a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1.30pm gyda chwestiynau i'r prif weinidog
  2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
  3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Cyfarfod Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Trafodaethau’r UE), 22 Chwefror 2018
  4. Papur Gwyn ar wasanaethau sy'n addas i'r dyfodol
  5. 'Cyrhaeddiad Uchel - Cefnogi ein dysgwyr mwy abl a dawnus'
  6. Mapiau rhwydwaith integredig teithio llesol
  7. Ailgylchu yng Nghymru
  8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Mesur Ymosodiadau ar Weithwyr y Gwasanaethau Brys (Troseddau)

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

A dyna ni am heddiw.

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl fory.

Y Senedd
BBC

Cymeradwyo Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Mesur Ymosodiadau ar Weithwyr y Gwasanaethau Brys (troseddau)

Mae ACau yn cymeradwyo Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Mesur Ymosodiadau ar Weithwyr y Gwasanaethau Brys (troseddau).

Bydd dal angen i'r ddeddfwriaeth gael ei phasio gan ASau.

Y gwasanaeth iechyd a'r gwasanaethau tân ac achub wedi eu datganoli

O dan y drefn bresennol, mae'n rhaid i ACau roi sêl bendith i ddeddfwriaeth sy'n dod o San Steffan os yw'n ymwneud gyda phwerau sydd wedi eu datganoli i Gymru.

Yn yr achos yma mae Llywodraeth Cymru wedi gosod y cynnig am fod y gyfraith yn effeithio'r gwasanaeth iechyd a'r gwasanaethau tân ac achub, meysydd sydd wedi eu datganoli.

Angen eu hamddiffyn yn yr un modd â gweithwyr yn Lloegr

Yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething dylai gweithwyr argyfwng Cymru gael eu hamddiffyn yn yr un modd â gweithwyr yn Lloegr.

Mesur Ymosodiadau ar Weithwyr y Gwasanaethau Brys (troseddau)

Ac yn olaf yn y Siambr heddiw Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Mesur Ymosodiadau ar Weithwyr y Gwasanaethau Brys (troseddau).

Yr AS Llafur Chris Bryant sy'n cynnig y ddeddf ac mae eisiau dyblu'r ddedfryd fwyaf llym ar gyfer ymosodiad cyffredin o 6 mis i 12 mis.

Yn ôl Mr Bryant mae 20 ymosodiad y dydd yng Nghymru.

Bydd ACau yn pleidleisio ynglŷn ag a ddylai cyfraith newydd arfaethedig sy'n cynnig cosbi unigolion yn llymach os ydyn nhw'n ymosod ar weithwyr yn y gwasanaethau argyfwng, fod yn weithredol yng Nghymru.

Ambiwlans
BBC

£7.5 miliwn i helpu awdurdodau lleol i barhau i wella

Mae Hannah Blythyn wedi cadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ailgylchu, drwy gymeradwyo cyllid cyfalaf o £7.5 miliwn i helpu awdurdodau lleol i barhau i wella gwasanaethau ailgylchu.

Bydd yr arian yn cael ei reoli drwy’r Rhaglen Newid Gydweithredol.

Mae £4m yn dod o'r gyllideb sylfaenol a £3.5m o danwariant adrannol.

Hannah Blythyn
BBC

Cyfradd ailgylchu gwastraff cartrefi Cymru yw’r ail yn Ewrop

Ddydd Iau diwethaf, cyhoeddwyd Datganiad Ystadegol y DU bod Cymru wedi cynyddu’r bwlch o ran ailgylchu trefol rhyngddi a gweddill y DU, i 12% yn uwch na chyfartaledd y DU.

Yn ogystal â bod o flaen gweddill y DU, dangosodd adroddiad annibynnol yn ddiweddar mai cyfradd ailgylchu gwastraff cartrefi Cymru yw’r ail yn Ewrop a’r drydedd yn y byd.

Ailgylchu yng Nghymru

Datganiad ola'r dydd yw un gan Weinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn AC ar Ailgylchu yng Nghymru.

Ailgylchu
BBC

Cyfarwyddyd i ail-gyflwyno eu cynigion

Mae Mr Skates yn dweud bod y pedwar awdurdod lleol wedi naill ai "methu ag ymgynghori yn effeithiol ar eu cynigion neu fethu oherwydd nad ydyn nhw'n cynnig rhwydwaith teithio llesol ystyrlon, ac mewn rhai achosion roedd eu cyflwyniadau yn syrthio islaw'r disgwyliad ar y ddau fater".

Fe fydd e'n rhoi cyfarwyddyd i'r awdurdodau hynny i ail-gyflwyno eu cynigion erbyn Awst 27 eleni.

Siomedig bod mapiau gan bedwar awdurdod lleol yn 'anaddas i'w cymeradwyo'

Mae Ken Skates yn dweud ei fod wedi cymeradwyo cyflwyniadau gan 14 o awdurdodau lleol yn syth.

