a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Cyfarfod Llawn yn dechrau am 12.30pm gyda theyrngedau i Carl Sargeant AC
  2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
  3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
  4. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2016-17
  5. Dadl: Adroddiad Blynyddol 2016-17 Comisiynydd y Gymraeg
  6. Cynnig i dderbyn argymhelliad y Prif Weinidog ar gyfer Ei Mawrhydi i benodi Cwnsler Cyffredinol

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Sarah Down-Roberts

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Nos da

A dyna ddiwedd ar ddiwrnod gwahanol ac emosiynol yn y Siambr.

Bydd Senedd Fyw yn dychwelyd yfory gydag adroddiad o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.

Senedd
BBC

Datblygiadau cadarnhaol yn nefnydd y Gymraeg

Gwelliant Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried diddymu rôl Comisiynydd y Gymraeg fel yr amlinellir ym Mhapur Gwyn Bil y Gymraeg yn cael ei drechu.

Ond Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru bod y cynulliad:

Yn nodi datblygiadau cadarnhaol yn nefnydd y Gymraeg o dan y gyfundrefn safonau iaith, a reolir gan Gomisiynydd y Gymraeg, ar ôl dim ond blwyddyn iddynt ddod i rym, sy'n cynnwys:

a) bod 76 y cant o siaradwyr Cymraeg o’r farn bod gwasanaethau Cymraeg sefydliadau cyhoeddus yn gwella;

b) bod 57 y cant o bobl yn credu bod cynnydd yn y cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio’r Gymraeg;

c) cynnydd o 50 y cant yn 2015-16 i 96 y cant yn 2016-17 yn nifer y gwasanaethau ffôn lle gynigir dewis Iaith yn ddiofyn; a

d) cynnydd o 32 y cant yn 2015-16 i 45 y cant yn 2016-17 yn nifer y cynghorau sy’n cynnig pob tudalen ar eu gwefan yn Gymraeg.

cymraeg
BBC

Penodi Cwnsler Cyffredinol

ACau yn cytuno i dderbyn argymhelliad y Prif Weinidog ar gyfer Ei Mawrhydi i benodi Jermey Miles AC yn Gwnsler Cyffredinol.

Bydd Mr Miles yn olynu Mick Antoniw, AC Pontypridd.

Mae Plaid Cymru yn ymatal eu pleidlais, gyda Simon Thomas yn dweud bod angen proses ehangach na rhoi sêl bendith i argymhelliad y prif weinidog.

Y bleidlais
BBC

'Bydd y di-gymraeg a dysgwyr yn bwysig'

Eluned Morgan yn ei hymateb yn dweud ei bod yn bwysig gwthio ymlaen i wneud cymaint ag a ellir yn y maes.

"Dwi ddim eisiau i unrhyw newid greu dim byd gwannach.

"Dwi wedi siarad â'r comisiynydd bore 'ma a be dwi'n meddwl sydd angen yw asesu'r dystiolaeth - mae angen llai o waith gweinyddol ac angen cadw be sy'n gweithio.

"Angen edrych ar effeithiolrwydd, angen canolbwyntio ar y di-Gymraeg a'r dysgwyr.

"Angen cadw'r ffocws ar y miliwn - bydd y Llywodraeth yn arwain. Yr economi hefyd yn bwysig yn y drafodaeth yma."

'Angen targedu ardaloedd uniaith Saesneg'

Ar ran UKIP Neil Hamilton yn dweud bod angen targedu ardaloedd uniaith Saesneg os am gynyddu defnyddwyr y Gymraeg.

'Rhaid peidio bod yn swil'

Ar ran y Ceidwadwyr Suzy Davies yn dweud nad yw'r comisiynydd wedi tynnu digon o sylw at yr hyn y mae wedi'i gyflawni.

Nid lle i "fod yn swil" yw'r adroddiad blynyddol, meddai.

Suzy Davies
BBC

'Angen cadw'r Comisiynydd'

Sian Gwenllian ar ran Plaid Cymru yn dweud bod "datblygiadau cadarnhaol yn nefnydd y Gymraeg o dan y gyfundrefn safonau iaith, a reolir gan Gomisiynydd y Gymraeg, ar ôl dim ond blwyddyn iddynt ddod i rym."

Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried y penderfyniad o ddiddymu rôl y comisiynydd.

