Crynodeb

  1. Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1.30pm gyda chwestiynau i'r prif weinidog
  2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
  3. Dadl: Mesur yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)
  4. Datganiad: Caffael Gwasanaethau Rheilffyrdd a'r Metro
  5. Datganiad: Diwygio Llywodraeth Leol
  6. Datganiad: Banc Datblygu Cymru
  7. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol Mesur Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)
  8. Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2017-18
  9. Dadl: Cyfnod 4 Mesur yr Undebau Llafur (Cymru)

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

A dyna ni am heddiw.

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Cyllid.

Y Senedd
BBC

ACau yn pasio testun terfynol Mesur yr Undebau Llafur

Mae'r aelodau yn y Siambr yn pasio testun terfynol Mesur yr Undebau Llafur er bod y Ceidwadwyr yn pleidleisio yn ei erbyn.

y bleidlais
BBC

ACau yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Mesur Diddymu'r Hawl i Brynu

Mae'r Cynulliad yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Mesur Diddymu'r Hawl i Brynu.

y bleidlais
BBC

Mesur yr UE Llywodraeth y DU yn 'gwbl annerbyniol ar ei ffurf bresennol'

Mae'r Cynulliad yn cytuno ar y cynnig bod Mesur yr Undeb Ewropeaidd Llywodraeth y DU yn

a) ei fod yn gwbl annerbyniol ar ei ffurf bresennol; a

b) bod rhaid cymryd pob cam angenrheidiol i ddiogelu buddiannau Cymru a sefyllfa gyfansoddiadol a phwerau’r Cynulliad Cenedlaethol, gan gynnwys cyhoeddi mesur parhad.

y bleidlais
BBC

Y pedwerydd darn deddfwriaethol - nid y cyntaf

Mae Janet Finch-Saunders yn dweud mai Mesur Undebau Llafur (Cymru) yw gwaith deddfwriaethol cynta y cynulliad presennol.

Mae Mark Drakeford yn ei chywiro hi, gan mai hwn yw'r pedwerydd.

Proses pedwar cyfnod

Canllaw i'r Broses Ddeddfu.

Yn gyffredinol, mae pedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Mesur Cyhoeddus, sef:

Cyfnod 1 - pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny;

Cyfnod 2 - pwyllgor yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i'r Mesur hwnnw yn fanwl;

Cyfnod 3 - y Cynulliad yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i'r Mesur hwnnw yn fanwl;

Cyfnod 4 - pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur.

Diddymu rhannau o Ddeddf Undebau Llafur 2016 Llywodraeth y DU

Mae gweinidogion ym Mae Caerdydd wedi cyhoeddi mesur i ddiddymu rhannau o Ddeddf Undebau Llafur 2016 Llywodraeth y DU, sydd yn ei gwneud yn anoddach i wasanaethau cyhoeddus alw streic.

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn credu y gallai Llywodraeth y DU geisio gwyrdroi deddfwriaeth ar bwerau undebau llafur.

Yn ei sylwadau i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, dywedodd Mark Drakeford y byddai'n "warth democrataidd" petai gweinidogion yn San Steffan yn ceisio gwyrdroi'r mesur.

Streic
EPA

Dadl: Cyfnod 4 Mesur yr Undebau Llafur (Cymru)

Ac yn olaf yn y Cyfarfod Llawn heddiw, mae Mark Drakeford yn cynnig bod y Cynulliad yn cymeradwyo Mesur yr Undebau Llafur (Cymru).

Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr am ymatal

Mae Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr yn dweud eu bod am ymatal yn y bleidlais ar y Gyllideb Atodol.

Y newidiadau yn 'weinyddol yn bennaf'

Mae Mark Drakeford yn dweud bod y newidiadau yn "weinyddol yn bennaf".

Mae'n ychwanegu "does yr un gyllideb wedi ei thorri o ganlyniad o'r newidiadau hyn" a bod "effaith net y newidiadau ar y cyfan yn ddim".

Crynodeb

Cyllideb Atodol Gyntaf 2017-18

Nesaf dadl ar Gyllideb Atodol Gyntaf 2017-18.

Mae Jane Hutt yn cynnig bod y Cynulliad yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017-18 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno.

Mae’n nodi nifer o ddyraniadau o’n cronfeydd wrth gefn ac yn cynnwys rhagolygon diwygiedig ar gyfer Gwariant a Reolir yn Flynyddol.

