a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
  2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
  3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad
  4. Cwestiynau Amserol
  5. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: hollti hydrolig
  6. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Cymunedau yn Gyntaf – yr hyn a ddysgwyd
  7. Dadl y Ceidwadwyr: treth dwristiaeth
  8. Dadl Plaid Cymru: credyd cynhwysol
  9. Dadl Fer: Darparu gofal sylfaenol yn Llanidloes

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Sarah Down-Roberts

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

A dyna ni o'r Siambr am heddiw.

Bydd Senedd fyw yn dychwelyd, wedi gwyliau hanner tymor yr hydref, ar ddydd Mawrth 7 Tachwedd.

Golygfa hydrefol ym Mharc Bute, Caerdydd.
REBECCA JONES
Golygfa hydrefol ym Mharc Bute, Caerdydd.

Dadl fer: Gofal yn Llanidloes

Y pwnc a ddewiswyd gan Russell George (Sir Drefaldwyn) ar gyfer y ddadl fer yw 'Darparu gofal sylfaenol yn Llanidloes: dull arloesol o leddfu'r pwysau ar feddygon teulu'.

'Effaith andwyol ar deuluoedd bregus'

Mae'r gwelliant a basiwyd gan ACau (32 o blaid a 21 yn erbyn) yn nodi bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

  • Yn mynegi pryder ynghylch cyflwyno credyd cynhwysol.
  • Yn nodi'r effaith ddinistriol ar deuluoedd sy'n agored i niwed o ran pryder, dyled, digartrefedd a salwch meddwl yn sgil cyflwyno'r credyd cynhwysol sy'n rhoi pwysau sylweddol ar wasanaethau cyhoeddus datganoledig.
  • Yn credu ei bod yn un o egwyddorion sylfaenol pwysig y wladwriaeth les y dylid rhannu risgiau yn deg ar draws cymdeithas ac y dylid rheoli costau a thaliadau lles a'r broses weinyddu lles ar lefel y DU, felly.
  • Yn galw ar Lywodraeth y DU i wrthdroi ei thoriadau niweidiol i les, oedi cyn cyflwyno'r credyd cynhwysol a mynd i'r afael â'r pryderon sylfaenol sy'n cael eu codi.
Y bleidlais
BBC

'Angela Burns yn onest'

Mae Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn dweud bod Angela Burns wedi bod yn "onest ac yn gywir" yn yr e-bost.

Mae'n dweud bod yn rhaid i lywodraeth San Steffan "ostwng yr amser aros ar gyfer y taliad cyntaf ar frys".

'Y rhai sy'n hawlio sy'n talu'

Mae Jeremy Miles yn dweud bod y credyd cynhwysol yn ymwneud â'r "rhai sy'n ei hawlio yn talu yn hytrach na chyflogaeth".

Jeremy Miles
BBC

'Hunllefus'

Mae Gareth Bennett o UKIP yn dweud bod y credyd cynhwysol wedi'n gadael mewn "gwaeth sefyllfa na chynt".

Mae'n dweud bod sancsiynau y credyd cynhwysol yn hunllefus ac yn adlewyrchu arddull yr awdur Franz Kafka.

Poeni bod yr arian yn cael ei dalu i gyfrif ar y cyd

Mae Eluned Morgan, AC Llafur dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, yn dweud wrth ACau y gallai cael swm enfawr o arian ar yr un pryd gael effaith andwyol ar y sawl sy'n gaeth i sylweddau ayb.

Dyw hi ddim yn credu y dylai lles gael ei ddatganoli gan nad yw'n credu y byddai llywodraeth y DU yn trosglwyddo'r arian angenrheidiol.

Mae hi hefyd yn dweud ei bod yn poeni bod yr arian yn cael ei dalu i gyfrif ar y cyd - ac fe allai hynny fod yn beryglus mewn rhai perthnasau.

Eluned Morgan
BBC

'Mwy o bobl yn wynebu caledi'

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn dweud bod y modd y gweithredir y credyd cynhwysol yn "achosi caledi cynyddol" ac o ganlyniad mae mwy o bobol yn wynebu "dyled, colli cartref a gorfodaeth i ddefnyddio'r banc bwyd".

Mae'n galw am ddatganoli lles.

Leanne Wood
BBC

Amddiffyn yr egwyddorion

Ar ran y Ceidwadwyr fe amddiffynnodd Mark Isherwood yr egwyddorion sy'n sail i'r credyd cynhwysol sef rhoi help llaw i bobl gael gwaith.

