a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
  2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
  3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon
  4. Cwestiynau Amserol
  5. Cyflwyno Mesur a gynigir gan Bwyllgor – Mesur Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)
  6. Dadl gan Aelodau Unigol: cynhesu byd eang a chytundeb Paris
  7. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu 'Gwireddu'r Uchelgais – Ymchwiliad i Strategaeth Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru'
  8. Dadl Plaid Cymru: gweithlu GIG Cymru
  9. Dadl Fer: M4 sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Cai Llwyd

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Diolch am ddilyn

Gyda hynny, daw'r trafodaethau yn y Siambr i ben.

Bydd Senedd Fyw yn dychwelyd ddydd Mawrth, 10 Hydref.

Senedd
BBC

Ffordd liniaru 'yn darparu gwerth am arian'

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates bod "problemau parhaol" o amgylch twneli Brynglas, a'u bod hefyd yn gwaethygu.

Ychwanegodd y byddai'r ffordd liniaru yn darparu "gwerth am arian", a bod canlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus presennol "wir yn bwysig i Gymru".

Ken Skates
BBC

'Maes parcio gwerth £1bn'

Dywedodd Lee Waters y byddai ffordd liniaru'r M4 o amgylch Casnewydd yn "ffordd ddrud o fynd i'r afael â'r broblem dros dro yn unig".

"Allwn ni ddim adeiladu ein ffordd allan o'r broblem yma," meddai.

"Os dydyn ni ddim yn ofalus, gallwn ni fod â maes parcio gwerth £1bn."

Lee Waters
BBC

'M4 sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol'

Yr eitem olaf heddiw yw Dadl Fer, sy'n cael ei arwain gan Lee Waters ar y pwnc: M4 sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

'Heriau recriwtio ddim yn unigryw i Gymru'

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething ei fod yn cydnabod yr "heriau gwirioneddol mewn recriwtio, sydd ddim yn unigryw i Gymru".

Mae hefyd yn amlinellu cyfres o fesurau mae'r llywodraeth yn eu cymryd, gan gynnwys y cyhoeddiad ddoe y bydd £14m yn cael ei wario i ddatblygu addysg feddygol israddedig yn y gogledd.

Vaughan Gething
BBC

'Sefyllfa enbyd'

Dywedodd AC UKIP Caroline Jones y bydd y blaid yn cefnogi cynigion Plaid Cymru, a hynny am fod "diffyg cynllunio gyda'r gweithlu dros yr ychydig ddegawdau diwethaf wedi'n gadael mewn sefyllfa enbyd".

Galw i ymgynghori â sectorau perthnasol

Mark Reckless sy'n amlinellu gwelliant y Ceidwadwyr, fyddai'n gweld pwynt newydd yn cael ei ychwanegu ar ddiwedd y cynnig:

  • Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â sectorau perthnasol i sicrhau bod cynllunio'r gweithlu yn digwydd mewn modd cydlynol.
Mark Reckless
BBC

'Prinder staff yn peri risg i ddiogelwch'

Mae Mr ap Iorwerth yn dadlau bod y "prinder presennol o ddoctoriaid, nyrsys a staff iechyd arall yn peri risg i ddiogelwch cleifion".

Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru wedi "methu â chyflwyno cynllun effeithiol a chynaliadwy" ar gyfer gweithlu GIG Cymru.

Mynegodd ei bryder hefyd bod "chwarter meddygon teulu Cymru o fewn degawd o oedran ymddeol".

Rhun ap Iorwerth
BBC

Dadl Plaid Cymru ar weithlu'r GIG

Y pwnc mae Plaid Cymru wedi'i dewis i'w ddadlau yw gweithlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth yn cynnig bod y Cynulliad:

  1. Yn nodi bod prinder meddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yn peri risgiau i ddiogelwch cleifion a'r gallu i gyflenwi gwasanaethau'n ddiogel;
  2. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i weithredu cynllun gweithlu effeithiol a chynaliadwy ar gyfer GIG Cymru.

'Consensws newydd' ar y Gymraeg

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg Alun Davies y bydd yn arwain "consensws newydd" ar yr iaith, ac y bydd ei ddatganiad ddydd Mawrth nesaf yn ehangu ar ei gynlluniau.

Alun Davies
BBC

Swm 'syfrdanol' o waith i'w wneud

Dywedodd AC Llafur Llanelli Lee Waters bod swm "syfrdanol" o waith i'w wneud ac mai'r "ffocws ddylai fod sut allwn ni gael y continwwm yn gweithio mewn ffordd ystyrlon mewn ysgolion sy'n gyfrwng Saesneg ar hyn o bryd".

"Mae hynny'n anodd iawn," meddai.

Ychwanegodd y "dylai pob ysgol Saesneg anelu at fod yn ysgol ddwyieithog yn y tymor canolig".

