a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
  2. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd: Ansawdd Aer
  3. Datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon: Henebion Hygyrch i Bawb
  4. Rheoliadau Llywodraethu Digidol (Cyrff Cymreig) (Cymru) 2018
  5. Dadl Cyfnod 3 ynghylch y Mesur Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru)

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

A dyna ni am heddiw.

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.

View more on twitter

Cymeradwyo Cyfnod 3 y Mesur Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru)

Mae ACau yn pasio Cyfnod 3 y Mesur Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru).

Y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans
BBC
Y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans

Craffu gan y Cynulliad

Mae gwelliant 5 David Melding - mewnosoder "Bydd yn rhaid i Weinidogion Cymru, weithredu o fewn 14 diwrnod ar ôl cael cyfarwyddyd o dan yr adran hon, i osod testun y cyfarwyddyd o flaen Cynulliad Cenedlaethol Cymru." - yn cael ei wrthod gan y llywodraeth.

Y bleidlais
BBC

Proses pedwar cyfnod

Yn gyffredinol, mae pedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Mesur Cyhoeddus, sef:

  • Cyfnod 1 - pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny;
  • Cyfnod 2 - pwyllgor yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i'r Mesur hwnnw yn fanwl;
  • Cyfnod 3 - y Cynulliad yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i'r Mesur hwnnw yn fanwl;
  • Cyfnod 4 - pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur.

Lleihau rheolaethau’r llywodraeth ganolog a lleol dros landlordiaid cymdeithasol cofrestredig

Dadl ar y Mesur Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig

Ac yn olaf yn y Siambr heddiw dadl Cyfnod 3 ynghylch y Mesur Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru).

Ym mis Medi 2016, fe gyhoeddodd Y Swyddfa Ystadegau Gwladol y dylai cymdeithasau tai fod yn rhan o'r sector gyhoeddus yn hytrach na'r sector breifat.

Ond fe addawodd Llywodraeth Cymru gymryd "unrhyw gamau angenrheidiol" i newid y penderfyniad wedi pryderon y byddai cyfyngiad ar y nifer o dai fforddiadwy yng Nghymru.

Arweiniodd penderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol at bryderon na fyddai cymdeithasau tai bellach yn medru cael benthyg yr arian sydd ei angen ar gyfer darparu tai newydd.

Ar hyn o bryd ystyrir fod cymdeithasau tai yn perthyn i'r sector breifat a gallant fenthyg cymaint o arian ag y gallant fforddio o fewn rheoliadau arbennig.

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo darparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod y tymor cynulliad presennol.

Tai
Thinkstock

Cytundeb gyda Llywodraeth y DU ar bwerau wedi Brexit

Cymeradwyo Rheoliadau Llywodraethu Digidol (Cyrff Cymreig) (Cymru) 2018

Mae ACau yn cymeradwyo fersiwn ddrafft o Reoliadau Llywodraethu Digidol (Cyrff Cymreig) (Cymru) 2018.

Yn y dyfodol, bydd y Rheoliadau hyn yn galluogi cyrff cyhoeddus Cymru a restrir yn yr Atodlenni i'r Ddeddf i rannu gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau (ee atal twyll a nodi a helpu pobl sydd mewn dyled i sawl asiantaeth gyhoeddus).

'Annog perchnogaeth gymunedol o’n henebion'

Mae'r Arglwydd Elis-Thomas yn dweud bod "gwaith da iawn yn mynd yn ei flaen ond mae rhagor wastad i’w wneud o ran annog a gwella mynediad i’n henebion.

"Rhaid i ni annog perchnogaeth gymunedol o’n henebion a’n treftadaeth er mwyn sicrhau eu dyfodol am flynyddoedd i ddod".

Ein nod, meddai, yw rhoi profiadau mwy rhyngweithiol i ymwelwyr.