Nododd pan y rhagwelwyd credyd cynhwysol gan y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol, canfuwyd fod y rhan fwyaf o bobl sy'n hawlio budd-daliadau yn awyddus i weithio ond yn cael eu dal yn ôl gan system nad yw'n ysgogi cyflogaeth.

Ychwanegodd ei bod yn beth da gweld aelodau o'r meinciau cefn yn gwneud eu gwaith "a bod y llywodraeth yn gwrando".

Dywedodd hefyd bod 80% o'r rhai sy'n hawlio credyd cynhwysol yn derbyn eu taliadau ar amser.

Dyfynnu e-bost nad oedd fod i'w gyhoeddi

Mae Bethan Jenkins o Blaid Cymru yn dyfynnu e-bost personol gan AC Ceidwadol a oedd yn dweud ei bod wedi'i siomi yn agwedd ei phlaid at y credyd cynhwysol.

Mae Angela Burns yn dweud nad yw'n deall bod bwlch o fis i chwech wythnos cyn derbyn tâl yn cael ei "ystyried yn dderbyniol".

Mewn e-bost dywedodd fod y fath "agwedd gafaliraidd tuag at y tlawd ar y gorau yn ddideimlad ond ar ei waethaf yn gwbl greulon".

Dadl Plaid Cymru

Symudwn ymlaen at ddadl Plaid Cymru ar y credyd cynhwysol. Mae'r blaid yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

  • Yn mynegi pryder ynghylch cyflwyno credyd cynhwysol.

  • Yn credu y dylid datganoli rheolaeth weinyddol dros les fel y gall Llywodraeth Cymru newid amlder y taliadau, dod â'r diwylliant o sancsiynau i ben, a sicrhau bod taliadau yn mynd i unigolion nid cartrefi.

Ganol y mis cafodd pobl sydd yn hawlio credyd cynhwysol gynnig i ddefnyddio ffonau Plaid Cymru am ddim er mwyn osgoi taliadau.

View more on twitter

'Angen arwahanrwydd Cymreig'

Mae'r Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn awyddus bod 'na arwahanrwydd Cymreig yn bodoli wrth drafod trethi.

Ychwanegodd ei fod wedi cyhoeddi ei fframwaith polisi trethi ym Mehefin.

Mae’r Fforwm Trethi yn cynnig trafodaeth ddwy ffordd gyda gweithwyr proffesiynol ym maes trethi a swyddogion Llywodraeth Cymru am ddatblygiad polisi a deddfwriaeth ar drethi

Mae yna hefyd Grŵp Cynghori Trethi - mae aelodaeth y grŵp yn cynrychioli ystod eang o safbwyntiau ac arbenigedd er mwyn sicrhau bod anghenion pobl Cymru yn cael eu cynrychioli ar y lefel uchaf. Cadeirydd y grŵp yw’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ac mae’n cyfarfod tair gwaith y flwyddyn.

mark drakeford
BBC

UKIP yn gwrthod y dreth

Mae Neil Hamilton yn cytuno gyda'r Ceidwadwyr na ddylid cyflwyno treth dwristiaeth yng Nghymru.

Mae'n dweud: "Rwy'n gyffredinol yn gwrthwynebu cyflwyno trethi newydd ac yn galw am ostwng y llwyth trethi presennol".

Trethu plastig, medd Plaid Cymru

May Steffan Lewis o Blaid Cymru yn dweud nad yw ei blaid yn cefnogi treth ar dwristiaeth - bydda'in well ganddo weld treth ar blastig y medrir ei daflu.

'Dim treth twristiaeth i Gymru'

Mae'r Ceidwadwr Nick Ramsay yn dweud y byddai treth ar dwristiaeth yn rhwystro twf twristiaeth yng Nghymru drwy beidio annog ymwelwyr i ddod yma - byddai hefyd yn niweidio busnesau bach.

Nick Ramsay
BBC

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Mae'r Ceidwadwyr yn credu na ddylid gweithredu treth dwristiaeth yng Nghymru.

Bydd Llywodraeth Cymru'n penderfynu yn 2018 a fyddan nhw'n gofyn i weinidogion y DU os allen nhw gyflwyno'r fath dreth - un o bedair posib sy'n cael eu hystyried.

Mae rhai busnesau a chyrff o fewn y diwydiant wedi rhybuddio y gallai treth twristiaeth danseilio gwaith y rheiny sy'n ceisio denu ymwelwyr i Gymru.

carafan
BBC

Penderfyniad anodd

Wrth ymateb mae Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn dweud nad oedd hi'n benderfyniad hawdd dod â rhaglen Cymunedau'n Gyntaf i ben.