Lee Waters
BBC

Pwyllgor wedi cynnal ymchwiliad ar wahân

Mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu wedi cynnal ymchwiliad i strategaeth iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru er mwyn iddo lywio a dylanwadu ar y strategaeth newydd wrth iddi gael ei ffurfio.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei huchelgais i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, fyddai'n golygu bron dyblu nifer presennol y siaradwyr Cymraeg.

Mae'r pwyllgor wedi cynnal ei ymgynghoriad ei hun i hyn, sydd ar wahân i'r hyn a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru, ac mae'r cadeirydd Bethan Jenkins yn cynnig bod y Cynulliad yn nodi eu hadroddiad, sydd â chyfanswm o 23 argymhelliad.

Bethan Jenkins
BBC

Cymraeg 2050 - Gwireddu'r Uchelgais

Mae'r ddadl nesaf ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu 'Gwireddu'r Uchelgais - Ymchwiliad i Strategaeth Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru'.

Y llywodraeth am gefnogi'r cynnig

Dywedodd Ysgrifennydd yr Amgylchedd Lesley Griffiths y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynnig, gan ychwanegu eu bod eisoes â'r nod o sicrhau sector cyhoeddus carbon-niwtral erbyn 2030 ac wedi gosod targedau ynni adnewyddadwy "heriol".

Lesley Griffiths
BBC

Ol-troed carbon ar labeli bwyd?

Dywedodd yr AC Llafur Jenny Rathbone bod "gwybod faint o garbon y mae'n ei gymryd i gynhyrchu bwydydd yn bywsig, ac efallai y dylai fod ar labeli".

Jenny Rathbone
BBC

'Newid ymddygiad' am allyriadau carbon

Dywedodd Simon Thomas y gallai cyfrifon carbon personol bod yn ffordd bwysig o leihau allyriadau carbon.

Ychwanegodd mai'r pwrpas yw "nid i godi arian ond newid ymddygiad, fel y gwnaeth y dreth ar fagiau plastig".

Eglurodd y byddai'n wirfoddol ar unigolion, ond yn orfodol ar gwmnïau tanwydd.

Dadl gan Aelodau Unigol ar gynhesu byd eang

Mae gennym nawr Ddadl gan Aelodau Unigol. Mae:

  • Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru);
  • Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr);
  • David Melding (Canol De Cymru);
  • Mike Hedges (Dwyrain Abertawe);

yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

  1. Yn cydnabod yr angen i liniaru cynhesu byd eang a chefnogi cytundeb Paris o'r 21ain gynhadledd o'r partïon ('Cytundeb Paris') drwy dorri allyriadau carbon a nodi bod hyn yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;
  2. Yn nodi bod yr egwyddor datblygu cynaliadwy wedi'i hymgorffori yng ngwaith y Cynulliad gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998;
  3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwil pellach i ddichonoldeb cynllun peilot cyfrifon carbon personol yng Nghymru.

Sicrhau nad oes 'gor-reoleiddio'

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford y bydd y llywodraeth yn "edrych yn gadarnhaol ar y mesurau fydd yn helpu'r ombwdsmon i ymgymryd â'i rôl", ond y byddan nhw eisiau sicrhau nad yw gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu "gor-reoleiddio", yn ogystal ag ystyried y gost.

Mark Drakeford
BBC

Pwerau newydd i'r Ombwdsmon?

Dywedodd Mr Thomas bod y mesur yn gosod pwerau newydd i’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.

Byddai'r pwerau newydd yma'n cynnwys:

  • dderbyn cwynion llafar;
  • ymchwilio ar ei liwt ei hun;
  • ymchwilio i driniaeth feddygol breifat gan gynnwys gofal nyrsio ('gwasanaethau iechyd preifat') mewn llwybr iechyd cyhoeddus/preifat;
  • ymgymryd â rôl mewn perthynas â safonau a gweithdrefnau o ran ymdrin â chwynion.
Simon Thomas
BBC

Cyflwyno mesur a gynigir gan Bwyllgor

Rydym yn symud 'mlaen at Ddatganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Simon Thomas ar gyflwyno mesur a gynigir gan Bwyllgor - Mesur Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).

Teyrnged i'r arlunydd Aneurin Jones

Mae'r Llywydd Elin Jones yn defnyddio ei datganiad i roi teyrnged i'r arlunydd Aneurin Jones o Aberteifi, fu farw'r wythnos ddiwethaf yn 87 oed.

Yn wreiddiol o ardal Cwm Wysg, fe aeth Aneurin Jones ymlaen i astudio Celf Gain yng Ngholeg Celf Abertawe o 1950 hyd at 1955.

Gweithiodd fel athro celf a bu'n bennaeth celf yn Ysgol y Preseli, Crymych, hyd nes 1986.