Arian
PA

'Rhwystr rhy gryf i'r dyhead o berchnogaeth eiddo'

Mae Gareth Bennett yn dweud "rydyn ni yn UKIP yn derbyn bod yr hawl i brynu wedi bod yn broblemataidd" ond mae "cael gwared â'r hawl i brynu yn rhwystr rhy gryf i'r dyhead o berchnogaeth eiddo".

Mae'n dweud bod UKIP yn dadlau dros "adeiladu rhagor o gartrefi modwlar sydd wedi'u hadeiladu mewn ffatri allai fod yn llawer mwy fforddiadwy na thai sydd wedi'u hadeiladu'n gonfensiynol".

'I'w groesawu ond yn annigonol'

Mae targed tai Llywodraeth Cymru o 20,000 o gartrefi yn tymor y cynulliad yma "i'w groesawu ond yn annigonol", medd y Ceidwadwr David Melding.

Ond hyd yn oed os yw Llywodraeth Cymru yn cwrdd a'i tharged tai, byddai dal gan Gymru ddiffyg tai o 66,000 erbyn 2031, meddai.

David Melding
BBC

'Dyletswydd absoliwt ar Weinidogion Cymru'

Mae Huw Irranca-Davies yn cyflwyno adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

Mae'r pwyllgor yn gwneud pump o argymhellion - yn eu plith:

"argymell y dylai Ysgrifennydd y Cabinet gyflwyno gwelliant i’r Mesur, sef gosod dyletswydd absoliwt ar Weinidogion Cymru i ddarparu copi i bob landlord cymwys yng Nghymru o’r wybodaeth sydd wedi’i gosod yn adran 8".

Huw Irranca-Davies
BBC

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Simon Thomas, yn cyflwyno adroddiad y pwyllgor.

Mae'r pwyllgor "yn nodi'r amrywiaeth eang yn y ffigurau a ddarparwyd yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol i amcangyfrif y costau neu'r buddion ariannol posibl a allai godi o weithredu darpariaethau'r Mesur, fodd bynnag mae'n cydnabod yr anhawster wrth ddatblygu ffigurau pendant o ystyried yr ansicrwydd wrth ragfynegi nifer y gwerthiannau eiddo, fel yr amlinellwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet.

"Er y byddai bob amser yn well gan y Pwyllgor weld deddfwriaeth ynghyd ag amcangyfrifon cadarn o'i goblygiadau ariannol, mae'n fodlon o ganlyniad i'r gwaith modelu a wnaed gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r Mesur hwn a honiad Ysgrifennydd y Cabinet bod y ffigurau a ddarparwyd yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn gywir, er gwaethaf yr amrywiadau".

Simon Thomas
BBC

'Angen i denantiaid tai cymdeithasol gael gwybodaeth glir'

Mae Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, John Griffiths, yn dweud bod yn rhaid i bobl sy'n byw mewn tai cymdeithasol gael gwybodaeth glir ynghylch cynlluniau i ddod â diwedd i'r hawl i brynu eu cartref.

Mae'n galw ar weinidogion "i arwain at hyrwyddo dealltwriaeth" o'r newid.

Mae'r pwyllgor eisiau i Lywodraeth Cymru nodi yn y Mesur yn union pa wybodaeth y bydd disgwyl i landlordiaid i'w ddarparu i'w tenantiaid ynghylch newidiadau, ac i sicrhau bod y wybodaeth wedi ei chynhyrchu mewn ffurfiau hawdd i'w cyrraedd sy'n cwrdd â'r anghenion.

John Griffiths
BBC

Crynodeb o'r Mesur

Disgwyl i'r gwaharddiad ddod i rym cyn etholiad nesaf y Cynulliad

Fe fydd gan denantiaid o leiaf un mlynedd i wneud cais i brynu cartref o dan yr hen reolau wedi i'r mesur, gafodd ei addo gan Lafur yn etholiad y Cynulliad 2016, ddod yn ddeddf.

Mae disgwyl i'r gwaharddiad ddod i rym cyn etholiad nesaf y Cynulliad yn 2021.

Carl Sargeant
BBC

'Amddiffyn stoc dai Cymru'

Ym mis Mawrth fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi cynlluniau i ddiddymu cynllun Hawl i Brynu ar draws y wlad.