Mae Dafydd Elis-Thomas hefyd yn dweud wrth ACau bod Cadw yn bwriadu prynu castell Dafydd ap Gruffydd - y tywysog brodorol olaf o Gymru. Castell Caergwrle yn Sir y Fflint yw hwnnw.

Arglwydd Elis-Thomas
BBC

Henebion Hygyrch i Bawb

Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Arglwydd Elis-Thomas: Henebion Hygyrch i Bawb.

Castell Coch
Gareth Jones
Castell Coch

Neges o San Steffan

'Byddai penodi Mr Drakeford yn ddi-wrthwynebiad yn gam gwag'

Vaughan Roderick

Golygydd Materion Cymreig y BBC

Heb os mae Mark Drakeford yn cychwyn y ras i arwain Llafur Cymru fel y ffefryn gan gyfuno apêl gwr sy'n ymddangos fel pâr saff o ddwylo tra'n cael ei uniaethu ac arweinyddiaeth Jeremy Corbyn. Ond gallai cefnogaeth Mr Drakeford i'r arweinydd Prydeinig elyniaethu aelodau'r seneddol Cymreig fydd â llais pwysig yn y penderfyniad os ydy'r blaid yn defnyddio coleg etholiadol i ddewis yr arweinydd newydd. Does dim arwydd bod ymgeiswyr posib eraill yn bwriadu dilyn esiampl Mr Drakeford drwy lansio'u hymgyrchoedd yn gynnar. Fe fydd pobol fel Vaughan Gething ac Eluned a Morgan am brofi'r dyfroedd cyn cyrraedd penderfyniad. Serch hynny, mae 'na gytundeb cyffredinol o fewn y blaid bod angen etholiad ac y byddai penodi Mr Drakeford yn ddi-wrthwynebiad yn gam gwag a allai fod yn niweidiol i'r blaid."

Angen 'cyfarwyddyd cryf'

Mae Gareth Bennett UKIP yn disgrifio'r Ddeddf Awyr Lân fel datblygiad "da", ond yn ychwanegu y dylid hefyd gael cyfarwyddyd cryf i sicrhau bod y cam angenrheidiol i'w chyflwyno'n effeithiol".

Gareth Bennett
BBC

'Angen Deddf Awyr Lân i ddirwyn i ben cerbydau disel a phetrol yn unig'

Mae Simon Thomas yn egluro pam y byddai Llywodraeth Cymru Plaid Cymru yn y dyfodol yn cyflwyno Deddf Awyr Lân i Gymru er mwyn gwella’r aer yr ydym yn anadlu. Mae hyn yn cynnwys dirwyn i ben werthu cerbydau disel a phetrol yn unig erbyn 2030.

Mae'n dweud i lywodraethau Carwyn Jones a Theresa May gael eu gorfodi i ddechrau mynd i'r afael â'r broblem am iddynt gael eu trechu yn y llysoedd gan Client Earth.

Simon Thomas
BBC

'Symud i'r cyfeiriad cywir ond wedi bod yn araf yn gwneud hynny'

Mae'r aelod Ceidwadol David Melding yn dweud bod y cyhoeddiad yn awgrymu bod Llywodraeth Cymru yn ymddangos fel petai'n "symud i'r cyfeiriad cywir ond wedi bod yn araf yn gwneud hynny".

David Melding
BBC

Pecyn o fesurau ar gyfer gwella ansawdd aer

Mae'r Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn, yn cyhoeddi pecyn o fesurau ar gyfer gwella ansawdd aer yng Nghymru.

Ymhlith y mesurau fydd cronfa gwerth £20 miliwn i leihau allyriadau a gwella’r amgylchedd yng Nghymru. Bydd y Gronfa Ansawdd Aer, a fydd ar gael tan 2021, yn helpu awdurdodau lleol i gydymffurfio â therfynau nitrogen deuocsid a gwella ansawdd aer yn eu hardaloedd.

