddiadau mwya' dychrynllyd yr ymladd yng ngwledydd y Balcan.

Yn y diwedd, daeth lluoedd arfau NATO yn gyfrifol am gadw'r heddwch ym Mosnia a chafodd dau o arweinwyr y Serbiaid, Karadzic a Mladic, eu cyhuddo o hil-laddiad, a'u carcharu.

Mae yna ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar hyd a lled y byd yr wythnos yma i gofio.

Bu farw tua 8,000 o ddynion a bechgyn Mwslemaidd Bosnia yn nwylo lluoedd Serbiaid Bosnia yn 1995
BBC
Bu farw tua 8,000 o ddynion a bechgyn Mwslemaidd Bosnia yn nwylo lluoedd Serbiaid Bosnia yn 1995

Dadl gan Aelodau Unigol: cynnig yn cael ei basio

Mae ACau yn pasio cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi galwadau ar gyfer creu canolfan rhewmatoleg bediatrig amlddisgyblaeth benodedig lwyr yng Nghymru.

Roedd 27 o blaid, naw yn ymatal a neb yn erbyn.

y bleidlais
BBC

Mabwysiadu'r egwyddor 'Asiant dros Newid'

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths yn dweud wrth yr aelodau ei bod hi wedi ysgrifennu at bob awdurdod lleo0l yn dweud wrthyn nhw i gyflwyno'r egwyddor 'Asiant dros Newid' yn syth.

Lesley Griffiths
BBC

Pwysigrwydd cerddoriaeth fyw i economi Caerdydd

Mae nifer o Aelodau Cynulliad yn pwysleisio pwysigrwydd cerddoriaeth fyw i economi Caerdydd, gan gynnwys cyngherddau Coldplay neithiwr a heno yn Stadiwm Principality.

View more on twitter

Nifer o leoliadau cerddoriaeth fyw ger Stryd Womanby eisioes wedi cau

Mae nifer o leoliadau cerddoriaeth fyw ger Stryd Womanby yng Nghaerdydd eisioes wedi cau - Dempseys a Full Moon - ar gyfer ailddatblygiadau. Tra bod Clwb Ifor Bach wedi clywed am gynllun i droi safle gwasg gerllaw yn fflatiau.

Mae Clwb Ifor Bach gerllaw safle ar gyfer ailddatblygu
BBC
Mae Clwb Ifor Bach gerllaw safle ar gyfer ailddatblygu

Beth fydd tynged lleoliadau cerddoriaeth fyw?

'Enghraifft ragorol o ddemocratiaeth ar waith'

Mae cadeirydd y Pwyllgor Deisebau David Rowlands yn dweud bod y ddadl ar y ddeiseb yn "enghraifft ragorol o ddemocratiaeth ar waith".

David Rowlands
BBC

Cefndir

Ym mis Mai fe wnaeth Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, gyhoeddi ei bod yn bwriadu diwygio'r polisi cynllunio mewn ymgais i gefnogi lleoliadau cerddoriaeth fyw.

Daw'r newid arfaethedig wedi i berchnogion clybiau a thafarndai ar Stryd Womanby yng Nghaerdydd alw ar gyngor y ddinas i newid statws y stryd yn un "diwylliannol", er mwyn gwarchod sîn gerddoriaeth y brifddinas.

Roedd ymgyrchwyr yn pryderu nad oedd rheolau mewn grym i amddiffyn y clybiau a'r tafarndai, yn dilyn nifer o ddatblygiadau adeiladu yn yr ardal.

Dywedodd Lesley Griffiths ei bod am gyfeirio at yr egwyddor o 'Asiant dros Newid' o fewn y polisi cynllunio cenedlaethol.

O dan yr egwyddor yma, os caiff datblygiadau newydd fel fflatiau neu westai eu hadeiladu yn agos at leoliad cerddoriaeth fyw, cyfrifoldeb y datblygwr fydd rheoli effaith y newid a rheoli'r sŵn.

Richard Vaughan (canol) drefnodd y ddeiseb
Senedd
Richard Vaughan (canol) drefnodd y ddeiseb

Dadl: Camau i amddiffyn cerddoriaeth fyw yng Nghymru

Yr eitem nesaf yn y Siambr yw dadl ar y Ddeiseb 'Diogelu Cerddoriaeth Fyw yng Nghymru', sydd yn cael ei hystyried gan y Pwyllgor Deisebau ar hyn o bryd.

Mae'r ddeiseb wedi derbyn 5,383 o lofnodion.

