Carwyn Jones am 'arwain o'r blaen' yn ymgyrch Llafur

Cawyn Jones

Carwyn Jones am 'arwain o'r blaen'

Mae gwneud Carwyn Jones yn ganolbwynt ymgyrch etholiad y Cynulliad Llafur Cymru yn adlewyrchu "yr oes rydyn ni'n byw ynddo", meddai arweinydd y blaid.

Yn lansio'r ymgyrch, dywedodd Mr Jones bod penderfyniadau etholwyr yn cael eu gwneud yn rhannol oherwydd perfformiadau'r arweinwyr.

Mae Llafur wedi arwain Llywodraeth Cymru ers 1999 a Mr Jones sydd wedi bod yn brif weinidog ers 2009.

Mae'r gwrthbleidiau wedi dweud y dylai'r blaid Lafur gael ei farnu am ei record, ar ôl bod mewn grym am 17 mlynedd.

Mae arweinydd Ceidwadwyr Cymru, Andrew RT Davies wedi dweud ei bod "rhyngddo i neu fe" ar 5 Mai.

Dywedodd Mr Jones: "Rwy'n gwybod yn iawn y bydd pobl yn edrych ar arweinwyr y pleidiau, a phenderfynu os yw'r person yna am lwyddo yn y swydd - dyma'r oes rydyn ni'n byw ynddo.

"Felly rwy'n arwain o'r blaen, ond wrth gwrs mae gennym ni'r polisïau, yr addewidion cryfaf a'r maniffesto cryfaf wythnos nesaf."

'Ymgyrch anodd'

Mae ysgolion, y Gwasanaeth Iechyd a phrentisiaethau eisoes wedi cael eu henwi fel blaenoriaethau'r blaid.

Llafur yw'r blaid fwyaf ym Mae Caerdydd ar hyn o bryd, gyda 30 o'r 60 o seddi yn y Senedd, ac mae'r blaid wedi bod mewn grym ers datganoli yn 1999.

Mae Mr Jones eisoes wedi dweud mai hwn fydd yr ymgyrch "anoddaf erioed".

Fe amddiffynnodd record ei lywodraeth ond cyfaddefodd bod "pob etholiad yn mynd yn fwy anodd oherwydd bod ein record yn mynd yn hirach".

Dywedodd bod ei lywodraeth wedi "cadw ein holl addewidion" ers yn etholiad diwethaf yn 2011, ac y byddai'n parhau i wneud hynny os ydyn nhw mewn pŵer ar ôl mis Mai.