Mae ei ymateb llawn i'w weld fan hyn.

Mae'n gwrthod dau argymhelliad.

Carl Sargeant
BBC

Cyllid yn dod i ben ym Mawrth 2018

Mae cynllun Cymunedau'n Gyntaf yn cefnogi cynlluniau gwrth dlodi mewn 52 o ardaloedd gwahanol yng Nghymru, ac fe fydd cyllid ar gyfer y cynllun yn dod i ben ym Mawrth 2018.

Nododd adroddiad gan y pwyllgor cydraddoldeb, llywodraeth leol a chymunedau bod "swm sylweddol o arian cyhoeddus wedi ei wario" a'i bod hi'n "anodd gwneud asesiad llawn o lwyddiant y cynllun."

Dywedodd ei bod hi'n dasg "bron yn amhosib" i'r cynllun hwn leihau tlodi ac nad oedd hi'n bosib i un cynllun unigol wneud hynny.

tlodi
Getty Images

Asesu Cymunedau'n Gyntaf

Nawr dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Cymunedau yn Gyntaf – yr hyn a ddysgwyd.

Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi cytuno i gynnal tri ymchwiliad i dlodi yng Nghymru.

Mae John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) sef Cadeirydd y pwyllgor yn cyflwyno adroddiad sy'n amlinellu cryfderau a gwendidau Cymunedau'n Gyntaf.

Daeth yr Ysgrifennydd Cymunedau â'r cynllun gwrth-dlodi i ben ym mis Chwefror gan ddweud fod perfformiad y rhaglen wedi cael ymateb cymysg.

Ffracio: 'Angen gwneud mwy'

Mae Lesley Griffiths, yr Ysgrifennydd Amgylchedd yn dweud: "Ry'n wedi dangos ein bod yn cydnabod y teimladau y tu ôl i'r cynnig ... ond rwy'n cydnabod bod angen gwneud mwy".

Mae'n cyhoeddi ei bod yn bwriadu ymgynghori ar newidiadau yn gynnar y flwyddyn nesaf er mwyn "cryfhau polisi cynllunio sy'n gysylltiedig ag echdynnu olew a nwy anghonfensiynol ar y tir".

lesley griffiths
BBC

Penderfyniad y cyhoedd yn lleol

Mae Michelle Brown yn dweud y dylai'r penderfyniad gael ei wneud gan bobl leol drwy refferendwm - "dyna yw polisi UKIP".

Michelle Brown
BBC

Arweinwyr ynni glân

"Gadewch i ni ddod â'n perthynas gydag ynni brwnt i ben a gwneud ein hunain yn arweinwyr ynni glân," meddai AC Llanelli Lee Waters.

Lee Waters
BBC

Tystiolaeth gadarn?

Mae David Melding ar ran y Ceidwadwyr yn dweud "Mae gen i amheuon pan mae rhywun yn dweud "ei fod yn ddrwg ar bob cyfrif" oherwydd fel arfer mae angen trin tystiolaeth yn fwy craff a chynnil".

David Melding
BBC

Ffarwel i ffracio?

Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod sydd nesaf ac y mae Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) yn cynnig bod y Cynulliad:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer mesur a fyddai'n addasu'r broses gynllunio fel bod rhagdybiaeth yn erbyn hollti hydrolig (ffracio).

2. Yn nodi mai diben y mesur hwn fyddai amddiffyn tirwedd Cymru ac iechyd y cyhoedd.

Mae Mr Thomas yn dweud “Dy'n ni ddim eisiau ffracio yng Nghymru, dy'n ni ddim angen ffracio yng Nghymru.

"Ac ni ddylen ni ganiatáu ffracio yng Nghymru."

ffracio
BBC
View more on twitter

Datganiadau 90 munud

Symudwn ymlaen yn awr at y datganiadau 90 munud.

Gellir eu defnyddio i dynnu sylw at unrhyw bwnc sy’n destun pryder. Er enghraifft, gall Aelodau godi materion sy'n peri pryder mawr i'w hetholwyr, tynnu sylw at broblemau lleol, penblwyddi neu ddyddiadau arwyddocaol, neu dalu teyrnged i rywun.

'Rhaid i bethau newid'

Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, yn dweud bod yn rhaid i golegau Rhydychen a Chaergrawnt ddelio gyda'r rhagfarn honedig.

Ond yn ychwanegu bod Coleg Iesu, Rhydychen wedi lletya a denu nifer o fyfyrwyr o Gymru yn ystod yr haf.