Cafodd addewid i wneud hynny ei wneud ym maniffesto'r Blaid Lafur ar gyfer etholiad Cynulliad 2016, ac mae cynghorau unigol eisoes wedi cael y pŵer i atal y cynllun.

Dywed y llywodraeth mai'r bwriad oedd amddiffyn stoc dai Cymru a sicrhau bod digon o gartrefi fforddiadwy i bobl sydd methu fforddio prynu neu rentu.

Roedd y cynllun Hawl i Brynu, sydd yn caniatáu i denantiaid cartrefi cymdeithasol brynu eu heiddo ar ôl byw yno am bum mlynedd, yn un o'r polisïau amlycaf gafodd eu cyflwyno gan Margaret Thatcher pan oedd hi'n brif weinidog.

Tai
PA

Mesur Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig

Nesaf yn y Siambr mae ACau yn cael dadl ar egwyddorion cyffredinol Mesur Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol.

Mae adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y Mesur i'w weld yma.

Allwedd
BBC

Y nod yw helpu creu 5,500 o swyddi newydd y flwyddyn

Mae Banc Datblygu i Gymru yn cael ei lansio yn swyddogol heddiw.

Y bwriad yw defnyddio arian Llywodraeth Cymru i helpu busnesau i sefydlu a thyfu.

Fe ddaw hyn wedi beirniadaeth o Gyllid Cymru gan Lywodraeth Cymru am beidio cwrdd â gofynion ac anghenion busnesau bach.

Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, wedi cyhoeddi y bydd £35m o arian o'r Undeb Ewropeaidd yn cael ei ychwanegu at y £136m yng Nghronfa Fusnes Cymru gafodd ei sefydlu'r llynedd i gefnogi busnesau bach a chanolig ar draws Cymru.

Bydd gan Fanc Datblygu Cymru, fydd a'i bencadlys yn Wrecsam, darged o fuddsoddi ar gyfartaledd £200,000 y flwyddyn am bum mlynedd mewn cwmnïau bach a chanolig.

Y nod yw helpu creu 5,500 o swyddi newydd y flwyddyn.

Yn ôl Ken Skates "Bydd yn cynyddu argaeledd cyllid i fusnesau bach a chanolig i £80m y flwyddyn o fewn pum mlynedd, ac ry'n ni'n rhagweld, o ystyried y gallai hyn ei gael ar fuddsoddiad o'r sector preifat, y gallai hynny weddnewid economi Cymru gan greu dros £170m y flwyddyn erbyn 2021/22."

Bydd Banc Datblygu Cymru yn dechrau ar ei waith ym mis Hydref eleni.

Datganiad: Banc Datblygu Cymru

Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad arall gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: Banc Datblygu Cymru.

Arian
BBC

'Dylai pleidleisio gorfodol fod yn un opsiwn'

Mae AC Llanelli Lee Waters yn dweud ei fod yn "siomedig nad yw pleidleisio gorfodol yn un opsiwn y mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am farn amdano".

Lee Waters
BBC

'Dod â llywodraeth leol yn agosach at y bobl'

Mae Gareth Bennett UKIP yn dweud "gallai diwygiadau weithio'n dda ar yr amod mai'r prif nod yw dod â llywodraeth leol yn agosach at y bobl maen nhw'n eu gwasanaethu".

Gareth Bennett
BBC

'Cymhlethdod yr holl haenau o lywodraeth sy'n cael eu creu'

Mae Sian Gwenllian Plaid Cymru yn sôn am "gymhlethdod yr holl haenau o lywodraeth sy'n cael eu creu yn ogystal â ble mae'r atebolrwydd yn gorwedd a'r craffu yn digwydd - dyna sy'n dod yn amlwg i mi", meddai.

Sian Gwenllian
BBC

'Dydw i ddim yn meddwl y gallai unrhyw un ladd ar y weledigaeth'

Mae'r aelod Ceidwadol Janet Finch-Saunders yn dweud "Dydw i ddim yn meddwl y gallai unrhyw un ladd ar y weledigaeth yr ydych chi'n ei geisio i symud ymlaen".

Mae'n dweud ei bod hi'n edrych ymlaen i'r "manylyn manwl" ac yn codi pryderon am adnoddau ariannol, seddi diwrthwynebiad, ac yn rhybuddio yn erbyn creu system a fyddai'n "ddryslyd i'r etholwyr".