Dyma eiriad y ddeiseb:

"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gymryd camau i ddiogelu lleoliadau cerddoriaeth fyw yng Nghymru. Rydym yn gofyn yn benodol i’r Cynulliad gyflwyno’r egwyddor o ‘asiant dros newid’ sy’n sicrhau mai’r rhai sy’n datblygu unrhyw eiddo newydd sy’n gyfrifol am ddatrys problemau’n ymwneud â sŵn o fusnesau gerllaw sydd wedi’u sefydlu’n barod. Rydym yn galw ymhellach ar y Cynulliad Cenedlaethol i ddeddfu i ganiatáu i awdurdodau lleol gydnabod ardal o ‘arwyddocâd diwylliannol cerddorol’ fel rhan o’r fframwaith cynllunio".

Mae Stryd Womanby yng Nghaerdydd yn gartref i nifer o glybiau nos a lleoliadau cerddoriaeth fyw.
BBC
Mae Stryd Womanby yng Nghaerdydd yn gartref i nifer o glybiau nos a lleoliadau cerddoriaeth fyw.

'Annerbyniol' nad oes canolfan rhewmatoleg bediatrig arbenigol yma

Mae Caroline Jones UKIP yn dweud ei bod hi'n "annerbyniol" mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU sydd heb ganolfan rhewmatoleg bediatrig arbenigol.

Mae'n siarad am brofiadau anodd merch wyth oed y mae hi wedi ei chwrdd sydd ag Arthritis Idiopathig Ieuangedd.

Caroline Jones
BBC

'Annerbyniol bod Cymru wedi cael ei gadael ar ôl'

Mae David Melding yn galw am ganolfan rhewmatoleg bediatrig yng Nghymru - mae yna 12 yn Lloegr.

Mae'n "annerbyniol bod Cymru wedi cael ei gadael ar ôl," meddai.

David Melding
BBC

Yn y DU mae tua 15,000 o blant a phobl ifanc wedi’u heffeithio gan arthritis

Mae arthritis yn gyflwr cyffredin sy’n achosi poen a llid mewn cymal.

Yn y DU, mae oddeutu 10 miliwn o bobl yn dioddef o arthritis. Mae’n effeithio ar bobl o bob oed, gan gynnwys plant.

Y ddau fath mwyaf cyffredin o arthritis yw:

  • Osteoarthritis: y math mwyaf cyffredin o arthritis yn y DU, sy’n effeithio ar oddeutu 8 miliwn o bobl. Mae’n datblygu amlaf ymysg oedolion yn eu 40au hwyr neu hŷn. Mae hefyd yn fwy cyffredin ymysg menywod a phobl gyda hanes teuluol o’r cyflwr. Fodd bynnag, gall ddigwydd i rywun o unrhyw oed o ganlyniad i anaf neu gall fod yn gysylltiedig â chyflyrau eraill yn ymwneud â’r cymalau, megis gowt neu arthritis gwynegol.

  • Arthritis Gwynegol: Yn y DU, mae arthritis gwynegol yn effeithio ar fwy na 400,000 o bobl. Mae’n aml yn dechrau pan fydd person rhwng 40 a 50 mlwydd oed. Mae merched dair gwaith yn fwy tebygol o gael eu heffeithio na dynion. Mae arthritis gwynegol ac osteoarthritis yn ddau gyflwr gwahanol. Mae arthritis gwynegol yn digwydd pan fydd system imiwnedd y corff yn targedu cymalau sydd wedi eu heffeithio, sy’n arwain at boen a chwyddo.

Caiff arthritis ei gysylltu’n aml â phobl hŷn, ond gall hefyd effeithio ar blant. Yn y DU, mae oddeutu 15,000 o blant a phobl ifanc wedi’u heffeithio gan arthritis.

Dadl gan Aelodau Unigol: Canolfan rhewmatoleg bediatrig

Nawr dadl gan Aelodau Unigol.

Mae David Melding (Canol De Cymru)

Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)

Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Julie Morgan (Gogledd Caerdydd) yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi mai Cymru yw'r unig un o'r gwledydd cartref sydd heb ganolfan rhewmatoleg bediatrig arbenigol;

2. Yn nodi bod tua 400 o blant yn ne Cymru yn unig sy'n dioddef o arthritis idiopathig ieuenctid;

3. Yn cydnabod yr angen am ganolfan rhewmatoleg bediatrig amlddisgyblaeth yng Nghymru;

4. Yn nodi bod Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o wasanaethau pediatrig arbenigol yng Nghymru; a

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi galwadau gan Gofal Arthritis, y Gymdeithas Arthritis Gwynegol Genedlaethol a Chymdeithas Brydeinig Rhewmatoleg ar gyfer creu canolfan rhewmatoleg bediatrig amlddisgyblaeth benodedig lwyr yng Nghymru.