Bydd proses ymgynghori yn cael ei lansio yfory ar gynlluniau i sefydlu Parthau Aer Glân, sef ardaloedd dynodedig lle bydd camau’n cael eu cymryd i leihau’r cyfle i’r cyhoedd a’r amgylchedd ddod i gysylltiad â deunydd llygredig yn yr awyr.

Mae’r cynigion yn cynnwys atal y cerbydau sydd fwyaf llygredig, neu gyfyngu ar y cerbydau hynny, rhag cael mynediad i’r Parth Aer Glân, gan felly leihau tagfeydd ar y ffordd a lleihau allyriadau yn y Parthau Aer Glân a’r ardaloedd cyfagos.

Hannah Blythyn
BBC

Datganiad: Ansawdd Aer

Yr eitem nesaf yn y Siambr yw datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn ar Ansawdd Aer.

View more on twitter

'Dylid fod wedi cyhoeddi adolygiad o'r cyflenwad o dai fforddiadwy yn y Siambr'

Mae'r aelod Ceidwadol David Melding yn beirniadu'r ffaith bod Rebecca Evans, y Gweinidog Tai ac Adfywio, wedi cyhoeddi adolygiad annibynnol o'r cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru, drwy ddatganiad ysgrifenedig yn hytrach na datganiad llafar yn y Siambr.

Bydd yr adolygiad yn ystyried a oes modd gwneud mwy i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Symudwn ymlaen nawr at y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.

Mae Arweinydd y Tŷ Julie James yn amlinellu busnes y cynulliad yn y dyfodol ac yn ymateb i geisiadau gan ACau.

Julie James
BBC

'Newidiadau diwylliannol o fewn y llywodraeth'

Mae'n bwysig nodi absenoldeb y prif weinidog o'r ddadl ar yr ymchwiliad i ollwng gwybodaeth yr wythnos ddiwethaf medd Bethan Sayed Plaid Cymru. Mae'n gofyn pam na gynigiwyd neu roddwyd amddiffyniad i dystion ar gyfer Ymchwiliad Hamilton, fel yr oedd yna ar gyfer yr ymchwiliad gollwng gwybodaeth.

Mae hi hefyd yn gofyn a yw Carwyn Jones yn cytuno bod angen newidiadau diwylliannol o fewn y llywodraeth, wedi iddi nodi honiadau blaenorol.

Mae'r prif weinidog yn ateb drwy dyfynnu arolwg sy'n dweud bod 88% o staff Llywodraeth Cymru yn cael eu trin gyda pharch gan gydweithwyr.

Bethan Sayed
BBC

'Bwlch anferth rhwng cyflogau gweithwyr yr Alban a Chymru'

Mae Andrew RT Davies yn dweud, dros ugain mlynedd mae bwlch anferth wedi ei agor rhwng cyflogau gweithwyr yr Alban a Chymru. Pam nad yw'r cynllun gweithredu economaidd yn fwy argymhellol o helpu adeiladu tai, gofynna.

Mae Carwyn Jones yn siarad am dargedau i adeiladu tai fforddiadwy a newidiadau i dreth trafodion tir.

Cynllun gweithredu economaidd ond yn 'crybwyll cyflogau ddwywaith'

Mae Andrew RT Davies yn cyfeirio at gynllun gweithredu economaidd Llywodraeth Cymru. Mae'n dweud bod cyflog mynd adre yn is yng Nghymru nag unrhyw le arall yn y DU, ond bod y cynllun ond yn crybwyll cyflogau ddwywaith.

Mae'r prif weinidog yn ateb nad yw gostyngiad neu ddileu buddiannau gwaith wedi helpu, ac mae'n ail-ddweud y bydd y comisiwn gwaith teg yn edrych ar gyflogau teg.

Carwyn Jones yn 'abl i gadw olwynion y llywodraeth yn symud ymlaen?'

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn talu teyrnged i gyfraniad Carwyn Jones mewn bywyd cyhoeddus.