Mae mapiau gan garfan arall o awdurdodau wedi eu cymeradwyo er eu bod yn syrthio ychydig islaw'r disgwyliadau.

Mae'n dweud ei fod yn siomedig bod mapiau gan bedwar awdurdod lleol yn "anaddas i'w cymeradwyo yn eu ffurf bresennol".

Beth yw 'teithio llesol'?

Y Mapiau hyn yw’r ail o ddwy gyfres o fapiau y mae’n ofynnol i awdurdodau lleol eu cynhyrchu i gydymffurfio â’u dyletswyddau o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.

Beth yw “teithio llesol” a beth mae’r Ddeddf yn ei wneud?

Mae’r term “teithio llesol” yn cyfeirio at gerdded a seiclo. Mae’r Ddeddf yn canolbwyntio ar gerdded a seiclo at ddiben, megis teithio i’r ysgol neu waith, yn hytrach nag er hamdden yn unig.

Daeth y Ddeddf i rym ym mis Medi 2014 ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol fapio a gwella llwybrau a chyfleusterau teithio llesol yn yr hyn a elwir yn “ardaloedd dynodedig”.

Rhwydwaith teithio llesol integredig?

Mapiau Rhwydwaith Integredig Teithio Llesol

Symudwn ni ymlaen nawr at ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates: Mapiau Rhwydwaith Integredig Teithio Llesol.

Ken Skates
BBC

'Adroddiad ar ôl adroddiad wedi amlygu'r gwendidau'

Mae Llyr Gruffydd Plaid Cymru yn dweud bod "adroddiad ar ôl adroddiad wedi amlygu'r gwendidau ac o'r diwedd mae'r llywodraeth yn gweithredu".

Llyr Grufffydd
BBC

Y datganiad 'yn hir yn dod'

Mae'r aelod Ceidwadol Darren Millar yn dweud bod y datganiad wedi "bod yn hir yn dod".

Mae'n dweud "rydyn ni wedi gwybod am nifer o flynyddoedd nad ydyn ni wedi bod yn ymestyn ein dysgwyr mwya abl a dawnus".

Mae'n cwestiynu pam nad oes cyllid wedi cael ei glustnodi am fwy na dwy flynedd.

Darren Millar
BBC

Tri phrif egwyddor i ysgogi gwelliant

Mae Kirsty Williams yn sôn am dri phrif egwyddor i ysgogi gwelliant:

  • Canfod y disgyblion mwy galluog a thalentog yn well a'u cefnogi ar lefel ysgol, rhanbarthol a chenedlaethol
  • Rhoi cyfleoedd i ysgogi'r lefelau uchaf o lwyddiant
  • Datblygu tystiolaeth i gefnogi buddsoddiad a gwaith pellach.

Ehangu cynllun Seren

Mae'n rhaid i Gymru wneud mwy i ymestyn y disgyblion mwyaf disglair yn ôl yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams.

Dywedodd y byddai cynllun Seren, sy'n rhoi cymorth i ddisgyblion i ennill llefydd yn y prifysgolion gorau, yn cael ei ehangu i gynnwys disgyblion iau.

Mae'n dilyn pryderon gan yr arolygaeth ysgolion Estyn nad yw'r disgyblion mwyaf abl yn cael digon o sylw yn ysgolion Cymru.

Yng nghanlyniadau profion rhyngwladol PISA, roedd perfformiad disgyblion gorau Cymru yn is na mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig.

O fis Medi ymlaen, bydd Rhwydwaith Seren yn targedu dysgwyr iau, cyn eu TGAU. Bydd yn meithrin cysylltiadau rhwng dysgwyr o wahanol ysgolion a chymunedau ac yn cryfhau cysylltiadau presennol y Rhwydwaith Seren a'r prifysgolion mwyaf blaenllaw yn y byd.

Kirsty Williams
BBC

Cefnogi ein Dysgwyr Mwy Abl a Dawnus

Mae'r datganiad nesaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams.

A'r pwnc: Cyrhaeddiad Uchel - Cefnogi ein Dysgwyr Mwy Abl a Dawnus.

Mae hi wedi cyhoeddi y bydd £3 miliwn ar gael dros ddwy flynedd i ddatblygu dull newydd i ddarganfod a chefnogi'r dysgwyr mwyaf galluog.

Dywedodd y byddai hynny'n cynnwys diffiniad newydd o ddysgwyr mwy galluog a thalentog a chanllawiau newydd i ysgolion.

Arholiadau
BBC

UKIP 'yn gefnogol o fwriad y Papur Gwyn'

Mae llefarydd UKIP Caroline Jones yn dweud ei bod hi'n "gyffredinol yn gefnogol o fwriad y Papur Gwyn".