Cefnogir gan:

Nick Ramsay (Mynwy)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Hefin David (Caerffili).

Rhewmatoleg
BBC

ACau yn cymeradwyo Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad

Doedd dim cyfraniadau gan UKIP yn ystod y ddadl.

Mae ACau yn cymeradwyo Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, yn ddiwrthwynebiad.

Yr agwedd newydd ddim yn berthnasol i staff presennol

Mae Adam Price yn pwysleisio na fyddai'r agwedd newydd yn berthnasol i staff presennol yn eu swyddi cyfredol, onibai yn wirfoddol.

Adroddiad Comisiwn y Cynulliad

Mae adroddiad Comisiwn y Cynulliad yn nodi eu bod:

  • wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau dwyieithog rhagorol, i Aelodau’r Cynulliad, y cyhoedd a'r staff;

  • yn gyflogwr sy’n cefnogi pob aelod o staff sydd am ddatblygu neu wella eu sgiliau yn y ddwy iaith swyddogol neu yn y naill iaith neu'r llall i safon sy’n briodol i’w swydd, neu ymhellach os dymunant; ac

  • yn sefydliad sy’n dysgu gan eraill ac yn rhannu ei brofiadau a’i wybodaeth am weithio’n ddwyieithog.

'Dylid cyhoeddi'r Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb'

Mae Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Y Gymraeg a Chyfathrebu, Bethan Jenkins yn dweud "Yn fras, roedd yr Aelodau yn fodlon ar y cynllun ac roeddent yn cydnabod y gefnogaeth ragorol ar y cyfan y maent yn ei derbyn i'w helpu i gynnal eu gwaith yn nwy iaith swyddogol y Cynulliad".

Mae'n galw ar i'r Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb gael ei wneud yn gyhoeddus.

Bethan Jenkins
BBC

'Rhagor o waith i'w wneud i ddod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog'

Adam Price yw'r Comisiynydd sy'n gyfrifol am ieithoedd swyddogol.

Mae'n dweud bod yr Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol yn nodi "achlysuron yn ystod y flwyddyn lle rydyn ni wedi methu cyflawni y safonau uchel a sut yr ydyn ni'n dysgu o hyn".

Mae'n dweud bod "rhagor o waith i'w wneud er mwyn dod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog".

Adam Price
BBC

'Cwrteisi ieithyddol sylfaenol'

Mae ACau nawr yn trafod cynnig i gymeradwyo'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Pumed Cynulliad.

Mae'n nodi erbyn haf 2018 bydd Comisiwn y Cynulliad yn:

"mabwysiadu dull lle mae angen o leiaf lefel sylfaenol o sgiliau Cymraeg ('cwrteisi ieithyddol sylfaenol') ar gyfer pob swydd a hysbysebir a bod disgwyl i ymgeiswyr naill ai ddangos tystiolaeth o'r sgiliau hynny adeg eu penodi, neu ymrwymo i ddysgu'r sgiliau hynny fel rhan o'r broses gynefino".

Datganiadau 90 Eiliad

Nawr y Datganiadau 90 Eiliad, lle mae tri aelod yn cael cyfle i godi materion amserol.

'Dim addewid o daliad o'r fath'

Ar ran Llywodraeth Cymru, mae Ysgrifennydd yr Economi a'r Seilwaith Ken Skates yn dweud "wnaethon ni erioed addo taliad o'r fath".

"Rydyn ni'n barod i helpu mewn unrhyw ffordd y gallwn ni", mae'n ychwanegu.

Ken Skates
BBC

Cwestiwn Amserol 3: Dyfodol Coilcolor

Mae'r trydydd cwestiwn amserol i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:

Mae Mohammad Ashgar yn gofyn a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu atal swyddi rhag cael eu colli yng Coilcolor yng Nghasnewydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn "esgus cefnogi" swyddi, yn ôl pennaeth cwmni paneli dur sydd ar fin cau.

Cwmni Coilcolor o Gasnewydd sy'n cynhyrchu'r rhan fwyaf o'r paneli glas ac oren ar gyfer Ikea ac EasyJet.