Mae hefyd yn honni y gellid ystyried y colegau dan sylw yn hiliol gan fod nifer y myfyrwyr o gefndir ethnig lawer iawn yn is na choleg Harvard, er enghraifft.

Yr hyn sy'n bwysig, meddai Alun Davies, yw bod y colegau yma yn deg - "mae'n rhaid i bethau newid".

Llyr Gruffydd yn dweud fod yna duedd ynom i ystyried colegau Rhydychen a Chaergrawnt yn unig ac mae'n pwysleisio bod yna golegau eraill yng Nghymru a thu hwnt.

Coleg yr Iesu
BBC

Lle i Gymry yn Rhydychen a Chaergrawnt?

Mae'r ail gwestiwn amserol gan Darren Millar (Gorllewin Clwyd)sef: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymateb i ddata sy’n dangos bod myfyrwyr o Gymru yn cyfrif am 2 y cant yn unig o’r myfyrwyr a dderbyniwyd i Rydychen a Chaergrawnt y llynedd?

Wythnos ddiwethaf dangosodd adroddiad bod diffyg hunanhyder gan ddisgyblion o Gymru yn cyfyngu ar y nifer sy'n gwneud cais i astudio ym mhrifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt.

myfyrwyr
BBC

Cwestiwn Amserol 1: y Rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio

Symudwn ymlaen yn awr at y Cwestiynau Amserol

Rhaid i Gwestiynau Amserol ymwneud â mater o arwyddocâd cenedlaethol, rhanbarthol neu leol y byddai'n ddymunol cael ymateb cyflym iddo gan Weinidog.

MaeMark Isherwood (Gogledd Cymru)yn gofyn: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y Rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio, yn dilyn ei lansiad ar 20 Hydref 2017?

Bydd y rhaglen adfywio newydd gwerth £100 miliwn yn gallu buddsoddi mewn prosiectau o fis Ebrill 2018 ymlaen.

A oes lle yn y llety?

Symudwn ni ymlaen at y cwestiynau i Gomisiwn y cynulliad. Mae'r cwestwin cyntaf gan Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Comisiwn amlinellu'r rheolau sy'n ymwneud â gwerthwyr preifat, fel y Big Issue, ar neu y tu allan i ystâd y Cynulliad?

Y Llywydd Elin Jones yn dweud nad oes hawl codi arian ar dir y cynulliad ond yn awgrymu y gallai'r aelod ysgrifennu at y comisiwn i weld a oes modd eithrio yn yr achos hwn.

Cyllideb tair blynedd ar gyfer awdurdodau lleol?

Gareth Bennett o UKIP yn galw am gyllideb tair blynedd ar gyfer awdurdodau lleol.

"Byddwn i'n falch petai gen i gyfle i wneud hynny ond does 'na ddim cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y drydedd flwyddyn," atebodd Mark Drakeford.

Gareth Bennett
BBC

E-bost haerllug?

Janet Finch-Saunders ar ran y Ceidwadwyr yn dweud bod e-bost gan gynghorydd llafur yn Abertawe yn annog yn ei geiriau hi "gwestiynau rhag blaen" i gael eu holi mewn cyfarfodydd cyngor, yn dangos "haerllugrwydd a diystyriaeth o'r drefn arferol".

Mark Drakeford yn dweud bod yr e-bost yn annog aelodau o'r cyhoedd i ofyn cwestiynau.

"Dwi'n cael trafferth i weld y broblem gyda hynny."

View more on twitter

Pryderon am y cynllun Cefnogi Pobl

Steffan Lewis o Blaid Cymru yn codi pryderon am gwtogi y cyllid sydd wedi'i glustnodi i helpu pobl fregus i gael llety, er gwaethaf addewidion i'w warchod.

Ddoe cyhoeddwyd na fydd cynllun Cefnogi Pobl - gwerth £125m yn cael ei glustnodi yng nghyllideb Llywodraeth Cymru 2019-20.

Bydd yr arian yn cael ei gyfuno gyda chronfeydd eraill gan roi mwy o ryddid i gynghorau ar sut mae gwario'r arian.

Roedd y cynllun yn rhan ganolog o gytundeb Plaid Cymru i gefnogi'r gyllideb.

Mae Mark Drakeford yn dweud na fydd y grant sy'n rhan o'r cytundeb dwy flynedd â Phlaid Cymru yn cael ei gwtogi.

Mae'n ychwanegu y bydd "mecanwaith glir i'w dracio ac i sicrhau y bydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y diben a fwriadwyd yn wreiddiol".