Sian Gwenllian
BBC

'Cwbl ymroddedig i'r miliwn'

Eluned Morgan yn dweud ei bod yn falch o gael ei dyrchafu i fod yn Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.

Mae'n dweud ei bod yn gwbl ymroddedig i sicrhau addewid y Llywodraeth o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Yn 2011 roedd y cyfrifiad yn dangos bod 562,000 o siaradwyr Cymraeg.

Eluned Morgan
BBC

Miliwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050

Mae'r drafodaeth nesaf ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2016-17.

Yn yr haf, fe gyflwynodd Gweinidog y Gymraeg ar y pryd Alun Davies gynlluniau i greu comisiwn i hybu'r iaith a rhoi'r cyfrifoldeb am safonau iaith i weinidogion.

Fe fyddai hynny yn golygu diddymu swydd y comisiynydd.

Comisiynydd y Gymraeg Meri Huws
BBC
Comisiynydd y Gymraeg Meri Huws

'Rhaid lliniaru tlodi plant'

Mae adroddiad y Comisiynydd yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio popeth o fewn ei gallu i liniaru tlodi plant, gan gynnwys defnyddio pwerau newydd i godi trethi.

Dylai gefnogi awdurdodau lleol i gynnig mwy o gymorth mewn meysydd sy'n rhoi pwysau ar y teuluoedd tlotaf - gan gynnwys teimlo’n llwglyd yn ystod y gwyliau, costau gwisg ysgol a biliau tanwydd domestig uchel.

tlodi
BBC

Blwyddyn 'na welwyd ei thebyg'

Nesaf trafodaeth ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland.

Dan y teitl, "Blwyddyn o Newid", mae Sally Holland yn dweud fod hon wedi bod yn flwyddyn "na welwyd ei thebyg", gan gyfeirio at Brexit, etholiadau a chweryla gwleidyddol".

Mae'n dweud fod yr adroddiad yn amlygu pryderon am dlodi plant, oed pleidleisio a chosbau corfforol.

"Un o brif swyddogaethau fy swyddfa," meddai Ms Holland, "yw codi llais a sefyll dros hawliau plant a phobl ifanc, sydd mor anaml yn cael cyfle i godi llais a sefyll dros hawliau plant a phobl ifanc, sydd mor anaml yn cael cyfle i godi llais drostynt eu hunain. Yn erbyn cefndir swnllyd Brexit, rwy’n ymdeimlo’n fwy nag erioed â’r ddyletswydd i godi llais am yr achosion hyn."

Sally Holland
BBC
Sally Holland

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017

Aelodau Cynulliad yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno.

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017

Aelodau Cynulliad yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno.

Datganiad a chyhoeddiad busnes

Dyma ymddangosiad cyntaf Julie James AC yn y Siambr wedi'r cyhoeddiad ei bod yn olynu Jane Hutt AC i swydd Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip.

Diffyg Cymraeg ar drenau

Sian Gwenllian yn holi am y defnydd o'r Gymraeg yn y sector drafnidiaeth wedi penderfyniad Great Western Railway i beidio rhoi arwyddion a chyhoeddiadau dwyieithog ar drenau newydd sy'n gwasanaethu de Cymru.

Y Prif Weinidog yn dweud y dylai Great Western Railway ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg a'i bod yn bwysig bod Lloegr yn ymwybodol o'r Gymraeg.

tren
BBC

Prinder meddygon

Gan symud ymlaen i gwestiynau eraill mae Llyr Gruffydd AC ar ran Plaid Cymru yn holi am gost yswiriant meddygon.

Darren Millar AC ar ran y Ceidwadwyr yn holi ymhellach am brinder meddygon teulu yng Nghymru.

Y prif weinidog yn dweud y bydd cyhoeddiad yn fuan bod mwy wedi cael eu denu i hyfforddi.

'Pob plaid â chyfrifoldeb'

Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru yn gofyn sut y gellid creu diwylliant o le nad yw 'aflonyddu rhywiol' yn digwydd.

Y prif weinidog yn dweud bod pob plaid yn gyfrifol am hynny.

'Llai bwystfilaidd'

Mewn ateb i Neil Hamilton, arweinydd UKIP yng Nghymru, y prif weinidog yn dweud bod wastad gwersi i'w dysgu mewn gwleidyddiaeth.

"Rhaid i bob plaid wneud gwleidyddiaeth yn llai bwystfilaidd.