Cafodd y cwmni ei daro gan lifogydd fis Tachwedd y llynedd.

Mae rheolwr gyfarwyddwr y cwmni'n honni ei fod wedi disgwyl dau fis am daliad roedd Llywodraeth Cymru wedi addo fyddai'n cyrraedd o fewn dyddiau.

Fe allai Coilcolor nawr orfod diswyddo'r 50 o bobl sy'n gweithio i'r cwmni.

Paneli
BBC

Y gweinidog wedi 'mynegu pryderon" dro ar ôl tro'

Mewn ymateb i gwestiwn Eluned Morgan, mae'r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth Julie James yn dweud ei bod hi wedi "mynegu pryderon" dro ar ôl tro gyda Llywodraeth y DU ynghylch cau swyddfeydd y DWP, ac y bydd hi'n mynegu hynny eto yfory.

Eluned Morgan
BBC
Eluned Morgan

Cwestiwn Amserol 2: Colli swyddi yn yr Adran Gwaith a Phensiynau

Nawr cwestiwn amserol i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith (i’w ateb gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth):

Mae Eluned Morgan yn gofyn pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael ynghylch y swyddi a gaiff eu colli o ganlyniad i'r penderfyniad i gau swyddfeydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn Llanelli ac mewn rhannau eraill o Gymru.

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi dweud y byddan nhw'n cau neu'n cyfuno 10 safle yng Nghymru.

Y newidiadau:

  • Cau wyth safle, gan gynnwys canolfannau gwaith yn y Pîl (Pen-y-bont), Aberpennar (Rhondda Cynon Taf) a Thredegar (Blaenau Gwent).
  • Cau swyddfeydd yr adran yn Adeiladau'r Goron yn Llanelli (Sir Gâr).
  • Symud swyddfeydd a gwasanaethau yn Hwlffordd (Sir Benfro), Aberystwyth (Ceredigion), Porth (Rhondda Cynon Taf) a'r Drenewydd (Powys).

Bydd swyddfeydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn Adeiladau'r Goron yn Llanelli yn cau yn barhaol
Google
Bydd swyddfeydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn Adeiladau'r Goron yn Llanelli yn cau yn barhaol

'Rydyn ni i gyd angen gwybod y gwir'

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething yn croesawu'r ymchwiliad, gan ddweud "Rydyn ni i gyd angen gwybod y gwir".

Mae'n ychwanegu ei fod yn "disgwyl ymwneud yn llawn gyda'r rheini gafodd eu heffeithio yng Nghymru".

Vaughan Gething
BBC

Cwestiwn Amserol 1: Y sgandal gwaed halogedig

Mae'r cwestiwn amserol cyntaf i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:

Mae Julie Morgan yn gofyn beth yw'r goblygiadau i Gymru yn dilyn y penderfyniad i gynnal ymchwiliad cyhoeddus i'r sgandal gwaed halogedig.

Mae gwleidyddion wedi croesawu'r cyhoeddiad y bydd ymchwiliad cyhoeddus i'r defnydd o waed heintiedig o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Fe gyhoeddodd Theresa May brynhawn Mawrth y bydd ymchwiliad i'r "sgandal", wnaeth ladd 70 o bobl yng Nghymru yn 1970au a'r 1980au.

Fe ddatblygodd miloedd o bobl hepatitis C a HIV ar ôl cael gwaed oedd wedi ei heintio gan roddwyr o dramor.

Yn gynharach eleni, fe alwodd grŵp trawsbleidiol yn y Cynulliad dan gadeiryddiaeth Julie Morgan am ymchwiliad o'r fath.

Gwaed
BBC

Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf yn y Siambr yw'r Cwestiynau Amserol.

Mae'n rhaid i gwestiynau amserol ymwneud â mater o arwyddocâd cenedlaethol, rhanbarthol neu leol y byddai'n ddymunol cael ymateb cyflym iddo gan Weinidog.

Y Llywydd a fydd yn penderfynu sawl cwestiwn amserol i'w ddethol ar gyfer y cyfnod o 20 munud a neilltuwyd, a sut i rannu'r amser sydd ar gael rhwng y cwestiynau hynny.

Cwestiynau
BBC

'Gove, yn symbolaidd, wedi tynnu allan o orfodaeth rhyngwladol'

Mae Mr Antoniw yn ateb, fel y mae'n gwneud yn aml, bod asesiadau o'r fath yn gyfreithiol freintiedig.