Caroline Jones
BBC

'Swyddogaeth fel llais y bobl'

Ar fater cynigion i gael gwared â Chynghorau Iechyd Cymuned, mae Rhun ap Iorwerth yn pwysleisio'r angen i gadw eu "swyddogaeth fel llais y bobl".

O dan y cynigion, gallai un corff gymryd lle y saith cyngor iechyd cymuned presennol sy'n cynnal archwiliadau di-rybudd ar ysbytai a chynrychioli buddiannau cleifion.

Byrddau iechyd: Uwchgyfeirio ac Ymyrryd

Mae'r aelod Ceidwadol Angela Burns yn pwysleisio bod tri allan o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru ar hyn o bryd mewn ymyrraeth wedi'i thargedu, a bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod yn lefel ucha ymyrraeth Llywodraeth Cymru - Mesurau arbennig - am dros ddwy flynedd.

Angela Burns
BBC

Cynigion

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymgynghori ynghylch cynigion i:

  • gryfhau trefniadau arwain yn sefydliadau'r gwasanaeth iechyd
  • cyflwyno dyletswyddau newydd o ansawdd a gonestrwydd (bod yn agored)
  • datblygu safonau cyffredin ac ymchwilio ar y cyd i gwynion ar draws y maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol
  • cryfhau llais y dinasyddion ynghylch y ffordd y caiff gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol eu cynllunio a'u darparu
  • llunio proses gliriach ar gyfer cynlluniau i newid gwasanaethau
  • gwella'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer arolygu a rheoleiddio gwasanaethau iechyd
  • sefydlu corff newydd annibynnol i wrando ar lais y dinesydd ac ar gyfer rheoleiddio ac arolygu.

Gwasanaethau sy'n Addas i'r Dyfodol

Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething: Papur Gwyn ar Wasanaethau sy'n Addas i'r Dyfodol.

Vaughan Gething
BBC

Y Mesur Ymadael

Drakeford wedi 'dangos amynedd Job'

Mae arweinydd UKIP Neil Hamilton yn dweud bod cynlluniau am Fesur Dilyniant yn "angenrheidiol, fel tacteg o leiaf".

Mae'n dweud bod Mr Drakeford wedi "dangos amynedd Job" yn ei drafodaethau gyda llywodraeth y DU.

Cefnogaeth unfrydol mewn pleidlais yn y Cynulliad fis Ionawr

Mae Simon Thomas yn atgoffa ACau bod mesur dilyniant wedi ei gynnig yn wreiddiol gan ei gyd-aelod Plaid Cymru a'u llefarydd ar Brexit - Steffan Lewis y llynedd.

Fe gafodd ei gynnig gefnogaeth unfrydol mewn pleidlais yn y Cynulliad fis Ionawr.

Simon Thomas
BBC

'Dim angen mesur dilyniant'

Dyw'r Ceidwadwyr Cymreig ddim yn gweld yr angen am fesur dilyniant.

Mewn araith ddydd Llun fe ddywedodd y gweinidog yn Swyddfa'r Cabinet y DU, David Lidington, bod cynnig "sylweddol" wedi ei wneud i ddiwygio'r mesur.

Mark Isherwood
BBC
Mark Isherwood

'Na allwn oedi mwyach'

Mae Mark Drakeford yn esbonio, "Rydyn ni wedi cyrraedd y pwynt lle na allwn oedi mwyach os yw'r ddeddfwriaeth hon, hyd yn oed fel mesur argyfwng, yn cael cyfle rhesymol i fynd ar y llyfr statud mewn pryd i ni allu cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau parhad deddfwriaethol."

Mae'n gobeithio dod i gytundeb yng nghyfarfod y Cyd-bwyllgor y Gweinidogion yr wythnos nesaf. Os byddant yn llwyddo i gael cytundeb, bydd y Mesur Parhad yn cael ei dynnu'n ôl.

Angen 'cynnydd sy'n mynd y tu hwnt i eiriau cynnes'

Mae Mr Drakeford yn dweud bod y cyfarfod yn "adeiladol" ond yn galw am "gynnydd pellach s'n mynd y tu hwnt i eiriau cynnes" gan lywodraeth y DU.

Mae'n dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen gyda chynlluniau ar gyfer mesur maen nhw'n ei ddweud fyddai'n amddiffyn pwerau Cymru wedi Brexit.

Bydd gweinidogion Cymru'n gofyn i ACau am gael cyflwyno Mesur Dilyniant fel mesur brys, er mwyn trosglwyddo deddfau'r UE mewn meysydd datganoledig i ddeddfwriaeth Cymru.

Maen nhw'n dadlau bod y cam yn angenrheidiol os na fydd modd datrys anghytundeb gyda Llywodraeth y DU dros y Mesur Ymadael.

