Etholiad 2015: Plaid am gael cydraddoldeb â'r Alban

Leanne Wood
Image caption Mae Leanne Wood yn hyderus y gall Plaid Cymru sicrhau manteision i Gymru os fydd senedd grog

Fe ddywed arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood mai dim ond ei phlaid hi all sicrhau bod Cymru'n cael ei thrin yn gyfartal â'r Alban yn nhermau cyllid a phwerau.

Ategodd ei galwad i bleidleiswyr i roi "llais yn San Steffan" i Gymru.

Yn y cyfamser fe wnaeth y Prif Weinidog Carwyn Jones drafod buddsoddiad Llafur mewn gofal plant ar ymweliad â Sir Benfro.

Mae'r Ceidwadwyr, yn y cyfamser, wedi mynnu eu bod yn gwneud popeth o fewn gallu i sicrhau dyfodol y "bobl weithio" yng Nghymru. Dywedodd Stephen Crabb fod angen y "bum mlynedd nesaf ar y Ceidwadwyr i wireddu eu cynllun economaidd tymor hir," tra fynnodd y Democratiaid Rhyddfrydol eu bod yn gallu cynnal llywodraeth sefydlog i'r DU.

I Blaid Cymru, roedd Leanne Wood yn pwyso am bleidlais gref i'w phlaid er mwyn iddyn nhw gael mwy o ddylanwad ar y prif bleidiau os fydd senedd grog ar ôl 7 Mai.

Dywedodd: "Mae £1.5 biliwn wedi cael ei dynnu o wasanaethau cyhoeddus Cymru ers yr etholiad diwethaf, ac mae bob plaid yn cytuno bod Cymru wedi cael ei than-gyllido ers o leia' 1978.

"Ond dim ond Plaid Cymru sy'n galw am wyrdroi agenda toriadau'r Torïaid ers yr etholiad diwethaf ac am gydraddoldeb cyllido gyda'r Alban."

Mae'r Ceidwadwyr, yn y cyfamser, wedi mynnu nad yw eu polisi ar isafswm cyllid i lywodraeth Cymru wedi newid. Wrth gyhoeddi eu maniffesto Prydeinig ddydd Mawrth, dywedon nhw y byddai'r isafswm ond yn cael ei gyflwyno ar ôl refferendwm.

Wrth ymateb i'r maniffesto, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: "Mae pleidlais i'r Ceidwadwyr yn bleidlais i lywodraeth fyddai'n costio £300m y flwyddyn i Gymru.

"Mae setliad cyllid teg yn setliad cyllid teg - gallwch chi ddim rhoi telerau neu geisio rhoi'r llywodraeth mewn sefyllfa anodd."

Rhybudd am anhrefn

Honnodd y Fonesig Randerson ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol y byddai ei phlaid hi yn bartner gwell mewn clymblaid gyda'r Ceidwadwyr neu Lafur nag y byddai naill ai'r SNP neu UKIP.

Gofynnodd a yw pobl "am weld anhrefn wrth galon y llywodraeth neu blaid fydd yn darparu llywodraeth sefydlog fydd yn adeiladu economi cryfach a chymdeithas decach".

Image copyright other
Image caption Fe lansiodd y Gwyrddion eu maniffesto ddydd Mawrth

'Economi er lles pawb'

Wrth lansio maniffesto'r Blaid Werdd yng Nghaerdydd ddydd Mawrth, dywedodd arweinydd y blaid yng Nghymru mai eu nod yw "chwyldro heddychlon" wrth leihau'r diffyg ariannol i 1%.

Dywedodd Pippa Bartolotti: "Mae ein drwm yn curo i guriad gwahanol.

"Mae angen economi sy'n gweithio er lles pawb. Er mwyn gwneud hynny rhaid diddymu'r dulliau o fedru osgoi talu trethi.

"Fe fyddwn yn newid y system dreth...bydd y Blaid Werdd yn gwneud newidiadau y gall Cymru fod yn falch ohonynt."

'Mwy na mewnfudo'

Wrth siarad â BBC Radio Wales ddydd Mawrth, mynnodd arweinydd UKIP yng Nghymru, Nathan Gill, nad oedd gan ei blaid obsesiwn â mewnfudo.

"Mae ein maniffesto'n cael ei ryddhau 'fory ac mae ein maniffesto Cymreig yn cael ei rhyddhau'n ddiweddarach yr wythnos hon. Fe fyddan nhw'n faniffestos llawn, dim ond ychydig o baragraffau fydd am fewnfudo."

Wrth drafod llymder, dywedodd: "Rydyn ni wedi adnabod gwerth £25 biliwn mewn arbedion. Rydyn ni'n mynd i dorri £10 biliwn o'r gyllideb cymorth tramor. Mae 'na £2 biliwn mewn twrsitiaeth ymwelwyr. Mae'r cynllun HS2 fyddwn ni ddim yn parhau ag o, fydd yn arbed £3 biliwn y flwyddyn."