Janet Finch-Saunders
BBC

Adolygiad trylwyr o gynghorau tref a chymuned

Mae Mark Drakeford yn dweud y bydd adolygiad trylwyr yn cael ei gynnal o gynghorau tref a chymuned.

Cynhelir yr adolygiad seiliedig ar dystiolaeth gan banel wedi'i gadeirio gan y Cyn-aelodau Cynulliad, Gwenda Thomas a Rhodri Glyn-Thomas.

Bydd yr adolygiad yn ystyried beth sydd angen newid er mwyn i lywodraeth ar y lefel mwyaf lleol weithio'n dda a chyflawni canlyniadau.

Mae disgwyl i'r adolygiad ddechrau yn ystod yr haf, a phara am flwyddyn.

Mark Drakeford
BBC

Yr hawl i bleidleisio yn 16

Gallai pobl ifanc 16 ac 17 oed yng Nghymru gael yr hawl i bleidleisio mewn rhai etholiadau, gan gynnwys ar-lein.

Mae'r cynlluniau yn rhan o newidiadau arfaethedig gan Lywodraeth Cymru ar gyfer etholiadau lleol.

Byddai dinasyddion o dramor sydd fel arfer yn byw yng Nghymru yn gallu pleidleisio ar gyfer eu cynghorwyr, ac fe allai lleoliadau fel archfarchnadoedd a gorsafoedd trên gael eu defnyddio fel gorsafoedd pleidleisio.

Yn ogystal, mae newid y system bleidleisio er mwyn ei gwneud hi'n fwy cyfrannol yn cael ei ystyried.

"Does dim rheswm pam y gall pobl 16 ac 17 oed briodi, talu trethi ac ymuno â'r fyddin, ond ddim pleidleisio yn ein hetholiadau," meddai'r Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Mark Drakeford.

"Does dim rheswm pam, yn yr 21ain Ganrif, y gallwn ni wneud pob math o bethau ar-lein ond na allwn ni, hyd yn hyn, bleidleisio ar-lein."

Un arall o'r cynigion yw y gallai etholiadau gael eu cynnal ar unrhyw ddiwrnod o'r wythnos, yn hytrach na dim ond ar ddydd Iau fel sy'n digwydd ar hyn o bryd.

Cafodd pobl ifanc 16 ac 17 bleidleisio yn refferendwm annibyniaeth Yr Alban yn 2014
AFP
Cafodd pobl ifanc 16 ac 17 bleidleisio yn refferendwm annibyniaeth Yr Alban yn 2014

Diwygio Llywodraeth Leol

Yr eitem nesaf yn y Siambr yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford ar Ddiwygio Llywodraeth Leol.

Mae'n rhaid i gynghorau lleol wneud mwy er mwyn cadw eu hochr nhw o'r fargen sy'n sicrhau bodolaeth 22 cyngor yng Nghymru, yn ôl yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford.

Dywedodd Mr Drakeford, sydd hefyd yn gyfrifol am lywodraeth leol, bod angen 'cydweithio'n gyflymach a rhannu dyletswyddau mewnol rhwng awdurdodau', fel talu cyflogau staff, casglu treth cyngor a gwasanaethau cyfreithiol.

Heddiw mae Mr Drakeford yn cyhoeddi manylion cynllun ar gyfer cydweithio rhwng cynghorau mewn tri rhanbarth - dau wedi eu canoli o amgylch Caerdydd ag Abertawe, a'r llall yn y gogledd.

Fe benderfynodd y llywodraeth cael gwared ar gynllun i uno cynghorau y llynedd - cynllun a fyddai wedi gostwng y nifer o awdurdodau o 22 i gyn lleied ag wyth.

Mae e hefyd yn ymgynghori ar roi'r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed mewn etholiadau lleol.

Llywodraeth leol
Thinkstock

Crynodeb o anghenion Llywodraeth Cymru

Ar ddiwedd y mis fe fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi crynodeb o'i hanghenion ar gyfer y gwasanaeth rheillffordd Cymru a'r Gororau nesaf a Metro De Cymru.

'Pedwar o gynigwyr o ansawdd uchel'

Mae'r llywodraeth wedi bod yn cael cefnogaeth gan Trafnidiaeth Cymru i "gyflawni elfennau o weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu system drafnidiaeth integredig trawsnewidiol yng Nghymru, gan ddarparu trafnidiaeth ddigoel, fforddiadwy a chynaliadwy o safon uchel i bawb".