Dan y Mesur Ymadael arfaethedig, fe fyddai San Steffan yn dal gafael ar nifer o bwerau'r UE mewn meysydd datganoledig, yn groes i ddymuniad llywodraethau Cymru a'r Alban.

Mark Drakeford
BBC

Cyfarfod Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Trafodaethau'r UE)

Yr eitem nesaf yn y Siambr yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford: Cyfarfod Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Trafodaethau'r UE), 22 Chwefror 2018.

Baner Cymru a sêr yr UE
BBC

Cynnig ar fwrw ymlaen gyda'r Mesur Parhad

Fe fydd cynnig yn y Senedd ar fwrw ymlaen gyda'r Mesur Dilyniant fel mesur brys yr wythnos nesaf, medd Julie James.

Datganiad a chyhoeddiad Busnes

Symudwn ymlaen nawr at y datganiad a chyhoeddiad Busnes.

Mae Arweinydd y Tŷ Julie James, wedi'r sesiwn holi ar ran Carwyn Jones, yn amlinellu busnes y cynulliad yn y dyfodol ac yn ymateb i geisiadau gan ACau.

Gallai Cymru 'golli'r hawl i elwa o brofion clinigol'

Mae Steffan Lewis Plaid Cymru yn gofyn am ymrwymiad y bydd Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu unrhyw ymgais gan unrhyw lywodraeth yn San Steffan i wadu mynediad am driniaeth i bobl - mae'n rhybuddio y byddai gadael y farchnad sengl yn golygu y byddai Cymru yn colli'r hawl i elwa o brofion clinigol.

Steffan Lewis
BBC

Galwad am ddefnyddio dolenni brwsiau dannedd bambŵ

A yw Llywodraeth Cymru yn mynd i ddilyn y Teulu Brenhinol a'r BBC yn lleihau'r defnydd o blastig un defnydd, gofynna'r Ceidwadwr David Melding.

Mae Julie James yn dweud y bydd hi'n ystyried yr awgrym, ac yn galw ar bobl i ddefnyddio dolenni brwsiau dannedd bambŵ.

David Melding
BBC

Dau gais 'cryf iawn' am fasnachfraint trenau Cymru a'r Gororau

Mae penderfyniad Abellio Rail Cymru i dynnu eu cais ar gyfer masnachfraint trenau Cymru a'r Gororau - yn ôl yn "hynod siomedig" medd Andrew RT Davies. Mae'n gofyn a yw'r ceisiadau sy'n weddill yn gryf.

Mae Julie James yn dweud bod y ddau gais sy'n weddill yn gryf iawn.

Tebygol o fod yn ddadl 'i'w nodi' ar ffordd liniaru'r M4

Mae Mr Davies yn dweud bod Julie James fel petai hi'n awgrymu ei bod hi'n debygol o fod yn ddadl "i'w nodi", yn hytrach na chyllideb.

Pa fath o bleidlais ar ffordd liniaru'r M4?

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn dweud bod llythyr gan Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates yn pwysleisio bwriad y llywodraeth i gael pleidlais ar ffordd liniaru'r M4. Mae'n gofyn a fydd hon yn bleidlais gyllidebol neu yn bleidlais sylweddol ynghylch yr ymchwiliad ei hun.

Mae Julie James yn ymateb, "tan y byddwn ni'n gwybod beth fydd canlyniad ymchwiliad cyhoeddus yr M4, dydyn ni ddim yn gwybod ynghylch beth y gallwn ni ffurfio'r ddadl".

Andrew RT Davies
BBC

'Synhwyrol i gael amryw o opsiynau'

Mae hon yn drafodaeth - os ydych chi'n anwybyddu popeth dyw hynny ddim yn drafodaeth, medd Julie James, gan ychwanegu ei bod hi'n synhwyrol i gael amryw o opsiynau.

'Safbwynt Brexit Cymru yn cael ei dandorri gan fympwyon San Steffan'

Mae Rhun ap Iorweth yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o llithro'n ôl o safbwynt o fod yn undeb tollau'r UE o'r papur Brexit gytunwyd gyda Phlaid Cymru.

Mae'n dweud ei bod hi'n ymddangos bod safbwynt Brexit Cymru yn cael ei dandorri gan fympwyon San Steffan, gan gynnwys yr wrthblaid, meddai.

Undeb tollau'r UE neu undeb tollau arall?

Mae Rhun ap Iorweth, sy'n cymryd lle arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood heddiw yn gofyn a yw Llywodraeth Cymru yn ffafrio aros yn undeb tollau'r UE neu undeb tollau arall.

Mae'n bwysig ein bod ni'n cadw meddwl agored mewn trafodaethau Brexit, yw ymateb Arweinydd y Tŷ.

Rhun ap Iorweth
BBC