Aneurin Jones
BBC

Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf yw Datganiadau 90 Eiliad, blae gall aelodau wneud datganiad personol byr, sy'n rhaid bod yn yn ffeithiol, ac nid ydynt yn destun dadl.

Galw am sicrwydd i swydd Pen-y-bont

Dywedodd Mr Skates bod Llywodraeth Cymru yn galw ar Ford i gadarnhau na fydd penderfyniad JLR yn arwain at golli swyddi.

Ychwanegodd ei fod e a'r prif weinidog Carwyn Jones wedi cwrdd â chynrychiolwyr o'r cwmni i geisio cael sicrwydd am eu cynlluniau ar gyfer y ffatri ym Mhen-y-bont.

Mae tua hanner y gweithlu o 1,930 yn y ffatri yn adeiladu yr injan honno.

Ken Skates
BBC

Cwestiwn Amserol am ffatri Ford Pen-y-bont

'Dyn ni'n symud 'mlaen at Gwestiynau Amserol, sy'n rhaid ymwneud â mater o arwyddocâd cenedlaethol, rhanbarthol neu leol y byddai'n ddymunol cael ymateb cyflym iddo gan Weinidog.

AC Plaid Cymru Bethan Jenkins sy'n gofyn i Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: "Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r cyhoeddiad y bydd Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn colli contractau gyda Jaguar Land Rover ar ôl 2020?"

Mae Ford wedi cadarnhau y bydd ei gytundeb i adeiladu injans petrol i JLR yn dod i ben ym mis Medi 2020.

Ford
Getty Images

'Cyfraddau goroesi canser yn gwella'

Mae Caroline Jones UKIP yn gofyn beth mae'r llywodraeth yn ei wneud i annog diagnosis cynnar i gleifion canser y fron.

Dywedodd Mr Gething bod "symudiad sylweddol ymlaen yng nghyfraddau goroesi blwyddyn a phum mlynedd".

"Rydyn ni hefyd yn gweld mwy o bobl yn cael eu cyfeirio a'u trin o fewn amser," meddai.

Caroline Jones
BBC

Cleifion a staff yn 'haeddu gwell'

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth bod gormod o gleifion yn disgwyl yn rhy hir am driniaeth feddygol, yn enwedig triniaeth orthopedig ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a gwasanaeth cardiac yn y de.

Fe wnaeth Mr Gething gydnabod nad yw'r sefyllfa yn dderbyniol ar hyn o bryd a'i fod wedi codi'r mater gyda'r bwrdd iechyd a'u bod yn cydweithio ar gynllun i wella eu capasiti i leihau oedi.

Dywedodd Mr ap Iorwerth bod cleifion a staff y GIG yng Nghymru yn "haeddu gwell" na'r system bresennol.

Rhun ap Iorwerth
BBC

'Gweithio i gydgysylltu gwasanaethau'

Dywedodd Mr Gething y gall y problemau yma "groesi nifer o arbenigoedd ac mae GIG Cymru yn gweithredu i gydgysylltu'r gwasanaethau".

Vaughan Gething
BBC

Cwestiynau i'r Ysgrifennydd Iechyd

Rydym yn symud 'mlaen at Gwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething.

Yr AC Ceidwadol Mohammad Asghar sydd â'r cyntaf: "Pa gamau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i wella gwasanaethau i bobl â phroblemau sy'n effeithio ar y bledren a'r coluddyn yng Nghymru dros y 12 mis nesaf?"

'Gwylio safle polisi Lloegr'

Mae Michelle Brown o UKIP yn gofyn a oes gan yr ysgrifennydd fwriad i ostwng ffioedd dysgu "i ddenu myfyrwyr yn ôl i Gymru".

Dywedodd Ms Williams ei bod yn "gwylio safle polisi Lloegr yn agos iawn, a byddaf yn ystyried effaith unrhyw newidiadau cyn cyflwyno deddfwriaeth yma".

Ychwanegodd bod "y llywodraeth yma yn cyflwyno'r system fwyaf blaengar ar gyfer cefnogi myfyrwyr unrhyw le yn Ewrop".

Michelle Brown
BBC

Pryder am niferoedd athrawon llanw

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar addysg Llŷr Gruffydd ei fod yn pryderu am ddiffyg niferoedd athrawon llanw, ac nad oes digon yn cael ei wneud i ddenu mwy i'r maes.

Atebodd Ms Williams trwy ddweud ei bod wedi sefydlu grŵp i "weithio trwy a chyflwyno darganfyddiadau adroddiad" ar y pwnc.

Llŷr Gruffydd
BBC

'Cydweithio rhwng prifysgolion'

Mae Ms Williams yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod "yr angen i gynyddu addysg feddygol yng ngogledd Cymru".