Mae Mr Skates yn dweud "Rydyn ni wedi bod yn llwyddiannus yn denu pedwar o gynigwyr o ansawdd uchel."

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus diweddar.

Gweledigaeth

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal proses gaffael i ddewis partner gweithredu a datblygu ("ODP") i weithredu Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau ac i ddatblygu cynlluniau ar gyfer Prif Gledrau'r Cymoedd, ac ar ôl hynny ei weithredu, fel rhan o Gam 2 y Metro ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd sy'n cynnwys y deg awdurdod lleol yn Ne Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud mai ei gweledigaeth yw "cael gwasanaeth rheilffordd modern ac effeithlon i adeiladu ar lwyddiannau presennol Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau, drwy ddefnyddio technoleg fodern ac arferion gwaith da i roi gwasanaeth gwell i deithwyr.

"Y blaenoriaethau yw:

  • datblygu gwasanaethau newydd a chreu mwy o le ar wasanaethau gorlawn presennol;
  • cerbydau modern sy'n cydymffurfio â safonau modern;
  • effeithlonrwydd gwell i wella arbedion a allai ehangu'r gwasanaeth ymhellach;
  • cydweithrediad rhwng darparwyr trafnidiaeth eraill er mwyn darparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus integredig; a
  • strwythur masnachol sy'n cymell yr ymddygiadau cywir gydag adroddiadau masnachol gwell."
Map o gynllun Metro De Cymru
Llywodraeth Cymru
Map o gynllun Metro De Cymru

Dyfodol gwasanaethau rheilffyrdd Cymru

Datganiad: Caffael Gwasanaethau Rheilffyrdd a'r Metro

Nawr datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates: Caffael Gwasanaethau Rheilffyrdd a'r Metro.

Ken Skates
BBC

'Ciwed yn San Steffan â dim mandad'

Mae Llefarydd Plaid Cymru ar Ewrop, Steffan Lewis, yn dweud "rydyn ni wedi aros 600 mlynedd am hunanlywodraeth, allwn ni ddim caniatáu i hynny gael ei erydu yn ystod y misoedd nesaf gan giwed yn San Steffan sydd â dim mandad i wneud hynny".

Steffan Lewis
BBC

'Seneddau a chynulliadau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn rhan o setliad democrataidd modern y DU'

Ar ran y Ceidwadwyr mae Mark Isherwood yn dweud bod "seneddau a chynulliadau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn rhan o setliad democrataidd modern y Deyrnas Unedig, ac y dylid eu cynnwys yn llawn yng ngwneuthuriad y Deyrnas Unedig sy'n ffynnu yn y dyfodol ar ôl-Brexit".

Mark Isherwood
BBC

'Her anferth'

Mae'r prif weinidog yn canolbwyntio ar yr "her anferth y mae'r mesur yn ei gynrychioli i'r setliad datganoledig fel y mae wedi datblygu dros y ddau ddegawd diwethaf".

Mae'n cyfeirio at refferendwm 2011 o blaid cynyddu pwerau deddfu y Cynulliad.

Y Senedd
BBC

Mesur 'ddim yn fygythiad i'r setliad datganoli presennol'

Mae Neil Hamilton UKIP yn dweud "nad yw Mesur yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn unrhyw fygythiad i'r setliad datganoli presennol".

Neil Hamilton
BBC

Safbwynt Llywodraeth Cymru

Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth Llywodraeth y DU gyhoeddi Mesur yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).

Bryd hynny dywedodd Carwyn Jones bod "safbwynt Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir ers diwrnod canlyniad y refferendwm ar yr UE - mae'r DU yn gadael yr UE a byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau Brexit synhwyrol, sy'n diogelu swyddi a'n heconomi. Felly, byddem yn barod i gefnogi Mesur sy'n rhoi eglurder a sicrwydd i fusnesau a'n cymunedau, ac sy'n parchu'r setliad datganoli.

"Ond nid yw'r Mesur hwn yn gwneud hyn. Yn wir, nid yw ychwaith yn bodloni nod datganedig y Prif Weinidog ei hun i gydweithio mewn modd adeiladol, er mwyn sicrhau Brexit llwyddiannus. Er mawr siom, mae ein hymdrechion i weithio gyda Llywodraeth y DU ar y materion hyn wedi cael eu hanwybyddu."

Baneri Cymru a'r Undeb Ewropeaidd
BBC