Steffan Lewis
BBC
Steffan Lewis

'Mi fydd e'n digwydd'

Mark Drakeford yn ateb y cwestiwn drwy ddweud ei fod yn awyddus bod Bargen Ddinesig Abertawe yn symud ymlaen. Mae e'n ffyddiog y bydd proses glir ar gyfer symud ymlaen yn digwydd yn fuan.

Wrth ateb cwestiwn gan Dai Lloyd AC ynglŷn a rhan a chyfraniadau sectorau eraill i'r cynllun, Mark Drakeford yn cadarnhau y bydd cyfle a disgwyl i bob sector gyfrannu.

morlyn
BBC

Bargen Ddinesig Bae Abertawe

Mae'r cyfarfod llawn yn cychwyn gyda Chwestiynau i'r Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford.

Mae'r cwestiwn cyntaf yn cael ei ofyn gan David Rees (Aberafan): Sut y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn asesu'r cynnydd sy'n cael ei wneud mewn perthynas â darparu bargen ddinesig Bae Abertawe?

Cafodd y fargen ei harwyddo ym mis Mawrth a mae disgwyl iddi greu 10,000 o swyddi ar draws siroedd Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Caerfyrddin a Phenfro.

Yn gynharach y mis hwn roedd yna bryderon gan un o bartneriaid cynllun Dinas Ranbarth Bae Abertawe am ddatblygiad a pheryglon "sylweddol" sydd ynghlwm â'r cynllun £1.3bn.

Nôl am 1.30pm

Sesiwn breifat sydd yn cloi'r pwyllgor.

Bydd Senedd Fyw yn dychwelyd am 1.30pm gyda'r cyfarfod llawn.

Cyllid rhaglen Cefnogi Pobl

Bethan Jenkins yn holi'r tystion am y rhaglen Cefnogi Pobl. Mae'r cynllun yn talu am hosteli a gweithwyr i gynorthwyo pobl fregus gan gynnwys dioddefwyr trais yn y cartref a phobl sy'n dioddef o salwch cronig.

Ddoe cyhoeddwyd na fydd cynllun Cefnogi Pobl - gwerth £125m - yn cael ei glustnodi yng nghyllideb Llywodraeth Cymru yn 2019-20.

Bydd yr arian yn cael ei gyfuno gyda chronfeydd eraill, gan roi mwy o ryddid i gynghorau benderfynu sut i'w wario.

Ond mae ymgyrchwyr yn dweud y bydd hynny'n ei gwneud yn fwy anodd i ddal y llywodraeth i gyfrif.

Steve Thomas, Prif Weithredwr Cymdeithas Leol Cymru yn dweud "Mae 'na rai rhaglenni a chyllidebau na fyddwch yn eu torri, yn enwedig yn yr oes sydd ohoni gyda nifer o achosion o ddigartrefedd a chysgu ar y stryd - 'dych chi ddim yn mynd i gwtogi y cyllidebau hynny."

Bethan Jenkins
BBC

Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol

John Griffiths yn gofyn ynglyn â Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol a'i heffeithiolrwydd.

Anthony Hunt yn dweud ei bod yn llwyddo yn ei farn ef gan gyfeirio at yr hanner miliwn sydd wedi cael ei wario ar gynlluniau Atal ac Ymyrryd yn Nhorfaen. "Mae'n ateb tymor hir i bethau".

'Bydd cost gofal cymdeithasol yn dyblu'

Steve Thomas yn ychwanegu y bydd y "gwariant mawr yn gorfod bod ar ofal cymdeithasol - bydd angen iddo ddyblu yn ystod y 10-15 mlynedd nesaf.

"Mae gan Lywodraeth Cymru gyllideb sefydlog - rhaid meddwl nawr am ffyrdd newydd o ariannu gwasanaethau".

Cash
PA

'Rhaid peidio cosbi cynghorau llai poblog'

Steve Thomas, Prif Weithredwr Cymdeithas Leol Cymru yn dweud ei bod yn bwysig bod fformiwla'r setliad yn deg. "Ni ddylid cosbi cynghorau llai poblog a chynghorau fel Ceredigion a Gwynedd lle mae'r boblogaeth yn edwino ac yn symud".

Steve Thomas
BBC

Yr arth a'r seleri

John Griffiths yn gofyn a fydd treth y cyngor yn codi.

Y cynghorydd Anthony Hunt yn dweud "wel mae fel ymladd yr arth â darn o seleri . Mae'n anodd ar gynghorau ond mae pobl yn gyffredinol yn fodlon talu mwy i ddiogelu ysgolion".

celery
BBC