"Ein gobaith yw cyflawni hyn trwy gael cydweithio rhwng prifysgolion Caerdydd, Abertawe a Bangor," meddai.

Roedd £14m i ddatblygu addysg feddygol israddedig yn rhan o gyhoeddiad y gyllideb ddoe.

Kirsty Williams
BBC

Cwestiwn am ysgol feddygol yn y gogledd

Yr eitem gyntaf yw Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams.

Daw'r cwestiwn cyntaf gan AC Plaid Cymru Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, sy'n gofyn: "A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am addysg feddygol yng ngogledd Cymru?"

'Nôl am 13:30

Mae'r pwyllgor nawr yn dod i ben.

Bydd Senedd Fyw yn dychwelyd ar gyfer y Cyfarfod Llawn am 13:30.

Cynulliad
BBC

'Diffyg brwdfrydedd' am wobr Llyfr y Flwyddyn

Gofynnodd yr AC Ceidwadol, Suzy Davies am ymateb y tystion i'r datganiad yn yr adroddiad bod Llên Cymru wedi dangos "diffyg brwdfrydedd" am wobr Llyfr y Flwyddyn.

Atebodd Medwin Hughes bod y panel o'r farn y byddai symud y cyfrifoldeb hwnnw i'r Cyngor Llyfrau Cymru yn gwneud cydweithio yn haws, gan gysylltu'r seremoni wobrwyo a chyhoeddiad y llyfr buddugol yn hytrach na chael dau sefydliad gwahanol fel sy'n digwydd ar hyn o bryd.

Llyfr y flwyddyn
Llenyddiaeth Cymru

'Camddehongli argymhelliad arian cyhoeddus'

Dywedodd Medwin Hughes mai'r cyfryngau oedd wedi camddehongli'r argymhelliad na ddylai Llenyddiaeth Cymru dderbyn arian cyhoeddus.

Dywedodd bod yr adroddiad yn mynegi nad oedd gan "fwrdd Llenyddiaeth Cymru y sgiliau na'r profiad sydd ei angen i redeg corff sy'n gwario arian cyhoeddus", ac nad oedd yn dweud y dylai arian cyhoeddus gael ei dynnu 'nôl.

Llên Cymru'n parhau'n 'risg lefel coch'

Mae'r Athro Hughes yn cael ei holi os wnaethon nhw ddefnyddio hen dystiolaeth i honni na ddylai Llenyddiaeth Cymru dderbyn arian cyhoeddus.

Dywedodd eu bod wedi derbyn llawer o dystiolaeth a'u bod wedi dod i'w canlyniad o ganlyniad i bryderon "gafodd eu mynegi gan sefydliadau".

Ychwanegodd eu bod wedi nodi bod Llên Cymru yn gwneud newidiadau i ddelio â'r problemau ond ei fod yn parhau yn "risg lefel coch".

'Diffyg data' am lenyddiaeth a chyhoeddi

Mae Elin Haf Gruffydd Jones yn dweud bod y drafodaeth gyhoeddus wedi canolbwyntio ar Lenyddiaeth Cymru, ond bod yr adroddiad yn cynnwys 50 o argymhellion.

Ychwanegodd bod diffyg data am y diwydiant llenyddiaeth a chyhoeddi yng Nghymru.

Sector 'llawn cenfigen'

Mynnodd yr Athro Hughes bod yr adolygiad wedi "dathlu" y sector, a'u bod wedi nodi llwyddiannau Llenyddiaeth Cymru yn ogystal â'r methiannau.

Ond dywedodd Dawn Bowden ei bod wedi'i synnu gan y problemau yn y sector, a'i bod hyd yn oed yn cwestiynu pam fod y llywodraeth yn ariannu rhai o'r sefydliadau y mae'n ei wneud ar hyn o bryd.

Ychwanegodd ei bod yn ymddangos bod nifer o sefydliadau yn y sector yn "llawn cenfigen" ac yn "ceisio cael y gorau o'i gilydd".

Dawn Bowden
BBC

'Siom' am gadeirydd Llên Cymru

Mae'r Athro Hughes yn mynegi ei siom nad oedd cadeirydd Llenyddiaeth Cymru, Damian Walford Davies, wedi ymddangos gerbron yr adolygiad.

Ond mae'n mynnu mai "siom" yn unig oedd hynny, a bod y wasg wedi ei adlewyrchu fel mwy na hynny.

"Dim byd mwy na hynny a dim byd llai na siom," meddai.

'Emosiwn ac angerdd' Llên Cymru

Dywedodd Medwin Hughes bod "emosiwn ac angerdd" yn y cyfarfod gyda Llenyddiaeth Cymru, gan ychwanegu ei bod wedi synnu gan yr iaith a ddefnyddiwyd gan ei brif weithredwr, Lleucu Siencyn.