Got a TV Licence?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

Find out more
I don’t have a TV Licence.

Crynodeb

  1. Cymru 1-0 Awstria - Woodburn i Gymru

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

Hwyl am y tro

BBC Cymru Fyw

Diolch yn fawr am fod gyda ni heno - fe fyddwn ni'n ôl nos Fawrth wrth gwrs ar gyfer y gêm yn erbyn Moldofa.

Mae'r freuddwyd o gyrraedd Cwpan y Byd yn Rwsia yn dal yn fyw - daliwch i gredu.

C'MON CYMRU!!!

Nos da.

Tabl Grŵp D

Sgorio, S4C

Welwn ni chi nos Fawrth gobeithio?

Marc Lloyd Williams

"Am noson fydd hi nos Fawrth, Cymru yn Moldova a Iwerddon yn erbyn Serbia.

"Mi fydd Cymru yn gryfach nos Fawrth gyda Joe Allen a Nei Taylor yn ôl, Allen syth i mewn a patrwm o 4-2-3-1. Cmon Cymru."

Fe allai Cymru godi i'r ail safle yn y grwp nos Fawrth gyda buddugoliaeth arall yn Moldofa...

Stedi rwan Jiws!

Marc Lloyd Williams

"Da ni dal i freddwydio. Tri phwynt oedd angen a tri phwynt a gafwyd heno, ennill y dair gêm nesa ac efallai fydd ddim angen y gemau ail gyfle."

A'r sgôr terfynol?

Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Mae'n iawn bois, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau fod CYMRU WEDI ENNILL!!!

View more on twitter

Diolch Ben Woodburn!

BBC Cymru Fyw

Mae Cymru wedi ennill diolch i gôl gan lanc 17 oed yn ei gêm gyntaf dros Gymru.

Dydi o ddim yn ddigon hen i gael diod i ddathlu, nac i bleidleisio, ond mae Ben Woodburn wedi ennill pleidlais bob un o genfogwyr Cymru heno!

woody
Reuters

CYMRU 1-0 AWSTRIA

Chwiban Olaf

Mae'r freuddwyd yn dal yn fyw...

C'MON CYMRU!!

Cymru 1-0 Awstria

Cwpan y Byd 2018

Hal Robson-Kanu yn taro'r postyn - Cymru'n chwalu Awstria ar y funud

Cymru 1-0 Awstria

Cwpan y Byd 2018

Bale a chynnig dros ei ysgwydd - bendigedig, ond arbediad cystal!

Cymru 1-0 Awstria

Cwpan y Byd 2018

HRK.....HRK.... HRK!!!

O na - rhediad gwych ond ergyd siomedig dros y trawst!

Cymru 1-0 Awstria

Cwpan y Byd 2018

Tri munud sy'n cael eu hychwanegu am anafiadau ar ddiwedd y 90.

Cymru 1-0 Awstria

Cwpan y Byd 2018

Dau funud i fynd - Cymru'n pwyllo (gwastraffu amser!)

Waw!

Sgorio, S4C

'Llawn hyder'

Marc Lloyd Williams

"Sa chi meddwl fod Woodburn wedi bod yn chwarae i Gymru ers blynyddoedd, yr hogyn llawn hyder."

Ebsie ddwedws hi!

Twitter

Cymru 1-0 Awstria

Cwpan y Byd 2018

Saith munud yn weddill - mae Cymru wedi bod ar y blaen ymhob gêm yn yr ymgyrch hyd yma, ond wedi ennill ond un!

Rhaid canolbwyntio.

Canu'n gweithio!

Marc Lloyd Williams

"Sgwn i os fod y cefnogwyr wedi canu'r anthem genedlaethol wedi cael dylanwad, mi sgoriodd ar ddiwedd y gan!!"

Nai'm deud mwy!

Twitter

Godidog!

Marc Lloyd Williams

"Godidog! Dau gyffriad cyntaf Woodburn ers dod ymalen, dim gobaith i'r golwr, mae'r stadiwm yn wynd yn wirion bost, mae'r freuddwyd dal yn fyw."

woodburn
Reuters

Ti a phawb arall Gwion!