"Rydw i yn gobeithio y byddwch chi'n gallu cadw olwynion y llywodraeth yn symud ymlaen," meddai.

Andrew RT Davies
BBC
Andrew RT Davies

'Prifddinas cytundebau dim oriau y DU'

Mae Carwyn Jones yn dweud y bydd comisiwn gwaith teg yn edrych ar bob "lifrau" i wneud Cymru yn "genedl gwaith teg".

Mae Leanne Wood yn disgrifio Cymru fel "prifddinas cytundebau dim oriau y DU".

'43,000 o bobl ar gytundebau dim oriau'

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn dymuno'r gorau i'r prif weinidog am y dyfodol, cyn gofyn: "Faint o bobl yng Nghymru mewn gwaith sydd â chytundebau dim oriau, ydy'r nifer wedi cynyddu neu ostwng ers 2016?"

Mae'n anodd ateb y cwestiwn hwnnw medd Carwyn Jones oherwydd nad yw'r sector breifat o dan ei reolaeth.

Mae Ms Wood yn dweud bod mwy o bobl yng Nghymru bellach ar gytundebau dim oriau nag unrhyw genedl arall yn y DU.

Mae 43,000 o bobl arnyn nhw, meddai hi, gan ofyn beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru i atal yr ymarfer hyn.

Leanne Wood
BBC

'Pwysau a straen aruthrol' ar feincwyr cefn

Mae Neil Hamilton yn dweud bod arolwg barn gafodd ei gomisiynu gan UKIP wedi darganfod mai dim ond 32% o bobl ymatebodd oedd yn credu y dylid ehangu'r cynulliad.

Mae'r prif weinidog yn dweud ei fod yn gwybod bod yna "bwysau a straen aruthrol" ar feincwyr cefn o bob plaid yn y cynulliad, a bod angen cael dadl "synhwyrol" ynghylch cael rhagor o ACau.

Carwyn Jones
BBC

'Arweinydd UKIP yn enghraifft o fywyd ar ôl marwolaeth mewn gwleidyddiaeth'

Mae arweinydd UKIP Neil Hamilton yn gofyn a yw'r prif weinidog yn "dal ar ganol ei yrfa wleidyddol a'i fod yn hapus yn yr amgylchiadau hyn" i roi'r gorau iddi?

"Rydw i'n credu bod arweinydd UKIP yn enghraifft o fywyd ar ôl marwolaeth mewn gwleidyddiaeth" ateba Carwyn Jones, gan ychwanegu ei bod hi'n bwysig bod gan y wlad ddilyniant.

Neil Hamilton
BBC
Neil Hamilton

Y ddarpariaeth o wasanaethau dementia yn ne-ddwyrain Cymru

Mae'r cwestiwn cyntaf a gyflwynwyd i Carwyn Jones heddiw gan Nick Ramsay:

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o wasanaethau dementia yn ne-ddwyrain Cymru?

Fe fydd ward 15 gwely yn Ysbyty Cymunedol Casgwent yn cau ym Ebrill wrth i Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan newid gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion hŷn yng Ngwent.

Mae'r prif weinidog yn dweud mai penerfyniad i'r bwrdd iechyd yw hyn.

Dementia
BBC

Croeso i Senedd Fyw

Prynhawn da.

Yn ei hymddangosiad cyntaf yn Nhŷ'r Cyffredin ar ôl cyhoeddi ei bwriad i ymddiswyddo fel prif weinidog yn 1990, dywedodd Mrs Thatcher: "Rwy'n mwynhau hyn!"

Fe gawn ni weld sut hwyl fydd Carwyn Jones yn ei gael pan fydd y Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1.30pm gyda Chwestiynau i'r Prif Weinidog, wedi ei gyhoeddiad ddydd Sadwrn ei fod am gamu o'r neilltu yn yr Hydref.

Y Senedd
BBC