Pryder Simon Thomas yw bod "Michael Gove, yn symbolaidd, wedi tynnu allan o orfodaeth rhyngwladol sy'n gysylltiedig gyda maes datganoledig".

Mae Mr Antoniw yn mynegu "pryder difrifol, o gofio bod hwn yn faes datganoledig, na chafodd swyddogion wybod tan 30 Mehefin y byddai yna gyhoeddiad ar 2 Orffennaf er gwaetha'r ffaith bod grŵp gweithredol ar bysgodfeydd a'r môr o'r pedair gweinyddiaeth wedi cael ei gynnal ar Fehefin 26".

Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol

Nawr cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw.

Mae Simon Thomas yn gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol wneud datganiad am y goblygiadau cyfreithiol i Gymru o dynnu allan o gonfensiwn pysgodfeydd Llundain 1964.

Mick Antoniw
BBC

Addysg uwch yn wynebu 'storm berffaith'

Dywed Kirsty Williams bod addysg uwch yn wynebu "storm berffaith" oherwydd Brexit a marchnad gystadleuol iawn yn y DU a ledled y byd, ond mae'n ychwanegu bod prifysgolion yng Nghymru yn cael eu hariannu'n dda o hyd.

'Roedd Wagner yn fyrrach na hynny'

"Roedd Wagner yn fyrrach na hynny" medd y cyn Ddirpwy Lywydd David Melding wrth i Rhianon Passmore, AC Islwyn, ofyn cwestiwn hirfaith ar y mesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod addysg gerddorol ar gael i bawb.

Wagner
BBC

'Dyw pentyrru pwysau ar fyfyrwyr ddim yn ateb'

Mae Llyr Gruffydd Plaid Cymru yn gofyn "beth yr ydych chi'n gredu sy'n lefel dderbyniol o ddyledion i fyfyrwyr yng Nghymru?"

Dyw Kirsty Williams ddim yn rhoi ffigwr, ond yn dweud "Rydw i'n llwyr ymwybodol bod y rhain yn faterion heriol ac anodd".

"Dyw pentyrru pwysau ar fyfyrwyr ddim yn ateb", medd Llyr Gruffydd.

Llyr Gruffydd
BBC

'Gadael i ysgol wledig bydru'

Ar y rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig, mae Michelle Brown UKIP yn gofyn pa gamau y byddai ysgrifennydd y cabinet yn eu cymryd petai hi'n "amau bod awdurdod lleol yn gadael i ysgol wledig bydru er mwyn cyflwyno achos cryfach dros gau?"

Unwaith eto mae Kirsty Williams yn cyfeirio at yr ymgynghoriad sy'n mynd rhagddo.

Michelle Brown
BBC

'Bradychu' myfyrwyr

Mae'r Ceidwadwr Darren Millar yn disgrifio'r cyhoeddiad ddoe y bydd uchafswm ffioedd dysgu ym mhrifysgolion Cymru yn codi i £9,295 o hydref 2018, ac y bydd uchafswm y ffioedd yn cael eu cysylltu â lefel chwyddiant ar gyfer y tair blynedd sy'n dilyn - fel "brad".

"Ni ellir ymddiried yn Llafur", meddai.

Mae e hefyd yn cyhuddo yr ysgrifennydd y cabinet o ddyfrhau ei haddewid am ddosbarthiadau llai, gan ddweud bod hyn bellach yn "addewid diwerth".

Mae Kirsty Williams yn mynnu mai'r addewid oedd i symud taug at ddosbarthiadau llai " gan ddechrau gyda'r dosbarthiadau mwyaf" a'i bod hi'n bwysig i godi safonau.

Darren Miller
BBC

Cwestiynau heb rybudd

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

Cefnogaeth i ysgolion gwledig

Mae cwestiwn cyntaf a gyflwynwyd gan Janet Finch-Saunders:

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ysgolion gwledig?

Mae Kirsty Williams yn agoffa ACau ei bod hi'n ddiweddar wedi lansio ymgynghoriad ar gyflwyno rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig.

Janet Finch-Saunders
BBC

Croeso nôl

Croeso nôl i Senedd Fyw.

Mae'r Cyfarfod Llawn ar fin dechrau gyda chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams.

Kirsty Williams
BBC

Nôl am 1.30pm

Mae'r aelodau bellach yn cwrdd yn breifat.

Fe fydd Senedd Fyw'n ôl am 1.30pm ar gyfer y Cyfarfod Llawn.

View more on twitter