Twitter

Cymru 1-0 Awstria

Cwpan y Byd 2018

Awstria 'n ymosod nawr, ond Ashley Williams yn y lle iawn i atal ergyd Arnautovic

Cymru 1-0 Awstria

Cwpan y Byd 2018

Mae'r gôl wedi rhoi hyder i Gymru - croesiad arall at Bale, ond y golwr yn cael blaen ei fys ati i glirio.

Cymru 1-0 Awstria

Gôl!

BEN WOODBURN!!!!

Gêm gyntaf i Gymru ac mae o wedi sgorio!

Angen gôl

Marc Lloyd Williams

"Ben Woodburn a HRK yn dod ymlaen i Gymru, eilyddio positif iawn gan Coleman. Mae'r ddau a llygaid am gôl a dyna sydd angen arna ni."

Dau yn mynd - dau ymlaen

Eilyddio

Tom Lawrence yn gadael i wneud lle i Ben Woodburn,

Sam Vokes yn gwneud lle i Hal Robson-Kanu.

Cymru 0-0 Awstria

Cwpan y Byd 2018

Waw! Gwaith amddiffynnol gwych gan...Gareth Bale!?

Awstria'n mynd i gwrt Cymru a Bale yn ôl gyda thacl wych!

HRK?

Marc Lloyd Williams

"Hanner awr i fynd mae HRK yn cynhesu i fyny, yn bersonnol mi faswn i yn tynnu Lawrence i ffwrdd a mynd 4-3-3.

"Cefnogwyr Awstria sydd a mwyaf o'r sŵn rwan tu ôl i gôl Cymru."

Cymru 0-0 Awstria

Cwpan y Byd 2018

Ergyd dda!

Ramsey'n rhedeg ac ergydio - fe aeth hi heibio'r postyn, ond y lluniau'n dangos bod y golwr wedi cael bys ati. Er hynny, cic gôl medd y dyfarnwr!

Cymru 0-0 Awstria

Cwpan y Byd 2018

Ar ol cyfnod cyflym mae'n gêm yn arafu rhyw fymryn - Cymru'n dal i bwyso, ond Awstria'n edrych yn beryglus ar adegau hefyd.

Deffrwch!

Marc Lloyd Williams

"Ergyd na gan Bale wedi deffro'r stadiwm, rhaid manteisio ar y momentwm."

Cymru'n well o lawer

Marc Lloyd Williams

"Cymru yn edrych yn fwy ymosodol hefo Andy King ymlaen, mae hyn yn galluogi Ramsey a Bale gael fwy o ryddid."

Cymru 0-0 Awstria

Cwpan y Byd 2018

Gwych gan Bale!!

Ergyd o 20 llath, ond arbediad campus gan Linder - cic gornel i Gymru.

Jiws yn ystyried newid arall

Marc Lloyd Williams

"Hanner pwysicaf Cymru yn yr ymgyrch hyd yma. Angen codi'r tempo, efallai na HRK fydd y dyn oddibar y fainc?"

Darllen o bell

Twitter

Dewr

Twitter

Cymru 0-0 Awstria

Cwpan y Byd 2018

Cyfle - cic rydd gan Bale a'r bêl yn tasgu o gwmpas y cwrt cyn i Awstria glirio.

Golwg bryderus ar y rheolwr!

BBC Cymru Fyw

coleman
AFP

Cymru 0-0 Awstria

Cwpan y Byd 2018

Cyfle cynnar - croesiad at Ramsey, ond yntau'n llwyddo ond i wyro'r bêl heibio'r postyn. Dechra da eto.

Richards yn gadael

Eilyddio

Mae Jazz Richards wedi gadael y maes ar yr egwyl, gydag Andy King yn dod ymlaen.

Mae Cymru wedi newid i chwarae pedwar yn y cefn gyda Ben Davies yn gefnwr chwith, a King yn mynd i ganol cae.

Cymru 0-0 Awstria

Cwpan y Byd 2018

Cymru sydd â'r gic gyntaf ar ddechrau'r ail hanner...