"Rhaid i ddarlun llawn o'r hyn a ddigwyddodd (yn achos Carl Sargeant) gael ei gyflwyno ar yr amser iawn - mae'n rhy fuan eto."

carl sargeant
bbc
Carl Sargeant

Honiadau o fwlio

Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr, yn gofyn sut mae pobl yn gwybod y bydd y prif weinidog yn cymryd eu cwynion am fwlio o ddifrif

Y prif weinidog yn dweud bod pob mater a chwyn a ddaeth ato wedi cael sylw.

Blaenoriaethau caffael Llywodraeth Cymru

Symudwn ymlaen at y cwestiynau i'r Prif Weinidog

Mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn i Carwyn Jones gan Janet Finch-Saunders: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau caffael cyhoeddus Llywodraeth Cymru?

Gohirio'r cyfarfod llawn

Mae'r Llywydd Elin Jones nawr yn gohirio'r cyfarfod llawn cyn ail-ddechrau gyda chwestiynau i'r Prif Weinidog.

'Bydd ei waddol yn parhau'

Ar ddiwedd y sesiwn mae'r Llywydd Elin Jones yn dweud "bydd gwaddol Carl yn cyffwrdd â phobl am flynyddoedd i ddod".

Nesaf cwestiynau i'r Prif Weinidog.

elin jones
BBC

Gwerthu Big Issue

Mick Antoniw AC Pontypridd yn dweud ei fod yn cofio gweld Carl Sargeant yn gwerthu Big Issue.

Mae'n dweud na fydd ei gyfraniad yn mynd yn angof.

"Roedd cymaint o bobl yn ei edmygu ac yn ei barchu," mae'n dweud.

'Wastad yn dod nôl atoch'

Mae Jenny Rathbone AC yn dweud: "Mi oedd Carl wastad yn dod nôl atoch pan oeddech yn gofyn rhywbeth iddo.

"Mi fydd e'n cael ei gofio yn bennaf am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol."

jenny rathbone
BBC

Cefnogol i grwpiau ffydd

Mae Darren Millar AC Gorllewin Clwyd yn cofio am gyfeillgarwch Carl Sargeant gyda grwpiau ffydd a'r lluoedd arfog.

Mae e hefyd yn cofio am ei sylwadau 'tafod yn y boch' ac yn cofio am y sgyrsiau hynny pan oedd yn trafod y teulu.

"Roedd e'n eu haddoli."

darren millar
BBC

'Sosialydd nac anghofiodd ei wrieddiau'

Mae Rhianon Passmore, AC Islwyn yn dweud:

"Roedd e'n arwain y ffordd ar hawliau merched a phlant.

"Roedd e'n siarad iaith y dyn ar y stryd.

"Bu'n help mawr i fi setlo yn y Cynulliad.

"Roedd e wastad yn dod â gwên. Sosialydd nac anghofiodd ei wreiddiau."

rhiannon passmore
BBC

'Diogelu'r amgylchedd a'r tirlun'

Mae Dafydd Elis-Thomas AC yn hel atgofion am deithiau trenau y ddau.

"Dwi am ddiolch iddo yn arbennig am ei waith yn diogelu'r amgylchedd a'r tirlun.

"Fe fyddi di wastad yn ein gweddi."

dafydd elis thomas
BBC

'Hoff iawn o garioci'

Mae Nick Ramsay, AC Mynwy yn dweud: "Roedd e'n unigryw, yn berson cynnes ac yn gefnogol.

"Roedd e'n DJ ac yn hoff iawn o garioci.

"Ry'n ni yma i barhau y gwaddol - y gwaith oedd yn bwysig iddo."

nick ramsay
BBC

'Pob sgwrs yn adeiladol'

Mae John Griffiths, AC Dwyrain Casnewydd, yn dweud bod Carl Sargeant wedi cynrychioli ei etholaeth gyda brwdfrydedd.

"Roedd hi'n gamp fawr iddo ddod i'r Senedd o ystyried ei gefndir ond fe wnaeth hynny yn rhwydd.

"Roedd e wastad yn berson hawdd i siarad ag ef ac mi fyddai pob sgwrs yn adeiladol.

"Mae ein teimladau heddiw gyda theulu Carl - ei rieni, ei wraig a'i blant."

john griffiths
BBC

'Cynrychioli'r dosbarth gweithiol'

Mae Simon Thomas AC yn dweud ei fod yn ffrind triw ac yn gymeriad bywiog a doniol.

"Roedd e'n atgoffa fi o'm teulu i - ac yn cynrychioli'r dosbarth gweithiol.

"Roedd e'n gwbl o ddifrif am yr hyn a gredai."

simon thomas
BBC

'Wastad yn gweithredu'

"Fe deyrnasodd e - ro'wn wastad yn gallu dibynnu arno fe fel prif chwip", medd Jane Hutt AC.

"Roedd e wastad yn gweithredu ar yr hyn oedd e'n ei gredu.

"Mae'r golled yn fawr."

jane hutt
BBC

Trin pawb fel ei gilydd

"Roedd e'n credu mewn trin pawb yn gyfartal," meddai Rebecca Evans AC.

rebecca evans
BBC

'Anrhydeddu yr hyn mae e wedi'i adael'

"Byddwn wastad yn anrhydeddu gwaddol Carl" medd Joyce Watson AC.

joyce watson
BBC

'Ni oedd yr efeilliaid un noson'

"Roedd e wastad yn bleser i fod yn ei gwmni," meddai Paul Davies AC Preseli Penfro.

"Roedd e'n hwyl i fod gydag e ac roedd yna fflach yn ei lygad.

"Dwin cofio gwisgo yr un dillad ag e unwaith - yr un siwmper a'r un trowsus - ni oedd y 'twins' - am hwyl!

"Bydda'n methu ei hwyl ond yn fwy na dim ei gyfeillgarwch."

paul davies
BBC

'Credu mewn chwarae teg'

"Dwi'n cofio Carl yn dawnsio yn ei ystafell, pan ddechreuais i 'ma. Roedd e'n gyflwyniad da i fi i'r lle 'ma," meddai Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasnaethau Cyhoeddus.

"Y peth mwyaf amdano yw bo fi'n gallu ymddiried ynddo fe - ro'dd e wastad yno. Dyn diffuant ac anrhyddeddus a ffrind i fi.

"Ro'dd e'n credu'n gryf mewn chwarae teg a chyfiawnder cymdeithasol".

alun davies
BBC

'Byth yn dal dig'

"Doedd Carl byth yn dal dig," medd Ann Jones, Dyffryn Clwyd.

"Dwi'n cofio aros ar bromenâd Rhyl gydag ef a'r ymbarel yn troi drosodd - paid sôn eto am 'Sunny Rhyl'! meddai.

"Roedd Carl yn ddyn ei gymuned."

ann jones
BBC

'Angen i ni ofalu am ein gilydd'

Mae Ken Skates, AC De Clwyd yn cyfeirio at y teulu gan ei fod yn eu hadnabod yn dda.

"Roedd Carl yn browd iawn o'i deulu.

"Roedd e'n hoff iawn o gerddoriaeth, a dawnsio, rhannu straeon.

"Beth mae e wedi'i adael i ni yw'r dyhead i edrych ar ol ein gilydd yn well."

ken skates
BBC

'Fe fyddai'n dod â'r melysion'

"Roedd Carl," meddai Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, "yn gwybod sut i gael y gorau o bobol.

"Roedd e'n llawn hwyl ond yn cymryd ei ddyletswyddau o ddifrif.

"Roedden i'n eistedd drws nesaf iddo yn y cabinet a byddai e wastad yn dod â melysion.

"Roedd e hefyd yn ddiweddar wedi dysgu crosio.

"Roedd e'n meddwl amdanai fel chwaer

"Fyddai byth yn dy anghofio."

lesley griffiths
BBC

Teyrnged Neil Hamilton

"Rhaid cofio bod gwleidyddion yn bobl a bod ganddynt deimladau.

"Ro'n yn aml yn cyfnewid brwydrau geiriol ag e ond y tu hwnt i'r cyfarfod yn rhannu jocs.

"Rodd e'n dweud pethau fel oedden nhw ac felly roedd gen i barch mawr tuag ato."

neil hamilton
BBC

Teyrnged Leanne Wood

"Roedd e'n wleidydd dosbarth gweithiol - byth yn anghofio'r dosbarth hwnnw.

"Dwi a Plaid Cymru yn rhannu'r golled."

Ar ran Bethan Jenkins dywedodd Leanne Wood bod Carl Sargeant yn graig iddi er iddyn nhw anghytuno yn wleidyddol.

leanne wood
BBC